Cyfrifon elusen: rheolau ar gyfer Sefydliadau Elusennol Corfforedig (SECs)
Diweddarwyd 16 Medi 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Darllenwch ganllawiau ynghylch pa gyfrifon y mae’n rhaid i’ch elusen eu paratoi ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026.
Darllenwch y canllawiau hyn os yw’ch elusen yn Sefydliad Elusennol Corfforedig (SEC).
Darllenwch ganllawiau gwahanol os yw’ch elusen yn:
Os yw’ch elusen hefyd yn gweithredu yn yr Alban, darllenwch canllawiau ar y rheolau cyfrifyddu ar gyfer elusennau’r Alban y mae’n rhaid i chi eu dilyn hefyd.
Mae Datganiad yr Arfer a Argymhellir gan Elusennau (SORP) yn rhoi fframwaith ar gyfer cyfrifyddu ac adrodd elusennau.
1 Ionawr 2026 yw’r dyddiad y mae Datganiad yr Arfer a Argymhellir gan Elusennau 2026 (SORP 2026) yn berthnasol ohono. Efallai y bydd yn rhaid i’ch elusen gynhyrchu cyfrifon sy’n cydymffurfio â SORP 2026, neu SORP penodol i’r sector. Er enghraifft, bydd angen i ddarparwyr tai cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â’r SORP Tai.
Mae’r canllawiau hyn hefyd yn nodi trothwyon cyfrifyddu newydd sy’n berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026.
Os ydych chi’n paratoi cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol flaenorol, darllenwch y canllawiau priodol.
1. Y rheolau cyfrifyddu ac adrodd sylfaenol
Fel ymddiriedolwr rhaid i chi sicrhau bod eich elusen yn atebol. Dyma un o’ch dyletswyddau cyfreithiol. Mae corff yr ymddiriedolwyr cyfan yn gyfrifol am reolaeth ariannol eich elusen. Defnyddiwch y canllawiau hyn i’ch helpu i ddeall y math o gyfrifon y mae’n rhaid i SECs eu paratoi, ac ar gyfer y wybodaeth am adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr.
Dyma’r rheolau sylfaenol:
- rhaid i bob SEC baratoi cyfrifon ac adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr
- rhaid i bob SEC gadw cofnodion ariannol fel llyfrau arian parod, anfonebau, derbynebau a chofnodion Cymorth Rhodd am o leiaf 6 blynedd
- rhaid i bob SEC gydymffurfio ag unrhyw beth y mae eu dogfen lywodraethol yn ei ddweud am reolaeth ariannol
- rhaid i bob SEC sicrhau bod eu cyfrifon a’u hadroddiad blynyddol ar gael i’r cyhoedd ar gais. Gallwch godi tâl i dalu eich costau
- rhaid i bob SEC gyflwyno gwybodaeth yn flynyddol i’r Comisiwn Elusennau. Darllenwch y canllawiau i ddarganfod pa wybodaeth y mae angen i’ch elusen ei chyflwyno
Efallai fod rheolau eraill y mae’n rhaid i’ch elusen gydymffurfio â nhw. Darllenwch ganllawiau ar esemptiadau treth ar gyfer elusennau ac ar rhoddion elusennol halogedig.
Ceisiwch gyngor proffesiynol os oes angen help arnoch i baratoi cyfrifon eich elusen neu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr.
2. Pa fath o gyfrifon i’w paratoi
Mae dau fath o gyfrifon: cyfrifon derbyniadau a thaliadau a chyfrifon croniadau.
Mae’r math o gyfrifon y mae’n rhaid i chi eu paratoi yn dibynnu - i’r rhan fwyaf o elusennau - ar incwm gros blynyddol yr elusen.
2.1 Beth yw cyfrifon derbyniadau a thaliadau
Mae cyfrifon derbyniadau a thaliadau yn cynnwys:
-datganiad o dderbyniadau a thaliadau sy’n dangos symudiad arian parod i mewn ac allan o’r elusen yn ystod y flwyddyn ariannol, a - datganiad yn rhoi manylion ei hasedau a’i rhwymedigaethau (symiau sy’n ddyledus i bobl a sefydliadau eraill) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
Rhaid i SECs ddarparu nodiadau penodol i gyfrifon derbyniadau a thaliadau i roi manylion ynghylch:
- unrhyw warantau a roddir gan y SEC lle gallai fod rhwymedigaeth yn codi ar ddyddiad diwedd y cyfnod; ac
- unrhyw ddyledion a sicrheir gan arwystl ar asedau’r SEC ar ddyddiad diwedd y cyfnod
Gallwch ddefnyddio’r templed hwn derbyniadau a thaliadau.
Gall eich elusen ddewis paratoi cyfrifon croniadau, neu gall eich dogfen lywodraethol neu gyllidwr ei gwneud yn ofynnol i’ch elusen baratoi cyfrifon croniadau.
2.2 Beth yw cyfrifon croniadau
Rhaid i gyfrifon croniadau roi darlun gwir a theg. Rhaid iddynt gynnwys:
- mantolen sy’n dangos sefyllfa ariannol yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a
- datganiad o weithgareddau ariannol sy’n dangos ar gyfer y flwyddyn ariannol honno:
- yr holl arian a dderbyniwyd neu sy’n ddyledus i’r elusen, ac
- yr holl arian a wariwyd neu a dynnwyd gan yr elusen, a
- nodiadau esboniadol
Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifon yn wir a theg drwy gydymffurfio â SORP. Os yw eich SEC yn paratoi cyfrifon croniadau ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026, rhaid i’ch cyfrifon gydymffurfio â SORP 2026, neu SORP penodol i’r sector. Er enghraifft, bydd angen i ddarparwyr tai cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â’r SORP Tai.
Ar gyfer elusennau sy’n cydymffurfio â SORP 2026, bydd faint o fanylion a ddarparwch yn dibynnu ar ba haen rydych chi ynddi.
2.3 Beth mae incwm gros yn ei olygu
Ar gyfer y rhan fwyaf o elusennau, mae’r math o gyfrifon rydych chi’n eu paratoi yn dibynnu ar incwm gros blynyddol eich elusen ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw.
Defnyddiwch y wybodaeth yng nghofnodion cyfrifyddu eich elusen i gyfrifo’r incwm gros.
2.4 Incwm gros
Ar gyfer elusennau sy’n paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau
Incwm gros yw cyfanswm y derbyniadau a gofnodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol yn y datganiad o dderbyniadau a thaliadau ac eithrio:
- elw o werthu buddsoddiadau neu asedau sefydlog
- derbyniad unrhyw gronfeydd gwaddol
- benthyciadau a dderbynnir yn y flwyddyn ariannol
Cronfeydd gwaddol yw cronfeydd a dderbynnir gan yr elusen i’w dal fel cyfalaf a’u defnyddio at ddibenion yr elusen. Mae hyn yn cynnwys gwaddol parhaol sef eiddo y mae’n rhaid i’ch elusen ei gadw yn hytrach na’i wario.
Gwaddol gwariadwy yw cronfa gyfalaf sy’n caniatáu i’r ymddiriedolwyr drosi’r gronfa yn incwm.
Ar gyfer elusennau sy’n paratoi cyfrifon croniadau
Incwm gros yw cyfanswm yr incwm fel y dangosir yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer yr holl gronfeydd ac eithrio derbyniad unrhyw gronfeydd gwaddol, fel yr eglurwyd uchod.
Rhaid i chi gynnwys unrhyw gronfeydd gwaddol sydd wedi’u trosglwyddo i gronfeydd incwm yn ystod y flwyddyn ac sydd bellach ar gael i’w gwario.
2.5 Trothwyon cyfrifon derbyniadau a thaliadau
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben cyn 30 Medi 2026
Gallwch baratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau os yw incwm gros eich SEC yn £250,000 neu lai - oni bai bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi baratoi cyfrifon croniadau neu eich bod yn dewis gwneud hynny.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
Gall eich SEC baratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau os yw ei incwm gros yn £500,000 neu lai - oni bai bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod rhaid i chi baratoi cyfrifon croniadau neu eich bod yn dewis gwneud hynny.
2.6 Trothwyon cyfrifon croniadau
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben cyn 30 Medi 2026
Rhaid i chi baratoi cyfrifon croniadau os yw incwm gros eich SEC yn fwy na £250,000.
Rhaid i chi baratoi cyfrifon grŵp os oes gan eich SEC un neu fwy o is-gwmnïau ac mae incwm gros cyfunol y grŵp (ar ôl tynnu unrhyw drafodion rhwng unrhyw rai o’r sefydliadau yn y grŵp) yn fwy nag £1 miliwn. Rhaid i’r rhain fod yn gyfrifon croniadau.
Mae is-gwmni yn sefydliad y mae’r elusen yn berchen arno ac yn ei reoli, er enghraifft cwmni masnachu.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
Rhaid i chi baratoi cyfrifon croniadau os yw incwm gros eich SEC yn fwy na £500,000.
Rhaid i chi baratoi cyfrifon grŵp os oes gan eich SEC un neu fwy o is-gwmnïau ac mae incwm gros cyfunol y grŵp (ar ôl tynnu unrhyw drafodion rhwng unrhyw rai o’r sefydliadau yn y grŵp) yn fwy na £1.5 miliwn. Rhaid i’r rhain fod yn gyfrifon croniadau.
Mae is-gwmni yn sefydliad y mae’r elusen yn berchen arno ac yn ei reoli, er enghraifft cwmni masnachu.
Darllenwch enghraifft o sut y gallai elusennau elwa o’r newid trothwy hwn.
3. Pan fydd angen archwiliad neu archwiliad annibynnol ar gyfrifon
Dyma wiriadau i ddarparu adolygiad annibynnol o gyfrifon yr elusen.
3.1 Archwiliad annibynnol
Mae archwiliad annibynnol yn adolygiad llai manwl nag archwiliad. Fe’i dewisir yn aml gan elusennau llai ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau bod cyfrifon yn cyd-fynd â chofnodion yr elusen.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben cyn 30 Medi 2026
| Incwm gros £25,000 neu lai | Nid oes gofyniad i gael archwiliad annibynnol neu archwiliad - oni bai bod eich dogfen lywodraethol neu gytundeb ariannu yn gofyn am un neu’r llall. |
| Incwm gros dros £25,000 a hyd at £1 miliwn | Gallwch ddewis cael archwiliad annibynnol neu archwiliad - oni bai bod eich dogfen lywodraethol neu gytundeb ariannu yn gofyn am archwiliad. |
| Incwm gros dros £250,000 a hyd at £1 miliwn | Os ydych yn cael archwiliad annibynnol rhaid i hwn gael ei gynnal gan aelod o gorff a bennir o dan Ddeddf Elusennau 2011. |
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
| Incwm gros £40,000 neu lai | Nid oes gofyniad i gael archwiliad annibynnol - oni bai bod eich dogfen lywodraethol neu gytundeb ariannu yn mynnu’r naill neu’r llall. |
| Incwm gros dros £40,000 a hyd at £1.5 miliwn | Gallwch ddewis cael archwiliad annibynnol neu archwiliad - oni bai bod eich dogfen lywodraethol neu gytundeb ariannu yn ei gwneud yn ofynnol i’ch elusen gael archwiliad. |
| Incwm gros dros £500,000 a hyd at £1.5 miliwn | Os ydych yn cael archwiliad annibynnol, rhaid i hwn gael ei gynnal gan aelod o gorff a bennir o dan Ddeddf Elusennau 2011. |
Darllenwch ganllawiau ar archwiliad annibynnol.
Darllenwch enghraifft o sut y gallai elusennau elwa o’r newidiadau trothwy hyn.
3.2 Archwiliad
Mae archwiliad yn adolygiad manwl o gyfrifon yr elusen ac yn rhoi barn ynghylch a yw’r cyfrifon yn wir ac yn deg.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben cyn 30 Medi 2026
|
Incwm gros yn fwy na £1 miliwn neu Incwm gros yn fwy na £250,000 ac asedau gros yn fwy na £3.26 miliwn |
Rhaid i chi gael archwiliad gan archwilydd cofrestredig. |
| Os oes rhaid i’ch elusen baratoi cyfrifon grŵp | Rhaid i chi gael archwiliad gan archwilydd cofrestredig. |
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
|
Incwm gros yn fwy na £1.5 miliwn neu Incwm gros yn fwy na £500,000 ac asedau gros yn fwy na £5 miliwn |
Rhaid i chi gael archwiliad gan archwilydd cofrestredig. |
| Os oes rhaid i’ch elusen baratoi cyfrifon grŵp | Rhaid i chi gael archwiliad gan archwilydd cofrestredig. |
Gallwch chwilio am archwilydd ar y Gofrestr Archwilwyr Statudol.
Gall y Comisiwn Elusennau fynnu archwiliad o gyfrifon eich elusen mewn achosion lle gallai fod camymddwyn neu gamreoli.
4. Paratoi cyfrifon grŵp (a elwir hefyd yn gyfrifon cyfunol)
Darllenwch yr adran hon os yw’ch elusen yn elusen rhiant ac mae ganddi un neu fwy o is-gwmnïau.
Mae is-gwmni yn sefydliad y mae’r elusen rhiant yn berchen arno ac yn ei reoli, er enghraifft cwmni masnachu.
Mae ‘Grŵp’ yn golygu’r elusen riant a’r holl is-gwmnïau.
Rhaid i bob elusen mewn grŵp baratoi cyfrifon unigol.
4.1 Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben cyn 30 Medi 2026
| Mae incwm gros y grŵp yn fwy na £1 miliwn ar ôl tynnu unrhyw drafodion rhwng sefydliadau yn y grŵp | Rhaid i’r elusen riant baratoi cyfrifon croniadau a rhaid iddi gydymffurfio â SORP 2019 (neu SORP 2026 os yw ymddiriedolwyr wedi dewis ei fabwysiadu’n gynnar). Rhaid i’r cyfrifon gael eu harchwilio gan archwilydd cofrestredig. |
| Incwm gros y grŵp yw £1 miliwn neu lai | Gallwch ddewis paratoi cyfrifon grŵp. Gelwir y rhain yn ‘gyfrifon anstatudol’ gan nad oes gofyniad cyfreithiol i’w paratoi. Dim ond os bodlonir gofynion penodol y gellir eu ffeilio gyda’r Comisiwn Elusennau. |
4.2 Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026
| Incwm gros y grŵp yn fwy na £1.5 miliwn ar ôl tynnu unrhyw drafodion rhwng unrhyw un o’r sefydliadau yn y grŵp | Rhaid i’r elusen riant baratoi cyfrifon croniadau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â SORP 2026. Rhaid i’r cyfrifon gael eu harchwilio gan archwilydd cofrestredig. |
| Incwm gros y grŵp yw £1.5 miliwn neu lai | Gallwch ddewis paratoi cyfrifon grŵp. Gelwir y rhain yn ‘gyfrifon anstatudol’ gan nad oes gofyniad cyfreithiol i’w paratoi. Dim ond os bodlonir gofynion penodol y gellir eu ffeilio gyda’r Comisiwn Elusennau. |
5. Adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr
Rhaid i ymddiriedolwyr pob elusen gynhyrchu cyfrifon blynyddol a rhaid i ymddiriedolwyr pob elusen gofrestredig hefyd baratoi adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr.
Mae’r adroddiad blynyddol yn garreg filltir bwysig, yn gyfle i asesu sut mae’r flwyddyn wedi mynd o’i gymharu â’ch cynlluniau. Mae’r adroddiad yn gyfle i ddod â’r cyfrifon yn fyw, eich helpu i ddathlu llwyddiannau ac egluro unrhyw heriau a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Rhaid i bob elusen gynnwys gwybodaeth sylfaenol sy’n orfodol. Mae elusennau sy’n paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau yn darparu llai o wybodaeth. I elusennau sy’n paratoi cyfrifon croniadau, bydd faint o fanylion a ddarparwch yn dibynnu ar ba haen rydych chi ynddi at ddibenion SORP 2026.
Dysgwch ba wybodaeth i’w rhoi yn eich adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr.
6. Defnyddio llofnodion electronig
Gall llofnod electronig fod yn fersiwn wedi’i theipio neu wedi’i sganio o lofnod wedi’i ysgrifennu â llaw.
Gwiriwch ddogfen lywodraethol eich elusen a dilynwch yr hyn y mae’n ei ddweud am ddefnyddio llofnodion ysgrifenedig â llaw neu electronig.
Os nad yw’n dweud dim, gallwch ddefnyddio llofnodion electronig ar gyfer dogfennau fel mantolenni, cyfrifon, adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr ac adroddiad yr archwilwyr annibynnol.
Mae hyn yn cynnwys copïau rydych chi’n eu cadw, a chopïau (o gyfrifon ac adroddiadau blynyddol) rydych chi’n eu hanfon at y Comisiwn.
7. Gan gynnwys gwybodaeth bersonol yn eich cyfrifon a’ch adroddiad blynyddol
Mae’r Comisiwn Elusennau yn cyhoeddi cyfrifon ac adroddiadau blynyddol elusennau ar ei gofrestr ac maent ar gael i bawb. Ni all y Comisiwn ddileu data personol a dim ond golygu data mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y gall ei wneud.).
Rhaid i chi gydymffurfio â rheolau GDPR y DU ar gyhoeddi gwybodaeth bersonol. Gwiriwch yn ofalus bod unrhyw ddata personol rydych chi’n ei gynnwys yn eich cyfrifon a’ch adroddiad blynyddol yn angenrheidiol, wedi’i gyfiawnhau’n llawn ac nad yw’n ormodol.
Gweler ein hysbysiad preifatrwydd ffurflen flynyddol am wybodaeth ar ba ddata personol i’w gynnwys yn eich ffurflen flynyddol a’ch cyfrifon a sut mae’r Comisiwn Elusennau yn prosesu hyn.
8. Enghreifftiau
Mae’r newidiadau cyfrifyddu ac adrodd newydd yn berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026. Isod mae rhai enghreifftiau o sut y gallai elusennau elwa o’r newidiadau.
Mae’r enghreifftiau hyn yn tybio nad oes dim yn nogfen lywodraethol yr elusen sy’n dweud pa fath o gyfrifon y mae’n rhaid i’r elusen eu paratoi neu a oes rhaid archwilio’r cyfrifon yn annibynnol.
Enghraifft 1
Mae Elusen A yn SEC ac mae ganddi flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Ionawr. Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2026, roedd gan yr elusen incwm gros o £358,000. O dan y trothwyon sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno, roedd yn rhaid i’r ymddiriedolwyr baratoi cyfrifon croniadau.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2027, mae’r ymddiriedolwyr yn rhagweld y bydd eu hincwm gros yn £437,000. O dan y trothwyon newydd sy’n berthnasol ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026, gall yr ymddiriedolwyr ddewis paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau neu gyfrifon croniadau.
Enghraifft 2
Mae Elusen B yn SEC ac mae ganddi flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Hydref. Roedd ganddi incwm blynyddol gros o £35,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Hydref 2025. O dan y trothwyon sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno, rhaid i’r ymddiriedolwyr gael y cyfrifon wedi’u harchwilio’n annibynnol.
Mae’r ymddiriedolwyr yn rhagweld y bydd incwm yr elusen ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Hydref 2026 rhwng £35,000 a £38,000. O dan y trothwyon newydd sy’n berthnasol ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026, nid oes rhaid iddynt gael y cyfrifon wedi’u harchwilio’n annibynnol.
Enghraifft 3
Mae Elusen C yn SEC gyda blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 30 Medi. Ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 30 Medi 2025 roedd gan yr elusen incwm gros o £325,000. O dan y trothwyon sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno, roedd rhaid i’r ymddiriedolwyr gael y cyfrifon wedi’u harchwilio gan archwiliwr cymwys proffesiynol.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 30 Medi 2026, mae’r ymddiriedolwyr yn rhagweld y bydd yr incwm gros ar gyfer y flwyddyn yn £315,000. O dan y trothwyon newydd, sy’n berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026, rhaid i’r cyfrifon gael eu harchwilio gan archwiliwr annibynnol, ond nid oes angen i hyn gael ei wneud gan archwiliwr cymwys proffesiynol.
9. Canllawiau pellach
Dysgwch pa wybodaeth sydd angen i chi ei anfon at y Comisiwn Elusennau.
Mae’r tabl hwn yn nodi’r holl drothwyon cyfrifyddu cyn ac ar ôl 30 Medi 2026.
Defnyddiwch yr offeryn cyfrifon hwn os oes angen rhagor o help arnoch i ddeall pa gyfrifon i’w paratoi.
10. Nodyn cyfreithiol
Mae’r gofyniad i gynhyrchu cyfrifon yn adran 132 o Ddeddf Elusennau 2011.
Mae’r gofyniad i baratoi cyfrifon grŵp yn adran 138 o Ddeddf Elusennau 2011 a Rheoliadau Deddf Elusennau 2011 (Cyfrifon Grŵp) 2015.
Mae’r pŵer i’r Comisiwn Elusennau ollwng y gofyniad i gyfrifon gael eu harchwilio’n annibynnol yn adran 154 o Ddeddf Elusennau 2011 a Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008.
Darllenwch ganllawiau ar ollyngiadau.
Mae’r gofyniad i baratoi a chyflwyno adroddiad blynyddol yn adran 162 o Ddeddf Elusennau 2011.
Mae’r gofyniad i SECs ddarparu gwybodaeth yn y nodiadau i gyfrifon derbyniadau a thaliadau am warantau a dyledion heb eu talu yn Rheoliad 62 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012.
Mae’r opsiwn i gael archwiliad annibynnol yn hytrach nag archwiliad ariannol yn adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011.
Os dewiswch archwiliad annibynnol (darllenwch canllawiau perthnasol uchod), rhaid i’r archwiliwr annibynnol fod yn aelod o gorff a bennir o dan Ddeddf Elusennau 2011. Dyma nhw:
- cymrawd o’r Gymdeithas Archwilwyr Annibynnol Elusennau
- Aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
- Aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban
- Aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Cyhoeddus Awdurdodedig
- Aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Rhyngwladol
- Aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli
- Aelod o Sefydliad yr Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig
- Aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
- Aelod o Sefydliad y Cyfrifwyr Ariannol
- Aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Cyhoeddus Ardystiedig
Mae’r gofyniad i SECs fod rhaid paratoi’r datganiad o weithgareddau ariannol a’r fantolen er mwyn rhoi darlun gwir a theg yn Rheoliad 8 (4) o Reoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008.
Mae Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU (GAAP) yn darparu’r trothwy ar gyfer paratoi cyfrifon croniadau ar sail wir a theg. Os mabwysiadir unrhyw ddull amgen, y cyfrifoldeb ar y paratöwr yw dangos pam y byddai dilyn GAAP yn arwain at y cyfrifon a baratowyd heb fod yn wir a theg ac i ddangos sut mae eu dull amgen yn angenrheidiol ar gyfer gwir a theg. Mae GAAP yn darparu ar gyfer amgylchiadau penodol lle mae gwyro oddi wrth GAAP yn angenrheidiol ar gyfer darlun gwir a theg a bod rhaid mabwysiadu triniaeth amgen ar gyfer eitem ond yna mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r paratöwr egluro eu dull amgen a gwneud datgeliadau penodol yn y nodiadau i’r cyfrifon.
Rôl SORP yw darparu canllawiau cymhwyso i elusennau sy’n paratoi cyfrifon croniadau yn unol â GAAP. Nid yw SORP yn safon gyfrifyddu ynddo’i hun. Pan fydd GAAP yn newid, cyhoeddir SORP newydd. Pan fydd GAAP yn newid, nid yw unrhyw SORP blaenorol yn berthnasol ar gyfer cyfnodau adrodd sy’n ddarostyngedig i’r GAAP newydd.
Mae Rheoliad 8 (5) o Reoliadau 2008 yn cyfeirio at baratoi cyfrifon croniadau yn unol â dulliau ac egwyddorion y SORP. Er bod Rheoliad 2 yn diffinio’r SORP fel y Datganiad o Arfer a Argymhellir ar gyfer Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau (SORP 2005), y gofyniad cyffredinol yw paratoi’r cyfrifon i roi darlun ‘gwir a theg’. Felly, mae’n rhesymol i baratowyr ddod i’r casgliad, lle mae gwrthdaro amlwg rhwng gofynion cyfreithiol a’r GAAP cymwys, bod y gofyniad i baratoi cyfrifon i roi darlun ‘gwir a theg’ o reidrwydd yn ei gwneud yn ofynnol glynu wrth y GAAP cymwys ac mae hyn yn trechu methiant y rheoliadau i fod wedi’u diweddaru i ddiffinio’r SORP y dylid ei ddilyn yn gywir.
Mae SORP 2026 yn darparu canllawiau cymhwyso ar gyfer y GAAP newydd, felly er nad yw’r rheoliadau wedi’u diweddaru i ddiffinio’r SORP y dylid ei ddilyn, mae’n rhesymol dod i’r casgliad ei bod yn angenrheidiol dilyn SORP 2026 er mwyn i gyfrifon croniadau roi darlun gwir a theg.