Amdanom ni

Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i fod â rheolaeth dros benderfyniadau ynghylch eu hiechyd a'u cyllid ac i wneud penderfyniadau ar ran pobl eraill nad ydynt yn gallu penderfynu drostynt eu hunain.


Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • helpu pobl i drefnu bod rhywun yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan, mewn sefyllfaoedd lle na fyddant yn gallu gwneud hynny am nad ydynt yn meddu ar alluedd meddyliol
  • cefnogi pobl i wneud penderfyniadau ar ran y rheini nad ydynt yn gallu penderfynu drostynt eu hunain

Rydym yn cyflawni swyddogaethau cyfreithiol Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl sydd ar Goll) 2017.

Ein cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • cymryd camau gweithredu lle bo pryderon ynghylch twrnai, dirprwy neu warcheidwad
  • cofrestru atwrneiaeth arhosol a pharhaus, fel bod pobl yn gallu dewis pwy fydd yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan
  • cadw’r cofrestrau o dwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid
  • goruchwylio’r dirprwyon a’r gwarcheidwaid a benodwyd gan y llysoedd a gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol
  • ymchwilio i adroddiadau o gamdriniaeth yn erbyn twrneiod, dirprwyon neu warcheidwaid cofrestredig

Ein blaenoriaethau

Dyma ein blaenoriaethau presennol:

  • deall ein cwsmeriaid yn well a chynllunio ffyrdd o fesur i ba raddau rydym yn diwallu eu hanghenion
  • darparu mwy o wasanaethau digidol
  • gweithio gyda sefydliadau partner i wella ein gwasanaeth, a sicrhau bod ein holl ddefnyddwyr yn gallu cael mynediad iddo.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Dysgu Am ein gwasanaethau.