Ein defnydd o ynni

Rydym yn monitro ac yn cyhoeddi gwybodaeth am faint o ynni y mae ein hadeiladau'n ei ddefnyddio, fel rhan o’r ymdrechion i leihau'r defnydd o ynni ac i wneud gweithrediadau a gwariant y llywodraeth yn fwy tryloyw.


Ar hyn o bryd, mae adrannau’r Llywodraeth yn cystadlu i arbed allyriadau carbon a chyflawni addewidion amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu data ar ei hallyriadau carbon, y defnydd o ddŵr a phapur, a faint o wastraff a gynhyrchir. Cyhoeddir y ffigurau hyn ar-lein bob chwarter ac maent ar gael ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2022.

Ein defnydd o ynni (ODS, 104 KB)

Cynlluniau arbed carbon

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi gwybodaeth am faint o ynni y mae ei swyddfeydd yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys data amser real sy’n dangos faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio, y gost a’r allyriadau carbon deuocsid dros gyfnod penodol o amser.