Canllawiau

Cynllun Turing: canllawiau i ddarparwyr addysg bellach

Diweddarwyd 22 March 2024

Cymhwysedd darparwyr

Gall darparwyr addysg bellach wneud cais am gyllid Cynllun Turing.

Mae darparwyr addysg bellach cymwys yn cynnwys:

  • colegau
  • chweched dosbarth, gan gynnwys colegau chweched dosbarth
  • sefydliadau ôl-16 arbennig
  • darparwyr hyfforddiant prentisiaeth
  • mathau eraill o ddarparwyr addysg bellach sy’n bodloni’r meini prawf

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i ddarparwyr addysg bellach:

  • bod wedi’u cofrestru neu wedi’u cydnabod fel rhai sy’n gweithredu yn y DU neu diriogaeth dramor Prydain
  • derbyn cyllid gan lywodraeth y DU, llywodraeth ddatganoledig neu lywodraeth tiriogaeth dramor Prydain i ddarparu’r brif raglen o addysg neu hyfforddiant i’r myfyriwr sy’n cymryd rhan mewn lleoliad

Dylai darparwyr addysg bellach yn nhiriogaethau tramor Prydain anfon e-bost at turing.scheme2024-25@education.gov.uk i gadarnhau cymhwysedd cyn gwneud cais.

Defnyddio gwasanaethau sefydliadau allanol

Gall darparwyr addysg bellach cymwys dalu am wasanaethau sefydliadau trydydd parti eraill, gan ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol i’w helpu i weinyddu lleoliadau Cynllun Turing.

Efallai na fydd y sefydliadau hyn yn gymwys i wneud cais i’r cynllun eu hunain.

Dylech gynnwys manylion y perthnasoedd hyn yn eich cais.

Partneriaethau consortiwm

Gall darparwyr addysg bellach bartneru â’i gilydd a gwneud cais am gyllid fel consortiwm.

Rhaid i gydgysylltydd arweiniol y consortiwm:

  • cyflwyno’r cais
  • cytuno i weithredu fel llofnodwr cytundeb cyllid grant

Rhaid i gydlynydd consortiwm arweiniol fod wedi’i leoli yn y DU neu diriogaeth dramor y DU a gall fod yn:

  • darparwr addysg uniongyrchol sy’n cymryd rhan
  • ymddiriedolaeth aml-academi, ar ran ei hacademïau neu ysgolion eraill
  • awdurdod lleol, ar ran grŵp o ysgolion
  • asiantaeth weithredol y llywodraeth
  • sefydliad aelodaeth di-elw, sy’n cynrychioli darparwyr addysg uniongyrchol

Gall darparwyr addysg bellach ymuno â mwy nag un cais consortiwm os oes gan leoliadau nodau ac amcanion gwahanol.

Dylai unrhyw aelodau o’r consortiwm nad ydynt yn gweithredu fel cydlynwyr fod yn ddarparwyr addysg bellach sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Bydd angen I chi enwi pob sefydliad sy’n aelod o’r consortiwm yn eich cais.

Pwy all fynd ar leoliadau

I gymryd rhan mewn lleoliad addysg bellach, rhaid i fyfyrwyr fod naill ai:

  • yn astudio gyda’r darparwr addysg bellach sy’n eu hanfon, ar gymwysterau neu gyrsiau addysg bellach cydnabyddedig yn y DU neu rhai cyfatebol mewn tiriogaeth dramor Brydeinig
  • rhywun sydd wedi graddio’n ddiweddar neu wedi gadael y darparwr addysg bellach sy’n eu hafnon

Rydym yn ystyried bod prentisiaid a myfyrwyr a fyddai wedi bod yn gymwys yn flaenorol o dan y categori addysg alwedigaethol a thechnegol yn gymwys os ydynt yn astudio gyda darparwr addysg bellach.

Nid oes angen i fyfyrwyr fod yn ddinasyddion y DU.

Nid yw myfyrwyr yn gymwys os ydynt naill ai:

  • wedi’u lleoli dramor ac yn astudio cymwysterau’r DU o bell
  • myfyrwyr ar gampysau darparwyr yn y DU dramor

Nid oes uchafswm oedran i gymryd rhan yn y cynllun.

Dylai darparwyr wneud cais am gyllid o dan y ffrwd addysg uwch ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau sy’n gymwys i gael cymorth cyllid myfyrwyr. Fel arall, nid oes angen i fyfyrwyr fodloni meini prawf cymhwyster cyllid myfyrwyr i gael mynediad at gyllid Cynllun Turing.

Rhaid i raddedigion diweddar neu ymadawyr gwblhau eu lleoliad o fewn 12 mis i gwblhau eu cymhwyster gyda’r darparwr addysg. Nid oes angen eu dewis ar gyfer cyllid Cynllun Turing cyn iddynt raddio.

Rydym yn ariannu staff sy’n mynd gyda myfyrwyr addysg bellach ar leoliadau at ddibenion diogelu, lle bo angen. Bydd gofyn i chi nodi nifer y staff sydd eu hangen ar gyfer eich lleoliadau yn eich cais. Dylai’r gymhareb myfyrwyr i staff fod yn gymesur â niferoedd ac oedran y myfyrwyr sy’n mynd ar y lleoliad a’r asesiad risg.

Mae staff sy’n dod gyda myfyrwyr yn amodol ar yr un gofynion ynghylch hyd lleoliad â myfyrwyr. Os ydych yn dymuno cyfnewid un aelod staff amun arall o staff ran o’r ffordd drwy leoliad, dim ond am yr hyn sy’n cyfateb i un aelod o staff y gallwch hawlio cyllid.

Recriwtio myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Rhaid i chi ddangos sut y byddwch yn recriwtio ac yn cefnogi cyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Yng Nghynllun Turing, y grwpiau a dangynrychiolir yw:

  • lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys lleiafrifoedd gwyn
  • pobl ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau (AAAA), gan gynnwys pobl ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru a phobl ag anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban
  • myfyrwyr rhan-amser

Mae myfyrwyr rhan-amser yn cynnwys y rhai y cofnodwyd eu bod yn astudio:

  • rhan amser
  • amser llawn ar gyrsiau sy’n parhau llai na 24 wythnos
  • wedi’u rhyddhau er mwyn astudio
  • gyda’r nos yn unig

Lleoliadau

Gall myfyrwyr gymryd lleoliadau astudio, gweithio neu wirfoddoli sy’n eu helpu i ddatblygu sgiliau a gwella eu rhagolygon addysg a gyrfa.

Rhaid iddynt ddigwydd yn ystod blwyddyn academaidd, rhwng 1 Medi a 31 Awst.

Gall lleoliadau mewn cyrchfannau sydd â chyfnodau academaidd gwahanol neu ddyddiadau tymhorau ddechrau y tu allan i’r dyddiadau hyn, ond rhaid i’r rhan fwyaf o’r lleoliad fod o fewn yr ystod dyddiadau.

Dim ond ar gyfer y rhan o’r lleoliad a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd y byddwn yn darparu cyllid.

Hyd lleoliadau

Gall myfyrwyr:

  • astudio, gwneud profiad gwaith neu wirfoddoli am rhwng 14 diwrnod a 12 mis fel rhan o leoliad grŵp
  • astudio, gwneud profiad gwaith neu wirfoddoli am rhwng 28 diwrnod a 12 mis fel unigol
  • mynychu cystadlaethau sgiliau, fel gwyliwr yn unig, am rhwng un a 10 diwrnod

Gall graddedigion neu ymadawyr diweddar gael profiad gwaith neu wirfoddoli am:

  • rhwng 14 diwrnod a 12 mis fel rhan o leoliad grŵp
  • rhwng 28 diwrnod a 12 mis fel lleoliad unigol

Ar leoliadau grŵp o leiafswm o 14 diwrnod, rhaid cael o leiaf 10 diwrnod gwaith neu astudio.

Mae lleoliadau unigol yn lleoliadau y mae myfyriwr yn eu gwneud ar eu pen eu hunain, yn annibynnol ar fyfyrwyr eraill neu aelodau staff.

Rhaid i leoliadau y tu allan i Ewrop, ac eithrio lleoliadau cystadleuaeth sgiliau, barhau o leiaf 15 diwrnod.

Gall myfyrwyr ag AAAA, ADY ac ASN gymryd lleoliadau am 7 diwrnod.

Lle gall myfyrwyr fynd

Gall darparwyr addysg bellach yn y DU anfon myfyrwyr i sefydliadau cyhoeddus neu breifat y tu allan i’r DU sy’n weithgar mewn addysg, hyfforddiant neu’r farchnad lafur.

Gall sefydliadau fod yn:

  • darparwr AB
  • mentrau bach, canolig neu fawr, gan gynnwys mentrau cymdeithasol
  • cyrff cyhoeddus lleol, rhanbarthol neu genedlaethol
  • partneriaid cymdeithasol neu gynrychiolwyr eraill o fywyd gwaith, gan gynnwys siambrau masnach, crefftau, cymdeithasau proffesiynol, undebau llafur a sefydliadau ymchwil
  • sefydliadau
  • ysgolion, sefydliadau neu ganolfannau addysgol ar unrhyw gam, o addysg gynradd i addysg uwchradd, gan gynnwys addysg alwedigaethol ac addysg oedolion
  • sefydliadau dielw, cymdeithasau a sefydliadau anllywodraethol
  • cyrff sy’n darparu cyfarwyddyd gyrfa, cwnsela proffesiynol neu wasanaethau gwybodaeth

Gall darparwyr mewn tiriogaethau tramor Prydeinig anfon myfyrwyr i sefydliadau cyfatebol y tu allan i’w tiriogaeth dramor.

Gall lleoliadau ddigwydd mewn unrhyw gyrchfan neu diriogaeth, ond rhaid i chi ddilyn cyngor teithio tramor swyddogol.

Cyllid

Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at gostau lleoliadau addysgol rhyngwladol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe’i darperir ar sail fesul myfyriwr.

Ni ddylech ddefnyddio cyllid Cynllun Turing tuag at unrhyw gostau sydd eisoes wedi’u cynnwys gan ffynhonnell arall o gyllid.

Cyllid teithio

Bydd yr Adran Addysg (DfE) yn darparu cyllid tuag at gostau uniongyrchol teithio i leoliad ac oddi yno.

Gall pob myfyriwr addysg bellach a staff sy’n dod gyda nhw gael cyllid ar gyfer costau teithio, ar gyfer un daith ddwyffordd gan gynnwys trosglwyddiadau.

Byddwn yn darparu cyllid ar gyfer pob myfyriwr, yn seiliedig ar gyfradd grant teithio ar gyfer pob cyrchfan. Mae rhestr o gyrchfannau a chyfraddau grant.

Os yw cost teithio yn is na’r gyfradd a awgrymir, gallwch ddefnyddio’r gwahaniaeth ar gyfer costau teithio mewn lleoliadau eraill. Ni fyddwn bellach yn darparu cyllid ar wahân ar gyfer teithio eithriadol o ddrud.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am dystiolaeth o’r costau teithio gwirioneddol.

Mae’n rhaid i chi:

  • sicrhau nad yw cyfanswm costau teithio yn fwy na’r swm a ganiateir
  • dychwelyd unrhyw gyllid teithio nad yw’n cael ei wario ar weithgarwch teithio cymwys i’r Adran Addysg

Cyfraniad at gostau byw

Byddwn yn darparu cyllid i helpu gyda chostau byw bob dydd ar gyfer pob myfyriwr ac aelodau staff sy’n mynd gyda nhw.

Mae’r swm y gall pob myfyriwr ei dderbyn yn dibynnu ar y grŵp mae’r cyrchfan ynddo.

Mae grwpiau yn seiliedig ar asesiad o gostau byw cyffredinol yn y cyrchfannau hynny:

  • grŵp 1 – costau byw uwch
  • grŵp 2 – costau byw is

Mae gwybodaeth am y cyrchfannau ym mhob grŵp yn y rhestr o gyrchfannau a chyfraddau grant.

Y cyllid y byddwn yn ei ddarparu yw:

Hyd y lleoliad Grŵp 1 Grŵp 2
14 diwrnod cyntaf £109 y dydd £87 y dydd
Ar ôl 14 diwrnod £76 y dydd £61 y dydd

Cyllid ychwanegol i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig

Gall myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn cyllid ychwanegol. Bydd angen i chi nodi’r grwpiau difreintiedig yr ydych yn bwriadu eu recriwtio a’u cefnogi yn eich cais.

Yn gyffredinol, rydym yn diffinio’r myfyrwyr hyn fel pobl sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol:

  • rhywun ag incwm cartref blynyddol o £25,000 neu lai
  • rhywun sy’n cael credyd cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm oherwydd eu bod naill ai’n cefnogi’n ariannol:
    • eu hunain
    • eu hunain a rhywun sy’n ddibynnol arnynt ac yn byw gyda nhw, fel plentyn neu bartner
  • rhywun sydd â phrofiad o fod mewn gofal neu sy’n gadael gofal – gan gynnwys unrhyw un sydd neu sydd wedi bod mewn gofal, neu o gefndir derbyn gofal, ar unrhyw adeg o’u bywyd
  • gofalwr, sy’n golygu unrhyw un sydd:
    • yn gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind sydd angen cymorth oherwydd eu salwch, eiddilwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ac na allant ymdopi heb eu cymorth
    • heb gael ei dalu am y gofal hwn
  • rhywun sydd â hawl i brydau ysgol am ddim
  • ffoadur neu geisiwr lloches

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Os byddwch yn nodi myfyrwyr nad ydynt yn bodloni’r diffiniadau hyn yn union ond sy’n rhannu nodweddion tebyg sy’n cyfiawnhau cymorth ychwanegol, gallwch eu cynnwys yn eich cais.

Byddwn yn adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ar gyfer blynyddoedd y cynllun yn y dyfodol.

Cyllid parodrwydd i deithio

Byddwn yn darparu cyllid i helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i baratoi i deithio.

Rhaid i chi ddefnyddio cyllid parodrwydd i deithio dim ond ar gyfer:

  • pasbortau
  • ymgeisio am fisa a chostau cysylltiedig rhesymol megis dogfennau wedi’u cyfieithu a thystysgrifau’r heddlu
  • brechlynnau
  • yswiriant teithio
  • ardystiadau meddygol

Dylech wneud cais gan ddefnyddio costau amcangyfrifedig sy’n gysylltiedig â’r eitemau. Cânt eu talu fel costau gwirioneddol yn hytrach nag ar gyfraddau penodol.

Cyllid ychwanegol i fyfyrwyr ag AAAA

Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i fyfyrwyr os yw eu darparwr AB yn dweud eu bod yn mynychu fel myfyriwr ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol neu anabledd, gan gynnwys ASN yn yr Alban ac ADY yng Nghymru.

Gallwch hawlio cymorth ar gyfer costau ychwanegol y gall y myfyrwyr hyn eu hwynebu ar leoliadau rhyngwladol.

Er enghraifft, byddwn yn ariannu ymweliadau, hyd at 3 diwrnod, lle gallai fod angen i staff neu fyfyrwyr ymweld â’r cyrchfan lletyol i gynnal gwiriadau cyn lleoliad. Rhaid i chi amlinellu pam fod angen yr arian arnoch pan fyddwch yn gwneud cais am y cynllun.

Bydd angen i chi ddangos y costau amcangyfrifedig sy’n gysylltiedig â myfyrwyr ag AAAA. Telir y rhain fel costau gwirioneddol, yn hytrach na seiliedig ar gyfraddau penodol.

Cymorth sefydliadol

Byddwn yn darparu cyllid i gefnogi costau gweinyddu a gweithredu.

Byddwn yn darparu £315 y myfyriwr ar gyfer y 100 myfyriwr cyntaf, a £180 y myfyriwr ar ôl hynny.

Rhaid i chi ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer y canlynol yn unig:

  • costau staffio uniongyrchol sy’n gymesur â rhedeg lleoliadau, gan gynnwys paratpo iaith ac unrhyw llysgenhadon myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun
  • costau sy’n gysylltiedig â phenodi sefydliad allanol (megis cwmni preifat) i weinyddu a gweithredu lleoliadau, gan gynnwys paratoi iaith
  • ffioedd archwilio allanol
  • archebion ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau paratoadol neu ar ôl lleoliad

Ni allwch ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer unrhyw weithgaredd arall, gan gynnwys:

  • hyrwyddo neu farchnata’r cynllun
  • penodi sefydliad allanol i ysgrifennu eich cais
  • costau gwasanaeth TG fel trwyddedau, meddalwedd neu galedwedd
  • arian wrth gefn ar gyfer cyllidebau eraill neu ar gyfer argyfyngau
  • staff sy’n mynd gyda myfyrwyr ar leoliadau
  • ymweliadau staff neu fyfyrwyr i fynychu digwyddiadau gyda phartneriaid presennol neu ddarpar bartneriaid y tu mewn neu’r tu allan i’r DU

Ni allwch hawlio cymorth sefydliadol ar gyfer lleoliadau ar gampysau tramor eich sefydliad eich hun.

Gall costau staffio uniongyrchol fod yn:

  • gostau tymor byr
  • rolau cyfan
  • cyfrannau o rolau cyfan, er enghraifft, os oes gan yr aelod staff gyfrifoldebau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â rhedeg lleoliadau

Bydd angen i chi gofnodi’r costau staffio oherwydd rhedeg lleoliadau yn uniongyrchol.

Pan fydd unrhyw un o’r costau cymorth sefydliadol cymwys yn cael eu talu’n uniongyrchol gan fyfyrwyr, gallwch roi’r arian iddynt, ond bydd angen i chi gasglu derbynebau.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi nodi sut y byddwch yn defnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer eich prosiect, gan gynnwys sut mae caffael gwasanaethau allanol yn cynrychioli gwerth am arian.

Rhaid i chi adrodd yn rheolaidd am faint o’r cyllid hwn rydych yn ei wario a dychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i’r Adran Addysg.

Dylech ddargadw tystiolaeth o wariant a bod yn barod i ddarparu dadansoddiad manwl ar gais.

Gallai hyn gynnwys:

  • derbynebau
  • dyfynbrisiau
  • cofnodion o sut mae amser staff wedi’i dreulio

Cymorth iaith

Ar gyfer darparwyr addysg bellach, bydd yr Adran Addysg yn darparu hyd at £135 y myfyriwr ar leoliadau dros 19 diwrnod i’w helpu i ddysgu’r iaith leol yn y sefydliad sy’n cynnal.

Dim ond i dalu costau dysgu iaith, fel cyrsiau ystafell ddosbarth neu ddeunyddiau addysgol, y gellir defnyddio cyllid, sy’n:

  • ymwneud yn uniongyrchol ag astudiaethau’r myfyriwr
  • rhesymol o ystyried hyd y lleoliad

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus adrodd yn rheolaidd ar yr hyn y maent wedi’i wario ar gymorth iaith, ynghyd â thystiolaeth ategol. Rhaid i chi ddychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i DfE ar unwaith.