Caffael yn MOJ

Gwybodaeth am gaffael yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a sut yr ydym yn gwella cyfleoedd caffael i fentrau bach a chanolig.


Cyflwyniad

Yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn prynu amrywiol nwyddau a gwasanaethau i fodloni anghenion ein cwsmeriaid. Ar gyfer y rhan fwyaf o’n hymarferion caffael rydym yn cynnal proses dendro gystadleuol ac yn dilyn polisiau a rheoliadau caffael cyheoddus y DU. Mae ymarferion caffael yn rhwym wrth wahanol reoliadau a pholisïau yn ddibynnol ar eu gwerth.

Rydym yn cyhoeddi manylion cyfleoedd caffael a manylion dyfarnu contractau yn y mannau canlynol, lle bo’n berthnasol:

  • Contracts Finder: Caiff cyfleoedd a dyfarniadau dros £10,000 eu cyhoeddi ar Contracts Finder. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys cyfleoedd ‘byw’, cyfleoedd i’r ‘dyfodol’ sy’n debygol o fynd yn fyw yn y pum mlynedd nesaf, a chyfleoedd ‘ymgysylltu cynnar’ a ddefnyddiwn i helpu i ddatblygu syniadau a allai fod yn gyfleoedd i’r dyfodol.
  • Find a Tender Service (FTS): Caiff cyfleoedd a dyfarniadau sy’n mynd dros y trothwyon a bennwyd yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 hefyd eu cyhoeddi ar FTS.
  • Official Journal of the European Union (OJEU): Mae dyfarniadau ar gyfer contractau sy’n mynd dros yr un trothwyon y cyhoeddwyd hysbysiadau contract ar eu cyfer cyn diwedd y Cyfnod Pontio cyn gadael yr UE yn cael eu cyhoeddi yn OJEU yn ogystal ag yn yr FTS.

Darllenwch Rheoli Masnachol a Chontractau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gael gwybodaeth am sut rydym wedi cael ein trefnu a pha fath o gontractau’r ydym yn gyfrifol amdanynt.

Trywyddau Masnachol MOJ

Mae trywyddau masnachol yr MOJ yn rhoi golwg ar ein gweithgaredd masnachol posibl dros y 18 mis nesaf. Rydym wedi cynnwys ein holl brosiectau blaenllaw a’r ymarferion caffael disgwyliedig sydd wedi’u prisio ar £10 miliwn a drosodd. Bwriedir y manylion a gyflwynir er gwybodaeth yn unig ac maent yn adlewyrchu trywydd caffael disgwyliedig yr MOJ ac nid yw’r MOJ yn gwneud dim ymrwymiad:

  • y cynhelir ymarferiad caffael ar gyfer y gofynion a nodir yn y tabl
  • y bydd gwerth blynyddol unrhyw gontract fel y nodir
  • y bydd amseriad ymarferion caffael i’r dyfodol fel y nodir

Ni phenderfynwyd ar y llwybr cyrchu ar gyfer unrhyw ymarferiad caffael dilynol, er enghraifft, byddai drwy gyfrwng fframweithiau dan ofal Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS) neu drwy gystadlaethau agored. Ni all yr MOJ warantu y bydd y cyfleoedd hyn ar gael i’r holl gyflenwyr.

Byddwn yn adnewyddu ein trywydd masnachol cyhoeddedig bob 6 mis a bydd yn dal i gyhoeddi manylion ein holl gyfleoedd, gan gynnwys rhai a brisiwyd ar lai na £10 miliwn, ar Contracts Finder

Sut i dendro am gontract sector cyhoeddus

Mae’r arweiniad Sell goods or services to the public sector, yn rhoi gwybodaeth fanwl am y broses gaffael a thendro, sut i ddefnyddio Contracts Finder a sut i chwilio am gontract.

eGaffael

Mae eGaffael yn ffordd effeithlon, syml ac archwiliadwy o ddelio â chyrchu a chontractau. I gymryd rhan mewn digwyddiad eGaffael rhaid ichi gyflwyno datganiad o ddiddordeb mewn ymateb i dendr y mae’r MOJ wedi ei hysbysebu.

Gellir gwneud hyn drwy’r porth eSourcing.

Ar ôl cyflwyno datganiad o ddiddordeb, os nad yw eich sefydliad eisoes wedi cofrestru, fe wnawn anfon gwahoddiad i gofrestru atoch. Ar ôl cofrestru, cewch eich gwahodd i ddigwyddiad cyrchu.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm eGyrchu ar eSourcing@justice.gov.uk neu ffonio 0845 010 0132.

Y broses gwyno am gontractau a thendro

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i arferion gorau’r sector cyhoeddus. Caiff prosesau cystadleuol eu llywodraethu gan ddeddfau’r UE a deddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Mewn pob gweithgaredd masnachol mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn glynu wrth y safonau proffesiynoldeb, ymddygiad moesol a didueddrwydd uchaf.

Rydyn ni wastad yn barod i gael adborth ar ein prosesau cystadleuol, boed hwnnw’n negyddol neu’n gadarnhaol, a byddwn yn ymateb i gwynion gan ddefnyddio’r broses gwyno hon.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gynnal cyfrinachedd a byddwn yn cymryd camau priodol i’w sicrhau. Os ydych chi wrthi’n tendro am waith gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar hyn o bryd, gallwn eich sicrhau na fydd eich sylwadau’n cael dim effaith ar y broses deg a weithredwn i ddelio â’ch tendr.

Sut i gwyno

Dylai cwynion gael eu wneud yn ysgrifenedig i’r enw cyswllt ar gyfer y cylch tendro cystadleuol perthnasol. Dylai copi o’r holl gwynion gael eu hanfon i dîm Cydymffurfiaeth y Gyfarwyddiaeth Rheoli Masnachol a Chontractau (CCMD): commercialcompliance@justice.gov.uk

Byddwn yn cydnabod pob cwyn yn ysgrifenedig cyn pen pum diwrnod gwaith ac ymdrechwn i ymateb cyn pen deg diwrnod gwaith. Os na ellir cyhoeddi ymateb llawn yn yr amser hwn, byddwn yn dweud wrthych faint y bydd yn ei gymryd.

Rydym yn monitro ac yn gwneud adroddiadau ar y cwynion a gawn a’n nod yw dysgu oddi wrthynt a gwella ein prosesau.

Gwybodaeth i’w chyflwyno wrth wneud cwyn

Os oes gennych sylw neu gŵyn am unrhyw agwedd ar gylch caffael cyfredol/diweddar, cyflwynwch yn ysgrifenedig fanylion llawn y cylch caffael y cyfeiriwch ato gan gynnwys os yn bosibl:

  • Manylion unrhyw gyfeirnod
  • Y nwyddau / gwasanaeth sydd dan sylw yn y tendr
  • Manylion cyswllt y rheolwr contractau masnachol perthnasol

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch, cewch gysylltu â’r unigolyn a ymatebodd i’ch cwyn gychwynnol, neu enw cyswllt arall a enwir yn ein hymateb ichi. Caiff eich cwyn ei chydnabod yn ysgrifenedig cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, yn ddibynnol ar ei natur, mae’n bosibl y cyfeiriwn eich cwyn i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol os yn briodol. Caiff eich cwyn ei chydnabod yn ysgrifenedig cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law.

Telerau ac amodau archebion prynu’r MoJ

Telerau ac amodau archebion prynu cyffredinol y Weinyddiaeth Gyfiawnder:

General purchase order terms and conditions: goods

General purchase order terms and conditions: services

Government Facilities Service Limited (GFSL)

Telerau ac amodau archebion prynu Government Facility Services Limited (GFSL):

GFSL general purchase order terms and conditions: goods

GFSL general purchase order terms and conditions: services

Cysylltu â ni

I gael gwybodaeth neu arweiniad pellach, cysylltwch â ni drwy’r e-bost ar: commercialcompliance@justice.gov.uk.

Talu ein cyflenwyr yn brydlon

Ein nod yw talu’r holl anfonebau dilys ac awdurdodedig o fewn 5 diwrnod gwaith yn unol â’r cod talu prydlon. Ni fyddwn yn newid ein amodau a thelerau cytundebol presennol.

Diffinnir y dyddiad derbyn fel y diwrnod y derbyniwn eich anfoneb yn ein cyfeiriad ni.

Anfonebu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Wrth anfonebu rhaid i chi gynnwys:

  • Rhif anfoneb / rhif adnabod unigryw
  • dyddiad yr anfoneb
  • eich enw a’ch manylion cyswllt
  • enw a chyfeiriad yr adran / asiantaeth rydych chi’n ei hanfonebu
  • eich manylion banc
  • rhif yr archeb brynu a roddwyd i chi gan yr adran (rhif 11 digid)
  • disgrifiad o’r gwasanaethau / nwyddau rydych chi’n codi tâl amdanynt
  • y tâl y cytunwyd arno (os na, dadansoddiad o’r gwasanaethau gwaith sy’n gysylltiedig â’r arwystl, neu esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y tâl gwirioneddol a’r un y cytunwyd arno)
  • cadarnhad eich bod wedi cwblhau’r gwasanaethau’n llawn / wedi darparu’r nwyddau gan gynnwys y dyddiad

Sylwch: Dylid anfon anfonebau ar ffurf PDF os cânt eu cyflwyno trwy e-bost.

Anfonwch eich anfoneb i’r cyfeiriad e-bost a/neu bost canlynol:

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

E-bost: APinvoices-CTS-U@gov.sscl.com

SSCL – Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM,
Blwch Post 745,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM

E-bost: APinvoices-NMS-U@gov.sscl.com

SSCL – Y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr,
Blwch Post 741,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Gorfforaethol

E-bost: APinvoices-MOJ-U@gov.sscl.com

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder,
Blwch Post 743,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

E-bost: APinvoices-YJB-U@gov.sscl.com

SSCL – Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid,
Blwch Post 771,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Swyddfa Cymru

E-bost: APinvoices-WAL-U@gov.sscl.com

SSCL – Swyddfa Cymru,
Blwch Post 768,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

E-bost: APinvoices-LAA-U@gov.sscl.com

SSCL – Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol,
Blwch Post 747,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

E-bost: APinvoices-OPG-U@gov.sscl.com

SSCL – Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus,
Blwch Post 767,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Y Bwrdd Parôl

E-bost: APinvoices-PBD-U@gov.sscl.com

SSCL – Y Bwrdd Parôl,
Blwch Post 773,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol

E-bost: APinvoices-JAC-U@gov.sscl.com

SSCL – Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol,
Blwch Post 774,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cyslltwch â’r llinell gymorth:

Y Ganolfan Gysylltu Cydwasanethau

E-bost: MoJ-finance-ap-enquiries@gov.sscl.com

Ffôn: 0845 010 3502 [D.S. Bydd hyn yn newid i 0845 241 5351 o 12 Mehefin 2017]

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes anghydfod ynghylch eich anfoneb a byddwn yn rhoi gwybod i chi gyda phwy i gysylltu os oes gennych ymholiadau pellach. Bydd y targed talu’n cael ei rewi tra bo’r anghydfod yn cael ei ddatrys.

Os yw eich anfoneb yn ddilys ac rydym yn cymryd mwy na 30 diwrnod i’w dalu, efallai y bydd gennych achos i gyrchu cymorth o dan y Ddeddf Taliadau Hwyr am Ddyledion Masnachol (Llog) 1998.

Ein perfformiad talu

Darperir data ar ein perfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaf isod.

O 2020/21 ymlaen, mae ein data ar berfformiad talu’n brydlon yn cynnwys holl Asiantaethau’r MoJ, ALBs ac NDPBs. Ni chaiff Gov Facility Services Ltd, sy’n Gwmni Cyfyngedig Preifat, ei gynnwys: caiff ei ddata ef ar dalu’n brydlon ei gyhoeddi ar ddiwedd Medi ar dudalennau GFSL.

2023-24

Blwyddyn ariannol 2022/2023 % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£)
Chwarter olaf 86.20% 97.25% TBC TBC
Ail chwarter 85.93% 96.90% TBC TBC
Trydydd chwarter 86.12% 96.91% TBC TBC
Pedwerydd chwarter     TBC TBC

2022-23

Blwyddyn ariannol 2022/2023 % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£)
Chwarter olaf 85.16% 96.88% TBC TBC
Ail chwarter 85.85% 96.66% TBC TBC
Trydydd chwarter 86.67% 96.39% TBC TBC
Pedwerydd chwarter 86.17% 96.35% TBC TBC

2021-22

Blwyddyn ariannol 2021/2022 % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£)
Chwarter olaf 88.13% 97.85% TBC TBC
Ail chwarter 87.22% 97.50% TBC TBC
Trydydd chwarter 86.67% 97.36% TBC TBC
Pedwerydd chwarter 86.44% 97.25% TBC TBC

2020-21

Blwyddyn ariannol 2020/2021 % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£)
Chwarter olaf 84.3% 96.5% 380,108.80 3,230.33
Ail chwarter 89.95% 97.86% TBC TBC
Trydydd chwarter 87.12% 97.18% TBC TBC
Pedwerydd chwarter 88.16% 97.17% TBC TBC

2019-20

Blwyddyn ariannol 2019/2020 % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod Cyfanswm yr arian dyledus i’w dalu (£) Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£)
Chwarter olaf 85.41% 96.87% 518,023.56 8,860.49
Ail chwarter 86.44% 96.91% 503,360.70 1,719.07
Trydydd chwarter 85.98% 96.71% 391,863.37 2,248.91
Pedwerydd chwarter 86.58% 97.24% 490,234.79 10,496.28

Gweithio â busnesau bach a chanolig (BBaCh)

Mae’r UE wedi diffinio BBaCh fel a ganlyn:

Categori Cyfrif pennau Trosiant Cyfanswm y fantolen
Canolig <250 £50 Miliwn £43 Miliwn
Bach <50 £10 Miliwn £10 Miliwn
Micro <10 £2 Miliwn £2m

Mae gan BBaChau rôl bwysig i’w chwarae yn economi’r Deyrnas Unedig ac yn Strategaeth Ar Agor am Fusnes y Llywodraeth. Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed o 33% o holl wariant contractau’r Llywodraeth erbyn 2022.

Darllenwch ragor am gymorth y llywodraeth i BBaChau yn y Small and Medium Business Hub

Byddwn yn dangos ein hymrwymiad i’r Agenda BBaCh drwy sicrhau bod busnesau o bob maint yn gallu gweithio â ni a byddwn yn ymdrechu i gynyddu nifer y BBaChau sy’n gallu cystadlu am fusnes y llywodraeth.

Darllenwch ragor am strategaeth Open for Business y Llywodraeth.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cefnogi BBaChau

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu ar gyfer BBaChau sy’n:

  • Rhoi cefndir inni fel adran
  • Yn dangos ein perfformiad yn y gorffennol a’n targedau ar gyfer y dyfodol
  • Yn disgrifio’r canlyniadau yr ydym yn ceisio’u cael i BBaChau, ein cadwyn gyflenwi a rhai o’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni.

Bydd y mesurau hyn yn annog arloesedd ac yn ehangu cwmpas y busnesau sy’n gallu ymateb i’n gofynion. Rydyn ni’n gweithio i roi i’n holl gyflenwyr yr hyder i fuddsoddi er mwyn y dyfodol a’r gallu i gystadlu dan amodau sydd yr un fath i bawb.

Gwariant ar BBaCh

Mae Gwasanaeth Masnachol y Goron, sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet, yn adrodd ar wariant holl Adrannau’r Llywodraeth.

Byddwn yn ceisio ychwanegu at yr astudiaethau achos hyn i ddangos fel yr ydym yn dal i wneud cynnydd:

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i BBaChau, cysylltwch â: SME-Enquiries@justice.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 183 KB, 4 pages)