Canllawiau

Canllawiau i’r rheiny sy’n gofalu’n ddi-dâl am ffrind neu aelod o’r teulu

Diweddarwyd 8 July 2021

I bwy mae’r canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer unrhyw un yn Lloegr sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu na all ymdopi heb ei gefnogaeth, oherwydd cyflwr gydol oes, salwch, anabledd, anaf difrifol, cyflwr iechyd meddwl neu gaethiwed.

Mae’n ychwanegol at ganllawiau eraill a gyhoeddwyd ar GOV.UK, gan gynnwys:

Gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr

Gallai’r canllawiau hefyd fod o gymorth i’r rhai o dan 25 oed (gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr) sy’n darparu gofal i rywun. Mae’r wybodaeth a’r cyngor a ddarperir wedi’u cynllunio i helpu gofalwyr ifanc i ddeall y newidiadau y mae angen iddynt eu gwneud ac mae’n cyfeirio at y cymorth sydd ar gael yn ystod yr achosion o goronafeirws (COVID-19).

Rydych yn ofalwr ifanc os ydych o dan 18 oed ac yn gofalu am rywun sydd angen cefnogaeth gyda’i fywyd bob dydd. Efallai y bydd angen cymorth ar ffrind neu aelod o’r teulu (rhiant, brawd, chwaer, taid neu nain neu berthynas arall) oherwydd salwch, anabledd, anaf difrifol, cyflwr iechyd meddwl neu gaethiwed.

Os ydych dros 16 oed ond o dan 25 oed ac yn gofalu am rywun arall neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu amdano, rydych yn oedolyn ifanc sy’n ofalwr. Efallai eich bod yn byw gyda’r rhai yr ydych yn gofalu amdanynt neu beidio.

Os yw pawb yn iach, gallwch barhau i ddarparu gofal hanfodol a theithio i ddarparu’r gofal hwn. Gweler y wybodaeth isod am beth i’w wneud os oes gan rywun symptomau neu ganlyniad prawf positif ar gyfer coronafeirws.

Cyngor cyffredinol

Cyfyngiadau coronafeirws

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi Ymateb COVID-19 – gwanwyn 2021sy’n manylu ar fap sy’n dangos y ffordd allan o’r cyfyngiadau symud presennol ar gyfer Lloegr. Mae hwn yn esbonio sut y bydd cyfyngiadau’n cael eu llacio dros amser.

Newidiodd rhai o’r rheolau ar 21 Mehefin ynghylch yr hyn y gallwch chi neu na allwch chi ei wneud . Fodd bynnag, mae llawer o gyfyngiadau’n parhau.

Mae amrywiolyn newydd o COVID-19 yn lledaenu mewn rhai mannau yn Lloegr. Efallai y bydd cyngor ychwanegol ar gyfer eich ardal chi. Darganfod beth y mae angen i chi ei wneud.

Amddiffyn eich hun a’r person rydych yn gofalu amdano

Os nad oes gennych chi, neu’r person rydych yn gofalu amdano, unrhyw symptomau, cyfeiriwch at y canllawiau ar hylendid ar wefan y GIG, sy’n dweud:

Gofalwch:

  • olchi eich dwylo gyda dŵr a sebon yn aml, am o leiaf 20 eiliad

  • defnyddio gel diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon ar gael

  • gorchuddio’ch ceg a’ch trwyn gyda hances bapur neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn pesychu neu’n tisian

  • rhoi hancesi papur a ddefnyddiwyd yn y bin ar unwaith a golchi eich dwylo wedyn

  • glanhau gwrthrychau ac arwynebau rydych chi’n cyffwrdd â nhw yn aml (fel dolenni drysau, tegellau a ffonau) gan ddefnyddio eich cynhyrchion glanhau arferol

  • ystyried gwisgo gorchudd wyneb pan fyddwch mewn mannau a rennir

  • cadw ffenestri ar agor yn yr ystafell rydych chi’n aros ynddi a mannau eraill a rennir gymaint ag y gallwch.

Peidiwch â:

  • rhannu tyweli, gan gynnwys tyweli dwylo a thyweli te

Gwelwch y sefyllfaoedd penodol isod am beth i’w wneud os ydych chi neu’r person rydych chi’n gofalu amdano’n datblygu symptomau.

Cael eich brechu

Dylai pob gofalwr di-dâl sy’n gymwys o dan grŵp blaenoriaeth y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) grŵp blaenoriaeth 6 fod wedi derbyn gwahoddiad bellach i gael ei frechu.

Os ydych yn ofalwr di-dâl, rydych yn gymwys, ar yr amod eich bod naill ai:

  • Yn gymwys i gael lwfans gofalwr

  • Wedi’i nodi yn brif ofalwr gan eich meddyg teulu

  • Yn derbyn cymorth yn dilyn asesiad gofalwr gan eich cyngor lleol neu gan sefydliad gofalwyr lleol

  • Yn unig ofalwr neu’r prif ofalwr sy’n darparu gofal personol agos neu gymorth wyneb yn wyneb i berson oedrannus neu anabl sy’n glinigol agored i COVID-19

Os ydych yn gymwys ond heb gael dos cyntaf o’r brechlyn neu apwyntiad, dylech gysylltu â’ch meddygfa. Mae llawer o fanteision i ofalwyr gael eu cofrestru gyda meddyg teulu. Drwy wneud hynny, gellir rhoi gwybod i ofalwyr am wasanaethau cymorth lleol a gellir eu blaenoriaethu ar gyfer rhai brechiadau, gan gynnwys COVID-19 a’r brechlyn ffliw. Gallwch ddarllen mwy o gyngor ar frechiadau Covid-19 i ofalwyr.

Nid yw brechlynnau wedi’u trwyddedu ar hyn o bryd ar gyfer plant o dan 16 oed. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch brechu, gwelwch:

Neu cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’r ymarferydd iechyd neu wasanaeth perthnasol.

Beth ddylech chi fod yn ei wneud i baratoi

Rydym yn cynghori pob gofalwr i greu cynllun argyfwng gyda’r person y maent yn gofalu amdano, i’w ddefnyddio mewn amgylchiadau lle gallai fod angen cymorth gan bobl eraill i ddarparu gofal. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gallai hyn fod yn help gan deulu neu ffrindiau, neu ddarparwr gofal.

Er mwyn creu cynllun argyfwng sy’n gweddu i anghenion y person rydych yn gofalu amdano, bydd angen i chi nodi:

  • enw a chyfeiriad ac unrhyw fanylion cyswllt eraill y person rydych yn gofalu amdano

  • y bobl yr hoffech chi a’r person rydych yn gofalu amdano gael eu hysbysu mewn argyfwng

  • manylion unrhyw feddyginiaeth y mae’r person rydych chi’n gofalu amdano yn ei chymryd

  • manylion unrhyw driniaeth barhaus sydd ei hangen arno

  • manylion unrhyw apwyntiadau meddygol y mae angen iddo eu cadw

Dylech sicrhau hefyd fod hyn ar fformat y gellir ei rannu’n hawdd â phobl eraill. Efallai y bydd yn rhaid i’r bobl eraill hyn drafod y cynllun gyda’r person rydych yn gofalu amdano.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Carers UK.

Efallai y byddwch yn gallu trefnu cymorth a chefnogaeth gan deulu a ffrindiau, ond gall fod yn galonogol cael eich awdurdod lleol neu ddarparwr gofal iechyd i gymryd rhan rhag ofn bod y trefniadau anffurfiol yn methu. Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol cysylltu â’ch sefydliad cymorth gofalwyr lleol a fydd yn gallu helpu gyda chynlluniau wrth gefn. Gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau lleol ar wefan i ofalwyr yn Carers UK.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am wasanaethau lleol ar wefan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Os ydych yn ofalwr ifanc, siaradwch â’ch teulu a’r person rydych yn gofalu amdano am yr hyn y gallech ei wneud os bydd rhywun yn mynd yn sâl. Ysgrifennwch y cynllun hwn i lawr, a gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod ble i ddod o hyd iddo. Gallech ei adael yn rhywle y gall pawb ei weld, fel ar ddrws yr oergell.

Efallai y bydd gwybodaeth ar wefan gwasanaethau gofalwyr ifanc Cymdeithas y Plant yn ddefnyddiol.

Gofalu am rywun sy’n glinigol eithriadol o agored i niwed

Mae’r canllawiau ar warchod ac amddiffyn y bobl sy’n glinigol yn eithriadol o agored i niwed yn sgil COVID-19 wedi’u diweddaru. Gwelwch y canllawiau hyn am y cyngor diweddaraf i’r grwp hwn o bobl, sy’n cynnwys y diffiniad o grwpiau ‘sy’n glinigol yn eithriadol o agored i niwed’ a gwybodaeth am waith, cymdeithasu a chofrestru ar gyfer cymorth.

Os yw’r person rydych yn gofalu amdano yn pryderu am ei ofalwr cyflogedig arferol yn dod i mewn ac allan o’i gartref a’r risg o haint

Gall gofal i bobl sy’n agored i niwed a phobl anabl barhau. Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi coronafeirws (COVID-19): darparu canllawiau gofal cartref i sicrhau bod lefelau priodol o hylendid yn cael eu sicrhau i leihau’r risg o haint. Siaradwch â’r darparwr gofal am y prosesau y mae’n eu dilyn er mwyn cynnal hylendid da.

Cyfarpar diogelu personol (PPE)

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyfarpar diogelu personol am ddim ar gyfer COVID-19 i ofalwyr di-dâl nad ydynt yn byw gyda’r unigolyn neu’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Bydd hwn ar gael tan ddiwedd mis Mawrth 2022 a gellir ei gael trwy awdurdodau lleol (ALlau) a fforymau cydnerthedd lleol (LRF).

Gweler offer amddiffyn personol (PPE): cysylltiadau lleol i ddarparwyr i gael manylion ALlau a LRF sy’n darparu PPE i ofalwyr di-dâl. Gallwch gysylltu â nhw i ofyn am PPE.

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddiwallu anghenion cyfarpar diogelu personol sydd wedi codi oherwydd COVID-19. Os byddech fel arfer yn defnyddio cyfarpar diogelu personol oherwydd natur y gofal a ddarperir gennych, dylech barhau i’w gyrchu drwy eich llwybrau arferol.

Os ydych yn byw gyda’r person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt, nid oes angen i chi wisgo cyfarpar diogelu personol oni bai eich bod yn cael eich cynghori i wneud hynny gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel meddyg teulu neu nyrs.

Os ydych yn ofalwr ifanc, siaradwch â’ch teulu a’r person rydych yn gofalu amdano os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud.

PPE a argymhellir ar gyfer gofalwyr di-dâl nad ydynt yn byw gyda’r person neu’r bobl y maent yn gofalu amdanynt

Os nad ydych yn byw gyda’r person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt, argymhellir eich bod yn gwisgo cyfarpar diogelu personol wrth ddarparu gofal.

Mae’n hanfodol bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei wisgo’n gywir er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo. Dylid rhoi cyfarpar diogelu personol ymlaen a’i dynnu o leiaf 2 fetr i ffwrdd oddi wrth y person rydych yn gofalu amdano.

Gweler y canllawiau ar sut i wisgo cyfarpar diogelu personol ar waith, a sut i’w ddiosg yn gywir a chanllaw PPE eglurhaol cysylltiedig ar ba PPE i’w wisgo a phryd.

Bydd y math o PPE y dylech ei wisgo yn dibynnu ar y math o ofal a ddarperir gennych. Bydd y math o fwgwd llawfeddygol (Math II/ Math IIR) a roddwyd i chi yn cael ei nodi’n glir ar y blwch.

Senario Math o ofal sy’n cael ei ddarparu PPE a argymhellir
1 Gofal personol sy’n cynnwys cyffwrdd â’r person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt - Ffedog
- Menig
- Masg o fath llawfeddygol IIR
- Gellir defnyddio diogelwch llygaid, naill ai fisor neu gogls, (nid yw sbectol presgripsiwn yn amddiffyn llygaid) os oes risg o gysylltiad â hylifau corfforol (er enghraifft, oherwydd bod y person rydych chi’n gofalu amdano yn pesychu)

Mae’r PPE hwn hefyd yn berthnasol os yw’r person neu’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt yn glinigol eithriadol o agored i COVID-19.
2 Pan fyddwch ar aelwyd y person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt, o fewn 2 fetr i unrhyw un sy’n pesychu (p’un a ydych yn gofalu amdanynt ai peidio) neu a gafodd ganlyniad positif i brawf COVID-19 neu sydd dan gwarantin - Ffedog
- Menig
- Masg o fath llawfeddygol IIR
- Gellir defnyddio diogelwch llygaid, naill ai fisor neu gogls, (nid yw sbectol presgripsiwn yn amddiffyn llygaid) os oes risg o gysylltiad â hylifau corfforol (er enghraifft, oherwydd bod y person rydych chi’n gofalu amdano yn pesychu)

Mae’r PPE hwn hefyd yn berthnasol os yw’r person neu’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt yn glinigol eithriadol o agored i COVID-19.
3 Pan fyddwch o fewn 2 fetr i’r person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt (am ba reswm bynnag) ond heb eu cyffwrdd - Masg llawfeddygol math II neu IIR
- Does dim angen ffedog a menig (oni bai y byddech chi’n eu defnyddio ar gyfer y dasg beth bynnag, er enghraifft, glanhau)

Mae’r PPE hwn hefyd yn berthnasol os yw’r person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt yn glinigol eithriadol o agored i COVID-19.
4 Pan fyddwch ar aelwyd y person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt, a’ch bod fwy na 2 fetr i ffwrdd oddi wrthynt - Masg llawfeddygol math I, II neu IIR

Mae’r PPE hwn hefyd yn berthnasol os yw’r person neu’r bobl rydych yn gofalu amdanynt yn glinigol eithriadol o agored i COVID-19.

Gwelwch hefyd

Dim ond unwaith y gellir defnyddio menig a ffedogau untro, a dylid eu gwaredu yn syth ar ôl pob tasg ofalu (er enghraifft, ar ôl i chi ymolchi’r person rydych chi’n gofalu amdano neu ar ôl i chi helpu’r person rydych chi’n gofalu amdano gyda’i fwyd), cyn glanhau eich dwylo.

Ni ddylech gyffwrdd â’ch masg wrth ei wisgo, ac eithrio ei wisgo neu ei ddiosg. Dylid gwaredu eich masg pan fyddwch wedi’i dynnu o’ch wyneb, ei ostwng i’ch gên neu os yw’n cael ei ddifrodi, yn fudr, yn llaith neu’n anghyfforddus i’w ddefnyddio. Pan gaiff ei dynnu, bydd angen i chi ddefnyddio masg newydd ar gyfer eich ymweliad gofal nesaf.

Dylech barhau i ddilyn cyngor yn y canllawiau hyn a’r canllawiau ar amddiffyn pobl sy’n glinigol yn eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws ac i’ch amddiffyn eich hun a’r rhai rydych yn gofalu amdanynt.

Os ydych yn ofalwr ifanc, siaradwch â’ch teulu a’r person rydych yn gofalu amdano os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud. Gallech hefyd siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol (os oes gennych un) ynglŷn â chysylltu â’ch awdurdod lleol i ddeall beth sy’n bosibl ac yn addas i chi.

Yr ydym yn parhau i adolygu’r sefyllfa hon.

Gwisgo gorchudd wyneb os oes rhaid i chi fynd allan

Mae rhai mannau lle mae’n rhaid i chi wisgo wyneb yn ôl y gyfraith, oni bai eich bod wedi’ch eithrio neu os oes gennych esgus rhesymol. Chwiliwch am wybodaeth ynglŷn â ble mae’n rhaid i chi wisgo masg wyneb a’r eithriadau.

Fe’ch anogir yn gryf hefyd i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig eraill lle gall ymbellhau cymdeithasol fod yn anodd a lle rydych yn dod i gysylltiad â phobl nad ydych yn eu cyfarfod fel arfer.

Mae’n bwysig defnyddio gorchuddion wyneb yn iawn a golchi eich dwylo cyn eu gwisgo a’u diosg. Gallwch wneud eich gorchuddion wyneb gartref. . Dylai’r gorchudd wyneb orchuddio eich ceg a’ch trwyn.

Os yw’r person rydych yn gofalu amdano mewn cartref gofal

Os nad oes gennych unrhyw symptomau, dylech gadw mewn cysylltiad â’r cartref gofal i ddeall unrhyw drefniant lleol i gadw mewn cysylltiad â phreswylwyr a dilyn y canllawiau gan y cartref gofal wrth ymweld.

Cynnal eich iechyd eich hun tra byddwch yn gofalu am eraill

Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun yn ogystal â chefnogi eraill rydych yn gofalu amdanynt, yn enwedig o ystyried y potensial am straen ychwanegol ar hyn o bryd. Ceir gwybodaeth gyffredinol yn y canllawiau i’r cyhoedd am iechyd meddwl, ac am ofalu am eich llesiant, yn ogystal â chanllawiau manylach ar hunanofal a ffynonellau cymorth ar gyfer iechyd a llesiant meddyliol yn ystod cyfnod y coronafeirws. Mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o gyngor penodol i bobl sydd â dementia, awtistiaeth, anableddau dysgu neu anghenion iechyd meddwl ychwanegol.

Mae awgrymiadau’n cynnwys gofalu am eich meddwl yn ogystal â’ch corff a chael cymorth os oes ei angen arnoch. Mae gweithgarwch corfforol dyddiol yn bwysig i iechyd a llesiant, gan gynnwys rheoli straen, ac annog teimladau cadarnhaol a chysgu. Gallwch chwilio am syniadau am ymarferion i’w gwneud gartref gan Public Health England (PHE).

Manteisiwch ar y cymorth a allai fod gennych drwy eich ffrindiau, eich teulu a rhwydweithiau eraill yn ystod y cyfnod hwn. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â’r rhai o’ch cwmpas dros y ffôn, drwy’r post, neu ar-lein. Rhowch wybod i bobl sut yr hoffech gadw mewn cysylltiad ac adeiladu hynny i mewn i’ch trefn arferol. Mae hyn hefyd yn bwysig wrth ofalu am eich llesiant meddyliol ac efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â nhw am sut rydych chi’n teimlo.

Cofiwch ei bod yn iawn rhannu eich pryderon ag eraill rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw a thrwy wneud hynny efallai y byddwch chi’n rhoi cymorth iddyn nhw hefyd. Neu gallwch ddefnyddio llinell gymorth a llinell gymorth a argymhellir gan y GIG.

Os oes angen cymorth neu gymorth arbenigol arnoch, mae holl Ymddiriedolaethau Iechyd Meddwl y GIG yn darparu llinellau ffôn mynediad agored 24/7 i gefnogi pobl o bob oed ac yn parhau i ddarparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â’r llinellau hyn ar gael drwy wefan eich Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl leol.

Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol cysylltu â’ch sefydliad cymorth gofalwyr lleol a all helpu gyda chynllunio wrth gefn. Gallwch gael gwybod am sefydliadau gofalwyr lleol yn Carers UK. Hefyd, mae fforwm ar-lein ar Carers UK.

Mae Public Health England wedi cynhyrchu canllawiau ar gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig ac mae ei lwyfannau ‘Every Mind Matters’ a ‘Rise Above’ yn cynnwys gwybodaeth i blant a phobl ifanc.

Efallai y bydd gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc yn darganfod gwybodaeth ddefnyddiol ar Gwefan Cymdeithas y Plant.

Gofalwyr Ifanc

Os ydych yn ofalwr ifanc, gallwch gasglu meddyginiaethau gyda chaniatâd y person rydych yn gofalu amdano. Efallai y bydd rhai fferyllwyr yn gwrthod rhoi’r meddyginiaethau i chi os ydynt yn credu nad yw’n briodol.

Os ydych fel arfer yn casglu presgripsiynau ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano a’ch bod yn hunanynysu, dylech geisio gwneud trefniadau amgen. Dylech geisio cael cymorth gan ffrindiau a theulu i gynorthwyo os oes modd.

Ysgolion ac addysg

Mynychu’r ysgol neu’r coleg

Yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol, arhosodd ysgolion a cholegau ar agor i blant sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol fod yn bresennol ar y safle. O 8 Mawrth dychwelodd pob plentyn a myfyriwr i’r ysgol neu’r coleg a daeth presenoldeb yn orfodol unwaith eto o’r dyddiad hwn. Darllenwch y canllawiau diweddaraf i rieni a gofalwyr, myfyrwyr a myfyrwyr prifysgol, athrawon ac arweinwyr lleoliadau addysgol.

Os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn mynychu’r ysgol neu’r coleg ar unrhyw adeg, neu os oes gennych bryderon am iechyd rhywun yn eich cartref neu’r rhai yr ydych yn darparu gofal amdanynt, dylech drafod hyn gyda’ch ysgol neu goleg a’ch gweithiwr cymdeithasol (os oes gennych un).

Cymorth gan eich ysgol neu goleg

Efallai y bydd eich ysgol, coleg neu weithiwr cymdeithasol (os oes gennych un) yn gallu cynnig cymorth i chi gyda’ch addysg, er enghraifft, drwy roi amser ychwanegol i chi weithio neu eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau gofalwyr ifanc lleol.

Os nad ydych yn siŵr a yw eich ysgol neu goleg yn gwybod eich bod yn ofalwr ifanc, gallwch siarad ag athro, nyrs ysgol neu rywun rydych yn ymddiried ynddo a dweud wrthynt eich bod yn credu bod angen cymorth ychwanegol arnoch.

Efallai na fyddwch am i’ch ysgol neu goleg wybod eich bod yn gofalu am rywun. Ond os ydyn nhw’n gwybod, byddan nhw’n deall bod pethau weithiau’n anodd i chi. Mae’n syniad da rhoi gwybod i o leiaf un athro neu nyrs ysgol yr ydych yn ymddiried ynddo eich bod yn ofalwr. Gall gweithiwr cymorth gofalwyr ifanc helpu hefyd. Gallwch hefyd siarad â nyrs eich ysgol yn gyfrinachol.

Os credwch eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol neu goleg am ddim ond nad oeddech yn eu defnyddio o’r blaen, mae ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn parhau i dderbyn ceisiadau am brydau ysgol a choleg. Darllenwch y meini prawf cymhwyso i wneud cais am brydau ysgol am ddim(i ysgolion), neu brydau am ddim mewn sefydliadau a ariennir fel sefydliadau addysg bellach sy’n cael eu cyllido (i golegau) Gallwch hefyd siarad â’ch coleg neu sefydliad addysg bellach a fydd yn gallu cynnig cyngor.

Ceir cymorth pellach ar dudalen gymorth y GIG i ofalwyr ifanc.

Cefnogaeth gan eich prifysgol

Mae prifysgolion yn annibynnol a bydd y cymorth a ddarparant yn wahanol. Dylech siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn eich sefydliad am unrhyw gymorth a allai fod ar gael i chi

Darllenwch y canllawiau diweddaraf i fyfyrwyr prifysgol. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am brifysgolion, gan gynnwys y cyhoeddiadau diweddaraf, ar flog Addysg yn y Cyfryngau.

Cael cymorth

Mae’n bwysig eich bod yn ystyried pa gymorth a allai fod ei angen arnoch a sut y gallwch gael cymorth i gynnal eich iechyd a’ch llesiant eich hun.

Cymorth i ddarparu seibiant o ofal

Gweler y cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19): yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud.

Mae eithriad sy’n caniatáu i ofal seibiant gael ei ddarparu i berson sy’n agored i niwed (gan gynnwys person â chyflwr iechyd isorweddol) neu berson ag anabledd. Mae diffiniad y rheoliadau o ‘berson agored i niwed’ hefyd yn cynnwys unrhyw un sy’n feichiog neu’n 70 oed neu’n hŷn. Gweler y rhestr am wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n cael ei ystyried yn glinigol eithriadol o agored i niwed yn y canllawiau ar gyfer grwpiau sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Mae’r rheoliadau’n caniatáu i ofalwyr gael seibiant o’u teulu a’u ffrindiau pan fo hynny’n rhesymol angenrheidiol er mwyn darparu gofal seibiant i berson agored i niwed neu berson anabl neu rywun sydd â chyflwr iechyd isorweddol.

Mae hyn yn golygu y gallwch drefnu gyda theulu neu ffrindiau i rywun arall ddarparu’r gofal rydych fel arfer yn ei ddarparu i’r person rydych yn gofalu amdano, i’ch galluogi i gymryd seibiant. Mae hyn yn cynnwys rhywun sy’n dod i gartref y person rydych yn gofalu amdano, a all fod dros nos. Mae hefyd yn golygu y gall y person rydych yn gofalu amdano fynd i gartref rhywun arall i dderbyn gofal i roi seibiant i chi o ofalu, a all hefyd fod dros nos. Ym mhob un o’r enghreifftiau hyn, rhaid i’r trefniant fod yn rhesymol angenrheidiol at ddibenion darparu gofal seibiant ar gyfer y person sy’n derbyn gofal.

Nid oes ots am nifer yr oedolion yn y naill aelwyd na’r llall wrth wneud trefniadau ar gyfer gofal seibiant, ar yr amod bod y trefniadau’n rhesymol angenrheidiol ac yn gyfystyr â gofal seibiant i’r person sy’n derbyn gofal. Bydd yr hyn sy’n addas i chi, y person rydych yn gofalu amdano a’r sawl sy’n darparu’r gofal amgen yn dibynnu ar eich amgylchiadau eich hun.

Swigod cefnogaeth

Ehangwyd Swigod cefnogaeth.

Efallai y byddwch chi, neu’ch teulu, yn gallu ffurfio swigod cymorth gydag aelwyd arall (o unrhyw faint). Isod mae’r gwahanol ffyrdd y gellir ffurfio swigod cymorth:

  • os ydych yn byw ar eich pen eich hun – hyd yn oed os bydd gofalwyr yn ymweld â chi i ddarparu cymorth

  • os yw eich cartref yn cynnwys plentyn sydd o dan un oed neu a oedd o dan yr oedran hwnnw ar 2 Rhagfyr 2020

  • os yw eich cartref yn cynnwys plentyn sydd o dan un oed neu a oedd o dan yr oedran hwnnw ar 2 Rhagfyr 2020

  • os ydych yn blentyn o dan 18 oed sy’n byw ar eich pen eich hun neu gyda phlant eraill a heb unrhyw oedolion

  • os ydych yn oedolyn sengl sy’n byw gydag un neu fwy o blant sydd o dan 18 oed neu a oedd o dan yr oedran hwnnw ar 12 Mehefin 2020

  • os chi (p’un a ydych o dan 18 oed neu beidio) yw’r unig unigolyn yn eich cartref nad oes angen gofal parhaus arno o ganlyniad i anabledd

  • os ydych chi (p’un a ydych o dan 18 oed neu beidio) yn byw gydag un neu fwy o bobl sydd angen gofal parhaus o ganlyniad i anabledd, nadd oes gennych anabledd eich hun, ond rydych hefyd yn byw gydag eraill nad oes ganddynt anableddau, a dim ond un ohonynt sydd dros 18 oed

Er enghraifft, gall oedolyn sy’n darparu gofal parhaus i’w briod sydd angen y gofal hwn o ganlyniad i anabledd, ffurfio swigod cefnogaeth gyda’i rieni sy’n byw gyda’i gilydd mewn eiddo arall.

Enghraifft arall fyddai gofalwr ifanc, sydd o dan 18 oed, sy’n byw gyda’i rieni ac angen gofal parhaus ar y ddau oherwydd anabledd. Neu, yn yr un sefyllfa, os yw’r gofalwr ifanc hefyd yn byw gyda brodyr a chwiorydd eraill, a dim ond un ohonynt sy’n 18 oed. Gall y ddau fath o aelwyd ffurfio swigod cefnogaeth gyda’r neiniau a theidiau sy’n byw gyda’i gilydd mewn eiddo arall.

Ni ddylech ffurfio swigen gefnogaeth gydag aelwyd sy’n rhan o swigen gefnogaeth arall. I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau eraill sy’n berthnasol i swigod cefnogaeth, gan gynnwys pan fyddant yn gorffen, a sut i newid swigen, gweler y canllawiau ar lunio a defnyddio swigod cefnogaeth.

Cymorth gan wirfoddolwyr

Gallwch hefyd gael help gan ymatebwyr gwirfoddol y GIG a all helpu gyda phethau fel casglu meddyginiaeth neu siopa. Mae gwybodaeth i’w chael yma am y cymorth y gall ymatebwyr gwirfoddol y GIG ei gynnig.

Gallwch hefyd ffonio 0808 196 3646 rhwng 8am a 8pm.

Asesiad gofalwr

Os oes angen cymorth arnoch i ofalu, gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol i gael asesiad gofalwr. Nid oes rhaid i chi fyw gyda’r person rydych yn gofalu amdano ac nid yw’r math na’r swm o ofal a roddwch na’ch sefyllfa ariannol yn effeithio ar eich hawl i asesiad. Mae asesiad gofalwr am ddim. Mae ar wahân i’r asesiad o anghenion a allai fod gan y person rydych yn gofalu amdano, ond gallwch ofyn i’r ddau ohonynt gael eu gwneud ar yr un pryd.

Bydd gennych hawl i gael asesiad, waeth beth fo maint a math y gofal a ddarperir gennych, eich sefyllfa ariannol neu lefel eich angen am gymorth. ‘Does dim rhaid i chi o reidrwydd fod yn byw gyda’r person rydych yn gofalu amdano, na bod yn ofalwr amser llawn i gael eich asesu.

Os nad ydych wedi cael cynnig asesiad, gallwch gysylltu â’ch awdurdod lleol. Dod o hyd i’ch tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol.

Gall gofalwyr ifanc hefyd ofyn am asesiad anghenion gofalwr ifanc. Gallwch siarad â’ch gweithiwr cymorth. Os nad oes gennych weithiwr cymorth, gallwch drafod hyn â’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch awdurdod lleol.

Lwfans Gofalwr

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os ydych chi, y person rydych yn gofalu amdano a’r math o ofal a ddarperir gennych yn bodloni meini prawf penodol. Mae angen i chi dreulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun. Gall hyn gynnwys:

  • helpu gyda golchi a choginio

  • mynd â’r person rydych yn gofalu amdano i apwyntiad meddyg

  • helpu gyda thasgau cartref, fel rheoli biliau a siopa

Os ydych chi neu’r person rydych chi’n gofalu amdano yn cael eich effeithio gan coronafeirws, gallwch ddal i hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi’n darparu gofal o bell. Mae hyn yn cynnwys rhoi cefnogaeth emosiynol dros y ffôn neu ar-lein.

Darllenwch wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais am Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn 16+ oed ac yn gofalu o leiaf 35 awr yr wythnos efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr. Gallwch gael gwybod am gymorth ariannol Gwefan Cymdeithas y Plant.

Ffynonellau cymorth pellach

I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, efallai y byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ar wefan eich awdurdod lleol neu gallech gysylltu â’ch awdurdod lleol.

Gallwch hefyd edrych ar wefannau Carers UK a Carers Trust.

Help a chefnogaeth os ydych yn ofalwr ifanc

Efallai y bydd eich ysgol, coleg neu weithiwr cymdeithasol (os oes gennych un) yn gallu cynnig cymorth i chi gyda’ch addysg, er enghraifft, drwy roi amser ychwanegol i chi weithio, neu eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau i ofalwyr ifanc lleol.

Os nad ydych yn siŵr a yw eich ysgol neu goleg yn gwybod eich bod yn ofalwr ifanc, gallwch siarad ag athro, nyrs ysgol neu rywun rydych yn ymddiried ynddo a dweud wrthynt eich bod yn credu bod angen cymorth ychwanegol arnoch.

Mae gan nyrsys ysgol ddyletswydd cyfrinachedd, i bawb sy’n derbyn eu gofal. Mae hyn yn golygu y byddant yn gofyn i chi am eich caniatâd i rannu gwybodaeth iechyd gyfrinachol ag eraill, gan gynnwys eich rhieni a’ch athrawon oni bai eu bod yn credu bod eich diogelwch personol mewn perygl. Os credant y gallai hyn fod yn wir, byddant yn trafod hyn gyda chi yn gyntaf cyn cymryd unrhyw gamau.

Os oes gennych chi neu rywun yn eich teulu weithiwr cymdeithasol, gallwch gysylltu â nhw i ddweud eich bod yn meddwl y gallai fod angen mwy o help arnoch os bydd rhywun yn mynd yn sâl.

Gallech ofyn i ffrindiau, teulu neu ddefnyddio gwasanaethau ar-lein fel ymatebwyr gwirfoddol y GIG i weld a allent helpu ddod â rhywbeth i chi o’r siop neu eich cefnogi mewn ffyrdd eraill.

Os na allwch feddwl am unrhyw un a all eich helpu, neu os nad oes neb arall yn gwybod eich bod yn ofalwr ifanc, gallwch gysylltu â gwasanaeth gofalwyr ifanc lleol a dweud wrthynt eich bod yn credu eich bod yn ofalwr ifanc ac yr hoffech gael rhywfaint o help. Gallwch ddod o hyd i grŵp cymorth lleol neu gysylltu gwasanaethau gofalwyr ifanc Cymdeithas y Plant.

Llinellau cymorth

Os hoffech siarad â rhywun yn ddienw, gallwch ffonio llinellau cymorth neu ymweld ag un o’r gwefannau isod:

Mae ChildLine yn darparu gwasanaeth cwnsela dros y ffôn cyfrinachol i unrhyw berson ifanc sydd â phroblem. Mae’n cysuro, yn cynghori ac yn amddiffyn. Gallwch:

Gwefannau

Mae rhagor o gymorth i’w weld ar dudalen gymorth y GIG i ofalwyr ifanc.

Mae gan Gymdeithas y Plant wybodaeth i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol am y coronafeirws, gan gynnwys dolenni i offer, adnoddau a gweithgareddau yn ogystal ag awgrymiadau llesiant i ofalwyr ifanc.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr wybodaeth i bobl ifanc am coronafeirws

Os oes gennych chi neu’r person rydych yn gofalu amdano symptomau neu ganlyniad prawf positif, neu os buoch mewn cysylltiad agos â rhywun a gafodd canlyniad prawf positif

Os oes gennych symptomau coronafeirws

Gwelwch aros gartref: canllawiau i aelwydydd sydd â haint coronafeirws (COVID-19) posib neu wedi’i gadarnhau i gael rhagor o wybodaeth am gyfnodau ynysu a beth mae’n rhaid i chi ei wneud neu beidio â’i wneud os cewch symptomau coronafeirws, canlyniad positif i brawf, neu gysylltiad agos â rhywun sydd wedi derbyn canlyniad positif i brawf.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 neu ganlyniad prawf cadarnhaol aros gartref a hunanynysu ar unwaith. Y rheswm am hyn yw y gallech drosglwyddo’r haint i eraill, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau.

Gallech gael dirwy os nad ydych yn hunanynysu yn dilyn hysbysiad gan wasanaeth Profi ac Olrhain y GIG. Efallai y bydd gennych hawl i daliad unigol o £500 drwy gynllun taliad cymorth gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG os oes angen i chi aros gartref a hunanynysu.

Gwneud trefniadau amgen ar gyfer gofal

Dylech geisio gwneud trefniadau amgen ar gyfer darparu gofal o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Nid ydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn byw gyda’ch gilydd ac mae’r naill neu’r llall ohonoch yn cael symptomau neu hysbysiad o brawf cadarnhaol

  • Nid ydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn byw gyda’ch gilydd ac mae’r naill neu’r llall ohonoch yn cael eich hysbysu ichi fod mewn cysylltiad agos â rhywun arall a gafodd brawf positif

  • Nid ydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn byw gyda’ch gilydd ac mae rhywun ar eich aelwyd cael symptomau neu hysbysiad o brawf cadarnhaol

  • Os yw un o’r bobl yn y berthynas ofalu (naill ai’r gofalwr neu’r person sy’n derbyn gofal) yn glinigol eithriadol o agored i niwed neu’n gwarchod ei hun a bod gan y person arall symptomau neu’n derbyn canlyniad prawf cadarnhaol

I drefnu gofal amgen, gallwch gysylltu â’ch awdurdod lleol neu gysylltu â’ch darparwr gofal iechyd. Os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn, gallwch gysylltu â GIG 111. Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol cysylltu â’ch sefydliadau cefnogi gofalwyr lleol. Gallwch gael gwybod am sefydliadau gofalwyr lleol yn Carers UK. Gall eich teulu hefyd ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau lleol ar wefan y Carers Trust.

Os ydych yn byw gyda’r person rydych yn gofalu amdano ac yn rhy sâl i ofalu amdano/amdani, cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu’ch darparwr gofal iechyd.

Casglu presgripsiynau pan rydych yn hunanynysu

Os ydych fel arfer yn casglu presgripsiynau ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano, ac yn hunanynysu, dylech geisio gwneud trefniadau amgen. Dylech geisio cael cymorth gan ffrindiau a theulu i gynorthwyo os oes modd.

Mae’r rhan fwyaf o fferyllfeydd yn darparu gwasanaeth dosbarthu cartref. Ffoniwch nhw i weld a yw hwn ar gael ynteu a oes cynllun arall yn rhedeg yn lleol i’ch helpu i gael gafael ar bresgripsiynau.

Gallwch hefyd gael help gan ymatebwyr gwirfoddol y GIG sy’n gallu helpu gyda phethau fel casglu meddyginiaeth neu siopa. Ffoniwch 0808 196 3646 rhwng 8am ac 8pm. Mae gwybodaeth yma am y cymorth y gall ymatebwyr gwirfoddol y GIG ei gynnig.

Bydd gwasanaethau dosbarthu fferylliaeth o dan bwysau ar hyn o bryd, felly mae’n bwysig eich bod yn archebu eich presgripsiynau amlroddadwy mewn da bryd, er mwyn osgoi oedi wrth weinyddu. Efallai y bydd gwybodaeth am bresgripsiynau amlroddadwy a gwasanaethau dosbarthu hefyd ar gael ar wefan eich meddyg teulu.

Os nad yw’n bosibl trefnu casgliad arall, mae’n bosibl i rywun sy’n hunanynysu adael cartref lle bo angen i gael cyflenwadau meddygol i rywun ar yr un aelwyd.

Os nad yw’r person rydych yn gofalu amdano yn byw gyda chi, ac yntau’n hunanynysu, yna ar yr amod nad ydych chithau’n hunanynysu gallwch fynd i mewn i’w gartref i ollwng presgripsiwn os oes angen rhesymol am hynny. Dylech ymbellhau oddi wrth y person sydd â symptomau neu sydd wedi derbyn canlyniad prawf cadarnhaol gymaint â phosibl a dilyn y canllawiau.