Rhowch fanylion eich apêl i'r llys: Ffurflen N161
Defnyddiwch y ffurflen hon ('hysbysiad yr apelydd') ar gyfer pob apêl a chaniatâd i apelio (ac eithrio apeliadau trac hawliadau bychain ac apeliadau i Adran Deulu'r Uchel Lys). Yn cynnwys nodiadau N161A, N161B, N161C ac N161D.
Dogfennau
Manylion
Darllenwch y nodiadau canllaw cyn llenwi’r ffurflen.
Defnyddiwch y ffurflen hon, a elwir weithiau’n ‘hysbysiad apelydd’, ar gyfer:
- achosion yn y trac cyflym
- achosion aml-drac
- apeliadau statudol gan dribiwnlysoedd a chyrff allanol eraill (ond nid apeliadau tribiwnlys i dribiwnlys)
Defnyddiwch y ffurflen hon ar gyfer apeliadau yn y:
- Llys Sirol
- Yr Uchel Lys
- Y Llys Apêl
Gwybodaeth am pa lys neu dribiwnlys i apelio iddo
Ar gyfer apeliadau mewn achosion trac hawliadau bychain, defnyddiwch ffurflen N164.
Ar gyfer apeliadau i Adran Deulu’r Uchel Lys, defnyddiwch ffurflen FP161.
Rhagor o wybodaeth am sut i apelio i Adran Sifil y Llys Apêl.
Gwiriwch ffioedd y llysoedd a’r tribiwnlysoedd a gwiriwch a allwch gael help i dalu ffioedd.
Canllawiau cysylltiedig
- apelio yn erbyn penderfyniad llys: apeliadau sifil a theulu (EX340)
- ffioedd yn y llysoedd sifil a theulu – prif ffioedd (EX50)
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
-
Updated the Welsh form. Created a Welsh landing page.
-
Added Welsh version of N161A guidance.
-
Updated guidance notes on completing form N161 – Appellant’s notice (all appeals except small claims track appeals or appeals to the Family Division of the High Court).
-
Uploaded new version of N161
-
Amended statement of truth.
-
Revised form N161 uploaded.
-
First published.