Canllawiau

Credyd Cynhwysol a chyflogwyr

Gwybodaeth i gyflogwyr ar sut mae Credyd Cynhwysol ac enillion yn cael eu gweithio allan, cyfrifoldebau cyflogwyr a chymorth sydd ar gael.

Applies to England, Scotland and Wales

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol sengl i bobl sydd ar incwm isel, sydd allan o waith neu sy’n methu gweithio. Fel arfer, caiff ei dalu unwaith y mis, mewn ôl-daliad, yn uniongyrchol i gyfrif yr hawlydd.

Nid yw Credyd Cynhwysol yn cyfyngu ar nifer yr oriau y gall hawlydd weithio

Defnyddir enillion hawlydd i gyfrifo eu Credyd Cynhwysol. Felly nid yw nifer yr oriau y gall hawlydd weithio a chael Credyd Cynhwysol yn cael eu cyfyngu.

Er enghraifft, gall hawlwyr:

  • weithio mwy nag 16 awr yr wythnos

  • cynyddu eu horiau dan gontract

  • cael taliadau bonws

  • cael goramser

  • cael mwy nag un swydd

  • bod ar unrhyw fath o gontract cyflogaeth

Sut mae enillion yn effeithio ar daliadau Credyd Cynhwysol

Pan fydd hawlydd yn cael eu cyflogi, bydd eu taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau wrth iddynt ennill.

Am bob £1 y maent yn ei ennill, mae eu taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c yn unig. Os yw’r hawlydd yn ennill digon i leihau eu taliad Credyd Cynhwysol i £0, bydd eu taliadau yn dod i ben. Rydym yn dweud wrth yr hawlydd pan fydd hyn yn digwydd.

Mae rhai hawlwyr, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, yn gymwys i gael ‘lwfans gwaith’. Mae hwn yn swm y gallant ei ennill cyn i’w taliad Credyd Cynhwysol gael ei leihau.

Os yw’r hawlydd yn ennill swm gwahanol bob mis, bydd eu Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig i adlewyrchu’r swm y maent yn ei ennill yn yr amser hwnnw:

  • os bydd enillion rhywun yn lleihau mewn mis, yna bydd eu Credyd Cynhwysol fel arfer yn cynyddu

  • os bydd eu henillion yn cynyddu, bydd eu Credyd Cynhwysol fel arfer yn lleihau

Darganfyddwch fwy am sut mae enillion yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol.

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, efallai y gofynnir i hawlwyr chwilio am ffyrdd o gynyddu eu henillion. Gallai hyn fod drwy:

  • wneud mwy o waith

  • datblygu yn eu gweithle presennol

  • chwilio am waith ychwanegol neu amgen gyda chyflogwr gwahanol

I rai hawlwyr, gallai hyn olygu bod angen iddynt fynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith.

Cyflogwyr: eich cyfrifoldebau

Nid oes angen i gyflogwyr wybod a yw eu gweithwyr ar Gredyd Cynhwysol, ond gall hawlwyr ddweud wrth eu cyflogwr os ydynt yn dymuno.

Nid oes angen i chi ddweud wrth DWP am unrhyw weithwyr sy’n cael Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn gyflogwr TWE (Talu Wrth Ennill), mae’n rhaid i chi:

  • roi gwybodaeth TWE yr hawlydd (eu ‘Cyflwyniad Talu Llawn’ (FPS)) i CThEF ar neu cyn y diwrnod y maent i fod i gael eu talu

  • rhoi’r dyddiad arferol y byddwch yn talu eich gweithwyr ar eich FPS, hyd yn oed os byddwch yn eu talu ar ddyddiad gwahanol oherwydd bod eu dyddiad arferol yn syrthio ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod bancio, er enghraifft penwythnos neu ŵyl banc

Gallai gwybodaeth anghywir neu hwyr olygu na fydd hawlwyr yn derbyn y Credyd Cynhwysol y maent yn ei ddisgwyl.

Yna bydd DWP yn cael statws gwaith yr hawlydd ac yn gweithio allan yn awtomatig faint o Gredyd Cynhwysol y mae ganddynt hawl iddo yn seiliedig ar y wybodaeth rydych eisoes wedi’i rhoi i CThEF.

Os nad ydych yn gyflogwr TWE, cyfrifoldeb yr hawlydd yw rhoi gwybod am eu cyflog i Gredyd Cynhwysol bob mis.

Cymorth arall

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith wasanaethau recriwtio a all helpu cyflogwyr i recriwtio, hyfforddi, datblygu a chadw eu gweithlu. Darganfyddwch fwy am gymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith i recriwtwyr.

Os oes gan hawlydd ymholiad gallant:

Fideos

Gallwch hefyd wylio fideos byr sy’n cynnwys y canllawiau ar y dudalen hon. Mae fersiynau Cymraeg o’r fideos hyn yn y broses o gael eu datblygu.

Ar ddiwedd pob fideo mae’n dangos i chi sut i ddod o hyd i’r dudalen ‘Credyd Cynhwysol: gwybodaeth i gyflogwyr’ rydych chi’n edrych arni nawr.

Gwneud gwaith yn well i bawb

Mwy o hyblygrwydd i gyflogwyr a hawlwyr

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022