Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol

Daljit Rehal

Bywgraffiad

Mae Daljit Rehal yn uwch weithredwr technoleg a data sydd â phrofiad eang yn y sector, gan gynnwys moderneiddio galluoedd digidol, mabwysiadu technolegau Data Mawr, Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Dysgu Peirianyddol (ML) a dulliau ‘Agile’ ac arwain newid.

Cyn ymuno â Chyllid a Thollau EF ym mis Medi 2020, bu Daljit yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Data a Digidol Byd-eang yn Centrica. Mae wedi cael swyddi uwch yn Talk Talk a Virgin Media yn y gorffennol.

Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol

Mae Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth CThEF (CDIO) yn gyfrifol am yr holl dechnoleg sy’n pweru un o drawsnewidiadau digidol-alluog mwyaf Ewrop.

Mae’r CDIO yn arwain strategaethau digidol a data CThEF ac mae’n ymwneud yn sylweddol â’r agenda drawslywodraethol. Mae’r CDIO hefyd yn gyfrifol am redeg un o ystadau TG mwyaf a mwyaf cymhleth y DU, ac mae’n gweithredu Strategaeth Ffynonellau TG arloesol CThEF.

Y CDIO yw’r Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) sy’n cwmpasu pob agwedd ar ddiogelwch amddiffynnol, corfforol, personél a gwybodaeth.

Cyllid a Thollau EF