Stori newyddion

Prif Weinidog: "Llywodraeth un genedl yn parhau i gefnogi ffermwyr Prydain"

Prif Weinidog David Cameron: “Fel llywodraeth un genedl, byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr Prydain"

Field
  • Lleihau biwrocratiaeth er mwyn cefnogi ffermwyr Prydain – llai nag 20,000 o archwiliadau ffermydd a Thasglu Archwilio Ffermydd sengl newydd
  • Canolfan Arloesedd Bwyd newydd – bydd dros 400 o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru’n unig yn cael mynediad at yr ymchwil diweddaraf
  • Cynlluniau i ddiogelu 200, sef y nifer mwyaf erioed, o fwydydd gwych o Brydain

Cyhoeddwyd cynlluniau i hybu cynhyrchiant a chynyddu bwyd ac allforion ffermio o fwy na £7 biliwn gan y Prif Weinidog heddiw, wrth iddo ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ym Mhowys.

O dan y gyfundrefn arolygu bresennol, mae cwlwm o saith o reoleiddwyr yn ymgymryd â mwy na 125,000 o archwiliadau fferm bob blwyddyn ar 250,000 o ffermydd yn Lloegr - yn defnyddio amser gwerthfawr ac yn cyfyngu ar botensial y diwydiant ffermio i dyfu ymhellach. Bydd symleiddio’r broses, gwneud gwell defnydd o dechnoleg a data, yn lleihau’r nifer o archwiliadau yn sylweddol ac yn sicrhau mai un corff yn unig sydd ganddyn nhw i ymdrin ag ef. Ac erbyn haf 2016, un Tasglu Arolygu Fferm Unigol fydd gan ffermwyr yn unig i ymdrin ag ef a fydd yn cyfuno ymweliadau â ffermydd gyda gwiriadau gorfodol. Yn ogystal, bydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn symleiddio’r dull o wneud archwiliadau - drwy ddefnyddio, er enghraifft, data lloeren er mwyn dadansoddi gwahanol fathau o gnydau mewn caeau.

Yn ogystal, bydd y newidiadau hyn yn helpu i alluogi mwy na gwerth £7 biliwn o gyfleoedd newydd, a gafodd eu hadnabod gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, i gynyddu allforion bwyd a diod o Brydain mewn gwledydd y tu allan i’r UE, yn cynnwys India, Tsieina a Brasil, gan greu mwy o swyddi gwledig a fydd yn dod â mwy o fuddsoddiad i gymunedau lleol a chynyddu economi Prydain. Bydd hyn yn ychwanegu mwy at dros 600 o farchnadoedd sydd wedi’u hagor ers 2010 – gallai sicrhau mynediad i gig oen i Tsieina yn unig fod yn werth £60 miliwn o bosibl ar gyfer ein heconomi. Yn ogystal, bydd defnyddio’r brand GREAT er mwyn hyrwyddo bwyd a diod y DU dramor yn cael ei gynyddu.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:

Rydw i’n falch iawn o fod yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw i weld y cynnyrch gorau mewn da byw, bwyd a ddiod sydd gan Gymru.

Mae ffermio a chynhyrchu bwyd yn rhan sylfaenol o’n heconomi wledig. Fel Llywodraeth Un Genedl, byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr Prydain i dyfu a gwerthu mwy o fwyd cartref drwy eu rhyddhau o fiwrocratiaeth ac agor marchnadoedd allforio newydd sy’n werth llawer o filiynau.

Yn ogystal, rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud mwy er mwyn symleiddio archwiliadau er budd y diwydiant a chymunedau gwledig.

Yn ogystal, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu Enwau Bwyd Gwarchodedig o 63 i 200 – gyda’r disgwyl y bydd Ham Caerfyrddin a Bara Lawr Cymru yn cael eu cadarnhau yn ddiweddarach yr haf hwn. Mae ennill y statws wedi helpu i ddod â buddion economaidd i fusnesau drwy’r wlad, yn cynnwys swyddi newydd yn Ynys Môn, cynyddu allforion o gig oen o Gymru a’r un gydnabyddiaeth ryngwladol â chynnyrch byd-enwog fel Ham Parma a Chaws Feta. Amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth Enwau Bwyd Gwarchodedig y DU yn fwy na £900 miliwn.

Yn ychwanegol, bydd creu Canolfan Arloesedd Bwyd newydd drwy’r DU yn rhoi mwy o fynediad i fusnesau bychain a chanolig at y dechnoleg a’r wyddoniaeth orau sydd gennym, gan eu helpu i arloesi a thyfu. Mae enghreifftiau o wyddoniaeth a fyddai o fudd i fusnesau bychain yn cynnwys ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddatblygu grawn sy’n llai niweidiol ar gyfer pobl gyda diabetes math 2. Mae hwn yn brosiect sy’n torri tir newydd sy’n dangos sut gall ein harloesedd bwyd yn y DU arwain y ffordd ar y llwyfan rhyngwladol ac agor y drws ar gyfer llawer o gynhyrchwyr llai i allforio mwy. Bydd gan fwy na 8,000 o fusnesau bwyd a diod fynediad i’r ganolfan.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Elizabeth Truss:

Rydym yn eithriadol o uchelgeisiol am ddyfodol bwyd a ffermio a’i botensial i sbarduno twf drwy’r DU – dyna pam yr ydym yn cefnogi’r diwydiant i gynyddu allforion i’r lefel uchaf erioed fel bod mwy o’n bwyd a’n diod ffantastig o Brydain ar silffoedd yr archfarchnadoedd, ac mewn tafarnau a bwytai, o Beijing i Bogota.

Mae ein diwydiant bwyd a ffermio eisoes yn bwerdy economaidd, gyda gwerth dros £100 biliwn y flwyddyn ac yn cefnogi 1 mewn 8 o swyddi – bydd cael gwared â’r rhwystrau rhag twf yn helpu i godi’r ffigurau hyn, a fydd yn golygu mwy o swyddi a mwy o fuddsoddi mewn cymunedau gwledig.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabbe:

Mae proffil Cymru fel cynhyrchwr bwyd a diod o safon fyd-eang yn ffactor sy’n sbarduno twf economaidd ac yn gydran hanfodol o’n sector twristiaeth. Nid yw’r archwaeth fyd-eang ar gyfer cynnyrch cartref Cymru erioed wedi bod yn gryfach.

O Halen Môn o Ynys Môn at Fara Lawr o Gymru, mae nifer cynyddol o gynnyrch gyda’r stamp ‘Cynhyrchwyd yng Nghymru’ yn awr yn cael eu cydnabod drwy’r byd.

Mae’n angenrheidiol ein bod yn parhau i ddarparu ein harloeswyr bwyd gyda’r lefel gywir o gefnogaeth mewn marchnadoedd cartref a thramor. Wrth wneud hyn, gallwn ddatgloi’r potensial anferth sydd gan y sector hwn i fod yn beiriant sylweddol ar gyfer tyfu a chreu swyddi ar gyfer economi gwledig Cymru.

Nodiadau ar gyfer y Golygydd

  • Mae’r Llywodraeth yn cynrychioli buddiannau ein ffermwyr yn Ewrop drwy ymgyrchu am lai o archwiliadau fferm, canllawiau symlach, dull mwy pragmatig tuag at gosbau am gamgymeriadau gweinyddol bychain ac archwilio’r gofynion gwyrddio cymhleth er mwyn gwneud y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn symlach ar gyfer ffermwyr yng Nghymru a Lloegr.

  • Erbyn yr hydref, bydd system newydd yn bodoli yn cynnig llinell gymorth unigol i ffermwyr ar gyfer yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG) ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (AIAP), sy’n gyfrifol am 75 y cant o’r gwaith.

  • Yn y bum mlynedd ddiwethaf, mae ein hallforion bwyd a diod wedi codi £1.8 biliwn, gyda bron i £19 biliwn o fwyd a diod y DU wedi cael eu hallforio i 214 o wledydd a thiriogaethau o gwmpas y byd y llynedd - mae hyn yn cynnwys iâ i Sweden, gwin i Awstralia, tsilis i Bacistan a the i Tsieina. Ers 2010, bu enillion sylweddol mewn allforio drwy’r diwydiant a gwelwyd fod Eog wedi cynyddu 58% i £617 miliwn, cig moch wedi cynyddu 48% i £244 miliwn a chaws wedi codi 38% i £469 miliwn. Ar hyn o bryd, mae allforion Cymru werth £300 miliwn – byddai cynyddu’r ffigwr hwn yn ychwanegu at y 230,000 sydd yn cael eu cyflogi yn y gadwyn fwyd yng Nghymru ar hyn o bryd.

  • O’r fferm i’r fforc, mae cadwyn fwyd y DU yn cyfrannu £103 biliwn at ein heconomi – mwy na cheir ac awyrofod gyda’i gilydd – a bwyd a diod yw’r sector cynhyrchu unigol mwyaf yn y DU. Yn ogystal, mae’n cyflogi oddeutu 1 mewn 8 o bobl – ffigur sy’n codi mewn ardaloedd gwledig. Mae cadwyn fwyd Cymru yn cyflogi 48,000 o bobl ac yn cynhyrchu £1.3 biliwn y flwyddyn.

  • Mae 193,000 o fusnesau bwyd a diod yn y DU, sy’n prynu dwy ran o dair o gynnyrch amaethyddol y DU ac mae ganddyn nhw drosiant cyfunol o £415 biliwn.

  • Mae sector bwyd a diod y DU yn hynod o arloesol, yn cyflwyno oddeutu 16,000 o gynnyrch newydd bob blwyddyn – mwy na Ffrainc a’r Almaen gyda’i gilydd ac ail yn y byd i’r Unol Daleithiau yn unig.

  • Ers Hydref 2013, mae llywodraeth y DU wedi helpu 3,760 o fusnesau bwyd a diod i werthu eu cynnyrch dramor.

Cyhoeddwyd ar 23 July 2015