Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydymffurfiad Cwsmeriaid

Penny Ciniewicz

Bywgraffiad

Penodwyd Penny yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Grŵp Cydymffurfiaeth Cwsmeriaid ym mis Medi 2017.

Rhwng Medi 2009 a Medi 2017, roedd Penny yn Brif Weithredwr Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Cyn hynny treuliodd dair blynedd yn CThEF fel Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Dadansoddi a Chudd-wybodaeth, ac yn Uned Cwsmeriaid Frontiers.

Dechreuodd ei gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil yn yr Adran Masnach a Diwydiant (DTI) ym 1996 ac yn ddiweddarach bu’n Gyfarwyddwr Awyrofod ac Amddiffyn. Yn 2004, cafodd ei secondio o’r DTI i Swyddfa’r Cabinet, lle bu’n gweithio fel Prif Ysgrifennydd Preifat i Ysgrifenyddion Cabinet olynol, yr Arglwydd Turnbull a’r Arglwydd O’Donnell.

Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydymffurfiad Cwsmeriaid

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydymffurfio Cwsmeriaid yn canolbwyntio ar leihau’r bwlch treth drwy hybu cydymffurfiaeth wirfoddol, atal diffyg cydymffurfio a mynd i’r afael â’r rhai sy’n twyllo’r system.

Mae’r Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn cynnwys risg a gwybodaeth, cydymffurfiad ar gyfer pob grŵp cwsmeriaid, gan gynnwys busnesau mawr, pobl gyfoethog, busnesau canolig, busnesau bach ac unigolion, a swyddogaethau gwrth-arbed ac ymchwilio i dwyll CThEF.

Cyllid a Thollau EF