Canllawiau

Cynllun Turing: lleoliadau astudio a gwaith rhyngwladol

Canllawiau ar gyllid ar gyfer astudiaethau rhyngwladol a lleoliadau gwaith trwy Gynllun Turing, ar gyfer ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch.

Dogfennau

Manylion

Mae ceisiadau ar gyfer y Cynllun Turing ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 wedi cau.

Ariennir Cynllun Turing gan lywodraeth y DU i helpu darparwyr addysg i gefnogi eu myfyrwyr i ymgymryd â lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer darparwyr. Mae’n amlinellu:

  • beth yw Cynllun Turing
  • ar gyfer pwy y mae
  • pa gyllid sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 - yr hyn y mae angen i ddarparwyr addysg ei wybod cyn gwneud cais am gyllid

Mae’r cynllun yn agored i:

  • ysgolion
  • darparwyr addysg bellach
  • darparwyr addysg uwch

Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr. Os ydych yn fyfyriwr sydd â diddordeb mewn gwneud cais i Gynllun Turing, siaradwch â’ch ysgol, coleg neu brifysgol.

Darllenwch y wybodaeth ar y dudalen hon cyn gwneud cais am gyllid.

Mae gwybodaeth am flynyddoedd blaenorol Cynllun Turing ar wefan arall.

Cyhoeddwyd ar 4 January 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 March 2024 + show all updates
  1. Applications for the 2024 to 2025 academic year of the scheme are now closed.

  2. Added Welsh version of the guidance now applications are open for the 2024 to 2025 academic year of the scheme.

  3. Updated the 'Turing Scheme: international study and work placements' page to state that applications are now open. Updated the 'Overview of the Turing Scheme' page to include the return journey in the available funding section. Updated pages 'Turing Scheme: guidance for schools', 'Turing Scheme: guidance for further education providers' and 'Turing Scheme: guidance for higher education providers' to align messaging on organisational support and funding. Temporarily removed Welsh language version to be updated.

  4. Added Welsh language version of the guidance.

  5. Added translation