Trosolwg o Gynllun Turing, 2024 i 2025
Diweddarwyd 24 Chwefror 2025
Mae Cynllun Turing yn cynnig darparwyr addysg y cyfle i wneud cais am gyllid i gefnogi eu myfyrwyr gyda lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.
Mae cyllid yn agored i sefydliadau yn y DU a thiriogaethau tramor Prydain o bob rhan o’r sector addysg a hyfforddiant, gan gynnwys:
- ysgolion
- darparwyr addysg bellach (AB)
- darparwyr addysg uwch (AU)
Mae rhagor o wybodaeth ar wneud cais am arian Cynllun Turing.
Rhaid i fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau Cynllun Turing fod yn derbyn eu haddysg neu hyfforddiant gan sefydliad cymwys yn y DU neu diriogaethau tramor Prydain.
Nid oes angen i fyfyrwyr fod yn ddinasyddion y DU i gymryd rhan. Rhaid iddynt fod wedi’u lleoli yn y DU neu diriogaeth dramor Brydeinig ac yn astudio yn y sefydliad sy’n gymwys i gael cyllid Cynllun Turing, neu’n astudio mewn sefydliad sy’n rhan o gais consortiwm.
O’r flwyddyn academaidd 2024 i 2025, bydd Cynllun Turing yn cael ei gyflwyno’n uniongyrchol gan yr Adran Addysg (DfE). Bydd sefydliad annibynnol yn asesu ceisiadau.
Pwrpas a nodau
Mae cyllid drwy Gynllun Turing yn galluogi darparwyr addysg i roi cyfle i’w myfyrwyr:
- datblygu eu sgiliau
- ennill profiad rhyngwladol
- hybu eu cyflogadwyedd
Gall myfyrwyr hefyd ddatblygu eu sgiliau iaith a dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliannau eraill.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025, mae Cynllun Turing wedi’i gynllunio i fodloni’r nodau:
- gwella sgiliau
- hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol
- sicrhau gwerth am arian
Gwella sgiliau
Dylai prosiectau Cynllun Turing gynnig cyfleoedd meithrin gyrfa a chyflawni canlyniadau addysgol cryf. Dylent roi i fyfyrwyr y sgiliau caled a meddal y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, p’un a ydynt ar lwybr academaidd neu dechnegol.
Rydym wedi diweddaru ein meini prawf cymhwysedd, fel bod cyllid yn cael ei gyfeirio at sefydliadau sydd wedi’u cofrestru a’u cydnabod i ddarparu addysg yn y DU neu diriogaethau tramor Prydain. Y sefydliadau hyn sy’n adnabod eu myfyrwyr orau a gallant greu lleoliadau sy’n ategu’r cwricwlwm addysg neu’r rhaglen hyfforddi.
Hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol
Dylai prosiectau Cynllun Turing gefnogi symudedd cymdeithasol ac ehangu cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr ar draws y DU a thiriogaethau tramor Prydain, yn arbennig ar gyfer y rhai na fyddent o bosibl yn cael y cyfle i astudio a gweithio dramor fel arall.
Mae cyllid Cynllun Turing ychwanegol ar gael i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a heb gynrychiolaeth ddigonol, a’r rhai ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol ac anableddau. Dylai darparwyr ddangos sut y bydd lleoliadau o fudd i’r myfyrwyr hynny a mynd i’r afael â rhwystrau a wynebir ganddynt yn eu ceisiadau.
Sicrhau gwerth am arian
Dylech sicrhau bod cyllid eich prosiectau Cynllun Turing yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i wella sgiliau myfyrwyr a gwella eu canlyniadau addysg.
Mae proses ymgeisio Cynllun Turing yn gwobrwyo ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut y byddant yn sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr y DU yn y ffordd y maent yn rheoli eu prosiectau.
Er mwyn helpu i sicrhau gwell gwerth am arian, rydym yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ddarparwyr o ran sut y maent yn defnyddio cyllid teithio, ac yn darparu canllawiau cliriach ar ba gostau sefydliadol y gellir eu hariannu.
Cefnogi blaenoriaethau eraill y llywodraeth
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025, gall darparwyr ennill marciau ychwanegol os ydynt yn gallu arddangos sut y gallai lleoliadau gael effaith amgylcheddol gadarnhaol, a lle gallai prentisiaid elwa o’r cynllun, ennill marciau ychwanegol.
Mae Cynllun Turing yn rhan o’n huchelgais hirdymor i gefnogi symudedd rhyngwladol myfyrwyr.
Mae’r cynllun yn:
- annog ymgysylltiad rhyngwladol a pherthnasoedd newydd
- gwella partneriaethau presennol
- helpu i feithrin perthnasoedd newydd ar gyfer y DU
Mae’n adeiladu ar nodau ehangach Prydain Fyd-eang, a Strategaeth Addysg Ryngwladol yr Adran Addysg a’r Adran Busnes a Masnach.
Darparwyr cymwys
Mae ysgolion, darparwyr AB ac AU yn gymwys i wneud cais am gyllid Cynllun Turing os ydynt:
- wedi’u cofrestru neu wedi’u cydnabod yn y DU neu diriogaethau tramor Prydain
- yn gyfrifol am ddarparu addysg neu hyfforddiant i’r myfyrwyr sy’n mynd ar leoliadau
Yn unol â chanllawiau Trysorlys EF ar reoli arian cyhoeddus a Safon Swyddogaethol y Llywodraeth ar gyfer grantiau, rhaid i ymgeiswyr fod yn ariannol hyfyw a chael y gallu cyflawni i gael eu cymeradwyo ar gyfer arian Cynllun Turing.
Ni ellir defnyddio arian Cynllun Turing tuag at weithgareddau Sefydliadau Confucius.
Partneriaethau consortiwm
Gall darparwyr addysg mewn ysgolion ac AB bartneru â darparwyr eraill o’u sector a gwneud cais am gyllid fel consortiwm. Gall nifer cyfyngedig o fathau eraill o sefydliadau ymuno â’r consortiwm os ydynt yn cyflawni’r rôl gydgysylltu.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl consortia ar gyfer ysgolion a darparwyr addysg bellach.
Cyllid sydd ar gael
Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at gostau lleoliadau addysgol rhyngwladol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe’i darperir ar sail fesul myfyriwr.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025, bydd Cynllun Turing yn darparu hyd at £110 miliwn. Byddwn yn dyrannu symiau terfynol o gyllid yn seiliedig ar:
- ansawdd y ceisiadau
- galw am y cynllun
- dosbarthu cyllid i gwrdd â diben ac amcanion y cynllun
Mae cyllid ar gael ar gyfer:
- costau teithio ar gyfer taith ddwyffordd
- cyfraniadau at gostau byw
- cefnogaeth sefydliadol
- pasbortau, ffioedd ymgeisio am fisas, brechlynnau, ardystiad meddygol ac yswiriant teithio ar gyfer myfyrwyr difreintiedig (a elwir yn gyllid parodrwydd i deithio)
- dysgu iaith i fyfyrwyr ar leoliadau AB
- cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA) – gan gynnwys myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru ac anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban
- staff sy’n mynd gyda myfyrwyr ar leoliadau ysgolion ac AB
Mae symiau ariannu gwahanol ar gael yn dibynnu ar:
- a yw myfyriwr yn yr ysgol, mewn addysg bellach neu addysg uwch
- a yw myfyriwr o gefndir difreintiedig, neu ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol neu anabledd
- lle mae’r myfyriwr yn bwriadu teithio
- pa mor hir y disgwylir i’r lleoliad barhau
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025, bydd cyllid teithio yn cael ei ddarparu ar gyfradd grant benodol ar gyfer pob cyrchfan, sy’n golygu nad oes angen i ddarparwyr gyfrifo cyfradd grant teithio unigol ar gyfer pob cyfranogwr mwyach.
Mae gan ddarparwyr fwy o hyblygrwydd na blynyddoedd blaenorol o ran sut y maent yn defnyddio cyllid teithio. Os yw’r costau gwirioneddol yn llai na’r gyfradd a awgrymwyd, gall darparwyr nawr ddefnyddio’r gwahaniaeth i dalu am gostau teithio mewn lleoliadau eraill. Ni fydd yr Adran Addysg bellach yn darparu cyllid ar gyfer teithio eithriadol o ddrud.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025, mae bellach restr ddiffiniedig o eitemau cymwys ar gyfer gwariant cymorth sefydliadol a chyllid parodrwydd i deithio ar gyfer myfyrwyr difreintiedig. Mae rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar gyfer ysgolion, darparwyr addysg bellach a darparwyr addysg uwch.
Sut y gellir defnyddio cyllid Cynllun Turing
Gan mai bwriad cyllid Cynllun Turing yw bod yn gyfraniad tuag at gost lleoliadau, gallwch hefyd roi cyllid ychwanegol i fyfyrwyr o ffynonellau eraill ar gyfer costau nad ydynt yn cael eu talu gan y cynllun.
Ni ddylid defnyddio cyllid Cynllun Turing ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi’u hariannu gan ffynhonnell arall.
Rhaid i chi adrodd yn rheolaidd faint o’r cyllid hwn rydych yn ei wario a dychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i’r DfE. Dylech gadw tystiolaeth o wario a bod yn barod i ddarparu dadansoddiad manwl o hyn ar gais.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y gall ysgolion ddefnyddio cyllid, darparwyr addysg bellach a darparwyr addysg uwch.
Cwynion
Gall darparwyr addysg, cydlynwyr consortiwm, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi rhyngweithio â ni wneud cwynion.
Gallwch gyflwyno cwynion ffurfiol i’r Adran Addysg ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw gam o’r cais neu gylch oes y prosiect drwy cysylltu â ni.