Gweithdrefn gwyno

Rydym yn trin fel cwyn unrhyw fynegiad ysgrifenedig neu lafar o anfodlonrwydd gyda'r gwasanaeth a ddarperir gan bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu ei staff.


Os oes gennych gŵyn, cysylltwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ganlyn:

Ministerial Correspondence Unit
Ministry of Justice
102 Petty France
London
SW1H 9AJ

DX 152380 Westminster 8

Ein nod yw ateb pob cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os na allwn ddatrys eich cwyn byddwn yn esbonio pa gamau y gallwch eu cymryd os byddwch eisiau i’ch cwyn gael ei hymchwilio ymhellach.

Dydyn ni ond yn ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â’r gwasanaeth a ddarperir gan bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’i staff.