Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol

Polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol.


Polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar Twitter

Os dilynwch ni ar Twitter gallwch ddisgwyl trydar am rai o’r rhain:

  • hysbysiadau am gynnwys newydd (er enghraifft, newyddion, hysbysiadau i’r wasg, cyhoeddiadau, fideos, gwybodaeth am ein gwasanaethau, areithiau gweinidogol, ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd)
  • gwybodaeth am ein prif weithredwr
  • darllediad byw o ddigwyddiadau’n achlysurol
  • sefydliadau partner ac eraill yn ailadrodd trydar.

Drwy ddefnyddio ein cyfrifon Twitter rydych yn rhwym wrth God y Gwasanaeth Sifil. Ni allwn gyfrannu at faterion gwleidyddol. Yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, ni fydd staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’u proffiliau Twitter personol fod yn rhan o drafodaeth gyhoeddus am bolisïau’r llywodraeth nac am faterion gwleidyddol.

Yn anffodus, ni allwn ateb cwestiynau penodol am geisiadau unigol am atwrneiaeth arhosol na phryderon am dwrneiod na dirprwyon penodol ar Twitter. Ffoniwch ein tîm gwasanaethau i gwsmeriaid ar 0300 456 0300 a byddant yn barod i’ch helpu.

Dilyn

  • Ni fyddwn yn eich dilyn chi’n ôl yn awtomatig. Nid yw’r ffaith ein bod yn eich dilyn yn awgrymu cymeradwyaeth o unrhyw fath.

Hashnodau

  • Mae’n bosibl y byddwn yn cyfeirio at hashnodau cyffredin. Fe wnawn hyn er mwyn categoreiddio negeseuon a gallu cyfeirio atynt yn hawdd. Nid yw’n awgrymu cymeradwyaeth o unrhyw fath.

Pryd mae ar gael

  • Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon Twitter rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond ddim ar Wyliau Banc. Byddwn weithiau’n diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon y tu allan i’r oriau hyn. Mae’n bosibl na fydd Twitter ar gael yn achlysurol ac ni chymerwn ddim cyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth yn ystod yr amser pan fydd ein cyfrif Twitter yn segur.

Ymholiadau gan y cyfryngau

  • Dylai’r holl ymholiadau gan y cyfryngau gael eu cyfeirio at swyddfa’r wasg, y Weinyddiaeth Cyfiawnder ar 020 3334 3536.

@negeseuon a negeseuon uniongyrchol

Rydym yn croesawu adborth a syniadau gan ein holl ddilynwyr. Er hynny, ni allwn bob amser ateb yn bersonol i’r holl negeseuon a gawn.

Byddwn yn adolygu pob @neges a neges uniongyrchol ac yn ceisio gwneud yn siŵr bod unrhyw themâu a ddaw i’r golwg neu awgrymiadau defnyddiol yn cael eu pasio ymlaen i’r bobl berthnasol yn ein sefydliad. Mae’r ffyrdd arferol o gysylltu â ni i’w gweld yn yr adran cysylltu â ni ar ein hafan GOV.UK.