Canllawiau

Awst 2019: Cylchlythyr ymgysylltu â landlordiaid Credyd Cynhwysol

Diweddarwyd 1 April 2020

Nod y cylchlythyr Credyd Cynhwysol hwn yw darparu gwybodaeth gyfoes i landlordiaid cymdeithasol a phreifat am Gredyd Cynhwysol.

Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r UC47. Edrychwch yn rheolaidd i ddod o hyd i’r fersiwn diweddaraf o’r canllaw Credyd Cynhwysol i landlordiaid ar UC47.

1. Sefydlu rhybuddion e-bost

Mae rhybuddion e-bost yn ffordd dda o dderbyn gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol (UC) sydd wedi’i ddiweddaru ar GOV.UK.

Cofrestrwch am rybuddion e-bost ac ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost a phenderfynu pa mora ml yr hoffech dderbyn y rhybuddion.

Os ydych yn hoffi’r cylchlythyr hwn ac eisiau gallu dod o hyd iddo eto yn nes ymlaen, yn dibynnu pa borwr gwefan rydych yn ei ddefnyddio, ychwanegwch ef naill ai at eich “ffefrynnau” neu’ch “bookmarks”.

2. Diweddariadau cyffredinol

  • Mae Credyd Cynhwysol yn disodli 6 budd-dal gydag 1, i symleiddio’r system a gwneud i waith dalu. O ganlyniad, mae pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn symud i mewn i waith yn gyflymach, yn aros yn y gwaith yn hirach ac yn treulio mwy o amser yn edrych i gynyddu eu henillion.

  • Mae Credyd Cynhwysol hefyd yn darparu mwy o help gyda chostau gofal plant, Anogwr Gwaith penodedig ac yn cael gwared o’r ‘ymyl clogwyn’ 16 awr.

  • Mae symud pobl i Gredyd Cynhwysol yn ymestyn y manteision i hawlwyr budd-daliadau presennol. Dyma’r cam nesaf o Credyd Cynhwysol yn 2020-23 a bydd yn ehangu gwaith, gan ganiatáu i bobl gynyddu eu horiau heb y cosbau y byddent fel arfer yn destun iddynt gyda Chredydau Treth.

Mae canlyniadau ymchwil yn dangos:

  • Mae’r Arolwg Cwsmeriaid Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yn dangos 9 mis i mewn i gais Credyd Cynhwysol, bod 40% o hawlwyr yn gweithio i gyflogwr mewn swydd â thâl yn hytrach na dim ond 23% ar ddechrau eu cais.

  • Mae pobl ar Gredyd Cynhwysol yn treulio tua 50% yn fwy o amser yn chwilio am swydd nag yr oeddent o dan JSA.

  • Roedd 86% o bobl ar Gredyd Cynhwysol wrthi’n ceisio cynyddu eu horiau, o’u cymharu â dim ond 38% o bobl ar JSA. Mae hyn oherwydd y gallant gymryd mwy o oriau heb golli eu budd-dal.

  • Roedd 77% o bobl ar Gredyd Cynhwysol wrthi’n ceisio cynyddu eu henillion, o’u cymharu â dim ond 51% o bobl ar JSA.

2.1 Cyhoeddiadau diweddar

Cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol: 22 Gorffennaf 2019 ar symud i UC ac SDP

Ar 22 Gorffennaf 2019, gosododd yr Ysgrifennydd Gwladol y rheoliad i ganiatáu i’r adran gynnal peilot lle bydd hyd at 10,000 o hawlwyr budd-dal presennol yn cael eu symud i Gredyd Cynhwysol.

  • Mae’r rheoliadau hyn, a ddaeth i rym dydd Mercher 24 Gorffennaf, yn galluogi’r adran i gyflenwi rhai pethau pwysig.

  • Yn gyntaf, maent yn ein galluogi i gadarnhau ein cynlluniau i ddechrau’r peilot o symud hawlwyr i Gredyd Cynhwysol. Bydd y cam hwn yn ymestyn manteision Credyd Cynhwysol i hawlwyr ar fudd-daliadau presennol nad yw eu hamgylchiadau wedi newid.

  • Fel rydym wedi cynllunio’n flaenorol, ac fel y gwyddoch eisoes, dechreuodd y peilot yn Harrogate ar 24 Gorffennaf 2019, gyda’r posibilrwydd o ymestyn i safleoedd pellach wrth i’r peilot fynd yn ei flaen. Bydd y peilot yn caniatáu i ni ddysgu o roi ein prosesau ar waith, ac addasu ein dull i gefnogi pobl yn effeithiol.

  • Mae’r rheoliadau newydd hefyd yn darparu cymorth i hawlwyr a oedd yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol cyn iddynt symud i Gredyd Cynhwysol.

  • O 24 Gorffennaf 2019, gwnaethom ddechrau’r broses i sicrhau bod hawlwyr yn cael taliad trosiannol ychwanegol o’r cyfle cynharaf. Gwn y bydd croeso mawr i hyn.

  • Efallai eich bod hefyd yn ymwybodol, ers 16 Ionawr 2019, bod hawlwyr sy’n cael Premiwm Anabledd Difrifol wedi cael eu hatal rhag symud i Gredyd Cynhwysol os oes ganddynt newid perthnasol yn eu hamgylchiadau.

  • Yn dilyn dyfarniad diweddar gan yr Uchel Lys, o fis Ionawr 2021 bydd y rheoliadau newydd hefyd yn dod i ben y rhwystr sydd ar hyn o bryd yn atal derbynwyr y Premiwm Anabledd Difrifol rhag symud i Gredyd Cynhwysol trwy newid yn eu hamgylchiadau.

  • Ar ôl Ionawr 2021, bydd hawlwyr Premiwm Anabledd Difrifol yn symud i Gredyd Cynhwysol ac yn gymwys i gael taliadau trosiannol.

  • Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn elwa o fod ar Gredyd Cynhwysol, tra hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i ddysgu ac addasu ein dull i sicrhau bod hawlwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth symud i Gredyd Cynhwysol.

2.2 Ystadegau Credyd Cynhwysol

Yr ystadegau diweddaraf o 23 Ebrill 2013 i 11 Gorffennaf 2019 were published on GOV.UK on 16 July 2019.

Ystadegau allweddol

Llwyth achosion Credyd Cynhwysol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2019:

  • Yn y 5 wythnos i 13 Mehefin 2019, mae’r nifer o bobl ar Gredyd Cynhwysol wedi cynyddu o 7% i 2.2 miliwn

  • O’r bobl hyn, roedd 32% (700 mil) mewn cyflogaeth, o’u cymharu a 38% ym mis Mehefin 2018

  • O’r bobl hyn, roedd 55% (1.2 million) yn ferchaid, o’u cymharu a 50% ym mis Mehefin 2018

2.3 Newidiadau i Gredyd Cynhwysol

Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud i helpu hawlwyr i ddeall eu taliadau Credyd Cynhwysol. Ar ‘Hafan’ cyfrif ar-lein yr hawlydd mae adran ‘Taliadau’ nawr ar gael cyn gynted ag y bydd y cais yn cael ei wneud a bydd yn dangos:

  • y dyddiad y dylai’r datganiad cyntaf fod ar gael
  • y dyddiad y dylent gael eu taliad cyntaf
  • fersiwn o’r datganiad i ddangos sut y bydd eu taliad yn cael ei wneud i fyny yn seiliedig ar yr hyn maent wedi’i ddatgan

Mae dyluniad y datganiad ei hun hefyd wedi’i wella i’w wneud yn gliriach.

2.4 Y Canllaw Credyd Cynhwysol a thai ar rent i landlordiaid

Mae’r canllaw Credyd Cynhwysol a thai ar rent i landlordiaid yn darparu gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i landlordiaid y sector breifat a chymdeithasol i’w helpu i ddeall beth allant ei wneud i helpu eu tenantiaid.

Mae hyn yn cynnwys Trefniadau Talu Amgen os yw hawlwyr yn eu cael yn anodd i reoli eu taliad UC a thalu eu landlord eu hunain. Gall Trefniadau Talu Amgen gynnwys Taliad Wedi’i Reoli i Landlord.

Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig i landlordiaid gan gynnwys:

  • deall taliadau a helpu tenantiaid i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol
  • talu rhent
  • gofynion tystiolaeth a gwirio ceisiadau
  • cyfrifo rhent
  • talu am 2 gartref
  • taliadau gwasanaeth
  • Trefniadau Talu Amgen (APA)
  • adfer ôl-ddyledion rhent o gais UC
  • taliadau tai dewisol
  • anghenion llety arbenigol
  • ‘Scottish Choices’ UC
  • cwynion

Mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a landlordiaid.

2.5 Awgrymiadau i landlordiaid

Yn DWP mae landlordiaid yn parhau i ddod atom i ofyn am gyngor ar sut y gallent gefnogi eu hawlwyr gyda’r symud i Gredyd Cynhwysol. Gall landlordiad ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar y wefan Deall Credyd Cynhwysol.

Dyma ein prif awgrymiadau i helpu’r cais fynd mor esmwyth â phosibl.

  • Sicrhau bod gan eich tenantiaid ddogfennau cywir sy’n profi eu hatebolrwydd i dalu rhent a’u deiliadaeth o’r eiddo y maent yn gwneud cais amdano. Gallai tystiolaeth sydd ar goll neu sy’n wallus oedi eu taliad cyntaf.

  • Bydd annog eich tenantiaid i agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, ac yn caniatáu iddynt drefnu debydau uniongyrchol neu orchmynion sefydlog ar gyfer eu rhent.

  • Atgoffwch eich tenant, os na allant ymdopi tan eu taliad cyntaf, gallant wneud cais am daliad ymlaen llaw Bydd yr uchafswm y gallant ei gael yr un fath â’u taliad misol amcangyfrifedig Credyd Cynhwysol cyntaf. Bydd angen iddynt dalu hyn yn ôl o daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol, fel arfer dros 12 mis, er y bydd hyn yn cael ei ymestyn i 16 mis yn 2021.

2.6 Gwneud cais am Daliad Wedi’i Reoli i Landlord

Cyn i landlord wneud cais am APA Taliad Wedi’i Reoli i Landlord dylech edrych i weld bod y tenant wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac wedi dilysu eu costau tai.

Mwy o wybodaeth am daliadau uniongyrchol.

2.7 Nodyn i atgoffa landlordiaid – holi am Daliad Wedi’i Reoli i landlord

Yn y lle cyntaf, dylai’r landlord ymgysylltu â’u tenant ynghylch y mater gan fod gan y tenant fynediad i’w gwybodaeth eu hunan trwy eu cyfrif ar-lein.

Gallant rannu’r wybodaeth o’u cyfrif â’u landlord neu gynrychiolydd arall, os dymunant, gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth am daliadau tai sydd wedi cael eu gwneud.

Rhaid i’r landlord beidio â:

a. gofyn am y manylion mewngofnodi gan y tenant a/neu

b. gwneud datgelu’r manylion hyn neu ganiatáu mynediad at gyfrif ar-lein y tenant yn un o amodau’r denantiaeth

Os oes angen mwy o gymorth, gall yr hawlydd ofyn am hyn hyn trwy eu dyddlyfr, wyneb yn wyneb â’u hanogwr gwaith neu trwy gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth dros y ffôn.

Cyn y gall landlord gysylltu â DWP i drafod achos eu tenantiaid, yn gyntaf rhaid i’r hawlydd fod wedi rhoi eu caniatâd penodol i rannu eu gwybodaeth bersonol gyda’u landlord neu gynrychiolydd arall trwy eu dyddlyfr, wyneb yn wyneb â’u hanogwr gwaith neu trwy gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth dros y ffôn.

Bydd angen rhoi caniatâd ar gyfer pob ymholiad unigol.

Wrth gysylltu â Chredyd Cynhwysol, gofynnir i’r Landlord gadarnhau pwy ydynt fel y gall y rheolwr achos siarad â’r landlord yn uniongyrchol.

Os na allwch ymgysylltu â’ch tenant, gallwch gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth.

Canolfan gwasanaeth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 1744
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
NGT text relay – os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn: 18001 yna 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Pan yn ffonio llinell Saesneg y ganolfan gwasanaeth, bydd y system teleffoni integredig yn llywio’r alwad yn uniongyrchol i’r rheolwr achos sy’n delio â’r cais cyn belled ag y gellir ateb rhai cwestiynau adnabod unigryw am yr hawlydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • y rhif ffôn mae’r hawlydd wedi’i gofrestru gyda Chredyd Cynhwysol
  • eu cod post
  • llinell gyntaf eu cyfeiriad
  • eu dyddiad geni

Bydd angen caniatâd penodol os yw’r Landlord yn ffonio ar eu rhan.

Rydym yn argymell bod yr hawlydd bob amser wrth law pan fydd unrhyw gynrychiolydd yn cysylltu â chanolfan gwasanaeth UC ar ran hawlydd y maent yn eu cefnogi.

Mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a landlordiaid

2.8 Gwell cymorth i landlordiaid

Mae’r Llawlyfr Credydwyr DWP wedi’i adnewyddu’n ddiweddar ac mae’n darparu arweiniad cynhwysfawr ar sut mae’r cynllun didyniadau o fudd-daliadau yn gweithio. Mae’r rhifyn newydd, yn darparu cyngor wedi’i deilwra am y trefniadau Credyd Cynhwysol ac felly dylai fod yn llawer haws i’w ddefnyddio.

Mae’n egluro sut y gall landlordiaid drefnu sefydlu didyniadau o fudd-dal a sut i ddiweddaru unrhyw un o’r manylion sydd gan DWP ar gyfer y landlord.

Ar ôl darllen y canllaw, os oes angen cyngor pellach:

Bydd y Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol yn cefnogi landlordiaid preifat gydag ymholiadau ynghylch didyniadau o fudd-dal sy’n ymwneud â thaliadau rhent arferol.

Byddant hefyd yn cefnogi landlordiaid preifat a chymdeithasol sydd am ddechrau neu stopio taliad neu ddidyniad.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 1744
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
NGT text relay – os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn: 18001 yna 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Bydd llinell gymorth Taliad Trydydd Parti DWP yn datrys ymholiadau gan landlordiaid preifat ynghylch taliadau mewn perthynas â didyniadau presennol ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn unig, gan fod y rhain yn cael eu talu drwy ddefnyddio trefniadau Taliad Trydydd Parti DWP.

Byddant hefyd yn cefnogi landlordiaid cymdeithasol gydag ymholiadau ynghylch didyniadau o fudd-dal yn ymwneud â thaliadau rhent arferol a hefyd didyniadau i adennill ôl-ddyledion rhent. Byddant angen rhif cyfeirnod y credydwr i allu helpu.

Llinell gymorth Taliad Trydydd Parti DWP

Ffôn: 0800 328 0128
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

2.9 Amserlenni talu

Mae amserlenni talu sy’n defnyddio’r trefniadau Taliad Trydydd Parti yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi trwy’r post neu’n electronig (os cânt eu sefydlu ar gyfer amserlenni electronig). Mae symud i amserlenni electronig yn cynnig gwasanaeth llawer cyflymach a gwell i gredydwyr ac maent yn haws i sefydliadau rannu’n gyflym â chydweithwyr perthnasol ar ôl eu derbyn.

Os ydych yn derbyn amserlenni post ar hyn o bryd ac yr hoffech i’r rhain gael eu danfon yn electronig, cyfeiriwch at yr adran ‘Payment Schedules’ yn y canllaw canlynol.

Mwy o wybodaeth am sut mae’r cynllun didyniadau o fudd-daliadau yn gweithio.

2.10 Eleni bydd proses newydd gwneud cais ar-lein am Daliad Rhent Uniongyrchol yn cael ei chyflwyno

Bydd rhan o’r broses ar gyfer Landlordiaid Preifat a’r Landlordiaid Cymdeithasol hynny sydd â stoc dai nad ydynt ar y porth yn cael ei gwella.

Bydd system ar-lein yn cael ei chyflwyno eleni fel y gallant ofyn, lle bo angen, bod rhent eu tenantiaid yn cael ei dalu’n uniongyrchol iddynt pan fo’n briodol.

Bydd y gwasanaeth landlord newydd hwn yn sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei chasglu yn y dechrau a bydd yn lleihau faint o waith sydd ei angen ar asiant DWP i roi APA yn ei le.

2.11 Help i Wneud Cais

Ar gyfer hawlwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad at neu ddefnyddio gwasanaethau digidol UC, mae cymorth ar gael i wneud a chynnal eu cais gan ddefnyddio llinell gymorth Rhadffon Credyd Cynhwysol.

Mae cymorth wyneb yn wyneb hefyd ar gael ym mhob canolfan gwaith.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir trefnu ymweliad cartref i gefnogi hawlydd i wneud a chynnal eu cais.

Yn rhededg ochr yn ochr â’r cynnig cenedlaethol hwn gan DWP o 1 Ebrill 2019 yw Help i Wneud Cais gan Gymorth Ar Bopeth sy’n cefnogi halwyr sy’n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol neu sy’n symud o fudd-dal presennol i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau.

Mae Help i Wneud Cais yn cynnig cymorth ymarferol wedi’i theilwra i helpu pobl i wneud eu cais hyd at gael eu taliad cywir llawn cyntaf ar amser. Mae ar gael yn eang ar-lein, trwy rif Rhadffon ac wyneb yn wyneb trwy wasanaethau Cyngor ar Bopeth lleol.

Defnyddiwch y dolenni canlynol i gael mynediad at Help i Wneud Cais os:

Nid yw Help i Wneud Cais yn newid rheolau dyddiad gwneud cais Credyd Cynhwysol. Dyddiad y cais yw’r dyddiad y cyflwynir y cais UC. Ni ddylai hawlwyr oedi cyn cyflwyno eu cais Credyd Cynhwysol.

Mae llwybrau Cynnig canolfan gwaith a Help i Wneud Cais Cyngor Ar Bopeth wedi’u cynllunio’n benodol i ddarparu cymorth i hawlwyr UC cyn gynted â phosibl.

Pan fydd cais newydd wedi’i wneud yn uniongyrchol trwy sianeli DWP, gall yr hawlydd barhau i gael mynediad at Help i Wneud Cais am gymorth pellach hyd nes bod eu taliad UC cywir mewn lle.

Gall landlordiaid helpu hawlwyr i gael mynediad at hyn trwy hunanwasanaeth (drwy ddefnyddio’r llwybrau cyfeirio uchod) neu gall DWP gyfeirio hawlwyr.

2.12 Cyfraddau Lwfans Tai Lleol Misol Credyd Cynhwysol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban

Cyfraddau Lwfans Tai Lleol Misol Credyd Cynhwysol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban o 2014 i 2019.

2.13 Gwybodaeth i gyplau

Mae’r trosolwg o beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu i gyplau sy’n gwneud cais ar y cyd, yn cynnwys pwy all wneud cais ar y cyd a beth fydd disgwyl iddynt ei wneud yn gyfnewid wedi cael ei ddiweddaru.

2.14 Cap ar Fudd-daliadau

Mae fersiwn diwygiedig o Ystadegau Cap ar Fudd-daliadau – Awst 2019, yn darparu gwybodaeth am ystadegau cap ar fudd-daliadau a methodoleg gan gynnwys pwrpas, ffynhonnell, diffiniadau a chyfyngiadau ystadegau a gwmpesir.

2.15 Pobl sy’n profi digartrefedd i elwa o gymorth canolfan waith newydd

Mae DWP wedi datblygu hyfforddiant ar gyfer Rheolwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid y Ganolfan Gwaith gydag arweiniad gan sefydliadau arbenigol, gan gynnwys Crisis, Homeless Link a Shelter.

Nod yr hyfforddiant newydd yw sicrhau bod pobl sy’n profi digartrefedd, a’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, yn cael mynediad at yr holl wasanaethau perthnasol a gynigir gan yr adran.

Bydd y rheolwyr hefyd yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer sefydliadau partner digartrefedd yn eu hardal leol, gan ganolbwyntio ar adeiladu perthynas â hwy a sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio’n briodol at gymorth arbenigol ychwanegol.

Mae hyn yn ychwanegol at y cymorth sydd eisoes ar gael, sy’n cynnwys helpu pobl digartref i ddilysu eu ID i sefydlu ceisiadau am fudd-daliadau, cymorth gydag agor cyfrifon banc ac oedi gofynion i chwilio am waith fel y gallant ganolbwyntio ar ddod o hyd i dai sefydlog.

Darllenwch y stori newyddion ‘People experiencing homelessness set to benefit from new jobcentre support’.

3. Rheolwyr partneriaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu partneriaethau cryf a chynhyrchiol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae’r arbenigedd lleol a gawn o’n perthnasoedd allanol yn ein helpu i symud pobl i mewn i ac yn agosach at waith neu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau cymwys.

Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn cwrdd ag amcanion a rennir ac yn osgoi dyblygu. Rydym yn diweddaru ein partneriaid ar newidiadau lles a pholisi, gan sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y cymorth maent ei angen.

Cysylltwch â’r tîm partneriaeth DWP ar gyfer eich ardal i dddarganfod sut y gallwch weithio gyda’n gilydd.

4. Gwybodaeth i landlordiaid Sector Rhentu Cymdeithasol

4.1 Sector Rhentu Cymdeithasol – Gwelliannau i’r Gwasanaeth Porth Landlordiaid (ar gyfer Landlordiaid y Porth yn unig)

Rydym wedi gwneud newidiadau i’r porth landlordiaid fel a ganlyn:

  1. O ddydd Mercher 24 Gorffennaf, bydd landlordiaid yn gallu nodi os yw Peth i’w wneud ‘Provide tenancy details’ yn berthnasol i gais newydd neu newid mewn amgylchiadau. Bydd Pethau i’w wneud sy’n berthnasol i geisiadau newydd (neu geisiadau heb gostau tai blaenorol), yn cael eu nodi gyda fflag ‘New claim’. Bydd y newid hwn yn effeithio unrhyw geisiadau newydd (neu geisiadau heb gostau tai blaenorol) a wnaed ar neu ar ôl 17 Gorffennaf 2019.

  2. O ddydd Mercher 7 Awst 2019, bydd y ‘Tenants list’ ar y porth landlordiaid ond yn dangos tenantiaid sydd gyda chais Credyd Cynhwysol gweithredol.

Ni fydd tenantiaid bellach yn ymddangos ar y rhestr hon os naill ai:

  • mae’r cais wedi’i gau
  • mae’r tenant yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau tai, sy’n arwain iddynt symud i landlord arall

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: tp-lp.accountmanagerteam@dwp.gov.uk

4.2 Ystadegau’r Porth Landlordiaid

Yn dilyn ymrestru 10 o landlordiaid pellach ym mis Gorffennaf, ar hyn o bryd mae 764 o Landlordiaid ar y Porth Landlordiaid. Mae hyn yn cynnwys 16 landlord o Ogledd Iwerddon.

Rydym nawr wedi symud i gyflwyno’r Porth Landlordiaid yn chwarterol. Felly bydd y diweddariad nesaf yn gynnar ym mis Tachwedd 2019.

Os ydych yn landlord cymdeithasol ac yn teimlo y byddech yn elwa o ddefnyddio’r porth, cysylltwch â ni yn tplp.enrolmentcontacts@dwp.gov.uk.

4.3 Newidiadau Rhent 2019

Ar hyn o bryd rydym yn profi’r swyddogaeth i swmp lwytho gwybodaeth am newid rhent gyda rhai landlordiaid a byddwn yn defnyddio canlyniad hyn i lywio ein camau nesaf, bydd hyn yn cynnwys y dull ar gyfer ehangu ymhellach i landlordiaid eraill.

Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pan fyddwn mewn sefyllfa i symud ymlaen i’w gyflwyno’n ehangach.

Dylech nodi mai cyfrifoldeb yr hawlydd o hyd yw rhoi gwybod am bob newid mewn amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw newidiadau rhent, ac ni fwriedir i’r swyddogaeth swmp lwytho ddisodli hyn.

5. Gwybodaeth i landlordiaid Sector Rhentu Preifat

5.1 Ffurflen UC47

Os ydych wedi anfon UC47 diogel o gyfeiriad e-bost anniogel, byddwch yn cael neges yn eich cynghori na fyddwn yn gallu prosesu’r wybodaeth sydd arni oherwydd na wy’n cydymffurfio gyda Rheolau Cyffredinol Diogelu Data. Bydd eich neges e-bost gwreiddiol yn cael ei dileu.

Sicrhewch eich bod yn dilyn y broses cywir drwy ddefnyddio’r ffurflen UC47 cywir.

6. Cylchlythyrau Credyd Cynhwysol i landlordiaid yn y dyfodol

Rydym bob amser yn croesawu eich adborth. Rydym yn gobeithio eich bod wedi gweld y cylchlythyr landlordiaid UC hwn yn ddefnyddiol, bydd eich adborth yn ein helpu i wella cylchlythyrau’r dyfodol.

Anfonnwch e-bost atom am:

  • beth yw eich barn am y cylchlythyr, ac os ydym yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • sylwadau ac argymhellion ar sut rydych yn reimlo y gallwch wella’r cylchlythyrau hyn

Hoffem yn arbennig glywed:

  • pa mor ddefnyddiol oeddech yn gweld y rhifyn hwn o’r cylchlythyr landlordiaid UC?
  • wnaethoch chi ddysgu rhywbeth newydd?
  • a fyddech yn argymell y cylchlythyr landlordiaid UC i gydweithiwr neu denant?
  • pa wybodaeth benodol am UC hoffech chi ei weld mewn rhifynnau o’r cylchlythyr hwn yn y dyfodol?

Anfonnwch e-bost gyda’ch sylwadau i: uc.strategiclandlordengagement@dwp.gov.uk.