Canllawiau

Adolygiad ffïoedd 2021 i 2022

Cyhoeddwyd 3 November 2021

Applies to England and Wales

Cododd rhai o’n ffïoedd cofrestru tir ar ddydd Llun 31 Ionawr. Mae’r canllaw hwn yn cynnwys y ffïoedd newydd bydd yn rhaid ichi eu talu:

  • pan fyddwch yn cyflwyno cais ar neu ar ôl 31 Ionawr
  • pan gaiff cais ei ddileu neu ei wrthod ac rydych yn ei ailgyflwyno ar neu ar ôl 31 Ionawr

Ffïoedd graddfa 1

Gwneud cais trwy’r post

Gwerth Hen ffi Ffi newydd
£0 i £80,000 £40 £45
£80,001 i £100,000 £80 £95
£100,001 i £200,000 £190 £230
£200,001 i £500,000 £270 £330
£500,001 i £1,000,000 £540 £655
£1,000,001 ac uwch £910 £1,105

Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway

Cofrestru pob prydles a throsglwyddiad neu ildiad sy’n effeithio ar ran o deitl cofrestredig

Gwerth Hen ffi Ffi newydd
£0 i £80,000 £40 £45
£80,001 i £100,000 £80 £95
£100,001 i £200,000 £190 £230
£200,001 i £500,000 £270 £330
£500,001 to £1,000,000 £540 £655
£1,000,001 ac uwch £910 £1,105

Trosglwyddiadau neu ildiadau sy’n effeithio ar y teitl cofrestredig cyfan

Gwerth Hen ffi Ffi newydd
£0 i £80,000 £20 £20
£80,001 i £100,000 £40 £40
£100,001 i £200,000 £95 £100
£200,001 i £500,000 £135 £150
£500,001 i £1,000,000 £270 £295
£1,000,001 ac uwch £455 £500

*Mae’r ffïoedd newydd hyn yn cynnwys y gostyngiad yn y ffi ar gyfer trosglwyddiadau o’r cyfan ac ildiadau o’r cyfan ar gyfer teitlau cofrestredig wrth ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway (gostyngiad o 55% o’i gymharu â’r ffi uwch ar gyfer ceisiadau trwy’r post).

Cofrestriad cyntaf gwirfoddol (ffi ostyngol)

Gwerth Hen ffi Ffi newydd
£0 i £80,000 £30 £30
£80,001 i £100,000 £60 £70
£100,001 i £200,000 £140 £170
£200,001 i £500,000 £200 £250
£500,001 i £1,000,000 £400 £495
£1,000,001 ac uwch £680 £830

Ffïoedd graddfa 2

Gwneud cais trwy’r post

Gwerth Hen ffi Ffi newydd
£0 i £100,000 £40 £45
£100,001 i £200,000 £60 £70
£200,001 i £500,000 £80 £100
£500,001 i £1,000,000 £120 £145
£1,000,001 ac uwch £250 £305

Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway

Trosglwyddiadau o’r cyfan, arwystlon o’r cyfan, trosglwyddo arwystlon a cheisiadau o’r cyfan eraill ar gyfer teitlau cofrestredig

Gwerth Hen ffi Ffi newydd
£0 i £100,000 £20 £20
£100,001 i £200,000 £30 £30
£200,001 i £500,000 £40 £45
£500,001 i £1,000,000 £60 £65
£1,000,001 ac uwch £125 £140

*Mae’r ffïoedd newydd hyn yn cynnwys y gostyngiad yn y ffi ar gyfer trosglwyddiadau o’r cyfan ac ildiadau o’r cyfan ar gyfer teitlau cofrestredig wrth ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway (gostyngiad o 55% o’i gymharu â’r ffi uwch ar gyfer ceisiadau trwy’r post).

Cofrestru trosglwyddiadau o ran, a phob cais Graddfa 2 arall nad yw’n effeithio ar y teitl cofrestredig cyfan

Gwerth Hen ffi Ffi newydd
£0 i £100,000 £40 £45
£100,001 i £200,000 £60 £70
£200,001 i £500,000 £80 £100
£500,001 i £1,000,000 £120 £145
£1,000,001 ac uwch £250 £305

Newidiadau eraill i ffïoedd ac eithriadau

Cofnod newydd yn y Gofrestr Tir

Y ffi am gais ar gyfer cofnod newydd yn y gofrestr (o dan reol 79A hawl i reoli gan gwmni Hawl i Reoli) yw:

  • £20 pan gaiff ei gyflwyno’n electronig
  • £40 trwy’r post

Newidiadau i ffïoedd ar gyfer copïau hanesyddol

Y ffi am bob cais ar gyfer copi hanesyddol o’r gofrestr yw:

  • £3 pan gaiff ei gyflwyno’n electronig
  • £7 trwy’r post

Y ffi am bob cais ar gyfer copi hanesyddol o gynllun teitl yw:

  • £3 pan gaiff ei gyflwyno’n electronig
  • £7 trwy’r post

Cofrestru rhybudd o brydles

Ceir gostyngiad newydd sy’n rhagamodi nad oes unrhyw ffi yn daladwy i gofrestru rhybudd o brydles, lle daw’r cais gyda chais i gofrestru rhoi hawddfraint sydd wedi ei chynnwys yn y brydles.

Ymwadiadau eiddo a wneir gan ymddiriedolwyr mewn methdaliad

Ceir eithriad newydd ar gyfer cais i nodi ymwadiadau eiddo a wneir gan ymddiriedolwyr mewn methdaliad, datodwyr, Cyfreithiwr y Trysorlys (ar ran y Goron), neu’r Cyfreithiwr i Ddugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw.

Marwolaeth perchennog

Ceir diwygiad i’r eithriad sy’n bodoli eisoes ynghylch nodi marwolaeth perchennog. Mae’r eithriad bellach yn cyfeirio at berchennog (yn hytrach na chydberchennog) ac mae’n berthnasol i gofnodi marwolaeth unig berchennog yn ogystal â chydberchennog.