Canllawiau

Corffori ac enwau

Diweddarwyd 4 March 2024

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych am gorffori cwmni
  • os ydych am wirio pa enwau sy’n dderbyniol ar gyfer cwmni

Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau cyffredin ac yn cynnig gwybodaeth am sut i fynd ati i gwblhau rhai o’r dogfennau ffeilio mwyaf cyffredin yn y maes yma. Nid yw’r canllaw wedi cael ei lunio gyda thrafodion anarferol neu gymhleth mewn golwg. Mae’n bosibl y bydd angen cyngor proffesiynol arbenigol o dan amgylchiadau o’r fath.

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r prif ofynion ar gyfer corffori cwmni yn y Deyrnas Unedig h.y. Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n cynnig gwybodaeth a chyngor am y canlynol:

  • sut i gorffori cwmni cyfyngedig
  • y math o gwmni rydych eisiau ei gorffori
  • swyddogion y cwmni
  • dewis enw i’r cwmni gan gynnwys rheolaethau a chyfyngiadau
  • datgelu enw’r cwmni a gwybodaeth arall

Os ydych yn defnyddio eich cyfeiriad cartref fel cyfeiriad eich gwasanaeth neu swyddfa gofrestredig y cwmni, bydd ar gael i’r cyhoedd.

Gweler ein canllawiau am y wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd.

1. Corffori cwmni newydd

1.1 Corfforiad

Corffori yw’r broses lle mae busnes newydd neu sefydledig yn cofrestru fel cwmni cyfyngedig. Mae cwmni yn endid cyfreithiol sydd â hunaniaeth ar wahân i’r rhai sy’n berchen arno neu’n ei weithredu. Cwmnïau atebolrwydd cyfyngedig yw’r rhan fwyaf o gwmnïau, sy’n golygu bod atebolrwydd yr aelodau wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant.

Ni all busnes weithredu fel cwmni cyfyngedig nes ei fod wedi ei gorffori gyda Thŷ’r Cwmnïau o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae sefydlu eich busnes fel cwmni yn golygu bod gofyn i’r cyfarwyddwyr ffeilio dogfennau penodedig bob blwyddyn, fel cyfrifon blynyddol a datganiadau cadarnhau. Rhaid hysbysu Tŷ’r Cwmnïau am unrhyw newidiadau hefyd, fel penodiad neu diswyddiad cyfarwyddwr neu newid o ran lleoliad swyddfa gofrestredig y cwmni.

Gallai fod yn werth chweil gofyn am gyngor proffesiynol cyfreithiwr neu gyfrifydd cyn penderfynu ai corffori yw’r dewis gorau ar gyfer eich busnes chi.

1.2 Pwy sy’n gallu corffori cwmni?

Caiff un neu ragor o bersonau ffurfio cwmni at unrhyw bwrpas cyfreithlon drwy dorri enw/enwau wrth droed y memorandwm cymdeithasu. Yn gyfreithiol, mae’r term ‘person’ yn cwmpasu unigolion, cwmnïau a chyrff eraill. Trwy gwblhau’r memorandwm, mae’r tanysgrifwyr yn cadarnhau eu cytundeb i ffurfio cwmni.

Nid oes gan blant o dan 16 oed y gallu cyfreithiol i ymrwymo i gontract. Ni fydd y cofrestrydd fel arfer yn derbyn cais i’w ymgorffori os yw’n ymwybodol bod y tanysgrifwyr o dan 16 oed.

1.3 Mathau o gwmni

Mae pedwar math o gwmni:

  1. Cwmni preifat cyfyngedig drwy gyfrannau: Mae gan y math hwn o gwmni gyfalaf cyfrannau ac mae atebolrwydd pob aelod yn gyfyngedig i ba bynnag swm sydd heb ei dalu ar eu cyfrannau, os o gwbl. Ni chaiff cwmni preifat gynnig ei gyfrannau ar werth i’r cyhoedd ar led.
  2. Cwmni preifat cyfyngedig drwy warant: Nid oes cyfalaf cyfrannau gan y math hwn o gwmni, a gwarantwyr yn hytrach na chyfranddalwyr yw ei aelodau. Mae cwmni yn gyfyngedig drwy warant os yw atebolrwydd yr aelodau wedi ei gyfyngu i ba bynnag swm y maent yn addo ei gyfrannu at asedau’r cwmni os caiff ei ddirwyn i ben.
  3. Cwmni anghyfyngedig preifat: Mae modd i gwmni anghyfyngedig fod yn gwmni â chyfalaf cyfrannau neu heb gyfalaf cyfrannau, ond nid oes cyfyngiad ar atebolrwydd yr aelodau.
  4. Cwmni cyfyngedig cyhoeddus: Mae gan gwmni cyhoeddus gyfalaf cyfrannau, ac y mae atebolrwydd pob aelod wedi ei gyfyngu i’r swm sydd heb ei dalu ar eu cyfrannau. Caiff cwmni cyfyngedig cyhoeddus gynnig ei gyfrannau ar werth i’r cyhoedd ar led, a gellir dyfynnu eu gwerth ar gyfnewidfa stoc. Mae rhagor o wybodaeth am gwmnïau cyhoeddus.

1.4 Dull a ffioedd

Cewch fynd ati i gorffori cwmni mewn un o dair ffordd.

Yn electronig trwy Software Filing

Gellir cyflwyno corfforiadau yn electronig gan ddefnyddio meddalwedd priodol. Mae llawer o asiantau corffori a darparwyr meddalwedd wedi datblygu eu systemau fel eu bod yn gallu cynnig gwasanaeth electronig ar y we i gwsmeriaid (codir tâl am hyn). Mae hyn yn golygu y gall cwsmeriaid achlysurol wneud cais am gorffori yn ogystal â rhai rheolaidd.

Mae llawer o’r busnesau ar ein rhestr o ddarparwyr meddalwedd yn darparu gwasanaethau ar y we. Yn dibynnu faint o ddogfennau rydych chi’n disgwyl eu ffeilio, gallai fod yn fwy ymarferol i chi ddefnyddio eu gwasanaethau. Mae rhagor o wybodaeth am feddalwedd ffeilio a rhestr o’r darparwyr. (Saesneg yn unig)

Y ffi safonol ar gyfer ffeilio dogfennau’n electronig yw £10 (neu £30 ar gyfer y gwasanaeth ‘Yr Un Diwrnod’ sydd ar gael ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law cyn 3pm dydd Llun i ddydd Gwener). Caiff ceisiadau syml eu prosesu cyn pen 24 awr fel rheol.

Gwasnaethau gwe

Y gwasanaeth Sefydlu cwmni cyfyngedig a chofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth (Saesneg yn unig) yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i gofrestru’ch Cwmni gyda Tŷ’r Cwmnïau neu CThEM.

Gallwch sefydlu:

  • cwmni preifat cyfyngedig gan gyfranddaliadau
  • cwmni preifat cyfyngedig drwy warant (os mai dim ond pobl fel y gwarantwyr sydd gennych ac nad ydych yn gwneud cais am eithriad rhag defnyddio ‘Cyfyngedig’ yn enw’r cwmni)
  • Cwmni Buddiant Cymunedol (CBC)

Mae’r gwasanaeth yn cynnig lanlwytho dogfennau ar gyfer enwau cwmnïau ac erthyglau cymdeithasiad.

Mi fydd hefyd yn cofrestru eich cwmni gyda CThEM ar gyfer Treth Gorfforaeth (a TÂL dewisol), felly nid oes rhaid i chi wneud hynny.

£12 yw’r ffi sefydlu (neu £27 ar gyfer CBC). Dim ond gyda cherdyn neu PayPal y gellir talu’r ffi. . Nid oes dewis i dalu trwy gyfrif ffeilio ar-lein Tŷ’r Cwmnïau, ac nid oes gwasanaeth yr un diwrnod.

Dilynwch ein canllaw cam wrth gam ar sut i sefydlu cwmni cyfyngedig (Saesneg yn unig).

Mae gennym llawer o ganllawiau ar sut i ddechrau cwmni (Saesneg yn unig).

Os ydych chi’n sefydlu cwmni ac eisiau talu gan ddefnyddio Cyfrif Ffeilio Tŷ’r Cwmnïau Ar-lein yna defnyddiwch y gwasanaeth Corffori ar y We.

Caiff ceisiadau syml eu prosesu o fewn 24 awr fel rheol.

Ffeilio ar bapur

Rhaid anfon dogfennau papur i’r swyddfa briodol ac maent yn cymryd mwy o amser i’w brosesu na dogfennau electronig. Y ffi gofrestru safonol yw £40.

Y ffi yw £20 os:

  • nodir bod swyddfa gofrestredig y cwmni wedi’i lleoli yng Nghymru (“cwmni Cymreig”) ac rydych yn ffeilio dogfennau yn y Gymraeg (gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Corffori ar y We ar gyfer cwmni cyfyngedig preifat)
  • os yw eich cwmni yn gwmni anghyfyngedig

Dylai sieciau fod yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’. Caiff ceisiadau syml eu prosesu cyn pen 5 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law fel rheol.

1.5 Ddogfennau sydd eu hangen i gorffori cwmni

I gorffori cwmni, rhaid ffeilio’r dogfennau canlynol:

  1. Ffurflen gais am gofrestru cwmni (IN01c) ynghyd â’r ffi
  2. Y memorandwm cymdeithasu
  3. Yr erthyglau cymdeithasu (oni fyddwch yn dewis mabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol yn eu cyfanrwydd
  4. Gwybodaeth ychwanegol os yw’ch cais yn cynnwys gair neu ymadrodd sensitif

Hwyrach na chewch gorffori enw’r cwmni a ddymunwch os yw’r enw hwnnw ‘yr un fath’ ag enw arall sy’n ymddangos ym mynegai’r cofrestrydd o enwau cwmnïau. Ceir eithriad yn hyn o beth os yw’r cwmni (neu PAC neu gorff arall ar y fynegai) yn rhan o’r un grŵp â’ch cwmni chi a’i fod yn cydsynio i’r defnydd o’r enw arfaethedig. Esbonir hyn yn fwy manwl yn Dewis enw eich cwmni **

1.6 Enw arfaethedig

Ni chewch neilltuo enw. Ni allwn warantu prosesu ceisiadau yn unol â’r amser neu’r dyddiad a dderbyniwn.

Yn gyffredinol, mae dogfennau electronig yn cael eu prosesu’n gyflymach na dogfennau papur.

1.7 Cais am gofrestru cwmni (ffurflen IN01c)

Rhaid i chi ddweud wrthym:

  • enw arfaethedig y cwmni
  • lle mae’r cwmni wedi’i leoli -a yw’r swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
  • cyfeiriad y swyddfa gofrestredig - rhaid i hyn fod yn yr un wlad y mae eich cwmni wedi cofrestru ynddo, er enghraifft rhaid i gwmni sydd wedi’i gofrestru yn yr Alban gael cyfeiriad swyddfa gofrestredig yn yr Alban
  • a fydd y cwmni’n breifat, cyhoeddus neu’n anghyfynedig
  • manylion gweithgareddau busnes arfaethedig y cwmni gan gyfeirio at god dosbarthiad diwydiannol safonol (SIC)
  • eich dewis o ran yr erthyglau cymdeithasu
  • manylion y cyfarwyddw(y)r arfaethedig, a’r ysgrifennydd os oes un
  • manylion pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA), neu ddatganiadau eraill sy’n ofynnol yn gyfreithiol fel datganiad nad oes gan y cwmni unrhyw PRhA. Am ragor o wybodaeth
  • gwasanaeth cyfarwyddwyr a chyfeiriadau preswyl
  • datganiad o gyfalaf a chyfranddaliadau cychwynnol neu ddatganiad o warant
  • os yw’n gwmni cyfyngedig drwy warant am wneud cais i gael ei eithrio rhag y gofyniad i ddefnyddio “cyfyngedig” neu “limited” yn ei enw
  • os yw enw arfaethedig y cwmni’n cynnwys gair sensitif, cadarnhad eich bod wedi gwneud cais am safbwyntiau adran o’r llywodraeth neu gorff arall
  • datganiad o gydymffurfiaeth neu warant

Os ydych yn defnyddio eich cyfeiriad cartref fel cyfeiriad eich gwasanaeth neu swyddfa gofrestredig y cwmni, bydd ar gael i’r cyhoedd.

Gwelir ein canllwiau ar pa wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus.

1.8 Cyfeiriad swyddfa gofrestredig, cyfeiriad gwasanaeth a chyfeiriad preswyl arferol

Rhaid i chi ddarparu cyfeiriad swyddfa gofrestredig pan fyddwch yn sefydlu cwmni cyfyngedig. Mae hwn yn gyfeiriad lle bydd yr holl gyfathrebu, gan gynnwys yr holl lythyrau a gyfeirir at eich cwmni, yn cael eu hanfon.

Os ydych yn dewis ymgysylltu ag asiant trydydd parti i drin eich post, rhaid i chi sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau i bob post cael ei hanfon ymlaen atoch, beth bynnag yw’r ffynhonnell.

  • cyfeiriad corfforol yn y DU
  • yn yr un wlad y mae eich cwmni wedi cofrestru ynddo, er enghraifft rhaid i gwmni sydd wedi’i gofrestru yn yr Alban gael cyfeiriad swyddfa gofrestredig yn yr Alban

Mae’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall cyfarwyddwr ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd partïon mewn perthynas â’r cwmni. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl y person neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu gall fod yn rhywle arall.

Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol y cyfarwyddwr o dan sylw. Rhaid ichi ddweud wrthym beth yw’ch cyfeiriad cartref, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld Mae’n cael ei gadw ar gofrestr breifat sydd ar gael i sefydliadau a bennwyd ymlaen yn unig.

Os ydych yn defnyddio eich cyfeiriad cartref fel cyfeiriad eich gwasanaeth neu swyddfa gofrestredig y cwmni, bydd ar gael i’r cyhoedd.

Gwelir ein canllwiau ar pa wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus.

1.9 Memorandwm cymdeithasu

Mae’r memorandwm cymdeithasu yn cadarnhau bwriad y tanysgrifwyr i ffurfio cwmni a bod yn aelodau o’r cwmni hwnnw ar ôl ei ffurfio. Yn achos cwmni cyfyngedig drwy gyfrannau, bydd y memorandwm yn darparu tystiolaeth o gytundeb yr aelodau i gymryd o leiaf un gyfran yr un yn y cwmni.

O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, mae’r memorandwm yn fyrrach o lawer am y cynhwysir holl reolau cyfansoddiadol y cwmni yn yr erthyglau cymdeithasu. Am hynny, mae pwrpas y memorandwm yn fwy cyfyngedig ac ni ellir ei ddiwygio ar ôl corffori’r cwmni.

Nid yw’r gwybodaeth am gyfalaf a chyfranddaliadau yn rhan o’r memorandwm mwyach gan y cynhwysir y wybodaeth hon yn y ffurflen gais am gofrestru (IN01), naill ai fel ‘datganiad o gyfalaf a chyfranddaliadau; neu yn achos cwmnïau a gyfyngir drwy warant, fel ‘datganiad o warant’.

Mae’r geiriad sy’n ofynnol ar gyfer y memorandwm i’w gweld yn Rheoliadau Cwmnïau (Cofrestru) 2008 (2008/3014) a dylech ddefnyddio’r fformat hwn wrth lunio eich memorandwm. Gallwch godi memorandwm parod o’n gwefan. Dylech nodi y rhagnodwyd geiriad y memorandwm ac ni ellir ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd. Os byddwch chi’n ychwanegu at y geiriad neu’n ei newid, caiff eich cais ei wrthod.

1.10 Erthyglau cymdeithasu

Llyfr rheolau mewnol y cwmni yw ei erthyglau cymdeithasu, ac fe’u pennir gan yr aelodau. Mae’r gyfraith yn mynnu bod gan bob cwmni erthyglau, a bydd yr erthyglau’n cyfrwymo’r cwmni a’i holl aelodau yn gyfreithiol. Mae’r erthyglau yn helpu i sicrhau bod busnes y cwmni’n rhedeg mor esmwyth ac effeithiol â phosib ac maent yn disgrifio sut y bydd y cwmni’n gwneud penderfyniadau ac yn cynnwys materion amrywiol mewn perthynas â’i gyfrannau.

Ni all yr erthyglau gynnwys rheolau sy’n groes i’r gyfraith. Ar yr amod bod yr aelodau’n ufuddhau i’r egwyddor gyffredinol hon, bydd ganddynt ryddid llwyr i ddewis pa reolau a gaiff eu cynnwys yn erthyglau eu cwmni. Fodd bynnag, hwyrach y byddant yn ei gweld yn gyfleus dibynnu ar erthyglau enghreifftiol. Os bydd yr aelodau’n penderfynu llunio’u rheolau eu hunain, hwyrach y dylent ofyn am gyngor proffesiynol cyn mynd ati.

Wrth gorffori, caiff cwmni fabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol yn eu cyfanrwydd, yr erthyglau enghreifftiol gyda rhai diwygiadau neu eu herthyglau pwrpasol eu hunain.

1.11 Erthyglau enghreifftiol

Er y gall aelodau bennu eu herthyglau eu hunain, gallant ddewis mabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol safonol a bennir mewn deddfwriaeth hefyd. Nid oes rhaid i chi fabwysiadu darpariaethau’r enghreifftiau model, ond maent yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o gwmnïau safonol, maent yn cynnig canllawiau defnyddiol ac yn rhwyd diogelwch defnyddiol mewn rhai achosion. Maent ar gael ar gyfer cwmnïau preifat a gyfyngir drwy gyfrannau, cwmnïau preifat a gyfyngir drwy warant a chwmnïau cyhoeddus.

Gellir gweld y gwahanol fathau o Erthyglau Enghreifftiol yn Atodlenni 1-3 i’r Rheoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008 (Rhif OS 3229).

Wrth lenwi’r ‘Ffurflen gais am gofrestru cwmni (IN01c)’, bydd angen i chi nodi pa un o’r dewisiadau canlynol y bydd eich cwmni arfaethedig yn ei fabwysiadu:

  • yr erthyglau enghreifftiol yn eu cyfanrwydd (ni ddylech ffeilio’r rhain gyda’r ffurflen IN01c)
  • yr erthyglau enghreifftiol gyda diwygiadau (dim ond yr erthyglau diwygiedig ddylai gael eu ffeilio gyda’r ffurflen IN01c)
  • erthyglau a baratowyd yn bwrpasol (rhaid ffeilio copi o’r erthyglau gyda’r ffurflen IN01c)

Os na fyddwch chi’n nodi pa erthyglau yr ydych am eu mabwysiadu, byddwn yn defnyddio’r erthyglau enghreifftiol sy’n briodol i’ch math chi o gwmni yn awtomatig.

1.12 Cwmnïau anghyfyngedig

Nac oes. Ni ddarperir erthyglau enghreifftiol ar gyfer cwmnïau anghyfyngedig. Fodd bynnag, gall cwmni anghyfyngedig ddewis defnyddio’r erthyglau enghreifftiol fel sail i’w erthyglau cymdeithasu ei hun. Rhaid i’r erthyglau beidio â chynnwys darpariaeth er mwyn i atebolrwydd yr aelodau fod yn gyfyngedig a dylai’r aelodau ystyried cynnwys erthygl sy’n rhoi’r pŵer i gwmni anghyfyngedig gynyddu neu gydgyfnerthu cyfalaf cyfrannau, isrannu neu ddileu cyfrannau neu leihau’r cyfalaf cyfrannau ac unrhyw gyfrif premiwm cyfrannau drwy benderfyniad arbennig. Os ydych chi’n ystyried corffori cwmni anghyfyngedig, hwyrach y dylech ofyn am gyngor proffesiynol.

1.13 Rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn newid eich erthyglau

Ar ôl corffori eich cwmni, rhaid i chi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am bob newid yn ei erthyglau. Gallech chi a’ch cwmni fod yn euog o drosedd os na wnewch hynny. Rhaid gwneud penderfyniad arbennig i ddiwygio’ch erthyglau ac anfon copi o’r penderfyniad hwnnw i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 15 diwrnod ar ôl ei fabwysiadu. Rhaid anfon copi o’r erthyglau diwygiedig i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 15 diwrnod hefyd. Byddai o gymorth i ni pe baech yn gallu ffeilio’r ddau beth yr un pryd.

Mae rhagor o wybodaeth am beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn diwygio erthyglau’ch cwmni yn ein canllawiau Bywyd Cwmni – Ffeilio yn sgil Digwyddiadau

1.14 Erthyglau sefydledig neu gyfyngedig

Caiff eich cwmni ddewis mabwysiadu erthyglau dan gyfyngiad, sy’n darparu na chaiff y cwmni ddiddymu neu ddiwygio darpariaethau unigol heb fodloni amodau penodol. Enghraifft o hyn fyddai rheol na ellid ei newid heb gefnogaeth mwyafrif uwch o’r cyfranddalwyr na’r 75 y cant a fyddai’n ofynnol ar gyfer mabwysiadu penderfyniad arbennig.

Os yw erthyglau eich cwmni yn cynnwys darpariaethau di-syfl rhaid i chi lenwi’r adran briodol o’r ‘Ffurflen gais am gofrestru cwmni’ (IN01). Rhaid i’r erthyglau eu hunain ei gwneud yn glir pa amodau y mae angen eu bodloni er mwyn newid y darpariaethau sefydledig dan sylw.

1.15 Erthyglau priodol

Ni allwn gyflenwi erthyglau cymdeithasu pwrpasol ond gallwch eu prynu gan un o orsafwyr cyfraith cwmni neu asiant ffurfio. Fel arall, gallwch fynd i’n gwefan i weld erthyglau enghreifftiol ar gyfer eich cwmni.

1.16 Swyddfa gofrestredig

Rhaid i bob cwmni fod â swyddfa gofrestredig. Rhaid i’r swyddfa gofrestredig fod yn lleoliad go iawn lle gall y cwmni dderbyn hysbysiadau, llythyrau a llythyrau atgoffa. Nid oes angen i’r swyddfa gofrestredig fod yn fan lle mae’r cwmni’n cynnal ei fusnes bob dydd felly gallech roi cyfeiriad eich cyfrifydd er enghraifft. Os nad yw’r cyfeiriad yn effeithiol o ran cyflwyno dogfennau, gallai’r cwmni fod mewn perygl o gael ei ddileu o’r gofrestr neu ei ddirwyn i ben gan gredydwr.

Os bydd unrhyw berson y byddwch yn delio ag ef yng nghwrs eich busnes yn ysgrifennu atoch i ofyn am gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig, neu’r lleoliad lle gallant archwilio cofnodion eich cwmni, neu am fanylion y cofnodion a gedwir yn eich swyddfa gofrestredig, bydd rhaid i chi ateb cyn pen pum diwrnod gwaith.

Wrth wneud cais i gorffori eich cwmni, rhaid i chi ddatgan a fydd swyddfa gofrestredig eich cwmni yn Lloegr a Chymru, yng Nghymru (cwmni “Cymreig”), yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Rhaid i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig hefyd fod yn yr un wlad â’i leoliad.

Os penderfynwch newid cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig, rhaid ffeilio ffurflen Newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig (AD01c). Cewch ffeilio’r ffurflen yn electronig neu ar bapur, ond ni ddaw’r newid i rym nes ein bod ni’n cofrestru’r ffurflen. Cewch newid cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig ond ni chewch newid ei awdurdodaeth. Er enghraifft, os yw eich swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon, ni chewch ei newid i gyfeiriad yn yr Alban.

1.17 Dewis cadw gwybodaeth gofrestr statudol benodol yn Nhŷ’r Cwmnïau wrth gorffori

Gall cwmnïau preifat ddewis cadw unrhyw wybodaeth neu’r cyfan mewn cofrestrau statudol penodol yn Nhŷ’r Cwmnïau yn hytrach na chadw eu cofrestrau eu hunain.

Pan fydd etholiad ar waith gall cwmnïau preifat anfon y wybodaeth a fyddai fel arfer yn cael ei chadw yn eu cofrestrau at gofrestrydd cwmnïau i’w rhoi ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Gall dewis gael ei wneud gan y tanysgrifwyr wrth gorffori’r cwmni. Mae hyn yn wirfoddol a gall cwmni gadw ei gofrestri ei hun, os yw’n dymuno gwneud.

Dim ond i’r cofrestri canlynol mae’r dewis yn berthnasol –

  • aelodau
  • bobl â rheolaeth arwyddocaol
  • cyfarwyddwyr
  • cyfeiriadau preswyl arferol y cyfarwyddwyr
  • cofrestr yr ysgrifenyddion

Ceir gwybodaeth fanylach am arfer yr etholiad a goblygiadau gwneud hynny yn ein canllaw i drefn cofrestri.

1.18 Beth sy’n digwydd i ddogfennau corffori a anfonir atom

Byddwn ni’n archwilio rhai pethau penodol yn yr holl ddogfennau corffori, gan gynnwys archwiliad hanfodol i sicrhau nad yw’r swyddogion arfaethedig ar y ‘Gofrestr o Gyfarwyddwyr a Waharddwyd’.

Os yw’r dogfennau’n bodloni’r archwiliadau priodol, byddwn yn corffori’r cwmni, yn cyhoeddi tystysgrif corffori, ac yn rhoi’r dogfennau yn y cofnod cyhoeddus er mwyn galluogi i’r cyhoedd eu harchwilio. Dylech nodi na fydd y corffori yn effeithiol nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cyhoeddi’r dystysgrif gorffori. Dylech gadw hyn mewn cof cyn archebu unrhyw ddeunydd ysgrifennu swyddogol ar gyfer y cwmni, neu agor unrhyw gyfrif banc.

1.19 Tystysgrif corffori

Mae’r dystysgrif gorffori yn dystiolaeth bendant y cydymffurfiwyd â gofynion cofrestru Deddf Cwmnïau 2006, a bod y cwmni wedi ei gofrestru’n briodol o dan y Ddeddf honno. Bydd y dystysgrif yn datgan:

  • enw a rhif cofrestredig y cwmni
  • y dyddiad corffori
  • boed yn gwmni cyfyngedig neu anghyfynedig, ac os yw’n gyfyngedig a yw wedi’i gyfyngu gan gyfranddaliadau neu wedi’i gyfyngu gan warant
  • boed yn gwmni preifat neu’n gwmni cyhoeddus
  • a yw swyddfa gofrestredig y cwmni wedi’i lleoli yng Nghymru a Lloegr, Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Rhaid i’r dystysgrif gael ei llofnodi gan y cofrestrydd neu gael ei dilysu gan sêl swyddogol y cofrestrydd.

2. Cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion

Ceir gwybodaeth ychwanegol am rôl a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion yn ein canllaw: Bywyd cwmni rhan 2 – ffeiliau gyrru digwyddiad.

2.1 Isafswm nifer y swyddogion

Cwmnïau preifat: Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn mynnu bod gan bob cwmni preifat o leiaf un cyfarwyddwr. Fodd bynnag, gall erthyglau cymdeithasu cwmni bennu bod angen mwy nag un cyfarwyddwr ar y cwmni. Rhaid i o leiaf un o’r cyfarwyddwyr fod yn unigolyn. Does dim angen i gwmni preifat fod ag ysgrifennydd, oni bai bod yr erthyglau cymdeithasu’n gofyn am hynny.

Cwmnïau cyhoeddus: Rhaid i gwmni cyhoeddus fod ag o leiaf dau gyfarwyddwr, ynghyd ag ysgrifennydd. Rhaid i o leiaf un o’r cyfarwyddwyr fod yn unigolyn. Rhaid i ysgrifennydd cwmni cyhoeddus fod yn berson cymwys.

2.2 Cyfarwyddwyr cwmni

Mater i’r aelodau yw penodi’r cyfarwyddwyr a fydd yn rhedeg y cwmni ar eu rhan. Ni allwch fod yn gyfarwyddwr os ydych:

  • wedi eich hanghymhwyso rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni (oni bai bod llys wedi rhoi caniatâd gweithredu dros gwmni penodol)
  • yn fethdalwyr heb eu rhyddhau (oni bai bod llys wedi rhoi caniatâd iddynt weithredu dros gwmni penodol)
  • dan 16 oed

Ysgrifennydd cwmni

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ar ysgrifennydd cwmni preifat. Rhaid i ysgrifennydd cwmni cyhoeddus feddu ar un neu ragor o’r cymwysterau a ddisgrifir yn: cwmnïau cyhoeddus.

3. Cwmnïau cyhoeddus

3.1 Gofynion cwmnïau cyhoeddus

Rhaid i gwmni cyhoeddus gael:

  • o leiaf 2 gyfarwyddwr (a gaiff fod yn aelodau o’r cwmni hefyd)
  • o leiaf un cyfarwyddwr sy’n unigolyn
  • rhaid i bob cyfarwyddwr unigol fod dros 16 oed
  • o leiaf un ysgrifennydd
  • ysgrifennydd yn gymwys i weithredu fel ysgrifennydd

Ysgrifennydd cymwys yw rhywun sydd:

  • wedi dal swydd ysgrifennydd cwmni cyhoeddus am o leiaf dair o’r pum mlynedd cyn eu penodi
  • sy’n fargyfreithiwr, adfocad neu gyfreithiwr a alwyd neu a dderbyniwyd mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig
  • sydd, yn rhinwedd eu profiad neu aelodaeth o gorff arall, yn alluog i gyflawni swyddogaethau ysgrifennydd ym marn y cyfarwyddwyr;
  • sy’n aelod o unrhyw un o’r cyrff proffesiynol canlynol: :
    • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Lloegr a Chymru
    • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban
    • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon
    • Sefydliad yr Ysgrifenyddion a’r Gweinyddwyr Siartredig
    • Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
    • Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr
    • Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

3.2 Pan fydd cwmni cyhoeddus yn dechrau busnes

Ni chaiff cwmni a gorfforir fel cwmni cyfyngedig cyhoeddus gynnal busnes nac arfer pwerau benthyca cyn cael tystysgrif fasnachu gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n cadarnhau ei fod wedi clustnodi’r lleiafswm o gyfalaf cyfrannau sy’n ofynnol. Bydd gofyn i chi gyflwyno’r ‘Ffurflen gais am dystysgrif fasnachu ar gyfer cwmni cyhoeddus’ (SH50) er mwyn gwneud hyn. Mae masnachu heb y dystysgrif yn drosedd, ac o’u collfarnu, byddai’r cyfarwyddwyr yn agored i ddirwy.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol os ydych yn bwriadu ailgofrestru o fod yn gwmni preifat cyfyngedig drwy gyfrannau neu’n gwmni preifat anghyfyngedig, i fod yn gwmni cyhoeddus. Mae ein canllaw ‘Bywyd Cwmni – Rhan 2 – Ffeilio yn sgil digwyddiadau’ yn esbonio hyn.

4. Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CBC)

Math penodol o gwmni cyfyngedig yw Cwmni Buddiant Cymunedol (‘CBC’). Fe’i dyfeisiwyd ar gyfer pobl sy’n dymuno cynnal gweithgarwch er budd y gymuned. Ni chaiff CBCau eu cofrestru fel cwmnïau o dan y Ddeddf Cwmnïau nes i’r Rheolydd CBC gymeradwyo’r cais i ffurfio CBC. Mae gan y rheolydd rôl barhaus wrth fonitro a gorfodi hefyd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion y ddeddfwriaeth berthnasol, ffurflenni ac erthyglau cymdeithasu enghreifftiol ar y wefan Cwmnïau Buddiant Cymunedol.

4.1  Sefydlu’ch CBC ar lein

Y gwasanaeth Sefydlu cwmni cyfyngedig a chofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i gofrestru’ch CBC.

Bydd y gwasanaeth ar-lein yn cofrestru:

  • y cais cwmni cyfyngedig gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • y ffurflen CIC36 ac erthyglau’r CBC gyda’r rheoleiddiwr CBC (mae lanlwytho PDF o bob dogfen yn ofynnol)
  • eich CBC ar gyfer Treth Gorfforaeth gyda CthEM

Mae’n rhaid lanlwytho’r ffurflen CIC36 ac erthyglau cymdeithasu CIC fel ffeiliau PDF unigol.

Peidiwch â lanlwytho’r ffurflen IN01 na’r memorandwm cymdeithasu - bydd y gwasanaeth yn creu’r rhain i chi.

£27 yw’r ffi sefydlu ar gyfer CBC Dim ond gyda cherdyn neu PayPal y gellir talu’r ffi. . Nid oes dewis i dalu trwy gyfrif ffeilio ar-lein Tŷ’r Cwmnïau, ac nid oes gwasanaeth yr un diwrnod.

Mae’n bosibl y gallwch sefydlu’ch CBC ar lein gan ddefnyddio ffeilio trwy feddalwedd os yw’ch darparwr yn ei gynnig.

Fel arfer caiff ceisiadau CBC ar-lein syml eu prosesu cyn pen 48 awr.

4.2 Sefydlu’ch CBC ar bapur

I ymgorffori CBC ar bapur bydd angen i chi ffeilio:

  • ffurflen gais i gofrestru cwmni (IN01c) gan sicrhau nad ydych yn llenwi adran A3 a’ch bod yn llenwi opsiwn 3 o A8)
  • memorandwm cymdeithasu
  • erthyglau cymdeithasu
  • cais i gorffori cwmni buddiant cymunedol (ffurflen CIC 36 ac os oes angen, taflenni parhau CIC 36) gan gynnwys y datganiadau
  • siec am £35 – yn daladwy i ’Tŷ’r Cwmnïau’
  • gwybodaeth ychwanegol os yw’r cais yn cynnwys gair neu ymadrodd sensitif

Caiff ceisiadau papur syml CBC eu prosesu fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith.

Fel y mae Deddf Cwmnïau (Archwilio, Ymchwiliadau a Mentrau Cymunedol) 2004, yn ei nodi, os yw eich cwmni buddiant cymunedol yn gwmni preifat, rhaid i’w enw ddiweddu â’r geiriau ‘community interest company’ neu ‘c.i.c’. Os nodwyd bod swyddfa gofrestredig y cwmni yng Nghymru (cwmni “Cymreig”) gall ei enw ddiweddu â’r geiriau ‘cwmni buddiant cymunedol ‘ neu ‘c.b.c.’.

Os yw eich cwmni buddiant cymunedol yn gwmni cyhoeddus rhaid i’w enw ddiweddu â’r geiriau ‘community interest public limited company’ neu ‘community interest p.l.c.’. Os nodwyd bod swyddfa gofrestredig y cwmni yng Nghymru (cwmni “Cymreig”) gall ei enw ddiweddu â’r geiriau ‘cwmni buddiant cymunedol cyhoeddus cyfyngedig’ neu ‘cwmni buddiant cymunedol c.c.c.’.

4.3 Ffioedd CBC

Tŷ’r Cwmnïau sy’n casglu ffioedd ar ran y Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol. Y ffioedd a ddangosir isod yw ffioedd cyfunol y Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol a Thŷ’r Cwmnïau:

Ymgorffori CBC ar lein (gwe) £27
Ymgorffori CBC ar lein (meddalwedd) £25
Ymgorffori CBC ar bapur £35
Troi cwmni presennol yn CBC £25
Troi ac ail-gofrestru cwmni i gwmni cyhoeddus CIC (PLC) (ac i’r gwrthwyneb) £35
Troi CBC presennol yn CBC CCC £20
Troi Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus yn CBC £35
Newid enw cwmni buddiant cymunedol £10

5. Cwmnïau rheoli fflatiau, cwmnïau hawl i reoli (HiR) a chymdeithasau cyfunddaliad

5.1 Cwmni rheoli fflatiau

Cwmni rheoli fflatiau yw cwmni a ffurfiwyd i reoli eiddo sydd wedi ei rannu’n nifer o fflatiau ar wahân. Fel rheol, mae gan berchennog pob fflat brydles ar ei fflat ei hunan, ond gall fod yn aelod o gwmni rheoli sy’n berchen ar rydd-ddaliad (neu brydles) yr adeilad cyfan hefyd. Fel aelodau o’r cwmni, mae gan berchnogion y fflatiau lais yn y ffordd y mae’r adeilad yn cael ei redeg.

Os oes gan yr aelodau gyfrannau yn y cwmni, mae’n arfer cyffredin rhoi cymal yn yr erthyglau cymdeithasu sy’n nodi bod rhaid i gyfranddeiliaid sy’n gwerthu eu fflatiau drosglwyddo eu cyfrannau i’r perchnogion newydd hefyd. Mae hyn yn sicrhau bod y cwmni cyfyngedig yn cynrychioli buddiannau holl berchnogion cyfredol y fflatiau ar unrhyw adeg, a’i fod yn aros yn endid cyfreithiol ar wahân, dim ots pwy sydd biau’r cyfrannau.

Gall lesddeiliaid y prydlesau ymarfer yr hawl i reoli’r adeilad lle maent yn byw hefyd. Er mwyn cael yr hawl i reoli, rhaid i lesddeiliaid sefydlu cwmni cyfyngedig ‘hawl i reoli’ (HiR).

Gellir sefydlu cwmni cyfyngedig i berchen ar, a rheoli, ardaloedd cyffredin datblygiadau lle mae gwahanol unedau, a hynny o dan ‘gyfunddaliad’. Gelwir y math hwn o gwmni yn ‘gymdeithas gyfunddaliad’.

5.2 Dogfennau sydd eu hangen i gorffori cwmni rheoli fflatiau

I gorffori cwmni Rheoli Fflatiau rhaid ffeilio’r dogfennau a restrir yn ‘Corffori cwmni newydd’. Wrth lenwi’r ‘Ffurflen gais i gofrestru cwmni (IN01c)’ bydd angen i chi roi tic wrth opsiwn 3 (erthyglau wedi’u teilwra) o adran A7 a chynnwys yr erthyglau gyda’r dogfennau eraill.

Mae’r Cyngor Cynghori ar Brydlesau (LEASE) yn rhoi cyngor rhad ac am ddim am y gyfraith sy’n effeithio ar eiddo preswyl prydlesol yn Lloegr a Chymru. Mae ei wefan yn cynnig cyngor a manylion cyswllt.

5.3 Cwmnïau hawl i reoli (HiR)

Cyflwynwyd cwmnïau HiR o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Cwmnïau preifat sy’n gyfyngedig drwy warant yw’r rhain ac maent yn galluogi lesddeiliaid tymor hir mewn blociau o fflatiau i reoli eu hadeiladau.

Rhaid i lesddeiliaid ffurfio cwmni cyfyngedig drwy warant i gyflawni eu swyddogaethau rheoli. Pennir y rheolau cyfansoddiadol y mae gofyn i gwmni HiR yn Lloegr eu cynnwys yn eu herthyglau cymdeithasu yn Rheoliadau Cwmnïau HiR (Erthyglau Enghreifftiol) (Lloegr) 2009 (OS 2009/2767). Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i bob cwmni HiR presennol ac arfaethedig.

5.4 Dogfennau sydd eu hangen i gorffori cwmni rheoli fflatiau

I gorffori cwmni HiR rhaid ffeilio’r dogfennau a restrir yn corffori cwmni newydd. Wrth lenwi’r ‘Ffurflen gais am gofrestru cwmni’ (IN01c) dylech roi tic wrth opsiwn 3 (erthyglau wedi’u teilwra) o adran A7 a chynnwys yr erthyglau gyda’r dogfennau eraill. Rhaid i enw eich cwmni ddiweddu â’r geiriau “RTM” Company Limited’ neu ‘Cwmni Cyfyngedig “HiR”.

Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (“DCLG”) sy’n gyfrifol am gwmnïau HiR yn Lloegr. Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar wefan DCLG.

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno rheoliadau diwygiedig ar gyfer cwmnïau HiR yng Nghymru cyn gynted â phosibl. Gellir cael rhagor o wybodaeth trwy e-bostio alyn.williams@wales.gsi.gov.uk neu trwy ffonio 01685 729191.

Nid yw cwmnïau HiR yn bodoli yn yr Alban, nac yng Ngogledd Iwerddon.

5.5 Cymdeithasau cyfunddaliadol

Cyflwynwyd Cymdeithasau Cyfunddaliadol o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Math o berchnogaeth rydd-ddaliad ar dir yw cyfunddaliad sydd ar gael yn lle perchnogaeth prydlesau hir ar fflatiau a mathau eraill o eiddo rhyngddibynnol.

Mae’n cyfuno perchnogaeth rhydd-ddaliad ar un eiddo (uned) mewn datblygiad mwy ag aelodaeth o gwmni cyfyngedig sy’n berchen ar, ac yn rheoli, ardaloedd cyffredin datblygiad, er enghraifft bloc o fflatiau lle mae pob fflat yn uned a’r holl rannau eraill, fel y cynteddau, o dan gyfunddaliad.

Pennir y rheolau cyfansoddiadol y mae angen i gymdeithasau cyfunddaliad a gofrestrir yn Lloegr a Chymru eu cynnwys yn eu herthyglau cymdeithasu yn ‘Rheoliadau Cyfunddaliad 2009’ (OS 2009/2363).

5.6 Dogfennau sydd eu hangen i gorffori cwmni cymdeithas cyfunddaliadol

I gorffori eich cymdeithas cyfunddaliad rhaid ffeilio’r dogfennau a restrir yn corffori cwmni newydd. Wrth lenwi’r ‘Ffurflen gais am gofrestru cwmni’ (IN01c) dylech roi tic wrth opsiwn 3 (erthyglau wedi’u teilwra) o adran A7 a chynnwys yr erthyglau gyda’r dogfennau eraill. Rhaid i enw eich cwmni ddiweddu â’r geiriau ‘commonhold association limited’ neu ‘cymdeithas cyfunddaliad cyfyngedig’.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am gymdeithasau cyfunddaliad. Mae’r Cyngor Cynghori ar Brydlesau (LEASE) yn rhoi cyngor rhad ac am ddim am y gyfraith sy’n effeithio ar eiddo preswyl prydlesol yn Lloegr a Chymru

Sylwer nad oes Cymdeithasau Cyfunddaliad yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon.

6. Dewis enw ar gyfer y cwmni

Cyn dewis enw, dylech ddefnyddio ein gwasanaeth WebCHeck er mwyn sicrhau nad yw’r enw sydd gennych mewn golwg ‘yr un fath’ ag enw sydd eisoes ar y mynegai o enwau cwmni. Dylech edrych hefyd ar Gofrestr Nodau Masnach Swyddfa Eiddo Deallusol y DU er mwyn sicrhau nad yw’r enw’n gwrthdaro â nod masnach presennol.

Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan:

6.1 Dewiswch enw ar gyfer eich eiddo arfaethedig

Er bod y rhan helaethaf o ymgeiswyr yn cofrestru’r enw maent wedi’i ddewis, mae rhai cyfyngiadau sy’n effeithio ar y dewis o enw. Nodir y cyfyngiadau hyn yn Neddf Cwmnïau 2006, y Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Enwau a Datgeliadau Masnachu) 2015 (OS 2015/17) a’r Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Geiriau ac Ymadroddion Sensitif) 2014 (OS 2014/3140).

Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Enw cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu warant sy’n diweddu â’r geiriau “limited” neu “Ltd” (ond gweler cwestiwn 2). Fodd bynnag, os nodwyd bod y swyddfa gofrestredig yng Nghymru (cwmni “Cymreig”), gall ei enw ddiweddu â’r geiriau “cyfyngedig” neu “cyf” yn lle hynny.
  2. Rhaid i enw cwmni cyhoeddus ddiweddu â’r geiriau ‘public limited company’ neu ‘p.l.c’. Fodd bynnag, os nodwyd bod y swyddfa gofrestredig yng Nghymru (cwmni “Cymreig”), gall ei enw ddiweddu â’r geiriau “Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus” neu “CCC” yn lle hynny.
  3. Dim ond ar ddiwedd enw y ceir defnyddio rhai ymadroddion a thalfyriadau sy’n disgrifio math penodol o gwmni (gan gynnwys rhai cyfatebol Cymraeg), megis “Limited Liability Partnership” / “Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig” neu “Community Interest Company” / “Cwmni Buddiant Cymunedol”.
  4. Enw a allai awgrymu cysylltiad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gweinyddiaeth ddatganoledig, awdurdod lleol neu awdurdod cyhoeddus penodol.
  5. Enw sy’n cynnwys geiriau neu ymadroddion “sensitif” sydd wedi’u cynnwys mewn rheoliadau.
  6. Enw sy’n cynnwys geiriau a fyddai’n gyfystyr â thramgwydd.
  7. Enw tramgwyddus.
  8. Enw sydd ‘yr un fath’ ag enw sy’n bodoli ar y mynegai.
  9. Defnyddio rhai nodau, arwyddion, symbolau ac atalnodi penodol yn enw cwmni.

6.2 Eithriad rhag defnyddio’r gair “limited” yn enw eich cwmni

Gall cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy warant wneud cais i gael ei eithrio o’r gofyniad i gynnwys “limited”, “ltd”, “cyfyngedig” neu “cyf” yn ei enw ar yr amod bod yr erthyglau cymdeithasiad:

  • Amcanion y cwmni yw hyrwyddo neu reoleiddio masnach, celfyddyd, gwyddoniaeth, addysg, crefydd, elusen neu unrhyw broffesiwn ac unrhyw beth atodol neu ffafriol i unrhyw un o’r amcanion hynny
  • yn mynnu bod ei incwm yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo ei amcanion
  • gwahardd talu difidend, neu unrhyw adenillion ar yr elw, i’w aelodau
  • yn mynnu bod yr holl asedau a fyddai fel arall ar gael i’w aelodau’n gyffredinol yn cael eu trosglwyddo wrth iddo gael ei ddirwyn i ben - naill ai i gorff arall ag amcanion tebyg neu i gorff arall ag amcanion elusennol

Os ydych am wneud cais am eithriad adeg corffori, rhaid cwblhau Adran A3 o’r ffurflen gais am gofrestru (IN01c).

6.3 Enwau tebyg

Os yw enwau dau gwmni mor debyg nes eu bod yn debygol o ddrysu’r cyhoedd o ran p’run yw p’run, yna maent ‘yr un fath’ â’i gilydd. Mae’r rheoliadau’n nodi’r geiriau a’r ymadroddion y mae’n rhaid eu diystyru (gweler cwestiwn 4) a’r geiriau, ymadroddion, arwyddion a symbolau yr ystyrir eu bod yr un peth.

6.4 Beth sy’n cael ei ddiystyru

  1. Mae’r canlynol i gael eu diystyru ar ddiwedd yr enw:
Limited; Unlimited; Public Limited Company; Community Interest Company; Right to Enfranchisement; Right to Manage; European Economic Interest Grouping; Investment Company with Variable Capital; Limited Partnership;
Limited Liability Partnership; Open-Ended Investment Company; Charitable Incorporated Organisation; Industrial and Provident Society; Co-Operative Society; Community Benefit Society.
Cyfyngedig; Anghyfyngedig; Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus; Cwmni Buddiant Cymunedol; Cwmni Buddiant Cymunedol Cyhoeddus Cyfyngedig;Hawl I Ryddfreiniad; Cwmni RTM Cyfyngedig; Cwmni Buddsoddi  Chyfalaf Newidiol; Partneriaeth Cyfyngedig; Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig; Cwmni Buddsoddiad Penagored; Sefydliad Elusennol Corfforedig.
LTD; PLC; CIC; RTE; RTM; EEIG; LP; LLP; CIO; CYF; CCC; CBC; Cwmni Buddiant Cymunedol CCC; PC; PAC; SEC.
  1. Pan fo lle gwag, atalnod llawn neu “@” o’u blaen, y canlynol:
& co; & company; and co; and company
biz
co; co uk; co.uk; com; company
eu
GB; Great Britain
net; NI; Northern Ireland
org; org uk; org.uk
UK; United Kingdom
Wales
& cwmni; a’r cwmni; cwmni; cym; Cymru
DU
PF; Prydain Fawr
Y Deyrnas Unedig
  1. Unrhyw un o’r uchod os oes cromfachau o’i flaen ac yn ei ddilyn.
  2. Yr atalnodi, arwyddion a symbolau ‘ ’ ‘ , ( ), [ ], { }, < >, !, « », “, ”, “, ?, . /, ?, \, /.
  3. “*”, “=”, “#”, “%” and “+” pan y’i defnyddir fel un o’r tri nod cyntaf mewn enw.
  4. “s” ar ddiwedd enw.
  5. unrhyw nodau ar ôl y 60 nod cyntaf mewn enw.
  6. “the” a “www” ar ddechrau enw.

6.5 Pa nodau, geiriau, ymadroddion, arwyddion a symbolau sy’n cael eu hystyried ‘yr un fath’ â’i gilydd?

Colofn 1(nodau a ganiateir) Colofn 2 (i gael eu trin yr un fath â)
À Á Â Ã Ä Å Ā Ă Ą Ǻ A
Æ Ǽ AE
Ç Ć Ĉ Ċ Č C
Þ Ď Đ D
È É Ê Ë Ē Ĕ Ė Ę Ě E
Ĝ Ğ Ġ Ģ G
Ĥ Ħ H
Ì Í Î Ï Ĩ Ī Ĭ Į İ I
Ĵ J
Ķ K
Ĺ Ļ Ľ Ŀ Ł L
Ñ Ń Ņ Ň Ŋ N
Ò Ó Ô Õ Ö Ø Ō Ŏ Ő Ǿ O
ΠOE CE
Ŕ Ŗ Ř R
Ś Ŝ Ş Š S
Ţ Ť Ŧ T
Ù Ú Û Ü Ũ Ū Ŭ Ů Ű Ų U
Ŵ Ẁ Ẃ Ẅ W
Ỳ Ý Ŷ Ÿ Y
Ź Ż Ž Z
Colofn 1 (nodau, geiriau ac ymadroddion a ganiateir) Colofn 2 (i gael eu trin yr un fath â)
AND &
PLUS +
0, ZERO O
1 ONE
2, TWO, TO and TOO TOO
3 THREE
4, FOUR FOR
5 FIVE
6 SIX
7 SEVEN
8 EIGHT
9 NINE
£ POUND
EURO
$ DOLLAR
¥ YEN
%, PER CENT, PERCENT, PER CENTUM PERCENTUM
@ AT

6.6 Esiamplau o enwau yr un fath

Mae ‘ŘEAL COFFEE CAFÉ LTD’ yr un fath â ‘REAL COFFEE CAFE LTD’. Mae ‘PLUM TECHNOLOGY LTD’ yr un fath â ‘PLUM TECHNOLOGY & COMPANY LTD’

6.7 Eithriadau i’r rheolau ‘yr un fath â’

Ni fydd y rheol ‘yr un fath’ yn berthnasol lle:

  • lle bwriedir i’r cwmni arfaethedig fod yn rhan o’r un grŵp â chwmni ‘yr un fath’ sy’n bodoli eisoes
  • lle bo’r cwmni sy’n bodoli eisoes yn cydsynio i gofrestru’r enw arfaethedig
  • lle bo’r cais am gofrestru’n cynnwys llythyr oddi wrth y cwmni sy’n bodoli eisoes yn cadarnhau ei fod yn cydsynio i gofrestu’r enw arfaethedig ac y bydd yn rhan o’r un grŵp

7. Geiriau ac ymadroddion sensitif

Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r geiriau ac ymadroddion sensitif a nodir yn y Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Geiriau ac Ymadroddion Sensitif) 2014 (OS 2009/3140) fod yn enw cwmni neu PAC, neu enw busnes.

Mae’r rheolaethau’n bodoli er mwyn sicrhau nad yw enw’n camarwain neu niweidio’r cyhoedd. Mae’n bosibl na fydd yn briodol defnyddio gair penodol os yw’n:

  • yn awgrymu goruchafiaeth mewn busnes, statws penodol neu swyddogaeth arbennig, er enghraifft, enwau sy’n cynnwys ‘British’ / ‘Prydeinig’, ‘Institute’ / ‘Sefydliad’ neu ‘Tribunal’ / ‘Tribiwnlys’
  • a allai ymhlygu cysylltiad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gweinyddiaeth ddatganoledig neu awdurdod lleol neu gyhoeddus penodol
  • cynnwys gair sy’n cynrychioli gweithgaredd a reoleiddir
  • cynnwys gair y gallai ei ddefnyddio fod yn dramgwydd

Mae [Atodiad A]https://www.gov.uk/government/publications/incorporation-and-names/5125865) yn nodi’r meini prawf cymeradwyo i ddefnyddio gair neu ymadrodd sensitif sydd wedi’i gynnwys yn y rheoliadau. Rhaid cynnwys gwybodaeth y bwriedir iddi gefnogi enw arfaethedig, megis llythyr neu neges e-bost yn mynegi diffyg gwrthwynebiad gan gorff penodol, gyda’r ‘cais i gofrestru cwmni (IN01c)’ neu i ddefnyddio enw busnes.

7.1 Geiriau cyfyngedig eraill

Bydd angen cymeradwyaeth arnoch os ydych am ddefnyddio enw sy’n:

  • awgrymu cysylltiad â llywodraeth y DU, gweinyddiaeth ddatganoledig neu awdurdod cyhoeddus lleol neu benodedig. Mae Atodiad B yn cynnwys rhestr o eiriau ac ymadroddion sydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw ac yn cynnwys manylion cyrff cyswllt a meini prawf cymeradwyo
  • yn cael ei ddiogelu neu ei reoleiddio gan ddeddfwriaeth arall. Mae Atodiad C yn cynnwys rhestr o eiriau sydd wedi’u gwarchod, cyrff cyswllt a meini prawf cymeradwyo.

8. Gwrthwynebiadau i enwau cwmnïau

Gellir mynnu eich bod yn newid eich enw cofrestredig ar ôl i gwŷn ddod i law os:

  • yw’r enw’n ‘rhy debyg’ i enw sydd eisoes ar y mynegai
  • mae gwybodaeth gamarweiniol i gefnogi’r defnydd o air neu fynegiant sensitif a ddarparwyd adeg cofrestru
  • mae’r enw’n rhoi arwydd mor gamarweiniol o weithgareddau’r cwmni, mae’n debygol o achosi niwed i’r cyhoedd
  • nad oes gan y cwmni gyfiawnhad mwyach dros hepgor “Limited” o ddiwedd ei enw
  • yw’r enw yr un peth ag enw sy’n gysylltiedig â’r ymgeisydd (achwynydd) y mae ganddo ewyllys da ynddo; neu os yw’n ddigon tebyg ac yn debygol o gamarwain trwy awgrymu cysylltiad rhwng y cwmni a’r ymgeisydd (“cofrestru oportiwnistaidd”)

8.1 Enwau ‘rhy debyg’

Gall enw fod yn ‘rhy debyg’ i enw sy’n bodoli eisoes os yw’n wahanol i enw arall ar y mynegai dim ond o ychydig o nodau, arwyddion, symbolau neu atalnodi neu os yw’n edrych ac yn swnio’r un peth.

Wrth ystyried cwyn ar y sail bod enw’n ‘rhy debyg’ ni allwn gymryd i ystyriaeth ffactorau megis achos honedig o dorri ar nod masnach, cysylltiad ymhlyg, peri coel posibl, lleoliad daearyddol neu debygrwydd gweithgareddau. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol roi unrhyw gyfarwyddyd cyn pen deuddeng mis ar ôl cofrestru’r cwmni o dan yr enw dan sylw.

Mae’r mwyafrif helaeth o enwau ar gael i’w cofrestru ond er mwyn osgoi posibilrwydd mynd i gostau newid papur swyddfa, arwyddion, gwefan ac ati, rydym yn cynghori ymgeiswyr i wirio’r mynegai enwau cwmnïau cyn bwrw ymlaen â’u ceisiadau.

8.2 Gwybodaeth gamarweiniol

Efallai y bydd angen i gwmni newid ei enw os nad yw, o fewn 5 mlynedd i gofrestru, yn cyfiawnhau defnyddio gair sensitif a gymeradwywyd yn flaenorol mwyach, oherwydd bod gwybodaeth gamarweiniol wedi’i darparu pan gofrestrwyd yr enw neu nad yw bellach yn cyflawni ymgymeriad neu sicrwydd a roddwyd i gefnogi’r enw.

8.3 Arwydd camarweiniol o weithgareddau

Mae’n bosibl y bydd angen i gwmni newid ei enw os yw’n rhoi argraff mor gamarweiniol o natur ei weithgareddau nes ei fod yn debygol o niweidio’r cyhoedd. Nid oes cyfyngiad amser ar gyfer cyflwyno cwyn.

8.4 Pryd y bydda angen i chi adfer ‘Cyfyngedig’ ‘Limited’ mewn enw cwmni

Gallai cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant gael ei gyfarwyddo gan yr Ysgrifennydd Gwladol i adfer y gair ‘limited’ neu ‘ltd’, ‘cyfyngedig’ neu ‘cyf’ i’w enw os nad yw mwyach yn bodloni’r gofynion ar gyfer eithrio.

8.5 Beth yw cofrestru oportiwnistaidd?

Cofrestru oportiwnistaidd yw’r term a ddefnyddir ar gyfer cwmni neu PAC sy’n cofrestru enw sydd yr un peth ag enw sy’n bodoli eisoes y mae gan rywun arall ewyllys da ynddo; neu os yw enw mor debyg nes na all y cyhoedd wahaniaethu rhwng y naill enw a’r llall.

Y Tribiwnlys Enwau Cwmnïau, rhan o’r Swyddfa Eiddo Deallusol, sy’n ystyried cwynion am gofrestru oportiwnistaidd. Mae’r ddarpariaeth hon yn darparu rhwymedi i bartïon sy’n credu bod cofrestru enw cwmni neu PAC y mae ganddynt ewyllys da ynddo yn achosi niwed iddynt. Os yw’r Tribiwnlys yn cadarnhau cwyn gall y Dyfarnwr Enwau Cwmnïau gyhoeddi Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni dan sylw newid ei enw. Os yw’r cwmni’n peidio â chydymffurfio trwy newid ei enw’n wirfoddol gall y Dyfarnwr gyflwyno Hysbysiad i’r Cofrestrydd Cwmnïau i newid enw’r cwmni i’w rif cwmni, felly ei rif fydd ei enw.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflenni cais a manylion cyswllt, ar gael trwy fynd i wefan y Tribiwnlys Enwau Cwmnïau.

9. Enwau busnes

‘Enw busnes’ yw unrhyw enw y mae rhywun yn cynnal busnes oddi tano. Yn achos cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, mae’n golygu enw nad yw’n enw cofrestredig iddynt. Yn achos unig fasnachwr, mae’n golygu enw ar wahân i’w gyfenw, gyda neu heb ei enwau blaen neu ei flaenlythrennau. Yn achos partneriaeth, mae’n golygu enw ar wahân i enwau’r partneriaid.

9.1 Pa ddarpariaethau o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i fy enw busnes?

Ni chofrestrir enwau busnes o dan y Ddeddf Cwmnïau, ond mae rhai o reolau’r ddeddf yn berthnasol, sef yn bennaf:

  • cyfyngiadau ar ddefnyddio rhai geiriau mewn enwau ac enwau a allai awgrymu cysylltiad ag adran o’r llywodraeth neu gorff cyhoeddus
  • defnydd amhriodol a chamarweiniol o derfyniad enw, e.e. ‘limited’, ar ddiwedd enw a masnachu. Os mae’r cwmni’n masnachu, mae yna reolau sy’n rhwystro defnydd o enwau a allai gamarwain y cyhoedd
  • rheolau sy’n gofyn bod unig fasnachwyr a phartneriaethau sy’n defnyddio enw busnes yn eu dangos ar bapurach ac ar arwyddion mewn eiddo busnes

9.2 Sut mae cael cymeradwyaeth i ddefnyddio gair sensitif yn fy enw busnes?

Os yw eich enw busnes yn cynnwys unrhyw un o’r geiriau ac ymadroddion a nodir yn Atodiadau A-C, rhaid i chi ofyn am safbwyntiau ysgrifenedig y corff perthnasol, lle bo hynny’n briodol, a’u hanfon i Dŷ’r Cwmnïau ynghyd â’ch llythyr sy’n gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r enw. Mae’n drosedd defnyddio enw o’r fath heb gael caniatâd ymlaen llaw, a gellir codi dirwy arnoch. Dylech hefyd sicrhau nad yw eich enw busnes yn torri nod masnach sy’n bodoli eisoes.

9.3 Arddangos eich enw busnes

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth sy’n defnyddio enw gwahanol wrth fasnachu, rhaid i chi arddangos eich enw eich hun (yr unig fasnachwr) neu enwau’r holl bartneriaid (partneriaeth) mewn man amlwg ym mhob un o’ch safleoedd busnes.

9.4 Deunydd ysgrifennu ar gyfer eich busnes

Os ydych chi’n defnyddio enw busnes, rhaid i chi gynnwys eich enw chi neu enwau’r partneriaid ar:

  • llythyrau busnes
  • ar archebion ysgrifenedig am nwyddau neu gwasnaethau ar gyfer y busnes
  • negeseuon e-bost y busnes
  • mewn anfonebau a derbynebau a gyhoeddir wrth gynnal y busnes
  • mewn ceisiadau ysgrifenedig i dalu dyledion sy’n codi wrth gynnal y busnes

Rhaid cynnwys cyfeiriad yn y DU lle gellir cyflwyno dogfennau busnes i’r unig fasnachwr neu unrhyw bartner ar y papurach busnes hefyd.

10. Datgelu enw’r cwmni a gwybodaeth benodol arall (‘datgeliadau masnachol’)

Mae’r rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn gofyn bod cwmni yn arddangos ei enw yn ei swyddfa gofrestredig, yn ei safleoedd busnes eraill, ar ei holl ddogfennau busnes ac ar unrhyw wefannau. Pwrpas y rheoliadau yw y sicrhau y datgelir hunaniaeth y cwmni i unrhyw un sy’n ymdrin ag e, neu a allai ymdrin ag e.

Daw’r gofynion hyn o’r ‘Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Enwau a Datgeliadau Masnachu) 2015 (OS 2015/17).

10.1 Arddangos enw eich cwmni

Rhaid i bob cwmni, oni bai ei fod wedi bod yn segur yn barhaus ers ei ymgorffori, arddangos arwydd gyda’i enw cofrestredig yn:

  • yn ei swyddfa gofrestredig
  • mewn unrhyw fan archwilio
  • ym mhob lleoliad lle mae’n cynnal busnes (oni ddefnyddir y lleoliad fel llety preswyl yn bennaf)

Rhaid iddo hefyd gynnwys ei enw cofrestredig ar ei holl ohebiaeth busnes (ar bapur ac yn electronig).

10.2 Arwydd gyda enw eich cwmni

Rhaid i chi arddangos arwydd sy’n cynnwys enw eich cwmni:

  • mewn arwyddnodau y gall y llygad noeth eu darllen
  • mewn ffordd sy’n caniatáu i ymwelwyr â’r swyddfa, y fan neu’r lleoliad hwnnw ei weld yn hawdd
  • yn barhaus, ond os yw’r lleoliad yn cael ei rannu gan 6 chwmni neu fwy, rhaid i bob cwmni o’r fath naill ai arddangos ei enw cofrestredig am o leiaf 15 eiliad barhaus o leiaf unwaith ym mhob 3 munud, neu sicrhau bod ei enw cofrestredig ar gael i’w archwilio ar gofrestr gan unrhyw ymwelydd

10.3 Enw’r cwmni mewn cyfathrebiadau

Rhaid i chi ymgorffori enw cofrestredig eich cwmni i bob math o ohebiaeth a dogfennaeth fusnes, p’un a yw ar bapur neu’n electronig, mae hyn yn cynnwys:

  • llythyrau busnes, hysbysiadau a chyhoeddiadau swyddogol eraill
  • negeseuon e-bost y busnes
  • biliau cyfnewid, addawebion, arnodiadau a ffurflenni archeb
  • sieciau a lofnodwyd gan y cwmni neu ar ei ran
  • archebion am arian, nwyddau neu wasanaethau yr honnir eu bod wedi’u llofnodi gan neu ar ran biliau’r cwmni o barseli, anfonebau a galwadau eraill am daliad, derbynebau a llythyrau credyd

10.4 Enw cwmni ar wefannau

Rhaid i bob cwmni arddangos ei enw cofrestredig ar ei wefannau. Nid oes rhaid i chi gynnwys enw eich cwmni ar bob tudalen, ond rhaid ei fod yn weladwy ac yn hawdd i’w ddarllen.

10.5 Eithriadau i’r angen i arddangos enw cwmni

Mae yna 2 eithriad:

  • nid yw’n ofynnol i gwmni ansolfent, h.y. cwmni y mae datodydd, gweinyddydd neu dderbynnydd gweinyddol wedi’i benodi mewn perthynas ag ef, arddangos ei enw cofrestredig mewn unrhyw fangre sydd hefyd yn lleoliad busnes yr arbenigwyr ansolfedd hynny
  • cwmnïau lle na all y cofrestrydd ddatgelu cyfeiriad preswyl unrhyw un o’u cyfarwyddwyr i asiantaeth gredyd, os felly, nid oes angen i’r cwmni arddangos ei enw cofrestredig mewn unrhyw le lle maent yn cyflawni eu busnes (nid yw’r eithriad hwn yn ymestyn i swyddfa gofrestredig y cwmni na’r man archwilio ar gyfer cofnodion y cwmni)

10.6 Gwybodaeth ychwanegol mae’n rhaid i chi ei datgelu

Rhaid i gwmni arddangos y canlynol ar bob un o’i lythyrau busnes, ei ffurflenni archeb a’i wefannau:

  • ym mha ran o’r Deyrnas Unedig y cofrestrwyd y cwmni (h.y. Lloegr a Chymru, Cymru, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon)
  • rhif cofrestru’r cwmni
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
  • os yw’r cwmni wedi ei eithrio rhag y gofyniad i ddefnyddio ‘cyfyngedig’ neu ‘limited’ yn ei enw, y ffaith ei fod yn gwmni cyfyngedig
  • os yw’r cwmni yn gwmni buddiant cymunedol nad yw’n gwmni cyhoeddus, y ffaith ei fod yn gwmni cyfyngedig
  • os yw’r cwmni yn gwmni buddsoddi o fewn y diffiniad yn adran 833 o Ddeddf Cwmnïau 2006, y ffaith mai’r math hwnnw o gwmni ydyw
  • os yw’n gwmni sydd wedi dewis cyhoeddi ei gyfalaf cyfrannau, rhaid iddo arddangos swm ei gyfalaf cyfrannau taledig

10.7 Pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r cwmni ei ddarparu os gwneir cais?

Os bydd unrhyw un y mae’r cwmni’n delio ag ef yn ystod busnes yn gwneud cais ysgrifenedig am:

  • gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig
  • cyfeiriad unrhyw fan archwilio
  • y math o gofnodion a gedwir yn y swyddfa gofrestredig neu’r man archwilio

Rhaid i’r cwmni ddarparu’r wybodaeth hon yn ysgrifenedig cyn pen pum diwrnod gwaith.

10.8 Arddangos enwau’r cyfarwyddwyr

Nid oes rhaid i gwmni ddatgan enwau’r cyfarwyddwyr ar ei lythyrau busnes os nad yw’n dewis gwneud hynny. Fodd bynnag, os yw’r cwmni yn penderfynu cynnwys yr enwau yn ei ohebiaeth, rhaid iddo ddatgan enw pob un o’r cyfarwyddwyr. Hynny yw, ni chaiff cwmni ddewis a dethol enwau pa gyfarwyddwyr i’w dangos Rhaid dangos pob un ohonnynt neu dim ogwbl.

10.9 Cwmnïau elusennol

O dan adran 68 o Ddeddf Elusennau 2011 rhaid i gwmni elusennol nad yw ei enw’n cynnwys y gair ‘charity’ neu ‘charitable’ ddatgan ei fod yn elusen ar ddogfennau’r cwmni, gan gynnwys llythyrau busnes, hysbysiadau, anfonebau, biliau cyfnewid, addawebion ac unrhyw drawsgludiadau a wneir ganddo. Y ddeddfwriaeth berthnasol yn yr Alban yw Deddf Elusennau a Buddsoddiad Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005.

11. Gwybodaeth gefndir

11.1 Cyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau

Rhaid i’r mwyafrif o ddogfennau papur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau ddatgan enw cofrestredig a rhif y cwmni mewn man amlwg. Mae nifer fach o eithriadau i’r rheol hon, a nodir y rheiny yn y canllaw Rheolau a Phwerau’r Cofrestrydd (Saesneg yn unig).

Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen maint A4 â gorffeniad mat. Dylai’r testun fod yn ddu, yn glir, yn ddarllenadwy ac â’r un dwyster drwyddi draw.

Mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol a gyflwynir yn ddarllenadwy fel y gellir cynhyrchu copi clir o’r ddogfen ar gyfer y cofnod cyhoeddus. Mae’n bosibl y caiff y ddogfen neu’r ffurflen ei gwrthod (ei dychwelyd i’r cwmni) os na chaiff ei chyflwyno mewn fformat derbyniol.

Mae mwy o wybodaeth am ansawdd dogfennau a’u cyflwyno ar gael yn y canllaw Rheolau a Phwerau’r Cofrestrydd(Saesneg yn unig).