Ein llywodraethiant

Prif gyrff gwneud penderfyniadau, gweithredol a rheoli yng Nghyllid a Thollau EF (CThEF).


Sefydlwyd CThEF gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau (CRCA) 2005, sy’n rhoi pwerau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr adran i Gomisiynwyr a benodir gan y Goron.

Bwriad statws CThEF fel adran anweinidogol yw sicrhau bod y system dreth yn cael ei gweinyddu’n deg ac yn ddiduedd.

Jim Harra yw’r Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r strategaeth adrannol a pherfformiad y sefydliad.

Angela MacDonald yw’r Ail Ysgrifennydd Parhaol a’r Dirprwy Brif Weithredwr, sy’n gyfrifol am wasanaeth cwsmeriaid a gweithgarwch cydymffurfio a gorfodi ar draws yr holl drethi.

Ynghyd â’r Pwyllgor Gweithredol, maen nhw’n gyfrifol am redeg CThEF.

Mae gennym Arweinydd Anweithredol, sef y Fonesig Jayne-Anne Gadhia, sy’n cadeirio Bwrdd CThEF.

Ynghyd â’r Bwrdd, mae’r Arweinydd Anweithredol yn herio ac yn cynghori’r Ysgrifenyddion Parhaol a’r Pwyllgor Gweithredol ar sut i lunio strategaeth CThEF a’i gweithredu. Mae hyn yn cynnwys adolygu a herio perfformiad yn erbyn cynllun busnes yr adran.

Mae rhagor o wybodaeth am ein strwythur i’w gweld yn ein siart sefydliadol, ac yn Natganiad Llywodraethiant ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol (gweler tudalennau 87 i 93).

Comisiynwyr CThEF

Mae ein Comisiynwyr yn gyfrifol am gasglu a rheoli refeniw, gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau, a swyddogaethau eraill, megis talu credydau treth. Maen nhw’n arfer y swyddogaethau hyn yn enw’r Goron.

Mae gan y Comisiynwyr hawl hefyd i benodi swyddogion Cyllid a Thollau sy’n gorfod cydymffurfio â’u cyfarwyddiadau. Mae’r ffordd y mae’r Comisiynwyr yn cynnal eu busnes yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau. Tri Chomisiynydd sy’n gwneud penderfyniadau yn ymwneud â datrys ein hachosion mwyaf a’r mwyaf sensitif, a hynny o dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd Sicrwydd Treth.

Ar hyn o bryd, mae gan CThEF 7 Comisiynydd:

Bwrdd CThEF

Mae Bwrdd CThEF yn chwarae rôl hanfodol yn ein llwyddiant fel adran anweinidogol. Mae’r Bwrdd yn cynnwys yr Arweinydd Anweithredol, Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd, yr Ysgrifenyddion Parhaol a’r Prif Swyddog Cyllid fel yr aelodau sefydlog. Mae aelodau gweithredol eraill yn mynychu yn ôl gofyn yr agenda ar risgiau a phenderfyniadau.

Cadeirir y Bwrdd gan y Fonesig Jayne-Anne Gadhia, fel yr Arweinydd Anweithredol, ac mae’n helpu i arwain yr adran yn strategol gan wneud defnydd o’r ystod eang o arbenigedd o’r sectorau cyhoeddus a phreifat sydd ar gael.

Mae’r Bwrdd yn herio, yn cynghori, ac yn rhoi sicrwydd i’r Ysgrifenyddion Parhaol a’r tîm gweithredol ar y ffordd o ddatblygu a gweithredu eu strategaeth, eu cynllun busnes a’u perfformiad ar sail y cynllun hwnnw. Swyddogaeth gynghorol sydd gan y Bwrdd, ac nid yw’n ymwneud â phenderfyniadau gweithredol, polisi treth na materion trethdalwyr unigol.

Aelodau’r Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Gweithredol a Chyfarwyddwyr Anweithredol CThEF.

Cadeirydd: Y Fonesig Jayne-Anne Gadhia, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

Cynorthwyir y Bwrdd gan 2 aelod anweithredol arall sy’n gwasanaethu ar bwyllgorau’r Bwrdd:

Adroddiadau

Mae’r Arweinydd Anweithredol yn arwain gwerthusiad blynyddol o berfformiad y Bwrdd.

Mae’r adran yn adrodd ar y ffordd y mae’r Bwrdd yn gweithredu yn y Datganiad Llywodraethiant Corfforaethol yn yr adroddiad a chyfrifon blynyddol. Mae hyn yn cynnwys cofnod o bwy sy’n bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Cyfrifoldebau’r Bwrdd

Rôl y Bwrdd yw helpu CThEF i gyflawni ei agenda a pherfformio hyd eithaf ei allu. Mae’r Bwrdd yn herio ac yn rhoi sicrwydd i’r Ysgrifenyddion Parhaol a’r Pwyllgor Gweithredol ar sut i lunio strategaeth CThEF a’i gweithredu. Mae hyn yn cynnwys adolygu a herio perfformiad yn erbyn cynllun busnes yr adran. Mae Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd yn cynnig safbwynt allanol i’r sefydliad ac yn defnyddio’u sgiliau a’u profiad i gynghori’r adran.

Nid yw’r Bwrdd yn chwarae rôl mewn penderfyniadau gweithredol o ddydd i ddydd, nac ychwaith mewn polisi treth na materion trethdalwyr unigol.

Mae’r Bwrdd yn:

  • herio: adolygu a herio cynllun busnes yr adran a’i pherfformiad yn erbyn y cynllun hwnnw, gan gyfeirio’n benodol at flaenoriaethau strategol y cytunwyd arnynt

  • cynnig arbenigedd: cynnig arbenigedd ehangach o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat i lywio’r gwaith o gyflawni strategaeth ac i wella perfformiad CThEF; Mae hefyd yn cynghori’r Prif Weithredwr ar uwch benodiadau

  • cynnig strategaeth: sicrhau bod cyfeiriad strategol CThEF yn glir ac yn bosibl i’w gyflawni, gan ystyried risg a chanolbwyntio ar lwyddiant hirdymor yr Adran a gwerth i’r trethdalwr

  • cynnig sicrwydd: cynnig sicrwydd i’r Prif Weithredwr, fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, fod y datganiadau ariannol yn ffeithiol gywir, bod y prosesau rheoli risg yn gadarn, a bod prosesau rheoli ar draws CThEF yn gryf ac yn briodol

  • cynnig barn rhanddeiliaid: adlewyrchu barn rhanddeiliaid allanol CThEF; cefnogi CThEF i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu â rhanddeiliaid; a defnyddio’r rhwydwaith traws-lywodraethol o Gyfarwyddwyr Anweithredol i daflu goleuni a rhoi gwybodaeth ymarferol o ran materion i gefnogi’r Pwyllgor Gweithredol i nodi’r heriau a chyfleoedd

Cyfarfodydd

Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn fisol.

Aelodau Anweithredol y Bwrdd

Mae gan aelodau anweithredol ar y Bwrdd doreth o brofiadau o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys dadansoddi data, adnoddau dynol, TG, cyfrifeg a’r proffesiwn treth. Mae eu sgiliau a’u cefndiroedd proffesiynol yn cynnig safbwynt allanol i’r cyngor y mae’r Bwrdd yn ei gynnig i helpu llunio strategaeth a herio perfformiad.

Cafodd aelodau anweithredol o’r Bwrdd eu penodi yn dilyn ymarferion recriwtio a gynhaliwyd yn unol ag arweiniad Swyddfa’r Cabinet.

Is-bwyllgorau’r Bwrdd

Mae strwythur pwyllgorau’r bwrdd yn cynnwys y bwrdd a chwe phwyllgor ategol:

  • y Pwyllgor Archwilio a Risg

  • y Pwyllgor Enwebu

  • y Pwyllgor Pobl

  • Pwyllgor Profiad y Cwsmer

  • y Pwyllgor Trawsnewid

  • Y Pwyllgor Perfformiad

Dirprwyir gwaith i bwyllgorau’r Bwrdd, lle gall grwpiau llai o aelodau anweithredol ac aelodau’r Pwyllgor Gweithredol archwilio’n fanylach i faterion a chyflwyno eu canfyddiadau i’r Bwrdd i’w trafod ac i’w penderfynu arnynt.

Y Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar fanwl gywirdeb datganiadau ariannol a chryfder prosesau rheoli risg ar draws CThEF.

Mae gwaith y pwyllgor yn ymdrin â phob agwedd ar fusnes CThEF ac agweddau sy’n ymwneud ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), yn ôl y lefel uwchgyfeirio. Bydd cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn bresennol mewn o leiaf un cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risg y VOA yn flynyddol.

Mae’r pwyllgor yn cynghori’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar y canlynol:

  • prosesau a chamau sicrwydd mewn perthynas â rheoli risgiau yng nghyd-destun CThEF

  • y broses strategol ar gyfer risg, rheoli a llywodraethiant y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon, adroddiad blynyddol y Comisiynydd Sicrwydd Treth ac adroddiad blynyddol y sefydliad, gan gynnwys Cyfrifon Adnoddau, Datganiad Ymddiriedolaeth a’r Cyfrifon Cronfa Yswiriant Gwladol

  • argymell y camau i’w cymryd er mwyn ymateb i adolygiadau o’r prosesau a ddefnyddir mewn achosion treth wedi’u setlo

  • y gweithgarwch sydd wedi’i drefnu a chanlyniadau archwiliadau mewnol ac allanol

  • i ba raddau mae’r rheolwyr yn ymateb yn ddigonol i faterion a nodwyd gan weithgarwch archwilio

  • pan fo angen, cynigion o ran tendro gwasanaethau archwilio gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau archwilio i’r adran

  • polisïau gwrth-dwyll, chwythu’r chwiban

  • prosesau a threfniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig

Aelodaeth

Cadeirydd: Michael Hearty, Cyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

Gwahoddir y Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr i bob cyfarfod, a dylent fynychu o bryd i’w gilydd. Disgwylir i’r Prif Swyddog Cyllid fynychu pob cyfarfod llawn, ynghyd â’r Pennaeth Archwilio Mewnol, Pennaeth Risg, a chynrychiolydd o’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae aelodau gweithredol eraill yn mynychu yn ôl galw’r agenda.

Y Pwyllgor Enwebu

Mae’r Pwyllgor Enwebu’n craffu ac yn cynghori ar y canlynol:

  • cynllunio ar gyfer olyniaeth ExCom, y bwrdd ac uwch reolwyr a thalent, perfformiad a gwobrau ar lefel uwch

  • systemau ar gyfer nodi a datblygu arweinyddiaeth, talent a photensial uchel

  • cymhellion a gwobrau i uwch swyddogion a chynghori ar y graddau y mae’r trefniadau hyn yn effeithiol o ran gwella perfformiad

Aelodaeth

Cadeirydd: Jayne Anne Gadhia, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

Y Pwyllgor Pobl

Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi cymorth i’r Bwrdd ac yn rhoi rheolaeth weithredol ar faterion yn ymwneud â phobl. Mae hyn yn cynnwys cyflawni’r amcan strategol ‘Lle Gwych i Weithio’, effeithiolrwydd ein fframwaith cyflogaeth trosfwaol a’r metrigau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithlu.

Mae’r pwyllgor yn rhoi cymorth safonol ac yn cynnig her rymus drwy wneud y canlynol:

  • mynnu bod yr adran yn atebol i’r llw o fod yn ‘Lle Gwych i Weithio’

  • helpu i nodi meysydd â blaenoriaeth ym mhrofiad y cyflogai

  • archwilio materion perfformiad yn ymwneud â’r gweithle

  • cael trafodaethau am arferion gorau o sefydliadau blaengar

  • defnyddio sgiliau a phrofiadau er mwyn archwilio effeithiolrwydd y strategaeth adrannol o ‘gwrando ar gyflogeion’

Aelodaeth

Cadeirydd: Patricia Gallan QPM, Cyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

Pwyllgor Profiad y Cwsmer

Mae Pwyllgor Profiad y Cwsmer yn cynorthwyo Comisiynwyr CThEF gyda’u rhwymedigaeth statudol i adrodd yn flynyddol ar ba raddau y mae CThEF wedi arddangos y safonau ymddygiad a’r gwerthoedd a gynhwysir yn Siarter CThEF. Mae gwneud hyn yn cydymffurfio â’r rhwymedigaeth gyfreithiol i adolygu’r cynnwys o bryd i’w gilydd.

Pwrpas y pwyllgor yw cefnogi a herio ExCom ar faterion yn ymwneud â phrofiad y cwsmer ac i helpu’r adran i gyflawni ei hamcanion strategol.

Mae’r pwyllgor yn gwneud hyn drwy’r canlynol:

  • herio a chefnogi CThEF i fynd i’r afael â risgiau lefel uchel i’r adran

  • archwilio newidiadau arfaethedig i sicrhau bod yr effaith ar gwsmeriaid wedi cael digon o ystyriaeth

  • rhoi cyngor ar sut y gellir gwella polisïau, strategaethau ac ymarferion perthnasol.

  • nodi meysydd â blaenoriaeth ym mhrofiad y cwsmer, o’r dechrau i’r diwedd, lle mae angen gwelliannau

Mae’r pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy’n asesu perfformiad CThEF yn erbyn y Siarter. Mae hefyd yn dangos y meysydd lle bu cynnydd, a beth fydd y blaenoriaethau ar gyfer gwelliant pellach.

Aelodaeth

Y cynrychiolwyr, o bwyllgor gweithredol CThEF, yw’r Dirprwy Prif Swyddog Gweithredol a’r Ail Ysgrifennydd Parhaol, Angela MacDonald, a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid, Jonathan Athow. Mae Dyfarnwr Annibynnol CThEF hefyd yn aelod.

Mae’r pwyllgor hefyd yn cynnwys Cyfarwyddwyr Anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd) ac Ymgynghorwyr Annibynnol sydd â’r arbenigedd perthnasol i gyfrannu at y gwaith.

Cyfarwyddwyr Anweithredol Ymgynghorwyr Annibynnol
Steven Martin    
Michael Hearty Emma Orr  
Jen Tippin Mark Evans  
  Nicola Harris
  Karen Prodger   

Y Pwyllgor Trawsnewid

Mae’r Pwyllgor Trawsnewid yn gweithredu ar y cyd ag is-bwyllgorau eraill y Bwrdd i wneud y canlynol:

  • profi, cynghori a herio cynnydd tuag at uchelgeisiau strategol CThEF

  • darparu trosolwg a sicrwydd o raglenni newid risg uchel i alluogi swyddogion anweithredol i roi barn annibynnol ar gynnydd i weinidogion

Mae’n gyfrifol am ddarparu cymorth a sicrwydd i’r bwrdd a’r tîm gweithredol drwy graffu ar y broses o gyflawni newid adrannol yn erbyn blaenoriaethau cyflawni trawsnewid allweddol a strategaeth CThEF. Yn ogystal, mae’n cefnogi Uwch Berchnogion Cyfrifol rhaglenni a phrosiectau mawr o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor i fynd i’r afael â materion risg a gweithredu.

Aelodaeth

Mae’r Pwyllgor Trawsnewid wedi’i gadeirio gan y Fonesig Jayne-Anne Gadhia y Prif Swyddog Anweithredol, ac mae’n cynnwys aelodau anweithredol o’r bwrdd, a’r Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Trawsnewid fel aelodau sefydlog. Yn ogystal, mae gan bob aelod o ExCom a’r Prif Swyddog Portffolio wahoddiad sefydlog.

Y Pwyllgor Perfformiad

Mae’r Pwyllgor Perfformiad yn cefnogi’r bwrdd drwy graffu ar berfformiad a chyflawniad CThEF, yn erbyn ei gynllun busnes a’i strategaeth ehangach ac yng nghyd-destun prosiectau a materion penodol. Mae’n rhoi sicrwydd annibynnol o berfformiad yr adran, a’i chapasiti a’i gallu i gyflawni. Mae’n cefnogi ac yn herio Uwch Berchnogion Cyfrifol prosiectau mawr i fynd i’r afael â materion gweithredu fel bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu gwireddu.

Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad yw y Fonesig Jayne Anne Gadhia. Mae pob aelod anweithredol a gweithredol o’r bwrdd yn aelodau o’r pwyllgor.

Y Pwyllgor Gweithredol

Y Pwyllgor Gweithredol yw prif fforwm gweithredol yr adran a’r prif le y mae Comisiynwyr yn gwneud eu penderfyniadau. Mae portffolios o gyfrifoldeb gan unigolion ar y pwyllgor sy’n cwmpasu pob maes busnes CThEF a swyddogaeth y gwasanaeth corfforaethol.

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF ac yn gyfrifol am osod a chyflwyno strategaeth. Mae’r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio perfformiad yr adran, yng nghyd-destun amcanion y presennol a’r dyfodol.

O fewn hwb perfformiad pwrpasol, gan arddangos dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor, mae’n dadansoddi perfformiad CThEF yn erbyn targedau, ac yn ystyried sut i wella perfformiad ym mhob maes. Mae hyn yn cynnwys gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid a gwerth am arian.

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn cael cefnogaeth ychwanegol gan bedwar is-bwyllgor:

  • y Pwyllgor Strategaeth

  • y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio

  • Pwyllgor Gweithredol Goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol

  • y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

Y Pwyllgor Strategaeth

Mae’r Pwyllgor Strategaeth yn goruchwylio strategaeth CThEF ar lefel uchel a sut y caiff y strategaeth honno ei gweithredu ar draws yr adran.

Y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio

Mae’r Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio yn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn symud CThEF tuag at gyflawni ein hamcanion strategol a chymeradwyo’r pwyntiau dylunio, buddsoddi a chyflawni allweddol yng nghylch bywyd y rhaglen.

Pwyllgor Gweithredol Goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol

Mae Pwyllgor Gweithredol Goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol yn darparu trosolwg cyfunol o gynnydd Troi Treth yn Ddigidol yn erbyn atebolrwydd unigol a chyfunol ExCom y cytunwyd arnynt. Mae’n darparu llwybr uwchgyfeirio y tu hwnt i Fwrdd y Rhaglen lle bo’n briodol.

Y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn goruchwylio’r ffordd y mae CThEF yn gweinyddu’r system dreth ac yn gweithredu polisïau yn unol â’i werthoedd. Mae’r pwyllgor yn ystyried sut gall gweithredoedd CThEF effeithio ar ffydd yn y system dreth a’r argraff mae’r cyhoedd yn ei chael o degwch. Mae’n cynnig her hollbwysig i’r ffordd y mae CThEF yn arfer ei bwerau, yn cefnogi arfer da yn y defnydd o’i bwerau a’i fesurau diogelu.

Ceir manylion pellach ynghylch cylch gorchwyl llawn y pwyllgor yn: HMRC Professional Standards Committee: terms of reference (ODT, 10.6 KB) [Pwyllgor Safonau Proffesiynol CThEF: Cylch Gorchwyl]

Gallwch ddarllen crynodebau’r cyfarfodydd diweddaraf yma:

Mae crynodebau cyfarfodydd o flynyddoedd blaenorol ar gael gan yr Archifau Cenedlaethol yma:

Gallwch ddarllen crynodeb o flwyddyn y pwyllgor:

Aelodaeth

Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn cynnwys y Pwyllgor Gweithredol a dau Gyfarwyddwr Anweithredol. Mae hwn yn cael ei gefnogi gan bedwar ymgynghorydd annibynnol.

Cyfarwyddwyr Anweithredol Ymgynghorwyr Annibynnol
Patricia Gallan QPM  Katerina Hadjimatheou
Paul Morton Emma Borg
  Kirsty Britz
  Glyn Fullelove