Canllawiau

Llofruddiaeth a Dynladdiad Dramor: Canllaw Gwybodaeth i Deuluoedd ar gyfer Cymru a Lloegr

Diweddarwyd 12 Ionawr 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Os ydych chi’n aelod o deulu sydd wedi cael profedigaeth oherwydd llofruddiaeth neu ddynladdiad dramor, gallwch gael cymorth yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cymorth gan wasanaethau sy’n cefnogi dioddefwyr. Mae’r canllaw hwn yn egluro beth sydd ar gael i bobl sy’n byw yng Nghymru neu Loegr.

Yn berthnasol i Gymru a Lloegr: Gwybodaeth am yr Alban

Trosolwg  

Mae’r canllaw hwn ar gyfer dioddefwyr ac aelodau o’r teulu sydd wedi colli rhywun annwyl oherwydd llofruddiaeth neu ddynladdiad dramor. Mae’n amlinellu’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu i ymdopi â’r cyfnod anodd hwn. Mae pob gwlad yn trin ymchwiliadau’n wahanol, ond mae gwasanaethau penodol yng Nghymru a Lloegr i roi cymorth i chi pan fydd aelod o’r teulu’n cael ei ladd drwy lofruddiaeth neu ddynladdiad dramor. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi. Bydd y Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu (FCDO) yn neilltuo rheolwr achos penodol i chi o dîm arbenigol i’ch tywys drwy gyfnod a all fod yn un cymhleth a gofidus iawn. Bydd eich rheolwr achos yn rhoi gwybodaeth a chymorth i chi sy’n berthnasol i’r wlad lle bu farw aelod o’ch teulu. Byddan nhw’n eich cefnogi chi cyhyd ag y bydd angen.  

Mae’r canllaw hwn yn nodi: 

  • Adran 1: Beth i’w ddisgwyl ar y dechrau   

  • Adran 2: Cymorth i ddelio â’r cyfnod anodd hwn 

I bwy ddylwn i ofyn am gymorth? 

Dylech gysylltu â’r FCDO os ydych wedi cael gwybod bod aelod o’ch teulu wedi marw drwy lofruddiaeth neu ddynladdiad dramor, drwy ffonio’r llinell gymorth 24/7 ar +44 (0)20 7008 5000 a dewis yr opsiwn: ‘Gwasanaethau conswl i wladolion Prydain’.  

Adran 1 - Beth allwch ei ddisgwyl ar y dechrau 

Mae gwasanaethau penodol yng Nghymru a Lloegr ar gael i’ch cefnogi pan fydd aelod o’r teulu’n cael ei ladd drwy lofruddiaeth neu ddynladdiad dramor. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth wedi’i deilwra sy’n diwallu eich anghenion penodol drwy’r Gwasanaeth Lladdiadau. Bydd cymorth ar gael i chi a’ch teulu cyhyd ag y bydd ei angen arnoch. 

Beth ddylwn i ei wneud ar ôl cael gwybod bod aelod o fy nheulu wedi cael ei ladd drwy lofruddiaeth neu ddynladdiad dramor? 

Mae’n bwysig eich bod mewn cysylltiad â’r FCDO i gael gwybodaeth gan yr awdurdodau yn y wlad lle mae eich anwylyd wedi marw. Yn dibynnu ar sut rydych chi wedi cael y newyddion yma, efallai eich bod chi mewn cysylltiad â nhw’n barod. Os nad ydych chi, neu os nad ydych chi’n siŵr, dylech gysylltu â’r FCDO drwy ffonio +44 (0)20 7008 5000, gan ddewis yr opsiwn: ‘Gwasanaethau conswl i wladolion Prydain’. Byddwch yn cael siarad â’r tîm 24/7 yng Nghanolfan Gyswllt y Conswl.

Mae’r FCDO yn cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau perthnasol ar ei wasanaethau conswl, gan gynnwys mewn achosion o lofruddiaeth neu ddynladdiad.

Beth sy’n digwydd ar ôl i aelod o’m teulu gael ei ladd drwy lofruddiaeth neu ddynladdiad dramor?  

Ar ôl i chi gysylltu â’r FCDO, bydd eich rheolwr achos dynodedig yn cysylltu â chi i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnoch chi a’ch teulu, a byddant yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth sydd ganddynt gan awdurdodau’r wlad dramor.  

Gallwch ddisgwyl iddynt gyflwyno’u hunain, esbonio sut y gallant eich cefnogi a rhannu gwybodaeth bwysig am yr hyn i’w ddisgwyl.  

Sut gall fy rheolwr achos FCDO helpu?  

Bydd eich rheolwr achos yn: 

  • Gweithio gyda chi i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnoch yn y tymor byr, amlinellu unrhyw gamau ymarferol y mae angen i chi eu cymryd a rhoi arweiniad i chi ar unrhyw benderfyniadau y mae angen eu gwneud. 

  • Rhoi gwybodaeth i chi am ddod â chorff yr aelod o’ch teulu yn ôl i Gymru neu Loegr (gelwir hyn yn ‘dychwelyd i’r famwlad’), neu opsiynau eraill y gallech ddymuno eu hystyried, fel claddu neu amlosgi dramor.  

  • Esbonio sut mae’r broses gyfreithiol ac ymchwilio yn gweithio yn y wlad berthnasol. 

  • Cytuno sut i gadw mewn cysylltiad mewn ffordd sy’n gweithio i chi - boed hynny dros y ffôn, e-bost, galwad fideo neu wyneb yn wyneb. Gallwch newid y dewis hwn ar unrhyw adeg.  

Gall fod llawer o benderfyniadau i’w gwneud, ac rydych yn debygol o gael llawer o wybodaeth. Os yw’n bosibl, efallai y byddwch am i aelod o’r teulu neu ffrind eich helpu i reoli diweddariadau a gwneud penderfyniadau.   

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar-lein am Wasanaethau proffesiynol os ydych chi dramor.  

Beth yw’r Gwasanaeth Lladdiadau?  

Mae hwn yn wasanaeth cymorth arbenigol a ddarperir gan yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr, i sicrhau bod aelodau cymwys o’r teulu’n cael cymorth priodol yn dilyn lladdiad. 

Pwy sy’n gymwys i gael cymorth gan y Gwasanaeth Lladdiadau a sut mae cael gafael arno?

Er bod yn rhaid i’r ymadawedig fod yn Wladolyn Prydeinig, nid oes rhaid i chi fod yn Wladolyn Prydeinig i gael cymorth gan y gwasanaeth. Fodd bynnag, rhaid i chi fyw yng Nghymru neu Loegr a bod yn un o’r canlynol: 

  1. priod, partner, partner sifil, rhiant, plentyn, brawd neu chwaer, llys-riant, llysblentyn, llysfrawd neu lyschwaer neu’n ddibynnydd y dioddefwr.
  2. aelod arall o’r teulu os nad oes neb sy’n bodloni’r meini prawf uchod.
  3. gofalwr i’r dioddefwr cyn eu marwolaeth; a/neu
  4. ofalwr (naill ai cyn neu oherwydd y farwolaeth) i un neu fwy o ddibynyddion y dioddefwr.

Gallwch siarad â’ch rheolwr achos FCDO unrhyw bryd i gael eich cyfeirio at y Gwasanaeth Lladdiadau (hyd yn oed flynyddoedd ar ôl y farwolaeth). Gallwch hefyd hunangyfeirio drwy ffonio’r rhif hwn ar 0300 303 1984.  

Os cewch eich cyfeirio at y Gwasanaeth Lladdiadau, neu unwaith y byddwch yn hunangyfeirio, bydd gweithiwr achos o’r gwasanaeth yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith i’r atgyfeiriad. Os yw hynny’n teimlo’n rhy fuan, gallwch ofyn am oedi. 

Sut gall y Gwasanaeth Lladdiadau fy helpu i?  

Gallwch gael cymorth am ddim gan y gwasanaeth hwn, ni waeth pryd y digwyddodd y farwolaeth. Bydd gweithiwr achos y Gwasanaeth Lladdiadau yn gweithio gyda chi i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnoch, a gallwch aros yn y gwasanaeth cyhyd ag y bydd ei angen arnoch. Os byddwch yn penderfynu gadael y gwasanaeth, gallwch ddod yn ôl unrhyw bryd. 

Ar ôl i chi ddioddef colli aelod o’r teulu, drwy laddiad (llofruddiaeth neu ddynladdiad) dramor, yn aml mae llawer i feddwl amdano a gall y Gwasanaeth Lladdiadau helpu gyda hyn.

Mae’r cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaeth Lladdiadau yn seiliedig ar angen a gall gynnwys: 

  • Cymorth emosiynol ac ymarferol gan weithiwr achos sydd wedi cael hyfforddiant trawma.
  • Eiriolaeth - rhywun i siarad ar eich rhan neu i’ch helpu i siarad drosoch eich hun a helpu gyda materion fel llety, cyllid, cyflogaeth, lles ac addysg.
  • Gwybodaeth a chyngor ar sut i ddelio â sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
  • Cefnogaeth gan gymheiriaid - eich cysylltu chi ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.
  • Cymorth ariannol lle bo angen i gael mynediad at rai o’r gwasanaethau proffesiynol y gallai fod eu hangen ar deuluoedd.
  • Cwnsela neu therapi.

Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaeth Lladdiadau wedi’i chynnwys yn adrannau perthnasol y canllawiau hyn a bydd yn rhoi darlun llawnach i chi o sut y gallant helpu.

Adran 2: Cymorth i ddelio â’r cyfnod anodd hwn  

Eich prif bwyntiau cyswllt fydd eich rheolwr achos FCDO penodol, ac os ydych chi wedi cael eich cyfeirio, eich gweithiwr achos yn y Gwasanaeth Lladdiadau.  

Efallai y bydd angen cymorth arnoch gan weithwyr proffesiynol fel cyfreithwyr, cyfieithwyr neu drefnwyr angladdau yn y wlad lle digwyddodd y farwolaeth. 

Efallai y bydd sefydliadau eraill fel yr heddlu yng Nghymru a Lloegr a’r Crwner hefyd yn rhan o amgylchiadau penodol, er enghraifft os bydd yr achos yn mynd i’r llys yn y wlad hon neu os bydd cwest. Maen nhw’n deall pa mor anodd y gall y cyfnod hwn fod i chi a’ch teulu a byddan nhw’n gweithio gyda’i gilydd i wneud pethau mor ddidrafferth â phosibl. Mae’r sefydliadau hyn wedi cytuno ar sut y byddant yn gweithio gyda’i gilydd i’ch cefnogi - gallwch ddarllen y cytundeb hwn yma.  

Pa gymorth parhaus y gallaf ei ddisgwyl gan yr FCDO?  

Gall eich rheolwr achos FCDO barhau i’ch cefnogi cyhyd ag y bydd arnoch chi a’ch teulu ei angen. Lle bo’n bosibl, gall y cymorth hwn gynnwys: 

  • Rhoi cyngor ar arferion lleol a beth i’w ddisgwyl yn y wlad lle digwyddodd y farwolaeth.
  • Gwneud atgyfeiriad er mwyn i chi allu cael cymorth ym meysydd awyr y DU, os oes angen i chi deithio dramor, i wneud y daith yn haws.
  • Yr opsiwn i gwrdd â swyddog y conswl yn y llysgenhadaeth neu’r conswl Prydeinig agosaf.
  • Helpu i drefnu cyfarfod gyda’r heddlu lleol neu awdurdod ymchwilio’r wlad lle digwyddodd y farwolaeth.
  • Darparu rhestr o gyfreithwyr Saesneg eu hiaith sy’n gweithio yn system gyfreithiol y wlad honno, neu sy’n ei deall.
  • Darparu rhestrau o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd.
  • Cefnogaeth wyneb yn wyneb i fynychu unrhyw dreial sy’n digwydd dramor, gan gynnwys cael swyddog FCDO gyda chi ar y diwrnod cyntaf a’r diwrnod olaf, a phan roddir y rheithfarn.
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar sut i reoli diddordeb y cyfryngau ar unrhyw gam o ymchwiliad, ac os oes angen, rhyddhau datganiad cyhoeddus.

Beth os nad ydw i’n siarad yr iaith?  

Gall deall beth sy’n digwydd mewn system gyfiawnder arall dramor fod yn anodd iawn os nad yw hyn yn yr iaith rydych chi’n ei siarad. Gallwch gael gafael ar gymorth cyfieithu drwy’r Gwasanaeth Lladdiadau, i’ch helpu i ddeall beth sy’n digwydd gydag achos yr aelod o’ch teulu, neu ddod o hyd i wasanaeth cyfieithu gan ddefnyddio rhestr FCDO o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Saesneg eu hiaith dramor.

Beth os wyf angen cyfieithu gwybodaeth?  

Ystyr cyfieithu yw newid gwybodaeth ysgrifenedig o un iaith i’r llall, gan gadw’r ystyr yr un fath. 

Gall y Gwasanaeth Lladdiadau drefnu i ddogfennau sy’n ymwneud â’r broses cyfiawnder troseddol gael eu cyfieithu a gwneud cyfraniad ariannol tuag at gyfieithu’r dogfennau hyn. 

Gallwch ddod o hyd i wasanaethau cyfieithu ar gyfer yr iaith sydd ei hangen arnoch yma: Gwasanaethau proffesiynol os ydych dramor. 

Os oes cwest yng Nghymru neu Loegr, gellir cyfieithu’r dogfennau a dderbyniwch os oes angen - gwneir hyn drwy’r crwner. 

A allaf gael cyfieithydd ar y pryd? 

Mae cyfieithydd ar y pryd yn rhywun sy’n helpu pobl sy’n siarad ieithoedd gwahanol i ddeall ei gilydd drwy gyfieithu geiriau llafar mewn amser real.  

Ni all eich rheolwr achos FCDO ddarparu cyfieithydd ar y pryd ar eich cyfer. Efallai y bydd y Gwasanaeth Lladdiadau yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gyfieithydd ar y pryd gan eu cyflenwr cymeradwy, a thalu amdano. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gyfieithwyr ar y pryd ar gyfer yr iaith sydd ei hangen arnoch yma: Gwasanaethau proffesiynol os ydych dramor.

A oes angen cyfreithiwr arnaf dramor? 

Nid yw’n bosibl gwybod faint o amser y gall ymchwiliad neu achos cyfreithiol dramor ei gymryd. Gallech ystyried penodi cyfreithiwr lleol i’ch cefnogi drwy’r broses gyfreithiol. 

Bydd eich rheolwr achos FCDO yn eich helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl ac yn rhoi rhestr o gyfreithwyr lleol i chi.  

A allaf gael cymorth ariannol? 

Os yw eich aelod o’ch teulu’n cael ei ladd drwy lofruddiaeth neu ddynladdiad dramor, efallai y byddwch am deithio i’r wlad neu dalu am gymorth ychwanegol, fel cyfieithu neu gyngor cyfreithiol. Gall hyn roi pwysau ariannol annisgwyl arnoch chi ar adeg sydd eisoes yn anodd. Ni all Llywodraeth y DU dalu’r costau hyn yn uniongyrchol, ond mae cymorth ar gael i’ch helpu i ddeall pa gymorth ariannol sydd ar gael, gan gynnwys gan y Gwasanaeth Lladdiadau.  

Pa gymorth neu gyngor ariannol y gall y Gwasanaeth Lladdiadau ei gynnig?  

Bydd y Gwasanaeth Lladdiadau yn gweithio gyda chi i drafod eich anghenion unigol er mwyn iddynt allu darparu’r cymorth cywir, gan gynnwys o bosibl ddarparu cymorth ariannol gyda’r canlynol: 

  • Adnabod a dod â chorff eich aelod o’ch teulu adref (dychwelyd i’r famwlad).
  • Teithio hanfodol i’r wlad os oes angen i chi ymweld am resymau sy’n gysylltiedig â phrosesau cyfiawnder troseddol.
  • Cyngor cyfreithiol yn ymwneud â’r ymchwiliad troseddol a’r treial.
  • Sicrhau bod dogfennau’n cael eu cyfieithu i’r Saesneg neu i iaith arall rydych chi’n ei deall.

Weithiau, bydd yr awdurdodau yn y wlad lle digwyddodd y llofruddiaeth neu’r dynladdiad yn talu am rai costau. Os oedd yr aelod o’ch teulu yn teithio i’r gwaith, efallai y bydd ei gyflogwr yn talu’r costau hyn, neu efallai y bydd gan aelod o’ch teulu yswiriant teithio. Os nad yw’r opsiynau hyn ar gael, gall y Gwasanaeth Lladdiadau helpu. 

Nid oes prawf modd ar gyfer cymorth ariannol gan y Gwasanaeth Lladdiadau, ond dim ond costau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r llofruddiaeth neu’r dynladdiad y gellir eu hystyried. Dylech siarad â’ch gweithiwr achos ynghylch pa gymorth sydd ar gael i chi. 

Pa gyngor all yr FCDO ei gynnig?

Gall eich rheolwr achos gynnig cyngor ynghylch a yw awdurdodau’r wlad dramor yn cynnig unrhyw gymorth ariannol i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. 

Pa gymorth y gallaf ei ddisgwyl wrth drefnu claddedigaeth, angladd, amlosgiad neu ddod ag aelod o’m teulu adref ar ôl iddynt farw dramor?  

Gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau am gorff yr aelod o’ch teulu, gan gynnwys eu trefniadau angladd ar gyfer claddu neu amlosgi, yn enwedig os digwyddodd y farwolaeth dramor. Mae gan bob gwlad ei phrosesau i’w dilyn, a gall rheolau fod yn wahanol yn dibynnu ar ble digwyddodd y farwolaeth.  

Bydd eich rheolwr achos FCDO a gweithiwr achos y Gwasanaeth Lladdiadau yn egluro eich opsiynau, yn eich tywys drwy arferion lleol, ac yn eich cefnogi i wneud y penderfyniad sy’n teimlo’n iawn i chi a’ch teulu. 

Dim ond os bydd yr aelod o’ch teulu’n dychwelyd i’r DU a heb ei amlosgi y gellir cael proses y crwner yn y DU.

Beth allaf ei ddisgwyl gan yr FCDO?

Bydd eich rheolwr achos yn:  

  • Esbonio’r opsiynau ar gyfer dychwelyd i’r famwlad (dod â chorff yr aelod o’ch teulu adref) neu sut i drefnu angladd yn y wlad lle digwyddodd y farwolaeth. Byddant hefyd yn dweud wrthych pa ddogfennau fydd eu hangen arnoch ac yn rhannu manylion gwasanaethau angladdau lleol.
  • Esbonio rôl y crwner os deuir â’r aelod o’ch teulu yn ôl i Gymru neu Loegr.
  • Eich helpu i gael eiddo yr aelod o’ch teulu yn ôl, os yw’n bosibl.

Beth i’w ofyn i’r FCDO?  

  • Beth sydd angen i mi ei wneud i ddod â chorff yr aelod o’m teulu yn ôl i Gymru neu Loegr?
  • Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn dychwelyd corff yr aelod o’m teulu yn ôl i Gymru neu Loegr?
  • Beth os yw’r aelod o’m teulu eisoes wedi cael ei gladdu neu ei amlosgi dramor? Sut bydd hyn yn effeithio ar broses y crwner yn y DU?
  • Pa ddogfennau sydd eu hangen ar gyfer dychwelyd i’r famwlad?
  • Allwch chi roi manylion cyswllt trefnydd angladdau rhyngwladol i mi?
  • Beth yw’r opsiynau ar gyfer claddu neu amlosgi yn y wlad lle digwyddodd y farwolaeth?
  • Allwch chi fy helpu i gael cyfieithiad Saesneg o’r dystysgrif marwolaeth?

Beth allaf ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Lladdiadau?

Bydd eich gweithiwr achos Gwasanaeth Lladdiadau yn:   

  • Eich cefnogi’n emosiynol drwy’r broses o ddychwelyd i’r famwlad a/neu’r angladd.
  • Trafod opsiynau ar gyfer cymorth ariannol i ddychwelyd corff yr aelod o’ch teulu i’r famwlad, os yw eu corff i gael ei ddychwelyd i Gymru neu Loegr. Gwneir penderfyniadau ar helpu gyda’r costau hyn fesul achos, a byddant yn ystyried ffynonellau cyllid eraill fel awdurdodau yn y wlad neu yswiriant teithio.

Beth i’w ofyn i’r Gwasanaeth Lladdiadau:  

  • A allwch fy helpu i gysylltu â’r cwmni yswiriant?
  • Sut gallwch chi fy helpu i ddod â chorff yr aelod o’m teulu yn ôl?
  • Sut gallwch chi fy helpu i drefnu angladd dramor?
  • Pa gymorth ariannol allwch chi ei gynnig i’m helpu?

Camau y gallwch chi eu cymryd:  

  • Mae’r penderfyniad terfynol ynghylch dychwelyd corff yr aelod o’ch teulu i’r famwlad yn nwylo’r perthynas agosaf (aelod o’r teulu e.e. priod, rhiant, plentyn sy’n oedolyn).
  • Os byddwch yn dewis dychwelyd i’r famwlad, bydd angen i chi benodi trefnydd angladdau rhyngwladol i helpu gyda’r trefniadau. Efallai y bydd y Gwasanaeth Lladdiadau hefyd yn gallu eich cefnogi i drefnu hyn. Gweler Gwasanaethau proffesiynol os ydych dramor.
  • Os ydych chi’n trefnu angladd gartref, bydd angen i chi hefyd benodi trefnydd angladdau sy’n lleol i’ch cartref.
  • Holwch a oedd gan yr aelod o’ch teulu bolisi yswiriant teithio, oherwydd gallai’r polisi gynnwys opsiynau ar gyfer cymorth ariannol.

Beth i’w ofyn i’r trefnwyr angladdau rhyngwladol?  

  • Pwy fydd fy mhrif bwynt cyswllt a sut gallaf eu cyrraedd?
  • Pa gamau sy’n gysylltiedig â dychwelyd fy aelod o’m teulu yn ôl i Gymru neu Loegr?
  • Pa ddogfennau sydd eu hangen gennyf fi ac awdurdodau lleol?
  • Pa mor hir mae’r broses yn ei gymryd fel arfer?
  • A oes unrhyw ffioedd neu gostau ychwanegol y dylwn eu disgwyl?
  • A fyddwch yn siarad yn uniongyrchol â threfnwyr angladdau Cymru neu Loegr neu’r gwasanaeth conswl?

Beth yw crwner?

Pan fydd corff yn dychwelyd i Gymru a Lloegr, efallai y bydd angen i grwner ymwneud â hyn.

Mae crwner yn farnwr annibynnol sy’n ymchwilio i farwolaethau sy’n annaturiol neu’n dreisgar, lle nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu lle digwyddodd y farwolaeth yng nghadwraeth y wladwriaeth. Dim ond os yw corff yn bresennol yng Nghymru a Lloegr y gallant ymchwilio i farwolaethau.

Rôl y crwner yw canfod pwy fu farw, sut, pryd a ble. Gall yr ymchwiliad gynnwys gwrandawiad llys o’r enw cwest.

Nid yw’r crwner yn penderfynu a oes unrhyw un yn euog o drosedd, ar fai am y farwolaeth, neu a oes gan unrhyw un atebolrwydd sifil (er enghraifft, y dylent dalu iawndal). Ni all crwneriaid gynnal ymchwiliadau mewn gwledydd eraill na gwneud i dystion o dramor ddod i roi tystiolaeth.

Bydd eich prif gyswllt â’r crwner drwy swyddog y crwner sy’n aelod o staff sy’n gweithio i’r crwner, a bydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac yn rhoi gwybod i chi am y cynnydd. Canllaw i wasanaethau crwneriaid - GOV.UK  

Beth allwch ei ddisgwyl gan y crwner:

Os bydd corff yr aelod o’ch teulu’n cael ei ddychwelyd i Gymru neu Loegr, bydd y crwner yn penderfynu’n gyntaf a oes gofyniad cyfreithiol arno i ymchwilio i’r farwolaeth. Mewn achosion o laddiad ymddangosiadol neu wedi’i gadarnhau, mae’n debygol iawn y bydd y crwner yn cael gwybod am y farwolaeth. Os yw’r aelod o’ch teulu wedi’i gladdu dramor neu os mai dim ond ei lwch sy’n cael ei ddychwelyd i Gymru neu Loegr, ni fydd angen i grwner yng Nghymru neu Loegr ymwneud â’r achos.  

Beth fydd yn digwydd os bydd crwner yn rhan o’r achos? 

Pan fydd crwner yn cael ei hysbysu am farwolaeth, bydd swyddfa’r crwner yn cysylltu â chi i egluro’r broses. 

Fel rhan o hyn, bydd gan y crwner yr hyn a elwir yn ‘rheolaeth gyfreithiol’ dros gorff yr aelod o’ch teulu nes bydd eu swyddogaethau fel crwner yn dod i ben. Mae hyn yn sicrhau bod y broses yn deg ac yn annibynnol.

Efallai y bydd y crwner yn gofyn am archwiliad post-mortem o’r aelod o’ch teulu sydd wedi marw i’w helpu i ganfod achos y farwolaeth.  

Cynhelir archwiliad post-mortem gan batholegydd, sy’n feddyg arbenigol. Os bydd angen post-mortem, caiff ei gynnal cyn gynted â phosibl ar ôl marwolaeth yr aelod o’ch teulu. Bydd corff yr aelod o’ch teulu yn cael gofal mewn corffdy cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn.    

Fel arfer, bydd y crwner yn dweud wrthych pryd a ble y bydd y post-mortem yn digwydd. Mae gennych hawl i ofyn i feddyg eich cynrychioli mewn post-mortem.  

Lle bynnag y bo modd, bydd crwneriaid yn ystyried eich ffydd a’ch arferion diwylliannol. Byddant hefyd yn trafod yr opsiynau sydd ar gael os bydd angen i’r patholegydd gadw samplau o gorff yr aelod o’ch teulu.   

Ar ôl i’r crwner gwblhau eu hymchwiliadau, byddant yn trefnu i gorff yr aelod o’r teulu gael ei ddychwelyd atoch, er mwyn gallu cynnal yr angladd, a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi os bydd unrhyw oedi.  

Beth allaf ei ddisgwyl os oes cwest yng Nghymru neu Loegr? 

Ni fydd cwest ar gyfer pob achos lle mae corff rhywun yn cael ei ddychwelyd yn ôl i Gymru neu Loegr. Fel arfer, os bydd y crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn annaturiol, yn dreisgar, yn anhysbys, neu wedi digwydd yng nghadwraeth y wladwriaeth, rhaid iddynt gynnal gwrandawiad llys cyhoeddus a elwir yn gwest. Mae rhagor o wybodaeth am broses y cwest ar gael yma Canllaw i wasanaethau crwneriaid - GOV.UK Gallwch gysylltu â’ch crwner lleol i drafod yr opsiynau gyda swyddfa’r crwner.

Nid yw’r crwner yn penderfynu a oes unrhyw un yn euog o drosedd, ar fai am y farwolaeth, neu a oes gan unrhyw un atebolrwydd sifil (er enghraifft, y dylent dalu iawndal). Ni all crwneriaid gynnal ymchwiliadau mewn gwledydd eraill na gwneud i dystion o dramor ddod i roi tystiolaeth. 

Efallai na fydd cwest yn cael ei gynnal tan rai misoedd ar ôl y farwolaeth. Mae hyn er mwyn i’r crwner allu casglu’r holl dystiolaeth berthnasol ac amserlennu’r cwest. Weithiau, rhaid i’r crwner aros i gyrff swyddogol eraill, gan gynnwys awdurdodau tramor, gwblhau eu hymchwiliadau i farwolaeth yn gyntaf.   

Fel aelod o’r teulu, byddwch yn “unigolyn â diddordeb”, sy’n golygu bod gennych hawliau penodol. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i dderbyn gwybodaeth ac i fynychu’r cwest neu’r gwrandawiad adolygu, yn ogystal â’r hawl i ofyn cwestiynau perthnasol yn ystod y cwest. Cewch wybod dyddiadau’r cwest ac unrhyw wrandawiadau adolygu, ond does dim rhaid i chi fod yn bresennol os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Gall swyddog y crwner esbonio’r opsiynau sydd ar gael i chi.   

Efallai y gofynnir i chi am ddatganiad tyst ymlaen llaw neu roi tystiolaeth yng ngwrandawiad y cwest. Nid oes angen gwneud hyn bob amser, a byddwch yn cael gwybod am hyn ymlaen llaw. Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi ddarparu dogfennau yn eich meddiant sy’n ymwneud â’r farwolaeth dramor, fel adroddiadau gan yr heddlu neu dystysgrif marwolaeth dramor.  

Yn ystod gwrandawiad cwest, bydd y crwner yn gwneud yn siŵr bod modd gofyn eich cwestiynau i dystion. Gallwch hefyd ddod â rhywun gyda chi, fel ffrind, i’ch cefnogi. Does dim angen i chi gael cynrychiolaeth gyfreithiol mewn cwest. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cael cynrychiolaeth gyfreithiol, mae gennych hawl i wneud hynny.   

Ar ddiwedd y cwest, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, bydd y crwner yn dod i gasgliad, gan egluro’r farwolaeth. Byddwch chi’n cael cyfle i ofyn cwestiynau.

Mewn rhai achosion, gall y crwner hefyd gyhoeddi Adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol i helpu i atal marwolaethau tebyg rhag digwydd. Dyma lle mae’r crwner yn tynnu sylw at gamau y gellid eu cymryd i atal marwolaeth debyg rhag digwydd yn y dyfodol.  

Pa gymorth y gallaf ei ddisgwyl yn ystod yr ymchwiliad dramor? 

Pan fydd trosedd yn digwydd dramor, mae fel arfer yn cael ei ymchwilio gan yr heddlu yn y wlad honno. Bydd yr ymchwiliad yn dilyn cyfreithiau a gweithdrefnau’r wlad honno a all fod yn wahanol i’r rhai yng Nghymru a Lloegr.

Nid oes gan awdurdodau llywodraeth y DU, fel yr FCDO a’r heddlu yng Nghymru a Lloegr, unrhyw bwerau cyfreithiol i ymyrryd mewn ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal gan wlad arall. Gelwir hyn yn ‘heb awdurdodaeth’.  

Sut gall yr FCDO roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am yr ymchwiliad dramor? ​         

 Bydd eich rheolwr achos yn:  

  • Esbonio sut mae pethau’n digwydd yn y wlad honno ac yn cadw mewn cysylltiad â chi a’r awdurdodau yn y wlad honno i gael diweddariadau lle bo hynny’n bosibl.
  • Rhoi’r diweddaraf i chi pan fyddant yn cael gwybodaeth a throsglwyddo unrhyw bryderon neu gwestiynau ar eich rhan. Mewn rhai gwledydd, efallai y bydd angen i chi gael cyfreithiwr yn gweithredu ar eich rhan i gael gwybodaeth.

Beth i’w ofyn i’r FCDO?  

  • Beth ddylwn i ei ddisgwyl gan ymchwiliad yr heddlu lleol?
  • Pa wahaniaethau diwylliannol neu weithdrefnol allai effeithio ar y ffordd yr ymdrinnir â’r ymchwiliad?
  • Sut byddwn i’n gwneud cais am ‘statws dioddefwr’ neu statws cyfreithiol lleol cyfatebol arall os oes angen?
  • A allaf gael cymorth i ddeall y broses gyfreithiol?
  • A fyddaf yn gallu mynd i dreial neu achos cyfreithiol arall?

Pa gymorth y gallaf ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Lladdiadau yn ystod yr ymchwiliad dramor?

Bydd eich gweithiwr achos Gwasanaeth Lladdiadau yn:  

  • Eich helpu i dalu rhai costau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad troseddol a’r treial - dylech drafod hyn gyda’ch gweithiwr achos.
  • Darparu cefnogaeth emosiynol drwy gydol yr ymchwiliad.
  • Edrych i weld a allan nhw eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr yn y wlad lle cafodd yr aelod o’ch teulu ei ladd.

Pryd y gallai’r heddlu yng Nghymru neu Loegr ymwneud â hyn? 

Nid yw’r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn ymwneud yn awtomatig ag ymchwilio i farwolaeth Gwladolyn Prydeinig dramor, ac ni allant ymchwilio dramor heb ganiatâd y wlad lle digwyddodd y farwolaeth.

Er mwyn i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr ymwneud â’r achos, mae angen rôl ymchwilio iddynt, a allai gynnwys:

  • Os oes angen adnabod yr unigolyn a fu farw, gall yr heddlu helpu drwy gasglu DNA neu gofnodion meddygol.
  • Os bydd yr awdurdod tramor yn gofyn i’r heddlu yng Nghymru neu Loegr helpu i gasglu gwybodaeth gan y teulu i gefnogi eu hymchwiliad.
  • Os bydd corff yr aelod o’ch teulu yn cael ei ddychwelyd i Gymru neu Loegr, gall yr heddlu weithio ar ran y crwner i ddeall beth sydd wedi digwydd. Gallant gynorthwyo’r crwner gyda chwest neu bost-mortem, os bydd y crwner yn gofyn am hynny.
  • Os ydych chi, fel aelod o’r teulu, yn anhapus ag ymchwiliad yr heddlu yn y wlad lle digwyddodd y farwolaeth, gallwch ofyn i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr am gymorth. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried fesul achos.
  • Os yw’r unigolyn sy’n gyfrifol yn Wladolyn Prydeinig neu’n breswylydd, neu os bu cynllwyn i ladd sydd wedi digwydd yng Nghymru neu Loegr. Gall yr ymchwiliadau hyn wynebu heriau cyfreithiol anodd, ac mae’n anghyffredin iawn i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr ymchwilio i lofruddiaeth neu ddynladdiad dramor.

Prif gwnstabl eich heddlu lleol fydd yn penderfynu faint o gymorth y gallant ei roi i’ch achos. Gall hyn gynnwys neilltuo uwch swyddog ymchwilio a swyddog cyswllt â theuluoedd a allai helpu gydag elfennau penodol o’r broses. 

Os bydd uwch swyddog ymchwilio yn cael ei neilltuo i’ch achos, efallai y byddant yn gallu gofyn am wybodaeth drwy rwydweithiau heddlu rhyngwladol fel Interpol, ac yn penderfynu a oes angen swyddog cyswllt â theuluoedd arnoch.  

Os bydd swyddog cyswllt â theuluoedd yn cael ei neilltuo i chi, byddant yn cydlynu camau cyfathrebu rhyngoch chi a gwasanaethau eraill, fel gyda’r Gwasanaeth Lladdiadau a’ch rheolwr achos FCDO. Byddant hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad ac yn egluro proses y crwner os bydd corff yr aelod o’ch teulu yn cael ei ddychwelyd i Gymru neu Loegr. 

Beth na all yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ei wneud

Ni all yr heddlu yng Nghymru a Lloegr bob amser gysylltu â’r heddlu yn y wlad dramor i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad. Gall y rheolwr achos FCDO rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi am ymchwiliad mewn gwlad dramor.

Ni all yr heddlu yng Nghymru a Lloegr rannu gwybodaeth ag awdurdodau tramor os gallai arwain at ddedfryd o farwolaeth i rywun, oni bai fod ganddynt awdurdodiad penodol i wneud hynny.

Mewn gwledydd lle defnyddir y gosb eithaf, mae hyn yn golygu y gallai fod cyfyngiadau ar ba wybodaeth y gall yr heddlu ei rhannu i gefnogi’r ymchwiliad tramor.

Beth os ydw i’n meddwl bod y farwolaeth yn amheus ond nad yw’n destun ymchwiliad fel llofruddiaeth neu ddynladdiad?  

Gall yr FCDO roi cyngor i chi ar sut i godi pryderon gyda’r awdurdodau tramor. Dylech hefyd ystyried ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol. Gallwch siarad â’ch heddlu lleol yng Nghymru neu Loegr, a all gysylltu â’r awdurdod tramor drwy sianeli plismona os ydynt yn credu bod hynny’n briodol.  

Pa gymorth y gallaf ei ddisgwyl yn ystod achos llys ac achosion cyfreithiol dramor? 

Gall achosion cyfreithiol mewn gwledydd eraill bara am amser hir, blynyddoedd lawer weithiau. Gall hyn achosi gofid a straen. Nid oes gan lywodraeth y DU bŵer i gyflymu achosion llys na newid sut mae treialon yn cael eu cynnal mewn gwledydd eraill, na gorfodi’r awdurdodau i rannu gwybodaeth.  

Pa gymorth y gallaf ei ddisgwyl gan yr FCDO yn ystod achos llys ac achosion cyfreithiol dramor?  

Bydd eich rheolwr achos FCDO yn:  

  • Gofyn am ddiweddariadau gan yr awdurdodau tramor ar eich rhan, a rhannu unrhyw ddiweddariadau a gânt, fel dyddiadau gwrandawiadau neu gynnydd gyda’r achos.
  • Cadw mewn cysylltiad â chi’n rheolaidd. Byddant yn cytuno â chi pa mor aml y gwneir hyn a gyda pha ddull, hyd yn oed os nad oes llawer o wybodaeth newydd i’w rhannu, os o gwbl. Os byddwch yn dewis dod i’r treial, gallant eich cefnogi i fod yn bresennol.  Efallai y gall swyddog FCDO ddod gyda chi ar y diwrnod cyntaf a’r diwrnod olaf, a phan roddir y rheithfarn.
  • Cyfleu unrhyw bryderon neu anawsterau sydd gennych i’r awdurdodau perthnasol dramor.

Pa gymorth y gallaf ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Lladdiadau yn ystod achos llys ac achosion cyfreithiol dramor? 

Gall y Gwasanaeth Lladdiadau: 

  • Gynnig cymorth ariannol gyda theithio hanfodol i’r wlad, os oes angen i chi ymweld am resymau sy’n gysylltiedig â phrosesau cyfiawnder troseddol.
  • Darparu cefnogaeth emosiynol drwy gydol yr achosion cyfreithiol.

Beth allwch chi ei wneud 

  • Gallwch gysylltu â’ch rheolwr achos FCDO yn ystod oriau gwaith dros y ffôn, neu drwy e-bost, ar unrhyw adeg. Os dymunwch, byddant yn fwy na pharod i gwrdd â chi ar-lein neu wyneb yn wyneb yn eu swyddfa yn Llundain.

Beth os oes angen cymorth arnaf gyda sylw yn y cyfryngau?  

Gall cyswllt gan y cyfryngau ar ôl marwolaeth aelod o’r teulu fod yn ofidus ac yn anodd ei reoli - yn enwedig pan fydd y farwolaeth yn digwydd dramor. 

Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich llethu neu’n ansicr ynghylch sut i ymateb. Mae cymorth ar gael i’ch helpu i ddeall eich hawliau, rheoli unrhyw sylw yn y cyfryngau, a diogelu eich preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Pwy sy’n gallu fy nghefnogi gyda cheisiadau gan y cyfryngau?

Gall eich rheolwr achos FCDO a gweithiwr achos y Gwasanaeth Lladdiadau roi gwybodaeth i chi am sut i reoli sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu eich helpu i ryddhau datganiadau i’r cyfryngau. Fodd bynnag, gall hyn fod yn fwy cyfyngedig os yw’r sefydliad cyfryngau wedi’i leoli dramor. 

Sut y gallaf gael cefnogaeth ar gyfer sylw digroeso gan y cyfryngau?

Yng Nghymru a Lloegr, mae gwasanaeth 24 awr ar gael i helpu aelodau’r cyhoedd sydd â phryderon am ymyrryd a harasio gan y wasg, gan Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol (IPSO). Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth ar 0300 123 2220, neu y tu allan i oriau arferol ar 07799 903 929.

Os yw’r sylw rydych chi’n ei gael gan y cyfryngau yn gwneud i chi deimlo’n anniogel, dylech gysylltu â’ch heddlu lleol.

Beth sy’n digwydd ar ôl dedfrydu’r troseddwr dramor?   

Efallai y byddwch yn gymwys i gael gwybodaeth benodol am yr unigolyn sy’n gyfrifol am farwolaeth yr aelod o’ch teulu ar ôl iddynt gael eu dedfrydu. Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys a yw’r troseddwr yn Wladolyn Prydeinig ac yn cael ei ddychwelyd i Gymru a Lloegr ar ôl dedfrydu. 

Os yw’r troseddwr yn Wladolyn Prydeinig sydd mewn carchar dramor  

Os yw’r troseddwr yn Wladolyn Prydeinig ac yn bwrw eu dedfryd mewn carchar dramor, gall y wybodaeth a gewch amrywio yn dibynnu ar y wlad lle digwyddodd y trosedd. Os caiff y cyflawnwr eu rhyddhau dramor, efallai na fydd llywodraeth y DU yn cael gwybod eu bod wedi cael eu rhyddhau. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn cael unrhyw hysbysiad pan fyddant yn cael eu rhyddhau o’r ddalfa. 

Os yw’r troseddwr yn Wladolyn Prydeinig a anfonir yn ôl i fwrw eu dedfryd yng Nghymru a Lloegr 

Os yw’r troseddwr sy’n gyfrifol am farwolaeth yr aelod o’ch teulu yn ddinesydd Prydeinig ac yn cael eu trosglwyddo’n ôl i fwrw eu dedfryd yng Nghymru a Lloegr, byddwch yn gymwys i gael gwybodaeth benodol drwy Gynllun Cysylltu â Dioddefwyr y Gwasanaeth Prawf.

Mae’r Adran Trosglwyddiadau Trawsffiniol yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn gyfrifol am ddychwelyd Troseddwyr sy’n Wladolion Prydeinig i Gymru a Lloegr i fwrw gweddill eu dedfryd a bennwyd dramor. Os yw eich manylion ganddynt, byddant yn rhoi gwybod i’r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr er mwyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth. Os nad oes ganddynt eich manylion, efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr eich hun i gael yr wybodaeth hon. Efallai na fyddwch yn cael gwybod bod y troseddwr yn cael eu dychwelyd yn ôl i Gymru neu Loegr os nad yw eich manylion chi gan y gwasanaethau.

Os ydych chi’n dymuno ymwneud â’r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr, bydd eich prif bwynt cyswllt yn symud o’ch rheolwr achos FCDO i rywun arall yng Nghymru a Lloegr, fel swyddog cysylltu â dioddefwyr.

Os byddwch yn dewis ymuno â’r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr, bydd swyddog cysylltu â dioddefwyr dynodedig yn rhoi gwybodaeth i chi am y system cyfiawnder troseddol, a byddwch yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod camau allweddol dedfryd y troseddwr. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am eu dedfryd ac a ydynt am gael eu rhyddhau o’r carchar.

Byddwch yn gallu gwneud Datganiad Personol y Dioddefwr pan fydd y Bwrdd Parôl yn gyfrifol am benderfynu a ddylid rhyddhau’r troseddwr yn uniongyrchol o’r carchar. Gallwch hefyd ofyn am amodau trwydded, fel amodau dim cyswllt a pharthau gwaharddedig, y bydd yn rhaid i’r troseddwr, os cânt eu cymeradwyo, gydymffurfio â nhw os cânt eu rhyddhau i’r gymuned ar drwydded.  I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau penodol gweler Hawl 11 y Cod Dioddefwyr.

Os byddwch yn dewis ymuno â’r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr, eich swyddog cyswllt â dioddefwyr fydd eich prif bwynt cyswllt i roi gwybodaeth i chi am eich achos. Gallwch hefyd barhau i gael cymorth gan eich gweithiwr achos Gwasanaeth Lladdiadau.

Beth allwch chi ei wneud 

  • Os ydych chi’n meddwl y dylech chi fod wedi cael eich atgyfeirio, neu os ydych chi wedi newid eich meddwl am ymuno â’r cynllun, gallwch chi gysylltu â vcsenquiries@justice.gov.uk
  • Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r Cod Dioddefwyr yn berthnasol i chi os yw’r troseddwr yn Wladolyn Prydeinig ac wedi cael eu trosglwyddo’n ôl i Gymru a Lloegr.

Beth os nad yw’r troseddwr yn Wladolyn Prydeinig? 

Gall faint o wybodaeth a gewch am yr unigolyn a gafwyd yn euog o farwolaeth yr aelod o’ch teulu amrywio, yn dibynnu ar y wlad lle digwyddodd y trosedd. 

Os nad yw’r troseddwr yn wladolyn Prydeinig ac yn bwrw’r ddedfryd dramor, mae’n bwysig gwybod nad yw llywodraeth y DU yn debygol o gael gwybod pan fyddant yn cael eu rhyddhau. Nid yw’r FCDO yn gallu olrhain achosion drwy gydol dedfryd troseddwr. 

Does dim rhaid i chi fynd drwy hyn ar eich pen eich hun, ac mae cymorth ar gael i chi o hyd.  

Beth allwch ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Lladdiadau  

Gallant ddarparu amrywiaeth o gymorth emosiynol ac ymarferol i chi cyhyd ag y bydd ei angen arnoch. Os byddwch yn gadael y gwasanaeth, gallwch ddod yn ôl unrhyw bryd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol, er enghraifft, os yw’r troseddwr yn cael eu rhyddhau neu’n gorfod dychwelyd i dreulio eu dedfryd mewn carchar yng Nghymru neu Loegr.  

A allaf gael iawndal? 

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd iawndal ar gael. Nid oes gan lawer o wledydd gynlluniau iawndal, a phan fyddant yn bodoli, mae’r rheolau’n amrywio. Bydd yr hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar y wlad lle bu farw yr aelod o’ch teulu neu lle digwyddodd y trosedd. Gall eich rheolwr achos FCDO ddarparu gwybodaeth am y wlad lle bu farw yr aelod o’ch teulu.

Os nad yw eich sefyllfa wedi’i chynnwys yn y canllaw hwn, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth arall

Mae’r canllaw hwn ar gyfer teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth oherwydd llofruddiaeth neu ddynladdiad, lle’r oedd yr unigolyn a fu farw yn wladolyn Prydeinig a’r farwolaeth wedi digwydd dramor. Nid yw’n cynnwys y canlynol: 

  • Os yw’r dioddefwr yn Wladolyn Prydeinig ond nad yw’r teuluoedd yn byw yng Nghymru a Lloegr.
  • Marwolaethau mewn gwlad dramor nad oes esboniad amdanynt, sydd heb eu cadarnhau, neu sy’n amheus.
  • Pobl sy’n mynd ar goll dramor Cael cymorth os bydd rhywun yn mynd ar goll dramor - GOV.UK.
  • Marwolaethau mewn gwlad dramor a achoswyd gan derfysgaeth Marwolaeth dramor o ganlyniad i derfysgaeth Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am ble i gael cyngor a chymorth. Mae hefyd yn rhoi manylion llinellau cymorth swyddogol a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr, goroeswyr, tystion, aelodau o’r teulu, a phawb yr effeithir arnynt. Sylwch: mae’r Gwasanaeth Lladdiadau yn cefnogi aelodau cymwys o’r teulu sydd wedi cael profedigaeth oherwydd terfysgaeth dramor.
  • Marwolaethau a achosir gan ddamweiniau traffig ar ffordd mewn gwlad dramor (oni bai ei fod yn weithred fwriadol o lofruddiaeth neu ddynladdiad gan ddefnyddio cerbyd) Cael cymorth os bu damwain dramor - Brake. Mae’r Gwasanaeth Cenedlaethol i Ddioddefwyr Ffyrdd yn gweithio gyda’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu i roi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i deuluoedd a ffrindiau yn y DU sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i gael eu lladd mewn damwain ffordd dramor.
  • Os ydych chi’n preswylio yn y DU ac wedi cael anaf oherwydd trosedd dreisgar dramor, efallai y gallwch wneud cais am iawndal yn y wlad lle cyflawnwyd y trosedd. I gael rhagor o fanylion, ewch i Iawndal os ydych chi wedi dioddef trosedd dramor - GOV.UK.

Pa wybodaeth neu gymorth pellach sydd ar gael?  

Adnoddau ychwanegol, canllawiau swyddogol, a gwasanaethau cymorth. 

Beth os oes angen i mi godi pryderon neu wneud cwyn?  

Gall cymorth i deuluoedd ar ôl i aelod o’r teulu gael eu lladd dramor gan lofruddiaeth neu ddynladdiad amrywio yn dibynnu ar y wlad a’r math o gymorth sydd ei angen arnoch. 

Os ydych chi’n teimlo nad yw’r cymorth rydych chi wedi’i gael gan wasanaethau yng Nghymru neu Loegr yn iawn, mae prosesau ar waith i’ch helpu chi i fynegi pryderon: