Rhoi rhoddion i rywun arall: canllaw i ddirprwyon ac atwrneiod
Cyngor i atwrneiod a dirprwyon sydd wedi’u penodi gan y llys pan gaiff rhoddion eu rhoi ar ran unigolyn arall.
Applies to England and Wales
Dogfennau
Manylion
Weithiau gall atwrneiod a dirprwyon roi rhoddion ar ran yr unigolyn y maent wedi cael eu penodi i wneud penderfyniadau drosto. Dim ond dirprwyon ac atwrneiod sy’n gwneud penderfyniadau ariannol all roi rhoddion; ni allwch roi rhoddion os ydych wedi’ch penodi i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag iechyd a lles yn unig.
Os oes gennych chi’r awdurdod i roi rhoddion, dim ond mewn rhai sefyllfaoedd mae modd i chi wneud hynny, a dim ond os yw hynny er lles pennaf yr unigolyn.
Mae’r canllaw hwn yn cynnig cyngor ymarferol megis:
- beth sy’n cyfrif fel rhodd
- pwy sy’n cael rhoi rhoddion i rywun arall
- pryd allwch chi roi rhoddion
- newid y cyfyngiadau ar roi rhoddion
- beth sy’n digwydd gyda rhoddion heb awdurdod
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyhoeddi nodyn ymarfer ynghylch rhoi rhoddion hefyd, sy’n esbonio’r cefndir cyfreithiol yn fanylach.
Edrychwch ar y canllawiau ‘Sut i fod yn ddirprwy’ a ‘Cychwyn y broses fel atwrnai’ i gael rhagor o arweiniad ynghylch cyflawni’r swyddogaethau hyn.
Gallwch hefyd edrych ar God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, sy’n esbonio’n fanwl beth y gallwch chi ei wneud a beth na allwch chi ei wneud fel atwrnai neu ddirprwy.
Fformatau amgen
I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: customerservices@publicguardian.gov.uk. Cofiwch roi eich cyfeiriad.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 January 2017 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation
-
Added translation
-
Added translation
-
Small textual change to attachment.
-
First published.