Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym yn credu y dylai ein pobl adlewyrchu a deall y gymdeithas amrywiol a wasanaethwn.
Ein amcanion
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) yn cyflawni nod strategol y Llywodraeth o gael y bobl orau yn gweithio yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, drwy alluogi adeiladu gweithlu amrywiol a thalentog sy’n manteisio ar yr ystod ehangaf bosibl o gefndiroedd daearyddol, cymdeithasol a gyrfaol, a all oresgyn heriau’r 21ain Ganrif, harneisio profiad gweithwyr a mewnwelediad cwsmeriaid i gyflawni canlyniadau gwell i ddinasyddion.
Amcanion Cydraddoldeb
Mae gennym fframwaith strategol, adrannol sy’n llywio canlyniadau cynhwysiant sydd wedi’u halinio’n sefydliadol, wedi’u hymgorffori, wedi’u tystiolaethu a’u gwerthuso.
Drwy’r fframwaith hwn, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil, Strategaeth Pobl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac ymrwymiadau Diwygio’r Llywodraeth ehangach, gyda chanlyniadau penodol a mesuradwy:
Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi’i Ymgorffori
- Defnyddir dull seiliedig ar dystiolaeth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i gefnogi a llywio penderfyniadau ac atebolrwydd uwch-arweinwyr, gan sicrhau tryloywder a chynnydd mewn perthynas ag amcanion strategol. Cyhoeddir data’r gweithlu yn allanol drwy Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr adran ac Ystadegau’r Gwasanaeth Sifil.
- Mae gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) wedi’u hymgorffori a’u tystiolaethu yn ein model gweithredu craidd, gan gynnwys yr holl bolisïau, prosesau a chynlluniau gweithredu perthnasol.
- Mae adrodd rheolaidd sy’n gysylltiedig ag EDI wedi’i ymgorffori o fewn trefniadau llywodraethu uwch yn yr adran, gan sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn cael eu hintegreiddio’n systematig i lywodraethu, cynllunio a monitro perfformiad, gan alluogi gwneud penderfyniadau mwy cynhwysol ac atebol.
Gweithlu Cynrychioliadol
- Bydd tystiolaeth o gynrychiolaeth y gweithlu a bydd yn galluogi mwy o greadigrwydd a mewnwelediad cwsmeriaid, gan ddefnyddio timau amrywiol i lywio arloesi a gwelliannau gwasanaeth.
- Mae ymrwymiad i ddangos tystiolaeth o gynrychiolaeth wedi’i ymgorffori yn llywodraethu corfforaethol a threfniadau cefnogi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gyda metrigau cynrychiolaeth yn cael eu holrhain.
- Nid yw cefndir na nodwedd warchodedig yn rhwystr i recriwtio, cynnydd na chadw staff.
Diwylliant Cynhwysol
- Mae diwylliant a dull sy’n canolbwyntio ar bobl yn galluogi ac yn sicrhau darpariaeth sefydliadol a thîm, llesiant a dim goddefgarwch o fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu ac erledigaeth.
- Mae cynhwysiant ac amrywiaeth fewnol yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth gwell a mwy arloesol.
Cydymffurfedd
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i gyflawni ei rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, drwy wneud y canlynol:
- Dangos ystyriaeth ddyledus i effeithiau cydraddoldeb polisïau, rhaglenni a phenderfyniadau sy’n effeithio ar staff a defnyddwyr gwasanaeth.
- Sicrhau bod gan bob gweithiwr fynediad at Wasanaeth Addasiadau yn y Gweithle, gan gefnogi’r sefydliad i gyflawni ei ddyletswydd i ddarparu addasiadau rhesymol.
- Sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn cael eu hintegreiddio i waith llywodraethu, cynllunio a monitro perfformiad.
Yn unol â Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygiad i Ddeddf Cydraddoldeb 2010) 2023, a ddaeth i rym ar 26 Hydref 2024, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn:
- Cymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith bellach.
- Hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel, parchus a chynhwysol, wedi’i gefnogi gan bolisïau, hyfforddiant a mecanweithiau adrodd clir.
Cysylltwch â ni
Inclusive Culture Centre of Expertise
Ministry of Justice / Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
102 Petty France
London / Llundain
SW1H 9AJ