Casgliad

Ffurflenni atwrneiaethau arhosol a pharhaus

Gallwch greu, cofrestru, gwrthwynebu i neu ymwadu atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth atwrneiaeth arhosol i greu atwrneiaeth arhosol ar-lein. Mae’n haws ac mae’n atal llawer o gamgymeriadau cyffredin.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Creu a chofrestru atwrneiaeth arhosol

Defnyddiwch y ffurflenni a’r canllawiau hyn i greu a chofrestru atwrneiaeth arhosol materion ariannol ac eiddo, neu atwrneiaeth arhosol iechyd a lles.

Cofrestru atwrneiaeth barhaus

Defnyddiwch y ffurflenni hyn i gofrestru atwrneiaeth barhaus os yw’r unigolyn a greodd yr atwrneiaeth barhaus (y ‘rhoddwr’) wedi colli neu yn colli galluedd meddyliol.

Ffioedd atwrneiaeth

Defnyddiwch y ffurflenni hyn os oes angen cymorth arnoch i dalu’r ffi oherwydd bod gennych incwm isel neu os ydych yn cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf penodol.

Gwrthwynebu i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu barhaus

Defnyddiwch y ffurflenni hyn i wrthwynebu i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.

Ymwadu atwrneiaeth arhosol

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych wedi cael eich penodi’n atwrnai yn unol ag atwrneiaeth arhosol a’ch bod yn dymuno rhoi’r gorau i’r rôl honno.

Cyhoeddwyd ar 20 May 2021