Canllawiau

Cofrestrfa Tir EF: Ffioedd Pridiannau Tir

Ffïoedd cyflwyno ceisiadau Pridiannau Tir, gan ddefnyddio ffurflenni K1 i ffurflen K21.

Applies to England and Wales

Cododd rhai o’n ffïoedd cofrestru tir ar ddydd Llun 31 Ionawr 2022. Gweler Adolygiad ffïoedd 2021 i 2022 am ragor o wybodaeth.

Ffioedd Pridiannau Tir

Ffurflen(ni) Math o gais Gwneud cais trwy’r post neu DX Gwneud cais gan ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway neu ffacs
K1, K2, K3, K4, K5, K7, K8 Cofrestru neu adnewyddu cofrestriad £1 yr enw Ddim ar gael
K6 Cofrestru rhybudd blaenoriaeth £1 yr enw Ddim ar gael
K9 Cywiro cofnod £1 yr enw Ddim ar gael
K11, K12, K13 Dileu cofnod £1 yr enw Ddim ar gael
K15, K16 Chwiliad swyddogol £1 yr enw £2 yr enw
K19 Copi swyddfa o gofnod yn y gofrestr gan gynnwys unrhyw gynllun £1 yr enw £1 yr enw
K20 Cais am dystysgrif dileu cofnod £1 yr enw Ddim ar gael
K21 Archwilio cofnod yn y gofrestr Ddim ar gael Ddim ar gael

Sut i dalu ffïoedd

Gallwch dalu am wasanaethau a cheisiadau safonol trwy’r canlynol:

  • debyd uniongyrchol amrywiol, os oes gennych gyfrif e-wasanaethau Busnes
  • siec neu archeb bost. Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’ a’i hanfon, gyda’ch cais, i’n Hadran Pridiannau Tir

Rhagor o wybodaeth

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn seiliedig ar ddarpariaeth statudol Pridiannau Tir 1990 fel y’i diwygiwyd gan Reolau Ffioedd Pridiannau Tir (diwygio) 1994 a 2012, a ddaeth i rym ar 2 Ebrill 1990 ac sy’n gymwys o hyd.

Os ydych yn ansicr o’r ffi o hyd, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.

Cyhoeddwyd ar 7 March 2016