Canllawiau

Paratoi adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr elusen

Beth i'w roi yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr, yn dibynnu ar incwm eich elusen a gwerth ei hasedau.

Applies to England and Wales

Am adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr elusen

Mae’ch adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr yn helpu pobl i ddeall beth mae’ch elusen yn ei wneud, yn enwedig cyllidwyr a buddiolwyr posibl.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr os yw’ch elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru neu Loegr. Ynghyd â’ch cyfrifon, mae’r adroddiad yn dweud wrth bobl:

  • am waith eich elusen
  • o ble daw’ch arian
  • sut rydych chi wedi gwario’ch arian dros y flwyddyn ddiwethaf

Adroddiadau ar gyfer elusennau bach heb fod yn gwmnïau

Os oes gan eich elusen incwm o lai na £500,000 (ac ar yr amod nad oes ganddi asedau sy’n werth mwy na £3.26 miliwn), paratowch adroddiad syml gan gynnwys:

  • enw, rhif cofrestru, cyfeiriad ac enwau ymddiriedolwyr eich elusen
  • ei strwythur a manylion ynghylch sut y caiff ei rheoli, gan gynnwys sut y mae’n recriwtio ymddiriedolwyr
  • ei gweithgareddau a’i hamcanion yn ystod y flwyddyn
  • ei chyflawniadau a’i pherfformiad, gan gynnwys adrodd ar ei budd cyhoeddus
  • adolygiad ariannol gan gynnwys unrhyw ddyledion a manylion am eich polisi wrth gefn (os yw’n gymwys)
  • manylion am unrhyw gronfeydd sy’n cael eu dal fel ymddiriedolwr gwarchod

Gallwch roi rhagor o fanylion yn adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr os ydych am wneud hynny. Mae’n rhaid i chi anfon copi i’r comisiwn gyda’ch adroddiad blynyddol dim ond os yw’ch incwm yn fwy na £25,000. Ond mae’n rhaid i chi anfon copi i’r comisiwn os yw’n gofyn amdano.

Adroddiadau ar gyfer elusennau mawr neu elusennau sy’n gwmnïau

Paratowch adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr llawn os yw naill ai:

  • incwm eich elusen yn fwy na £500,000 (neu’n fwy na £250,000 os yw ei hasedau yn werth mwy na £3.26 miliwn)
  • eich elusen yn gwmni neu’n SCE

Mae’n rhaid i adroddiad llawn ddilyn y canllawiau a osodwyd gan SORP.

Gallwch lanlwytho copi o adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr fel ffeil PDF pan fyddwch chi’n anfon eich ffurflen flynyddol i’r Comisiwn Elusennau.

Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP) Elusennau

Mae datganiad o arferion cymeradwy (SORP) yn rhoi fframwaith ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau, ac mae’n ceisio:

  • helpu ymddiriedolwyr elusen i fodloni eu gofyniad cyfreithiol er mwyn i’w cyfrifon roi darlun gwir a theg
  • annog cysondeb mewn safonau cyfrifyddu

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016, defnyddiwch SORP Elusennau (FRS 102) os yw’ch elusen yn paratoi cyfrifon croniadau oni bai bod SORP penodol ar gyfer eich math chi o elusen, er enghraifft;

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu cyn 1 Ionawr 2015, defnyddiwch SORP 2005.

Ar gyfer un flwyddyn (cyfnodau cyfrifyddu yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2015), os ydych yn endid llai, ceir dewis rhwng defnyddio naill ai:

Bydd eich elusen yn cael ei hystyried yn endid llai a gall ddefnyddio FRSSE SORP os yw unrhyw ddau o’r datganiadau canlynol yn wir:

  • mae ei hincwm yn llai na £6.5m
  • mae gwerth ei holl asedau yn llai na £3.26m
  • nid yw’n cyflogi mwy na 50 aelod o staff

Fel arall, bydd angen i chi ddefnyddio FRS 102 SORP

Adrodd ar fudd cyhoeddus eich elusen

Os ydych chi’n cwblhau adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr syml neu lawn, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi adrodd sut rydych chi wedi cyflawni dibenion eich elusen er budd y cyhoedd.

Mae hyn yn helpu pobl, gan gynnwys cyllidwyr a buddiolwyr, i ddeall pam mae’ch elusen yn gwneud beth mae’n ei wneud. Os yw incwm eich elusen yn llai na £500,000, gallwch ddewis sut i adrodd hyn. Ond fan lleiaf mae’n rhaid i chi ddweud:

  • beth yw dibenion elusennol eich elusen
  • beth y mae wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r dibenion hynny
  • eich bod wedi ystyried canllawiau budd cyhoeddus y comisiwn wrth wneud unrhyw benderfyniad y mae’n berthnasol iddo

Os yw incwm eich elusen yn fwy na £500,000 mae’n rhaid i chi hefyd:

  • esbonio eich strategaeth ar gyfer bodloni ei dibenion elusennol
  • rhestru unrhyw weithgareddau arwyddocaol rydych chi wedi’u cyflawni fel rhan o’r strategaeth hon
  • rhoi manylion am yr hyn roedd eich elusen wedi’i wneud wrth ymgymryd â’r gweithgareddau hyn i gyflawni ei dibenion
Cyhoeddwyd ar 10 May 2013