Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 22: maenorau

Diweddarwyd 24 June 2015

Applies to England and Wales

Sylwer bod Cyfarwyddiadau Ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae tarddiad maenorau yn hynafol yn dyddio ers cyn dyddiau’r Normaniaid. Rhodd wreiddiol y Goron neu uwch-arglwydd sy’n penderfynu maint y faenor fel arfer. Roedd maenor yn hunangynhwysol gyda’i harferion a’i hawliau ei hun o fewn ei chylch diffiniedig.

Mae tair elfen ar wahân o faenorau sy’n gallu effeithio ar Gofrestrfa Tir EF.

  • Arglwyddiaeth y faenor: mae hawl gan bwy bynnag sy’n meddu arglwyddiaeth y faenor i gyfeirio at eu hunain fel arglwydd y faenor honno, er enghraifft, Arglwydd maenor Keswick
  • Tir maenoraidd: oherwydd bod maenor yn ardal ddiffiniedig roedd yn cynnwys y tir diriaethol o fewn yr ardal honno. Gallai tir o’r fath fod naill ai’n rhydd-ddaliol neu brydlesol
  • Hawliau maenoraidd: hawliau oedd yn rhan hanfodol o’r teitl maenoraidd ac oedd yn cael eu cadw fel arfer gan yr arglwydd wrth gael gwared ar rannau o’r tir maenoraidd, er enghraifft, yr hawl i hela, saethu neu bysgota

Gall yr elfennau hyn fodoli ar wahân neu’n gyfunol. Nid oes modd ymrannu teitl yr arglwyddiaeth, ond mae modd gwneud hynny gyda’r tir maenoraidd a’r hawliau maenoraidd.

Mae’n hawdd peri dryswch, gan y gall ‘maenor’ gyfeirio at naill ai’r arglwyddiaeth a/neu’r tir maenoraidd.

2. Teitlau arglwyddiaeth

2.1 Cofnodion yng ngofal Cofrestrfa Tir EF

Yn syml, arglwyddiaeth y faenor yw enw arglwydd y faenor. Mewn llawer achos gall yr enw fod heb unrhyw dir na hawliau ynghlwm wrtho mwyach. Oherwydd ei darddiad a diffyg sylwedd diriaethol, caiff ei alw yn ‘hereditament anghorfforol’. Ystyr hereditament anghorfforol yw ‘budd heb unrhyw fodolaeth ddiriaethol’.

Cyn 13 Hydref 2003, sef dechrau Deddf Cofrestru Tir 2002, roedd modd cofrestru’r teitlau arglwyddiaeth hyn. Fodd bynnag, roedd y cofrestru bob amser yn wirfoddol ac ni cheisiodd y rhan fwyaf gofrestru teitl yr arglwyddiaeth. Rydym yn dal i gadw mynegai teitlau arglwyddiaeth cofrestredig. Mae cyfarwyddyd ymarfer 13: mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig – chwiliadau swyddogol yn egluro trefnau chwilio’r mynegai.

Mae cofrestr unigol ar gyfer pob teitl cofrestredig. Bydd hon yn cynnwys enw a chyfeiriad y perchennog cofrestredig presennol, a ddylai allu ateb eich ymholiadau ynghylch y buddion maenoraidd (os oes rhai) sy’n effeithio ar y tir o dan sylw. Oherwydd eu natur, nid oes cynlluniau teitl ar gyfer teitlau arglwyddiaeth ac ni fyddwn yn dal unrhyw gofnod swyddogol o faint y faenor wreiddiol.

2.2 Cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002

Oddi ar 13 Hydref 2003, nid oes modd gwneud cais am gofrestriad cyntaf teitl arglwyddiaeth mwyach. Fodd bynnag, mae unrhyw ddeliad â theitlau cofrestredig presennol yn peri cofrestru gorfodol. Mae hyn yn cynnwys rhoi prydles (o unrhyw gyfnod) allan o deitl arglwyddiaeth cofrestredig.

2.3 Datgofrestru

Gall perchennog cofrestredig teitl arglwyddiaeth wneud cais i ddatgofrestru teitl (adran 119 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yn yr achos hwn bydd teitl yr arglwyddiaeth yn dal i fodoli oddi ar y gofrestr ond, fel mwyafrif y teitlau hyn, ni fyddwn yn dal unrhyw gofnod ohono.

Dylai’r perchennog cofrestredig, neu ei gynrychiolydd cyfreithiol, wneud cais, gan ddefnyddio ffurflen AP1. Dylid llenwi paneli canlynol y ffurflen.

  1. Ardal awdurdod lleol yn gwasanaethu’r ardal
  2. Rhif teitl y teitl arglwyddiaeth cofrestredig
  3. Nid oes modd rhannu arglwyddiaeth maenor unigol. Felly, oni bai bod y teitl yn cynnwys mwy nag un faenor, rhowch ‘X’ gyferbyn â’r datganiad cyntaf
  4. Rhowch natur y cais fel “datgofrestru maenor”. Nid oes dim i’w dalu
  5. Rhowch enw’r person sy’n gwneud cais i ddatgofrestru’r faenor
  6. Rhowch enw a chyfeiriad y person sy’n cyflwyno’r cais
  7. Llenwch y panel hwn dim ond os byddwch am i ni ddweud wrth rywun arall ar ôl cwblhau’r cais
  8. Rhaid i’r ceisydd neu ei gynrychiolydd cyfreithiol arwyddo

Anfonwch eich cais i swyddfa gywir Cofrestrfa Tir EF.

3. Tir maenoraidd

Tir maenoraidd yw’r tir oedd yn wreiddiol yn rhan o dirddaliadaeth arglwyddiaeth y faenor ac na throsglwyddwyd ar wahân i deitl yr arglwyddiaeth. Gall tir maenoraidd fod yn helaeth, neu gall fod yn gasgliad o ddarnau bach o dir gwasgaredig, a all fod dros ardal eang.

Mae tir maenoraidd yn ddarostyngedig i gofrestriad gorfodol yn yr un ffordd ag unrhyw dir diriaethol (corfforol) arall.

Defnyddiwch ffurflen SIM i weld a yw tir wedi ei gofrestru neu’n destun cais cofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu – gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai – chwiliad swyddogol.

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r porthol.

4. Hawliau maenoraidd

4.1 Gall teitl arglwyddiaeth fod heb fudd hawliau

Gall arglwydd maenor ymarfer hawliau penodol, fel arfer yn dwyn yr enw ‘nodweddion maenoraidd’. Nid oedd modd creu hawliau o’r fath mwyach ar ôl 1925. Mae modd crynhoi’r prif hawliau maenoraidd fel:

  • hawliau hela’r arglwydd
  • hawliau mwyngloddiau neu fwynau’r arglwydd neu’r tenant
  • hawl yr arglwydd i gynnal ffeiriau a marchnadoedd
  • cyfrifoldeb yr arglwydd neu’r tenant dros adeiladu, cynnal a thrwsio cloddiau, ffosydd, camlesi a gwaith arall

Enghreifftiau yn unig yw’r rhain ac nid yw’n golygu o angenrheidrwydd bod hawliau o’r fath yn gyfreithiol arferadwy. Fel arfer, nid yw teitl arglwyddiaeth cofrestredig yn cyfeirio at unrhyw nodweddion maenoraidd ar y gofrestr. Gall fod nad oedd budd yr hawliau yn rhan o werthu teitl yr arglwyddiaeth cyn hynny.

4.2 Tir â hawliau arno

Wrth gofrestru eiddo am y tro cyntaf, gallwn wneud cofnod ar y gofrestr eiddo os bydd yn ymddangos y gall fod hawliau maenoraidd yn dal ar y tir. Gall fod fel hyn os bydd gweithredoedd yr eiddo yn dangos bod y tir yn gopiddaliad gynt (hy yn cael ei ddal trwy arglwydd y faenor) a bod yr hawliau wedi eu cadw ar adeg rhyddfreinio (pan droswyd y teitl yn rhydd-ddaliad).

4.3 Effaith Deddf Cofrestru Tir 2002

Yn ôl Deddf Cofrestru Tir 2002 caiff hawliau maenoraidd eu dosbarthu fel buddion gor-redol, fel bod tirfeddiannwr yn eu derbyn hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu crybwyll ar eu cofrestr. Fodd bynnag, o dan adran 117 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 bydd yr hawliau hyn yn colli eu statws gor-redol ar ôl 12 Hydref 2013 (10 mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym). Lle nad yw hawliau maenoraidd wedi eu gwarchod trwy rybudd neu rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf cyn 13 Hydref 2013, nid ydynt yn peidio â bod yn awtomatig ar y dyddiad hwnnw. Nodir y sefyllfa yn Cofrestrwyd y tir ar ôl 12 Hydref 2013 a Cofrestrwyd y tir cyn 13 Hydref 2013.

Mae’n ddyletswydd ar geiswyr i ddatgelu hawliau maenoraidd ar holl gofrestriadau cyntaf neu warediadau o dir cofrestredig. I gael rhagor o wybodaeth gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu.

Gall rhywun gyda’r budd wneud cais i nodi bodolaeth nodweddion maenoraidd ar gofrestr teitl sydd â hwy arno. Rhaid i’r ceisydd ein bodloni o fodolaeth yr hawliau. Nid oes dim i’w dalu. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 66: buddion gor-redol yn colli gwarchodaeth awtomatig yn 2013 sy’n ymdrin â buddion trydydd parti.

Os yw’r tir sydd â’r hawliau arno’n ddigofrestredig, mae modd eu diogelu heb daliad trwy rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, gweler cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf.

4.3.1 Cofrestrwyd y tir ar ôl 12 Hydref 2013

Cyn cofrestriad cyntaf, bydd perchennog cyfreithiol y tir yn rhwym wrth unrhyw hawliau maenoraidd gan eu bod yn fuddion cyfreithiol. Ar gofrestriad cyntaf byddant yn dal yr ystad yn rhydd o hawliau maenoraidd oni bai eu bod yn cael eu gwarchod trwy rybudd ar adeg cofrestriad cyntaf.

4.3.2 Cofrestrwyd y tir cyn 13 Hydref 2013

Hyd yn oed os nad yw’r budd wedi ei warchod gan gofnod rhybudd yn y gofrestr, bydd y tir yn parhau’n ddarostyngedig iddo. Ond os nad yw rhybudd o’r fath yn cael ei gofnodi, bydd person sy’n caffael yr ystad gofrestredig am gydnabyddiaeth am werth trwy warediad cofrestradwy ar ôl 12 Hydref 2013 yn cymryd o’r budd hwnnw am ddim (adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Hyd nes i warediad o’r fath gael ei gofrestru, gall y person sydd â mantais y budd wneud cais i’w warchod trwy gofnodi rhybudd.

5. Rhagor o wybodaeth

Gall y canlynol gynorthwyo wrth ymchwilio maenor.

  • mae’r Archifau Cenedlaethol, Ruskin Avenue, Kew, Richmond, Surrey TW9 4DU yn dal cofnodion swyddogol gan gynnwys dosraniadau a mapiau degwm a phrisiadau a wnaed gan gomisiynwyr Deddf Cyllid 1909-10 yn ogystal â’r Gofrestr Dogfennau Maenoraidd.

The National Archives,
Ruskin Avenue,
Kew,
Richmond,
Surrey TW9 4DU

  • yn aml bydd archifdai sirol yn dal dyfarniadau a mapiau cau tir comin, rholiau llys, arolygon a chofnodion maenoraidd eraill
  • bydd byrddau cyllid esgobaethol yn dal cofnodion eglwysig, gan gynnwys dosraniadau a mapiau degwm
  • bydd awdurdodau priffyrdd (cynghorau sir lle maent yn bodoli, cynghorau dosbarth a bwrdeistref fel arall) yn dal cofnodion priffyrdd a therfynau priffyrdd
  • bydd awdurdodau cofrestru tir comin yn dal cofrestri tiroedd comin a chlytiau tref a phentref, gyda mapiau cysylltiedig
  • mae llawer o gofnodion plwyfol yn cynnwys gwybodaeth berthnasol
  • Cymdeithas Maenorau Prydain, 104 Kennington Road, Llundain SE11 6RE yw’r gymdeithas y bydd llawer o arglwyddi maenor yn perthyn iddi

The Manorial Society of Great Britain,
104 Kennington Road,
London SE11 6RE

6. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.