Canllawiau

Cynllun Turing: canllawiau i ysgolion

Diweddarwyd 22 March 2024

Cymhwysedd darparwyr

Mae ysgolion yn gymwys i wneud cais am gyllid Cynllun Turing.

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i ysgolion fod:

  • wedi’u cofrestru yn y DU neu diriogaethau tramor Prydain
  • yn gyfrifol am ddarparu addysg neu hyfforddiant i’r myfyriwr sy’n cymryd rhan mewn lleoliad

Dylai ysgolion yn nhiriogaethau tramor Prydain anfon e-bost at turing.scheme2024-25@education.gov.uk i gadarnhau eu cymhwysedd cyn gwneud cais.

Defnyddio gwasanaethau Cymorth allanol gan sefydliadau eraill

Gall ysgolion cymwys dalu am wasanaethau sefydliadau trydydd parti, trwy ddefnyddio cymorth sefydliadol, i’w helpu i weinyddu lleoliadau Cynllun Turing.

Efallai na fydd y sefydliadau hyn yn gymwys i wneud cais i’r cynllun eu hunain.

Dylech gynnwys manylion y perthnasoedd hyn yn eich cais.

Partneriaethau consortiwm

Gall ysgolion bartneru â’i gilydd a gwneud cais am gyllid fel consortiwm.

Rhaid i gydgysylltydd arweiniol y consortiwm:

  • cyflwyno pob cais
  • cytuno i weithredu fel llofnodwr cytundeb cyllid grant

Rhaid i gydlynydd consortiwm arweiniol fod wedi’i leoli yn y DU neu diriogaeth dramor y DU a gall fod yn:

  • darparwr addysg uniongyrchol sy’n cymryd rhan
  • ymddiriedolaeth aml-academi, ar ran ei hacademïau neu ysgolion eraill
  • awdurdod lleol, ar ran grŵp o ysgolion
  • asiantaeth weithredol y llywodraeth
  • sefydliad aelodaeth di-elw, sy’n cynrychioli darparwyr addysg uniongyrchol

Gall ysgolion ymuno â mwy nag un cais consortiwm os oes gan leoliadau nodau ac amcanion gwahanol.

Dylai unrhyw aelodau o’r consortiwm nad ydynt yn gweithredu fel cydlynwyr fod yn ysgolion sy’ncymryd rhan yn y cynllun.

Bydd angen i chi enwi pob sefydliad sy’n aelod o’r consortiwm yn eich cais.

Pwy all fynd ar leoliadau

I gymryd rhan mewn lleoliad ysgol, rhaid i fyfyrwyr fod:

  • wedi’u cofrestru gyda’r ysgol sy’n eu hanfon ac yn cymryd rhan mewn addysg gynradd i uwchradd
  • o leiaf 4 oed

Rhaid i fyfyrwyr ar leoliadau ysgol am fwy na 2 fis fod yn 14 oed o leiaf.

Rydym yn ariannu staff sy’n mynd gyda myfyrwyr ysgol ar leoliadau, lle bo angen. Bydd gofyn i chi nodi nifer y staff sydd eu hangen ar gyfer eich lleoliadau yn eich cais. Dylai’r gymhareb myfyrwyr i staff fod yn gymesur â niferoedd ac oedran y myfyrwyr sy’n mynd ar y lleoliad a’r asesiad risg.

Mae staff sy’n dod gyda myfyrwyr yn amodol ar yr un gofynion ynghylch hyd lleoliad â myfyrwyr. Os ydych yn dymuno cyfnewid un aelod staff amun arall o staff ran o’r ffordd drwy leoliad, dim ond am yr hyn sy’n cyfateb i un aelod o staff y gallwch hawlio cyllid.

Recriwtio myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Rhaid i chi ddangos sut y byddwch yn recriwtio ac yn cefnogi cyfranogwyr o grwpiau a dangynrychiolir a chefndiroedd difreintiedig.

Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar gyfer y cynllun yn cynnwys:

  • lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys lleiafrifoedd gwyn
  • pobl ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau (AAAA) – mae hyn yn cynnwys pobl ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru a phobl ag anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban

Lleoliadau

Rhaid i leoliadau arwain at ddeilliannau mewn addysg a datblygu sgiliau sydd o fudd i gyrhaeddiad y myfyriwr a rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Rhaid iddynt ddigwydd yn ystod blwyddyn academaidd, rhwng 1 Medi a 31 Awst.

Hyd lleoliadau

Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn lleoliadau tymor byr neu hirdymor. Ym mhob lleoliad, dylai myfyrwyr dreulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr ystafell ddosbarth, yn gweithio gyda myfyrwyr eraill i gefnogi eu dysgu a’u datblygiad.

Lleoliadau tymor byr: 3 diwrnod i 2 fis

Gall myfyrwyr ar leoliadau tymor byr deithio gyda’u hathrawon ac astudio gyda myfyrwyr o ysgol mewn cyrchfan arall.

Lleoliadau tymor hir: 2 i 6 mis

Gall myfyrwyr dros 14 oed wneud lleoliad tymor hwy, gan fynychu gwersi a byw gyda theulu lletyol.

Lle gall myfyrwyr fynd

Rhaid i fyfyrwyr fynd i ysgolion nad ydynt yn perthyn i’r DU, neu yn achos ymgeiswyr o diriogaethau tramor Prydain, ysgolion y tu allan i’r diriogaeth dramor Prydeinig dan sylw.

Rhaid iddo fod yn sefydliad sy’n darparu addysg gyffredinol, alwedigaethol neu dechnegol ar unrhyw lefel o addysg gynradd i addysg uwchradd.

Gall lleoliadau ddigwydd mewn unrhyw gyrchfan neu diriogaeth, ond rhaid i chi ddilyn cyngor teithio tramor swyddogol.

Cyllid

Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at gostau lleoliadau addysgol rhyngwladol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe’i darperir ar sail fesul myfyriwr.

Mae cyllid ar gael i staff sy’n hebrwng I hebrwng myfyrwyr lle bo angen fel rhan o ddiogelu neu ddyletswydd gofal.

Ni ddylech ddefnyddio cyllid Cynllun Turing tuag at unrhyw gostau sydd eisoes wedi’u cynnwys gan ffynhonnell arall o gyllid.

Cyllid teithio

Bydd yr Adran Addysg (DfE) yn darparu cyllid tuag at gostau teithio uniongyrchol i leoliad ar gyfer un daith ddwyffordd gan gynnwys trosglwyddiadau.

Bydd grantiau teithio ar gael i bob myfyriwr o’r sector ysgolion. Byddwn hefyd yn ariannu costau teithio aelodau o staff sy’n mynd gyda nhw.

Byddwn yn darparu cyllid ar gyfer pob myfyriwr, yn seiliedig ar gyfradd grant teithio ar gyfer pob cyrchfan.Ceir rhestr o gyrchfannau a chyfraddau grant.

Os yw’r gost deithio’n is na’r gyfradd a awgrymwyd, gallwch nawr ddefnyddio’r gwahaniaeth ar gyfer costau teithio mewn lleoliadau eraill.

Ni fyddwn bellach yn darparu cyllid ar gyfer teithio eithriadol o ddrud.

Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth o gostau teithio gwirioneddol.

Mae’n rhaid i chi:

  • sicrhau nad yw cyfanswm yr hawliadau teithio yn fwy na’r swm a ganiateir
  • dychwelyd unrhyw gyllid teithio nad yw’n cael ei wario ar weithgarwch teithio cymwys i’r Adran Addysg

Cyfraniad at gostau byw

Byddwn yn darparu cyllid i helpu gyda chostau byw bob dydd ar gyfer pob myfyriwr ac aelodau staff sy’n mynd gyda nhw.

Mae’r swm y gall pob myfyriwr ei dderbyn yn dibynnu ar y grŵp mae’r cyrchfan ynddo. Mae grwpiau yn seiliedig ar asesiad o gostau byw cyffredinol yn y cyrchfannau hynny:

  • grŵp 1 – costau byw uwch
  • grŵp 2 – costau byw is

Mae gwybodaeth am gyrchfannau ym mhob grŵp ar gael yn y rhestr o gyrchfannau a chyfraddau grant.

Y cyllid y byddwn yn ei ddarparu yw:

Hyd y lleoliad Grŵp 1 Grŵp 2
14 diwrnod cyntaf £55 y dydd £50 y dydd
Ar ôl 14 diwrnod £40 y dydd £35 y dydd

Cyllid ychwanegol i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig

Gall myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn cyllid ychwanegol. Bydd angen i chi nodi’r grwpiau difreintiedig yr ydych yn bwriadu eu cefnogi yn eich cais.

Yn gyffredinol, rydym yn diffinio’r myfyrwyr hyn fel pobl sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol:

  • rhywun ag incwm cartref blynyddol o £25,000 neu lai
  • rhywun fu â’r hawl i gael prydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn y 6 blynedd diwethaf oherwydd ei fod mewn cartref incwm isel
  • rhywun sydd â phrofiad o fod mewn gofal neu sy’n gadael gofal
  • gan gynnwys unrhyw un sydd neu sydd wedi bod mewn gofal, neu o gefndir derbyn gofal, ar unrhyw adeg o’u bywyd
  • ffoadur neu geisiwr lloches
  • rhywun sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm eu hunain, neu’n byw gyda rhywun sydd yn ei dderbyn

Nid yw derbyn prydau ysgol am ddim yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2 yn Lloegr neu gynradd 1 i 5 yn yr Alban yn bodloni’r meini prawf yn awtomatig ar gyfer cyllid ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Os byddwch yn nodi myfyrwyr nad ydynt yn bodloni’r diffiniadau hyn yn union ond sy’n rhannu nodweddion tebyg sy’n cyfiawnhau cymorth ychwanegol, gallwch eu cynnwys yn eich cais.

Byddwn yn adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ar gyfer blynyddoedd y cynllun yn y dyfodol.

Cyllid parodrwydd i deithio

Byddwn yn darparu cyllid i helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i baratoi i deithio.

Rhaid i chi ddefnyddio cyllid parodrwydd i deithio dim ond ar gyfer:

  • pasbortau
  • ymgeisio am fisa a chostau cysylltiedig rhesymol megis dogfennau wedi’u cyfieithu a thystysgrifau’r heddlu
  • brechlynnau
  • yswiriant teithio
  • tystysgrifau meddygol

Dylech wneud cais gan ddefnyddio costau gwirioneddol amcangyfrifedig sy’n gysylltiedig â’r eitemau. Byddant yn cael eu talu fel costau gwirioneddol yn hytrach na chyfraddau penodol.

Cyllid ychwanegol i fyfyrwyr ag AAAA

Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i fyfyrwyr os yw eu hysgol yn dweud eu bod yn mynychu fel myfyriwr ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol neu anabledd, gan gynnwys ASN yn yr Alban ac ADY yng Nghymru.

Gallwch hawlio cymorth ar gyfer costau ychwanegol y gall y myfyrwyr hyn eu hwynebu ar leoliadau rhyngwladol.

Er enghraifft, byddwn yn ariannu ymweliadau, hyd at 3 diwrnod, lle gallai fod angen i staff neu fyfyrwyr ymweld â’r cyrchfan lletyol i gynnal gwiriadau cyn lleoliad. Rhaid i chi amlinellu pam fod angen yr arian arnoch pan fyddwch yn gwneud cais am y cynllun.

Dylech wneud cais gan ddefnyddio’r costau arfaethedig sy’n gysylltiedig â myfyrwyr ag AAAA. Telir y rhain fel costau gwirioneddol, yn hytrach na seiliedig ar gyfraddau penodol.

Cymorth sefydliadol

Byddwn yn darparu cyllid i gefnogi costau gweinyddu a gweithredu.

Byddwn yn darparu £315 y myfyriwr ar gyfer y 100 myfyriwr cyntaf, a £180 y myfyriwr ar ôl hynny.

Rhaid i chi ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer y canlynol yn unig:

  • costau staffio uniongyrchol sy’n gymesur â rhedeg lleoliadau, gan gynnwys paratoi iaith ac unrhyw lysgenhadon myfyrwyr sy’n ymwneud â’r cynllun
  • costau sy’n gysylltiedig â phenodi sefydliad allanol (megis cwmni preifat) i weinyddu a gweithredu lleoliadau gan gynnwys paratoi iaith
  • ffioedd archwilio allanol
  • darpariaeth cyflenwi
  • archebion ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau paratoadol neu ar ôl lleoliad

Ni allwch ddefnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer unrhyw weithgaredd arall, gan gynnwys:

  • hyrwyddo neu farchnata’r cynllun
  • penodi sefydliad allanol i ysgrifennu’ch cais
  • costau gwasanaeth TG fel trwyddedau, meddalwedd neu galedwedd
  • arian wrth gefn ar gyfer cyllidebau eraill, neu ar gyfer argyfyngau
  • staff sy’n mynd gyda myfyrwyr ar leoliadau
  • ymweliadau staff neu fyfyrwyr i fynychu digwyddiadau gyda phartneriaid presennol neu ddarpar bartneriaid y tu mewn neu’r tu allan i’r DU

Ni allwch hawlio cymorth sefydliadol ar gyfer lleoliadau ar gampysau tramor eich sefydliad eich hun.

Gall costau staffio uniongyrchol fod yn:

  • gostau tymor byr,
  • rolau cyfan -cyfrannau o rolau cyfan, er enghraifft, os oes gan yr aelod staff gyfrifoldebau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â rhedeg lleoliadau

Bydd angen i chi gofnodi’r costau staffio oherwydd rhedeg lleoliadau’n uniongyrchol.

Pan fydd unrhyw un o’r costau cymorth sefydliadol cymwys yn cael eu talu’n uniongyrchol gan fyfyrwyr, gallwch roi’r arian iddynt, ond bydd angen i chi gasglu derbynebau.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi nodi sut y byddwch yn defnyddio cyllid cymorth sefydliadol ar gyfer eich prosiect, gan gynnwys sut mae caffael gwasanaethau allanol yn cynrychioli gwerth am arian.

Rhaid i chi adrodd yn rheolaidd am faint o’r cronfeydd hyn rydych yn ei wario a dychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i’r Adran Addysg.

Dylech ddargadw tystiolaeth o unrhyw wariant a bod yn barod i ddarparu dadansoddiad manwl ar gais. Gall hyn gynnwys eitemau fel:

  • derbynebau
  • dyfynbrisiau
  • cofnodion o sut mae amser staff wedi’i dreulio