Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid

Jonathan Athow

Bywgraffiad

Ail-ymunodd Jonathan â Chyllid a Thollau EM ar ddechrau mis Hydref 2021 ar ôl gweithio’n flaenorol fel Dirprwy Ystadegydd Gwladol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Ystadegau Economaidd yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Ymunodd Jonathan â’r SYG ym mis Mehefin 2015, gan arwain y gwaith o gynhyrchu a thrawsnewid ystadegau economaidd. Cyn ymuno â’r SYG, bu Jonathan yn gweithio yn Nhrysorlys EM am 14 mlynedd ar amrywiaeth o faterion economaidd a pholisi, gan gynnwys newidiadau i’r system dreth a budd-daliadau, y GIG a gofal cymdeithasol, a’r fframwaith polisi cyllidol a macro-economaidd. Roedd Jonathan hefyd yn Brif Economegydd Adrannol yn CThEF.

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid

Mae gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid gyfrifoldeb cyffredinol am grŵp o dimau sy’n defnyddio dealltwriaeth cwsmeriaid i ddylunio strategaeth dreth, sicrwydd, polisïau, cynhyrchion a phrosesau gwell sy’n:

  • diwallu anghenion cwsmeriaid
  • ei gwneud yn haws iddynt gael pethau’n iawn
  • lleihau’r risg o gamgymeriadau gonest a chyfleoedd i osgoi treth

Bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol hefyd yn cynghori gweinidogion ar bolisi treth y DU, ac yn gweithio’n rhyngwladol i wella’r fframwaith treth byd-eang, wrth gynhyrchu’r strategaeth ar gyfer holl swyddogaethau craidd CThEF, nid ei weithrediad treth yn unig.

Cyllid a Thollau EF