Ymchwil yn MOJ

Rhaglen ymchwil a dadansoddi y Weinyddiaeth Cyfiawnder.


Ein dull o ran ymchwilio a dadansoddi

Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (MOJ) yn cynnal rhaglen helaeth o waith dadansoddol a gwaith sy’n seiliedig ar ymchwil. Mae timau amrywiol o arbenigwyr o wahanol feysydd yn cynghori, yn herio ac yn cefnogi’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a’i gweinidogion i ddarparu system gyfiawnder o’r radd flaenaf.

Mae’r ymchwil a’r gwaith dadansoddi a gynhelir o fewn y weinyddiaeth yn cynnwys:

  • Ymchwil cymdeithasol sylfaenol, adolygiadau ymchwil a rheoli ymchwil allanol a gomisiynir
  • Darparu ystadegau cyfiawnder a dadansoddi data eilaidd
  • Dadansoddiadau costau a buddion, asesiadau effaith a modelu econometrig
  • Rhagweld, modelu a dadansoddi perfformiad
  • Delweddu data, dadansoddi uwch a pheirianneg data

Rydym yn defnyddio offer, technegau a methodolegau arloesol i gydweithio ar draws adrannau yn ogystal ag yn allanol.

Meysydd o Ddiddordeb mewn perthynas ag Ymchwil

Mae’r ddogfen Meysydd o Ddiddordeb mewn perthynas ag Ymchwil yn rhan o uchelgais yr MOJ i roi tystiolaeth wrth wraidd y system gyfiawnder.

Mae’r Meysydd o Ddiddordeb mewn perthynas ag Ymchwil yn tynnu sylw at feysydd strategol allweddol lle byddem ni fel adran yn hoffi gweld cynnydd yn y sylfaen dystiolaeth.

Rydym yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â chymunedau a chyllidwyr ymchwil allanol i gryfhau a datblygu’r sylfaen dystiolaeth.

Cynnal ymchwil

Mae’r dolenni isod yn cwmpasu’r prosesau sydd ar gael i hwyluso mynediad at ddata MOJ yn ogystal â’r Llysoedd, y Tribiwnlysoedd a’r Gwasanaethau Carchardai a Phrawf i wneud gwaith ymchwil

Gwaith Ymchwil i Garchardai yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS)

Gwaith Ymchwil i Lysoedd yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS)

Research through Data First

Gwaith Ymchwil arall yn ymwneud â chyfiawnder

Dolenni perthnasol

Cyhoeddiadau

Ystadegau

Data First