Prosbectws ymgeisio’r Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru
Mae’r prosbectws ymgeisio Porthladd Rhydd yng Nghymru yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’n rhoi mwy o fanylion am fodel Porthladd Rhydd Cymru ac yn amlinellu sut gall cynigwyr wneud cais yng Nghymru.
Applies to Wales
Dogfennau
Manylion
Mae prosbectws ymgeisio’r Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Porthladd Rhydd yng Nghymru. Mae’r ddwy lywodraeth yn disgwyl i borthladdoedd, busnesau, llywodraeth leol, a phartneriaid lleol eraill ddod at ei gilydd i gynnig am statws Porthladd Rhydd. Bydd angen i bartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat gydweithio’n agos er mwyn cynhyrchu’r cynigion mwyaf cystadleuol.
Mae’r model Porthladd Rhydd yng Nghymru yn cyd-fynd yn agos â’r cynnig a amlinellir yn Lloegr. Mae’r Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru wedi’i seilio ar dri phrif amcan:
- hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel
- sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang
- meithrin amgylchedd arloesol.
Mae’r prosbectws ymgeisio hwn yn disgrifio’r ffordd rydym yn disgwyl i gynigwyr ddangos sut y bydd cymhellion Porthladd Rhydd yn cael eu defnyddio i gyflawni’r tri amcan.
Bydd y broses ymgeisio’n agor ar 1 Medi 2022 ac yn cau am 6pm ar 24 Tachwedd 2022. Gall darpar ymgeiswyr sy’n bwriadu gwneud cais am statws Porthladd Rhydd lenwi ffurflen cyn-gofrestru
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 October 2022 + show all updates
-
Updated clarification Q and A.
-
Deadline for all prospectus clarification questions to be submitted extended to 13 October.
-
Added Freeport Programme in Wales clarification Q and A
-
Added translation