Datganiad i'r wasg

Bydd Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru yn darparu adfywiad a swyddi o safon uchel

Mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn agor cais am Borthladd Rhydd newydd yng Nghymru ar y cyd.

  • Heddiw, mae’r cyfnod ymgeisio ar agor er mwyn sefydlu Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru
  • Dylai ymgeiswyr amlinellu sut y bydd eu Porthladd Rhydd yn rhoi hwb i’w economi leol, darparu adfywiad a’n creu swyddi o safon uchel
  • Mae hyn yn adeiladu ar gynllun Llywodraeth y DU i greu cyfleoedd ar gyfer ffyniant bro ar draws y DU, a chaiff ei gefnogi gan £26miliwn o nawdd gan Lywodraeth y DU

Heddiw, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi amlinellu eu huchelgais am Raglen Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru, wrth i’r cyfnod ymgeisio agor ar gyfer y safle arloesol newydd.

Argymhellir ymgeiswyr i arddangos sut byddai Porthladd Rhydd yng Nghymru yn darparu mwy o swyddi lleol o safon uchel, yn denu buddsoddiad newydd i Gymru, a’n cefnogi’r wlad i ddod yn fwy cynaliadwy er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050.

Bydd gan gyfungyrff 12 wythnos o heddiw ymlaen i amgyffred y prosbectws a pharatoi eu ceisiadau. Bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu ar y cyd gan swyddogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn proses dethol agored a thryloyw.

Disgwylir y bydd y safle llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yng Ngwanwyn 2023, cyn dod yn weithredol.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:

Darparu ar gyfer y dyfodol!

Mae’n wych cael nodi’r cam cyntaf o gynnig y cyfle rhagorol hwn i bobl Cymru fanteisio ar fuddion y cynllun Porthladd Rhydd.

Mae gan Borthladdoedd Rhydd y potensial i fywiogi cymunedau yng Nghymru gyda’u gallu i ddarparu, hyrwyddo a harneisio twf gwirioneddol – yn yr un ffordd ag y mae Cymru wedi ei wneud gyda’i rôl falch a hanesyddol fel pwerdy llwyddiant ar gyfer y DU gyfan.

Dywedodd Greg Clark, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro:

Bydd Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru yn rhoi hwb enfawr i bobl yng Nghymru, ac rwy’n falch iawn o gael agor y broses ymgeisio wrth inni barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i hybu swyddi newydd a ffyniant yn y wlad.

Mae busnesau a chymunedau ar draws Lloegr eisoes yn buddio o raglen Porthladdoedd Rhydd Llywodraeth y DU.

Rwy’n edrych ymlaen at weld buddion tebyg yn cael eu cynnig i Gymru wrth inni sefydlu Porthladd Rhydd arloesol newydd, a darparu cyfleodd ar gyfer Ffyniant Bro ar draws y DU.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru:

Mae porthladdoedd yn rhan annatod o’n hanes diwydiannol cyfoethog sy’n gyrru ein heconomi, ac mae ganddynt botensial enfawr i gyflymu diwydiannau’r dyfodol sy’n cefnogi sero net, o ynni alltraeth i weithgynhyrchu uwch.

Diolch i’r cytundeb rydym wedi’i sicrhau gyda Llywodraeth y DU, rydym yn lansio Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru sy’n cynnig cyfle i fanteisio ar botensial economaidd helaeth Cymru, gartref ac yn rhyngwladol, trwy ail-ddychmygu rôl porthladdoedd, ar yr un pryd â hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod bargen well i weithwyr yn hanfodol i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Felly, rwyf yn chwilio am gynigion sy’n torri trwy nenfwd diwydiant o ran safonau sero net, yn arddangos y safonau llafur uchel sy’n hyrwyddo gwaith teg, ac yn cyfleu gweledigaeth a rennir wedi’i ffurfio gan gynghreiriau hirsefydlog sy’n cynnwys yr holl bartneriaid cymdeithasol o ddifrif.

Edrychaf ymlaen at ystyried cynigion arloesol sy’n cyflawni buddion economaidd a chymdeithasol ystyrlon i Gymru.

Wedi ei gefnogi gan £26 miliwn o nawdd gan Lywodraeth y DU, prif nod y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yw creu swyddi mewn diwydiannau newydd a chyffrous, hybu’r economi leol ac adfywio’r ardaloedd sydd ei angen fwyaf.

Argymhellir ymgeiswyr i arddangos sut y byddai’r Porthladd Rhydd newydd yn:

  • cryfhau ar les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru

  • cefnogi Cymru i adeiladu economi cryfach a gwyrddach wrth iddi ymgymryd ar frys gyda’r dasg o ddatgarboneiddio, gyda phwyslais ar waith teg a chefnogi diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

  • ffurfio cynghreiriau a phartneriaethau cryf gydag arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gefnogi busnesau gyda chyrhaeddiad byd-eang, a busnesau sydd ag uchelgais o greu cyrhaeddiad byd eang, i gyflawni eu hamcanion

Dywedodd Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd agenda Porthladdoedd Rhydd uchelgeisiol Llywodraeth y DU yn creu cyfleoedd ar gyfer Ffyniant Bro i bobl a busnesau mewn cymunedau ar draws y wlad.

Drwy greu cannoedd o swyddi lleol a hybu buddsoddiad, bydd y Porthladd Rhydd Cymreig llwyddiannus yn creu buddion sylweddol ar gyfer ei ardal amgylchynol.

Mae hyn yn hynod o gyffrous i Gymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ceisiadau gan gymaint o safleoedd arfaethedig a phosib

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno ar y cyd y byddent yn barod i ystyried yr achos dros sefydlu Porthladd Rhydd ychwanegol yng Nghymru, pe bai cais wirioneddol arbennig yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod ymgeisio.

Mae Cymru eisoes wedi derbyn miliynau gan Lywodraeth y DU i greu cyfleoedd ar gyfer ffyniant bro. Mae’r nawdd hwn wedi cyfrannu at brosiectau megis trawsnewid Castell Hwlffordd i atyniad sy’n barod ar gyfer yr holl dymhorau, gweddnewidiad i Neuadd Ddawns y Frenhines yn Nhredegar, a rhoi bywyd newydd i Landrindod drwy greu tai fforddiadwy ac effeithlon.

Mae’r datblygiadau sydd wedi eu cyflawni hyd yn hyn ar Borthladd Rhydd yng Nghymru yn adeiladu ar yr agenda uchelgeisiol hwn, gan wireddu ein hymrwymiad i hyrwyddo ffyniant bro drwy wasgaru cyfleodd mewn modd mwy cydradd ar draws y DU.

Mwy o wybodaeth

Prosbectws ceisio Porthladd Rhydd Cymru yn Saesneg ac yn Gymraeg

Rhaid i ymgeiswyr a phartneriaethau aml-ymgeisydd gyflwyno eu cynigion i’r ddwy lywodraeth drwy’r porth cynnig ar-lein erbyn 6pm ar 24 Tachwedd 2022. Gall cynigwyr posibl cofrestru i gael mynediad porth drwy’r ffurflen gofrestru Ymlaen llaw.

Mae Porthladdoedd Rhydd yn ardaloedd arbennig o fewn ffiniau’r DU lle mae rheoliadau economaidd a thollau gwahanol yn berthnasol. Mae porthladdoedd rhydd yn safleoedd sy’n canolbwyntio ar un neu gyfuniad o aer, rheilffyrdd, neu borthladd môr, o fewn ffin allanol sy’n cwmpasu. Darganfod mwy o wybodaeth am Borthladdoedd Rhydd.

Office address and general enquiries

2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

E-bost correspondence@levellingup.gov.uk

General enquiries: please use this number if you are a member of the public 030 3444 0000

Media enquiries

E-bost newsdesk@levellingup.gov.uk

Please use this number if you are a journalist wishing to speak to Press Office 0303 444 1209

Cyhoeddwyd ar 1 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 September 2022 + show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. First published.