Ffurflen

LP12 Gwneud a chofrestru eich atwrneiaeth arhosol: canllawiau (fersiwn y we)

Diweddarwyd 2 April 2024

Applies to England and Wales

Sut i ddefnyddio’r canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am wneud a chofrestru eich atwrneiaeth arhosol (LPA). Awgrymir eich bod yn darllen y canllaw hwn cyn dechrau llenwi eich ffurflen LPA er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn cael eu gwneud. Gallwch hefyd gyfeirio ato fesul adran wrth lenwi eich cais.

Eich atwrneiaeth arhosol (LPA)

Dogfen gyfreithiol yw atwrneiaeth arhosol sy’n caniatáu i chi (y ‘rhoddwr’) ddewis pobl rydych chi’n ymddiried ynddynt (‘atwrneiod’) i wneud penderfyniadau am eiddo a materion ariannol neu iechyd a lles ar eich rhan.

Dim ond os oes gennych y galluedd meddyliol angenrheidiol y gallwch wneud LPA. Os ydych yn gwneud LPA eiddo a materion ariannol gallwch ddewis a all eich atwrneiod wneud penderfyniadau cyn gynted ag y caiff yr LPA ei chofrestru, neu dim ond pan fyddwch wedi colli’r galluedd i wneud y penderfyniadau hynny eich hun. Dim ond pan fyddwch wedi colli’r gallu i’w gwneud y gall atwrneiod wneud penderfyniadau o dan LPA iechyd a lles.

Galluedd meddyliol yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

Gwneir eich LPA o dan gyfraith Cymru a Lloegr. Os hoffech wneud atwrneiaeth sy’n weithredol y tu allan i Gymru a Lloegr, dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ar y ffordd orau o gyflawni hyn.

Nid oes angen i chi gael cyfreithiwr i wneud atwrneiaeth arhosol, oni bai bod gennych ofynion anarferol neu benodol.

Chi sydd i benderfynu a ydych am gael cyngor cyfreithiol i lenwi rhai adrannau o’r LPA.

Gwneud eich atwrneiaeth arhosol: pa fath?

Bydd rhaid i chi benderfynu pa fath o benderfyniad y byddwch chi angen help i’w wneud. Ceir dau fath o atwrneiaeth arhosol, sy’n cwmpasu dau fath o benderfyniad:

  • penderfyniadau eiddo a materion ariannol

  • penderfyniadau iechyd a lles

Mae gan bob atwrneiaeth arhosol ei ffurflen ei hun. I ddewis y ddau, llenwch y ddwy ffurflen.

Penderfyniadau eiddo a materion ariannol: defnyddiwch ffurflen LP1F

Gallai penderfyniadau ynghylch eiddo a materion ariannol ymwneud ag:

  • agor, cau a defnyddio eich cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu

  • hawlio, derbyn a defnyddio eich budd-daliadau, pensiynau a lwfansau

  • talu eich biliau cartref, gofal a biliau eraill

  • gwneud neu werthu buddsoddiadau

  • prynu neu werthu eich cartref

Gyda’r math hwn o LPA, chi sy’n dewis a all eich atwrneiod weithredu ar eich rhan cyn gynted ag y bydd yr LPA wedi’i chofrestru neu dim ond os na allwch ddeall a gwneud penderfyniadau mwyach (gweler adran 5 o’r canllaw hwn).

Nid oes rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun na chael llawer o arian i wneud LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol. Er enghraifft, os yw’n anodd i chi rheoli’ch cyfrif banc neu’ch biliau ar eich pen eich hun, efallai y byddwch am i rywun eich helpu.

Gallwch benodi atwrneiod gwahanol ar gyfer eich materion ariannol personol a’ch materion busnes. I wneud hynny, llenwch ddwy ffurflen LP1F.

Penderfyniadau iechyd a lles: defnyddiwch ffurflen LP1H

Gallai penderfyniadau iechyd a lles ymwneud â:

  • rhoi neu wrthod caniatâd am ofal iechyd

  • aros yn eich cartref ei hun a chael help a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol

  • symud i ofal preswyl a dod o hyd i gartref gofal da

  • materion o ddydd i ddydd fel eich deiet, gwisg neu drefn ddyddiol

Gyda’r math hwn o LPA, dim ond pan nad oes gennych alluedd meddyliol y gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau.

Mae gan un penderfyniad pwysig iawn ei adran ei hun mewn atwrneiaeth arhosol iechyd a lles. Gallwch ddewis a ddylai eich atwrneiod neu eich meddygon wneud penderfyniadau ynglŷn â derbyn neu wrthod triniaeth feddygol i’ch cadw’n fyw, os na allwch wneud neu ddeall y penderfyniad hwnnw eich hun.

Darllenwch fwy am driniaeth cynnal bywyd yn adran 5 o’r canllaw hwn.

Nid oes rhaid i chi gael problemau iechyd neu ofal cymhleth i wneud atwrneiaeth arhosol. Mae’n ffordd o gynllunio ar gyfer eich gofal rhag ofn na allwch wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.

Pobl sy’n gysylltiedig â’ch atwrneiaeth arhosol

Mae angen i chi (y rhoddwr) ddewis pobl ar gyfer eich atwrneiaeth arhosol. Trafodwch gyda nhw cyn i chi eu henwi ar eich ffurflen atwrneiaeth arhosol.

Cyn i’r ffurflen swyddogol ddechrau, mae yna dudalen i wneud nodyn o bawb sy’n gysylltiedig â’r atwrneiaeth arhosol - does dim rhaid i chi ei llenwi, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Pobl mae’n rhaid i chi eu cael i wneud atwrneiaeth arhosol

Rhoddwr:

gweler adran 1 o’r canllaw hwn.

Atwrneiod:

gweler adran 2 o’r canllaw hwn.

Darparwr tystysgrif:

gweler adran 10 o’r canllaw hwn.

Tystion:

Rhaid i berson diduedd fod yn dyst i chi a’ch atwrneiod yn llofnodi eich atwrneiaeth arhosol. Ni allwch fod yn dyst i lofnodion eich atwrneiod ac ni allant fod yn dyst i’ch llofnod chi.

Pobl y gallech fod eisiau eu cynnwys yn eich atwrneiaeth arhosol

Atwrneiod wrth gefn:

gweler adran 4 o’r canllaw hwn.

Pobl i’w hysbysu:

gweler adran 6 o’r canllaw hwn.

Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol

Cyn y gallwch ddefnyddio’ch LPA, rhaid i chi ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG). Mae’n costio £82 i wneud cais i gofrestru eich LPA fel ei bod yn barod i’w defnyddio. Mae’n well gwneud cais i gofrestru eich LPA cyn gynted ag y byddwch wedi llenwi rhan gyntaf y ffurflen.

Helpu ffrind i wneud atwrneiaeth arhosol

Os ydych yn helpu ffrind neu berthynas gyda LPA drwy lenwi’r ffurflen iddynt, rhaid i’r person hwnnw wneud yr holl benderfyniadau pan fyddwch yn gwneud yr LPA. Os na allant wneud y penderfyniadau hyn yn annibynnol, yna ni allwch wneud LPA iddynt.

Yn lle hynny, gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod a fydd yn penodi dirprwy i wneud penderfyniadau ar ei ran. Mae dirprwy yn debyg i atwrnai gan y bydd yn gwneud penderfyniadau ar ran y person perthnasol, a rhaid iddo weithredu er lles gorau’r person hwnnw bob amser wrth wneud penderfyniadau o’r fath. Goruchwylir dirprwyon gan yr OPG ac mae’n rhaid iddynt ddarparu adroddiadau blynyddol i’r OPG. Darllenwch fwy am hyn.

Llenwi’r ffurflenni atwrneiaeth arhosol ar-lein

Gallwch greu eich LPA gan ddefnyddio ein gwasanaeth digidol. Mae’n gyflym ac yn hawdd i’w wneud.

Os oes angen help arnoch i wneud eich atwrneiaeth arhosol ar-lein

Os hoffech wneud eich LPA ar-lein ond yn ansicr ynglŷn â defnyddio cyfrifiaduron a gwefannau, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 456 0300 ac fe geisiwn ni helpu.

Eich pecyn atwrneiaeth arhosol

Os byddwch yn penderfynu peidio â gwneud eich LPA ar-lein, naill ai mae’r holl ddogfennau rydych eu hangen i wneud a chofrestru’ch LPA wedi’u hanfon atoch neu gallwch ddod o hyd iddynt ar yr un dudalen GOV.UK â’r canllaw hwn. Dyma’r dogfennau:

  • ffurflen LP1F i wneud LPA eiddo a materion ariannol

  • ffurflen LP1H i wneud LPA iechyd a lles

  • ffurflen LP3 os ydych am hysbysu pobl pan anfonir eich LPA i’w chofrestru

  • dalennau parhad 1 i 4 – dim ond os yw’r ffurflen LPA yn dweud y dylech ddefnyddio’r rhain

  • ffurflen LPA120 i wneud cais am ffi ostyngol os oes gennych incwm isel neu i beidio â thalu unrhyw ffi os ydych yn cael un o’r budd-daliadau a nodir ar y ffurflen

Os ydym wedi anfon pecyn atoch a bod unrhyw un o’r rhain ar goll, ffoniwch ni ar 0300 456 0300 neu lawrlwythwch nhw.

Beth yw ‘galluedd meddyliol’?

Mae eich atwrneiaeth arhosol – a’r canllaw hwn – yn sôn am ‘alluedd meddyliol’ cryn dipyn. Mae’n bwysig deall beth yw hyn cyn i chi wneud LPA.

Mae ‘galluedd meddyliol’ yn golygu’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

Mae gan berson sydd â galluedd meddyliol o leiaf dealltwriaeth gyffredinol o’r:

  • penderfyniad sydd angen iddynt ei wneud

  • pam fod angen iddynt ei wneud

  • unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad

  • beth sy’n debygol o ddigwydd pan fyddant yn ei wneud

Dylent allu cyfathrebu eu penderfyniad drwy leferydd, arwyddion, ystumiau neu mewn ffyrdd eraill.

Weithiau gall pobl wneud rhai penderfyniadau ond nid oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud rhai eraill. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun yn gallu penderfynu beth i’w brynu i swper ond yn methu â deall a threfnu yswiriant cartref. Ni ddylech gymryd yn ganiataol nad oes gan rywun y galluedd meddyliol i wneud pob penderfyniad os nad oes ganddo alluedd meddyliol ar gyfer penderfyniad penodol.

Asesu galluedd meddyliol

I asesu a oes gan rywun ddiffyg galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau, mae angen i chi ateb ‘oes neu ydy’ i’r ddau gwestiwn hyn:

Oes ganddynt broblem feddyliol neu ymenyddol sy’n atal eu hymennydd neu eu meddwl rhag gweithio’n iawn?

A yw’r broblem honno’n achosi cymaint o anhawster iddynt nawr fel na allant wneud y penderfyniad penodol hwn ar yr adeg y mae angen ei wneud?

Mae ‘methu â gwneud y penderfyniad penodol hwn’ yn golygu nad yw’r person yn gallu:

  • deall gwybodaeth berthnasol am y penderfyniad sydd angen ei wneud

  • cadw’r wybodaeth honno yn eu meddwl ddigon hir i wneud y penderfyniad

  • pwyso a mesur y wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniad

  • cyfathrebu eu penderfyniad – gallai hynny fod drwy siarad, defnyddio iaith arwyddion, lluniau neu drwy wasgu llaw neu flincio hyd yn oed

Weithiau – yn enwedig yn achos penderfyniadau mawr neu gymhleth – efallai y byddwch eisiau cael cyngor proffesiynol, er enghraifft, gan feddyg teulu, seiciatrydd neu seicolegydd y person.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn cwmpasu atwrneiaeth arhosol. Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn egluro mwy gydag enghreifftiau, gan gynnwys sut mae’n rhaid i atwrneiod weithredu. Mae mwy o wybodaeth yn y Cod Ymarfer hefyd am alluedd meddyliol.

Gallwch lawrlwytho Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol neu brynu fersiwn argraffedig o’r Llyfrfa.

Efallai y bydd eich llyfrgell leol yn gallu eich helpu os na allwch fynd ar-lein fel arall.

Gwneud penderfyniadau ar eich rhan

Gall atwrneiod wneud rhai penderfyniadau ar eich rhan, ond ni allant wneud fel y mynnant. Mae’n rhaid iddynt weithredu er eich lles gorau bob amser. Hefyd dim ond os nad oes gennych alluedd meddyliol y gall atwrneiod weithredu o dan LPA ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles. Gallant weithredu o dan LPA ar gyfer penderfyniadau eiddo a materion ariannol os oes gennych alluedd meddyliol o hyd; fodd bynnag, rhaid iddynt gael eich caniatâd i wneud hyn.

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn manylu ar hyn yn llawnach. Mae’n nodi pum egwyddor sylfaenol y mae’n rhaid i atwrnai eu dilyn wrth benderfynu a ddylid gweithredu ar eich rhan a sut. Dyma’r egwyddorion:

  • rhaid i’ch atwrneiod dybio eich bod yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun oni bai y sefydlir na allwch wneud hynny

  • rhaid i’ch atwrneiod eich helpu i wneud cynifer o’ch penderfyniadau eich hun ag y gallwch. Rhaid iddynt gymryd bob cam rhesymol i’ch helpu i wneud penderfyniad. Dim ond os nad ydynt wedi llwyddo i’ch helpu i wneud penderfyniad drwy’r camau hynny y gallant eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad

  • ni ddylai eich atwrneiod eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad oherwydd eich bod yn gwneud penderfyniad annoeth yn unig

  • pan na allwch wneud penderfyniad, rhaid i’ch atwrneiod weithredu a gwneud penderfyniadau er eich lles pennaf

  • cyn i’ch atwrneiod wneud penderfyniad neu weithredu ar eich rhan, rhaid iddynt ystyried a allant wneud y penderfyniad neu weithredu mewn ffordd sy’n cyfyngu llai ar eich hawliau a’ch rhyddid ond sy’n dal i gyflawni’r diben

Rhaid i atwrneiod ddilyn yr egwyddorion hyn drwy’r amser.

Gwneud eich atwrneiaeth arhosol

Dewiswch ffurflen LP1F i wneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ynghylch eiddo a materion ariannol neu ffurflen LP1H i wneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles.

Dechreuwch lenwi’r ffurflen nawr. Bydd yn ddefnyddiol darllen y canllaw hwn cyn dechrau eich ffurflen LPA er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn cael eu gwneud. Gallwch hefyd gyfeirio ato fesul adran wrth lenwi eich cais.

Pan welwch y gair ‘chi’ o hyn ymlaen, yn rhan A o’r canllaw hwn, mae’n golygu’r rhoddwr: y person sy’n penodi pobl eraill i wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Mae tudalennau llawn cyntaf y ffurflenni yn edrych fel hyn:

Cywiro camgymeriadau

Bydd angen i’ch atwrneiod ddangos eich dogfen LPA i drydydd partïon pan fyddant yn dechrau gweithredu ar eich rhan. Felly, mae’n bwysig bod yr holl fanylion ar yr LPA yn gywir.

Peidiwch â defnyddio unrhyw fath o hylif cywiro na sticeri gan na fydd yr OPG yn gallu cofrestru eich LPA a bydd yn rhaid i chi dalu eto am LPA newydd.

Mae angen cywiro a llofnodi pob camgymeriad ar ffurflen LPA.

Rhaid i’r person a wnaeth y camgymeriad ysgrifennu ei blaenlythrennau wrth ymyl y cywiriad.

Enghreifftiau o gywiriadau

Enghraifft 1: Os ydych wedi rhoi’r dyddiad geni anghywir ar gyfer eich atwrnai yn adran 2, dylech chi (y rhoddwr):

  • rhoi llinell drwy’r dyddiad anghywir

  • ysgrifennu’r dyddiad cywir wrth ei ymyl

  • ysgrifennu’ch blaenlythrennau wrth ymyl y cywiriad

Enghraifft 2: Os yw’r tyst wedi rhoi’r cyfeiriad anghywir yn adran 9, dylai’r tyst:

  • rhoi llinell drwy’r cyfeiriad anghywir

  • ysgrifennu’r cyfeiriad cywir wrth ei ymyl

  • ysgrifennu ei flaenlythrennau wrth ymyl y cywiriad

Adran 1: Y rhoddwr

Llenwch adran 1

Llenwch eich manylion (y rhoddwr) yn adran 1 o’r ffurflen LPA. Gallwch hefyd ddarparu cyfeiriad e-bost; byddai hyn yn ein galluogi i gysylltu â chi’n gynt ynglŷn â’ch cais.

Rhowch unrhyw enwau eraill a ddefnyddiwch, fel eich enw priod. Os nad yw eich atwrneiaeth arhosol yn cynnwys yr holl enwau rydych chi’n cael eich adnabod wrthynt, efallai y bydd dryswch neu oedi os oes angen i’ch atwrneiod eu defnyddio.

Mwy o wybodaeth ar adran 1

Pwy all fod yn rhoddwr?

Dim ond ar gyfer un person y mae atwrneiaeth arhosol. Gallwch wneud LPA:

  • os ydych yn 18 oed o leiaf

  • os oes gennych y galluedd meddyliol i wneud hynny

Mae ‘galluedd meddyliol’ yn golygu’r gallu i wneud ac i ddeall penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

Gall y rhan fwyaf o bobl wneud LPA. Serch hynny, efallai y bydd cymhlethdodau oherwydd:

  • preswyliad – os ydych yn byw neu ag eiddo y tu allan i Gymru a Lloegr

  • methdaliad – os ydych yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled ac eisiau gwneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer eich eiddo a materion ariannol

All rywun eich helpu i lenwi’r ffurflen?

Gall. Serch hynny, os oes rhywun arall yn llenwi’r ffurflen ar eich rhan, rhaid i chi ddewis beth sy’n cael ei gynnwys yn eich LPA. Dim ond chi sy’n gallu rhoi’r pŵer i eraill wneud penderfyniadau gyda’ch LPA ar eich rhan.

Cymhlethdodau: preswyliad ac eiddo

Mae atwrneiaeth arhosol yn cwmpasu pobl sy’n byw neu’n berchen ar asedau yng Nghymru a Lloegr. Efallai na fydd eich LPA yn weithredol mewn gwledydd eraill, gan gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol:

  • os ydych yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr

  • os oes gennych eiddo y tu allan i Gymru a Lloegr a’ch bod yn gwneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer eich eiddo a materion ariannol

  • os ydych yn bwriadu symud o Gymru a Lloegr

  • os oes rhesymau eraill pam bod ble rydych chi’n byw yn cymhlethu’ch sefyllfa

Cymhlethdodau: methdaliad a gorchmynion rhyddhau o ddyled (atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol yn unig)

Os ydych yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn gostwng dyled, dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol cyn i chi wneud eich LPA.

Os byddwch yn mynd yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn gostwng dyled ar ôl i’ch LPA eiddo a materion ariannol gael ei gwneud neu ei chofrestru, caiff ei chanslo.

Os daw atwrnai’n fethdalwr neu’n destun gorchymyn gostwng dyled, ni all fod yn atwrnai i chi mwyach o dan eich LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol. Rhaid i chi hysbysu OPG o hyn. Bydd yr OPG yn cymryd y camau priodol ac yn eich cynghori ar sut mae hyn yn effeithio ar eich LPA. Gan ddibynnu ar faint o atwrneiod sydd gennych a sut y cânt eu penodi, gallai ganslo eich LPA.

Nid yw methdaliad yn effeithio ar LPA iechyd a lles.

Adran 2: Yr atwrneiod

Llenwch adran 2

Llenwch enwau llawn, cyfeiriadau a dyddiadau geni eich atwrneiod. Efallai y bydd eich atwrneiod yn cael problemau wrth ddefnyddio’r LPA os yw’r manylion hyn yn anghywir neu ar goll.

Does dim ots ym mha drefn rydych chi’n ysgrifennu manylion yr atwrneiod ar y ffurflen. Mae pob atwrnai cyn bwysiced â’i gilydd.

Os ydych chi eisiau mwy na phedwar atwrnai, marciwch y blwch ‘Mwy o atwrneiod’ ar y dudalen hon ag ‘X’. Cymerwch gopi o dudalen barhad 1, o’r enw ‘Pobl ychwanegol’. Ar gyfer pob atwrnai ychwanegol, marciwch y blwch ‘Atwrnai’ ar y dudalen ac ychwanegwch eu manylion. Mae’n rhaid i chi lofnodi a dyddio tudalen barhad 1 cyn i chi lofnodi’r ffurflen LPA yn adran 9.

Os oes angen mwy nag un dudalen barhad arnoch, gallwch wneud copïau.

Os ydych am ddewis corfforaeth ymddiriedolaeth fel atwrnai ar gyfer eich LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol, llenwch y manylion yma a rhowch ‘X’ yn y blwch ‘corfforaeth ymddiried’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r union enw y mae’r gorfforaeth ymddiriedolaeth yn ei ddefnyddio. Rhaid i gynrychiolwyr y gorfforaeth ymddiriedolaeth gwblhau a llofnodi tudalen barhad 4.

Mwy o wybodaeth ar Adran 2

Gelwir y bobl rydych chi’n eu dewis i weithredu ar eich rhan yn atwrneiod.

Rhaid bod gennych o leiaf un atwrnai. Nid oes terfyn uchaf ar faint o atwrneiod y gallwch eu cael; fodd bynnag, efallai y byddwch am feddwl yn ofalus sut yr hoffech iddynt gydweithio.

Gwnewch yn siŵr bod pob person yn cytuno i fod yn atwrnai i chi cyn i chi eu henwi yn eich LPA. Gall eich atwrnai wrthwynebu ei benodiad yn ddiweddarach a gall hyn atal yr LPA rhag cael ei chofrestru.

Wrth ddewis atwrneiod, ystyriwch:

  • faint rydych chi eisiau eu penodi ac a fyddan nhw’n gallu gweithio gyda’i gilydd

  • a ydych yn ymddiried ynddynt i weithredu er eich lles pennaf

  • pa mor dda rydych chi’n adnabod eich gilydd a pha mor dda maen nhw’n eich deall chi

  • pa mor barod fyddan nhw i wneud penderfyniadau ar eich rhan

  • pa mor dda ydyn nhw am drefnu eu materion eu hunain, fel pa mor dda ydyn nhw am ofalu am eu harian eu hunain

Peidiwch â theimlo bod angen i chi ddewis rhywun dim ond oherwydd nad ydych chi eisiau eu pechu. Os ydych chi eisiau iddyn nhw deimlo’n rhan o’r broses, fe allech chi eu gwneud yn ‘berson i’w hysbysu’ yn lle hynny. (Gweler adran 6 o’r canllaw hwn.)

Pwy sy’n gallu bod yn atwrnai?

Yn nhermau cyfreithiol, person sy’n cael gweithredu ar ran rhywun yw ‘atwrnai’.

Nid oes rhaid i atwrneiod fod yn gyfreithwyr. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis aelodau’r teulu, ffrindiau a phobl eraill maen nhw’n ymddiried ynddynt heb unrhyw gefndir cyfreithiol. Os nad yw atwrnai yn weithiwr proffesiynol, y peth pwysig yw eich bod yn adnabod eich gilydd yn dda a’u bod yn parchu eich barn ac yn gweithredu er eich lles pennaf.

Gallwch ofyn i unrhyw un sydd dros 18 oed ac sydd â galluedd meddyliol i fod yn atwrnai i chi, gan gynnwys:

  • eich gwraig, gŵr, partner sifil neu bartner

  • aelod o’r teulu

  • ffrind agos

  • gweithiwr proffesiynol, fel cyfreithiwr

Rhaid i atwrneiod lofnodi eich LPA ar ôl i chi lofnodi adran 9 ac ar ôl i’r darparwr tystysgrif lofnodi adran 10. Mae’n rhaid iddynt lofnodi cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ar ôl y darparwr tystysgrif – ar yr un diwrnod yn ddelfrydol.

Beth mae’n rhaid i atwrneiod ei wneud

Gall atwrneiod wneud rhai penderfyniadau ar eich rhan, ond ni allant wneud fel y mynnant. Mae’n rhaid iddynt weithredu er eich lles pennaf bob amser.

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn manylu ar hyn yn llawnach. Mae’n nodi pum egwyddor sylfaenol y mae’n rhaid i atwrnai eu dilyn wrth benderfynu a ddylid gweithredu ar eich rhan a sut. Dyma’r egwyddorion:

  • rhaid i’ch atwrneiod dybio eich bod yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun oni bai y sefydlir na allwch wneud hynny

  • rhaid i’ch atwrneiod eich helpu i wneud cynifer o’ch penderfyniadau eich hun ag y gallwch. Rhaid iddynt gymryd bob cam rhesymol i’ch helpu i wneud penderfyniad. Dim ond os nad ydynt wedi llwyddo i’ch helpu i wneud penderfyniad drwy’r camau hynny y gallant eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad

  • ni ddylai eich atwrneiod eich trin fel rhywun sydd ddim yn gallu gwneud penderfyniad oherwydd eich bod yn gwneud penderfyniad annoeth yn unig

  • pan na allwch wneud penderfyniad, rhaid i’ch atwrneiod weithredu a gwneud penderfyniadau er eich lles pennaf

  • cyn i’ch atwrneiod wneud penderfyniad neu weithredu ar eich rhan, rhaid iddynt ystyried a allant wneud y penderfyniad neu weithredu mewn ffordd sy’n cyfyngu llai ar eich hawliau a’ch rhyddid ond sy’n dal i gyflawni’r diben

Rhaid i atwrneiod ddilyn yr egwyddorion hyn bob amser.

Atwrneiod atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol

Mae rhai pobl yn dewis atwrnai proffesiynol, fel cyfreithiwr, ar gyfer eu LPA eiddo a materion ariannol.

Os ydych yn penodi atwrnai proffesiynol ar gyfer LPA eiddo a materion ariannol, fel cyfreithiwr, mae’n rhaid i chi enwi unigolyn. Allwch chi ddim rhoi teitl swydd neu enw cwmni’n unig. Byddwch yn ymwybodol y bydd y person a benodir gennych yn parhau i fod yn atwrnai i chi hyd yn oed os bydd yn gadael ei swydd, oni bai ei fod yn ymwadu fel atwrnai (sy’n golygu dod â’i benodiad i ben yn ffurfiol drwy lenwi ffurflen LPA005). Fel arall, gallwch benodi corfforaeth ymddiriedolaeth lle gallwch roi enw’r gorfforaeth yn unig. Os dewiswch yr opsiwn hwn rhaid i chi roi tic yn y blwch yn adran 2 o’r ffurflen LPA sy’n dweud ‘Mae’r atwrnai hwn yn gorfforaeth ymddiriedolaeth’.

Fel arfer, mae atwrneiod proffesiynol yn codi ffi. Gofynnwch pa ffioedd y byddant yn eu codi. Rhaid i chi ychwanegu cyfarwyddiadau yn adran 7 ynglŷn â’r hyn rydych wedi cytuno i’w dalu. (Gweler adran 7 o’r canllaw hwn.)

Ni all unrhyw fethdalwr nas rhyddhawyd neu berson sy’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled fod yn atwrnai ar gyfer atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol.

Nid yw methdaliad a gorchmynion rhyddhau o ddyled yn effeithio ar atwrneiaeth arhosol iechyd a lles.

Corfforaeth ymddiriedolaeth – atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol yn unig (ffurflen LP1F)

Gall pobl â materion ariannol cymhleth neu sydd heb unrhyw un i reoli eu materion ariannol ddewis corfforaeth ymddiriedolaeth fel eu hatwrnai. Banc masnachol neu gwmni cyfreithiol yw hynny fel arfer.

Dylech ofyn pa ffioedd y byddant yn eu codi. Efallai y byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried dewis corfforaeth ymddiriedolaeth fel atwrnai.

Atwrneiod atwrneiaeth arhosol iechyd a lles

Rhaid i atwrnai ar gyfer LPA iechyd a lles fod yn berson, ac nid cwmni. Gallwch gael cymaint o atwrneiod ag sydd eu hangen arnoch.

Pwy na all fod yn atwrnai

Ni all person o dan 18 oed fod yn atwrnai. Ni allwch ddweud yn yr adran cyfarwyddiadau (adran 7) eich bod am benodi rhywun sydd ar hyn o bryd yn iau na 18 oed fel y gallant weithredu fel atwrnai pan fyddant yn cyrraedd 18 oed.

Ni all person sy’n fethdalwr ar hyn o bryd neu sydd â gorchymyn rhyddhau o ddyled fod yn atwrnai ar LPA eiddo a materion ariannol.

Nid yw methdaliad a gorchmynion rhyddhau o ddyled yn effeithio ar atwrneiaeth arhosol iechyd a lles.

Ni all person sydd ar restr wahardd Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd weithredu fel atwrnai – oni bai eu bod yn aelod o’r teulu ac nad ydynt yn derbyn ffi i fod yn atwrnai i chi. Byddant yn torri’r gyfraith os ydynt yn gwneud hynny.

Beth all atwrneiod ei wneud

Dim ond penderfyniadau rydych chi wedi caniatáu iddynt eu gwneud yn eich LPA y gall eich atwrneiod eu gwneud. Er enghraifft, os yw eich LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol, ni all eich atwrneiod wneud penderfyniadau am eich gofal neu drefn ddyddiol. Os yw eich LPA ar gyfer iechyd a lles, ni allant wneud penderfyniadau am eich arian.

Pryd na all atwrneiod weithredu mwyach

Ni all atwrnai weithredu ar eich rhan os ydyw’n:

  • colli galluedd meddyliol

  • penderfynu nad yw am weithredu fel eich atwrnai mwyach (sy’n cael ei alw’n ‘ymwrthod â’u penodiad’)

  • yn mynd yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn gostwng dyled ac yn atwrnai ar gyfer LPA eiddo a materion ariannol – os yw eich atwrnai yn destun gorchymyn methdaliad interim byddai ei benodiad yn cael ei atal.

  • gwraig, gŵr neu bartner sifil i chi ond bod eich perthynas wedi dod i ben yn gyfreithiol – oni bai eich bod yn ysgrifennu cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r ffurflen LPA y gallant barhau i fod yn atwrnai i chi os daw eich perthynas i ben yn gyfreithiol

Weithiau, os yw atwrnai yn marw neu’n gorfod rhoi’r gorau i weithredu am un o’r rhesymau uchod, gall achosi problemau difrifol:

  • os wnaethoch chi benodi un atwrnai yn unig, byddai eich atwrneiaeth arhosol yn stopio’n gyfan gwbl

  • os ydych wedi dweud bod yn rhaid i’ch atwrneiod weithredu ‘ar y cyd’ am rai neu bob penderfyniad (gweler adran 3 o’r canllaw hwn) yna ni fyddant yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny oni bai eich bod wedi nodi’n benodol fel arall yn adran 7.

Os yw’r naill neu’r llall o’r rhain yn berthnasol i chi, ystyriwch benodi atwrneiod wrth gefn i ddiogelu eich atwrneiaeth arhosol. Darllenwch fwy am atwrneiod wrth gefn yn adran 4 o’r canllaw hwn.

Os ydych yn canslo eich atwrneiaeth arhosol, ni all eich atwrneiod weithredu ar eich rhan mwyach.

Adran 3: Sut dylai eich atwrneiod wneud penderfyniadau?

Llenwch adran 3

Marciwch un blwch yn unig ar y dudalen hon ag ‘X’.

Os ydych wedi dewis un atwrnai yn unig, ticiwch y blwch: ‘Dim ond un atwrnai wnes i benodi’ ac ewch i adran 4.

Os ydych wedi dewis dau neu fwy o atwrneiod, rhaid i chi ddatgan sut dylent wneud penderfyniadau ar eich rhan. Dewiswch un o dri opsiwn drwy farcio un blwch yn unig ag ‘X’:

Os na chaiff opsiwn ei ddewis, mae’r ddeddfwriaeth yn darparu y bydd eich atwrneiod yn cael eu penodi i weithredu ar y cyd. Gall hyn olygu na fydd yr LPA yn gweithio yn y ffordd y dymunwch iddo wneud.

Eglurir bob dewis yn adran 3 o’r ffurflen LPA isod. Os nad ydych yn siŵr pa opsiwn sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau chi, efallai y byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis ‘ar y cyd ac yn unigol’ oherwydd dyma’r ffordd fwyaf hyblyg ac ymarferol i atwrneiod wneud penderfyniadau.

Os dewiswch opsiwn gwahanol i ‘ar y cyd ac yn unigol’ ac na all eich atwrneiod gytuno’n unfrydol ar benderfyniad ar y cyd, ni ellir ei wneud. Gallai eich LPA ddod yn anymarferol.

Os dewiswch ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’, rhaid i chi ddefnyddio tudalen barhad 2. Ar dudalen barhad 2:

  • marciwch y blwch ‘Penderfyniadau y dylai atwrneiod eu gwneud ar y cyd’

  • nodwch yn y gofod pa benderfyniadau y mae’n rhaid i’ch atwrneiod eu gwneud ar y cyd

Os ydych yn defnyddio tudalen barhad 2, rhaid i chi ei llofnodi a’i dyddio (ac unrhyw gopïau ychwanegol a ddefnyddiwch) cyn i chi lofnodi adran 9 o’ch atwrneiaeth arhosol.

Mwy o wybodaeth ar adran 3

Mae’n rhaid i chi ddatgan sut dylai eich atwrneiod weithredu - a allant wneud penderfyniadau ar wahân, neu a oes rhaid iddynt gytuno ar rai penderfyniadau neu bob un ohonynt yn unfrydol. Mae angen i chi ddewis un o dri opsiwn. Mae’r manylion isod.

Ar y cyd ac yn unigol (atwrneiod yn gweithredu naill ai gyda’i gilydd neu’n unigol)

Gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau ar eich rhan ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd.

Os oes gennych fwy nag un atwrnai wedi’u penodi, gallant weithredu ar eu pen eu hunain fel pe bai’n unig atwrnai. Eich atwrneiod sydd i ddewis sut i wneud penderfyniadau, ond rhaid iddynt weithredu er eich lles gorau chi bob amser.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis yr opsiwn hwn oherwydd:

  • gall atwrneiod wneud penderfyniadau syml neu benderfyniadau brys yn hawdd ac yn gyflym, heb ofyn i’ch atwrneiod eraill

  • os na all atwrnai weithredu mwyach, ni fydd yr LPA yn cael ei chanslo

Os dewiswch yr opsiwn hwn, ni ddylech ddweud unrhyw le arall yn yr LPA bod rhaid i benderfyniadau penodol gael eu gwneud gan:

  • un atwrnai penodol

  • rhai o’ch atwrneiod neu bob un o’ch atwrneiod

  • isafswm o atwrneiod

Mae cyfarwyddiadau fel hyn yn gwrth-ddweud eich dewis yma, felly efallai y caiff eich atwrneiaeth arhosol ei gwrthod.

Ceir adran nes ymlaen yn yr atwrneiaeth arhosol sy’n gadael i chi roi cyfarwyddiadau mwy penodol i’ch atwrneiod. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hyn, a gall fod yn fwy cymhleth nag y mae’n ymddangos. Darllenwch adran 7 o’r canllaw hwn cyn penderfynu a ddylid ychwanegu unrhyw beth yno.

Ar y cyd (atwrneiod yn cytuno ar bob penderfyniad yn unfrydol)

Rhaid i’ch atwrneiod wneud bob penderfyniad gyda’i gilydd bob amser. Rhaid iddynt gytuno’n unfrydol a rhaid i bob un ohonynt lofnodi unrhyw ddogfennau perthnasol.

Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych eisiau i’ch atwrneiod gytuno ar bob penderfyniad, yn fach neu’n fawr.

Os na all bob un o’ch atwrneiod gytuno ar benderfyniad, ni all gael ei wneud.

Gyda’r opsiwn ar y cyd:

  • os na all eich atwrneiod gydweithio, ni fydd eich LPA yn gweithio

  • os yw un atwrnai yn methu â gweithredu mwyach neu’n marw, bydd eich LPA yn stopio gweithio – oni bai eich bod wedi penodi atwrneiod wrth gefn.

Os yw eich atwrneiod yn byw ymhell oddi wrth ei gilydd, gallant ei chael yn anodd gweithredu ar y cyd – er enghraifft, mynd i’r banc gyda’i gilydd.

Os na all un o’ch atwrneiod ar y cyd gwreiddiol weithredu mwyach, mae eich holl atwrneiod gwreiddiol yn stopio gweithredu ar eich rhan. Y rheswm am hynny yw bod y gyfraith yn trin atwrneiod sy’n gweithredu ar y cyd fel uned unigol. Os ydych wedi penodi atwrneiod wrth gefn, byddan nhw’n cymryd yr awenau.

Gallwch newid y trefniant hwn, fel os na all un o’ch cyd-atwrneiod weithredu mwyach, gall eich atwrnai/atwrneiod ar y cyd sy’n weddill barhau i wneud pob penderfyniad. Os ydych am i’r trefniant wrth gefn hwn fod yn berthnasol, nodwch hynny’n glir yn y blwch cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r ffurflen LPA neu ar Daflen Barhad 2 os byddwch yn rhedeg allan o le.

Os ydych wedi penodi dau atwrnai, gallech ddefnyddio cyfarwyddyd yn adran 7 fel yr un isod, gan gyfnewid enwau eich atwrneiod am ‘A’ a ‘B’:

“Os yw un o’m cyd-atwrneiod gwreiddiol, A neu B, yn methu neu’n anfodlon gweithredu, byddaf wedyn yn ailbenodi fy atwrnai/atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill, A neu B, yn atwrnai wrth gefn”.

Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill

Rhaid i’ch atwrneiod wneud penderfyniadau penodol gyda’i gilydd a chytuno arnynt yn unfrydol – ond gallant wneud penderfyniadau eraill yn unigol.

Os dewiswch yr opsiwn hwn rhaid i chi nodi’n glir pa benderfyniadau y dylai eich atwrneiod eu gwneud gyda’i gilydd a chytuno arnynt yn unfrydol; hynny yw, pryd dylent weithredu ar y cyd.

Os na all eich atwrneiod i gyd gytuno ar benderfyniad ar y cyd (un y maent i’w wneud gyda’i gilydd), ni ellir gwneud y penderfyniad.

Mae rhai pobl yn dewis yr opsiwn hwn oherwydd nad oes ots ganddynt bod eu hatwrneiod yn cymryd penderfyniadau bob dydd ar eu pen eu hunain ond eisiau iddynt wneud penderfyniadau pwysig gyda’i gilydd, fel gwerthu tŷ.

Os yw eich atwrneiod yn byw yn bell oddi wrth ei gilydd, efallai y bydd gweithredu ar y cyd yn anodd iddynt.

Gyda’r opsiwn ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau; ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill:

  • mae’n rhaid i chi ysgrifennu ar dudalen barhad 2 pa benderfyniadau y mae’n rhaid eu gwneud ar y cyd – os na wnewch chi, ni fydd eich LPA yn gweithio

  • gallwch hefyd ysgrifennu ar Daflen Barhad 2 pa benderfyniadau y gellir eu gwneud ar y cyd ac yn unigol ond nid yw hyn yn hanfodol

  • os na all eich atwrneiod gytuno ar benderfyniad ar y cyd, ni all gael ei wneud

  • os na all atwrnai unigol weithredu mwyach neu os yw’n marw, ni fydd eich atwrneiod sy’n weddill yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau ar y cyd, oni bai eich bod wedi penodi atwrneiod wrth gefn neu gyfarwyddo fel arall.

Gyda’r opsiwn hwn, os oes un atwrnai yn stopio gweithredu ar eich rhan, ond bod gennych atwrneiod wrth gefn:

  • bydd yr atwrneiod wrth gefn yn cymryd yr awenau, gan wneud yr holl benderfyniadau ar y cyd yn lle eich atwrneiod gwreiddiol

  • gall eich atwrneiod wrth gefn a’r atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill wneud unrhyw benderfyniadau y caniateir iddynt eu gwneud yn unigol

Mae dewis arall. Yn yr un modd ag atwrneiod ar y cyd, gallwch ddatgan y gall eich atwrneiod gwreiddiol a’ch atwrneiod wrth gefn barhau i wneud penderfyniadau yr oeddent yn arfer gorfod eu gwneud ar y cyd hyd yn oed os yw un yn methu neu’n anfodlon gweithredu.

Nodwch hyn yn glir yn adran 7 y ffurflen LPA neu ar Daflen Barhad 2 os byddwch yn rhedeg allan o le.

Gallech ddefnyddio cyfarwyddyd yn adran 7 fel y rhai isod, gan gyfnewid enwau eich atwrneiod am ‘A’ a ‘B’:

“Os bydd un o’m hatwrneiod gwreiddiol, A neu B, yn methu neu’n anfodlon gweithredu, byddaf wedyn yn ailbenodi’r atwrnai/atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill, A neu B, i barhau i wneud y penderfyniadau yr wyf wedi’u nodi sydd i’w gwneud ar y cyd”.

“Os bydd un o’m hatwrneiod wrth gefn, A neu B, yn methu neu’n anfodlon gweithredu, byddaf wedyn yn ailbenodi’r atwrnai/atwrneiod wrth gefn sy’n weddill, A neu B, i barhau i wneud y penderfyniadau yr wyf wedi’u nodi sydd i’w gwneud ar y cyd”.

Enghreifftiau o weithio ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill

Enghreifftiau atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol:

Os dewiswch ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’, dylech wneud datganiad fel un o’r rhain ar dudalen barhad 2:

Mae’n rhaid i’m atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau ynglŷn â gwerthu neu osod fy nhŷ a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol ar gyfer popeth arall.

Mae’n rhaid i’m atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau ynglŷn â stociau a chyfrannau, a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol ar gyfer popeth arall.

Yn yr enghraifft gyntaf, mae ‘popeth arall’ yn golygu yr holl benderfyniadau ariannol ar wahân i werthu neu osod eich tŷ. Yn yr ail enghraifft, mae ‘popeth arall’ yn golygu’r holl faterion ariannol ar wahân i fuddsoddi mewn stociau a chyfrannau.

Peidiwch â defnyddio’r enghreifftiau hyn oni bai eu bod yn union yr hyn rydych chi ei eisiau – mae angen i chi nodi beth sy’n iawn i chi.

Enghreifftiau atwrneiaeth arhosol iechyd a lles:

Os ydych yn dewis ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ dylech wneud datganiad fel un o’r rhain ar dudalen barhad 2:

Mae’n rhaid i fy atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau ynglŷn â lle rwy’n byw a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol am bopeth arall.

Mae’n rhaid i fy atwrneiod weithredu ar y cyd am benderfyniadau rydw i wedi eu hawdurdodi i’w gwneud ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd a gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol am bopeth arall.

Yn yr enghraifft gyntaf, mae ‘popeth arall’ yn golygu yr holl benderfyniadau am eich gofal a’ch triniaeth feddygol o ddydd i ddydd. Yn yr ail enghraifft, mae ‘popeth arall’ hefyd yn golygu gofal a thriniaeth feddygol o ddydd i ddydd a phenderfyniadau mwy ynglŷn â lle dylech chi fyw. Dim ond penderfyniadau am driniaethau i’ch cadw’n fyw sydd wedi’u heithrio.

Dim ond os ydych chi’n rhoi awdurdod i’ch atwrneiod roi neu wrthod cydsyniad am driniaeth cynnal bywyd drwy ddewis opsiwn A yn adran 5 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol y gallwch chi ddefnyddio rhywbeth fel yr ail enghraifft. Gweler adran 5 am fwy ar driniaeth cynnal bywyd.

Peidiwch â defnyddio’r enghreifftiau hyn oni bai eu bod yn union yr hyn yr ydych ei eisiau – mae angen i chi nodi beth sy’n iawn i chi gan nodi mai dim ond ar ôl i chi golli galluedd meddyliol y gall eich atwrneiod o dan LPA iechyd a lles ddechrau gweithredu.

Diogelu eich buddiannau

Ym mha bynnag ffordd rydych yn penodi eich atwrneiod i weithredu, mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid iddynt weithredu er eich lles pennaf bob amser a gwneud pob ymdrech i ganfod a allwch wneud penderfyniad cyn iddynt wneud hynny.

Rhaid i atwrneiod hefyd ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ac ystyried unrhyw ddewisiadau a nodwch yn adran 7 o’ch ffurflen atwrneiaeth arhosol.

Mae Cod Ymddygiad y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn egluro dyletswyddau’r atwrneiod.

Cwestiynau i ofyn i chi’ch hun

  • A ydych yn glir ynghylch pam mai ‘ar y cyd ac yn unigol’ yw’r opsiwn mwyaf hyblyg ac ymarferol?

  • Beth allai atal eich atwrneiod rhag gweithio gyda’i gilydd? Ydyn nhw’n cytuno? Beth fyddai’n digwydd pe byddent yn cweryla?

  • Ydych chi’n hapus i’ch atwrneiod ddewis a ydynt yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd neu’n unigol? Dewiswch ‘ar y cyd ac yn unigol’, sef yr opsiwn symlaf.

  • Hyd yn oed os all eich atwrneiod wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau ar eu pennau eu hunain, a oes rhai penderfyniadau mawr rydych chi eisiau iddynt gytuno arnynt? Dewiswch ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’.

  • Ydych chi eisiau i’ch atwrneiod neu atwrneiod wrth gefn wneud eu holl benderfyniadau gyda’i gilydd a chytuno ar bob penderfyniad yn unfrydol, boed yn fach neu’n fawr? Dewiswch ‘ar y cyd’.

  • Ydy eich atwrneiod yn deall sut hoffech chi iddyn nhw wneud penderfyniadau? Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod eich dewis gyda nhw.

  • Ydych chi’n gwybod beth fydd yn digwydd os na all un atwrnai weithredu mwyach? Darllenwch yr adran hon unwaith eto os nad ydych yn siŵr.

  • Ydych chi eisiau atwrneiod wrth gefn fel cynllun diogelu os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad gyda’i gilydd? Os na ddewiswch atwrneiod wrth gefn, gall eich LPA fod mewn risg os yw atwrnai yn stopio gweithredu ar eich rhan.

Adran 4: Atwrneiod wrth gefn

Llenwch adran 4

Os hoffech gael un neu fwy o atwrneiod wrth gefn, ysgrifennwch eu manylion yn adran 4 o’r ffurflen LPA. Os nad ydych am gael unrhyw atwrneiod wrth gefn gadewch yr adran hon yn wag wrth gyflwyno’r LPA i OPG; fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gynnwys y dudalen hon o fewn yr LPA o hyd.

Os ydych chi eisiau mwy na dau atwrnai wrth gefn, marciwch y blwch ‘Mwy o atwrneiod wrth gefn’ ar y dudalen hon. Cymerwch gopi o Daflen Barhad 1, o’r enw ‘Pobl ychwanegol’. Ar gyfer pob atwrnai wrth gefn ychwanegol, marciwch y blwch ‘Atwrnai wrth gefn’ ar y ddalen ac ychwanegwch eu manylion.

Mae’n rhaid i chi lofnodi a dyddio tudalen barhad 1 cyn i chi lofnodi’r LPA yn adran 9.

Os oes angen mwy nag un dudalen barhad arnoch, gallwch wneud copïau.

Newid pryd a sut y gall eich atwrneiod wrth gefn weithredu

Marciwch y blwch ag X’ os ydych wedi penodi mwy nag un atwrnai wrth gefn a’ch bod eisiau newid sut neu bryd y gallant weithredu.

Gall marcio’r blwch hwn greu cymhlethdodau ar gyfer eich LPA. Ceir mwy o ganllawiau isod – darllenwch nhw. Efallai y byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol hefyd.

Mwy o wybodaeth ar adran 4

Mae atwrneiod wrth gefn yn bobl rydych chi’n eu dewis i gamu i mewn os na all un o’ch atwrneiod gwreiddiol wneud penderfyniadau ar eich rhan mwyach.

Bydd atwrnai wrth gefn yn camu i mewn yn awtomatig os bydd un o’ch atwrneiod yn:

  • marw

  • colli galluedd meddyliol

  • penderfynu nad ydynt eisiau gweithredu ar eich rhan mwyach (caiff ei alw’n ‘ymwrthod â’u penodiad’)

  • gwraig, gŵr neu bartner sifil i chi ond bod eich perthynas wedi dod i ben yn gyfreithiol (oni bai eich bod wedi ychwanegu cyfarwyddyd iddynt barhau)

  • yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhau o ddyled – mae hyn yn gymwys i atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol yn unig

Dim ond os nad yw’r atwrnai gwreiddiol y mae’n cymryd ei le yn gallu gwneud penderfyniadau yn barhaol am un o’r rhesymau uchod y gall atwrnai wrth gefn weithredu.

Mae atwrneiod wrth gefn fel arfer yn camu i mewn cyn gynted ag y bydd un o’ch atwrneiod gwreiddiol yn rhoi’r gorau i weithredu ar eich rhan. Fodd bynnag, gallwch newid y trefniant hwn os ydych am i’ch atwrneiod gwreiddiol barhau i wneud penderfyniadau ar y cyd hyd yn oed os yw un yn methu neu’n anfodlon gweithredu.

Gweler adran 3 o’r cyfarwyddyd hwn am enghreifftiau o beth i’w ysgrifennu ar y ffurflen LPA os ydych eisiau i’r trefniant amgen hwn fod yn berthnasol.

Ni all atwrnai wrth gefn:

  • gamu i mewn dros dro am atwrnai sy’n dal i allu gweithredu (er enghraifft, tra bod yr atwrnai cyntaf ar wyliau)

  • ni allwch ychwanegu unrhyw gyfarwyddiadau yn dweud wrth atwrneiod wrth gefn i ddechrau gweithredu o dan amgylchiadau penodol.

Os oes rhaid i’ch atwrneiod gwreiddiol wneud rhai o’r penderfyniadau neu bob penderfyniad ar y cyd ac na all un ohonynt weithredu ar eich rhan mwyach, bydd eich atwrneiod wrth gefn yn gwneud y penderfyniadau hynny ar y cyd yn lle hynny. Gall eich atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill a’r rhai wrth gefn wneud unrhyw benderfyniadau nad oes rhaid iddynt gael eu gwneud ar y cyd.

Diogelu eich atwrneiaeth arhosol

Mae cael atwrneiod wrth gefn yn golygu y dylai eich LPA ddal i weithio os na all atwrnai gwreiddiol weithredu ar eich rhan mwyach.

Heb atwrneiod wrth gefn:

  • os mai dim ond un atwrnai sydd gennych ac na all yr atwrnai hwnnw weithredu ar eich rhan mwyach, ni fydd eich LPA yn weithredol mwyach

  • os oes gennych atwrneiod sy’n gorfod gwneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad gyda’i gilydd (‘ar y cyd’) ac na all un atwrnai weithredu mwyach, ni fydd y gweddill yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny ar y cyd.

Os na ellir defnyddio eich LPA ac nad oes gennych y galluedd meddyliol, bydd rhaid i rywun rydych yn ei adnabod wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael y pŵer i weithredu ar eich rhan – gall hyn fod yn gostus a bydd yn cymryd amser hir gan amlaf.

Pwy all fod yn atwrnai wrth gefn

Rhaid i atwrnai wrth gefn fodloni’r un gofynion â’r atwrnai gwreiddiol. Mae hynny’n cynnwys cael galluedd meddyliol a bod dros 18 oed pan fyddwch yn llofnodi eich LPA.

Gall un o’ch atwrneiod gwreiddiol hefyd gael ei benodi’n atwrnai wrth gefn yn yr un LPA. Byddech fel arfer yn gwneud hyn os yw’r math o benodiad naill ai ar y cyd neu ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill. Byddai’n golygu y gall yr atwrneiod gwreiddiol barhau i weithredu ar benderfyniadau ar y cyd os bydd un o’r atwrneiod gwreiddiol yn methu â gweithredu.

Ni all person sydd ar restr wahardd Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd weithredu fel atwrnai – oni bai eu bod yn aelod o’r teulu ac nad ydynt yn derbyn ffi i fod yn atwrnai i chi. Byddant yn torri’r gyfraith os ydynt yn gwneud hynny.

Pan fydd atwrneiod wrth gefn yn gweithredu

Os ydych yn cynnwys mwy nag un atwrnai newydd yn eich atwrneiaeth arhosol, maent i gyd yn gweithredu ar yr un pryd, oni bai eich bod wedi:

  • penodi eich atwrneiod i weithredu ar y cyd ac yn unigol

  • a datgan ym mha drefn y bydd eich atwrneiod gwreiddiol yn cael eu newid o fewn eich cyfarwyddiadau

Newid atwrnai sy’n gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’

Os ydych yn penodi eich atwrneiod i weithredu ar y cyd ac yn unigol, fel arfer bydd atwrneiod newydd yn camu i mewn os na all un o’r atwrneiod gwreiddiol weithredu ar eich rhan mwyach. Bydd yr atwrneiod sy’n cymryd eu lle ac unrhyw atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill yn gallu gwneud penderfyniadau ‘ar y cyd ac yn unigol’.

Newid atwrneiod sy’n gweithredu ‘ar y cyd’ neu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’

Os ydych yn penodi eich atwrneiod naill ai ‘ar y cyd’ neu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’, mae’n bwysig cael atwrneiod wrth gefn.

Os na all un atwrnai gwreiddiol weithredu ar eich rhan mwyach, rhaid i’ch holl atwrneiod eraill stopio gwneud unrhyw benderfyniadau ar y cyd. Os bydd hynny’n digwydd, bydd unrhyw atwrneiod wrth gefn yn camu i mewn i wneud y penderfyniadau ar y cyd. Os nad oes gennych unrhyw wrth gefn, bydd eich LPA yn stopio gweithio ar gyfer penderfyniadau ar y cyd. Y rheswm am hynny yw bod y gyfraith yn gweld grŵp a benodwyd ‘ar y cyd’ fel uned unigol.

Fodd bynnag, mae ffordd o gwmpas hyn. Os ydych am i’ch atwrneiod gwreiddiol barhau i weithredu os bydd un ohonynt yn methu, rhaid i chi nodi hyn yn adran 7 o’r LPA, efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol ar sut y byddech yn geirio hyn er mwyn osgoi gwneud camgymeriad a fyddai’n achosi’r LPA i ddod yn anymarferol.

Newid pryd a sut y gall eich atwrneiod wrth gefn weithredu

Marciwch y blwch ag X’ os ydych wedi penodi mwy nag un atwrnai wrth gefn a’ch bod eisiau newid sut a phryd y gallant weithredu.

Mae dwy brif sefyllfa lle mae hyn yn ddefnyddiol. Mae gennych fwy nag un atwrnai wrth gefn a:

  • rydych wedi penodi eich atwrneiod gwreiddiol ar y cyd ac yn unigol. Rydych chi am i’ch rhai wrth gefn weithredu mewn trefn benodol. Darllenwch Nodi trefn ar gyfer atwrneiod sy’n dod i gymryd eu lle.

  • dim ond un atwrnai gwreiddiol sydd gennych. Nid ydych eisiau i’ch atwrneiod wrth gefn weithredu ar y cyd. Darllenwch y canllawiau am gymhlethdodau o’r enw ‘1. Un atwrnai a dau neu fwy o rai wrth gefn’

Mae yna rai sefyllfaoedd eraill lle efallai y byddwch am farcio’r blwch hwn. Fe welwch enghreifftiau o dan yr adran Cymhlethdodau: atwrneiod wrth gefn.

Nodi trefn ar gyfer atwrneiod wrth gefn

Os ydych yn marcio’r blwch a’ch bod wedi penodi eich atwrneiod gwreiddiol i weithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’ yn adran 3 o’r ffurflen LPA, gallwch nodi’r drefn y mae eich atwrneiod wrth gefn yn gweithredu.

Defnyddiwch dudalen barhad 2. Marciwch y blwch: ‘Sut mae atwrneiod wrth gefn yn gweithredu’. Defnyddiwch y gofod i ysgrifennu sut rydych chi eisiau i’ch atwrneiod wrth gefn weithredu. Efallai y byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth fel:

Os na all un o fy atwrnai (mam neu dad) weithredu mwyach, hoffwn i’m chwaer ddod yn atwrnai yn lle hynny. Os na fydd rhiant arall yn gweithredu mwyach nes ymlaen, hoffwn i’m brawd ddod yn atwrnai.

Os nad yw fy atwrnai John Smith yn gallu gweithredu o dan yr LPA yma, rydw i eisiau i Anne Hall gamu i mewn yn ei le fel atwrnai.

Peidiwch â nodi trefn i newid atwrneiod os yw eich atwrneiod gwreiddiol yn gweithredu ‘ar y cyd’ neu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’. Byddwch yn stopio eich LPA rhag gweithio. Os ydych chi’n dal eisiau gwneud hyn, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol.

Cymhlethdodau: atwrneiod wrth gefn

Mae penodi atwrneiod wrth gefn yn ffordd synhwyrol o ddiogelu LPA, yn enwedig os mai un atwrnai gwreiddiol sydd yna, neu os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad ar y cyd.

Fel arfer, mae newid atwrneiod yn gweithio fel y byddech yn ei ddisgwyl. Er enghraifft, gallech chi enwi un atwrnai gwreiddiol ac un atwrnai wrth gefn. Yna, os bydd yr atwrnai gwreiddiol yn stopio gweithredu, bydd yr atwrnai wrth gefn yn dod i gymryd ei le.

Serch hynny, os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhai penderfyniadau neu bob penderfyniad ar y cyd, neu os oes gennych fwy nag un atwrnai wrth gefn, gall pethau annisgwyl ddigwydd.

Edrychwch ar yr enghreifftiau isod: maent yn ymdrin â rhai sefyllfaoedd eithaf cyffredin.

1. Un atwrnai a dau neu fwy o atwrneiod wrth gefn

Beth fydd yn digwydd

Oni bai eich bod yn dweud yn wahanol, bydd y rhai wrth gefn yn gorfod gweithredu ar y cyd.

Enghraifft

Rydych wedi penodi eich priod neu bartner fel eich unig atwrnai. Rydych yn penodi eich mab a’ch merch yn atwrneiod wrth gefn. Nid ydych yn dweud dim am sut y dylent weithredu.

Cyn gynted ag y bydd eich priod neu bartner yn methu â gweithredu mwyach, mae eich plant yn camu i mewn. Maent bellach yn gyd-atwrneiod, ac mae’n rhaid iddynt i gyd gytuno ar bob penderfyniad, waeth pa mor fach ydyw.

Ffyrdd eraill

Efallai mai dyma rydych chi ei eisiau – fodd bynnag, mae’n well gan lawer o bobl i’w hatwrneiod weithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’, gan roi mwy o ryddid a hyblygrwydd iddynt.

I wneud i hyn ddigwydd:

  • ar waelod adran 4 o’r LPA, marciwch y blwch o’r enw ‘Rwyf am newid pryd neu sut y gall fy atwrneiod weithredu’

  • cymerwch gopi o Daflen Barhad 2 a marcio’r blwch ‘Sut mae atwrneiod wrth gefn yn camu i mewn ac yn gweithredu’

  • ysgrifennwch hyn ar y ddalen: “Rwyf am i’m hatwrneiod wrth gefn weithredu ar y cyd ac yn unigol”

  • llofnodwch a dyddio’r ddalen cyn i chi lofnodi adran 9 o’r LPA

2. Atwrneiod ar y cyd ac un neu fwy o atwrneiod wrth gefn

Beth fydd yn digwydd

Ni fydd yr atwrneiod gwreiddiol yn gallu gweithredu o gwbl cyn gynted ag y bydd rhywun yn rhoi’r gorau i weithredu. Bydd yr atwrneiod wrth gefn yn cymryd drosodd yr holl benderfyniadau.

Enghraifft

Rydych chi’n penodi eich dau frawd a’ch chwaer fel atwrneiod, yn gweithredu ar y cyd, ac yn penodi eich merch fel atwrnai i gymryd eu lle.

Mae rhywbeth yn digwydd i un o’ch brodyr/chwiorydd sy’n golygu na allant weithredu mwyach. Dyma pryd mae eich merch yn camu i mewn. Hi yw’r unig atwrnai, ac nid oes gan eich brodyr/chwiorydd sy’n weddill unrhyw lais mewn penderfyniadau a wneir o dan yr atwrneiaeth arhosol hon – ni allant weithredu ar eich rhan o gwbl.

Ffyrdd eraill

Os ydych wedi penodi eich atwrneiod gwreiddiol ‘ar y cyd’, nid yw’n hawdd trefnu pethau fel bod y lleill yn gallu parhau i weithredu ar ôl i un ohonynt orfod stopio – mae’n rhan o’r hyn y mae ‘ar y cyd’ yn ei olygu.

Gallech feddwl am benodi’r atwrneiod gwreiddiol ‘ar y cyd ac yn unigol’ yn lle hynny. Os oes rhai penderfyniadau mawr yr hoffech iddynt gytuno arnynt, gallech eu penodi ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ – serch hynny, fel y mae’r enghraifft isod yn ei ddangos byddai’r un broblem yn digwydd eto.

Mae yna ffyrdd o gwmpas y broblem. Fodd bynnag, efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol neu ffonio ein llinell gymorth.

Gallwch ddatgan i ailbenodi’ch atwrneiod gwreiddiol sy’n weddill yn yr adran cyfarwyddiadau (adran 7).

Gallwch hefyd wneud ail LPA rhag ofn y bydd eich un gyntaf yn peidio â gweithio. Yn yr ail LPA hon, gallwch benodi’r atwrneiod ar y cyd o’ch LPA gyntaf.

Os byddwch yn penodi’ch atwrneiod ar y cyd ac yn unigol yn eich ail LPA, byddwch yn osgoi’r broblem a gawsoch gyda’ch LPA gyntaf. Os byddwch yn gwneud ail LPA, rhaid i chi ysgrifennu cyfarwyddyd yn adran 7 eich ail LPA yn dweud y daw i rym os bydd eich LPA cyntaf yn peidio â gweithio. Efallai y byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth tebyg i hyn:

Os bydd fy LPA wreiddiol ar gyfer eiddo a materion ariannol yn peidio â gweithio, daw’r LPA hon i rym.

Os bydd fy LPA iechyd a lles yn methu, bydd yr LPA hon yn ei disodli.

3. Atwrneiod sy’n cael eu penodi ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill yn ogystal ag un atwrnai neu fwy wrth gefn

Beth fydd yn digwydd

Ni fydd yr atwrneiod gwreiddiol yn cael unrhyw lais yn y penderfyniadau ar y cyd cyn gynted ag y bydd rhywun yn stopio gweithredu. Bydd y rhai wrth gefn yn cymryd yr awenau o ran penderfyniadau ar y cyd.

Enghraifft

Rydych wedi penodi eich merch a’i gŵr fel atwrneiod. Mae’n rhaid iddynt weithredu ar y cyd ar gyfer unrhyw benderfyniad ynglŷn â gwerthu eich tŷ, ond gallant weithredu ar y cyd ac yn unigol ar gyfer pob penderfyniad arall. Rydych yn penodi eich dau ŵyr (sydd dros 18 oed) fel atwrneiod wrth gefn.

Mae eich mab yng nghyfraith yn stopio gweithredu fel atwrnai. Bellach, eich merch a’ch wyrion yw eich atwrneiod. Serch hynny, nid oes gan eich merch unrhyw lais wrth werthu eich tŷ. Gall eich wyrion wneud y penderfyniad hwnnw heb ymgynghori â hi – nhw yw’r unig atwrneiod ar gyfer penderfyniadau ar y cyd.

Ffyrdd eraill

Mae gan hyn yr un broblem â 2. Atwrneiod ar y cyd ac un neu fwy o atwrneiod wrth gefn.

Os ydych yn siŵr nad ydych am benodi eich atwrneiod gwreiddiol ar y cyd ac yn unigol, yna gallwch naill ai wneud cyfarwyddyd neu wneud dwy LPA.

I wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn 2. Atwrneiod ar y cyd ac un neu fwy o atwrneiod wrth gefn.

Adran 5: Pryd all eich atwrneiod wneud penderfyniadau? (atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol yn unig)

Llenwch adran 5

Mae’n rhaid chi ddewis pryd rydych chi eisiau i’ch atwrneiod allu gwneud penderfyniadau. Marciwch un blwch yn unig ag ‘X’.

Mae gennych ddau opsiwn:

  • Cyn gynted ag y bydd fy atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru (yn ogystal â phan na fydd gen i alluedd meddyliol)

  • Dim ond pan nad oes gen i alluedd meddyliol

Mwy o wybodaeth ar adran 5 (ar gyfer atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol)

Gallwch ddewis a all eich atwrnai wneud penderfyniadau ar eich LPA cyn gynted ag y bydd wedi’i chofrestru, neu mai dim ond pan nad oes gennych alluedd meddyliol y gellir ei defnyddio.

Cyn gynted ag y bydd fy atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru (a phan na fydd gen i alluedd meddyliol)

Marciwch y blwch ag ‘X’ os ydych chi eisiau i’ch atwrneiod eich helpu gyda’ch materion ariannol tra bod gennych alluedd meddyliol.

Er enghraifft, os na allwch adael y tŷ neu os yw’n anodd siarad â’ch cyflenwr trydan, gallech ofyn i’ch atwrneiod ddelio â’r banc neu dalu biliau. Gallech ofyn i’ch atwrneiod weithredu ar eich rhan os ydych i ffwrdd – er enghraifft, ar wyliau.

Gallwch roi cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r LPA (gweler adran 7 o’r canllaw hwn) am benderfyniadau na all eich atwrneiod eu cymryd – er enghraifft, gwerthu eich tŷ. Efallai y byddwch chi’n ysgrifennu cyfarwyddiadau fel:

Tra bod gen i alluedd meddyliol, ni ddylai fy atwrneiod wneud unrhyw benderfyniadau am werthu fy nhŷ.

Cyhyd â bod gennych alluedd meddyliol, chi sy’n rheoli eich materion ariannol.

Dim ond pan na fydd gen i alluedd meddyliol

Marciwch y blwch ag ‘X’ os nad ydych chi eisiau i’ch atwrneiod wneud penderfyniadau neu weithredu ar eich rhan tra bod gennych alluedd meddyliol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gofalu am eich arian tra bod gennych alluedd meddyliol o hyd. Yna, os byddwch byth yn colli’r gallu hwnnw, bydd eich LPA yn barod i’ch atwrneiod ei defnyddio.

Weithiau, mae banciau a sefydliadau ariannol eraill eisiau cadarnhad ysgrifenedig nad oes gan roddwr alluedd meddyliol cyn y byddant yn cydnabod awdurdod atwrnai i weithredu o dan LPA.

Efallai y bydd yn rhaid i’ch atwrnai/atwrneiod ofyn i’ch meddyg teulu, cydlynydd gofal, gweithiwr cymdeithasol neu staff cartref gofal am asesiad galluedd meddyliol.

Pan gyrhaeddwch adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol, gallwch ychwanegu cyfarwyddiadau. Mae rhai pobl yn egluro sut dylid asesu eu galluedd meddyliol, fel:

Ni fydd fy atwrneiod yn gweithredu o dan y pŵer hwn oni bai eu bod wedi cael barn feddygol ysgrifenedig yn nodi nad oes gennyf alluedd meddyliol bellach i reoli a gweinyddu eiddo a’m materion ariannol.

Serch hynny, os ydych yn ymddiried yn eich atwrneiod i asesu eich galluedd meddyliol, nid oes angen i chi ychwanegu cyfarwyddiadau fel hyn.

Adran 5: Triniaeth cynnal bywyd (atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn unig)

Llenwch adran 5

Cofiwch yma, yn wahanol i’r LPA ar gyfer eich penderfyniadau eiddo a materion ariannol, dim ond ar ôl i chi golli galluedd meddyliol y gall eich atwrneiod ddechrau gweithredu o dan eich LPA ar gyfer eich penderfyniadau iechyd a lles.

Mae gennych ddau opsiwn:

  • opsiwn A – Rydw i’n rhoi awdurdod i’m atwrneiod roi neu wrthod cydsyniad am driniaeth cynnal bywyd ar fy rhan

  • opsiwn B – Nid wyf yn rhoi awdurdod i’m atwrneiod roi neu wrthod cydsyniad am driniaeth cynnal bywyd ar fy rhan

Llofnodwch un opsiwn yn unig.

Rhaid i chi lofnodi a dyddio’r dudalen hon. Rhaid tystio i’ch llofnod, a rhaid i’ch tyst bob amser roi ei enw llawn a’i gyfeiriad. Rhaid i’r tyst fod yn 18 oed neu’n hŷn ac ni all fod yn atwrnai nac yn atwrnai wrth gefn o dan yr LPA yma. Sylwch fod y manylion tystion wedi’u fformatio’n wahanol i rannau eraill yr LPA a’u bod ar draws gwaelod y dudalen, o’r chwith i’r dde.

Llofnodwch yr adran hon cyn i chi lofnodi adran 9 o’ch atwrneiaeth arhosol. Gallwch lofnodi’r ddwy adran ar yr un dydd.

Os na allwch lofnodi neu wneud marc a’ch bod wedi cyfarwyddo rhywun arall i lofnodi’ch LPA ar eich rhan, rhaid i’r person hwnnw lofnodi’r dudalen hon a dyddio ei lofnod. Rhaid tystio i’w llofnod. Bydd yn rhaid iddynt hefyd lofnodi a dyddio tudalen barhad 3 ar yr un pryd ag y byddant yn llenwi adran 5.

Mae’n bwysig bod y dudalen hon yn cael ei chwblhau’n gywir, ac nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei hepgor, neu mae’n bosibl na fydd yr OPG yn gallu cofrestru’ch LPA. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi eto i gwblhau LPA arall.

Mwy o wybodaeth ar adran 5 (ar gyfer atwrneiaeth arhosol iechyd a lles)

Rhaid i chi ddewis yr hyn yr hoffech ei weld yn digwydd pe bai angen cymorth meddygol arnoch i’ch cadw’n fyw ac nad oedd gennych alluedd meddyliol mwyach.

Os ydych yn llofnodi opsiwn A ac angen triniaeth cynnal bywyd ond ddim yn gallu gwneud penderfyniadau, gall eich atwrneiod siarad â meddygon ar eich rhan fel pe baent yn chi. Gallwch ysgrifennu cyfarwyddiadau neu ddewisiadau ar gyfer eich atwrneiod yn adran 7 o’r ffurflen LPA. Gweler isod rai enghreifftiau.

Os dewiswch opsiwn B, bydd meddygon yn gwneud penderfyniadau am driniaeth cynnal bywyd.

Triniaeth cynnal bywyd: diffiniad

Mae ‘triniaeth cynnal bywyd’ yn golygu gofal, llawdriniaeth, meddyginiaeth neu fath arall o gymorth gan feddygon sydd ei angen i gadw rhywun yn fyw.

Gall triniaeth cynnal bywyd gynnwys:

  • llawdriniaeth ddifrifol, fel llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon

  • cemotherapi, radiotherapi neu fath arall o driniaeth canser

  • trawsblaniad organau

  • maeth neu hydradiad artiffisial (bwyd neu ddŵr a roddir drwy ddulliau heblaw trwy’r geg)

Mae p’un a yw rhai triniaethau yn cynnal bywyd yn dibynnu ar y sefyllfa. Er enghraifft, pe bai rhywun yn cael niwmonia, gallai cwrs o wrthfiotigau gynnal bywyd.

Gall fod angen penderfyniadau am driniaeth cynnal bywyd o dan amgylchiadau annisgwyl. Un enghraifft yw llawdriniaeth arferol nad aeth fel y cynlluniwyd.

Opsiwn A: atwrneiod

Dewiswch opsiwn A os ydych chi eisiau i’ch atwrneiod benderfynu ar driniaeth cynnal bywyd rhag ofn na fyddwch byth yn gallu gwneud y penderfyniadau eich hun.

Triniaeth cynnal bywyd: dewisiadau (dewisol)

Gallwch ddefnyddio adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol i hysbysu eich atwrneiod o’ch dewisiadau, fel bod unrhyw benderfyniadau a wnânt mor agos â phosibl at y penderfyniadau y byddech wedi’u gwneud.

Er enghraifft, efallai y byddech chi’n ysgrifennu rhywbeth fel:

Pe bawn yn niwrnodau olaf salwch angheuol, dim ond triniaethau i’m gwneud i’n gyfforddus y byddwn i eisiau. Fyddwn i ddim eisiau triniaethau i ymestyn fy mywyd neu a oedd yn golygu na allwn farw adref.

Dylai atwrneiod roi sylw i’ch dewisiadau, er nad oes rhaid iddynt eu dilyn. Nid oes rhaid i chi roi unrhyw ddewisiadau ar gyfer triniaeth cynnal bywyd – gall eich atwrneiod weithredu hebddynt.

Triniaeth cynnal bywyd: cyfarwyddiadau (dewisol)

Gallwch nodi cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol i restru cyflyrau meddygol lle mae’n rhaid i’ch atwrneiod gydsynio neu beidio â chydsynio i driniaeth cynnal bywyd ar eich rhan. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth tebyg i hyn:

Ni ddylai fy atwrneiod gytuno i driniaeth cynnal bywyd os ydw i mewn cyflwr diymateb parhaol.

Efallai y byddwch yn teimlo bod eich atwrneiod yn eich deall yn ddigon da ac nad oes angen i chi ysgrifennu cyfarwyddiadau. Siaradwch â nhw am yr hyn rydych ei eisiau.

Os byddwch yn ysgrifennu cyfarwyddiadau, mae’n rhaid i’ch atwrneiod eu dilyn. Rhaid i chi fod yn ofalus i beidio ag ysgrifennu unrhyw beth sy’n gwrth-ddweud yr hyn rydych wedi’i ddweud yn rhywle arall yn eich LPA neu’n sy’n gwneud i’ch atwrneiod dorri’r gyfraith. Os felly, gallai wneud eich LPA yn anymarferol. Os ydych am ysgrifennu cyfarwyddiadau ond yn ansicr, efallai y byddwch eisiau gofyn am gyngor cyfreithiol.

Does dim rhaid i chi roi cyfarwyddiadau am driniaeth cynnal bywyd.

Opsiwn B: meddygon

Dewiswch opsiwn B os ydych chi eisiau i’ch meddygon benderfynu ar driniaeth cynnal bywyd rhag ofn na fyddwch chi’n gallu gwneud. Os yw’r sefyllfa yn codi, dylent:

  • asesu beth sydd er eich lles pennaf

  • lle bo’n bosibl, ystyried safbwyntiau eich atwrneiod a phobl eraill sy’n gysylltiedig â’ch lles

  • ystyried yr hyn rydych wedi’i ddweud neu ysgrifennu amdano ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd, gan gynnwys unrhyw ganllawiau rydych wedi’u rhoi yn eich LPA

Ffyrdd eraill o wneud eich dewisiadau triniaeth yn glir

Mae yna ffyrdd eraill o esbonio beth rydych chi am ei weld yn digwydd os oes angen triniaeth feddygol arnoch ac na allwch wneud penderfyniadau drosoch eich hun mwyach.

Mae penderfyniad ymlaen llaw yn ddogfen gyfreithiol rwymol lle rydych yn ysgrifennu pa driniaethau penodol nad ydych eu heisiau, rhag ofn na allwch benderfynu neu wneud eich dymuniadau’n hysbys. Mae rhai pobl yn ei alw’n ‘ewyllys fyw’ neu ‘gyfarwyddeb ymlaen llaw’.

Os ydych wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw y dylai eich meddygon neu’ch atwrneiod ei ystyried, cyfeiriwch ato yn eich cyfarwyddiadau yn adran 7 o’r ffurflen LPA.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am benderfyniadau ymlaen llaw ar Gweithrediaeth Iechyd GIG Cymru..

Os ydych yn rhoi pŵer i’ch atwrneiod benderfynu ar driniaeth cynnal bywyd ac wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw, gallai eich LPA fod yn drech na’ch penderfyniad ymlaen llaw.

Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol, yn enwedig os bydd y penderfyniad ymlaen llaw a’r LPA yn dweud pethau gwahanol iawn.

Gallwch hefyd roi gwybod i bobl eich barn am driniaethau a gofal mewn:

  • datganiadau o ddymuniadau

  • cynlluniau gofal

Ceir mwy am driniaeth cynnal bywyd, penderfyniadau ymlaen llaw a sut mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymateb i’ch dymuniadau ysgrifenedig ym mhennod 9 o Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Adran 6: Pobl i’w hysbysu pan fydd atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru

Llenwch adran 6 (dewisol)

Gallwch ddewis hyd at bump o bobl i’w hysbysu am eich LPA pan fydd ar fin cael ei chofrestru.

Dylai’r rhain fod yn bobl sy’n eich adnabod yn dda ac a fyddai’n fodlon codi pryderon ynglŷn â’ch LPA. Gallant wrthwynebu’r LPA os ydynt o’r farn eich bod o dan bwysau i’w gwneud neu os ydynt yn credu bod twyll yn rhan o bethau.

Fodd bynnag, mae’r adran hon yn ddewisol ac nid oes rhaid i chi ddewis pobl i’w hysbysu.

Os ydych am benodi pobl i’w hysbysu, gallwch ysgrifennu enwau a chyfeiriadau hyd at bedwar yn adran 6. Os ydych am benodi pump o bobl i’w hysbysu, ticiwch y blwch sy’n dweud ‘Rydw i eisiau penodi person arall i’w hysbysu’. Cwblhewch enw a chyfeiriad y person ar dudalen barhad 1 a marciwch y blwch ‘Person i’w hysbysu’ ar y dudalen honno.

Rhaid i chi lofnodi a dyddio tudalen barhad 1 cyn i chi lofnodi’r LPA yn adran 9. Os oes angen i chi ddefnyddio mwy nag un dudalen barhad, gallwch wneud copïau.

Rhaid i’r person sy’n gweud cais i gofrestru’r LPA – naill ai chi neu eich atwrneiod – ddweud wrth unrhyw berson sydd angen eu hysbysu bod yr LPA yn cael ei hanfon i’w chofrestru. Rhaid iddynt ddefnyddio ffurflen LP3 i wneud hynny, ychydig cyn anfon y ffurflen LPA at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae Rhan C o’r canllaw hwn yn egluro sut i hysbysu’r bobl hyn.

Mwy o wybodaeth ar adran 6

Mae rhoi gwybod i bobl am eich atwrneiaeth arhosol ychydig cyn iddi gael ei chofrestru yn eich diogelu chi. Mae’n arbennig o bwysig os oes amser hir rhwng gwneud eich LPA a’i chofrestru.

Dewiswch bobl i’w hysbysu

Gallwch ddewis hyd at bump o bobl i’w hysbysu ond ni allant fod yn atwrneiod neu atwrneiod wrth gefn. Mae nifer o roddwyr yn dewis aelodau’r teulu neu ffrindiau agos. Gwiriwch gyda’r bobl rydych yn bwriadu rhoi gwybod iddynt eu bod yn hapus i gael eu henwi yn eich LPA. Eglurwch:

  • nad oes rhaid iddyn nhw wneud unrhyw beth ar unwaith

  • dim ond pan fyddwch chi neu eich atwrneiod yn gwneud cais i gofrestru eich LPA y byddant yn cael gwybod

  • bydd eu henwau a’u cyfeiriadau yn cael eu hanfon at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • nid oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth pan gysylltir â nhw, oni bai bod ganddynt bryderon

Adran 7: Dewisiadau a chyfarwyddiadau

Llenwch adran 7 (dewisol)

Os ydych chi’n llenwi’r dudalen hon ac angen mwy o le, ticiwch y blwch ar waelod adran 7 a defnyddiwch dudalen barhad 2. Marciwch naill ai’r blwch ‘Dewisiadau’ neu’r blwch ‘Cyfarwyddiadau’ ag ‘X’ ar dudalen barhad 2. Os oes angen mwy o le arnoch o hyd, gallwch wneud copïau o dudalen barhad 2.

Rhaid i chi lofnodi tudalen barhad 2 cyn i chi lofnodi adran 9 o’ch LPA.

Mwy o wybodaeth ar adran 7

Gallwch roi cyfarwyddiadau i’ch atwrneiod neu ddweud wrthynt beth yw eich dewisiadau yn yr adran hon o’r LPA - ond nid oes rhaid i chi fel arfer. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gadael y dudalen hon yn wag.

Gallwch siarad â’ch atwrneiod ac egluro sut hoffech iddynt weithredu ar eich rhan. Yna bydd eich atwrneiod yn rhydd i wneud penderfyniadau maen nhw’n meddwl sy’n iawn, a byddant yn gwybod sut byddech chi eisiau iddynt gael eu gwneud.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w roi yn yr adran hon o’ch atwrneiaeth arhosol, efallai y byddwch eisiau gofyn am gyngor cyfreithiol.

Mewn amgylchiadau lle mae gennych fuddsoddiadau eisoes sy’n cael eu rheoli ar eich rhan gan weithiwr buddsoddi proffesiynol (a elwir yn rheoli buddsoddiadau dewisol), neu os hoffech ganiatáu i’ch atwrneiod ddefnyddio unrhyw gynllun sy’n cynnwys rheoli buddsoddiadau dewisol, dylech ystyried cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch a oes angen gwneud darpariaeth benodol ar gyfer hyn yn eich LPA.

Mae hyn oherwydd bod un sefydliad ariannol mawr o leiaf wedi cymryd y safbwynt y bydd contractau cyfredol sy’n ymwneud â chynlluniau rheoli buddsoddiadau dewisol yn dod i ben adeg y bydd rhoddwr LPA yn colli galluedd, ac y bydd unrhyw fuddsoddiadau newydd gan atwrneiod mewn cynlluniau rheoli buddsoddiadau dewisol ond yn cael eu caniatáu os oes cyfarwyddyd penodol ar y mater yn yr LPA.

Gall cyfarwyddiadau cymhleth neu gyfarwyddiadau sydd wedi’u geirio’n wael wneud yr LPA yn anymarferol.

Dewisiadau a chyfarwyddiadau: diffiniadau

Dewisiadau

Dewisiadau yw’r hyn yr hoffech i’ch holl atwrneiod feddwl amdano pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan. Nid oes rhaid i’ch atwrneiod eu dilyn, ond dylent eu cadw mewn cof.

Os ysgrifennwch unrhyw ddewisiadau, ceisiwch osgoi geiriau fel ‘rhaid’ a ‘dylid’. Yn hytrach, defnyddiwch eiriau fel ‘ffafrio’ a ‘hoffwn’, fel ei bod yn amlwg eich bod yn rhoi cyngor i’ch atwrneiod. Os oes rhaid i’ch atwrneiod wneud rhywbeth, dylech ei gynnwys yn eich cyfarwyddiadau.

Cyfarwyddiadau

Mae cyfarwyddiadau yn dweud wrth eich atwrneiod beth mae’n rhaid iddynt ei wneud wrth weithredu ar eich rhan.

Os byddwch yn ysgrifennu unrhyw gyfarwyddiadau, defnyddiwch eiriau fel ‘rhaid’, ‘dylid’ a ‘gorfod’.

Gall cyfarwyddiadau achosi mwy o broblemau na dewisiadau. Os ydych am roi cyfarwyddiadau, darllenwch drwy’r wybodaeth isod i gael gwybod am broblemau a chamgymeriadau cyffredin. Efallai y byddai’n well eu geirio fel dewisiadau.

Os ydych yn cynnwys cyfarwyddyd i’ch atwrnai ddefnyddio eich arian er lles rhywun arall heblaw amdanoch chi, mae’n debyg y byddai’n ofer oherwydd gall wrthdaro â rhwymedigaeth yr atwrnai i weithredu er eich lles gorau. Fel dewis arall, gallech ystyried cynnwys dewisiad bod eich arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd hon.

Os ydych am dalu ffioedd i’ch atwrneiod, eglurwch hyn yn y cyfarwyddiadau. Gweler Cyfarwyddiadau ar dalu ffioedd yn y canllaw hwn.

Isod ceir rhai enghreifftiau o ddewisiadau a chyfarwyddiadau cyffredin ar gyfer y ddau fath o LPA. Efallai nad ydynt yn iawn i chi - maen nhw’n rhoi syniad i chi o’r hyn y gallech ei ysgrifennu. Dylai eich dewisiadau a’ch cyfarwyddiadau ymwneud â’r hyn sy’n bwysig i chi.

Enghreifftiau o ddewisiadau ar gyfer LPA iechyd a lles

Dyma rai enghreifftiau o ddewisiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn LPA iechyd a lles:

Mae’n well gen i fyw o fewn pum milltir i fy chwaer.

Hoffwn i feddyginiaethau generig gael eu rhagnodi lle maen nhw ar gael.

Hoffwn wneud ymarfer corff o leiaf dair gwaith yr wythnos pryd bynnag y byddaf yn gorfforol abl i wneud hynny. P’un a wyf yn symudol ai peidio, hoffwn dreulio amser yn yr awyr agored o leiaf unwaith y dydd.

Hoffwn i’m hanifeiliaid anwes fyw gyda fi cyn hired â phosibl – os byddaf yn mynd i gartref gofal, hoffwn fynd â nhw gyda fi.

Hoffwn gael torri fy ngwallt, triniaeth dwylo a thriniaethau traed yn rheolaidd.

Enghreifftiau o ddewisiadau ar gyfer LPA eiddo a materion ariannol

Dyma rai enghreifftiau o ddewisiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn LPA eiddo a materion ariannol:

Rwy’n hoffi ail-fuddsoddi’r holl log o fuddsoddiadau pob blwyddyn i lwfans ISA y flwyddyn nesaf.

Hoffwn gadw balans o £1,000 fan lleiaf yn fy nghyfrif cyfredol.

Mae’n well gen i fuddsoddi mewn cronfeydd moesegol.

Hoffwn i fy atwrneiod ymgynghori â’m meddyg os ydynt yn credu nad oes gen i’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am fy nhŷ.

Hoffwn gyfrannu £100 y flwyddyn i Age UK.

Enghreifftiau o gyfarwyddiadau ar gyfer LPA iechyd a lles

Dyma rai enghreifftiau o gyfarwyddiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn LPA iechyd a lles:

Ni ddylai fy atwrneiod benderfynu fy mod yn symud i ofal preswyl oni bai, ym marn fy meddyg, na allaf fyw’n annibynnol mwyach.

Ni ddylai fy atwrneiod roi cydsyniad i unrhyw driniaeth feddygol sy’n cynnwys cynnyrch gwaed, gan ei fod yn mynd yn groes i’m crefydd.

Rhaid i fy atwrneiod sicrhau mai dim ond bwyd llysieuol a roddir i fi.

Enghreifftiau o gyfarwyddiadau ar gyfer LPA eiddo a materion ariannol

Dyma rai enghreifftiau o gyfarwyddiadau y gallech ysgrifennu amdanynt mewn atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol:

Rhaid i’m atwrneiod ymgynghori ag ymgynghorydd ariannol cyn gwneud buddsoddiadau dros £10,000.

Ni ddylai fy atwrneiod werthu fy nghartref oni bai, ym marn fy meddyg, na allaf fyw’n annibynnol mwyach.

Ni ddylai fy atwrneiod roi unrhyw roddion.

Rhaid i’m atwrneiod anfon cyfrifon blynyddol at fy mrodyr a’m chwiorydd.

Rhaid i’m atwrneiod roi cyfarwyddyd i gyfrifydd treth baratoi fy ffurflen dreth flynyddol.

Os ydych wedi dewis (yn adran 5 o’r ffurflen LPA) i’ch atwrneiod weithredu o dan LPA eiddo a materion ariannol os ydych wedi colli galluedd meddyliol yn unig, efallai y byddwch chi’n ychwanegu cyfarwyddiadau ynglŷn â sut gallai eich galluedd meddyliol gael ei asesu. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n ysgrifennu:

Dim ond os oes meddyg yn cadarnhau’n ysgrifenedig nad oes gen i’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am fy materion ariannol y mae’r atwrneiaeth arhosol hon yn gymwys.

Os oes gennych ffydd yn eich atwrneiod i farnu lefel eich galluedd meddyliol, nid oes angen i chi ychwanegu cyfarwyddiadau fel hyn.

Achos arbennig: gwneud dau atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol

Efallai y byddwch am wneud dau LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol, un ar gyfer eich materion ariannol personol a’r llall ar gyfer eich materion busnes, fel y gall atwrneiod gwahanol edrych ar ôl pethau gwahanol. Os felly, dylech egluro beth rydych am ei weld yn digwydd yn y cyfarwyddiadau ar gyfer pob un. Er enghraifft, mewn un LPA, gallech ddweud:

Dim ond yr awdurdod i ddefnyddio fy nghyfrif banc personol sydd gan fy atwrneiod. Ni chaniateir iddynt gael mynediad at fy nghyfrif busnes na gwneud unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â’m busnes.

Yn yr LPA arall, gallech ddweud:

Dim ond yr awdurdod i ddefnyddio fy nghyfrifon busnes a gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â’m busnes sydd gan fy atwrneiod. Ni chaniateir iddynt gael mynediad at fy nghyfrif personol na gwneud penderfyniadau am fy materion ariannol personol.

Osgoi problemau

Gall cyfarwyddiadau a dewisiadau greu problemau. Mae’n hawdd gofyn am rywbeth na fydd y gyfraith yn ei ganiatáu. Os hoffech ychwanegu cyfarwyddiadau a dewisiadau, dyma rai camgymeriadau cyffredin i’w hosgoi.

Ni allwch newid y ffordd y caiff atwrneiod eu penodi i weithredu

Peidiwch â phenodi atwrneiod i wneud penderfyniadau mewn un ffordd, ac yna cynnwys cyfarwyddiadau i wneud iddynt weithredu’n wahanol.

Os dywedoch y dylai eich atwrneiod weithredu ‘ac y cyd ac yn unigol’ - fel y gallant wneud unrhyw benderfyniad ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd – ni ddylech ychwanegu’r mathau hyn o gyfarwyddiadau:

  • bod yn rhaid i un atwrnai wneud beth mae atwrnai arall yn ei ddweud

  • bod yn rhaid i un atwrnai ddelio â’ch busnes a’r llall ddelio â’ch materion preifat

  • y dylai’r mwyafrif benderfynu lle bo atwrneiod yn anghytuno

  • bod yn rhaid iddynt wneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd – os mai dyma’r hyn rydych ei eisiau, dylech eu penodi yn adran 3 o’r LPA i weithredu ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ yn lle hynny

Ni fydd eich atwrneiaeth arhosol yn gweithio os wnewch chi gynnwys cyfarwyddiadau fel y rhain.

Byddwch yn ofalus gyda rhoddion a threfniadau eraill yn ymwneud â rhoi eich arian i drydydd parti

Mae cyfarwyddiadau am roddion yn aml yn achosi problemau. Mae cyfyngiadau llym ar y mathau o roddion y gall atwrneiod eu rhoi ar eich rhan. Gall eich atwrneiod roi rhoddion i’ch teulu, ffrindiau, cymdeithion neu iddyn nhw eu hunain ar ‘achlysuron arferol’, gan gynnwys priodasau, penblwyddi priodas, penblwyddi a gwyliau crefyddol. Gallant roi i elusennau yr ydych wedi rhoi iddynt yn flaenorol.

Ni allwch gynnwys cyfarwyddiadau sy’n ei gwneud yn orfodol i’ch atwrneiod roi rhoddion ar achlysuron arferol yn yr un ffordd ag y gwnaethoch pan oedd gennych y galluedd meddyliol o hyd i wneud hynny. Byddai cyfarwyddiadau o’r fath yn cynnwys geiriau fel “rhaid”, “dylid” neu “gorfod”. Yn yr un modd, ni allwch gynnwys cyfarwyddiadau sy’n ei gwneud yn orfodol i’ch atwrneiod ddefnyddio’ch arian er budd neu gynnal eraill (e.e. trydydd partïon). Os byddwch yn cynnwys cyfarwyddiadau o’r fath, byddant yn annilys gan y gallent atal eich atwrneiod rhag gweithredu er eich lles gorau. Efallai y bydd angen i’ch atwrneiod wneud cais i’r Llys Gwarchod am ganiatâd i wneud rhoddion o’r fath neu i ddefnyddio’ch arian i gynnal rhywun arall.

Os ydych chi’n cynnwys dewis (geiriad tebyg i “hoffwn”, “ffafrio” “gall”) i awgrymu y gall eich atwrneiod roi rhodd, yna bydd yn ddilys. Fodd bynnag, bydd angen i’ch atwrneiod ystyried rhesymoldeb y rhodd yn ofalus ac ystyried faint o arian sydd gennych.

Dylech ystyried geiriad eich cyfarwyddiadau yn ofalus ac a ddylech geisio cyngor cyfreithiol.

Dyma rai enghreifftiau anghyflawn o roddion na allwch eu hawdurdodi oni bai eu bod yn cael eu mynegi fel dewis:

  • cronfeydd ymddiriedolaeth ar gyfer wyrion

  • talu ffioedd ysgol yr wyrion

  • benthyciadau di-log ar gyfer y teulu

  • cynhaliaeth ar gyfer unrhyw aelod o’r teulu heblaw eich gwraig, gŵr, partner sifil neu blentyn o dan 18 oed

Rhaid i’ch atwrneiod wneud cais i’r Llys Gwarchod os ydynt eisiau gwneud rhoddion fel hyn ar eich rhan. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi canllawiau ar roddion i atwrneiod.

Mae dewisiadau a chyfarwyddiadau eraill sy’n ymwneud â defnyddio’ch arian er budd eraill (hynny yw, lle nad yw’r defnydd hwn yn anrheg) yn debygol o fod yn ofer os ydynt yn ceisio ei gwneud yn orfodol i’r atwrnai ddefnyddio arian yn y modd hwn.

Camgymeriadau eraill

Dylech osgoi’r camgymeriadau cyffredin canlynol:

  • Ni allwch ddweud wrth eich atwrneiod i wneud unrhyw beth anghyfreithlon – mae hyn yn cynnwys unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag ewthanasia a hunanladdiad â chymorth

  • Ni allwch ddweud y dylai atwrneiod weithredu er lles pennaf unrhyw un arall, gan gynnwys eich gwraig, gŵr, partner neu blant. Mae eich atwrneiod yn gweithredu ar eich rhan chi’n unig

  • Ni allwch ddweud y gall atwrnai wrth gefn ddechrau gweithredu mewn amgylchiadau penodol yn unig. Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio cyfyngiadau i ychwanegu amgylchiadau arbennig – fel atwrnai gwreiddiol ar wyliau – lle gall eich atwrnai wrth gefn gamu i mewn

  • Peidiwch ag ychwanegu cyfyngiadau iechyd a lles at LPA eiddo a materion ariannol. Peidiwch ag ychwanegu cyfyngiadau eiddo a materion ariannol at LPA iechyd a lles. Yn lle hynny, dylech wneud LPA ar wahân ar gyfer pob un

  • Ni allwch ddweud wrth atwrnai i newid eich ewyllys – mae hynny y tu allan i’w pwerau

  • Ni allwch roi pŵer i atwrnai benodi atwrnai wrth gefn

Cyfarwyddiadau i dalu ffioedd

Atwrneiod proffesiynol

Mae atwrneiod proffesiynol, fel cyfreithwyr neu gyfrifwyr, yn codi ffi am eu gwasanaethau. Gallant hefyd hawlio ffioedd a threuliau rhesymol.

Ysgrifennwch yr hyn rydych wedi cytuno i’w dalu yng nghyfarwyddiadau adran 7 neu bennwch eu ffi drwy gyfeirio at gyfraddau safonol ac ysgrifennwch rywbeth fel:

Dymunaf i’m atwrneiod proffesiynol gael eu talu yn ôl cyfradd safonol cyfreithwyr fel y pennwyd gan [nodwch enw sefydliad proffesiynol perthnasol fan hyn].

Telir ffioedd a threuliau o’ch cronfeydd.

Atwrneiod nad ydynt yn broffesiynol

Mae nifer o atwrneiod sydd ddim yn derbyn ffioedd. Er enghraifft, os ydych yn penodi atwrnai nad yw’n broffesiynol – fel eich gŵr, gwraig, partner, aelod o’r teulu neu ffrind – mae’n debyg y byddant yn hapus i weithredu ar eich rhan heb gael eu talu. Serch hynny, maen nhw’n dal i allu hawlio treuliau rhesymol, fel costau postio, costau teithio a chost cyfrifydd wrth baratoi cyfrifon blynyddol.

Os nad ydych eisiau talu ffioedd i’ch atwrneiod, peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth. Gallant ddal i hawlio treuliau.

Os byddwch yn cytuno i dalu ffi, rhaid i chi ysgrifennu hyn yn eich cyfarwyddiadau. Os na wnewch chi, ni ellir talu eich atwrnai. Gallwch bennu ffioedd gwahanol ar gyfer atwrneiod gwahanol.

Ar gyfer atwrneiod nad ydynt yn broffesiynol, mae ffioedd yn aml yn cael eu pennu fel taliad blynyddol.

Dyma enghreifftiau o’r math o gyfarwyddiadau y gallech eu hysgrifennu i dalu ffi i’ch atwrneiod:

Mae’n rhaid talu ffi unigol o £1,000 y flwyddyn i bob atwrnai, a dylid talu ar 20 Rhagfyr bob blwyddyn. Bydd y ffioedd yn stopio pan fydd gwerth fy ystad yn gostwng i £[llenwch y swm].

Dymunaf i bob un o’m atwrneiod gael eu talu £[llenwch y swm] y flwyddyn am eu gwasanaethau o dan yr atwrneiaeth arhosol hon. Bydd fy atwrneiod yn stopio cael eu talu pan fydd fy arian yn gostwng i £[llenwch y swm].

Caiff ffioedd a threuliau eu talu o’ch cronfeydd.

Adran 8: Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol

Darllenwch adran 8

Rhaid i bawb sy’n gysylltiedig â’r atwrneiaeth arhosol hon ddarllen yr adran hon cyn llofnodi.

Mwy o wybodaeth ar adran 8

Cytundeb cyfreithiol yw atwrneiaeth arhosol (sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘weithred’) rhyngoch chi a’ch atwrneiod.

Mae adran 8 yn cynnwys gwybodaeth bwysig y mae’n rhaid i chi, eich atwrneiod a’ch darparwr tystysgrif ei darllen, gan ei bod yn rhan o gytundeb cyfreithiol rydych chi a nhw’n ei gwneud. Nodir egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r rheolau yng Nghod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, y mae’n rhaid i’ch atwrneiod eu dilyn, yn yr adran hon o’r LPA. Os oes angen help arnoch i edrych ar wefannau, ewch i’ch llyfrgell leol.

Eich lles pennaf

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i’ch atwrneiod weithredu er eich lles pennaf drwy’r amser wrth wneud penderfyniadau a gweithredu ar eich rhan.

Rhaid iddynt:

  • wneud popeth o fewn eu gallu i’ch helpu i wneud penderfyniad cyflawn neu ran o benderfyniad

  • nodi’r hyn y byddech yn ei ystyried pe baech yn gwneud penderfyniad

  • cael eu harwain gan eich credoau a’ch gwerthoedd personol, gwleidyddol, diwylliannol, moesol neu grefyddol wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar eich rhan

I wneud hyn, dylent:

  • ganfod eich dewisiadau a’ch safbwyntiau oddi wrthoch chi neu o’r ffordd rydych wedi ymddwyn a’r hyn rydych wedi’i ddweud neu ei ysgrifennu yn eich atwrneiaeth arhosol a thu hwnt

  • asesu a ellir gadael y penderfyniad am gyfnod arall, pan fydd hi’n haws i chi ei wneud

  • osgoi cyfyngu ar eich hawliau

  • ymgynghori â theulu a ffrindiau ac unrhyw un arall a oedd yn gwybod neu’n deall eich dymuniadau, eich teimladau a’ch safbwyntiau

  • peidio â gwneud rhagdybiaethau am ansawdd eich bywyd neu am yr hyn sydd ei angen arnoch dim ond oherwydd eich oedran, ymddangosiad, cyflwr neu ymddygiad

Cyn i chi lofnodi

Gwiriwch eich bod wedi cwblhau’r holl adrannau sydd angen eu llenwi ac unrhyw adrannau dewisol rydych eisiau eu defnyddio.

Unwaith y byddwch wedi llofnodi, ni allwch newid eich LPA – bydd angen i chi wneud LPA newydd os ydych am wneud newidiadau.

Isod, ceir crynodeb o’r holl wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi a phopeth y dylech fod wedi’i wneud cyn i chi lofnodi.

Mae rhai adrannau yn angenrheidiol, eraill yn ddewisol.

Adran 1: Y rhoddwr (angenrheidiol)

Rhowch eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad. Rhowch gyfeiriad e-bost hefyd os oes gennych un.

Adran 2: Yr atwrneiod (angenrheidiol)

Bydd angen i chi roi enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni eich atwrneiod.

Os oes gennych fwy na phedwar atwrnai, defnyddiwch dudalen barhad 1 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r LPA.

Adran 3: Sut dylai eich atwrneiod wneud penderfyniadau? (angenrheidiol)

Marciwch un blwch i ddangos sut mae eich atwrneiod yn gwneud penderfyniadau.

Adran 4: Atwrneiod wrth gefn (dewisol)

Bydd angen i chi roi enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni unrhyw atwrneiod newydd.

Os oes gennych mwy na dau atwrnai newydd, defnyddiwch dudalen barhad 1 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r LPA.

Os ydych yn newid y ffordd y mae eich atwrneiod newydd yn gweithredu neu’n camu i mewn, defnyddiwch dudalen barhad 2 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r LPA.

Adran 5: Pryd all eich atwrneiod wneud penderfyniadau? (angenrheidiol)

LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol yn unig – ticiwch un blwch i ddewis pryd gall eich atwrneiod wneud penderfyniadau.

LPA ar gyfer iechyd a lles yn unig: triniaeth cynnal bywyd – llofnodwch un blwch i roi’r pŵer i’r naill atwrnai neu’r llall (opsiwn A) neu roi’r pŵer i’ch doctoriaid (opsiwn B) i benderfynu ynghylch triniaeth cynnal bywyd.

Adran 6: Pobl i’w hysbysu pan fydd yr atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru (dewisol)

Bydd angen i chi roi enwau a chyfeiriadau unrhyw bobl i’w hysbysu.

Os oes pump o bobl i’w hysbysu, defnyddiwch dudalen barhad 1 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r LPA.

Adran 7: Dewisiadau a chyfarwyddiadau (dewisol)

Gallwch nodi unrhyw ddewisiadau neu gyfarwyddiadau rydych chi eisiau i’ch atwrneiod eu dilyn neu eu hystyried.

Os oes mwy o ddewisiadau neu gyfarwyddiadau, defnyddiwch dudalen barhad 2 a’i llofnodi cyn i chi lofnodi’r LPA.

Adran 9: Llofnod y rhoddwr

Adran 9: llofnodwch eich atwrneiaeth arhosol

Rhaid i’r bobl sy’n gysylltiedig â’r LPA ei llofnodi yn y drefn gywir. Os nad ydynt, ni fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei chofrestru ac ni fydd eich atwrneiod yn gallu ei defnyddio.

Rhaid i chi lofnodi eich atwrneiaeth arhosol cyn unrhyw un arall.

Os ydych wedi defnyddio tudalennau parhad 1 neu 2, gwnewch yn siŵr eich bod wedi’u llofnodi cyn i chi lofnodi’r adran hon.

Os na allwch lofnodi neu farcio adran 9 a’ch bod wedi cyfarwyddo rhywun arall i lofnodi ar eich rhan gan ddefnyddio tudalen barhad 3, rhaid iddynt lofnodi’r adran hon fel pe bai’n adran 9 (sy’n golygu cyn i unrhyw un arall wneud hynny) a rhaid tystio i’r llofnod.

Os ydych yn gwneud LPA iechyd a lles, llofnodwch hefyd adran 5 – triniaeth cynnal bywyd – cyn i chi lofnodi’r adran hon. Os na allwch lofnodi neu farcio adran 9 a’ch bod wedi cyfarwyddo rhywun arall i lofnodi ar eich rhan gan ddefnyddio tudalen barhad 3, rhaid iddynt hefyd lofnodi adran 5 ar eich rhan a rhaid tystio i’r llofnod.

Pan fyddwch yn llofnodi adran 9 o’r atwrneiaeth arhosol, rydych yn creu cytundeb cyfreithiol gyda’ch atwrneiod. Rydych wedi eich rhwymo’n gyfreithiol gan bopeth sydd wedi’i ysgrifennu yn y ffurflen hyd at y pwynt hwn, gan gynnwys adran 8 yr LPA (‘Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol’) a’r datganiad ar y dudalen hon.

Mwy o wybodaeth ar drefn y llofnodi

Darllenwch y cyfarwyddiadau yn yr adran hon yn ofalus.

Rhaid ichi lofnodi’r LPA yn y drefn gywir neu ni all OPG ei chofrestru.

Rhaid llofnodi’r LPA yn y drefn hon:

1. Rydych chi (y rhoddwr) yn llofnodi gyntaf

Rhaid i chi lofnodi eich LPA cyn unrhyw un arall.

Rhaid i chi lofnodi:

  • adran 5 o’r LPA, am driniaeth cynnal bywyd os yw’n LPA ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles

  • tudalen/tudalennau parhad 1; os yn defnyddio

  • tudalen/tudalennau parhad 2; os yn defnyddio

  • adran 9 o’r LPA

Mae’n well llofnodi popeth ar yr un diwrnod – er nad oes rhaid – ond rhaid i chi lofnodi adran 9 ar ôl yr adrannau eraill hyn (hynny yw, adran 5, os yw’n briodol, ac unrhyw ddalennau parhad).

Os na allwch lofnodi, gwnewch farc.

Os na allwch lofnodi neu wneud marc, edrychwch ar Roddwyr na allant lofnodi neu wneud marc, isod. Bydd y person rydych wedi’i ddewis yn gallu ei llofnodi ar eich rhan.

2. Mae’r tyst yn llofnodi nesaf

Rhaid cael tyst annibynnol i’ch gwylio chi’n llofnodi’ch atwrneiaeth arhosol. Rhaid i’r tyst lofnodi yn syth ar eich ôl chi.

Os yw’n atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles, rhaid iddynt hefyd fod yn dyst i chi’n llofnodi adran 5, ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd.

Ni all eich tyst fod:

  • o dan 18 oed

  • yn un o’ch atwrneiod

  • yn un o’ch atwrneiod wrth gefn

  • yn weithiwr yng nghorfforaeth ymddiriedolaeth sydd yn atwrnai neu atwrnai wrth gefn i chi (LPA eiddo a materion ariannol yn unig)

Gall eich darparwr tystysgrif fod yn dyst.

3. Yna mae’r darparwr tystysgrif yn llofnodi adran 10 o’r atwrneiaeth arhosol

Gweler adran 10 o’r canllaw hwn, o’r enw ‘Llofnod y darparwr tystysgrif’.

4. Mae’r holl atwrneiod a’r atwrneiod wrth gefn yn llofnodi adran 11 o’r atwrneiaeth arhosol

Gweler adran 11 o’r canllaw hwn, o’r enw ‘Llofnod yr atwrnai neu atwrnai wrth gefn’.

5. Yn olaf, mae’r rhoddwr neu’r atwrnai/atwrneiod yn llofnodi adran 15

Gweler adran 15 y canllaw hwn, a elwir yn ‘Llofnod(ion) y rhoddwr neu’r atwrnai/atwrneiod’, pan fyddwch yn barod i wneud cais i gofrestru eich LPA.

Rhoddwyr na allant lofnodi neu wneud marc: Tudalen barhad 3

Os na allwch lofnodi neu wneud marc, gall rhywun lofnodi ar eich rhan gan ddefnyddio tudalen barhad 3. Os ydych yn gwneud LPA iechyd a lles, rhaid iddynt hefyd lofnodi adran 5.

Rhaid i chi fod yn bresennol a dweud wrth y person i lofnodi.

Rhaid i lofnod y person hwnnw gael ei dystio gan ddau berson. Ni all y ddau dyst fod:

  • o dan 18 oed

  • yn un o’ch atwrneiod

  • yn un o’ch atwrneiod wrth gefn

  • yn weithiwr yng nghorfforaeth ymddiriedolaeth sydd yn atwrnai neu atwrnai wrth gefn i chi (atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol yn unig)

Adran 10: Llofnod y darparwr tystysgrif

Llenwch adran 10

Rhaid i’r darparwr tystysgrif lofnodi ar ôl y rhoddwr ond cyn yr atwrneiod.

Rhaid i’r darparwr tystysgrif ddarllen adrannau 8 a 10 o’r atwrneiaeth arhosol cyn iddynt lofnodi eich LPA. Yna gallant lenwi eu henw a’u cyfeiriad, a llofnodi a dyddio adran 10.

Mwy o wybodaeth ar adran 10

Person diduedd yw’r darparwr tystysgrif sy’n cadarnhau eich bod chi’n deall beth rydych chi’n ei wneud ac nad oes neb yn eich gorfodi i wneud LPA. Rhaid iddynt gadarnhau:

  • eich bod yn deall arwyddocâd yr LPA

  • na chawsoch eich rhoi o dan bwysau i’w gwneud

  • na chafwyd unrhyw dwyll wrth wneud yr LPA

  • nad oes unrhyw reswm arall dros bryderu

Os yn bosibl, dylent drafod eich LPA gyda chi’n breifat, heb atwrneiod neu unrhyw bobl eraill yn bresennol, cyn iddynt lofnodi i ‘ardystio’ eu rhan nhw o’r LPA.

Gall darparwr tystysgrif fod yn dyst i’ch llofnod chi a llofnod eich atwrneiod.

Unwaith y byddwch wedi dewis eich darparwr tystysgrif a’u bod wedi llofnodi adran 10, ni allwch wedyn newid pwy yw eich darparwr tystysgrif. Er enghraifft, os oes gwall yn adran 10 a bod angen llenwi adran newydd eto, rhaid i’r un person a lofnododd yr adran 10 wreiddiol ei chwblhau.

Pwy gaiff fod yn ddarparwr tystysgrif?

Rhaid i ddarparwr tystysgrif fod yn 18 oed o leiaf a naill ai’n:

  • ffrind, cydweithiwr neu rywun rydych chi wedi’i adnabod yn dda ers o leiaf dwy flynedd – nid yw eu bod yn eich adnabod yn unig yn ddigon da.

  • eich meddyg neu gyfreithiwr neu rywun sydd â’r sgiliau proffesiynol i farnu a ydych yn deall yr hyn rydych yn ei wneud ac nad ydych yn cael eich gorfodi i wneud LPA

Gall ‘pobl i’w hysbysu’ fod yn ddarparwyr tystysgrif.

Mae yna lawer iawn o bobl na allant fod yn ddarparwr tystysgrif – er enghraifft, aelodau o’ch teulu neu deuluoedd eich atwrneiod. Ceir rhestr fwy cynhwysfawr isod.

Rhaid i ddarparwr tystysgrif lofnodi ar eich ôl chi a gall lofnodi ar yr un dydd â chi (y rhoddwr) neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

Rhywun sydd wedi eich adnabod yn dda ers o leiaf dwy flynedd

Dylech ofyn i ffrind neu gymydog, rhywun o’ch clwb cymdeithasol neu chwaraeon, cydweithiwr, neu rywun tebyg. Mae’n rhaid eu bod yn eich adnabod yn dda ers o leiaf dwy flynedd. Mae’n rhaid iddynt eich adnabod yn ddigon da i gael sgwrs onest gyda chi am wneud eich LPA a’r pethau sy’n rhaid iddynt eu cadarnhau pan fyddant yn llofnodi’r LPA.

Os yn bosibl, dylent drafod eich LPA gyda chi’n breifat, heb atwrneiod neu unrhyw bobl eraill yn bresennol, cyn iddynt lofnodi i ‘ardystio’ eu rhan nhw o’r LPA.

Rhywun â sgiliau proffesiynol perthnasol

Fel arfer, byddai rhywun â sgiliau proffesiynol perthnasol yn un o’r canlynol:

  • gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, fel eich meddyg teulu

  • cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu eiriolwr

  • gweithiwr cymdeithasol cofrestredig

  • eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol (IMCA)

Mae’n bosibl y bydd gan weithwyr proffesiynol eraill sgiliau sy’n addas ar gyfer barnu a allwch wneud LPA – cysylltwch â’r OPG os ydych yn ansicr ynghylch eich dewis o ddarparwr tystysgrif. Nid yw’r rhestr uchod yn hollgynhwysfawr ond mae’n rhaid i ddarparwr tystysgrif proffesiynol allu bodloni ei hun (neu’r OPG os gofynnir yn ddiweddarach) bod ganddo’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i ardystio’r pwyntiau a restrir o dan “rhagor o wybodaeth” uchod.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu gweithiwr proffesiynol i weithredu fel eich darparwr tystysgrif.

Pobl na allant fod yn ddarparwr tystysgrif

Ni all y darparwr tystysgrif fod yn:

  • atwrnai neu atwrnai wrth gefn ar gyfer yr LPA

  • atwrnai neu atwrnai wrth gefn mewn unrhyw LPA arall, neu atwrneiaeth barhaus rydych eisoes wedi’i gwneud

  • aelod o’ch teulu chi neu deulu eich atwrnai – gan gynnwys gwragedd, gwŷr, partneriaid sifil, meibion, merched, tadau, mamau, brodyr, chwiorydd, neiniau a theidiau, wyresau, ewythrod, modrybedd, neiaint, nithoedd, teulu yng nghyfraith a llys-berthnasau

  • partner neu gariad di-briod i chi neu unrhyw un o’ch atwrneiod – p’un a ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad ai peidio

  • eich partner busnes neu un o bartneriaid busnes eich atwrneiod

  • eich gweithiwr neu un o weithwyr eich atwrneiod

  • perchennog, rheolwr, cyfarwyddwr neu weithiwr cartref gofal rydych chi’n byw ynddo, neu aelod o’u teulu

  • unrhyw un sy’n rhedeg neu’n gweithio i gorfforaeth ymddiriedolaeth a benodwyd fel atwrnai mewn LPA eiddo a materion ariannol

Os nad ydych yn siŵr os oes hawl gan rywun i fod yn ddarparwr tystysgrif i chi, gallwch gysylltu â ni yn customerservices@publicguardian.gov.uk neu drwy ffonio 0300 456 0300.

Adran 11: Llofnod yr atwrnai neu atwrnai wrth gefn

Llenwch adran 11

Rhaid i’ch atwrneiod a’ch atwrneiod wrth gefn ysgrifennu eu henwau a llofnodi a dyddio eich LPA.

Rhaid i atwrneiod ac atwrneiod wrth gefn lofnodi ar ôl y darparwr tystysgrif.

Rhaid i’w llofnodion gael tystion.

Rhaid i’r tyst neu’r tystion ysgrifennu eu henw llawn a’u cyfeiriad yn ogystal â llofnodi.

Ni all y rhoddwr fod yn dyst.

Mae pedwar copi o’r dudalen hon yn y ffurflen. Os oes angen mwy arnoch, gwnewch lungopïau. Rhaid i bob atwrnai ac atwrnai wrth gefn lofnodi adran 11. (Corfforaethau ymddiriedolaeth yw’r unig eithriad: maen nhw’n cwblhau ac yn llofnodi tudalen barhad 4 yn lle hynny.)

Mwy o wybodaeth ar adran 11

Pan fydd eich atwrneiod yn llofnodi adran 11, maent yn ffurfio cytundeb cyfreithiol gyda chi (y rhoddwr). Maent yn rhwym wrth bopeth a ysgrifennwyd yn y ffurflen hyd at y pwynt hwn, gan gynnwys adran 8 o’r LPA (‘Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol’) a’r datganiad yn adran 11.

Rhaid iddynt ddarllen yr LPA (gan gynnwys adran 8) neu dylid ei darllen iddynt. Yna, rhaid iddynt lofnodi adran 11 ym mhresenoldeb tyst diduedd.

Gall atwrneiod ac atwrneiod wrth gefn fod yn dyst i lofnodion ei gilydd. Ni allwch chi (y rhoddwr) fod yn dyst.

Dylai atwrneiod ac atwrneiod wrth gefn lofnodi cyn gynted â phosibl ar ôl y darparwr tystysgrif – gorau oll os yw pawb yn llofnodi ar yr un dydd.

Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol

Rhaid i chi gofrestru eich atwrneiaeth

Ni ellir defnyddio’r LPA nes iddi gael ei chofrestru gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Dim ond y rhoddwr neu un o’r atwrneiod sy’n gallu gwneud cais i’w chofrestru.

Gall atwrnai wneud cais i gofrestru’r LPA ar eu pen eu hunain os ydynt:

  • yr unig atwrnai

  • wedi’u penodi ‘ar y cyd ac yn unigol’

  • wedi’u penodi ‘ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill’ – oni bai bod y rhoddwr wedi nodi yn y ddogfen LPA bod rhaid i’r holl atwrneiod wneud cais gyda’i gilydd

Os ydych wedi cael eich penodi i weithredu ar y cyd, mae’n rhaid i chi wneud cais i gofrestru’r LPA gyda’r holl atwrneiod eraill. Gwiriwch sut mae’r atwrneiod wedi’u penodi drwy edrych ar adran 3 o’r ffurflen LPA.

Cyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru atwrneiaeth arhosol, rhaid iddi wneud yn siŵr:

  • bod yr LPA yn gyfreithiol gywir

  • nad oes unrhyw gamgymeriadau yn yr LPA

  • bod pobl wedi cael cyfle i wrthwynebu os oes ganddynt bryderon

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth unrhyw ‘bobl i’w hysbysu’ cyn i chi gofrestru atwrneiaeth. Rhaid gwneud hynny drwy ddefnyddio ffurflen LP3. Ceir mwy o fanylion yn adran Pobl i’w hysbysu: defnyddiwch ffurflen LP3 o’r canllaw hwn. Mae cyfnod cyfreithiol o bedair wythnos cyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru LPA. Mae hynny’n rhoi cyfle i ‘bobl i’w hysbysu’ wrthwynebu.

Os nad oes rhesymau da dros wrthwynebu a dim problemau gyda’r LPA, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei chofrestru ac yn ei phostio nôl. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn stampio’r ffurflen wreiddiol i ddangos ei bod yn ddilys ac yn barod i’w defnyddio. Dyma’r ddogfen LPA swyddogol.

Cofrestrwch nawr

Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru’r LPA cyn gynted ag y caiff ei llofnodi, gall yr OPG wirio’r cais am wallau posibl tra bod gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd. Gellir cywiro rhai gwallau cyn cofrestru. Fodd bynnag, ni ellir cywiro gwallau eraill, a byddai angen galluedd meddyliol ar y rhoddwr i wneud LPA newydd. Gall costau ychwanegol fod yn berthnasol. Hyd yn oed mewn achosion lle mae’r OPG yn gwneud ei gorau i gywiro’r gwallau, efallai y byddwch yn dal i gael problemau wrth ddefnyddio’r LPA, er enghraifft wrth ei chofrestru gyda banciau. Bydd darllen drwy’r llyfryn canllaw hwn yn helpu i leihau’r siawns o unrhyw wallau.

Os ydych yn oedi’r broses gofrestru a bod y rhoddwr yn colli ei alluedd meddyliol, gall yr atwrneiod ddal i wneud cais i gofrestru’r LPA. Serch hynny, ni fydd yn bosib cywiro unrhyw gamgymeriadau. Os oes camgymeriadau, ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru’r LPA ac ni ellir defnyddio’r LPA. Bydd rhaid i rywun wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael y pŵer i wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr neu gael datganiad y gellir trin yr LPA fel un dilys. Gall fod yn broses hir a chostio llawer mwy nag LPA.

Nid oes rhaid i chi gofrestru’r LPA ar unwaith. Os ydych am ohirio cofrestru, llenwch adrannau 12 i 15 a ffurflen LP3 pan fyddwch yn barod i gofrestru’r LPA.

Pan welwch y gair ‘chi’ o hyn ymlaen, yn adrannau 12 i 15 a ‘Pobl i’w hysbysu: defnyddiwch ffurflen LP3’ y canllaw hwn, mae’n golygu’r sawl sy’n gwneud cais i gofrestru’r LPA – naill ai’r rhoddwr neu’r atwrneiod.

Adran 12: Pwy sy’n gwneud cais i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol

Llenwch adran 12

Marciwch un blwch yn unig ag ‘X’ i nodi mai chi yw’r rhoddwr neu’r atwrneiod a’ch bod yn gwneud cais i gofrestru’r LPA. Os ydych yn atwrnai neu’n grŵp o atwrneiod, llenwch eich enwau a’ch dyddiadau geni. Fel arall, gadewch y blychau hynny’n wag.

Adran 13: Pwy ydych chi eisiau i gael yr atwrneiaeth arhosol?

Llenwch adran 13

Mae angen i chi ddewis un person y gallwn gysylltu ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau. Bydd y person hwn hefyd yn cael y ddogfen LPA gofrestredig.

Rhaid i chi farcio un o dri opsiwn ag ‘X’:

  • y rhoddwr

  • atwrnai

  • arall

Os yw’n rhoddwr neu’n atwrnai, gwiriwch fod y cyfeiriad a roddwyd yn adran 1 neu 2 o’r ffurflen LPA yn gywir. Os ydynt wedi symud, rhowch eu cyfeiriad newydd fan hyn.

Adran 14: Ffi gwneud cais

Llenwch adran 14

Sut hoffech chi dalu?

Os ydych wedi dewis cwblhau eich LPA gan ddefnyddio ein gwasanaeth Gwneud LPA gallwch dalu ar-lein sef y ffordd gyflymaf o dalu.

Fel arall dewiswch ffordd o dalu a rhowch ‘X’ ar y blwch ‘Siec’ neu ‘Cerdyn’.

Os dewiswch ‘Cerdyn’, ysgrifennwch eich rhif ffôn a bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn cysylltu â chi gyda manylion sut i wneud y taliad ar-lein neu dros y ffôn. Os byddwch yn darparu rhif ffôn symudol, byddwn yn anfon dolen i’n porth talu ar-lein mewn neges destun, sef y ffordd gyflymaf o gael eich taliad wedi’i brosesu os nad ydych yn defnyddio ein gwasanaeth Gwneud LPA.

Os dewiswch ‘Siec’, anfonwch siec o £82 yn daladwy i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda’r ffurflen hon. Ysgrifennwch enw’r rhoddwr ar gefn y siec.

Ffi is ar gyfer gwneud cais

Os ydych ar incwm isel, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r swm llawn.

Ysgrifennwch ‘X’ yn y blwch a llenwch ffurflen LPA120. Mae’r ffurflen hon yn y pecyn gwneud cais.

Ydych chi’n gwneud cais arall?

Os cafodd eich ffurflen LPA ei dychwelyd atoch oherwydd nad oedd modd ei chofrestru, gallwch wneud cais arall gyda ffurflen LPA newydd o fewn tri mis am £41.

Marciwch y blwch yn yr adran hon ag ‘X’ a rhowch rif eich achos. Fe welwch hwn yn y llythyr a ddaeth gyda’ch cais a ddychwelwyd.

Mwy o wybodaeth

Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru eich atwrneiaeth arhosol nes i chi dalu’r ffi.

Mae cofrestru un LPA yn costio £82.

Ffioedd is: ffurflen LPA120

Os yw’r rhoddwr ar incwm isel, efallai eu bod yn gymwys i dalu ffi is neu efallai na fydd yn rhaid iddynt dalu ffi o gwbl.

Y ffurflen i wneud cais ar gyfer hyn yw’r LPA120. Os nad yw’r ffurflen gennych, gallwch ei lawrlwytho neu ffoniwch ganolfan gyswllt Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 0300 456 0300 am gopi.

Mae’r ffurflen yn egluro’n llawnach:

  • pwy sy’n gymwys am ffi is neu ddim ffi o gwbl

  • pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Llenwch y ffurflen hon a’i hanfon atom gyda’r ffurflen LPA wedi’i llenwi a’i llofnodi a thystiolaeth o incwm isel y rhoddwr.

Pethau i’w cofio

Yn aml mae yna oedi gyda cheisiadau am ffioedd is neu maent yn cael eu gwrthod oherwydd bod pobl yn gwneud camgymeriadau:

  • pwy bynnag sy’n gwneud cais i gofrestru’r LPA, mae gostyngiadau yn seiliedig ar incwm y rhoddwr

  • anfonwch dystiolaeth – os na wnewch chi hyn, bydd y cais am ffi is yn cael ei wrthod

  • gwnewch yn siŵr bod y dystiolaeth o incwm neu fudd-daliadau’r rhoddwr yn cwmpasu’r cyfnod iawn. Dylai gynnwys y dyddiad rydych yn gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth

  • nid yw cyfriflenni banc yn brawf o incwm ar eu pen eu hunain

Adran 15: Llofnod(ion) y rhoddwr neu’r atwrnai/atwrneiod

Llenwch adran 15

Rhaid i bwy bynnag sy’n gwneud cais i gofrestru’r LPA (y person a enwir yn adran 12 o’r ffurflen) ddarllen adran 15, yna ei llofnodi a’i dyddio. Rhaid ei dyddio ar ôl i holl adrannau 11 gael eu llenwi.

Rydych chi’n llofnodi i ddweud eich bod yn gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol a’ch bod eisoes wedi rhoi gwybod i unrhyw bobl i’w hysbysu a restrir yn adran 6 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol. Gallwch wneud hynny drwy anfon ffurflen LP3 at y bobl i’w hysbysu. Gweler Pobl i’w hysbysu: LP3 isod.

Os yw atwrneiod sy’n cael eu penodi i weithredu ar y cyd yn adran 3 o’r ffurflen atwrneiaeth arhosol yn gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth arhosol, rhaid i bob un ohonynt lofnodi. Os oes mwy na phedwar atwrnai ar y cyd, gwnewch gopïau o’r dudalen hon er mwyn i’r atwrneiod eraill ei llofnodi.

Gwiriwch eich atwrneiaeth arhosol

Defnyddiwch y rhestr wirio sy’n dilyn adran 15 i wneud yn siŵr bod yr LPA wedi’i gwneud yn gywir.

Anfonwch yr holl ddogfennau i:

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
BLWCH POST 16185
Birmingham
B2 2WH

Pobl i’w hysbysu: defnyddiwch ffurflen LP3

Llenwch ffurflen LP3

Rhaid i bob person i’w hysbysu gael ei ffurflen LP3 ei hun.

Ar gyfer pob person, llenwch eu manylion ar dudalen 1 o’r ffurflen, a elwir yn ‘Hysbysiad o fwriad i gofrestru atwrneiaeth arhosol’.

Bydd gweddill y ffurflen – y tudalennau am y rhoddwr a’r atwrneiod – yr un peth ar gyfer y bobl i’w hysbysu. Gallwch eu llenwi unwaith, yna llungopïo’r fersiwn wedi’i llenwi o’r tudalennau hynny i bob person i’w hysbysu.

Ar dudalen 2 o’r ffurflen, llenwch fanylion y rhoddwr. Yna ticiwch un blwch ar gyfer pob un o’r ddau gwestiwn nesaf:

  • Pwy sy’n gwneud cais i gofrestru’r LPA?

  • Pa fath o LPA sy’n cael ei chofrestru?

Yna mae’n rhaid i chi nodi’r dyddiad y llofnododd y rhoddwr yr LPA. Dylech ychwanegu manylion yr atwrneiod. I orffen, marciwch un blwch ag ‘X’ i ddangos sut cawsant eu penodi.

Mwy o wybodaeth am ffurflen LP3

Os ydych yn gwneud cais i gofrestru dau LPA – un ar gyfer eiddo a materion ariannol ac un ar gyfer iechyd a lles – a bod y bobl i’w hysbysu yr un peth ar bob ffurflen, bydd dal angen i chi hysbysu pob un ohonynt ddwywaith.

Nid oes angen i chi ddweud wrth y bobl i’w hysbysu am atwrneiod wrth gefn.

Gwrthwynebu

Mae ffurflen LP3 hefyd yn egluro pam a sut mae’r bobl i’w hysbysu yn gallu gwrthwynebu i’r LPA gael ei chofrestru.

Lle nad oes unrhyw bryderon

Os nad oes gan berson i’w hysbysu unrhyw bryderon, nid oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth.

Lle ceir rhesymau dros wrthwynebu atwrneiaeth arhosol

Os yw person i’w hysbysu eisiau codi pryderon am eich LPA, mae ganddynt dair wythnos i wrthwynebu i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r dyddiad y cawsant eu hysbysu.

Ceir rheolau ynghylch y math o bryderon y gall pobl eu codi. Ni allant wrthwynebu eich LPA am y rheswm syml nad ydynt yn ei hoffi. Mae LP3 yn egluro’r seiliau ‘ffeithiol’ a ‘rhagnodedig’ hyn.

Ffurflen LP3: y manylion sydd eu hangen arnoch

Os na wnaethoch yr LPA, efallai nad ydych yn gwybod ble i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lenwi ffurflen LP3. Dyma’r manylion sydd angen i chi eu gwybod a ble yn yr LPA y gallwch ddod o hyd iddynt.

Enwau a chyfeiriadau’r bobl i’w hysbysu

Gellir dod o hyd i hyn yn Adran 6 o’r ffurflen LPA. Rhestrir hyd at bedwar. Os yw’r blwch ar y gwaelod wedi’i farcio, mae pumed person i’w hysbysu.

Os oes pumed person i’w hysbysu, chwiliwch am gopi o dudalen barhad 1, lle mae ‘person i’w hysbysu’ wedi’i farcio ag ‘X’.

Manylion yr atwrnai

Mae’r manylion sydd eu hangen arnoch yn Adran 2 o’r LPA. Mae lle i bedwar atwrnai. Os yw’r blwch ar waelod yr ail dudalen wedi’i farcio ag ‘X’, mae mwy na phedwar atwrnai.

Os oes mwy o atwrneiod, chwiliwch am unrhyw gopïau o dudalen barhad 1, lle mae ‘atwrnai’ wedi’i farcio ag ‘X’.

Sut caiff atwrneiod eu penodi?

Edrychwch ar Adran 3 o’r LPA. Bydd tic wrth un blwch ar y dudalen honno.

Pa fath o atwrneiaeth arhosol sy’n cael ei chofrestru?

Mae tudalen flaen yr LPA yn dangos hyn.

Pryd lofnododd y rhoddwr yr atwrneiaeth arhosol?

Fe welwch chi hyn yn Adran 9 o’r LPA. Mae’r dyddiad sydd ei angen arnoch yn y blwch llwyd o dan lofnod y rhoddwr.

Dim ond LPAau cyflawn y gallwn eu cofrestru. Anfonwch bob tudalen atom, 1 i 20, hyd yn oed tudalennau lle na wnaethoch ysgrifennu unrhyw beth neu lenwi unrhyw flychau, ynghyd ag unrhyw ddalennau parhad a ddefnyddiwyd gennych

Canslo eich atwrneiaeth arhosol, pryderon am atwrneiod, polisi preifatrwydd a chysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Canslo eich atwrneiaeth arhosol

Gallwch chi (y rhoddwr) ganslo eich LPA unrhyw bryd, cyhyd â bod gennych alluedd meddyliol. Does dim ots os yw’r LPA wedi’i chofrestru.

Os yw wedi’i chofrestru, rhaid i chi ysgrifennu ‘gweithred ddirymu’ i’w chanslo.

Os ydych yn canslo LPA i gyflwyno un newydd, ni ddylech gynnwys cyfarwyddyd o fewn LPA newydd i ddirymu’r LPA flaenorol. Bydd hyn yn achosi problemau ac yn gohirio cofrestru LPA newydd.

Dyma enghraifft o weithred ddirymu y gallwch ei defnyddio:

Caiff y weithred ddirymu hon ei gwneud gan [enw’r rhoddwr] o [gyfeiriad y rhoddwr].

  1. Rhoddais ganiatâd am atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ynghylch eiddo a materion ariannol/penderfyniadau iechyd a lles [dileer fel y bo’n briodol] ar [y dyddiad wnaethoch chi lofnodi’r LPA] drwy benodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrneiod.

  2. Rwy’n dirymu’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod a roddwyd ganddi.
    Wedi’i llofnodi a’i chyflwyno fel gweithred [llofnod y rhoddwr]
    Dyddiad llofnodi [dyddiad]
    Tystiwyd gan [llofnod tyst]
    Enw llawn y tyst [enw’r tyst]
    Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]

Mae’n rhaid i chi lofnodi a dyddio’r weithred tra bydd tyst yn eich gwylio, a rhaid i’r tyst hefyd ei llofnodi a’i dyddio.

Nid oes rhaid i’ch tyst fod yr un fath â’r un a ddefnyddiwyd ar gyfer yr LPA wreiddiol.

Yna, mae’n rhaid i chi anfon y weithred at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda’r ddogfen LPA gofrestredig wreiddiol.

Rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich holl atwrneiod eich bod yn canslo eich LPA.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd gartref, gall eich llyfrgell leol eich helpu.

Pryderon am atwrneiod

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn diogelu pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Os oes unrhyw un yn credu nad yw atwrneiod yn gweithredu er lles pennaf y rhoddwr, gallant leisio eu pryderon gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol.

I godi pryder gyda’r OPG, ewch i: https://www.gov.uk/adrodd-pryder-am-atwrnai-dirprwy-warcheidwad

Eich gwybodaeth bersonol

Mae’r siarter wybodaeth hon yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu’n ei defnyddio neu’n ei rhannu. Mae’n dweud wrthych sut i gael mynediad at y wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth a roddwch i ni yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UKGDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn ei rhoi i unrhyw un arall oni bai bod gennym bryder diogelu neu pan fydd yn rhaid i ni wneud cais i’r Llys Gwarchod, pan fyddai ar gael i unrhyw un sy’n ymwneud â’r achos llys.

I gael gwybod mwy: ewch i GOV.UK a chwiliwch am “OPG privacy”.

Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn:

  • gwneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol drwy ddefnyddio’r gwasanaeth atwrneiaeth arhosol digidol neu drwy’r post

  • talu ffi drwy ddefnyddio cerdyn credyd, cerdyn debyd neu drwy ddebyd uniongyrchol

  • cytuno i gymryd rhan yn ein hymchwil cwsmeriaid

  • cysylltu â ni i ofyn cwestiwn

  • gwneud cwyn

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:

  • gofrestru eich atwrneiaeth

  • prosesu eich ffi

  • cadw cofrestr o atwrniaethau

  • cynnal ymchwil cwsmeriaid

  • at ddibenion gweinyddol

Rydym yn addo i:

  • ofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnom yn unig

  • gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac na all neb heb awdurdod ei chael

  • gwneud yn siŵr nad ydym yn cadw eich gwybodaeth yn hirach nag sy’n rhaid i ni

  • rhoi cyfle i chi ofyn i ni newid eich gwybodaeth os credwch ei bod yn anghywir

Yn gyfnewid, gofynnwn i chi:

  • sicrhau bod y wybodaeth a roddwch i ni yn gywir

  • dweud wrthym am unrhyw newidiadau perthnasol i’ch sefyllfa bersonol (fel newid enw, teitl neu gyfeiriad) cyn gynted â phosibl

Rhannu gwybodaeth bersonol

Dim ond pan fydd y gyfraith yn dweud y gallwn ni y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth i ddiogelu pobl agored i niwed.

Ni fyddwn byth yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill at ddibenion marchnata, ymchwil marchnad neu fasnachol.

Mae’r sefydliadau rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â nhw yn cynnwys:

  • yr heddlu

  • y Llys Gwarchod

  • awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol

  • adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth

  • y GIG

  • ymwelwyr â’r Llys Gwarchod

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth gyswllt i ofyn i gwsmeriaid a hoffent gwblhau arolwg gwasanaeth cwsmeriaid. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i weld ble a sut y gallwn wella ein gwasanaethau.

Mynediad at wybodaeth bersonol

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. (Gelwir hyn yn ‘gais gwrthrych am wybodaeth.)

Gallwch wneud cais gwrthrych am wybodaeth drosoch eich hun, neu rywun arall, ar-lein. Defnyddiwch y ffurflen gais gwrthrych am wybodaeth sydd ar-lein.

Gallwch hefyd wneud cais trwy e-bost neu’r post.

Ebost: data.access@justice.gov.uk

Trwy’r post:

Disclosure Team
Post point 10.25
102 Petty France
Llundain
SW1H 9AJ

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennym wybodaeth anghywir amdanoch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk

Cysylltwch â ni

Cyfeiriad:

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk

Ffôn: 0300 456 0300

Ffôn testun: 0115 934 2778

Ffonio o dramor: +44 300 456 0300

Amseroedd agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener - 9am - 5pm (oni bai am ddydd Mercher)

Dydd Mercher - 10am - 5pm

Gwefan: www.gov.uk/opg