Ffurflen

Cais am ddatganiad Pensiwn y Wladwriaeth

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wneud hynny drwy’r post gan ddefnyddio’r ffurflen gais yma. Llenwch hi i mewn a’i phostio i ni.

Dogfennau

Gwirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Manylion

Y gwasanaeth ar-lein yw’r ffordd gyflymaf i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch ddefnyddio ffurflen BR19W i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth os:

  • rydych yn 16 oed neu drosodd, ac
  • o leiaf 30 diwrnod i ffwrdd o’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan edrychwn ar eich cais

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu lechen

Nid oes modd i chi gwblhau’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu lechen. Rhaid i chi naill ai:

  • defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur
  • argraffu’r ffurflen a’i chwblhau â llaw

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur

Defnyddiwch ddarllenwr PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenwr PDF am ddim ar-lein.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenwr sgrîn i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi gwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich arwain trwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn eu rhoi.

Peidiwch a defnyddio porwr eich cyfrifiadur, neu os ydych yn defnyddiwr Apple Macintosh, y cymhwysiad Preview.

Gallwch arbed data sydd wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenwr PDF. Mae hwn yn meddwl nad oes angen i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.

Mae trafferthion dibynadwyedd gyda rhai meddalwedd cynorthwyol, a all meddwl ni fydd y ffurflen yn arbed yn gywir.

Bydd y ffurflen hon dim ond yn arbed os: :

  • mae wedi arbed ar eich cyfrifiadur
  • mae wedi agor mewn fersiwn diweddar o ddarllenwr PDF

Ni fydd y ffurflen yn arbed mewn:

  • fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
  • rhai darllenwr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar PC

Cymorth wrth ddefnyddio’r ffurflen gais PDF hon

Am gymorth a chefnogaeth wrth gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â Chanolfan Bensiwn y Dyfodol.

Cysylltwch â DWP Online Helpdesk, os ydych yn cael trafferthion technegol wrth:

  • lawrlwytho’r ffurflen
  • symud o gwmpas y ffurflen
  • argraffu’r ffurflen

DWP online helpdesk
E-bost dwponline.helpdesk@dwp.gov.uk
Ffôn 0800 169 0154
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc a chyhoeddus Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Check online or by phone

You can:

Os ydych angen y ffurflen hon mewn fformat gwahanol

Cysylltwch â Chanolfan Bensiwn y Dyfodol i ofyn am:

  • gopi o’r ffurflen wedi’i hargraffu
  • fformat gwahanol, fel print mawr, braille neu CD sain
Cyhoeddwyd ar 1 November 2012
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 April 2023 + show all updates
  1. Updated the English and Welsh versions of the application form. The new versions are dated 04/23.

  2. Updated the interactive version of the BR19 form.

  3. Updated BR19 form in English and Welsh to December 2020 version.

  4. Added revised versions of the forms in English and Welsh.

  5. Added link to request a State Pension forecast by phone.

  6. Added revised BR19 English and Welsh - print versions.

  7. Added revised BR19 forms (May 2018): Application for a State Pension statement - English and Welsh.

  8. Removed link to the State Pension online statement which is no longer available from 1 September 2015.

  9. First published.