Canllawiau

Gnweud cais am Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill os ydych yn ffoadur

Diweddarwyd 9 Medi 2025

Ar ôl i chi gael statws ffoaduriaid

Gall cymorth lloches eich helpu chi a’ch teulu gyda thai ac arian tra rydych yn aros i ddarganfod a fyddwch yn cael statws ffoaduriaid.

Bydd cymorth lloches yn stopio ar ôl i chi gael statws ffoaduriaid.

Os ydych yn oedolyn sengl, mae cymorth lloches fel arfer yn dod i ben 4 wythnos ar ôl i chi gael statws ffoaduriaid.

Bydd cymorth lloches yn parhau am 8 wythnos ar ôl i chi gael statws ffoaduriaid os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

Byddwch yn derbyn llythyr gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau’r union ddyddiad y bydd eich cymorth lloches yn dod i ben.

Beth ddylech ei wneud ar ôl cael statws ffoaduriaid

Cyn gynted ag y byddwch yn cael statws ffoaduriaid, dylech:

Am DWP

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adran y llywodraeth sy’n helpu pobl i ddod o hyd i waith a gwneud cais am fudd-daliadau.

Canolfannau Gwaith

Mae canolfan gwaith yn swyddfa’r llywodraeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor am swyddi. Mae hefyd yn ymwneud â gweinyddu budd-daliadau. Mae canolfan gwaith yn rhan o DWP.

Migrant Help

Mae Migrant Help yn rhoi cyngor ac arweiniad i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

Os oes gennych statws ffoaduriaid, bydd Migrant Help yn cysylltu â chi i roi cyngor ar:

  • gael swydd
  • gwneud cais am fudd-daliadau
  • sut i gael help gyda thai

Os nad oes rhywun wedi cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod o gael eich statws ffoaduriaid, gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Gwneud cais am fudd-daliadau

Os oes gennych statws ffoaduriaid, gallwch wneud cais am fudd-daliadau. Mae budd-dal yn darparu cymorth ariannol:

  • os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith
  • os ydych ar incwm isel
  • os ydych yn magu plant
  • pan fyddwch yn ymddeol
  • os ydych yn gofalu am rywun
  • os ydych yn sâl neu os oes gennych anabledd

Efallai y bydd bwlch rhwng eich cymorth lloches yn dod i ben a’ch taliad budd-dal cyntaf. Os nad oes gennych ddigon i fyw arno tra byddwch yn aros am eich taliad cyntaf, efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw ar eich taliad budd-dal cyntaf.

Rhif Yswiriant Gwladol (NI)

Gallwch ddod o hyd i’ch rhif NI drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) a gweld eich statws mewnfudo ar-lein (eFisa)

Os nad oes rhif NI ar eich eFisa, cysylltwch â’r Swyddfa Gartref ar unwaith.

Nid ydych angen rhif NI er mwyn gwneud eich cais am fudd-daliadau. Ond os nad oes gennych rif NI mae angen i chi ddweud wrth DWP ar ddechrau eich cais. Bydd DWP yn dweud wrthych sut i wneud cais am rif NI fel rhan o’ch cais am fudd-daliadau.

Gwybodaeth y byddwch ei angen i wneud cais am fudd-daliadau

Byddwch angen y wybodaeth ganlynol:

  • enw
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • manylion banc (gallwch ddal gwneud cais os nad oes gennych gyfrif banc)
  • rhif ffôn symudol
  • cyfeiriad e-bost

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am fudd-daliadau ar-lein. Bydd pa fudd-daliadau rydych yn gwneud cais amdanynt yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, gwnewch eich cais ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud cais, gallwch gysylltu â llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Pensiwn yn daliad wythnosol gan y llywodraeth y gallwch ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y DU. Gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Mae galwadau am ddim o linell daear ac fel arfer am ddim o ffôn symudol.

Os ydych angen un, gallwch ofyn am ddehonglydd pan fyddwch yn ffonio.

Yn y ganolfan gwaith

Os byddwch yn dechrau gwneud cais am fudd-daliadau, byddwch yn cael ‘anogwr gwaith’. Byddant yn eich cefnogi a’ch helpu i weithio drwy ddarparu cyngor personol gan ddefnyddio eu gwybodaeth am gyfleoedd gwaith lleol.

Efallai y bydd angen i chi gytuno ar ‘ymrwymiad hawlydd’. Mae hwn yn gytundeb rhyngoch chi a’ch anogwr gwaith. Mae’n nodi’r hyn rydych chi wedi cytuno i’w wneud i baratoi ar gyfer a chwilio am waith, neu i gynyddu eich enillion os ydych eisoes yn gweithio. Mae’n seiliedig ar eich amgylchiadau personol a gall eich budd-daliadau gael eu torri os nad ydych wedi gwneud beth rydych wedi cytuno i’w wneud.

Cael cyfrif banc

Gallwch sefydlu cyfrif banc i gael taliadau budd-daliadau ac arian o’r gwaith.

Mae cyfrifon banc am ddim i’w hagor.

Bydd angen i chi ddangos dogfennau sy’n profi eich hunaniaeth, statws mewnfudo a chyfeiriad.

Mae gwahanol fanciau yn gofyn am wahanol ddogfennau, ond mae’n debygol y byddwch angen:

  • ID ffotograffig, er enghraifft trwydded yrru neu eich eFisa (gallwch gael cod rhannu i weld a phrofi eich statws mewnfudo)
  • prawf o gyfeiriad, er enghraifft llythyrau swyddogol gan y Swyddfa Gartref, eich meddyg, neu filiau gyda’ch enw arnynt

Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, ystyriwch agor cyfrif amgen, fel cyfrif undeb credyd neu wasanaethau bancio ar-lein amgen. Gall y cyfrifon hyn godi ffi fach.

Cadwch eich gwybodaeth banc yn ddiogel bob amser, gan gynnwys cyfrineiriau a Rhif Adnabod Personol (PIN).

Dod o hyd i rywle i fyw

Os ydych yn byw mewn llety lloches, bydd angen i chi symud allan yn fuan ar ôl cael statws ffoaduriaid. Bydd y Swyddfa Gartref yn anfon llythyr atoch a fydd yn cadarnhau’r dyddiad y mae angen i chi symud allan.

Tai cyngor lleol

Dylech gysylltu â’ch adran dai yn eich cyngor lleol (a elwir hefyd yn ‘awdurdod lleol’) am gyngor cyn gynted â phosibl os ydych angen help i ddod o hyd i rywle i fyw.

Bydd ganddynt swyddfa dai lle gallwch gael cyngor. Gallwch ddod o hyd i’w rhif ffôn ar wefan eich cyngor lleol.

Mae gan gynghorau lleol ddyletswydd gyfreithiol i’ch helpu i ddod o hyd i lety.

Efallai y byddant yn darparu llety i chi i’ch atal rhag mynd yn ddigartref neu eich helpu i ddod o hyd i dai rhent preifat.

Mae’n bwysig dweud wrthynt os oes gennych unrhyw broblemau iechyd neu unrhyw resymau arbennig pam mae angen i chi fyw mewn ardal benodol, fel y gallant asesu pa fath o lety rydych ei angen.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch cyngor lleol.

Tai cymdeithasol

Mae tai cymdeithasol ar gyfer pobl ar incwm isel ac maent yn cael eu cynnig am rent fforddiadwy.

Yn y DU mae galw uchel iawn (yn enwedig yn Llundain) am dai cymdeithasol a gall fod yn anodd eu cael. Fe’i darperir fel arfer gan gynghorau lleol neu gan gymdeithasau tai lleol.

Tai rhent preifat

Rhentu gan landlord preifat yn aml yw’r unig opsiwn sydd ar gael, yn enwedig os ydych yn sengl neu’n gwpl heb blant.

Gallwch edrych ar y rhyngrwyd neu mewn papurau newydd lleol, ffenestri siopau a hysbysfyrddau, neu gallwch ddod o hyd i dai preifat trwy asiantaeth osod.

Talu eich rhent

Bydd landlordiaid preifat yn gofyn am flaendal rhent ymlaen llaw (hyd at uchafswm o 5 wythnos o rent) rhag ofn i chi fethu â thalu’r rhent. Efallai y byddant hefyd yn gofyn am rent y mis cyntaf ymlaen llaw.

Rhaid i’ch landlord roi eich blaendal mewn cynllun diogelu blaendal tenantiaeth. Byddwch yn cael hwn yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth ar yr amod eich bod wedi gofalu am yr eiddo.

Bydd angen i chi dalu eich rhent yn uniongyrchol i’ch landlord (ar gyfer tai rhent cymdeithasol neu breifat).

Pan fyddwch yn gwneud cais am fudd-daliadau, efallai y byddwch yn cael swm tuag at eich rhent. Mae hyn fel arfer yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi, felly bydd angen i chi ei dalu i’ch landlord.

Benthyciadau integreiddio

Os ydych dros 18 oed, gallwch wneud cais am fenthyciad integreiddio ffoaduriaid.

Gellir defnyddio benthyciadau integreiddio i dalu am bethau fel:

  • blaendal rhent neu rent ar gyfer tai
  • eitemau i’r cartref
  • addysg a hyfforddiant ar gyfer gwaith

Darganfyddwch sut i wneud cais am fenthyciad integreiddio ffoaduriaid.