Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 63: Pridiannau Tir – ceisiadau i gofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu

Diweddarwyd 12 February 2024

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

O dan adran 1 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972, mae’r Adran Pridiannau Tir yn cadw’r cofrestri canlynol:

  • cofrestr o bridiannau tir
  • cofrestr o achosion arfaethedig ac achosion mewn methdaliad arfaethedig
  • cofrestr o writiau a gorchmynion sy’n effeithio ar dir a gwritiau a gorchmynion mewn methdaliad

Gweler Atodiad D: Cofrestri Pridiannau Tir am fanylion pellach. Nid yw’r ddwy gofrestr arall y cyfeirir atynt yn Neddf Pridiannau Tir 1972 – y gofrestr blwydd-daliadau a’r gofrestr o weithredoedd trefniant sy’n effeithio ar dir – bellach yn agored i gofrestriadau newydd ac, yn yr achos olaf, maent i bob pwrpas wedi darfod.

Mae’r Adran Pridiannau Tir hefyd yn cadw mynegai sy’n galluogi i’r holl gofnodion a wneir yn unrhyw un o’r cofrestri gael eu holrhain.

Mae’r Adran Pridiannau Tir hefyd yn cadw mynegai lle gellir olrhain yn hawdd yr holl gofnodion a wneir yn unrhyw un o’r cofrestri.

Prif dasg yr Adran Pridiannau Tir yw gwarchod budd unigolyn neu sefydliad mewn tir digofrestredig a chynnal y mynegai methdaliad ar gyfer Cymru a Lloegr.

Nid yw’r mynegai pridiannau tir yn cofnodi perchnogaeth tir digofrestredig. Mae hyn oherwydd bod gan berson sy’n berchen ar dir digofrestredig weithredoedd teitl y gellir eu cynhyrchu fel prawf o berchnogaeth. Nid yw morgeisi cyntaf yn cael eu cofrestru yn yr Adran Pridiannau Tir, oherwydd bod morgeisai tir digofrestredig sydd â morgais cyntaf yn dal y gweithredoedd teitl fel gwarant. (Mae hyn yn atal perchennog y tir rhag gwerthu’r tir heb gysylltu â’r morgeisai.)

Fodd bynnag, ceir llawer o sefyllfaoedd eraill lle mae gan rywun fudd yn y tir ond nad yw’n dal y gweithredoedd teitl fel gwarant. Gall y rhain fod yn fuddion fel ail forgeisi neu forgeisi dilynol (lle nad yw’r morgeisai yn dal y gweithredoedd), cyfamodau cyfyngu, contractau ystad gan gynnwys cytundebau opsiynau, a hawliau cartref partneriaeth briodasol neu sifil. Dyma lle mae gan yr Adran Pridiannau Tir rôl hanfodol. Dylai’r person neu’r sefydliad sydd â’r budd wneud cais i gofrestru ei fudd gyda’r Adran Pridiannau Tir.

Sylwer nad oes unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Pridiannau Tir 1972 ar gyfer gwarchod budd trwy gofrestriad o dan ymddiried tir neu setliad.

Gweler Ceisiadau i gofrestru am fanylion pellach.

Os bydd y person sydd â budd y dylid ei warchod trwy gofrestriad yn methu â’i gofrestru o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972, bydd y budd yn ddi-rym yn erbyn rhai prynwyr y tir. O ran peidio â chofrestru pridiannau tir, gweler adran 4 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972 ac, er enghraifft, Midland Bank Trust Co Ltd v Green HL [1981] AC 513, [1981] 1 All ER 153.

Fodd bynnag, nid yw cofrestru unrhyw offeryn neu fater o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 yn rhoi dilysrwydd iddo. Nid yw’r cofrestrydd yn ymchwilio i gywirdeb neu ddilysrwydd unrhyw gais a wneir iddo neu fel arall (gweler rheol 22 o Reolau Pridiannau Tir 1974).

Mae’r cofrestri pridiannau tir yn agored a chaiff unrhyw un wneud cais i’w chwilio (adran 9 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972). Dylai trawsgludwyr prynwyr sy’n gweithredu ym mhryniant tir digofrestredig, fel mater o drefn, wneud cais am chwiliad yn erbyn gwerthwyr a pherchnogion blaenorol y tir i benderfynu a oes unrhyw bridiannau tir wedi eu cofrestru ac i gael y manylion os oes. Yna gallant sicrhau, er enghraifft, bod unrhyw forgais a ddatgelir yn cael ei glirio. Byddant hefyd yn gwybod sut i gynghori eu cleientiaid ar unrhyw faterion eraill, megis cyfamodau cyfyngu neu hawddfreintiau ecwitïol, y gellir eu datgelu.

Yn ogystal, gall unrhyw un sy’n cynnig rhoi benthyg arian wirio nad yw’r cymerwr benthyg yn fethdalwr. Wrth weithredu dros roddwr benthyg, dylid gwneud chwiliad ‘methdaliad yn unig’ yn erbyn cymerwr benthyg hyd yn oed os yw ystad gofrestredig mewn tir yn cael ei phrynu.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn esbonio:

  • sut i wneud gwahanol fathau o geisiadau
  • y wybodaeth y mae’n rhaid ichi ei darparu
  • y gwahanol fathau o ffurflenni
  • y wybodaeth a gewch mewn cydnabyddiaeth, tystysgrif canlyniad y chwiliad neu gopi swyddfa

2. Ceisiadau i gofrestru

Rhaid ichi gyflwyno ceisiadau i gofrestru, adnewyddu cofrestriad, rhybudd blaenoriaeth neu gywiro ar y ffurflen benodedig fel a ganlyn (rheolau 5 a 14(3) o Reolau Pridiannau Tir 1974):

  • K1 Cais i gofrestru Pridiant Tir (ac eithrio Dosbarth F)
  • K2 Cais i gofrestru Pridiant Tir Dosbarth F
  • K3 Cais i gofrestru Achos Arfaethedig
  • K4 Cais i gofrestru Gwrit neu Orchymyn
  • K6 Cais i gofrestru Rhybudd Blaenoriaeth
  • K7 Cais i adnewyddu cofrestriad (ac eithrio Pridiant Tir Dosbarth F)
  • K8 Cais i adnewyddu cofrestriad Pridiant Tir Dosbarth F
  • K9 Cais i gywiro cofnod yn y gofrestr

Ni ddylid cyflwyno dogfen na chynllun gyda’r cais oni bai bod y cais ar gyfer dileu: rheol 21 o Reolau Pridiannau Tir 1974.

Gellir defnyddio K10 (Parhad cais) os nad oes digon o le ar y ffurflenni uchod ar gyfer manylion y cais.

2.1 Cwblhau’r cais

Oherwydd bod ceisiadau papur yn cael eu sganio, mae’n hanfodol eich bod yn llenwi pob ffurflen gais o’r fath yn ddarllenadwy ac yn gywir. Mae’r cofrestri pridiannau tir a’r mynegai’n cael eu crynhoi o’r wybodaeth a roddir mewn ceisiadau, ac o ganlyniad, gall unrhyw wall yn y manylion a roddir, waeth pa mor fach bynnag, arwain at beidio â datgelu gwybodaeth bwysig iawn mewn chwiliad dilynol.

Byddai hyn bron yn sicr er colled i’r arwystlai (gweler Diligent Finance Co Ltd v Alleyne and Another [1972] 23 P. & C.R. 346; ct. Oak Co-operative Building Society v Blackburn and Others [1968] Ch. 730 C.A., reversing [1967] Ch.1169).

2.1.1 Enwau

Rhaid ichi roi’r enwau llawn yn eich cais:

  • ar gyfer unigolion: nodwch yr enw(au) a’r cyfenw yn y bylchau a ddarperir
  • teitl neu reng: gweler Teitlau am fanylion ar sut i nodi’r rhain
  • enwau heblaw unigolion: gweler Enwau heblaw unigolion preifat am fanylion am sut i nodi’r rhain

2.1.2 Disgrifiad o’r tir sy’n cael ei bridiannu

Rhaid ichi ddarparu enw’r ardal weinyddol y mae’r tir wedi ei lleoli ynddi bob tro. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi nodi’r awdurdod unedol perthnasol neu, lle nad yw’r tir o fewn awdurdod unedol, y sir a’r ardal. Gweler Atodiad C: ardaloedd gweinyddol yng Nghymru a Lloegr a ddefnyddir gan yr Adran Pridiannau Tir i gael rhagor o fanylion.

Yn ogystal, rhaid ichi ddarparu disgrifiad byr sydd, i’r graddau y mae’n ymarferol, yn nodi lleoliad y tir. Sylwer na ddylid cyflwyno cynllun gyda’r cais. Os gwneir hyn, caiff y ffurflen gais ei dychwelyd, gan ganiatáu i’r disgrifiad byr gael ei ehangu os oes angen.

2.1.3 Ceisiadau yn unol â rhybudd blaenoriaeth

Er mwyn denu’r flaenoriaeth a roddir o dan rybudd blaenoriaeth, rhaid ichi nodi, yn y gofod a ddarperir, cyfeirnod swyddogol y rhybudd blaenoriaeth hwnnw. Gweler Cais i gofrestru rhybudd blaenoriaeth am fanylion am sut i wneud cais am rybudd blaenoriaeth).

2.1.4 Gwrthod ceisiadau

Bydd yr Adran Pridiannau Tir yn gwrthod unrhyw geisiadau i gofrestru lle:

  • nad yw’r ffurflen gais wedi ei llofnodi
  • nodir mwy nag un perchennog ystad ar y ffurflen
  • na roddwyd disgrifiad o’r eiddo neu lle nad yw’n ddigonol
  • mae’r cais am y dosbarth pridiant tir anghywir
  • mae’r cais yn datgelu budd o dan ymddiried neu setliad neu unrhyw hawl nad oes modd ei gofrestru
  • nad yw’r ffi benodedig wedi ei hamgáu ac nad oes rhif allwedd ar y ffurflen

2.2 Cais i gofrestru pridiant tir (ac eithrio Dosbarth F)

Gweler Atodiad D: Cofrestri Pridiannau Tir am fanylion pellach dosbarthiadau pridiannau tir.

Rhaid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen K1 i gofrestru unrhyw bridiant tir ac eithrio dosbarth F.

Yn adran ‘manylion y pridiant’ ar ffurflen K1, rhaid ichi nodi:

  • os yw’r pridiant tir wedi ei greu gan offeryn, dyddiad ac enwau llawn y partïon i’r offeryn
  • yn achos pridiannau tir Dosbarth A neu B, manylion y Ddeddf neu adran berthnasol
  • os nad y naill na’r llall o’r uchod, manylion byr am effaith y pridiant a’r dyddiad y cododd

2.3 Cais i gofrestru pridiant tir Dosbarth F

Gweler Atodiad D: Cofrestri Pridiannau Tir am fanylion pellach dosbarthiadau pridiannau tir.

Rhaid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen K2.

Rhaid rhoi manylion ar ffurflen unrhyw gofrestriad presennol hawliau meddiannaeth o dan Ddeddf Cartrefi Priodasol 1967 neu 1983 neu hawliau cartref o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, sy’n effeithio ar dŷ annedd ac a warchodir gan gofrestriad Dosbarth F o dan y Ddeddf Pridiannau Tir 1925 neu 1972, neu rybudd hawliau cartref neu rybuddiad o dan Ddeddfau Cofrestru Tir 1925 neu 2002. Y rheswm am hyn yw y gellir cofnodi arwystl mewn perthynas â hawliau cartref mewn perthynas ag un tŷ annedd yn unig ar y tro a bydd y cofrestrydd yn rhwym i ddileu unrhyw gofrestriad blaenorol. Dylid rhoi manylion unrhyw orchymyn llys hefyd os yw’n berthnasol.

2.4 Cais i gofrestru achos arfaethedig

Gweler Atodiad D: cofrestr o achosion arfaethedig am fanylion pellach.

Rhaid gwneud cais i gofrestru achos arfaethedig gan ddefnyddio ffurflen K3.

Rhaid i bob cais gynnwys manylion y gweithredu neu fater ac enw, cyfeiriad a disgrifiad perchennog yr ystad neu berson arall y bwriedir effeithio ar ei ystad neu fudd. Yn ogystal, rhaid iddo nodi’r llys a’r diwrnod y cychwynnwyd yr achos.

2.5 Cais i gofrestru gwrit neu orchymyn

Gweler Atodiad D: cofrestr gwritiau a gorchmynion am fanylion pellach.

Rhaid gwneud cais i gofrestru gwrit neu orchymyn gan ddefnyddio ffurflen K4.

Rhaid i bob cais gynnwys manylion y gweithredu neu fater ac enw, cyfeiriad a disgrifiad perchennog yr ystad neu berson arall y bwriedir effeithio ar ei ystad neu fudd. Yn ogystal, rhaid iddo nodi’r llys a’r diwrnod y cychwynnwyd yr achos.

2.6 Cais i gofrestru rhybudd blaenoriaeth (adran 11(1)-(3) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972)

Rhaid gwneud cais i gofrestru rhybudd blaenoriaeth gan ddefnyddio ffurflen K6.

Gall person sy’n bwriadu gwneud cais i gofrestru unrhyw bridiant, offeryn neu fater arall a ystyrir roi rhybudd blaenoriaeth yn y ffurf benodedig o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn i’r cofrestriad ddod i rym.

Cofnodir y rhybudd blaenoriaeth yn y gofrestr y bydd y cais arfaethedig, pan fydd wedi ei wneud, yn berthnasol iddi. Os cyflwynir y cais o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl cofrestru’r rhybudd blaenoriaeth ac mae’n cyfeirio yn y modd penodedig at y rhybudd, daw’r cofrestriad i rym fel pe bai’r cofrestriad wedi ei wneud ar yr adeg y crëwyd y pridiant, offeryn neu fater, wedi ei ymrwymo iddo, wedi ei wneud neu wedi codi. Gweler adran 11(1)-(3) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Ystyriwch y sefyllfa ganlynol: Mae A yn cymryd morgais heb y gweithredoedd teitl ar 1 Mai, mae B yn cymryd morgais heb y gweithredoedd teitl ar 10 Mai, mae A yn cofrestru ar 11 Mai, mae B yn cofrestru ar 20 Mai, mae C yn cymryd morgais heb y gweithredoedd ar 30 Mai ac yn cofrestru.

Trefn raddio’r partïon, p’un ai y mae eu morgeisi’n rhai cyfreithlon neu ecwitïol, yw B-A-C. Er y crëwyd morgais A cyn creu un B, a’i gofrestru cyn cofrestru un B, nid oedd wedi ei gofrestru ar yr adeg y cwblhawyd morgais B. Effaith adran 4(5) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972 yw bod morgais A yn ddi-rym yn erbyn B. Nid yw’n ddi-rym yn erbyn C oherwydd iddo gael ei gofrestru cyn cwblhau morgais C ar 30 Mai.

Fodd bynnag, os ydych yn gweithredu ar ran rhoddwr benthyg A a’ch bod yn rhagweld y bydd morgais arall yn cael ei gwblhau cyn bo hir, gallwch gadw blaenoriaeth eich cleient trwy gofrestru rhybudd blaenoriaeth. Er enghraifft, rydych yn gwneud cais am rybudd blaenoriaeth ar 9 Ebrill. Rydych yn cymryd y morgais ar 1 Mai fel uchod. Mae’r ail forgais i B yn cwblhau ar 10 Mai ac rydych yn gwneud cais i gofrestru Pridiant tir C(i) ar 11 Mai, gan gyfeirio yn y modd penodedig at y rhybudd blaenoriaeth. Daw’r cofrestriad i rym ar 1 Mai. Trefn raddio’r partïon, p’un ai y mae eu morgeisi’n rhai cyfreithlon neu ecwitïol bryd hynny yw yn A-B-C.

Rhaid rhoi manylion y gofrestr y bydd y cais am gofrestriad bwriadedig yn gysylltiedig â hi gyda’i gilydd, os yw’r cofrestriad bwriadedig yn bridiant tir, gyda’r dosbarth a’r is-ddosbarth.

Pan wneir cais am gofrestriad yn unol â rhybudd blaenoriaeth, rhaid iddo gyfeirio at y rhybudd hwnnw trwy ddyfynnu’r cyfeirnod swyddogol a ddyrannwyd iddo (rheol 7 o Reolau Pridiannau Tir 1974).

2.7 Cais i adnewyddu cofrestriad (nad yw’n bridiant tir Dosbarth F)

Mae cofrestriadau yng nghofrestri achosion arfaethedig gweithredoedd a gwritiau a gorchmynion (o dan adrannau 5 neu 6 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972) yn peidio â bod yn effeithiol ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd o’r dyddiad y cânt eu gwneud, ond gellir eu hadnewyddu o bryd i’w gilydd ac, os cânt eu hadnewyddu, byddant yn effeithiol am 5 mlynedd o’r dyddiad adnewyddu: adran 8 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Rhaid gwneud cais i adnewyddu cofrestriad o’r fath (nad yw’n bridiant tir Dosbarth F) gan ddefnyddio ffurflen K7.

Rhaid rhoi manylion y cofrestriad gwreiddiol, gan gynnwys y cyfeirnod swyddogol a dyddiad y cofrestriad.

2.8 Cais i adnewyddu cofrestriad pridiant tir Dosbarth F

Fel rheol, dim ond yn ystod bodolaeth priodas neu bartneriaeth sifil mae hawliau cartref yn parhau. Mae adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 yn darparu, os digwydd anghydfod neu ddieithriad priodasol neu bartneriaeth sifil, gall y llys wneud gorchymyn yn ystod bodolaeth y briodas neu’r bartneriaeth sifil gan gyfarwyddo bod yr hawliau cartref yn parhau er gall y briodas neu bartneriaeth sifil ddod i ben.

Os gwneir gorchymyn o’r fath, gellir gwneud cais i adnewyddu’r cofrestriad Dosbarth F. Mae hwn yn rhagofal yn erbyn y priod neu’r partner sifil arall yn ceisio dileu’r cofnod gwreiddiol heb ddatgelu bodolaeth y gorchymyn llys, er enghraifft trwy brofi y bu ysgariad neu ddiddymiad.

Rhaid gwneud cais i adnewyddu Pridiant tir Dosbarth F gan ddefnyddio ffurflen K8. Rhaid rhoi manylion y cofnod gwreiddiol (gan gynnwys y cyfeirnod swyddogol a dyddiad y cofrestriad) ynghyd â manylion y gorchymyn llys a’r llys lle cafodd ei wneud.

2.9 Cais i gywiro (rheol 14 o Reolau Pridiannau Tir 1974)

Os yw ceisiadau i gofrestru yn cael eu cwblhau’n ofalus, ni ddylai fod angen eu cywiro fel rheol. Fodd bynnag, pan fydd gwall a wnaed mewn cais am gofrestriad wedi arwain at wall cyfatebol yn y cofnod, gallwch wneud cais i’w gywiro: rheol 14 o Reolau Pridiannau Tir 1974.

Rhaid gwneud cais i gywiro cofnod yn y gofrestr gan ddefnyddio ffurflen K9.

Dylai cais i gywiro gael ei lofnodi gan neu ar ran y person y gwnaed y cais gwreiddiol ar ei ran neu, yn ddarostyngedig i ddangos tystiolaeth ddigonol o deitl, gan neu ar ran unrhyw olynydd mewn teitl y person hwnnw. Nid yw cywiro’n gweithredu’n ôl-weithredol fel na fydd person sydd wedi cael naill ai tystysgrif canlyniad chwiliad swyddogol yn y mynegai neu gopi swyddfa o’r gofrestr sydd wedi ei ddyddio cyn dyddiad y cywiriad, yn cael ei effeithio gan y cywiriad: rheol 14(4) o Reolau Pridiannau Tir 1974.

Bydd cywiro yn arwain at gadw’r cofnod gwreiddiol ar ffurf wedi ei newid.

Fel arall, lle mae gwall, gallwch wneud cais i ddileu’r cofnod, gweler Ceisiadau i ddileu, a’i gefnogi gyda chais i gofrestru cofnod newydd. Bydd hyn yn disodli cofnod newydd yn lle’r cofnod wedi ei ddileu.

2.10 Cydnabyddiaethau

Cydnabyddir ceisiadau i gofrestru, adnewyddu cofrestriad, rhybudd blaenoriaeth neu gywiro ar ffurflen K22.

Mae’r gydnabyddiaeth yn cynnwys manylion am:

  • y math o gais
  • y cyfeirnod swyddogol a ddyrannwyd
  • y dyddiad y gweithredwyd y cofrestriad
  • manylion y cofnod a wneir yn y gofrestr
  • cyfeirnod ceisydd
  • rhif allwedd y ceisydd
  • enw a chyfeiriad y ceisydd

Dylech wirio’r manylion a hysbysu’r Adran Pridiannau Tir am unrhyw wallau amlwg.

Sylwer: Yn achos rhybudd blaenoriaeth, y cyfeirnod swyddogol a ddyrennir yw’r rhif y mae’n rhaid ei ddyfynnu yn y cais dilynol am gofrestriad safonol.

3. Chwiliadau swyddogol

Gallwch ofyn am chwiliad swyddogol o’r mynegai i gael manylion unrhyw gofnodion sydd wedi eu cofrestru yn erbyn enw neu enwau penodol: adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Dylai darpar brynwr tir digofrestredig neu ei drawsgludwr bob amser wneud chwiliad yn yr Adran Pridiannau Tir. Ystyr ‘prynwr’ yw unrhyw berson (gan gynnwys morgeisai neu brydlesai) sy’n cymryd unrhyw fudd mewn tir neu mewn arwystl ar dir am gydnabyddiaeth â gwerth, ac mae gan ‘prynu’ ystyr gyfatebol: adran 17 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Dylid chwilio yn erbyn yr holl berchnogion ystadau y mae eu henwau yn ymddangos yn nhalfyriad neu grynodeb y teitl (gan gynnwys y rheiny nad ydynt yn bartïon i’r gweithredoedd eu hunain, y cyfeirir atynt yn y gweithredoedd neu mewn atodlenni sydd ynghlwm wrth weithredoedd sy’n rhan o’r teitl). Lle darperir tystysgrif chwiliad yn erbyn perchennog tai blaenorol fel rhan o’r talfyriad neu grynodeb (sy’n cwmpasu’r cyfnod(au) cywir ac yn erbyn yr enw cywir ac yn erbyn disgrifiad cywir yr eiddo), nid oes angen ailadrodd y chwiliad hwnnw gan gymryd nad yw’n datgelu unrhyw gofnodion niweidiol.

O blaid prynwr neu brynwr bwriadedig, bydd y dystysgrif, yn ôl ei union eiriad, yn derfynol, yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn ôl fel y digwydd: adran 10(4) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972. Fodd bynnag, rhaid i’r chwiliad ei hun fod yn gywir ar bob cyfrif (gweler isod).

Rhaid ichi gyflwyno’ch cais am chwiliad swyddogol ar y ffurflen benodedig, naill ai:

  • K15 Cais am chwiliad swyddogol
  • K16 Cais am chwiliad swyddogol (methdaliad yn unig)

Gweler Chwiliadau methdaliad yn unig am wybodaeth bellach am chwiliadau methdaliad yn unig.

Sylwer: Bydd cais am chwiliad llawn ar ffurflen K15 yn arwain at chwiliad o’r mynegai cyfan gan gynnwys cofnodion methdaliad.

Fel yr eglurir isod, rhaid ichi ddarparu manylion yr enw(au), yr ardaloedd gweinyddol blaenorol a’r presennol a’r cyfnod i’w chwilio.

Gall yr Adran Pridiannau Tir wrthod unrhyw gais am chwiliad swyddogol lle:

  • na chofnodir ardal weinyddol ar y ffurflen
  • nad yw’r ffi benodedig wedi ei hamgáu ac nad oes rhif allwedd ar y ffurflen

3.1 Enwau unigol preifat

Gallwch wneud cais i chwilio hyd at 6 enw mewn un cais. Mae’r adran hon yn esbonio sut i ddarparu manylion enw(au) unigolyn preifat. Gweler Enwau heblaw unigolion preifat os ydych am chwilio mathau eraill o enwau.

3.1.1 Enwau llawn

Rhaid ichi sicrhau eich bod yn nodi’r enw(au) a’r cyfenw yn y paneli perthnasol neu yn y drefn y gofynnwyd amdani. Bydd hyn yn sicrhau bod y chwiliad yn cael ei gynnal yn erbyn yr enw cywir mewn sefyllfaoedd ansicr, er enghraifft Barry James neu James Barry.

Gwneir y chwiliad yn erbyn union fersiwn yr enw fel y’i dangosir ar y ffurflen gais yn unig. Felly mae’n bwysig gwneud yn siwr bod yr enw a nodir ar y ffurflen gais yn union yr un fath â’r enw a ddangosir yn y gweithredoedd teitl. Os bydd unrhyw amrywiadau o’r enw hwnnw’n ymddangos yn y gweithredoedd, er enghraifft os cyfeirir at ‘William Smith’ fel ‘William Smith’, ‘William Smythe’ a ‘Will Smith’, rhaid nodi holl amrywiadau’r enw a roddir ar wahân ar y ffurflen chwilio a thalu ffi ar wahân mewn perthynas â phob un.

Gwneir y chwiliad yn erbyn:

  • yr enw(au) a’r cyfenw yn union fel y’u darperir gennych chi

  • y cyfenw yn unig

  • llythrennau cyntaf yr enw cyntaf(au) wedi eu cyfuno â’r cyfenw

Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru ar y ffurf hon y datgelir ceisiadau. Ni wneir chwiliadau yn erbyn enwau cyntaf yn unig nac yn erbyn cymysgedd o enwau cyntaf a llythrennau cyntaf wedi eu cyfuno â’r cyfenw oni bai bod y cyfuniadau hyn wedi eu nodi fel enwau ar wahân i’w chwilio, gweler Blaenlythrennau neu enw(au) cyntaf. Mae’r enghraifft ganlynol yn rhoi syniad o’r enwau sydd wedi eu cynnwys mewn chwiliad, a’r rhai nad ydynt.

Mewn chwiliad o ‘John William Smith’:

Wedi eu cynnwys mewn chwiliad Ddim wedi eu cynnwys mewn chwiliad
John William Smith John Smith
J W Smith J Smith
Smith John W Smith
  J William Smith
  William Smith
  W Smith

3.1.2 Blaenlythrennau enw(au) cyntaf

Os mai dim ond blaenlythyren yr enw(au) a ddarperir gennych, gwneir y chwiliad yn erbyn y blaenlythrennau ynghyd â’r cyfenw a hefyd yn erbyn y cyfenw yn unig. Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru yn y modd hwn y datgelir cofnodion.

Ni fydd y chwiliad yn cwmpasu’r cyfenw wedi ei gyfuno ag unrhyw enw(au) sy’n digwydd cael y blaenlythyren(llythrennau) a nodwyd. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos y pwynt hwn:

Mewn chwiliad o ‘John W Smith’:

Wedi eu cynnwys mewn chwiliad Ddim wedi eu cynnwys mewn chwiliad
John W Smith John William Smith
J W Smith John Smith
Smith J Smith
  W Smith
  Unrhyw enw cyntaf yn dechrau gyda ‘W’

Mewn chwiliad o ‘J W Smith’:

Wedi eu cynnwys mewn chwiliad Ddim wedi eu cynnwys mewn chwiliad
J W Smith J Smith
Smith W Smith
  Unrhyw enw cyntaf yn dechrau gyda ‘J W’

3.1.3 Enw(au) cyntaf cryno

Os darparwyd byrfodd enw cyntaf, fel JAS, THOS, HY, bydd yn cael ei chwilio yn union fel y cafodd ei ddarparu. Ni fydd y byrfoddau hyn yn cael eu trosi i enw llawn. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai yr hoffech wneud cais am chwiliad o’r enw(au) llawn heb ei dalfyrru.

3.1.4 Cyfenwau lluosog

Dyluniwyd system chwilio’r Adran Pridiannau Tir i oresgyn ystod o anghysondebau a all ddigwydd mewn fformatau enw. Enghreifftiau cyffredin yw cysylltnodau, bylchau a rhywfaint o atalnodi. Fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl gwahaniaethu rhwng enwau cyntaf a chyfenwau ac ni all yr Adran Pridiannau Tir dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wall sy’n deillio o fanylion anghywir a ddarperir mewn cais. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch y fformat enw cywir, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am chwiliad o’r holl amrywiadau, er enghraifft Enw(au) cyntaf: John Hamilton a Chyfenw: Smith a Enw(au) cyntaf: John a Chyfenw: Hamilton Smith.

3.1.5 Enwau blaenorol neu enwau eraill

Os yw rhywun yn cael ei adnabod yn gyffredin gan enw arall, neu os yw wedi newid ei enw trwy weithred newid enw neu ar briodas, dylech wneud cais am chwiliad ar wahân o bob enw. Ni ddylid byth gwneud chwiliad am “Alice Smith a elwid Jones yn wreiddiol” neu “Alice Smith (Jones gynt)” neu “Alice neu Alicia Smith fel arall”.

3.1.6 Teitlau

Weithiau mae geiriau fel ‘Arglwydd’, ‘Dug’, ‘Tywysoges’, neu hyd yn oed ‘Syr’ yn bodoli fel enwau blaenau. Felly mae’n hanfodol na ddylid cymysgu teitlau unigolyn â’u henwau. Wrth gwblhau cais, rhaid nodi teitl dilys mewn cromfachau neu, mewn cais llafar, nodi ei fod yn deitl dilys. Er enghraifft, Enw(au) blaen: (Syr) John a Chyfenw: Smith neu Enw(au) blaen: (Yr Anrh) John Henry a Chyfenw: Carruthers. Ni fydd y teitl yn cael ei atgynhyrchu yn nhystysgrif canlyniad y chwiliad.

Pan fydd enw person a chanddo deitl neu wad gorfforaeth, fel esgob, yn cynnwys cyfeiriad at ddynodiad tiriogaethol, rhaid ichi ddarparu’r enw cyfan fel un, er enghraifft Charles James Henry Vaughan Iarll Barchester neu’r Arglwydd Charles William Frederick Montague Smith o Broadoaks.

Os ydych yn cyflwyno’ch cais trwy ffurflen K15 neu ffurflen K16 dilëwch y geiriau ‘Enw(au) cyntaf’ a ‘Cyfenw’, er enghraifft:

Enw(au)cyntaf) Y GWIR BARCHEDIG JOHN HERBERT
Cyfenw WALPOLE ARGLWYDD ESGOB CHELLS
Enw(au)cyntaf PERCHENNOG AM Y TRO Y FYWOLIAETH
Cyfenw O EASTWESTLEIGH, BARSETSHIRE

Dylech bob amser ystyried a allai cofrestriad fod wedi ei gyflawni yn syml yn erbyn enwau a chyfenw unigolyn yn unig, heb unrhyw gyfeiriad at ei deitl neu ei ddynodiad tiriogaethol, ac o ganlyniad, a ddylech hefyd wneud cais i’r enw gael ei chwilio ar wahân. Mae’r sefyllfa hon i’w chael yn aml pan fydd rhywun o’r enw wedi cadw ei gyfenw fel rhan o’i deitl.

3.2 Enwau heblaw unigolion preifat

Wrth wneud cais am chwiliad o enw heblaw unigolyn preifat, rhaid ichi roi’r enw fel un, er enghraifft W J Sinner & Co Ltd. neu Gyngor Dosbarth Gwledig Partington.

Os ydych yn cyflwyno’ch cais trwy’r post neu DX gan ddefnyddio ffurflen K15 neu K16, dilëwch y geiriau ‘Enw(au) cyntaf’ a ‘Cyfenw’, er enghraifft:

Enw(au)cyntaf) ODD-FELLOWS BARCHESTER UNITY FRIENDLY
Cyfenw CYMDEITHAS

Pan mai ‘Y/The’ yw’r gair cyntaf mewn enw, gallwch naill ai ei gynnwys neu ei hepgor.

3.2.1 Cwmnïau masnachu

Defnyddir llawer o fyrfoddau ac amrywiadau o eiriau yn gyffredin mewn enwau cwmnïau. Mae system chwilio’r Adran Pridiannau Tir yn ystyried amrywiaeth eang o’r rhain fel nad oes angen ichi nodi’r holl amrywiadau posibl wrth chwilio, gweler Byrfoddau ac amrywiadau. Rhoddir ystyriaeth hefyd ar gyfer gwahaniaethau mewn bylchau ac atalnodi.

3.2.2 Deddfau Cwmnïau

Mae ailgofrestru cwmni sydd wedi ei gofrestru o dan y Deddfau Cwmnïau fel cwmni cyfyngedig cyhoeddus neu ailgofrestru cwmni cyfyngedig cyhoeddus fel cwmni cyfyngedig preifat yn arwain at newid enw. Pan fydd y newid wedi ei gyfyngu i ‘Gyfyngedig’ ddod yn ‘Gwmni Cyfyngedig Cyhoeddus’ (neu ei gyfwerth yn Saesneg) neu i’r gwrthwyneb, dim ond un fersiwn o’r enw y bydd angen ichi ei chwilio, gan fod y system chwilio wedi ei chynllunio i chwilio’r ddau fersiwn, er enghraifft:

  • Gall John Smith Ltd (neu Cyf) droi’n:
  • John Smith Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus, a/neu
  • John Smith Public Limited Company

Bydd chwiliad a wneir yn erbyn unrhyw fersiwn yn datgelu cofnodion a wneir yn erbyn pob fersiwn, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio’r byrfoddau a restrir yn Byrfoddau ac amrywiadau.

Fodd bynnag, lle ceir unrhyw newid enw arall, eich cyfrifoldeb chi fydd chwilio yn erbyn y ddau fersiwn. Yn yr enghraifft ganlynol mae’r geiriau ‘and Company’ wedi eu gollwng o’r enw. Felly rhaid ichi wneud cais am chwiliad o:

  • John Smith and Company Limited
  • John Smith Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus, a/neu
  • John Smith Public Limited Company

3.2.3 Byrfoddau ac amrywiadau

Mae system chwilio’r Adran Pridiannau Tir yn ystyried byrfoddau ac amrywiadau cydnabyddedig yn awtomatig pryd bynnag y maent yn digwydd mewn enw. Ni fydd y cofrestrydd yn derbyn cyfrifoldeb am chwilio unrhyw dalfyriad neu amrywiad arall oni bai eich bod wedi gwneud cais iddo gael ei chwilio fel enw ar wahân.

Ymdrinnir â’r byrfoddau a’r amrywiadau canlynol, ym mhob grŵp, yr un fath at ddibenion chwiliad:

& Ass Brother Co Public Limited Company Dr LD Soc St
And Assoc Bro Cos PLC Doc Ltd Socs Street
  Assocs Brothers Coy Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus Doctor Limited Socy St
  Associate Bros Coys CCC     Society Saint
  Associated   Comp Cwmni Cyf Cyhoeddus     Societys  
  Associates   Comps       Societies  
  Association   Company          
  Associations   Companies          
      Cyfyngedig          
      Cyf          

Mae enw unigol a lluosog y geiriau canlynol hefyd yn cael eu trin fel yr un peth:

Broker Decorator Holding Production
Builder Developer Hotel Property
Charity Development Industry School
College Enterprise Investment Son
Commissioner Estate Motor Store
Construction Garage   Trust
Contractor     Warden

3.2.4 Enwau sy’n ymgorffori rhifau

Mae rhai enwau cwmnïau’n cynnwys rhifau sydd naill ai’n rhifolion neu’n eiriau wedi eu sillafu. Os yw enw yn cynnwys rhif, rhaid ichi nodi’r ffurf y dylid ei chwilio; naill ai gyda rhifolion, (er enghraifft 19th Century Land Co. Ltd) neu nodau yn nhrefn yr wyddor, (er enghraifft, Nine Century Land Co. Ltd). Ni ellir pwysleisio’n rhy gryf y bydd enwau’n cael eu chwilio’n union fel y’u rhoddir yn y cais. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod pob enw yn cael ei roi yn gywir.

Dim ond pan fyddwch wedi eu nodi ar wahân yn eich cais bydd amrywiadau enwau eraill yn cael eu chwilio. Mae ffi yn daladwy am bob enw ar wahân.

3.2.5 Enwau awdurdodau lleol

Mae enwau awdurdodau lleol, yn ymarferol, yn cael eu mynegi mewn sawl ffordd, er enghraifft:

The County Council of ………………………..
The ………………County Council
The Council of the ………………..County
……………………………C.C.
The Mayor, Alderman & Burgesses of the Borough of ……………….
The …………….. Corporation
The …………….. Borough Corporation

Pan fydd angen chwilio am awdurdod lleol, rhaid sefydlu 2 elfen yn yr enw - enw lle a statws yr awdurdod. Mae’n eithaf cyffredin dod o hyd i 2 awdurdod lleol neu ragor sydd â’r un enw lle ac mae’n hanfodol gwahaniaethu un oddi wrth un arall. Nid oes dull penodedig ar gyfer rhoi enw’r awdurdod cyhyd â’i fod wedi ei nodi’n glir.

Mae system chwilio’r Adran Pridiannau Tir yn trosi statws awdurdod i’r ffurf y cofnodir pob awdurdod lleol yn y mynegai. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl gofnodion perthnasol yn cael eu datgelu.

3.2.6 Cyrff corfforaethol eraill

Ceir sawl math o gorff corfforaethol heblaw cwmni masnachu neu awdurdod lleol. Yn anorfod, un fersiwn cywir o’r enw a geir ac un yn unig. Rhaid cofrestru yn erbyn yr enw cywir a rhaid i chwiliadau dilynol ddilyn yr un ffurf o ran enw. Bydd anghysondeb sillafu neu ffurf rhwng y naill neu’r llall yn golygu na fydd y cofnod yn cael ei ddatgelu. Y ceisydd sy’n gyfrifol am sicrhau cywirdeb cofrestru a chwilio (gweler Oak Co-operative Building Society v. Blackburn and Others [1968] Ch.730 C.A., reversing [1967] Ch.1169 and Diligent Finance Co. Ltd. v. Alleyne and Another [1972] 23P. & C.R. 346).

3.2.7 Comisiynwyr y Goron, Dugiaeth Caerhirfryn, Dugiaeth Cernyw ac Ystad y Goron

Gweler Atodiad A: chwiliadau swyddogol yn erbyn Y Sofran; Dugiaid Caerhirfryn a Chernyw a Chomisiynwyr Ystad y Goron sy’n disgrifio sut i wneud cais am chwiliad yn erbyn enw Mawrhydi Mwyaf Rhagorol y Brenin yn yr Hawl i’w Goron neu yn hawl ei ystadau preifat neu yn Hawl i’w Ddugiaeth Caerhirfryn, neu yn erbyn enw Dugiaeth Cernyw, neu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru fel Dug Cernyw, neu Gomisiynwyr Ystad y Goron.

3.2.8 Achosion arbennig

Ceir nifer o golegau, ysgolion, cwmnïau lifrai dinas a sefydliadau sy’n cael eu hadnabod yn gyffredin gan fersiwn byrrach o’u teitl ffurfiol. Dylech, o ran manwl gywirdeb, roi’r teitl llawn yn eich cais am chwiliad ond gallwch, yn yr achosion arbennig a nodir yn Atodiad B: chwiliadau swyddogol yn erbyn rhai cwmnïau lifrai, colegau ac ysgolion roi fersiwn byrrach cyffredin yr enw, ar yr amod eich bod hefyd yn rhoi’r cyfeirnod a ddangosir yn erbyn yr enw.

Os ydych yn cyflwyno’ch cais trwy’r post neu DX gan ddefnyddio ffurflen K15 neu ffurflen K16, nodwch y cyfeirnod yn y golofn chwith (o dan y pennawd ‘At Ddefnydd Swyddogol yn Unig’) y ffurflen gais a dilëwch y geiriau ‘Enw(au)’ a ‘Cyfenw’, er enghraifft:

1011322 Enwcyntaf HARROW SCHOOL
  Cyfenw ………………………..

3.2.9 Cyrff heb eu corffori

Mae eiddo corff heb ei gorffori wedi ei freinio yn ei ymddiriedolwyr. Felly dylid cofrestru ceisiadau yn enwau’r ymddiriedolwyr a dylid gwneud cais am chwiliad yn erbyn enwau’r ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, efallai y bydd angen ichi wneud cais am chwiliad swyddogol o enw cyfunol yr ymddiriedolwyr, er enghraifft ‘Ymddiriedolwyr Elusen …………….’ O dan yr amgylchiadau hyn, dylech roi’r enw cyfunol fel pe bai’n gorff corfforaethol, gweler Enwau heblaw unigolion preifat.

3.3 Ardaloedd gweinyddol

Cofnodir yr awdurdod sirol neu unedol a nodwyd yn wreiddiol mewn cais i gofrestru yn y mynegai fel rhan o fanylion y cofnod. Dim ond os rhoddir yr union awdurdod sirol neu unedol yn eich cais am chwiliad y datgelir y cofnod hwnnw.

Ni chodir unrhyw ffi ychwanegol am nodi mwy nag un ardal weinyddol: gallwch nodi hyd at uchafswm o 6 ardal weinyddol ym mhob cais am chwiliad.

Gweler Atodiad C: ardaloedd gweinyddol yng Nghymru a Lloegr a ddefnyddir gan yr Adran Pridiannau Tir am fanylion pellach.

3.3.1 Newidiadau i derfynau

Pan fydd newidiadau i derfynau ardaloedd gweinyddol yn digwydd sy’n effeithio ar y tir, mae’n hanfodol eich bod hefyd yn rhoi’r ardal weinyddol y mae’r tir wedi ei lleoli ynddi ar hyn o bryd a’r ardal weinyddol lle’r oedd y tir wedi ei leoli gynt.

3.3.2 Bwrdeistrefi sirol

Yn y gorffennol, lle’r oedd cais am gofrestriad yn cyfeirio at fwrdeistref sirol yn lle sir, cafodd hwn ei drosi pan gyfrifiadurwyd y mynegai i’r sir neu’r siroedd daearyddol priodol, er enghraifft mae cofnod a oedd yn flaenorol yn cyfeirio at ‘Leeds CB’ bellach wedi ei gofnodi gyda phob cais arall a gedwir o dan ‘Yorkshire’.

Datgelir y cofnodion hyn pryd bynnag y bydd cais chwilio yn rhoi ‘Yorkshire’ fel sir i’w chwilio.

Yn achos bwrdeistref sir nad yw’n amlwg ei bod gorwedd o fewn un sir benodol, mae’r cofnod wedi ei drosi i gyfeirio at yr holl siroedd a allai gael eu heffeithio. Felly, bydd cais am chwiliad sy’n rhoi unrhyw un ohonynt fel sir i’w chwilio yn datgelu’r cofnod, er enghraifft cofnodion sydd yn wreiddiol yn cyfeirio at ‘Bristol C.B.’ ond heb nodi sir, bellach wedi eu mynegeio o dan ‘Gloucestershire’ a ‘Somerset’ a bydd cais am chwiliad sy’n rhoi’r naill sir neu’r llall yn datgelu’r cofnod.

Fodd bynnag, pan roddwyd enw bwrdeistref sirol yn ychwanegol at enw sirol, er enghraifft ‘Bristol, Somerset’ neu ‘Bristol, Gloucestershire’, caiff y cofnod ei fynegeio o dan y sir a nodwyd yn unig. Felly ni fydd cofnod o’r fath yn cael ei ddatgelu oni bai bod chwiliad yn nodi’n gywir y sir y cafodd ei mynegeio oddi tani.

3.3.3 Llundain Fwyaf

Rhaid ichi roi ‘Greater London’ fel y sir i gael ei chwilio os oes angen chwiliad arnoch yn ardal Greater London. Fodd bynnag, lle bynnag y mae’n bosibl y gallai cofrestriad gwreiddiol fod wedi cyfeirio at gyn-sir, fel Surrey, Caint neu Middlesex, rhaid ichi roi’r sir honno fel yr hen sir yn eich cais am chwiliad. Y rheswm am hyn yw na fydd cofnod a gedwir yn y mynegai o dan, dyweder, Surrey, yn cael ei ddatgelu trwy chwiliad o London Greater yn unig. Os nodwyd Llundain fel y sir yn y cofrestriad gwreiddiol, bydd y cofnod yn cael ei ddatgelu wrth chwilio am Greater London.

3.3.4 Meysydd gweinyddol blaenorol

Mae’r ardaloedd gweinyddol wedi newid dros y blynyddoedd yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol. Adlewyrchwyd y newidiadau hyn yn y rhestri o feysydd gweinyddol a ddefnyddir gan yr Adran Pridiannau Tir. Gweler Atodiad C: ardaloedd gweinyddol yng Nghymru a Lloegr a ddefnyddir gan yr Adran Pridiannau Tir i gael rhagor o wybodaeth.

Fel y nodwyd yn Bwrdeistrefi sirol, lle rhoddwyd enw bwrdeistref sirol mewn cofrestriad a wnaed cyn 1 Ebrill 1974, bydd y cofnodion wedi eu mynegeio o dan y sir neu’r siroedd perthnasol. Rhaid ichi gofio na fydd unrhyw newid pellach yn cael ei wneud i’r cofnodion hyn i’w gwneud iddynt gyfeirio at unrhyw newid enw dilynol a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth newydd, er enghraifft bydd cofrestriadau a gyfeiriodd yn wreiddiol at Fwrdeistref Sir Leeds yn unig wedi eu mynegeio o dan Swydd Efrog; ni fydd y mynegai wedi cael ei newid ymhellach i gyfeirio at sir newydd Gorllewin Swydd Efrog.

3.4 Y cyfnod i’w chwilio

Rhaid ichi roi’r cyfnod i’w chwilio mewn blynyddoedd calendr cyfan, er enghraifft O: 1959 Hyd at: 1970. Os oes angen chwilio blwyddyn yn unig, nodwch yr un flwyddyn yn y ddau banel, er enghraifft O: 1959 I: 1959.

Dylech chwilio’r cyfnod pan oedd perchennog pob ystad a enwir yn berchen ar y tir. Byddwch yn gallu pennu’r cyfnod(au) perthnasol o’r crynodeb teitl. Sylwch ei bod yn bosibl cofrestru pridiant tir yn erbyn perchennog ymadawedig ystad ar ôl ei farwolaeth, felly wrth brynu gan gynrychiolwyr personol, dylai unrhyw chwiliad a wneir yn erbyn yr ymadawedig gwmpasu cyfnod yn cynnwys yr amser o’i farwolaeth hyd at y dyddiad cyfredol. Er enghraifft, prynodd John Richard Hamilton eiddo ym 1984 a bu farw yn 2014. Dylai’r cais chwilio gwmpasu’r cyfnod rhwng 1984 a’r dyddiad cyfredol.

3.5 Cofrestri o achosion arfaethedig a gwritiau a gorchmynion

Waeth bynnag y cyfnod perchnogaeth neu’r sir/siroedd a roddir yn eich cais, bydd unrhyw gofnod sy’n bodoli wedi ei fynegeio o dan yr enw a chwiliwyd yn y cofrestri o achosion arfaethedig a gwritiau a gorchmynion yn cael ei ddatgelu yn nhystysgrif canlyniad y chwiliad. Y rheswm am hyn yw y gall fod achlysuron, fel mewn perthynas â methdaliad, pan fydd cofnod o’r fath, er ei fod y tu allan i’r cyfnod perchnogaeth, yn dal i gael effaith bwysig ar y teitl a dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae’r cofnodion hyn yn aros yn y cofrestri. O dan adran 8 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972, daw’r cofnodion hyn i ben yn awtomatig (oni bai eu bod yn cael eu hadnewyddu) ar ôl 5 mlynedd. Os mai dim ond chwiliad o’r 3 chofrestr hyn sydd eu hangen arnoch, gweler Chwiliadau methdaliad yn unig.

Dynodir achosion mewn methdaliad arfaethedig (gorchmynion methdaliad) gan yr acronymau “PA(B)” a “WO(B)” yn y drefn honno; mae’r ôl-ddodiad “(B)” yn gwahaniaethu cofnodion sy’n gysylltiedig â methdaliad â chofnodion achosion arfaethedig a gwrit neu orchymyn eraill.

3.6 Chwiliadau methdaliad yn unig

Os oes angen chwiliad ‘methdaliad yn unig’ arnoch, rhaid ichi gyflwyno eich cais ar ffurflen K16.

Bydd chwiliad ‘methdaliad yn unig’ yn datgelu deisebau credydwyr mewn methdaliad a wneir i’r llys, ceisiadau dyledwyr am fethdaliad a wnaed i’r dyfarnwr, a gorchmynion methdaliad. Bydd tystysgrif canlyniad y chwiliad hefyd yn cynnwys cofnodion eraill a ddelir yn yr un cofrestri: er enghraifft, deisebau a gwritiau sy’n ymwneud ag achos llys sy’n effeithio ar dir.

Dylai trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran rhoddwr benthyg wneud methdaliad yn unig yn erbyn y cymerwr benthyg ac yn erbyn unrhyw warantwr y morgais, p’un ai yw’r tir sy’n ddarostyngedig i’r trafodiad yn gofrestredig neu’n ddigofrestredig. Mae hyn oherwydd na fydd unrhyw roddwr benthyg yn rhoi benthyg i fethdalwr. Os datgelir cofnod anffafriol, dylai’r trawsgludwr sefydlu ai’r cymerwr benthyg yw’r person y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef. Gall wneud hyn trwy gael cofnod copi swyddfa ac ymholi yn swyddfa’r Derbynnydd Swyddogol.

3.7 Tystysgrifau canlyniad y chwiliad

Cyhoeddir tystysgrifau canlyniad y chwiliad naill ai ar ffurflen K17 (dim cofnodion yn bodoli) neu K18 (cofnodion wedi eu datgelu).

Sylwer: Nid oes gan dystysgrif canlyniad chwiliad unrhyw effaith statudol mewn perthynas â thir cofrestredig: adrannau 28 i 31 ac 87 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac adran 14 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

3.7.1 Tystysgrif ar ffurflen K17

Lle nad yw chwiliad yn datgelu unrhyw gofnod sy’n bodoli yn y mynegai sydd wedi ei gofrestru yn erbyn yr enw(au) a roddir yn eich cais, rhoddir tystysgrif canlyniad y chwiliad ar ffurflen K17. Mae’r dystysgrif yn cofnodi’r manylion y seiliwyd y chwiliad arnynt: y sir neu’r siroedd, yr awdurdod unedol neu’r awdurdodau unedol; pob enw a’r cyfnod a gwmpesir gan y chwiliad. (Pan fo’r canlyniad mewn perthynas â chwiliad methdaliad yn unig, nid oes cyfeiriad at unrhyw gyfnod dan sylw.) Dylech wirio cywirdeb y manylion hyn: gweler adran 10(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

3.7.2 Tystysgrif ar ffurflen K18

Pan fydd chwiliad yn datgelu cofnodion sy’n bodoli yn y mynegai sydd wedi eu cofrestru yn erbyn yr enw(au) a roddir yn eich cais, rhoddir tystysgrif canlyniad y chwiliad ar ffurflen K18. Mae’r dystysgrif yn cofnodi’r manylion y seiliwyd y chwiliad arnynt: y sir neu siroedd; pob enw a’r cyfnod a gwmpesir gan y chwiliad. (Pan fo’r canlyniad mewn perthynas â chwiliad methdaliad yn unig, nid oes cyfeiriad at unrhyw gyfnod dan sylw.) Dylech wirio cywirdeb y manylion hyn: gweler adran 10 (6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972. Pan ddatgelir cofnodion, rhoddir manylion pob cofnod o dan yr enw y daethpwyd o hyd i’r cofnodion yn ei erbyn. Os na ddatgelir unrhyw gofnodion am enw, rhoddir y datganiad ‘DIM COFNOD YN BODOLI’ o dan yr enw.

3.7.3 Datgelu manylion pridiannau

Nodir y manylion a gymerwyd o’r mynegai yn ôl rhifau cod fel a ganlyn:

  1. math o gofrestriad (ar gyfer pridiant tir, mae dosbarth ac is-ddosbarth y pridiant wedi ei gynnwys), y rhif cofrestru a dyddiad cofrestru

  2. unrhyw ddisgrifiad byr o’r tir a gofnodir yn y mynegai

  3. plwyf, lle neu ardal

  4. awdurdod sirol neu unedol

  5. gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r cofnod, er enghraifft, dileu rhannol neu gyfeiriad at rybudd blaenoriaeth

  6. teitl, crefft neu broffesiwn y pridiannwr lle cofnodir hyn yn y mynegai

3.7.4 Tystysgrifau mewn perthynas â chwiliadau methdaliad yn unig

Cofnodir y geiriau ‘BANKRUPTCY ONLY’ yn erbyn ‘County or Counties’ yn nhystysgrif canlyniad chwiliad mewn perthynas â chwiliad ‘Methdaliad yn unig’. Mae nodyn yn egluro cyfyngiadau’r math hwn o chwiliad, gweler Chwiliadau methdaliad yn unig.

3.7.5 Cyfnod gwarchod

Pan fydd prynwr wedi cael tystysgrif canlyniad y chwiliad, ni fydd unrhyw gofnod a wneir yn y gofrestr ar ôl dyddiad y dystysgrif a chyn cwblhau’r pryniant, na chaiff ei wneud yn unol â rhybudd blaenoriaeth a gofnodwyd yn y gofrestr ar neu cyn dyddiad y dystysgrif, yn effeithio ar y prynwr os cwblheir y pryniant cyn diwedd y pymthegfed diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y dystysgrif: adran 11 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Mae dyddiad dod i ben y cyfnod gwarchod wedi ei gynnwys ym mhob tystysgrif canlyniad y chwiliad.

Bydd gwarchodaeth o dan dystysgrif canlyniad y chwiliad yn dod i ben ar ddyddiad cwblhau’r pryniant os yw’r dyddiad hwnnw o fewn y cyfnod gwarchod.

Ni ellir ymestyn y cyfnod blaenoriaeth a roddir gan chwiliadau pridiannau tir. Os bydd oedi wrth gwblhau, rhaid gwneud cais am chwiliad newydd.

3.7.6 Dyddiad y dystysgrif

Bydd pob tystysgrif canlyniad chwiliad yn cynnwys ‘dyddiad tystysgrif’. Mae’r dyddiad hwn yn arwyddocaol oherwydd:

  • dyma’r dyddiad diweddaraf y diweddarwyd y mynegai
  • bydd cofnodion, wedi eu cyfyngu i gyfnod y chwiliad y gwnaed cais amdanynt, wedi eu cofrestru hyd at a chan gynnwys y dyddiad hwn, yn cael eu datgelu yn y dystysgrif
  • dyma’r dyddiad pan fydd y cyfnod gwarchod yn cychwyn

3.7.7 Enwau mewn tystysgrif

Mae tystysgrif canlyniad chwiliad yn dangos enw(au) unigolyn preifat gyda’r enw(au) cyntaf yn gyntaf, ac yna’r cyfenw, sydd wedi ei amgáu gan seren i symleiddio adnabod, er enghraifft Joseph William Hardcastle.

Gall tystysgrif canlyniad y chwiliad gynnwys cofnod sy’n ymddangos yn y mynegai o dan enw na wnaed cais i’w chwilio. Mae hyn oherwydd gwahaniaethau yn y bylchau neu yn y cyfuniad o ddognau o’r enw. Bydd yn amlwg pan fydd hyn yn digwydd, er enghraifft Joyce Lyn West a Joycelyn West; Paul Hamilton Jones a Paul Hamilton-Jones; Johann Van Der Keen a Johann Van Der Keen ac ati.

Nodyn 1: Pan ddatgelwyd cofnod o dan enw ychwanegol fel hyn, ni fydd yr enw hwnnw wedi ei chwilio’n llawn.

Nodyn 2: Pan fo teitlau ffurfiol, fel Syr, Anrhydeddus, ac ati, a roddir mewn cais am chwiliad wedi eu hamgáu mewn cromfachau, ni chânt eu hatgynhyrchu yn y dystysgrif canlyniad y chwiliad.

3.7.8 Rhif tystysgrif

Dyrennir rhif tystysgrif unigryw i bob tystysgrif canlyniad chwiliad: ‘Rhif y dystysgrif’. Rhaid ichi ddyfynnu rhif y dystysgrif a dyddiad y dystysgrif mewn unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r dystysgrif.

3.7.9 Camau ar ôl cael tystysgrif canlyniad y chwiliad

Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod tystysgrif canlyniad chwiliad yn adlewyrchu’r manylion cywir ar gyfer y chwiliad: adran 10(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Oherwydd mai mynegai enwau yw’r mynegai yn y bôn, mae’n bosibl y bydd cofnodion amherthnasol yn ymddangos yn nhystysgrif canlyniad y chwiliad. Os bydd hyn yn digwydd a bod trawsgludwr y prynwr yn ansicr a yw cofnod yn effeithio ar y tir sy’n cael ei brynu ai peidio, dylai naill ai:

  • ofyn i drawsgludwr y gwerthwr am gadarnhad nad yw’r cofnod yn ymwneud â’r tir o dan sylw
  • gwneud cais i ddileu’r cofnod – gweler Ceisiadau i ddileu
  • cael unrhyw gydsyniadau angenrheidiol yn unol ag adran 43 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925

Gall y naill barti neu’r llall sydd am gael manylion pellach am y cais wneud cais am gopi swyddfa o’r ddogfen gofrestru.

4. Copïau swyddfa

Gallwch ofyn am gopi swyddfa o’r cofnod yn y gofrestr i gael rhagor o fanylion am gofrestriad.

Rhaid gwneud cais am gopi swyddfa o gofnod yn y gofrestr gan ddefnyddio ffurflen K19.

Rhaid ichi ddarparu’r manylion canlynol:

  • Dosbarth y Pridiant, gweler Atodiad D: Cofrestri Pridiannau Tir am wybodaeth bellach
  • Rhif cofrestru
  • Dyddiad cofrestru
  • Enw perchennog yr ystad (mae cais ar wahân yn ofynnol ar gyfer pob perchennog ystad os oes mwy nag un)

Caiff y cais e ddileu os na roddir y manylion hyn.

Pan wneir cais am gopi swyddfa o achos mewn methdaliad arfaethedig sy’n ymwneud â chais methdaliad dyledwr i’r dyfarnwr, bydd y copi swyddfa’n cael ei gyhoeddi fel fersiwn PDF o gais electronig y dyfarnwr i gofrestru’r cais methdaliad hwnnw fel pridiant tir.

5. Ceisiadau i ddileu

Rhaid gwneud cais i ddileu cofnod yn y gofrestr (ac eithrio Pridiant tir Dosbarth F neu ddileu cofnod PA(B) sy’n ymwneud â chais methdaliad a wnaed i’r dyfarnwr) gan ddefnyddio ffurflen K11. Fodd bynnag, os yw’r cofrestrydd yn fodlon y byddai’r ceisydd “yn dioddef caledi neu gost eithriadol” pe bai’n rhaid iddo wneud cais gan ddefnyddio ffurflen K11, gellir gwneud y cais gan ddefnyddio ffurflen K12 (gweler 5.2 Cais a wneir ar ffurflen K12) yn lle hynny.

Rhaid gwneud cais i ddileu Pridiant tir Dosbarth F gan ddefnyddio ffurflen K13.

Rhaid gwneud cais i ddileu cofnod PA(B) yn ymwneud â chais methdaliad a wnaed i’r dyfarnwr gan ddefnyddio ffurflen gyhoeddedig K11(ADJ). I gael rhagor o wybodaeth am geisiadau i ddileu cofnodion cysylltiedig â methdaliad (PA(B) a WO(B)), gweler cofnodion Methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir a’u dileu.

Gall yr Adran Pridiannau Tir yn gwrthod unrhyw geisiadau i ddileu os nad yw’r ffurflen gais wedi ei llenwi neu os nad yw wedi ei llenwi’n gywir. Bydd yn gwrthod:

  • lle nad yw’r ffurflen gais wedi ei llofnodi
  • lle mae mwy nag un perchennog ystad wedi ei enwi ar y ffurflen
  • lle nad oes ffi wedi ei hamgáu ac nid oes rhif allwedd ar y ffurflen
  • lle nad yw dogfen y mae’n ofynnol i’w chyflwyno gyda’r ffurflen wedi ei chyflwyno

5.1 Cais a wneir ar ffurflen K11

Mae Ffurflen K11, sef y ffurflen gais a fydd yn gymwys fel arfer, yn mynnu:

  • Bod gan y ceisydd hawl i fudd y cofnod ac i’w enwi’n arwystlai yn y cofrestriad

  • Mai’r ceisydd yw olynydd teitl yr arwystlai gwreiddiol a bod tystiolaeth o deitl y ceisydd yn cael ei amgáu

  • Y gwneir y cais yn unol â gorchymyn gan y Llys yn cyfarwyddo gadael y cofnod a bod copi swyddfa o’r gorchymyn yn cael ei amgáu, neu

  • Lle bo’r cyfamod yn ymwneud â phridiant tir Dosbarth D(ii) (cyfamod cyfyngu), caiff ei ryddhau trwy orchymyn Siambr Tiroedd yr Uwch Dribiwnlys a bod copi swyddfa o’r gorchymyn ei amgáu.

5.2 Cais a wneir ar ffurflen K12

Mae’r amod i reol 10 o Reolau Pridiannau Tir 1974 yn galluogi’r cofrestrydd i ganiatáu cais i ddileu gael ei wneud ar ffurflen K12 yn hytrach na ffurflen K11, ond dim ond os yw’r cofrestrydd yn fodlon y byddai’r ceisydd “yn dioddef caledi neu gost eithriadol” os oedd yn rhaid iddo wneud cais gan ddefnyddio ffurflen K11 .

Sylwer nad yw’r ffaith y byddai’n anghyfleus neu’n drafferthus i wneud y cais gan ddefnyddio ffurflen K11 yn ddigon.

Os bodlonir y gofyniad caledi neu gost eithriadol hwn, bydd yn rhaid i’r ceisydd wedi hynny ddarparu “tystiolaeth ddigonol bod y pridiant tir wedi ei ryddhau neu ei orgyrraedd neu nad yw’n effeithiol”.

Dylai’r ffurflen K12 esbonio (i) pam y byddai’r ceisydd yn dioddef caledi neu gost eithriadol pe bai’n rhaid iddo wneud cais gan ddefnyddio ffurflen K11 a (ii) y sail ar gyfer hawlio bod y pridiant tir wedi ei ryddhau, ei orgyrraedd neu nad yw’n cael unrhyw effaith. Dylid cyflwyno tystiolaeth gefnogol gyda’r cais.

Yn absenoldeb y dystysgrif sy’n ofynnol ar ffurflen K11, sylwer y bydd yn aml yn anodd darparu tystiolaeth arall sy’n ddigonol i ganiatáu dileu.

Yn gyffredinol, bydd angen i’r ceisydd gyflwyno copi o’r offeryn a arweiniodd at y pridiant tir, er mwyn i’r cofrestrydd fod yn fodlon ar natur y pridiant tir sy’n cael ei warchod. Gall buddion fod yn drosglwyddadwy a rhwymo olynwyr mewn teitl, ac os felly gallai’r cofnod pridiant tir fod yn effeithiol o hyd, hyd yn oed ar ôl marwolaeth (neu ddiddymiad) y buddiolwr gwreiddiol.

Yn gyffredinol, dim ond os gellir dangos bod stent y tir llesiannol wedi ei ddiffinio’n fanwl gywir yn yr offeryn a osododd y cyfamodau y gellir cwblhau cais i ddileu pridiant tir Dosbarth D(ii) (cyfamod cyfyngu), a bod yr holl bod partïon perthnasol sydd â budd yn y tir hwnnw wedi cyflawni gollyngiad digonol.

Ni all y cofrestrydd wneud “penderfyniadau barnwrol”, felly, er enghraifft, lle ceir cyfamod cyfyngu sy’n gofyn am gydsyniad y cyfamodai i waith adeiladu neu waith arall a bod y cyfamodai wedi marw neu nad yw ar gael fel arall, ni fydd y cofrestrydd yn penderfynu, ar y dystiolaeth, a yw’r cyfamod wedi ei ryddhau ai peidio. Dylid gwneud cais i’r Llys neu’r Uwch Dribiwnlys o dan amgylchiadau o’r fath (gweler Mahon v Sims [2005] 3 EGLR, Margerison v Bates [2008] EWHC 1211, a City Inn (Jersey) Ltd v Ten Trinity Square Ltd [2008] EWCA Civ 156).

5.3 Dileu cofnod cyfan neu ran ohono

Gallwch wneud cais i ddileu naill ai’r cyfan neu ran o gofnod yn y gofrestr ar ffurflen K11, K12 neu K13, fel sy’n briodol. Pryd bynnag caiff pridiant tir ei ddileu’n gyfan gwbl mae’r cofnod yn cael ei ddileu o’r mynegai hefyd. Os mai dim ond yn rhannol y caiff y cofnod ei ddileu, nodir effaith y dileu yn erbyn y cofnod yn y gofrestr ac yn y mynegai hefyd. Yn dilyn hynny, bydd tystysgrif canlyniad y chwiliad yn datgelu’r cofnod, ynghyd â manylion y dileu o ran. Fodd bynnag, os bydd nifer o achosion o ddileu o ran yn effeithio ar gofnod, efallai na fydd y mynegai yn cynnwys manylion llawn pob dileu o ran a byddai’n cynnwys nodyn yn nodi bod sawl dileu o ran yn effeithio ar y cofnod. Os datgelir cofnod sy’n cynnwys y nodyn hwn mewn tystysgrif canlyniad y chwiliad, gallwch gael manylion y dileu o ran eu hunain trwy wneud cais am gopi swyddfa o’r cofnod. Gweler Copïau swyddfa.

5.4 Cydnabod dileu

Cydnabyddir cais i ddileu ar ffurflen K22 (Cydnabod cais).

Bydd y gydnabyddiaeth yn cynnwys manylion am:

  • y math o gais
  • y cyfeirnod swyddogol a ddyrannwyd
  • dyddiad y dileu
  • manylion y cofnod a ddilëwyd o’r mynegai
  • cyfeirnod y ceisydd
  • rhif allwedd y ceisydd
  • enw a chyfeiriad y ceisydd.

Byddai o fudd ichi wirio’r manylion a rhoi gwybod i’r Adran Pridiannau Tir am unrhyw wallau amlwg.

Os oes angen cadarnhad bod cofnod wedi ei ddileu o’r blaen, rhaid ichi gyflwyno’ch cais ar ffurflen benodedig K20 (Cais am dystysgrif i ddileu cofnod yn y gofrestr).

5.5 Cofnodion methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir a’u dileu

5.5.1 Cofnodion cofrestr pridiannau tir

Pan gyflwynir deiseb methdaliad gan gredydwr i’r llys, rhaid i’r llys wneud cais i ddeiseb y credydwr gael ei chofrestru fel gweithred mewn methdaliad arfaethedig (PA(B)). Mae’r cofnod yn y gofrestr pridiannau tir yn debyg i hyn:

JOHN SMITH (1) P.A. (B) No 12345 DATE 1 AUGUST 2015 (5) COUNTY COURT AT OXFORD NO 445 of 2015 (6) BUILDER AND DECORATOR (7) 3 ACACIA AVENUE BEDFORD

Pan fydd dyledwr yn gwneud cais methdaliad i’r dyfarnwr, rhaid i’r dyfarnwr wneud cais i gais y dyledwr gael ei gofrestru fel achos mewn methdaliad arfaethedig (PA(B)). Mae’r cofnod yn y gofrestr Pridiannau tir yn debyg i hyn:

Bydd yr Adran yn cyhoeddi tystysgrif dileu pan fydd y cais wedi bod yn llwyddiannus a phan fydd y cofnod WO(B) wedi ei ddileu.

JOHN * SMITH * (1) PA(B) No. 12345 DATED 1 AUG 2016 (5) OFFICE OF THE ADJUDICATOR NO BKT 56789 of 2016 (6) BUILDER AND DECORATOR (7) 3 ACACIA AVENUE BEDFORD

Pan gyflwynir deiseb methdaliad i’r llys, neu pan wneir cais methdaliad i’r dyfarnwr, un effaith yw y bydd gwarediadau dilynol o eiddo penodol yn ddi-rym yn gyffredinol os gwneir gorchymyn methdaliad, oni bai bod y llys yn cydsynio i’r gwarediad. Mae’r eiddo hwn yn cynnwys unrhyw dir y mae’r dyledwr yn unig berchennog llesiannol arno. Mae’n annhebygol y bydd unrhyw un sy’n bwriadu prynu eiddo o’r fath yn bwrw ymlaen os oes deiseb neu gais methdaliad wedi ei gofrestru yn y gofrestr Pridiannau tir yn erbyn enw’r dyledwr neu rybudd methdaliad yng nghofrestr teitl yr eiddo.

Pan wneir gorchymyn methdaliad gan y llys neu’r dyfarnwr, gan wneud y dyledwr yn fethdalwr, rhaid i’r Derbynnydd wneud cais i’r gorchymyn methdaliad gael ei gofrestru yn y gofrestr gwritiau a gorchmynion (WO(B)). Mae’r cofnodion perthnasol yn y gofrestr Pridiannau tir yn debyg i hyn:

(a) Gorchymyn a wnaed gan y llys JOHN * SMITH * (1) WO(B) No. 12345 DATED 1 SEPT 2015 (5) COUNTY COURT AT OXFORD NO. 445 of 2015 (6) BUILDER AND DECORATOR (7) 3 ACACIA AVENUE BEDFORD (b) Order made by adjudicator JOHN SMITH (1) WO(B) No. 12345 DATED 1 SEPT 2016 (5) OFFICE OF THE ADJUDICATOR NO. BKT 56789 of 2016 (6) BUILDER AND DECORATOR (7) 3 ACACIA AVENUE BEDFORD

Wrth wneud y cofnodion yn y gofrestr, mae’r Adran Pridiannau Tir yn dibynnu ar y wybodaeth y mae’r llys, y dyfarnwr neu’r Derbynnydd Swyddogol yn ei darparu. Yna mae’r Adran Pridiannau Tir yn hysbysu Cofrestrfa Tir EF am yr holl ddeisebau a cheisiadau a gorchmynion methdaliad newydd (gweler Cofnodion methdaliad yng Nghofrestrfa Tir EF a’u dileu).

5.5.2 Dileu cofnodion methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir

Y dyledwr/methdalwr sydd i wneud cais i ddileu cofnodion methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir; ni fydd y llys na’r dyfarnwr yn gwneud y cais. Bydd angen i ddyledwr sy’n unig berchennog tir cofrestredig neu sydd ag arwystl (morgais) dros dir cofrestredig wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i dynnu unrhyw rybudd methdaliad cysylltiedig neu gyfyngiad methdaliad o’r gofrestr teitl (gweler Cofnodion methdaliad yng Nghofrestrfa Tir EF a’u dileu).

Pan fo’r cofnod methdaliad (PA(B)) yn ymwneud â deiseb methdaliad credydwr (bydd y cofnod yn cyfeirio at enw llys ac yn cynnwys cyfeirnod llys, fel y dangosir uchod), dylech wneud cais gan ddefnyddio ffurflen K11 a thalu’r ffi briodol. Mae angen ffurflen K11 a ffi ar wahân i gael gwared ar bob cofnod methdaliad. Gall yr Adran Pridiannau Tir gynghori am y ffi gyfredol sy’n ofynnol (gweler Cofrestrfa Tir EF: ffïoedd Pridiannau Tir). Rhaid i’r cais gynnwys gopi o’r gorchymyn llys yn darparu’n benodol ar gyfer dileu (neu ‘ymadael â’r) cofnod methdaliad yn y gofrestr Pridiannau tir o dan y cyfeirnod a bennir yn y cofnod PA(B). Bydd yr Adran Pridiannau Tir yn cyhoeddi tystysgrif dileu pan fydd y cais yn llwyddiannus a phan fydd y cofnod wedi ei ddileu.

Pan fo’r cofnod methdaliad (PA(B)) yn ymwneud â chais methdaliad dyledwr (bydd y cofnod yn cyfeirio at swyddfa’r dyfarnwr ac yn cynnwys cyfeirnod y dyfarnwr, fel y dangosir uchod), dylai’r dyledwr lenwi ffurflen K11 (ADJ) a thalu’r ffi briodol. Unwaith eto, mae angen ffurflen K11(ADJ) a ffi ar wahân i gael gwared ar bob cofnod methdaliad. Rhaid cynnwys copi o un o’r canlynol gyda’r cais.

  • Llythyr y dyfarnwr yn gwrthod gwneud gorchymyn methdaliad (bydd dynodiad “ADJAR” ar hwn)

  • Llythyr y dyfarnwr yn cadarnhau gwrthod gwneud gorchymyn methdaliad (yn dilyn adolygiad o’r penderfyniad cychwynnol) (ADJREVU).

  • Llythyr y dyfarnwr yn hysbysu’r dyledwr am benderfyniad y llys i wrthod gorchymyn methdaliad (yn dilyn apêl gan y dyledwr i’r llys) (ACKAPU).

Bydd yr Adran Pridiannau Tir yn cyhoeddi tystysgrif dileu pan fydd y cais wedi bod yn llwyddiannus a phan fydd y cofnod PA(B) wedi ei ddileu.

I ddileu cofrestriad gorchymyn methdaliad Pridiannau tir (WO(B)), dylid gwneud cais ar ffurflen K11, gyda’r ffi briodol a chopi o orchymyn llys sy’n diddymu neu’n dirymu’r gorchymyn methdaliad ac (yn unol ag adran 1(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972) ac sydd hefyd yn darparu’n benodol ar gyfer dileu (neu “ymadael â”) chofrestriad y gorchymyn methdaliad o dan yr un cyfeirnod ag sy’n ymddangos yn y cofnod pridiant tir. Nid yw tystysgrif rhyddhau o fethdaliad yn ddigonol at y diben hwn (oni bai bod y llys hefyd yn gorchymyn dileu’r cofnod pridiant tir yn benodol) oherwydd – yn wahanol i’r rhan fwyaf o orchmynion yn dirymu gorchymyn methdaliad – mae eiddo’r methdalwr yn parhau i fod wedi ei freinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad ac nid yw’n ail-fuddsoddi’n awtomatig yn y cyn-fethdalwr ar ôl ei ryddhau.

Bydd yr Adran Pridiannau Tir yn cyhoeddi tystysgrif dileu ar gais K20 pan fydd y cais wedi bod yn llwyddiannus a phan fydd y cofnod WO(B) wedi ei ddileu.

5.6 Cofnodion methdaliad yng Nghofrestrfa Tir EF a’u dileu

Ar ôl cofrestru PA(B) neu WO(B) yn yr Adran Pridiannau Tir, hysbysir Cofrestrfa Tir EF o fanylion y dyledwr neu’r methdalwr. Mae adran 86 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd nodi rhybudd methdaliad neu gyfyngiad methdaliad, fel sy’n briodol, mewn unrhyw deitl cofrestredig yr ymddengys ei fod yn cael ei effeithio. Mae geiriad hysbysiad methdaliad a gofnodwyd yn y gofrestr deitl mewn perthynas â deiseb methdaliad neu gais methdaliad yn debyg i’r canlynol:

“BANKRUPTCY NOTICE entered under section 86(2) of the Land Registration Act 2002 in respect of a pending action, as the title of the proprietor of the registered [(estate) or (charge)] appears to be affected by a [(petition in bankruptcy against [name of debtor] presented in the [name] Court (Court Reference Number……) (Land Charges Reference Number PA……..)) or (bankruptcy application made by [name of debtor] (reference [adjudicator reference]….) (Land Charges Reference Number PA…..))].”

Mae geiriad cyfyngiad methdaliad a gofnodwyd yn y gofrestr deitl mewn perthynas â gorchymyn methdaliad a wnaed gan y llys neu’r dyfarnwr yn debyg i’r canlynol:

“BANKRUPTCY RESTRICTION entered under section 86(2) of the Land Registration Act 2002 as the title of the proprietor of the [(registered estate) or (charge)] appears to be affected by a bankruptcy order made by [(the [name] Court (Court Reference Number….) or (the adjudicator (Reference Number….)] (Land Charges Reference Number WO….). No disposition of the [(registered estate) or (charge)] is to be registered until the trustee in bankruptcy of the property of the bankrupt is registered as proprietor of the [(registered estate) or (charge)].”

Pan fydd cofrestriad deiseb neu orchymyn methdaliad yn cael ei ddileu yn yr Adran Pridiannau Tir (er enghraifft wrth wrthod deiseb neu ddirymu gorchymyn) neu’n colli ei effaith trwy ddiwedd amser, ni chaiff y rhybudd methdaliad na’r cyfyngiad methdaliad a gofnodir yn erbyn teitl cofrestredig eu dileu oni bai y gwneir cais penodol (llwyddiannus) ar wahân i Gofrestrfa Tir EF.

5.6.1 Rhybudd methdaliad

Rhaid gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1, ynghyd â, yn achos deiseb credydwr neu ddeiseb methdaliad dyledwr a gyflwynwyd yn y llys cyn 6 Ebrill 2016, copi o’r gorchymyn llys y mae’r ddeiseb methdaliad wedi ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl, neu mae’r gorchymyn methdaliad dilynol wedi ei ddiddymu neu ei ddirymu. Rhaid i’r gorchymyn llys hefyd awdurdodi’n benodol i ddileu’r cofnod (PA(B) yn y gofrestr Pridiannau tir o dan y cyfeirnod a bennir yn y rhybudd methdaliad. Nid oes unrhyw ffi yn daladwy. Dylid anfon ceisiadau trwy’r post at HM Land Registry’s Bankruptcy Unit, HM Land Registry Plymouth Office, Seaton Court, 2 William Prance Road, Plymouth PL6 5WS (ffôn 0300 006 6107).

Yn achos cais methdaliad dyledwr a wnaed i’r dyfarnwr ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, rhaid anfon copi o lythyr gwrthod y dyfarnwr (ADJAR) neu lythyr yn cadarnhau’r gwrthod (ADREVU) neu lythyr yn cadarnhau penderfyniad y llys ar apêl (ACKAPU) gyda’r ffurflen AP1. Unwaith eto, nid oes unrhyw ffi yn daladwy a dylid anfon y cais at Uned Methdaliad Cofrestrfa Tir EF.

Gellir dileu rhybudd methdaliad ar gais a anfonir gyda thystysgrif dileu ar ffurflen K20 yr Adran Pridiannau Tir neu gyda ‘cydnabod cais i ddileu’ ar ffurflen K22, ond nid os oes cyfyngiad methdaliad eisoes wedi ei gofrestru mewn perthynas â’r un achos.

5.6.2 Cyfyngiad methdaliad

I ddileu cyfyngiad methdaliad, dylid gwneud cais ar ffurflen AP1, gyda chopi o’r gorchymyn llys sy’n diddymu neu’n dirymu’r gorchymyn methdaliad. Rhaid i’r gorchymyn awdurdodi’n benodol hefyd i ddileu’r cofnodion yn y cofrestri Pridiannau tir o dan y cyfeirnod sy’n cyfateb i’r hyn a bennir yn y cyfyngiad methdaliad (ac unrhyw rybudd methdaliad).

Mae gorchymyn llys o dan adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972 yn ddigonol i ddileu cyfyngiad methdaliad oherwydd nad oes tystiolaeth ar wyneb y gorchymyn bod y gorchymyn methdaliad wedi ei ddiddymu neu ei ddirymu, ac felly nid yw’n cael unrhyw effaith ar freinio eiddo, yn wahanol i orchymyn yn dirymu neu ddiddymu gorchymyn methdaliad.

Fodd bynnag, nid yw gorchymyn o’r fath yn ddigonol i ddileu cyfyngiad methdaliad oherwydd nad oes tystiolaeth ar wyneb y gorchymyn bod y gorchymyn methdaliad wedi ei ddiddymu neu ei ddirymu, ac felly nid yw’n cael unrhyw effaith ar freinio eiddo, yn wahanol i orchymyn yn dirymu neu ddiddymu gorchymyn methdaliad.

Mae tystysgrif rhyddhau o fethdaliad hefyd yn annigonol i ddileu cyfyngiad methdaliad gan y bydd unrhyw dir neu arwystl (boed yn gofrestredig neu’n ddigofrestredig) sydd wedi breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn parhau wedi ei freinio ac nid yn ail-freinio yn y methdalwr a ryddhawyd. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol.

Mae tystysgrif dileu ar ffurflen K20 neu gydnabod cais i ddileu ar ffurflen K22, a gyhoeddwyd gan yr Adran Pridiannau Tir hefyd yn annigonol i ddileu cyfyngiad methdaliad. Y rheswm am hyn yw y gallai’r Adran Pridiannau Tir fod wedi dileu cofnodion methdaliad ar sail gorchymyn sy’n darparu ar gyfer ymadael â chofnodion methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir yn unig. Rhaid i’r ceisydd gyflwyno’r gorchymyn perthnasol i’w ystyried.

6. Dulliau cyflwyno

Pa bynnag ddull cyflwyno rydych yn ei ddefnyddio:

  • rhaid cyflwyno’r ffi berthnasol gyda siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’ os nad ydych yn defnyddio debyd uniongyrchol amrywiol (sylwer bod yn rhaid defnyddio debyd uniongyrchol amrywiol os ydych yn gwneud cais trwy’r porthol neu trwy ebost)

  • rhaid darparu’r rhif allwedd wrth ddefnyddio debyd uniongyrchol amrywiol

  • dylai ddarparu eich cyfeirnod

  • rhaid darparu’r cyfeiriad post neu DX llawn arall os ydych am anfon tystysgrif canlyniad y chwiliad neu gopi swyddfa i gyfeiriad gwahanol

6.1 Ceisiadau i gofrestru a dileu

6.1.1 Post neu DX

Gallwch gyflwyno’ch cais i gofrestru, adnewyddu cofrestriad, rhybudd blaenoriaeth neu ddileu trwy’r post neu DX. Rhaid anfon eich cais i’r Adran Pridiannau Tir – gweler Cyfeiriad ar gyfer geisiadau am fanylion y cyfeiriad.

6.1.2 Ceisiadau trwy ebost

Os ydych wedi gwneud cytundeb â Chofrestrfa Tir EF i dalu ffïoedd trwy ddebyd uniongyrchol amrywiol, gallwch yn lle hynny gyflwyno’ch cais yn electronig trwy ebost. Dylid atodi’r ffurflen gais ac unrhyw dystiolaeth sy’n cyd-fynd â hi fel ffeiliau PDF a’i hanfon i’r cyfeiriad canlynol:

LandCharges.CustomerTeam@landregistry.gov.uk

Os gwneir cais trwy ebost, rhaid ichi gynnwys cyfeiriad ebost dychwelyd, y gall y cofrestrydd ei ddefnyddio i anfon unrhyw dystysgrif neu ganlyniad yn dilyn eich cais.

6.2 Ceisiadau am chwiliad swyddogol a chopi swyddfa

Gallwch gyflwyno’ch cais trwy amryw o wahanol ddulliau.

6.2.1 Post neu DX

Rhaid anfon eich cais i’r Adran Pridiannau Tir – gweler Cyfeiriad ar gyfer ceisiadau am fanylion y cyfeiriad.

6.2.2 Y porthol a Business Gateway

Rhaid ichi fod yn ddefnyddiwr e-wasanaethau busnes cofrestredig a meddu ar gyfrif debyd uniongyrchol amrywiol i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Gallwch wneud cais am chwiliad swyddogol, chwiliad methdaliad yn unig neu gopi swyddfa. 

Bydd gofyn ichi nodi’r un manylion ag y byddech ar gyfer cais ffurflen K15, K16 neu K19. Bydd y dystysgrif neu gopi swyddfa yn cael eu cyhoeddi’n electronig fel rheol. Fodd bynnag, sylwch, os cyflwynir y cais rhwng 1800 awr ar ddydd Gwener a 0700 awr ar ddydd Llun, neu ar ŵyl y banc neu ar ôl 1800 o oriau ar y diwrnod cyn gŵyl y banc, ni fydd y dystysgrif na’r copi swyddfa’n cael eu hanfon tan ar ôl 0700 ar y diwrnod busnes cyntaf ar ôl y penwythnos neu ŵyl y banc, a chânt eu cyhoeddi ar bapur. Yn ogystal, ni ddarperir tystysgrif electronig lle mae’r enwau i’w chwilio naill ai’n enwau cymhleth, megis Cyfoedion y Deyrnas neu gwmnïau neu gorfforaethau anghyfyngedig neu awdurdod lleol. O dan yr amgylchiadau hyn, anfonir tystysgrif canlyniad chwiliad ar bapur.

7. Ffïoedd

Mae’r ffïoedd sy’n daladwy mewn perthynas â cheisiadau pridiannau tir, chwiliadau swyddogol a chopïau swyddfa wedi eu pennu gan Reolau Ffioedd Pridiannau Tir 1990

I gael gwybodaeth am ffïoedd yr Adran Pridiannau Tir a ffïoedd credydau amaethyddol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Pridiannau Tir a Cofrestrfa Tir EF: ffïoedd Credydau Amaethyddol. Gallwch dalu’r ffi naill ai:

  • gyda siec neu archeb bost (rhaid gwneud y ddwy yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’) neu mewn arian parod os ydych yn cyflwyno’ch cais yn bersonol yn Adran Pridiannau Tir Swyddfa Plymouth

  • trwy daliad debyd uniongyrchol amrywiol

Sylwer: Mae rhai gwasanaethau ar gael i ddefnyddwyr debyd uniongyrchol amrywiol yn unig, fel yr eglurir trwy’r cyfarwyddyd hwn.

7.1 Debyd uniongyrchol amrywiol

Gall cwsmeriaid dalu ffïoedd am holl wasanaethau’r Adran Pridiannau Tir trwy ddebyd uniongyrchol amrywiol. Gellir defnyddio taliad trwy ddebyd uniongyrchol amrywiol ar gyfer unrhyw gais a gyflwynir trwy’r post neu trwy ein e-wasanaethau, a rhaid ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir trwy’r porthol.

Mae debyd uniongyrchol amrywiol yn gynllun talu sy’n gwarchod buddion talwr gyda gwarant. Mae’r warant debyd uniongyrchol yn rhoi sicrwydd i’r talwr y bydd unrhyw arian a ddebydir trwy gamgymeriad yn cael ei ad-dalu ar unwaith gan fanc y talwr.

Mae rhagor o fanylion ar gael trwy ebost o creditaccounts@landregistry.gov.uk (gan gynnwys enw, sefydliad, manylion cyfeiriad, rhif ffôn a rhif cyfrif debyd uniongyrchol amrywiol amrywiol (os yw’n briodol)).

8. Credydau amaethyddol

O dan adran 9(2) o Ddeddf Credydau Amaethyddol 1928, mae’n ofynnol i’r cofrestrydd gadw cofrestr o Bridiannau amaethyddol. Mae’r adran Pridiannau amaethyddol yn cael ei chynnal yn yr Adran Pridiannau Tir.

Mae Pridiannau amaethyddol wedi eu cofrestru yn erbyn enwau ffermwyr sydd wedi cael benthyg arian ar ddiogelwch eu stoc a’u hasedau. Dylech gofrestru pridiant amaethyddol o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl cyflawni’r arwystl: adran 9(1) o Ddeddf Credydau Amaethyddol 1928.

O dan adran 1 o Ddeddf Credydau Amaethyddol 1928, bydd y gofrestr yn cynnwys y manylion a ganlyn:

  • dyddiad yr offeryn yn creu’r pridiant
  • enw(au) y ffermwr/ fermwyr neu’r gymdeithas yr effeithir ar ei stoc a’i asedau ffermio
  • swm y benthyciad
  • a yw’r arwystl yn sefydlog neu’n gyfnewidiol neu’r ddau
  • enw a chyfeiriad y banc y gnweir yr arwystl o’i blaid
  • unrhyw fanylion ychwanegol neu wahanol, os o gwbl, yn ôl penderfyniad y cofrestrydd

8.1 Ffurflenni cais

Rhaid ichi gyflwyno ceisiadau ar y ffurflen benodedig. Dim ond trwy’r post neu DX y gallwch chi gyflwyno’ch cais.

  • AC1 Cais i gofrestru memorandwm pridiant amaethyddol: cofrestriad yn enw’r ffermwr.
  • AC2 Cais i gofrestru o dan adran 14 o Ddeddf Credydau Amaethyddol 1928 o femorandwm debentur cymdeithas amaethyddol: cofrestriad yn enw cymdeithas amaethyddol.
  • AC3 Cais i ddileu cofnod yn y gofrestr ar brawf o ryddhau.
  • AC4 Cais am dystysgrif bod cofrestriad wedi ei ddileu.
  • AC5 Cais am gopi ardystiedig o’r memorandwm a ffeiliwyd yn y gofrestrfa o dan y Ddeddf.
  • AC6 Cais am chwiliad swyddogol.
  • AC7 Cais i gywiro cofnod yn y gofrestr.

Os ydych am wneud chwiliad personol, dylech wneud cais ar ffurflen AC8 fel a ganlyn:

‘RYDW I (neu RYDYM NI) ………………………… o ………………………… yn gwneud cais am Chwiliad yn y Gofrestr yn erbyn yr enwau isod.

Dyddiedig y ………………………… diwrnod hwn o …………………………, …………………………’

8.2 Ffioedd

Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas â cheisiadau credydau amaethyddol wedi eu pennu gan Orchymyn Ffi Credydau Amaethyddol 1985

9. Ymholiadau a sylwadau

Mae’r adrannau canlynol yn cynnwys manylion â phwy y dylid cysylltu os oes gennych ymholiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn y cyfarwyddyd hwn.

9.1 Cyfeiriad ar gyfer ceisiadau

Os ydych yn cyflwyno’ch cais trwy’r post neu DX, dylid ei gyfeirio at:

Land Charges Department
PO Box 292
Plymouth
PL5 9BY

(DX 8249 Plymouth 3)

9.2 Ymholiad Pridiannau Tir Cyffredinol

Os oes gennych ymholiad cyffredinol am geisiadau neu wasanaethau Pridiannau Tir, cysylltwch â’r canlynol:

Land Charges Department
PO Box 292
Plymouth
PL5 9BY

(DX 8249 Plymouth 3)

Ffôn (ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus) 0300 006 6616.

9.3 Cyfrifon debyd uniongyrchol amrywiol

Os oes gennych ymholiad am ddebyd uniongyrchol amrywiol, cysylltwch â’r adran gyfrifon:

9.4 Credydau amaethyddol

Os oes gennych ymholiad neu os hoffech ragor o wybodaeth am gredydau amaethyddol, cysylltwch â’r canlynol:

Agricultural Credits Department
PO Box 292
Plymouth
PL5 9BY

(DX 8249 Plymouth 3)

Ffôn: 0300 006 6616

9.5 E-wasanaethau busnes a Business Gateway

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am e-wasanaethau Busnes a Business Gateway Cofrestrfa Tir EF, neu os hoffech danysgrifio i’r rhain, cysylltwch â’n Cymorth i Gwsmeriaid:

10. Atodiad A: chwiliadau swyddogol yn erbyn Y Sofran, Dugiaeth Caerhirfryn, Dugiaeth Cernyw a Chomisiynwyr Ystad y Goron

Mae’r wybodaeth a’r arweiniad canlynol yn ymwneud â chwiliadau yn erbyn:

  • Mawrhydi Mwyaf Rhagorol y Brenin yn hawl Ei Goron

  • Mawrhydi Mwyaf Rhagorol y Brenin yn hawl ei ystadau preifat

  • Mawrhydi Mwyaf Rhagorol y Brenin yn hawl Ei Ddugiaeth Caerhirfryn

  • Dugiaeth Cernyw

  • Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru fel Dug Cernyw

  • Comisiynwyr Ystad y Goron

Dylech roi’r enw(au) i’w chwilio yn llawn. Fodd bynnag, er mwyn symleiddio’r broses chwilio, mae’r cofrestrydd yn cytuno i wneud y chwiliad yn unol â’r trefniadau arbennig y manylir arnynt isod. Rhaid ichi:

  • roi’r enw(au) i’w chwilio yn yr union ffordd a ddangosir isod

  • darparu’r cyfeirnod priodol ar gyfer pob enw fel y dangosir isod

Sylwer: Os ydych yn cyflwyno’ch cais trwy’r post neu DX gan ddefnyddio ffurflen K15, rhaid ichi nodi’r cyfeirnod yng ngholofn chwith y ffurflen er ei bod yn dwyn y pennawd ‘At Ddefnydd Swyddogol yn Unig’.

10.1 Y Sofran yn hawl y Goron

Nid yw Comisiynwyr Ystad y Goron (Comisiynwyr) fel arfer yn diddwytho teitl wrth werthu eiddo sy’n eiddo i’w Fawrhydi yn hawl Ei Goron. Felly dylech wneud cais i chwilio:

Cyfeirnod Enw Y cyfnod o Y cyfnod i
1000167 Comisiynwyr Ystad y Goron 1855 [Y flwyddyn gyfredol]

Yna gwneir chwiliad yn erbyn:

  • Comisiynwyr Ystad y Goron
  • Comisiynwyr Tiroedd y Goron (rhagflaenydd i’r Comisiynwyr)
  • Comisiynwyr Coedwigoedd, Coedwigoedd a Refeniw Tir (rhagflaenydd i’r Comisiynwyr)
  • Ei Mawrhydi y Frenhines
  • Ei Fawrhydi y Brenin
  • Enwau pob sofran er 1855

10.2 Y Sofran yn hawl yr Ystadau Preifat

Fe’ch cynghorir wrth weithredu i brynu unrhyw ran o ystad breifat y Goron gan EF Brenin Charles III i chwilio yn erbyn pob un o’r sofraniaid a ganlyn:

Cyfeirnod Enw Y cyfnod o Y cyfnod i
1000555 EF Brenin George V 1910 1936
1000652 EF Brenin Edward VIII 1936 1936
1000749 EF Brenin George VI 1936 1952
1000846 EM Brenhines Elizabeth II 1952 2022
9757300 EF Brenin Charles III 2022 [Y flwyddyn gyfredol]

Sylwer: Sicrhewch eich bod yn cynnwys y cyfeirnod priodol yn eich cais.

Fodd bynnag, os yw teitl wedi ei ddiddwytho ac yn dangos bod yr eiddo wedi dod i berchnogaeth y sofran ar neu ar ôl 8 Medi 2022, dim ond yn erbyn EF Brenin Charles III ac unrhyw berchnogion blaenorol y gellir eu datgelu yn y teitl wedi ei ddiddwytho mae angen ichi chwilio.

Ym mhob achos, waeth pa ffurf o enw(au) a ddefnyddir yn y cais i gofrestru i ddisgrifio’r sofran, bydd unrhyw gofnodion perthnasol yn cael eu datgelu mewn tystysgrif canlyniad chwiliad.

Sylwer: Nid oes unrhyw gofnodion o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 wedi eu cofrestru yn erbyn EM Brenhines Victoria na EF Brenin Edward VII.

10.3 Dugiaeth Caerhirfryn

Nid yw Canghellor a Chyngor Dugiaeth Caerhirfryn fel arfer yn diddwytho teitl wrth werthu eiddo sy’n eiddo i’w Fawrhydi yn hawl Ei Ddugiaeth Caerhirfryn. Felly dylech wneud cais i chwilio:

Cyfeirnod Enw Y cyfnod o Y cyfnod i
1000361 Dugiaeth Caerhirfryn 1855 [Y flwyddyn gyfredol]

A search will then be made against:

Gwneir chwiliad yn erbyn:

  • Dugiaeth Caerhirfryn
  • Canghellor a Chyngor Dugiaeth Caerhirfryn
  • Ei Mawrhydi y Frenhines
  • Ei Fawrhydi y Brenin
  • Mawrhydi Mwyaf Rhagorol y Frenhines
  • Mawrhydi Mwyaf Rhagorol y Brenin
  • enwau pob sofran er 1855

10.4 Dugiaeth Cernyw

I chwilio enw Dugiaeth Cernyw, dylech wneud cais i chwilio:

Cyfeirnod Enw Y cyfnod o Y cyfnod i
1000458 Dugiaeth Caerhirfryn 1855 [Y flwyddyn gyfredol]

Gwneir chwiliad yn erbyn:

  • Dugiaeth Cernyw
  • Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru
  • Dug Cernyw
  • pob Dug Cernyw er 1855
  • enwau pob sofran er 1855 (mae hyn oherwydd bu cyfnodau pan nad oedd Dug)

11. Atodiad B: chwiliadau swyddogol yn erbyn rhai cwmnïau lifrai, colegau ac ysgolion

Mae’r wybodaeth a’r arweiniad canlynol yn ymwneud â chwiliadau yn erbyn rhai enwau arbennig, gan gynnwys:

  • cwmnïau lifrai
  • Colegau a neuaddau Prifysgol Caergrawnt
  • Colegau a neuaddau Prifysgol Rhydychen
  • rhai ysgolion, colegau a sefydliadau eraill

Dylech roi’r enw(au) i’w chwilio yn llawn. Fodd bynnag, er mwyn symleiddio’r broses chwilio, mae’r cofrestrydd yn cytuno i chwilio yn erbyn y teitl ffurfiol llawn pryd bynnag y byddwch yn rhoi’r fersiwn byrrach o’r enw a ddefnyddir yn gyffredin yn eich cais.

Rhaid ichi ddarparu’r cyfeirnod priodol ar gyfer pob enw fel y dangosir isod.

  • mae’r rhestrau’n cynnwys cyrff y gwyddys bod cofnodion o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 yn bodoli yn eu herbyn
  • nid yw’r rhestrau’n gynhwysfawr

11.1 Cwmnïau lifrai

Cyfeirnod Fersiwn byrrach o’r enw Teitl ffurfiol llawn
1001040 Society of Apothecaries The Master, Wardens and Society of the Art and Mistery of Apothecaries of the City of London
1001137 Armourers’ and Brasiers’ Company The Worshipful Company of Armourers and Brasiers in the City of London
1001234 Bakers’ Company The Master Wardens and Commonality of the Mystery of Bakers of the City of London
1001331 Brewers’ Company The Master and Keepers or Wardens and Commonality of the Mistery or Art of Brewers of the City of London
1001428 Carpenters’ Company The Master, Wardens and Commonality of the Mistery of Freemen of the Carpentry of the City of London
1001525 Clothworkers’ Company The Master Wardens and Commonality of Freemen of the Art and Mistery of Clothworkers of the City of London
1001622 Worshipful Company of Cooks The Masters or Governors and Commonality of the Mistery of Cooks of London
1001719 Coopers’ Company The Master Wardens or Keepers of the Commonality of Freemen of the Mistery of Coopers of the City of London and the suburbs of the Same City
1001816 Drapers’ Company The Master and Wardens and Brethren and Sisters of the Guild or Fraternity of the Blessed Mary the Virgin of the Mystery of Drapers of the City of London
1001913 Farriers’ Company The Worshipful Company of Farriers
1002010 Fishmongers’ Company The Wardens and Commonality of the Mistery of Fishmongers of the City of London
1002107 Founders’ Company The Worshipful Company of Founders
1002204 Gildlers’ Company The Master and Wardens or Keepers of the Art or Mistery of Gildlers, London
1002301 Goldsmiths’ Company The Wardens and Commonality of the Mystery of Goldsmiths of the City of London
1002495 Gold and Silver Wyre Drawers’ Company The Master Wardens Assistants and Commonality of the Art and Mystery of Drawing and Flatting of Gold and Silver Wyre and making and spinning of Gold and Silver Thread Stuff
1002592 Grocers’ Company The Wardens and Commonality of the Mistery of Grocers of the City of London
1002689 Haberdashers’ Company The Master and Four Wardens of the Fraturnity of the Art or Mystery of Haberdashers in the City of London
1002786 Worshipful Company of Innholders The Master, Wardens and Society of the Art or Mystery of Innholders of the City of London
1002883 Ironmongers’ Company The Master and Keepers or Wardens and Commonality of the Mystery or Art of Ironmongers London
1002980 Leathersellers’ Company The Wardens and Society of the Mistery or Art of Leathersellers of the City of London
1003077 Mercers’ Company The Wardens and Commonality of the Mystery of Mercers of the City of London
1003174 Merchant Taylors’ Company The Masters and Wardens of the Merchant Taylors of the Fraturnity of St John the Baptist in the City of London
1003271 Pewterers’ Company The Master and Wardens and Commonality of the Mystery of Pewterers of the City of London
1003368 Poulters’ Company The Master, Wardens and Assistants of Poulters of London
1003465 Saddlers’ Company The Wardens or Keepers and Commonality of the Mystery or Art of Saddlers of the City of London
1003562 Salters’ Company The Master, Wardens and Commonality of the Art or Mistery of Salters, London
1003659 Skinners’ Company The Master and Wardens of the Guild or Fraturnity of the Body of Christ of the Skinners of London
1003756 Tallow Chandlers Company The Worshipful Company of Tallow Chandlers of the City of London or The Master, Warden and Commonality of the Mistery of Tallow Chandlers of the City of London
1003853 Tylers’ and Bricklayers’ Company The Worshipful Company of Tylers and Bricklayers of the City of London
1003950 Vintners’ Company The Master Wardens and Freemen and Commonality of the Mystery of Vintners of the City of London

11.2 Colegau a neuaddau Prifysgol Caergrawnt

Cyfeirnod Fersiwn byrrach o’r enw Teitl ffurfiol llawn
1057785 Cambridge University The Chancellor Master and Scholars of Cambridge University
1005017 Christ’s College, Cambridge The Master, Fellows and Scholars of Christ’s College in the University of Cambridge
1005114 Clare College, Cambridge The Master, Fellows and Scholars of Clare College in the University of Cambridge
1005308 Corpus Christi College Cambridge The Master, Fellows and Scholars of the College of Corpus Christi and the Blessed Virgin Mary in the University of Cambridge
1005405 Downing College, Cambridge The Master, Fellows and Scholars of Downing College in the University of Cambridge
1005502 Emmanuel College, Cambridge The Master Fellows and Scholars of Emmanuel College in the University of Cambridge
1005696 Fitzwilliam College, Cambridge The Master, Fellows and Scholars of Fitzwilliam College in the University of Cambridge
1005793 Girton College, Cambridge The Mistress, Fellows and Scholars of Girton College
1005890 Gonville and Caius College, Cambridge The Master and Fellows of Gonville and Caius College in the University of Cambridge founded in honour of the Annunciation of Blessed Mary the Virgin
1005987 Jesus College, Cambridge The Master or Keeper and Fellows and Scholars of the College of the Blessed Virgin Mary St John the Evangelist and the Glorious Virgin Saint Redegund Commonly called Jesus Christ in the University of Cambridge
1006084 King’s College, Cambridge The Provost and Scholars of the King’s College of our Lady and Saint Nicholas in Cambridge
1006181 Magdalene College, Cambridge The Master and Fellows of Magdalene College in the University of Cambridge founded in honour of St Mary Magdalene
1006278 New Hall, Cambridge The President and Fellows of New Hall in the University of Cambridge
1006569 Pembroke College, Cambridge The Master, Fellows and Scholars of the College or Hall of Valence-Mary, commonly called Pembroke College, in the University of Cambridge
1006666 Peterhouse, Cambridge The Master Fellows and Scholars of Peterhouse in the University of Cambridge
1006763 Queens’ College, Cambridge The President and Fellows of the Queens’ College of St Margaret and St Bernard, commonly called Queen’s College, in the University of Cambridge
1006860 St Catharine’s College, Cambridge The Master and Fellows of St Catharine’s College or Hall in the University of Cambridge
9343525 St John’s College, Cambridge The Master Fellows and Scholars of the College of St John the Evangelist in the University of Cambridge
1007054 Selwyn College, Cambridge The Master, Fellows and Scholars of Selwyn College
1007151 Sidney Sussex College, Cambridge The Master Fellows and Scholars of the College of the Lady Frances Sidney Sussex in the University of Cambridge
1007248 Trinity College, Cambridge The Master Fellows and Scholars of the College of the Holy and Undivided Trinity Within the Town and University of Cambridge of King Henry the Eighth’s Foundation
1007345 Trinity Hall, Cambridge The Master Fellows and Scholars of the College or Hall of the Holy Trinity in the University of Cambridge

11.3 Colegau a neuaddau Prifysgol Rhydychen

Cyfeirnod Fersiwn byrrach o’r enw Teitl ffurfiol llawn
1029849 Oxford University The Chancellor Masters and Scholars of the University of Oxford
1008024 All Souls College, Oxford The Warden and College of the Souls of All Faithful People Deceased in the University of Oxford
1008121 Balliol College, Oxford The Master and Scholars of Balliol College in the University of Oxford
1008218 Brasenose College, Oxford The Principal and Scholars of the King’s Hall and College of Brasenose in Oxford
1008315 Corpus Christi College, Oxford The President and Scholars of Corpus Christi College in the University of Oxford
1008412 Exeter College, Oxford The Rector and Scholars of Exeter College in the University of Oxford
1008509 Hertford College, Oxford The Principal Fellows and Scholars of Hertford College in the University of Oxford
1008606 Jesus College, Oxford The Principal, Fellows and Scholars of Jesus College, within the City and University of Oxford, of Queen Elizabeth’s Foundation
1008703 Keble College, Oxford The Warden Fellows and Scholars of Keble College in the University of Oxford
1008897 Lady Margaret Hall, Oxford The College of the Lady Margaret in Oxford Commonly known as Lady Margaret Hall
1008994 Lincoln Hall, Oxford The Warden and Rector and Scholars of the College of the Blessed Mary and All Saints Lincoln in the University of Oxford commonly called Lincoln College
1009091 Magdalen College, Oxford The President and Scholars of the College of St Mary Magdalen in the University of Oxford
1009188 Merton College, Oxford The Warden and Scholars of the House or College of Scholars of Merton in the University of Oxford
1009285 New College, Oxford The Warden and Scholars of St Mary College of Winchester in Oxford commonly called New College in Oxford
1009382 Oriel College, Oxford The Provost and Scholars of the House of the Blessed Mary the Virgin in Oxford commonly called Oriel College of the Foundation of Edward the Second of Famous Memory sometime King of England
1009479 Pembroke College, Oxford The Master, Fellows and Scholars of Pembroke College in the University of Oxford
1009576 Queen’s College, Oxford The Provost and Scholars of Queen’s College in the University of Oxford
1009673 St Catherine’s College, Oxford St Catherine’s College in the University of Oxford
1009770 St Edmund Hall, Oxford The Principal Fellows and Scholars of Saint Edmund Hall in the University of Oxford
1009867 St John’s College The President and Scholars of Saint John Baptist College in the University of Oxford
1009964 Somerville College, Oxford The Principal and Fellows of Somerville College in the University of Oxford
1010061 Trinity College, Oxford The President Fellows and Scholars of the College of the Holy and Undivided Trinity in the University of Oxford of the Foundation of Sir Thomas Pope Knight Deceased
1010158 University College, Oxford The Master and Fellows of the College of the Great Hall of the University commonly called University College in the University of Oxford
1010255 Wadham College, Oxford The Warden Fellows and Scholars of Wadham College in the University of Oxford of the foundation of Nicholas Wadham, Esquire and Dorothy Wadham
1010352 Worcester College, Oxford The Provost, Fellows and Scholars of Worcester College in the University of Oxford

11.4 Ysgolion a cholegau

Cyfeirnod Fersiwn byrrach o’r enw Teitl ffurfiol llawn
1011031 Christ’s Hospital The Mayor and Commonality and Citizens of the City of London Governors of the Possessions Revenues and Goods of the Hospitals of Edward late King of England the Sixth of Christ Bridewell and St Thomas the Apostle as Governors of Christ’s Hospital
1011128 Dulwich College The Estate Governors of Alleyn’s College of God’s Gift at Dulwich
1011225 Eton College The Provost of the College Royal of the Blessed Mary of Eton near unto Windsor in the County of Buckinghamshire commonly called The King’s College of our Blessed Lady of Eton nigh or by Windsor in the said County of Buckinghamshire and the same college
1011322 Harrow School The Keepers and Governors of the Possession Revenue and Goods of the Free Grammar School of John Lyon within the Town of Harrow on the Hill in the London Borough of Harrow (formerly in the County of Middlesex)
1011419 Highgate School The Wardens and Governors of the possessions of the Free Grammar School of Sir Roger Cholmeley Knight in Highgate
1011516 Winchester College Saint Mary College of Winchester near Winchester (the seal is referred to as ‘The Common Seal of the Warden and Scholars Clerks of St Mary College of Winchester near Winchester’)

12. Atodiad C: ardaloedd gweinyddol yng Nghymru a Lloegr a ddefnyddir gan yr Adran Pridiannau Tir

Rhaid i gais i gofrestru pridiant tir nodi’r ardal weinyddol mae’r tir ynddi, ac mae’r wybodaeth hon wedi ei chynnwys yn y gofrestr a’r mynegai. Yn fwy manwl gywir:

  • lle mae’r tir yn ardal Llundain, rhaid ichi roi ‘Greater London’ fel y ‘sir’ a naill ai ‘City of London’ neu un o fwrdeistrefi Llundain fel yr ‘ardal’
  • lle mae’r tir o fewn cyn Gyngor Sir Metropolitan (er enghraifft, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi, Tyne & Wear, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gorllewin Swydd Efrog neu Dde Swydd Efrog), rhaid ichi roi enw’r cyn Gyngor Sir fel y ‘sir’, ac enw’r hen Gyngor Dosbarth Metropolitanaidd fel yr ‘ardal’ (er enghraifft, ‘West Yorkshire, Leeds’)
  • ym mhob achos arall, rhaid ichi roi enw’r awdurdod unedol neu, os nad oes awdurdod unedol, y sir a’r ardal lle mae’r tir yn cwympo (yn ôl ‘sir’, rydym yn golygu’r sir weinyddol yn hytrach na’r sir hanesyddol neu sir seremonïol)

Yn yr un modd, rhaid i gais am chwiliad swyddogol o’r mynegai nodi’r ardal weinyddol neu’r ardaloedd y dylid chwilio yn eu herbyn, er na ofynnir i’r ceisydd nodi ‘ardal’. Dim ond pridiannau tir ar gyfer yr awdurdod unedol neu’r sir benodol a ddatgelir.

Gyda nifer o ad-drefnu llywodraeth leol, mae’r ardaloedd gweinyddol wedi newid dros y blynyddoedd. Defnyddiwch y tabl isod i weld pa siroedd y gallai fod angen ichi chwilio yn eu herbyn. Er enghraifft, os ydych yn chwilio am gofnodion yn ymwneud ag eiddo ym Mryste rhwng 1970 a 2000, bydd angen ichi chwilio yn erbyn Bryste fel yr ardal weinyddol bresennol (awdurdod unedol), a hefyd yn erbyn hen siroedd Avon (1974-96) a naill ai Gwlad yr Haf neu Swydd Gaerloyw (cyn 1974).

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch pa ardal weinyddol yr oedd yr eiddo yn rhan ohoni, byddem yn awgrymu eich bod yn chwilio yn erbyn popeth a allai fod yn berthnasol. Er enghraifft, yn yr enghraifft a roddwyd yn y paragraff blaenorol, os oeddech yn ansicr a oedd yr eiddo yng Ngwlad yr Haf gynt neu yn Swydd Gaerloyw gynt, fe allech roi’r ddwy sir.

12.1 Lloegr

Ardal weinyddol gyfredol Ardaloedd gweinyddol blaenorol y bydd angen ichi chwilio yn eu herbyn hefyd, efallai, gyda dyddiadau
Bedford Swydd Bedford (cyn 1.4.2009)  
Blackburn gyda Darwen Swydd Gaerhirfryn (cyn 1.4.1998)  
  Blackpool Swydd Gaerhirfryn (cyn 1.4.1998)
Bournemouth, Christchurch a Poole Bournemouth (1.4.1997 – 31.3.2019) Dorset (cyn 1.4.1997) Hampshire (cyn 1.4.1974) Poole (1.4.1997 – 31.3.2019)  
Bracknell Forest Berkshire (cyn 1.4.1998)  
Brighton & Hove Dwyrain Sussex (1.4.1974 – 31.3.1997) Sussex (cyn 1.4.1974)  
Bryste (dinas) Avon (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Gaerwrangon neu Gwlad yr Haf (cyn 1.4.1974)  
Caint    
Canol Swydd Bedford Swydd Bedford (cyn 1.4.2009)  
Caerefrog Gogledd Swydd Gaerefrog (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Caerfaddon a GDd Gwlad yr Haf Avon (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Gwlad yr Haf (cyn 1.4.1974)  
Caerlŷr Swydd Gaerlŷr (cyn 1.4.1997)  
Cernyw (gan gynnwys Ynysoedd Scilly)    
Cumberland Cumberland neu Westmoreland neu Swydd Gaerhirfryn neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974) a Cumbria (cyn 1.4. 2023)  
Darlington Swydd Durham (cyn 1.4.1997)  
Derby (dinas) Swydd Derby (cyn 1.4.1997)  
De Swydd Gaerefrog Swydd Gaerefrog neu Swydd Nottingham (cyn 1.4.1974)  
De Swydd Gaerloyw Avon (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Gaerloyw (cyn 1.4.1974)  
Dorset Dorset neu Hampshire (cyn 1.4.1974)  
Dwyrain Sussex Sussex (cyn 1.4.1974)  
Dwyrain Swydd Gaerlleon Swydd Gaerlleon (cyn 1.4.2009)  
Dyfnaint    
East Riding of Yorkshire Humberside (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Essex    
Glannau Mersi Swydd Gaerlleon neu Swydd Gaerhirfryn (cyn 1.4.1974)  
Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln Humberside (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Lincoln (cyn 1.4.1974)  
Gogledd Gwlad yr Haf Avon (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Gwlad yr Haf (cyn 1.4.1974)  
Gogledd Swydd Gaerefrog Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Gogledd Swydd Lincoln Humberside (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Lincoln (cyn 1.4.1974)  
Gogledd Swydd Northampton Swydd Northampton (cyn 1.4.2021)  
Gorllewin Berkshire Berkshire (cyn 1.4.1998)  
Gorllewin Canolbarth Lloegr Swydd Warwig neu Swydd Stafford neu Swydd Gaerwrangon (cyn 1.4.1974)  
Gorllewin Sussex Sussex neu Surrey (cyn 1.4.1974)  
Gorllewin Swydd Gaerefrog Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Gorllewin Swydd Gaerlleon & Chaer Swydd Gaerlleon (cyn 1.4.2009)  
Gorllewin Swydd Northampton Swydd Northampton (cyn 1.4.2021)  
Gwlad yr Haf    
Halton Swydd Gaerlleon (1.4.1974 – 31.3.1998) neu Swydd Gaerlleon neu Swydd Gaerhirfryn (cyn 1.4.1974)  
Hampshire    
Hartlepool Cleveland (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Durham (cyn 1.4.1974)  
Kingston upon Hull (dinas) Humberside (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Luton Swydd Bedford (cyn 1.4.1997)  
Llundain Fwyaf Llundain Fwyaf neu Middlesex neu Caint neu Surrey neu Essex neu Swydd Hertford (cyn 1.4.1965)  
Manceinion Fwyaf Swydd Gaerlleon neu Swydd Gaerhirfryn neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Medway Caint (cyn 1.4.1998)    
Middlesbrough Cleveland (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Milton Keynes Swydd Buckingham (cyn 1.4.1997)  
Norfolk Norfolk neu Suffolk (cyn 1.4.1974)  
Northumberland    
Nottingham (dinas) Swydd Nottingham (cyn 1.4.1998)  
Peterborough (dinas) Swydd Gaergrawnt (1.4.1974 – 31.3.1998) neu Swydd Huntingdon (1.4.1965 – 31.3.1974) neu Swydd Northampton neu Swydd Gaergrawnt (cyn 1.4.1965)  
Plymouth (dinas) Devon (cyn 1.4.1998)  
Portsmouth Hampshire (cyn 1.4.1997)  
Reading Berkshire (cyn 1.4.1998)    
Redcar and Cleveland Cleveland (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Rutland Swydd Gaerlŷr (1.4.1974 – 1.4.1997) neu Rutland (cyn 1.4.1974)  
Salop (Swydd Amwythig)    
Slough Berkshire (1.4.1974 – 31.3.1998) neu Swydd Buckingham (cyn 1.4.1974)  
Southampton Hampshire (cyn 1.4.1997)  
Southend on Sea Essex (cyn 1.4.1998)  
Swydd Stafford    
Stockton on Tees Cleveland (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Swydd Durham neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Stoke on Trent Swydd Stafford (cyn 1.4.1997)  
Suffolk    
Surrey Surrey neu Middlesex (cyn 1.4.1965)  
Swindon Thamesdown (1.4.1997 – 23.4.1997) neu Wiltshire (cyn 1.4.1997)  
Thurrock Essex (cyn 1.4.1998)  
Torbay Dyfnaint (cyn 1.4.1998)  
Tyne and Wear Northumberland neu Durham (cyn 1.4.1974)  
Warrington Swydd Gaerlleon (1.4.1974 – 31.3.1998) neu Swydd Gaerhirfryn neu Swydd Gaerlleon (cyn 1.4.1974)  
Westmorland and Furness Cumberland neu Westmoreland neu Swydd Gaerhirfryn neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974) a Cumbria (cyn 1.4.2023)  
Wiltshire    
Windsor & Maidenhead Berkshire (1.4.1974 – 31.3.1998) neu Berkshire neu Swydd Buckingham (cyn 1.4.1974)  
Wokingham Berkshire (cyn 1.4.1998)  
Swydd Buckingham    
Swydd Derby Swydd Derby neu Swydd Gaerlleon (cyn 1.4.1974)  
Swydd Durham Swydd Durham neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Swydd Gaergrawnt Swydd Gaergrawnt neu Swydd Huntingdon (cyn 1.4.1974)  
Swydd Gaerhirfryn Swydd Gaerhirfryn neu Swydd Gaerefrog (cyn 1.4.1974)  
Swydd Gaerloyw    
Swydd Gaerlŷr    
Swydd Gaerwrangon Henffordd a Chaerwrangon (1.4.1974 – 31.3.1998) neu Gaerwrangon (cyn 1.4.1974)  
Swydd Henffordd Henfordd a Chaerwrangon (1.4.1974 – 31.3.1998) neu Swydd Henffordd (cyn 1.4.1974)  
Swydd Hertford Swydd Hertford neu Middlesex (cyn 1.4.1965)  
Swydd Lincoln    
Swydd Nottingham    
Swydd Rydychen Swydd Rydychen neu Berkshire (cyn 1.4.1974)  
Swydd Warwig    
Wrekin Swydd Amwythig (cyn 1.4.1998)  
Ynys Manaw Hampshire (cyn 1.4.1974)  

12.2 Cymru

Ardal weinyddol gyfredol Ardaloedd gweinyddol blaenorol y bydd angen ichi chwilio yn eu herbyn hefyd, efallai, gyda dyddiadau
Blaenau Gwent Blaenau Gwent Gwent (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Fynwy neu Sir Frycheiniog (cyn 1.4.1974)
Bridgend Pen-y-Bont Pen-y-bont ar Ogwr Morgannwg Ganol (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Morgannwg (cyn 1.4.1974)
Caerphilly Caerffili Morgannwg Ganol neu Gwent (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Forgannwg neu Sir Fynwy (cyn 1.4.1974)
Cardiff Caerdydd De Morgannwg neu Morgannwg Ganol (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Morgannwg (cyn 1.4.1974)
Carmarthenshire Sir Gaerfyrddin Dyfed (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Gaerfyrddin (cyn 1.4.1974)
Ceredigion Sir Ceredigion Dyfed (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Aberteifi (cyn 1.4.1974)
Conwy Conwy Clwyd neu Gwynedd (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Gaernarfon neu Sir Ddinbych (cyn 1.4.1974)
Denbighshire Sir Ddinbych Clwyd (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Ddinbych neu Sir y Fflint neu Sir Feirionnydd (cyn 1.4.1974)
Flintshire Sir y Fflint Clwyd (1.4.1974 – 31.3.1996)
Gwynedd Gwynedd Sir Gaernarfon neu Sir Feirionydd (cyn 1.4.1974)
Ynys Môn Sir Ynys Môn Gwynedd (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Ynys Môn (cyn 1.4.1974)
Merthyr Tydfil Merthyr Tudful Morgannwg Ganol (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Morgannwg neu Sir Frycheiniog (cyn 1.4.1974)
Monmouthshire Sir Fynwy Gwent (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Fynwy a Sir Frycheiniog (cyn 1.4.1974)
Neath Port Talbot Castell-nedd Port Talbot Gorllewin Morgannwg (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Morgannwg (cyn 1.4.1974)
Newport Casnewydd Gwent (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Fynwy (cyn 1.4.1974)
Pembrokeshire Sir Benfro Sir Benfro neu Sir Gaerfyrddin (1.4.1996 – 31.3.2003) neu Dyfed (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Benfro neu Sir Gaerfyrddin (cyn 1.4.1974)
Powys Powys Powys neu Clwyd (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Drefaldwyn neu Sir Faesyfed neu Sir Frycheiniog neu Sir Ddinbych (cyn 1.4.1974)
Rhondda Cynon Taff Rhondda Cynon Taf Morgannwg Ganol (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Morgannwg neu Sir Frycheiniog (cyn 1.4.1974)
Swansea Sir Abertawe Gorllewin Morgannwg (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Morgannwg (cyn 1.4.1974)
The Vale of Glamorgan Bro Morgannwg De Morgannwg neu Morgannwg Ganol (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Morgannwg (cyn 1.4.1974)
Torfaen Tor-faen Gwent (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Fynwy (cyn 1.4.1974)
Wrexham Wrecsam Clwyd (1.4.1974 – 31.3.1996) neu Sir Ddinbych neu Sir y Fflint (cyn 1.4.1974)

12.3 Nodiadau

  • O 1 Ebrill 1996, mae naill ai fersiwn Cymraeg neu Saesneg enwau sirol Cymru yn dderbyniol ar gyfer cofrestriadau newydd.

  • Bydd chwiliadau sy’n defnyddio’r naill fersiwn neu’r llall o’r enwau yn datgelu unrhyw gofnodion perthnasol a gofrestrwyd ar 1 Ebrill 1996 neu ar ôl hynny waeth pa fersiwn a ddefnyddiwyd yn y cais i gofrestru.

13. Atodiad D: Cofrestri Pridiannau tir

Mae 5 cofrestr yn cael eu cadw yn yr Adran Pridiannau Tir, sydd wedi eu rhestru isod.

13.1 Cofrestr Pridiannau tir (adran 2 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972)

Ceir 6 dosbarth o bridiannau tir. (Sylwer nad oes unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Pridiannau Tir 1972 ar gyfer cofrestru budd sy’n codi o dan ymddiried tir neu setliad o dan unrhyw un o’r dosbarthiadau hyn (gweler adran 17(1) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972).

Dosbarth A Pridiant tir a osodir gan statud yn unol â chais, ee o dan Ddeddf Draenio 1976
Dosbarth B Pridiant tir a osodir yn awtomatig gan statud, ee Deddf Cymorth Cyfreithiol 1974
Dosbarth C C(i) – Morgais Puisne – fel arfer ail arwystl neu arwystl dilynol nad yw’n cael ei warchod trwy adneuo dogfennau sy’n ymwneud â’r ystad gyfreithiol yr effeithir arni
  C(ii) – Pridiant perchnogion cyfyngedig – yn codi pan fydd tenant am oes yn cyflawni dyletswyddau marwolaeth neu rwymedigaethau eraill sy’n effeithio ar dir sefydlog
  C(iii) – Pridiant ecwitïol cyffredinol – Pridiannau ecwitïol nad ydynt yn gofrestredig mewn man arall, ee morgais anffurfiol. Nid yw’n codi nac yn effeithio ar fudd sy’n codi o dan ymddiriedolaeth tir neu setliad
  C(iv) – Contract ystad – yn cynnwys contract, opsiwn i brynu, hawl rhagbrynu, hawl i benderfynu, ildio neu adnewyddu prydles
Dosbarth D D(i) – Pridiant Refeniw Mewndirol – dyletswyddau marwolaeth, treth trosglwyddo cyfalaf / treth etifeddiant
  D(ii) – Cyfamodau cyfyngu – yr ymrwymwyd iddynt ar ôl 1925 ac nid rhwng prydleswr a phrydlesai
  D(iii) – hawddfreintiau ecwitïol – hawddfreintiau a grëwyd ar ôl 1925 ar yr amod nad ydynt yn hawddfreintiau cyfreithiol
Dosbarth E Blwydd-dal – wedi ei greu ond heb ei gofrestru cyn 1926
Dosbarth F Deddf Cartrefi Priodasol 1967 a 1983 neu Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004) – gwarchod hawliau priod neu bartner sifil

13.2 Cofrestr o achosion arfaethedig (PA) (adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972)

Ceir 2 gategori:

Ceisiadau neu ddeisebau mewn methdaliad Cofrestrwyd fel (PA)B. Caiff cofrestru ei beri p’un ai y mae tir yn cael ei effeithio ai peidio a ph’un ai y mae tir yn gofrestredig ai peidio. (Yn syth ar ôl cofrestru gyda Phridiannau Tir, hysbysir Cofrestrfa Tir EF o fanylion y dyledwr.)
Achosion tir arfaethedig Unrhyw achosion neu achosion llys arfaethedig yn y llys yn ymwneud ag unrhyw fudd mewn tir. (Mae rhai achosion tir arfaethedig yn gofrestradwy trwy statud, er enghraifft gweler cais o dan adran 28(5) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987.)

Sylwer: Ar gyfer deisebau mewn methdaliad, mae’r llys yn defnyddio Ffurflen 6.14 (gweler Atodlen 4 o Reolau Ansolfedd 1986) i gofrestru achos arfaethedig (y ddeiseb methdaliad) gyda Phridiannau Tir. Ar gyfer ceisiadau methdaliad i’r dyfarnwr, mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn gwneud cais electronig i gofrestru achos arfaethedig (y cais methdaliad) gyda Phridiannau Tir (neu i ddechrau, gellir defnyddio ffurflen 6.40 newydd).

13.3 Cofrestr gwritiau a gorchmynion (WO) (adran 6 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972)

Ceir 2 gategori:

Gorchymyn methdaliad Wedi ei gofrestru fel WO(B) mae’n peri cofrestriad p’un ai yw tir yn cael ei effeithio ai peidio a ph’un ai mae tir o’r fath wedi ei gofrestru ai peidio. (Yn syth ar ôl cofrestru gyda Phridiannau Tir, hysbysir Cofrestrfa Tir EF o fanylion y methdalwr.)

Gwrit neu orchymyn At ddibenion gorfodi dyfarniad (ond nid gorchymyn rhewi cyn dyfarniad na all fod at ddibenion gorfodi dyfarniad (Stockler v Fourways QBD [1983] 3 All ER 501), ee gorchymyn tâl neu orchymyn yn penodi derbynnydd. (Mae rhai gwritiau neu orchmynion yn gofrestradwy trwy statud er enghraifft, gweler gorchmynion o dan adrannau 24(8) a 30(6) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987.)

Nodyn 1: Ar gyfer gorchmynion methdaliad, mae’r Derbynnydd Swyddogol sydd ynghlwm wrth y llys yn defnyddio ffurflen 6.26 (gweler Atodlen 4 o Reolau Ansolfedd 1986) i gofrestru gorchymyn methdaliad gyda Phridiannau Tir.

Nodyn 2: Ystyr ‘Gwrit’ yw gwrit gorfodi a gyhoeddir gan lys.

Sylwer na chaniateir cofrestru unrhyw writ neu orchymyn sy’n peri budd o dan ymddiried tir yn y gofrestr gwritiau neu orchmynion (adran 6 (1A) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972). Felly, er enghraifft, efallai na fydd gorchymyn tâl sy’n peri budd ecwitïol o dan ymddiried tir yn cael ei warchod gan writ neu orchymyn.

Mae cofnod yn y gofrestr gwritiau neu orchmynion yn peidio â bod yn effeithiol ar ddiwedd cyfnod o 5 mlynedd o’r dyddiad y caiff ei wneud ond gellir adnewyddu’r cofrestriad ac os caiff ei adnewyddu, bydd yn effeithiol am gyfnod o 5 mlynedd o’r dyddiad adnewyddu (adran 8 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972).

13.4 Cofrestr blwydd-daliadau (Atodlen 1 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972)

Agorwyd y gofrestr blwydd-daliadau ym 1855 a chaeodd ym 1925. Gweler hefyd Pridiannau Tir, Dosbarth E yn Cofrestr Pridiannau Tir.

14.Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.