Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn credu y dylai ein pobl adlewyrchu a deall y gymdeithas amrywiol a wasanaethwn.


Mae darparu gwasanaethau hygyrch yn bwysig i ni yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein gwybodaeth a’n gwasanaethau ar-lein mor hawdd eu defnyddio â phosibl, a bod y llythyrau a’r ffurflenni rydym yn eu hanfon yn glir ac yn hawdd eu darllen. Mae rhagor o wybodaeth am bolisi dogfennau hygyrch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gael ar GOV.UK. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at amcanion cydraddoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Rydym yn gwybod y bydd angen help weithiau ar rai pobl, gan gynnwys pobl anabl, i gysylltu â’n gwasanaethau neu eu defnyddio. Rydym yn gallu newid y gwasanaethau rydym yn eu darparu i’w gwneud yn hygyrch i chi. Er enghraifft, cyhoeddi ffurflenni atwrneiaeth arhosol mewn braille i gefnogi pobl sydd â nam ar eu golwg neu ddarparu gwasanaethau ffôn testun i bobl sydd ag anawsterau clywed. ‘Addasiadau rhesymol’ yw’r enw ar y rhain.

Mae anableddau’n effeithio ar bobl yn wahanol, felly ni fyddwn bob amser yn gwybod pa addasiad sydd ei angen arnoch. Os ydych chi’n meddwl bod angen un arnoch chi, rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n cysylltu â ni. Ceisiwch egluro sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi, gan roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch chi. Bydd hyn yn helpu ein cynghorwyr gwasanaeth i gwsmeriaid i ddod o hyd i’r ffordd iawn o’ch cefnogi chi.

Sut gallwch chi gysylltu â ni:

  • E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk
  • Ffôn: 0300 456 0300
  • Ffôn testun: 0115 934 2778
  • Ffacs: 0870 739 5780

Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener 9am tan 5pm
Dydd Mercher 10am tan 5pm