Canllawiau

Gofynion o ran PRhA ar gyfer cwmnïau a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

Arweiniad ar gyfer cwmnïau a phartneriaethau atebolrwydd cyhoeddus (PAC) ar y gofynion o ran y gofrestr pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) sydd i fod i ddod i rym ar 6 Ebrill 2016.

Dogfennau

PSC register summary guidance

LLP statutory guidance for the PSC register

Guidance for People with Significant Control

Manylion

Mae’r gofynion hyn yn cyflwyno dyletswyddau cyfreithiol newydd a gallai’r rheiny sy’n peidio â chydymffurfio fod yn cyflawni trosedd a gallent gael eu dirwyo a/neu eu carcharu.

Mae’r arweiniadau hyn wedi cael eu paratoi gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol gyda chymorth arbenigwyr ym meysydd busnes, cymdeithas sifil a’r gyfraith.

Sut i anfon eich gwybodaeth PRhA atom ni

Anfonwch wybodaeth PRhA atom:

Canllawiau i’r gofynion o ran PRhA

Canllawiau cyffredinol sy’n esbonio beth mae’n rhaid i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio â’r gofynion o ran PRhA.

Canllawiau cryno

Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg bras ar y gofynion o ran PRhA ar gyfer cwmnïau. Os oes gennych strwythur syml o ran perchnogaeth a rheolaeth y cwmni, mae’n bosibl na fydd angen i chi ddarllen canllawiau ychwanegol.

Canllawiau i gwmnïau

Mae’r canllaw hwn yn rhoi esboniad manwl o’r gofynion o ran PRhA ar gyfer cwmnïau. Dylai hwn roi’r holl wybodaeth y mae’r rhan fwyaf o gwmnïau ei hangen i gwblhau eu cofrestri PRhA. Mae’n bosibl y bydd angen i rai â strwythurau perchnogaeth neu reolaeth mawr neu gymhleth iawn geisio cyngor annibynnol.

Canllawiau i PRhA

Mae’r canllaw hwn yn rhoi esboniad manwl o’r gofynion o ran PRhA ar gyfer unigolion a all fod yn PRhA. Mae hwn yn rhoi’r holl wybodaeth mae angen i PRhA ei gwybod er mwyn cydymffurfio â’r gofynion newydd.

Mae’r Adran yn croesawu sylwadau ynghylch sut y gellid gwella’r canllawiau hyn. Gweler y dudalen cysylltiadau ym mhob un o’r dogfennau.

Canllawiau statudol ar ystyr dylanwad neu reolaeth arwyddocaol

Canllaw penodol yw hwn i ystyr un term yn y ddeddfwriaeth ar PRhA – mae ‘dylanwad neu reolaeth arwyddocaol’ wedi’i gynnwys yn y pedwerydd a’r pumed amod penodol am fod yn berson â rheolaeth arwyddocaol. Mae angen yr arweiniad statudol i esbonio sut y dylid dehongli’r term hwnnw.

Mae canllawiau statudol ar wahân ar gyfer cwmnïau (gan gynnwys SE) a PAC.

Mae’r canllawiau statudol ar gyfer cwmnïau wedi cael ei osod gerbron Senedd y DU ar ffurf ddrafft ac mae’n aros am gymeradwyaeth. Os caiff ei gymeradwyo, bydd ganddo statws statudol.

Ni ellir gosod y canllawiau statudol ar gyfer PAC gerbron Senedd y DU hyd nes i’r rheoliadau PAC ddod i rym. Mae hyn yn golygu y caiff ei osod gerbron Senedd y DU ar 6 Ebrill 2016, ac y bydd yn dod i rym ar ôl bod gerbron Senedd y DU am 40 diwrnod. Caiff ei roi yma ar ffurf ddrafft.

Mae’n bosibl y bydd defnyddwyr Firefox yn cael problemau wrth argraffu’r arweiniad hwn. Rydym yn eich cynghori i lawrlwytho’r ddogfen neu ei hargraffu o borwr gwahanol.

Cyhoeddwyd ar 27 January 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 February 2018 + show all updates
  1. Links to PSC forms added.

  2. Guidance updated to reflect changes to the PSC regime in June 2017.

  3. Reference to BIS changed to BEIS due to department name change.

  4. New version of 'company statutory guidance for the PSC register' added, which is no longer in draft. New version of 'draft LLP statutory guidance for the PSC register' added.

  5. Guidance for people with significant control updated to version 2 and PSC guidance for companies, LLPs and SEs updated to version 4.

  6. Guidance for PSCs added to the page.

  7. Correction in Chapter 7 to the section on ‘Rights exercisable only in certain circumstances’.

  8. New version of PSC guidance for companies, LLPs and SEs: updated wording in Annex 4: Guidance for Limited Liability Partnerships (LLPs).

  9. Welsh landing page translation added.

  10. Clarification to 12 February update: No additional text added. Correction made to section 7.1 of Chapter 7 in PSC guidance for companies, LLPs and SEs. 15 February: New version of PSC guidance for companies, LLPs and SEs attached, with extra wording for the register added to Annex 4: Guidance for Limited Liability Partnerships (LLPs).

  11. Additional text to Chapter 7 regarding treasury shares

  12. First published.