Canllawiau

Cynllun Turing: canllawiau i ddarparwyr addysg uwch

Diweddarwyd 22 March 2024

Cymhwysedd darparwyr

Gall darparwyr addysg uwch (AU) wneud cais am gyllid Cynllun Turing.

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i ddarparwyr addysg uwch fod:

  • wedi’u rheoleiddio ac yn gweithredu yn y DU neu diriogaethau tramor Prydain
  • yn gyfrifol am gyflwyno addysg uwch i’r myfyriwr sy’n cymryd rhan mewn lleoliad
  • wedi’u cofrestru gyda neu’n cael ei gydnabod gan:
    • y Swyddfa Myfyrwyr – Lloegr
    • Cyngor Cyllido’r Alban – yr Alban
    • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru – Cymru
    • Adran yr Economi – Gogledd Iwerddon

Ni allwch wneud cais fel consortiwm, na defnyddio arian Cynllun Turing tuag at weithgareddau Sefydliadau Confucius.

Dylai darparwyr AU yn nhiriogaethau tramor Prydain anfon e-bost at turing.scheme2024-25@education.gov.uk i gadarnhau cymhwysedd cyn gwneud cais.

Defnyddio gwasanaethau sefydliadau allanol

Gall darparwyr addysg uwch dalu am wasanaethau gwasanaethau sefydliadau trydydd parti gan ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol i helpu i weinyddu lleoliadau Cynllun Turing.

Efallai na fydd y sefydliadau hyn yn gymwys i wneud cais i’r cynllun eu hunain.

Dylech gynnwys manylion y perthnasoedd hyn yn eich cais.

Pwy all fynd ar leoliadau

I gymryd rhan mewn lleoliad addysg uwch, rhaid i fyfyrwyr fod naill ai:

  • yn astudio ar gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig y DU neu un cyfatebol mewn tiriogaeth dramor Brydeinig (hyd at ac yn cynnwys lefel doethuriaeth) gyda’r darparwr AU sy’n eu hanfon
  • myfyriwr graddedig diweddar gyda chymhwyster addysg uwch cydnabyddedig yn y DU neu un cyfatebol mewn tiriogaeth dramor Brydeinig (hyd at ac yn cynnwys lefel doethuriaeth) gan y darparwr AU sy’n eu hanfon

Nid oes angen i fyfyrwyr fod yn wladolion y DU.

Nid yw myfyrwyr yn gymwys os ydynt naill ai:

  • wedi’u leoli dramor ac yn astudio cymwysterau’r DU neu rai cyfatebol mewn tiriogaeth dramor Brydeinig o bell
  • yn astudio’n barhaol ar gampysau tramor darparwyr yn y DU neu rai cyfatebol mewn tiriogaeth dramor Brydeinig

Nid oes uchafswm oedran i gymryd rhan yn y cynllun.

Rhaid i raddedigion diweddar gwblhau eu lleoliad o fewn 12 mis i gwblhau eu cymhwyster gyda’r darparwr AU. Nid oes angen eu dewis am gyllid Cynllun Turing cyn iddynt raddio.

Nid ydym yn ariannu staff sy’n mynd gyda myfyrwyr addysg uwch ar leoliadau.

Recriwtio myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Rhaid i chi ddangos sut y byddwch yn recriwtio ac yn cefnogi cyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar gyfer y cynllun yn cynnwys:

  • lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys lleiafrifoedd gwyn
  • pobl ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA), gan gynnwys pobl ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru a phobl ag anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban
  • myfyrwyr aeddfed sydd dros 21 oed pan ydynt yn dechrau eu hastudiaethau israddedig, neu dros 25 oed wrth ddechrau eu hastudiaethau ôl-raddedig
  • pobl sy’n rhan o’r genhedlaeth gyntaf yn eu teulu i fynychu’r brifysgol
  • myfyrwyr rhan-amser

Mae myfyrwyr rhan-amser yn cynnwys y rhai y cofnodwyd fel rhai sy’n astudio:

  • rhan amser
  • amser llawn ar gyrsiau sy’n parhau llai na 24 wythnos
  • wedi’u rhyddhau er mwyn astudio
  • gyda’r nos yn unig

Lleoliadau

Gall myfyrwyr gymryd lleoliadau gwaith, astudio neu wirfoddoli sy’n eu helpu i ddatblygu sgiliau a gwella eu rhagolygon addysgol a gyrfa.

Rhaid iddynt ddigwydd yn ystod blwyddyn academaidd, rhwng 1 Medi a 31 Awst.

Gall lleoliadau mewn cyrchfannau sydd â chyfnodau academaidd gwahanol neu ddyddiadau tymhorau ddechrau y tu allan i’r dyddiadau hyn, ond rhaid i’r rhan fwyaf o’r lleoliad fod o fewn yr ystod dyddiadau.

Dim ond ar gyfer y rhan o’r lleoliad a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd y byddwn yn darparu cyllid.

Hyd y lleoliadau

Gall myfyrwyr astudio, gwneud profiad gwaith neu wirfoddoli am gyfnodau rhwng 28 diwrnod a 12 mis.

Gall graddedigion diweddar wneudprofiad gwaith neu wirfoddoli am gyfnodau rhwng 28 diwrnod a 12 mis.

Ble gall myfyrwyr fynd

Gall darparwyr AU yn y DU anfon myfyrwyr i sefydliadau cyhoeddus neu breifat y tu allan i’r DU sy’n weithgar mewn addysg, hyfforddiant neu’r farchnad lafur.

O flwyddyn academaidd 2024 i 2025, mae hyn yn cynnwys campysau tramor eich sefydliad eich hun.

Gall sefydliadau fod yn:

  • darparwyr AU
  • mentrau bach, canolig neu fawr, gan gynnwys mentrau cymdeithasol
  • cyrff cyhoeddus lleol, rhanbarthol neu genedlaethol
  • partneriaid cymdeithasol neu gynrychiolwyr eraill o fywyd gwaith, gan gynnwys siambrau masnach, crefftau, cymdeithasau proffesiynol, undebau llafur a sefydliadau ymchwil
  • sefydliadau
  • ysgolion, sefydliadau neu ganolfannau addysgol ar unrhyw gam, o addysg gynradd i addysg uwchradd uwch, gan gynnwys addysg alwedigaethol ac addysg oedolion
  • sefydliadau dielw, cymdeithasau a sefydliadau anllywodraethol
  • cyrff sy’n darparu arweiniad gyrfa, cwnsela proffesiynol neu wasanaethau gwybodaeth

Gall darparwyr yn nhiriogaethau tramor Prydain anfon myfyrwyr i sefydliadau cyfatebol y tu allan i’w tiriogaeth dramor.

Gall lleoliadau ddigwydd mewn unrhyw gyrchfan, ond rhaid i chi ddilyn cyngor teithio tramor swyddogol.

Cyllid

Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at gostau lleoliadau addysgol rhyngwladol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe’i darperir ar sail fesul myfyriwr.

Ni ddylech ddefnyddio cyllid Cynllun Turing tuag at unrhyw gostau sydd eisoes wedi’u cynnwys gan ffynhonnell arall o gyllid.

Cyfraniad at gostau byw

Byddwn yn darparu cyllid i helpu gyda chostau byw dyddiol i bob myfyriwr.

Mae’r swm y gall pob myfyriwr ei dderbyn yn dibynnu ar y grŵp mae’r cyrchfan ynddo.

Mae’r grwpiau yn seiliedig ar asesiad o gostau byw cyffredinol yn y cyrchfannau hynny:

  • grŵp 1 – costau byw uwch
  • grŵp 2 – costau byw is

Mae gwybodaeth am y cyrchfannau ym mhob grŵp ar gael yn y rhestr o gyrchfannau a chyfraddau grant.

Mae cyfraddau gwahanol yn dibynnu ar hyd y lleoliad. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau lleoliad sy’n parhau mwy na 57 diwrnod yn cael y gyfradd 57 i 365 diwrnod ar gyfer y lleoliad cyfan, gan gynnwys y 28 i 56 diwrnod cyntaf.

Lleoliadau i fyfyrwyr o gefndiroedd nad ydynt yn ddifreintiedig

Y cyllid y byddwn yn ei ddarparu yw:

Hyd y lleoliad Grŵp 1 Grŵp 2
28 i 56 diwrnod £19 y dydd £17 y dydd
57 i 365 diwrnod £14 y dydd £12 y dydd

Lleoliadau i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig

Y cyllid y byddwn yn ei ddarparu yw:

Hyd y lleoliad Grŵp 1 Grŵp 2
28 i 56 diwrnod £23 y dydd £21 y dydd
57 i 365 diwrnod £18 y dydd £16 y dydd

Cyllid ychwanegol i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig

Gall myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn cyllid ychwanegol. Bydd angen i chi nodi’r grwpiau difreintiedig yr ydych yn bwriadu eu recriwtio a’u cefnogi yn eich cais.

Yn gyffredinol, rydym yn diffinio’r myfyrwyr hyn fel pobl sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol:

  • rhywun ag incwm cartref blynyddol o £25,000 neu lai
  • rhywun sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm oherwydd eu bod yn cefnogi’n ariannol:
    • eu hunain
    • eu hunain a rhywun sy’n ddibynnol arnynt, fel plentyn neu bartner
  • rhywun sydd â phrofiad o fod mewn gofal neu sy’n gadael gofal – gan gynnwys unrhyw un sydd neu sydd wedi bod mewn gofal, neu o gefndir derbyn gofal, ar unrhyw adeg o’u bywyd
  • gofalwr, sy’n golygu unrhyw un sydd:
    • yn gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind sydd angen cymorth oherwydd eu salwch, eiddilwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ac na allant ymdopi heb eu cefnogaeth
    • heb gael ei dalu am y gofal hwn
  • rhywun sydd wedi ymddieithrio – gan gynnwys unrhyw un sydd heb gael unrhyw gysylltiad â’i rieni biolegol neu fabwysiadol ers 12 mis neu fwy, neu fod y berthynas â’i rieni wedi chwalu o fewn y 12 mis diwethaf
  • ffoadur neu geisiwr lloches

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Os byddwch yn nodi myfyrwyr nad ydynt yn bodloni’r diffiniadau hyn yn union ond sy’n rhannu nodweddion tebyg sy’n cyfiawnhau cymorth ychwanegol, gallwch eu cynnwys yn eich cais.

Byddwn yn adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ar gyfer blynyddoedd y cynllun yn y dyfodol.

Cyllid teithio

Byddwn yn darparu cyllid tuag at gostau teithio uniongyrchol i fyfyrwyr AU o gefndiroedd difreintiedig, am un daith ddwyffordd gan gynnwys trosglwyddiadau.

Byddwn yn darparu cyllid ar gyfer pob myfyriwr yn seiliedig ar grant teithio ar gyfer pob cyrchfan. Ceir rhestr o gyrchfannau a chyfraddau grant.

Os yw’r costau gwirioneddol yn llai na’r gyfradd a awgrymir, gallwch ddefnyddio’r gwahaniaeth ar gyfer costau teithio mewn lleoliadau eraill.

Nid ydym bellach yn darparu cyllid ar wahân ar gyfer teithio eithriadol o ddrud.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am dystiolaeth o’r costau teithio gwirioneddol.

Mae’n rhaid i chi:

  • sicrhau nad yw cyfanswm yr hawliadau teithio yn fwy na’r swm a ganiateir
  • dychwelyd unrhyw gyllid teithio nad yw’n cael ei wario ar weithgarwch teithio cymwys i’r Adran Addysg (DfE)

Parodrwydd i deithio

Byddwn yn darparu cyllid i helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i baratoi i deithio.

Rhaid i chi ddefnyddio cyllid parodrwydd i deithio dim ond ar gyfer:

  • pasbortau
  • ymgeisio am fisa a chostau cysylltiedig rhesymol megis dogfennau wedi’u cyfieithu a thystysgrifau’r heddlu
  • brechlynnau
  • yswiriant teithio
  • ardystiad meddygol

Dylech wneud cais gan ddefnyddio costau amcangyfrifedig sy’n gysylltiedig â’r eitemau, gan y byddant yn cael eu talu fel costau gwirioneddol yn hytrach nag yn seiliedig ar gyfraddau penodol.

Cyllid ychwanegol i fyfyrwyr ag AAAA

Byddwn yn darparu cyllid ychwanegol i fyfyrwyr os bydd eu darparwr AU yn dweud eu bod yn mynychu fel myfyriwr ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol neu anabledd, gan gynnwys ASN yn yr Alban ac ADY yng Nghymru.

Gallwch hawlio cymorth ar gyfer costau ychwanegol y gall y myfyrwyr hyn eu hwynebu ar leoliadau rhyngwladol.

Er enghraifft, byddwn yn ariannu ymweliadau, hyd at 3 diwrnod, lle gallai fod angen i staff neu fyfyrwyr ymweld â’r cyrchfan lletyol i gynnal gwiriadau cyn lleoliad. Rhaid i chi amlinellu pam fod angen yr arian arnoch pan fyddwch yn gwneud cais am y cynllun.

Pan fydd myfyrwyr yn derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), ni ddylech wneud cais am gostau sydd eisoes wedi’u hariannu gan DSA. Gallwch barhau i wneud cais am gymorth SEND ar gyfer costau nad ydynt yn cael eu hariannu drwy DSA.

Ni ddylech ychwaith wneud cais am gyllid SEND ychwanegol oni bai eich bod yn gofyn am gyllid ar gyfer costau nad ydynt fel arfer yn cael eu cynnwys gan y DSA, megis ymweliadau cyn symudedd.

Rydym yn argymell bod darparwyr sy’n llwyddiannus gyda’u ceisiadau yn gadael I fyfyrwyr wybod cyn gynted â phosibl fel y gallant gysylltu â’u haseswr anghenion DSA neu gorff cyllid myfyrwyr perthnasol, a rhoi gwybod iddynt fod eu lleoliad yn mynd rhagddo.

Bydd angen i chi ddangos y costau amcangyfrifedig sy’n gysylltiedig â myfyrwyr ag AAAA. Telir y rhain fel costau gwirioneddol yn hytrach nag yn seiliedig ar gyfraddau penodol.

Cymorth sefydliadol

Byddwn yn darparu cyllid i gefnogi costau gweinyddu a gweithredu.

Byddwn yn darparu £315 y myfyriwr ar gyfer y 100 myfyriwr cyntaf, a £180 y myfyriwr ar ôl hynny.

Rhaid i chi ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer y canlynol yn unig:

  • costau staffio uniongyrchol sy’n gymesur â rhedeg lleoliadau, gan gynnwys paratoi iaith a llysgenhadon myfyrwyr sy’n ymwneud â’r cynllun
  • costau sy’n gysylltiedig â phenodi sefydliad allanol (megis cwmni preifat) i weinyddu a gweithredu lleoliadau, gan gynnwys paratoi iaith
  • ffioedd archwilio allanol
  • archebion ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau paratoadol neu ar ôl lleoliad

Ni allwch ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer unrhyw weithgaredd arall, gan gynnwys:

  • hyrwyddo neu farchnata’r cynllun
  • penodi sefydliad allanol i ysgrifennu’ch cais
  • costau gwasanaeth TG fel trwyddedau, meddalwedd neu galedwedd
  • arian wrth gefn ar gyfer cyllidebau eraill neu ar gyfer argyfyngau
  • staff sy’n mynd gyda myfyrwyr ar leoliadau
  • ymweliadau staff neu fyfyrwyr i fynychu digwyddiadau gyda phartneriaid presennol neu ddarpar bartneriaid y tu mewn neu’r tu allan i’r DU

Ni allwch hawlio cymorth sefydliadol ar gyfer lleoliadau ar gampysau tramor eich sefydliad eich hun.

Gall costau staffio uniongyrchol fod yn:

  • costau tymor byr
  • rolau cyfan
  • cyfrannau o rolau cyfan, er enghraifft, os oes gan yr aelod staff gyfrifoldebau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â rhedeg lleoliadau

Bydd angen i chi gofnodi’r costau staffio oherwydd rhedeg lleoliadau yn uniongyrchol.

Pan fydd unrhyw un o’r costau cymorth sefydliadol cymwys yn cael eu talu’n uniongyrchol gan fyfyrwyr, gallwch roi’r arian iddynt, ond bydd angen i chi gasglu derbynebau.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi nodi sut y byddwch yn defnyddio cyllid cymorth sefydliadol i gefnogi’ch prosiect, gan gynnwys sut mae caffael gwasanaethau allanol yn cynrychioli gwerth am arian.

Rhaid i chi adrodd yn rheolaidd am faint o’r cyllid hwn rydych yn ei wario’n a dychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i’r Adran Addysg.

Dylech ddargadw tystiolaeth o unrhyw a bod yn barod i ddarparu dadansoddiad manwl ar gais. Gall hyn gynnwys eitemau fel:

  • derbynebau
  • dyfynbrisiau
  • cofnodion o sut mae amser staff wedi’i dreulio