Ein defnydd o ynni

Rydym yn monitro ac yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â faint o ynni mae ein pencadlys yn ei ddefnyddio, yn rhan o'r ymdrechion i ostwng faint o ynni a ddefnyddir ac i fod yn fwy agored am weithrediadau a gwariant y llywodraeth.


Mae adrannau’r llywodraeth yn cystadlu ar hyn o bryd i ostwng allyriadau carbon ac i gyflawni addunedau yn ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.

See comparative data on departmental energy performance.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â faint o ynni mae adeiladau ein swyddfeydd yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys data amser real sy’n dangos faint o ynni a ddefnyddir:

Mentrau arbed carbon

Rydym yn gwneud gwell defnydd o oleuo drwy:

  • ddiffodd goleuadau dianghenraid mewn ystafelloedd cyfarfod
  • addasu goleuadau’r ystafelloedd cyfarfod fel eu bod yn synhwyro symudiadau
  • gostwng amser ymateb y peiriannau synhwyro symudiadau ar loriau swyddfeydd
  • gostwng goleuo dianghenraid

Rydym yn targedu’r defnydd a wneir o ynni cyfrifiaduron drwy:

  • dynnu’r holl beiriannau argraffu lleol sy’n printio un ochr
  • ddefnyddio nodweddion gwyrdd rhagosodedig y cyfrifiaduron personol, monitorau, peiriannau ffacsio a pheiriannau argraffu er mwyn arbed ynni
  • roi cynnig ar bolisi tymheredd rmannau gwag
  • ddefnyddio bwyleri’n effeithlon

Hefyd, dim ond yn ystod oriau gweithio’r staff y mae peiriannau’r adeilad ar waith a chânt eu diffodd dros y penwythnosau.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dal i weithio i ostwng y defnydd a wna o ynni gymaint ag sy’n bosibl a bydd yn cyflwyno mwy o gynlluniau’n fuan.