Deunydd hyrwyddo

Canolfan Byd Gwaith – cydweithio gyda chyflogwyr

Diweddarwyd 22 December 2023

Gwasanaeth Cymorth Recriwtio

Gall ein rhwydwaith o Gynghorwyr Cyflogwyr lleol eich helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn ar gyfer eich swyddi a hefyd cefnogi eich cymuned. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi Cynghorydd Cyflogwr a enwir i chi a fydd yn gweithio gyda chi i lenwi’ch swyddi gwag gan ddefnyddio’r datrysiad recriwtio mwyaf addas, gan gynnwys:

  • help gyda disgrifiadau swydd
  • cyflymu eich proses recriwtio
  • hyrwyddo eich swyddi gwag mewn Canolfannau Gwaith lleol a’n cyfryngau cymdeithasol
  • defnyddio swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer cyfweliadau (lle bo ar gael) a digwyddiadau recriwtio lleol
  • cynllunio eich ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol

Gall ein Cynghorwyr Cyflogwyr weithio gyda chi i ddylunio pecyn pwrpasol i ddiwallu eich anghenion recriwtio, gan gynnwys:

Yn ogystal, gallwn gynnig mwy o gymorth i gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i lwyddo yn y farchnad lafur.

Gwasanaeth hysbysebu swyddi gwag

Hysbysebu eich swyddi drwy ein gwasanaethau ar-lein sy’n cael eu defnyddio gan filiynau o bobl bob wythnos:

Gwasanaeth cyngori

Cyngori eich busnes, gan gynnwys:

  • Cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd – annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a gweithredu i wella sut maent yn recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl
  • Mynediad at Waith – cymorth a chefnogaeth ymarferol i helpu pobl anabl i ddechrau neu aros mewn gwaith
  • Addasiadau rhesymol – darparu cymorth i weithwyr ag anableddau a/neu gyflyrau iechyd a gwybodaeth am y Pasbort Addasu Iechyd.
  • Prentisiaethau – cyflogi prentis a’r cyllid sydd ar gael
  • Cynnydd yn y Gwaith – arbenigwyr cynnydd lleol yn helpu i dyfu eich busnes wrth gadw a datblygu gweithwyr. Gallant nodi rhwystrau i gynnydd/hyrwyddo a chysylltu â’r gefnogaeth a’r cyllid sydd ar gael
  • Credyd Cynhwysol a chyflogwyr – gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd y gall Credyd Cynhwysol eu cynnig i fusnes
  • Gwasanaeth diswyddo – cymorth pwrpasol drwy ein Gwasanaeth Ymateb Cyflym ac am ddim i’ch helpu chi a’ch gweithwyr drwy’r broses o ddiswyddo
  • Pensiynau gweithle – cyngor ar sut i sefydlu a rheoli cynllun pensiwn gweithle

Cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith

Cael mwy o gyngor am wasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith:

Cysylltwch â Gwasanaethau Cyflogwyr ar-lein neu dros y ffôn

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gysylltu â Gwasanaethau Cyflogwyr gyda’ch ymholiad recriwtio.

Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr
Ffôn: 0800 169 0178
Ffôn testun: 0800 169 0172
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau