Amdanom ni

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn adran fawr o'r llywodraeth, wrth galon y system cyfiawnder. Rydym yn gweithio i amddiffyn a datblygu egwyddorion cyfiawnder. Ein gweledigaeth yw darparu system gyfiawnder o'r radd orau sy'n gweithio i bawb mewn cymdeithas.


Cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am y rhannau hyn o’r system cyfiawnder:

  • Llysoedd
  • Carchardai
  • Gwasanaethau prawf
  • Canolfannau presenoldeb

Mae’r sefydliad yn gweithio ynghyd a gydag asiantaethau ac adrannau eraill o’r llywodraeth i ddod ag egwyddorion cyfiawnder yn fyw i bawb mewn cymdeithas. O’n llysoedd sifil, tribiwnlysoedd a gwrandawiadau cyfraith teulu, i wasanaethau prawf, carchar a chyfiawnder troseddol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod dedfrydau’n cael eu gwasanaethu a bod troseddwyr yn cael eu hannog i wyrdroi eu bywydau a dod yn ddinasydidon sy’n ufuddhau i’r gyfraith. Credwn fod egwyddorion cyfiawnder yn ganolog ac rydym yn gadarn yn ein cyd-ymrwymiad i’w cynnal nhw.

Ein blaenoriaethau

  • diogelu’r cyhoedd rhag troseddwyr difrifol a gwella diogelwch ein carchardai
  • lleihau aildroseddu
  • sicrhau mynediad cyflym at gyfiawnder

Darllenwch ein Cynllun Cyflawni Canlyniadau i gael rhagor o wybodaeth am sut byddwn yn cyflawni ein canlyniadau blaenoriaeth, sut byddwn yn mesur ein llwyddiant a sut byddwn yn sicrhau ein bod yn gwella’n barhaus.

Pwy ydym ni

Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau ledled y DU - gan gynnwys mewn dros 300 o lysoedd a chanolfannau gwrandawiadau, a thros 100 o garchardai yng Nghymru a Lloegr:

  • Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd
  • Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM
  • Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
  • Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.