Ein llywodraethiant

Prif fwrdd a phwyllgorau gwneud penderfyniadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.


Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae’r bwrdd yn cyfarfod bob mis ac yn darparu arweiniad a chyfeiriad strategol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae hefyd yn monitro perfformiad ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau a’n hamcanion.

Aelodau Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae aelodau’r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau fel grŵp, nid fel cynrychiolwyr unrhyw faes busnes. Yn ogystal â’r aelodau ffurfiol, mae mynychwyr sefydlog yn dod i bob cyfarfod.

Dyma’r aelodau presennol:

  • Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Cadeirydd)
  • Martyn Burke, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Karin Woodley, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Greig Early, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Caroline Patterson, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Partneriaethau Busnes (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder)

Mae aelodau eraill o’r Pwyllgor Gweithredol hefyd yn mynychu’r Bwrdd, er nad ydynt yn aelodau ffurfiol.

Pwyllgor Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn gwneud penderfyniadau yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn adrodd arnynt. Mae’n gyfrifol am reoli Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd ac mae’n goruchwylio ein darpariaeth weithredol a blaenoriaethu adnoddau. Mae’n cyfarfod unwaith y mis.

Aelodau Pwyllgor Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Dyma’r aelodau presennol:

  • Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Swyddog Gweithredol (cadeirydd)
  • Peter Boyce, Gyfarwyddwr Dros Dro – Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth
  • Julie Lindsay, Prif Swyddog Gweithredu
  • Ruth Duffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
  • Emma Sharp, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
  • Louisa Harrison, Uwch Swyddog Cyllid Partneriaethau Busnes (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder)

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn rhoi barn annibynnol i’r Prif Weithredwr o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ogystal â’r aelodau ffurfiol, mae mynychwyr sefydlog yn dod i bob cyfarfod.

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn.

Aelodau Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Dyma’r aelodau presennol:

  • Martyn Burke, Cyfarwyddwr Anweithredol (cadeirydd)
  • Karin Woodley, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Aelod annibynnol (wrthi’n recriwtio ar hyn o bryd)

Yn ogystal â’r aelodau ffurfiol, mae nifer o bobl yn mynychu’n rheolaidd, sef:

  • Amy Holmes, Prif Weithredwr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Ruth Duffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
  • Helen Journeaux, Pennaeth Llywodraethu, Risg a Sicrwydd
  • Caroline Patterson, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Isabel Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon Ariannol, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Louisa Harrison, Uwch Bartner Busnes - Cyllid, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Cynrychiolydd o Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth
  • Cynrychiolydd o’r Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (ac archwilwyr dan is-gontract)