Datganiad i'r wasg

“Angen diwygiadau radical i system gynllunio Cymru”

David Jones yn traddodi araith gyweirnod wrth lansio Adroddiad Seilwaith Swyddfa Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Infrastructure construction

Heddiw (30 Mehefin 2014) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i wneud diwygiadau radical i’r system gynllunio er mwyn cyflymu datblygiad y seilwaith newydd.

Bydd David Jones AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Bil Cynllunio arfaethedig i weithredu diwygiadau effeithiol ym maes cynllunio a chwalu rhwystrau er mwyn creu’r seilwaith y mae ar Gymru ei angen er mwyn symud ymlaen.

Mewn araith gyweirnod i Fforwm Polisïau Cymru yng Nghaerdydd ar adeg lansio adroddiad gan Weithgor Seilwaith Swyddfa Cymru, bydd Mr Jones yn tynnu sylw at y gwahaniaethau cynyddol rhwng systemau cynllunio Cymru a Lloegr.

Bydd Mr Jones yn pwysleisio sut y mae diwygiadau cynllunio radical Lloegr, nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu yng Nghymru, yn tanseilio cynllun economaidd hirdymor llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd Mr Jones yn dweud:

Mae cynllunio seilwaith gwael yn cael effaith ganlyniadol. Er mwyn i fusnesau dyfu, mae’n hanfodol eu bod yn gallu buddsoddi gan wybod yn iawn y bydd seilwaith ar gael i ddiwallu eu hanghenion.

Mae Cymru’n ceisio dal i fyny ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi gan y gweinyddiaethau blaenorol: dim seilwaith rheilffyrdd newydd, ffyrdd y mae gwir angen eu huwchraddio a band eang is na’r safon.

Mae’r adroddiad pwysig hwn yn haeddu sylw gan ei fod yn cynnwys arfarniad o’r seilwaith y mae arnom ei angen a beth mae angen i ni ei wneud er mwyn ei gael.

Mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi mewn seilwaith os ydym am adeiladu economi wirioneddol fodern, gwneud Cymru’n fwy llewyrchus a chystadlu ar y llwyfan byd-eang.

Yn ei araith bydd Mr Jones hefyd:

  • yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd pendant â’r M4 gan ddefnyddio’r pwerau benthyca y mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u rhoi iddi i ariannu’r prosiect

  • yn annog Llywodraeth Cymru i alw am refferendwm cynnar dan y pwerau y bydd yn eu cael cyn bo hir dan Fil Cymru er mwyn sicrhau’r ffrwd incwm sydd ei hangen i allu buddsoddi’n ddigonol yng Nghymru

Bydd Mr Jones hefyd yn tynnu sylw at y canlynol:

  • Cyllid llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflwyno band eang cyflym iawn, sydd wedi cynyddu i bron i £70 miliwn i ganiatáu i’r rhaglen Cyflymu Cymru fynd ymhellach. Mae £10 miliwn yn rhagor ar gael hefyd ar gyfer yr ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd.

  • Buddsoddiad o £9 biliwn gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y pum mlynedd nesaf er mwyn trawsnewid rhwydweithiau rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr, gan gyflymu siwrneiau drwy drydaneiddio’r prif lwybrau rheilffyrdd. Mae hyn yn cynnwys trydaneiddio’r brif linell i Abertawe, sy’n golygu bod angen i Lywodraeth Cymru gadarnhau’r cytundeb a wnaethpwyd yn 2012 i ariannu’r gwaith o drydaneiddio llinellau’r Cymoedd. Mae angen cwblhau hyn ar frys.

  • Potensial Cymru yn y sector ynni a bod Cynllun Seilwaith Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn rhestru mwy na 15 o brosiectau ynni Cymreig sydd eisoes yn yr arfaeth, o ffermydd gwynt mawr ar y môr i ficrogynhyrchu, a’r potensial ar gyfer rhagor.

Gwybodaeth bellach:

Sefydlwyd Gweithgor Seilwaith Swyddfa Cymru gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Mehefin 2013 â her i arbenigwyr mewn diwydiannau, busnesau blaenllaw yng Nghymru a chynrychiolwyr o lywodraethau Prydain a Chymru i nodi blaenoriaethau seilwaith Cymru ar gyfer y dyfodol, y rhwystrau sy’n ein hatal rhag cyflawni’r blaenoriaethau a chynllun i fynd i’r afael â hyn. Cadeiriwyd y grŵp gan y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS.

Mae prif ganfyddiadau Adroddiad Gweithgor Seilwaith Swyddfa Cymru’n cynnwys y canlynol:

  • Rhaid i ddwy lywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd er mwyn cynllunio a chyflawni anghenion seilwaith Cymru.

  • Rhaid i ddarparwyr seilwaith a buddsoddwyr weithio gyda’i gilydd i chwilio am gyfleoedd i gynllunio a darparu seilwaith ar y cyd.

  • Dylai buddsoddwyr fanteisio ar yr holl ffynonellau cyllid sydd ar gael a datblygu dulliau arloesol o ariannu seilwaith. Dylai cynllun gwarantau £40 miliwn Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael ei ddefnyddio’n llawn.

  • Rhaid i fusnesau yng Nghymru fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn y gadwyn gyflenwi.

Dyfyniadau gan aelodau o Weithgor Seilwaith Swyddfa Cymru.

Dywedodd Leighton Jenkins, Pennaeth Polisi CBI Cymru:

Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r rôl allweddol y mae seilwaith yn ei chwarae yn nhwf busnes ac, wrth i’n heconomi gryfhau, mae’n amlinellu achos pwysig dros adnewyddu a manteisio i’r eithaf ar y rôl y gallai seilwaith ei chwarae er mwyn creu Cymru fwy ffyniannus.

Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Peirianwyr Sifil:

Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Weithgor Seilwaith Swyddfa Cymru. Profwyd bod cysylltiad rhwng cyflwr seilwaith Cymru ac economi Cymru. Rhaid i ni ddal i fuddsoddi yn y seilwaith a’i gynnal er mwyn sicrhau bod Cymru’n dal i dyfu.

Dywedodd David Morgan, Rheolwr Polisi Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS):

Mae RICS Cymru’n falch o fod yn rhan o’r Gweithgor Seilwaith. Mae gwella seilwaith, yn enwedig seilwaith trafnidiaeth, yn hanfodol ar gyfer twf hirdymor a chynaliadwy Economi Cymru.

Yn ogystal â’r hyfforddiant sgiliau y mae’r camau adeiladu’n eu cynnig i gynifer o bobl, ac ysgogiad economaidd y lluosydd adeiladu yn y dyfodol agos (lle bydd un swydd yn y diwydiant adeiladu’n cynhyrchu swyddi eraill yn yr economi), mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn elfen hanfodol o dwf economaidd cytbwys yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

O ganlyniad, mae angen i brosiectau fel trydaneiddio’r brif linell rhwng Llundain ac Abertawe a gwelliannau i’r M4 yng Nghymru gael eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd er mwyn helpu i gyflawni’r amcanion hyn.

Dywedodd Giles Phelps, Rheolwr Gyfarwyddwr Spectrum Internet:

Mae gan aelodau’r Gweithgor Seilwaith lawer iawn o brofiad a gwybodaeth ac mae hynny’n arwain at syniadau newydd a chydweithredu sy’n bwysig er mwyn dal i adeiladu’r seilwaith iawn a gwneud Cymru’n lle deniadol i weithio ac i fuddsoddi. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r gweithgor hwn gan ei fod yn ystyried ein seilwaith digidol ochr yn ochr â gwasanaethau mwy traddodiadol fel ffyrdd a rheilffyrdd er mwyn galluogi cwmnïau Cymreig i gael mantais a thyfu eu busnesau yma.

Dywedodd Colin Orr Burns, Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon LNG:

Mewn economi sy’n seiliedig ar y farchnad, er bod busnesau ac unigolion yn bwysig iawn er mwyn hybu twf economaidd, mae’n amlwg na ellir sicrhau’r canlyniadau gorau heb strwythur sy’n annog, yn cynnal ac yn hwyluso buddsoddiad ac, yr un pryd, yn darparu’r cyfleusterau hynny na all neu na fydd y farchnad yn eu darparu ar ei phen ei hun.

Un o brif swyddogaethau’r llywodraeth felly yw darparu’r strwythur hwnnw er mwyn sicrhau, drwy roi cyfarwyddyd a gweithio gyda’r farchnad, bod y strwythurau angenrheidiol yn cael eu sefydlu. Yn fwyaf arbennig, sylfaen hanfodol cymdeithas fodern, lewyrchus a dynamig yw’r seilwaith y mae pob dim arall yn dibynnu arno, y rhwydwaith ffyrdd a phriffyrdd, y cyfleustodau a thelathrebu.

Mae’n galonogol felly bod y Llywodraeth, drwy sefydlu’r Grŵp Seilwaith, wedi cydnabod pwysigrwydd ei rôl ei hun a hefyd wedi cydnabod na fydd Cymru’n gallu chwarae rhan flaenllaw heb weledigaeth drosfwaol ac uchelgeisiol, cynllunio hirdymor effeithiol a pherthynas waith agos â busnesau. Credaf fod y Grŵp Seilwaith yn dystiolaeth glir bod y llywodraeth o ddifri ynglŷn â darparu’r seilwaith y mae’n rhaid i Gymru ei gael er mwyn bod yn economi ddynamig a chynaliadwy.

Ni all y llywodraeth ddarparu’r seilwaith sydd ei angen ar ei phen ei hun. Ni all y farchnad ei ddarparu ychwaith. Dim ond drwy gydweithio drwy gyrff fel y Grŵp Seilwaith y gellir ei ddarparu. O’r hyn rwyf wedi’i weld o waith y grŵp hwn credaf, os caiff ei waith ei gwblhau, y gall Cymru gael seilwaith sy’n addas i’r diben, y bydd yn annog twf economaidd, ac yn darparu ansawdd bywyd da i’w dinasyddion.

Dywedodd Mark Langman, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau Network Rail yng Nghymru:

Mae’n bleser croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Ganolfan Gweithredu Llwybrau Cymru ar achlysur lansio Adroddiad Seilwaith Swyddfa Cymru. Mae’r Ganolfan Gweithredu Llwybrau yn gyfleuster modern iawn ac mae’n cynrychioli dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae Network Rail yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn trafnidiaeth. Yn y pum mlynedd nesaf byddwn yn ymateb i dwf na welwyd ei debyg yn y galw gan deithwyr drwy ddarparu’r buddsoddiad mwyaf yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru ers Oes Fictoria. Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella profiad teithwyr, drwy well gorsafoedd yn ogystal â siwrneiau cyflymach, amlach a mwy dibynadwy. Bydd hefyd yn hwb i economi Cymru.

Nodiadau i olygyddion:

Sefydlwyd Gweithgor Seilwaith Swyddfa Cymru ym mis Mehefin 2013 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a bu’n edrych ar y prif flaenoriaethau ar gyfer datblygu seilwaith gyda’r bwriad o hybu economi Cymru. Daeth y grŵp, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, â buddsoddwyr, gweithredwyr, arbenigwyr diwydiannol a darparwyr seilwaith Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr y ddwy Lywodraeth yng Nghymru at ei gilydd. Bu’n trafod heriau wrth gyflawni prosiectau seilwaith sydd ar waith yn barod ac yn edrych ar anghenion seilwaith eraill.

Roedd yr aelodau’n cynnwys:

  • BT Cymru
  • CBI
  • Dragon LNG
  • Llywodraeth Cymru
  • Trysorlys Ei Mawrhydi
  • Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru
  • Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
  • Network Rail
  • Ofgem
  • Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig Cymru
  • Spectrum Internet
  • Dŵr Cymru.
Cyhoeddwyd ar 30 June 2014