Cyfrifon elusennol: rheolau ar gyfer cwmnïau elusennol
Diweddarwyd 16 Medi 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Darllenwch y canllawiau hyn os yw eich elusen yn gwmni.
Darllenwch ganllawiau gwahanol os yw eich elusen yn:
- ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig
- sefydliad elusennol corfforedig (SEC)
- elusen wedi’i hesemptio
Os yw eich elusen hefyd yn gweithredu yn yr Alban, darllenwch canllawiau ar y rheolau cyfrifyddu ar gyfer elusennau’r Alban y mae’n rhaid i chi eu dilyn hefyd.
Mae Datganiad yr Arfer a Argymhellir gan Elusennau (SORP) yn rhoi fframwaith ar gyfer cyfrifyddu ac adrodd elusennau.
1 Ionawr 2026 yw’r dyddiad y mae Datganiad yr Arfer a Argymhellir gan Elusennau 2026 (SORP 2026) yn gymwys ohono. Rhaid i’ch elusen gynhyrchu cyfrifon sy’n cydymffurfio â SORP 2026, neu SORP penodol i’r sector. Er enghraifft, bydd angen i ddarparwyr tai cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â’r SORP Tai.
Mae’r canllawiau hyn hefyd yn nodi trothwyon cyfrifyddu newydd sy’n berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026.
Os ydych chi’n paratoi cyfrifon ar gyfer blwyddyn flaenorol, darllenwch y canllawiau priodol.
1. Y rheolau cyfrifyddu ac adrodd sylfaenol
Fel ymddiriedolwr rhaid i chi sicrhau bod eich elusen yn atebol. Dyma un o’ch dyletswyddau cyfreithiol. Mae corff yr ymddiriedolwyr cyfan yn gyfrifol am reolaeth ariannol eich elusen.
Defnyddiwch y canllaw hwn i’ch helpu i ddeall y math o gyfrifon y mae’n rhaid i gwmnïau elusennol eu paratoi, ac i gael gwybodaeth am adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr.
Dyma’r rheolau sylfaenol:
- rhaid i bob elusen baratoi cyfrifon a sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd ar gais. Mae hyn yn cynnwys elusennau sydd wedi’u hesemptio neu wedi’u heithrio rhag cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau
- rhaid i bob elusen gofrestredig baratoi adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a’i wneud ar gael i’r cyhoedd ar gais
Gallwch godi tâl i dalu costau gwneud cyfrifon neu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ar gael i’r cyhoedd
- rhaid i bob elusen gadw cofnodion ariannol fel llyfrau arian parod, anfonebau, derbynebau a chofnodion Cymorth Rhodd am o leiaf 6 blynedd
- rhaid i bob elusen gydymffurfio ag unrhyw beth y mae eu dogfen lywodraethol yn ei ddweud am reolaeth ariannol
- rhaid i bob elusen gofrestredig gyflwyno gwybodaeth yn flynyddol i’r Comisiwn Elusennau. Darllenwch y canllawiau i ddarganfod pa wybodaeth y mae angen i’ch elusen ei chyflwyno
Rhaid i bob cwmni elusennol gyflwyno gwybodaeth yn flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau.
Darllenwch Canllawiau Tŷ’r Cwmnïau. Efallai fod rheolau eraill y mae’n rhaid i’ch elusen gydymffurfio â nhw. Darllenwch ganllawiau ar esemptiadau treth ar gyfer elusennau ac ar rhoddion elusennol halogedig.
Ceisiwch gyngor proffesiynol os oes angen help arnoch i baratoi cyfrifon eich elusen neu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr.
2. Pa fath o gyfrifon i’w paratoi
Rhaid i bob cwmni elusennol baratoi cyfrifon croniadau.
2.1 Beth yw cyfrifon croniadau
Rhaid i gyfrifon croniadau roi darlun gwir a theg. Rhaid iddynt gynnwys:
- mantolen sy’n dangos sefyllfa ariannol yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a
- datganiad o weithgareddau ariannol sy’n dangos ar gyfer y flwyddyn ariannol honno:
- yr holl arian a dderbyniwyd neu sy’n ddyledus i’r elusen a
- yr holl arian a wariwyd neu a dynnwyd gan yr elusen, a
- nodiadau esboniadol
Rhaid i gwmnïau elusennol baratoi cyfrif incwm a gwariant. Gallwch addasu’r Datganiad o Weithgareddau Ariannol i gynnwys hyn. Am ganllawiau ar sut i wneud hyn darllenwch SORP 2026.
Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifon yn wir a theg trwy gydymffurfio â SORP. Os yw eich cwmni elusennol yn paratoi cyfrifon croniadau ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026, rhaid i’ch cyfrifon gydymffurfio â SORP 2026, neu SORP penodol i’r sector. Er enghraifft, bydd angen i ddarparwyr tai cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â’r SORP Tai.
Ar gyfer elusennau sy’n cydymffurfio â SORP 2026, bydd faint o fanylion a ddarperwch yn dibynnu ar ba haen rydych chi ynddi.
2.2 Beth mae incwm gros yn ei olygu
Defnyddiwch y wybodaeth yng nghofnodion cyfrifyddu eich elusen i gyfrifo’r incwm gros.
2.3 Incwm gros
Ar gyfer elusennau sy’n paratoi cyfrifon croniadau, incwm gros yw’r cyfanswm incwm fel y dangosir yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer yr holl gronfeydd ac eithrio derbyn unrhyw gronfeydd gwaddol.
Cronfeydd gwaddol yw cronfeydd a dderbynnir gan yr elusen i’w dal fel cyfalaf a’u defnyddio at ddibenion yr elusen. Mae hyn yn cynnwys gwaddol parhaol sef eiddo y mae’n rhaid i’ch elusen ei gadw yn hytrach na’i wario.
Gwaddol gwario yw cronfa gyfalaf sy’n caniatáu i’r ymddiriedolwyr drosi’r gronfa yn incwm.
Rhaid i chi gynnwys unrhyw gronfeydd gwaddol sydd wedi’u trosglwyddo i gronfeydd incwm yn ystod y flwyddyn ac sydd bellach ar gael i’w gwario.
3. Pan fydd angen archwiliad annibynnol neu archwiliad ar gyfrifon
Gwiriadau yw’r rhain i ddarparu adolygiad annibynnol o gyfrifon yr elusen.
3.1 Archwiliad annibynnol
Mae archwiliad annibynnol yn adolygiad llai manwl nag archwiliad. Yn aml, caiff ei ddewis gan elusennau llai ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau bod cyfrifon yn cyd-fynd â chofnodion yr elusen.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben cyn 30 Medi 2026
| Incwm gros £25,000 neu lai | Nid oes gofyniad i gael archwiliad annibynnol nac archwiliad - oni bai bod eich erthyglau cymdeithasu yn dweud bod yn rhaid i chi neu fod cytundeb ariannu yn gofyn am un neu’r llall. |
| Incwm gros dros £25,000 a hyd at £1 miliwn | Gallwch ddewis cael archwiliad annibynnol neu archwiliad - oni bai bod eich erthyglau cymdeithasu neu gytundeb ariannu yn gofyn am archwiliad. |
| Incwm gros dros £250,000 a hyd at £1 miliwn | Os ydych yn cael archwiliad annibynnol, rhaid i hwn gael ei gynnal gan aelod o gorff a bennir o dan Ddeddf Elusennau 2011. |
Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
| Incwm gros £40,000 neu lai | Nid oes gofyniad i gael archwiliad annibynnol nac archwiliad - oni bai bod eich erthyglau cymdeithasu yn dweud bod yn rhaid i chi neu fod cytundeb ariannu yn ei gwneud yn ofynnol i’r naill neu’r llall gael ei wneud. |
| Incwm gros dros £40,000 a hyd at £1.5 miliwn | Gallwch ddewis cael archwiliad annibynnol neu archwiliad - oni bai bod eich erthyglau cymdeithasu neu gytundeb ariannu yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael archwiliad. |
| Incwm gros dros £500,000 a hyd at £1.5 miliwn | Os ydych yn cael archwiliad annibynnol, rhaid i hwn gael ei gynnal gan aelod o gorff a bennir o dan Ddeddf Elusennau 2011. |
Darllenwch ganllawiau ar archwiliad annibynnol.
Rhaid i gwmnïau elusennol y mae’n ofynnol iddynt gael archwiliad o dan Ddeddf Elusennau 2011, ond nad oes angen archwiliad arnynt o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, gynnwys datganiad ar y fantolen fod y cwmni wedi’i esemptio rhag archwiliad Deddf Cwmnïau.
Darllenwch ganllawiau Tŷ’r Cwmnïau ar archwiliadau Deddf Cwmnïau ac ar fformat y datganiad.
3.2 Archwiliad
Mae archwiliad yn adolygiad manwl o gyfrifon yr elusen ac mae’n rhoi barn ynghylch a yw’r cyfrifon yn wir ac yn deg.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben cyn 30 Medi 2026
|
Incwm gros mwy na £1 miliwn neu Incwm gros mwy na £250,000 ac asedau gros mwy na £3.26 miliwn |
Rhaid i chi gael archwiliad gan archwilydd cofrestredig. |
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
|
Incwm gros mwy na £1.5 miliwn neu Incwm gros mwy na £500,000 ac asedau gros mwy na £5 miliwn |
Rhaid i chi gael archwiliad gan archwilydd cofrestredig. |
Gallwch chwilio am archwilydd ar y Gofrestr Archwilwyr Statudol.
Gall y Comisiwn Elusennau fynnu archwiliad o gyfrifon eich elusen mewn achosion lle gallai fod camymddygiad neu gamreoli.
Rhaid i rai cwmnïau elusennol gael archwiliad o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Rhaid i gwmnïau elusennol sydd wedi’u hesemptio rhag archwiliad Deddf Cwmnïau gynnwys datganiad ar y fantolen.
Darllenwch canllawiau Tŷ’r Cwmnïau ar archwiliadau Deddf Cwmnïau ac ar fformat y datganiad.
Darllenwch enghraifft o sut y gallai elusennau elwa o’r newidiadau trothwy hyn.
4. Paratoi cyfrifon grŵp (a elwir hefyd yn gyfrifon cyfunol)
Darllenwch yr adran hon os yw eich cwmni elusennol yn:
- elusen riant ac mae ganddi un neu fwy o is-gwmnïau, ac
- wedi’i ddosbarthu fel grŵp bach o dan y Ddeddf Cwmnïau
Darllenwch canllawiau Tŷ’r Cwmnïau os yw eich cwmni elusennol yn:
- elusen riant ac mae ganddi un neu fwy o is-gwmnïau, ac
- wedi’i ddosbarthu fel grŵp canolig neu fawr o dan Ddeddf Cwmnïau 2006
Mae is-gwmni yn sefydliad y mae’r elusen riant yn berchen arno ac yn ei reoli, er enghraifft cwmni masnachu.
Mae ‘Grŵp’ yn golygu’r elusen riant a’r holl is-gwmnïau.
Rhaid i bob elusen mewn grŵp baratoi cyfrifon unigol.
4.1 Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben cyn 30 Medi 2026
| Mae incwm gros y grŵp yn fwy na £1 miliwn ar ôl tynnu unrhyw drafodion rhwng unrhyw un o’r sefydliadau yn y grŵp | Rhaid i’r elusen riant baratoi cyfrifon croniadau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â SORP 2019 (neu SORP 2026 os yw ymddiriedolwyr wedi dewis ei fabwysiadu’n gynnar). Rhaid i’r cyfrifon gael eu harchwilio gan archwilydd cofrestredig. |
| Mae incwm gros y grŵp yn £1 miliwn neu lai | Gallwch ddewis paratoi cyfrifon grŵp. Gelwir y rhain yn ‘gyfrifon anstatudol’ gan nad oes gofyniad cyfreithiol i’w paratoi. Dim ond os yw rhai gofynion yn cael eu bodloni y gellir eu ffeilio gyda’r Comisiwn Elusennau. |
4.2 Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
| Mae incwm gros y grŵp yn fwy na £1.5 miliwn ar ôl tynnu unrhyw drafodion rhwng unrhyw rai o’r sefydliadau yn y grŵp | Rhaid i’r elusen riant baratoi cyfrifon croniadau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â SORP 2026. Rhaid i’r cyfrifon gael eu harchwilio gan archwilydd cofrestredig. |
| Mae incwm gros y grŵp yn £1.5 miliwn neu lai | Gallwch ddewis paratoi cyfrifon grŵp. Gelwir y rhain yn ‘gyfrifon anstatudol’ gan nad oes gofyniad cyfreithiol i’w paratoi. Dim ond os yw rhai gofynion yn cael eu bodloni y gellir eu ffeilio gyda’r Comisiwn Elusennau . |
Darllenwch enghraifft o sut y gallai elusennau elwa o’r newidiadau trothwy hyn.
5. Adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr
Rhaid i ymddiriedolwyr pob elusen gynhyrchu cyfrifon blynyddol a rhaid i ymddiriedolwyr pob elusen gofrestredig hefyd baratoi adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr.
Mae’r adroddiad blynyddol yn garreg filltir bwysig, cyfle i asesu sut mae’r flwyddyn wedi mynd o’i gymharu â’ch cynlluniau. Mae’r adroddiad yn gyfle i ddod â’r cyfrifon yn fyw, eich helpu i ddathlu llwyddiannau ac egluro unrhyw heriau a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Rhaid i bob elusen gynnwys gwybodaeth sylfaenol sy’n orfodol. Mae elusennau llai yn darparu llai o wybodaeth. Bydd faint o fanylion a ddarperwch yn dibynnu ar ba haen rydych chi ynddi at ddibenion SORP 2026.
Rhaid i gwmnïau elusennol hefyd baratoi adroddiad cyfarwyddwyr, y gellir ei gyfuno ag adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr. Rhaid i gwmnïau elusennol canolig a mawr baratoi adroddiad strategol.
Darganfyddwch pa wybodaeth i’w rhoi yn adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr.
6. Defnyddio llofnodion electronig
Gall llofnod electronig fod yn fersiwn wedi’i theipio neu wedi’i sganio o lofnod wedi’i ysgrifennu â llaw.
Gwiriwch erthyglau cymdeithasu eich elusen a dilynwch yr hyn maen nhw’n ei ddweud am ddefnyddio llofnodion wedi’u hysgrifennu â llaw neu electronig.
Os nad ydyn nhw’n dweud dim, gallwch ddefnyddio llofnodion electronig ar gyfer dogfennau fel mantolenni, cyfrifon, adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr ac adroddiad yr archwilwyr annibynnol.
Mae hyn yn cynnwys copïau rydych chi’n eu cadw, a chopïau (o gyfrifon ac adroddiadau blynyddol) rydych chi’n eu hanfon at y Comisiwn.
7. Cynnwys gwybodaeth bersonol yn eich cyfrifon a’ch adroddiad blynyddol
Mae’r Comisiwn Elusennau yn cyhoeddi cyfrifon ac adroddiadau blynyddol elusennau ar ei gofrestr ac maen nhw ar gael i bawb. Ni all y Comisiwn ddileu data personol a dim ond golygu data mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y gall ei wneud.
Rhaid i chi gydymffurfio â rheolau GDPR y DU ar gyhoeddi gwybodaeth bersonol. Gwiriwch yn ofalus bod unrhyw ddata personol rydych chi’n ei gynnwys yn eich cyfrifon a’ch adroddiad blynyddol yn angenrheidiol, wedi’i gyfiawnhau’n llawn ac nad yw’n ormodol.
Gweler ein hysbysiad preifatrwydd ffurflen flynyddol am wybodaeth ar ba ddata personol i’w gynnwys yn eich ffurflen flynyddol a’ch cyfrifon a sut mae’r Comisiwn Elusennau yn prosesu hyn.
8. Enghreifftiau
Mae’r newidiadau cyfrifyddu ac adrodd newydd yn berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026. Isod mae rhai enghreifftiau o sut y gallai elusennau elwa o’r newidiadau.
Enghraifft 1
Mae Elusen A yn gwmni elusennol ac mae ganddi flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 30 Tachwedd. Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2025 roedd gan yr elusen incwm gros o £1.1 miliwn. O dan y trothwyon sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno, roedd yn rhaid archwilio’r cyfrifon.
Mae’r ymddiriedolwyr yn rhagweld y bydd yr incwm gros ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaw i ben ar 30 Tachwedd 2026 yn £1.4 miliwn.
O dan y trothwyon newydd, sy’n berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026, gall yr ymddiriedolwyr ddewis cael y cyfrifon wedi’u harchwilio gan archwiliwr annibynnol cymwys proffesiynol yn hytrach na’u harchwilio.
Enghraifft 2
Mae Elusen B yn gwmni elusennol ac mae’n gwmni rhiant nifer o gwmnïau masnachu sy’n is-gwmnïau. Mae gan yr elusen riant a’r is-gwmnïau ddiwedd blwyddyn ariannol ar 31 Rhagfyr.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2025, cyfanswm incwm y cwmni rhiant a’r is-gwmnïau (y ‘grŵp’) yw £1.3 miliwn. O dan y trothwyon sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno, rhaid i’r cwmni rhiant baratoi cyfrifon grŵp (a elwir hefyd yn gyfrifon cyfunol) y mae’n rhaid iddynt fod yn gyfrifon croniadau a rhaid iddynt gael eu harchwilio.
Mae ymddiriedolwyr elusen B yn rhagweld y bydd cyfanswm incwm y grŵp yn cynyddu i £1.4 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2026. O dan y trothwyon newydd, sy’n berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026, ni fyddai’n ofynnol i’r ymddiriedolwyr gynhyrchu cyfrifon grŵp.
9. Canllawiau pellach
Darganfyddwch pa wybodaeth sydd angen i chi ei hanfon at y Comisiwn Elusennau.
Darllenwch ganllawiau gan Dŷ’r Cwmnïau i ddeall beth sydd rhaid i chi ei gyflwyno iddyn nhw.
Mae’r tabl hwn yn nodi’r holl drothwyon cyfrifyddu cyn ac ar ôl 30 Medi 2026.
Defnyddiwch yr offeryn cyfrifon hwn (https://www.gov.uk/prepare-charitys-annual-accounts) os oes angen rhagor o help arnoch i ddeall pa gyfrifon i’w paratoi.
10. Nodyn cyfreithiol
Mae’r gofyniad i elusennau gynhyrchu cyfrifon yn adran 132 o Ddeddf Elusennau 2011.
Mae’r gofyniad i baratoi cyfrifon grŵp yn adran 138 o Ddeddf Elusennau 2011 a Rheoliadau Deddf Elusennau 2011 (Cyfrifon Grŵp) 2015.
Mae’r gofyniad i gwmnïau gynhyrchu cyfrifon yn adran 394 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Mae’r gofyniad i gyfrifon cwmni roi ‘darlun gwir a theg’ yn adran 393(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Mae’r pŵer i’r Comisiwn Elusennau hepgor y gofyniad i gyfrifon gael eu harchwilio’n annibynnol yn adran 154 o Ddeddf Elusennau 2011 a Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008.
Darllenwch ganllawiau ar goddefiadau.
Mae’r gofyniad i baratoi a chyflwyno adroddiad blynyddol yn adran 162 o Ddeddf Elusennau 2011.
Mae’r opsiwn i gael archwiliad annibynnol yn adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011.
Os dewiswch archwiliad annibynnol, (darllenwch canllawiau perthnasol uchod) rhaid i’r archwiliwr annibynnol fod yn aelod o gorff a bennir o dan Ddeddf Elusennau 2011. Dyma nhw:
- Cymrawd o Gymdeithas Archwilwyr Annibynnol Elusennau
- Aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr
- Aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban
- Aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Cyhoeddus Awdurdodedig
- Aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Rhyngwladol
- Aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli
- Aelod o Sefydliad yr Ysgrifenyddion a’r Gweinyddwyr Siartredig
- Aelod o Sefydliad Siartredig y Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg
- Aelod o Sefydliad y Cyfrifwyr Ariannol
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Cyhoeddus Ardystiedig