Papur polisi

Y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio

Diweddarwyd 28 October 2022

Applies to Wales

Rhageiriau Gweinidogol

Mae gan borthladdoedd Cymru hanes hir o helpu ffurfio gwead economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol Cymru. Heddiw, maen nhw’n parhau i fod yn nodwedd ganolog o sefydlu cysylltiadau masnachu newydd ar draws y byd a thyfu potensial masnach a buddsoddi rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

Mae Cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru yn ymrwymo i gryfhau lle Cymru wrth wraidd Teyrnas Unedig ffyniannus, gan gefnogi twf economaidd, Ffyniant Bro a lledaenu cyfleoedd ledled Cymru. Cyfrannodd y porthladdoedd a’r harbyrau sydd wedi’u gwasgaru ar hyd arfordir Cymru at ffurfio Prydain fel gwlad fyd-eang sy’n edrych tuag allan. Mae’r un porthladdoedd hyn bellach yn ein helpu i greu Prydain yfory sy’n wyrddach, yn lanach ac yn fwy annibynnol o ran ynni.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau gweithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod Cymru yn manteisio’n llawn ar ei chryfderau enfawr fel y gallwn ni, gyda’n gilydd, greu cyfleoedd ar gyfer ffyniant bro mewn cymunedau ledled Cymru, o Fiwmares i’r Barri.

Bydd ein Rhaglen Porthladd Rhydd newydd, a gyflwynir ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac a gefnogir gan £26 miliwn o gyllid cychwynnol, yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon.

Gallai’r rhaglen Porthladd Rhydd helpu Cymru i gystadlu am fasnach a buddsoddiad byd-eang, gan greu miloedd o swyddi newydd a rhoi cymunedau arfordirol ar y ffordd tuag at dwf a ffyniant tymor hir.

Cyhoeddi’r prosbectws hwn yw’r cam cyffrous nesaf yn y Rhaglen Porthladd Rhydd – y cam cynnig. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r meini prawf dethol hanfodol ar gyfer cynnig llwyddiannus.

Fel y byddech yn disgwyl, rydym wedi gosod y trothwy’n uchel. Rydym eisiau i bob cynnig hyrwyddo adfywio a chreu swyddi. Rydym eisiau gweledigaeth ar gyfer sut byddai’r Porthladd Rhydd yn troi eich ardal yn ganolfan ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang, ac rydym eisiau syniadau ar gyfer sut y bydd yn meithrin amgylchedd arloesol sy’n gyfeillgar i fusnes.

Yn hollbwysig, rydym eisiau i gynigwyr ddangos yn glir sut byddant yn defnyddio eu statws Porthladd Rhydd i gynhyrchu mwy o weithgarwch economaidd ledled Cymru, ysgogi twf net mewn swyddi, creu cyfleoedd swyddi o ansawdd uchel a chefnogi datgarboneiddio wrth newid i Sero Net. Bydd gan y ddwy lywodraeth lais cyfartal wrth benderfynu ar y cynnig Porthladd Rhydd llwyddiannus.

Mae trethi isel a rheoleiddio isel, ynghyd â chyllid sbarduno a chefnogaeth nid un ond dwy lywodraeth, yn gwneud hwn yn gyfle euraid.

Edrychaf ymlaen at weld cynigion uchelgeisiol yn cael eu cyflwyno sy’n achub ar y cyfle hwn ac yn cyflawni dros Gymru, yn rhan o ymrwymiad ar y cyd rhwng ein dwy Lywodraeth i greu cyfleoedd ar gyfer ffyniant bro a chyfoeth ar draws y wlad gyfan.

Y Gwir Anrhydeddus Greg Clark AS

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Mae gan Lywodraeth Cymru Genhadaeth Economaidd glir i sicrhau bod economi Cymru yn fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd nag erioed o’r blaen. Mae gwireddu’r uchelgais hwnnw’n dibynnu ar sut rydym yn sicrhau bod buddsoddiad yn atgyfnerthu ein hymrwymiadau i waith teg, cynaliadwyedd a chefnogi gwasanaethau a diwydiannau’r dyfodol.

Mae porthladdoedd yn rhan annatod o’n hanes diwydiannol cyfoethog sy’n gyrru ein heconomi, ac mae ganddynt botensial enfawr i gyflymu diwydiannau’r dyfodol sy’n cefnogi sero net, o ynni alltraeth i weithgynhyrchu uwch. Diolch i’r cytundeb rydym wedi’i sicrhau gyda Llywodraeth y DU, rydym yn lansio Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru sy’n cynnig cyfle i fanteisio ar botensial economaidd helaeth Cymru, gartref ac yn rhyngwladol, trwy ailddychmygu rôl porthladdoedd, ar yr un pryd â hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod bargen well i weithwyr yn hanfodol i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru fod ein ymyriadau polisi cyhoeddus yn cyfrannu at waith teg a’n ffordd partneriaeth gymdeithasol o weithio. Dyna pam mae’r prosbectws hwn yn amlygu’r pwysigwydd rydym yn ei roi i waith teg a phartneriaeth gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag undebau llafur mewn Fforwm Ymgynghorol Gweithwyr, a fydd yn rhan o drefniadau llywodraethu lleol porthladd rhydd yng Nghymru.

Rydym yn gwahodd ceisiadau blaengar sy’n darparu adfywio a swyddi o ansawdd uchel, yn hybu buddsoddiad a masnach ac yn meithrin arloesedd. Bydd y cynnig llwyddiannus yn derbyn hyd at £26m o fuddsoddiad sbarduno yn ogystal â phecyn o fuddion sy’n rhychwantu rhyddhad treth ac ardrethi, cynllunio wedi’i symleiddio, dynodi safle tollau a chymorth ehangach gan y llywodraeth ar gyfer masnach, buddsoddiad ac arloesedd.

Yn ogystal â dangos cynllun buddsoddi cyfannol sy’n cefnogi clystyrau sy’n dod i’r amlwg ac yn cynyddu potensial yr ardal leol i dyfu i’r eithaf, mae’n rhaid i gynigion ymgorffori gwerthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a sicrhau urddas a thegwch i’r bobl sy’n ganolog iddynt.

Rwyf yn chwilio am gynigion sy’n torri trwy nenfwd diwydiant o ran safonau sero net, yn dangos y safonau llafur uchel a amlinellir yn ein Contract Economaidd ac yn cyfleu gweledigaeth a rennir wedi’i ffurfio gan gynghreiriau hirsefydlog sy’n cynnwys yr holl bartneriaid cymdeithasol o ddifrif.

Bydd y ddwy Lywodraeth yn penderfynu ar ganlyniad y gystadleuaeth gyda’i gilydd, ac edrychaf ymlaen at ystyried cynigion arloesol sy’n cyflawni buddion economaidd a chymdeithasol ystyrlon i Gymru.

Vaughan Gething AS

Gweinidog yr Economi

Adran 1. Cyflwyniad a chyd-destun

1.0.1 Mae’r Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru yn gyfle newydd i helpu Cymru i barhau i ddatblygu economi entrepreneuraidd, gynhwysol a chynaliadwy sy’n gystadleuol yn fyd-eang, ar yr un pryd â datblygu’r cryfder a’r cydnerthedd i oresgyn yr ysgytwadau economaidd a brofwyd yn ystod y pandemig Covid 19. Mae’n un o ymrwymiadau allweddol Papur Gwyn Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a bydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i’r economi, gwaith teg a’r saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n cyflawni buddion tymor hir i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

1.0.2 Bydd y Rhaglen porthladd Rhydd yn ceisio rhoi cymhellion i fusnesau preifat i fuddsoddi mewn cyfleoedd newydd yng Nghymru, yn enwedig o ran gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a gwneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio. Bydd y Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru yn ychwanegu at gryfderau lleol presennol ac yn gwneud y dinasoedd, y trefi a’r pentrefi cyfagos yng Nghymru yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.

1.1 Cyd-destun polisi

1.1.1 Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bwriad i sefydlu Porthladdoedd Rhydd i helpu i adfywio cymunedau trwy ddatgloi potensial economaidd porthladdoedd y Deyrnas Unedig. Pan lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Brosbectws Ymgeisio Porthladdoedd Rhydd ar gyfer Lloegr ym mis Tachwedd 2020, gwnaed ymrwymiad i weithio gyda’r llywodraethau datganoledig i sicrhau y gallai’r Deyrnas Unedig gyfan elwa o Borthladdoedd Rhydd.

1.1.2 Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Papur Gwyn Ffyniant Bro. Cydnabu’r papur y gwahaniaethau gofodol sylweddol mewn ystod o ddangosyddion rhwng gwahanol fannau ledled y Deyrnas Unedig a gosododd 12 cenhadaeth uchelgeisiol i sbarduno ffyniant bro. Un o themâu allweddol y Papur Gwyn yw hybu cynhyrchedd, cyflogau, swyddi a safonau byw trwy dyfu’r sector preifat, gan gynnwys trwy gymorth ar gyfer mewnfuddsoddi a masnach. Ailadroddodd y Papur Gwyn ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu Porthladdoedd Rhydd newydd ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan weithio gyda’r llywodraethau datganoledig.

1.1.3 Mae Rhaglen Lywodraethu wedi’i diweddaru Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei hymrwymiad i gyflawni Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar waith teg, cynaliadwyedd a chefnogi diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

1.1.4 Mae Cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru yn ymrwymo i gryfhau lle Cymru wrth wraidd Teyrnas Unedig ffyniannus, gan gefnogi twf economaidd ledled Cymru, a chreu cymunedau gwyrddach a mwy cysylltiedig. Gyda’i

1.2 Y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru

1.2.1 Bydd llawer o nodweddion y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn gweithredu yn yr un ffordd â’r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr, yn ogystal â model y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd sy’n cael ei ddatblygu yn yr Alban. Bydd y Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru yn helpu i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy gyfrannu at y saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn golygu cefnogi Cymru i greu economi gryfach a gwyrddach wrth iddi wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio, gyda phwyslais ar waith teg a chefnogi diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

1.2.2 Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau ffurfio partneriaeth ag arweinwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus er mwyn cynorthwyo busnesau â chyrhaeddiad byd-eang, a busnesau sy’n awyddus i gael cyrhaeddiad byd-eang, i gyflawni eu huchelgeisiau. Bydd hyn yn datgloi potensial rhanbarthau Cymru er budd yr economi genedlaethol, busnesau, gweithwyr, a chymunedau lleol, ac yn ychwanegu at waith partneriaeth llwyddiannus sydd eisoes wedi’i sefydlu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru trwy weithredu bargeinion Dinesig a Thwf ledled Cymru.

1.2.3 Cydnabyddwn y bydd gan ranbarthau gwahanol gryfderau, sefydliadau a strategaethau economaidd presennol gwahanol. Dylai ymgeiswyr amlinellu pam mae Porthladd Rhydd yn iawn i’w hardal; sut byddant yn defnyddio’r mesurau; a sut byddant yn cyflawni’r amcanion allweddol. Mae’r ddwy Lywodraeth eisiau i ymgeiswyr y Rhaglen Porthladd Rhydd ffurfio cynghreiriau cryf y bydd yn datblygu cynigion uchelgeisiol a chyflawnadwy. Mae’n rhaid i’r cynghreiriau hyn gynnwys: porthladd (môr, awyr, neu reilffordd) a’r awdurdod/awdurdodau lleol y mae’r Porthladd Rhydd wedi’i leoli ynddynt. Bydd y cynghreiriau hyn hefyd yn cynnwys: busnesau lleol; busnesau rhyngwladol; sefydliadau academaidd; Partneriaethau Economaidd Rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

1.3 Y prosbectws hwn

1.3.1 Bwriedir i’r ddogfen brosbectws hon fod yn ganllaw i ymgeiswyr ac mae fersiwn ar gael yn Saesneg hefyd. Mae’n rhoi manylion am y canlynol:

a. amcanion y Rhaglen Porthladd Rhydd (Adran 2)

b. Daearyddiaeth Porthladd Rhydd, gan gynnwys canllawiau ar faint a dyluniad safle (Adran 3.1)

c. Sut bydd y gwahanol ysgogiadau polisi’n gweithio (e.e. sut y bydd trethi a gedwir yn ôl a threthi datganoledig yn gweithio) (Adrannau 3.2 i 3.8)

ch. llywodraethu a chyflawni’r Rhaglen Porthladd Rhydd (Adran 4)

d. Y broses ddethol deg, agored, a thryloyw (Adran 5)

dd. Cwestiynau’r ffurflen gais (Adrannau 5.6 i 5.9)

1.4 Y broses ymgeisio

1.4.1 Mae’n rhaid i ymgeiswyr a phartneriaethau aml-ymgeisydd gyflwyno eu cynigion i’r ddwy Lywodraeth trwy borth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) erbyn 6yh ar 24 Tachwedd 2022. Bydd gan ymgeiswyr 12 wythnos o gyhoeddi’r prosbectws i gwblhau a chyflwyno eu cynigion. Dylid cyflwyno cynigion trwy borth ymgeisio Porthladdoedd Rhydd a fydd yn cael ei anfon at bartïon sy’n mynegi diddordeb mewn cyflwyno cynnig ar gyfer statws Porthladd Rhydd. Mae’r ffurflen gofrestru ar gael yma. Mae’r holl gwestiynau a ofynnir yn y cais ar gael yn adrannau 5.6 i 5.9 y prosbectws hwn.

1.4.2 Bydd darpar ymgeiswyr yn gallu gofyn am eglurhad o gynnwys y prosbectws hwn ar gyfer ymgeiswyr hyd at 13 Hydref. Yna, bydd crynodeb o’r atebion a roddwyd yn cael ei gyhoeddi ar-lein erbyn 27 Hydref fan bellaf.

1.4.3 Bydd cynigion yn cael eu hasesu trwy broses gystadleuol agored, a chyhoeddir y dynodiadau a ddewiswyd yn gynnar yng Ngwanwyn 2023.

1.4.4 Rhoddir rhywfaint o gyllid refeniw i’r ymgeisydd llwyddiannus yn amodol ar adolygiad llywodraethu cychwynnol i gefnogi costau sefydlu llywodraethu. Byddant hefyd yn gweithio gyda ni i ddatblygu achosion busnes manwl ar gyfer eu cynlluniau gwario yn gysylltiedig â dyfarnu unrhyw gyllid Porthladd Rhydd ychwanegol a gynigir.

1.5 Crynodeb o ddyddiadau allweddol

1 Medi 2022 – Cyhoeddi’r prosbectws, gall ymgeiswyr gyflwyno cwestiynau eglurhad, a bydd y porth ymgeisio’n agor

13 Hydref 2022 – Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r holl gwestiynau eglurhad ynglŷn â’r prosbectws

27 Hydref 2022 – Y dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i gwestiynau eglurhad ynglŷn â’r prosbectws

24 Tachwedd 2022 – Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, 6yh

Gwanwyn cynnar 2023 – Cyhoeddi’r cynnig buddugol

Haf 2023 – Mae’r Porthladd Rhydd yn dod yn weithred

Adran 2: Amcanion

2.0.1 Y ddogfen hon yw’r prosbectws ymgeiswyr ar gyfer y Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru yn unig.

2.0.2 Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydweithio i ddylunio model Porthladd Rhydd a fydd yn cyflawni tri phrif amcan y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu bodloni:

a. hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel;

b. sefydlu’r Porthladd Rhydd fel canolfan genedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang ar draws yr economi;

c. meithrin amgylchedd arloesol.

2.0.3 Nid yw unrhyw ddwy economi neu ddau borthladd yr un fath. Er mwyn cyflawni uchelgais y Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru, dylai ymgeiswyr: fyfyrio ar nodweddion eu heconomi leol neu borthladd lleol; ystyried sut i ddefnyddio eu hasedau a mynd i’r afael â’u gwendidau cymharol yn y ffordd orau; ac amlinellu strategaeth ar gyfer twf cynhwysol wedi’i seilio ar amcanion Porthladd Rhydd. Bydd ymgeiswyr yn cyflwyno strategaeth yn rhan o’u cynnig i ddangos tystiolaeth o hyn (Cwestiwn 2) a sut y byddant yn cyflawni pob un o’r amcanion a amlinellir yn yr adran hon. Bydd y cyflwyniad ysgrifenedig hwn yn rhan allweddol o’r cais cyffredinol ar gyfer statws Porthladd Rhydd.

2.0.4 Yn ymarferol, bydd llawer o’r gweithgareddau a ddisgrifir yn cyflawni mwy nag un amcan ac yn creu cylchoedd daionus, gydag un gweithgaredd yn atgyfnerthu un arall. Er enghraifft:

a. mae safle strategol gerllaw porthladd sefydledig yn cael ei ddatblygu sy’n ychwanegu at asedau presennol mewn sector cyfalaf-ddwys sy’n elwa o leoliad y cwmni, er enghraifft, adeiladu cydrannau ar gyfer tyrbinau gwynt. Gallai’r Porthladd Rhydd hwn ei farchnata ei hun yn effeithiol i fuddsoddwyr rhyngwladol yn y sectorau ynni gwynt a chysylltiedig trwy gyfeirio at ei gryfderau diwydiannol presennol, a fydd yn caniatáu i gwmni mawr sefydlu ei hun yn gyflym trwy gael mynediad at gyflenwad presennol o weithwyr medrus a seilwaith addas yn y porthladd. Gan fod y safle gerllaw’r porthladd, byddai’n lleihau costau cludiant, felly gallai cwmnïau â nwyddau sydd â chostau cludiant uchel elwa yn arbennig. O ran y gymuned leol, dylai’r galw newydd a sylweddol hwn am eu sgiliau hybu cyflogau a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi mewn ardaloedd mwy difreintiedig

b. pan fydd cwmni mawr wedi cael ei ddenu, fe allai ryng-gysylltu’n gynyddol â chadwyni cyflenwi lleol, gyda sgil-gynhyrchion un broses yn mewnbynnu i rai eraill. Gallai hyn dyfu clwstwr newydd o gwmnïau, gan ganiatáu iddynt elwa o seilwaith, cyfleusterau storio a thrafnidiaeth a rennir, gyda diwydiannau ynni-ddwys yn elwa o lai o gostau ac felly mwy o gydymffurfiaeth amgylcheddol. Dylai’r cynnydd hwn mewn effeithlonrwydd roi hwb pellach i greu swyddi a chynyddu cyflogau

c. gallai cwmnïau gronni eu cyllidebau hyfforddi i sefydlu darparwr addysg bellach sy’n canolbwyntio ar sgiliau technegol, mewn partneriaeth â darparwyr sgiliau presennol. Gallai hyn ddarparu cyfleoedd hyfforddi ar y safle, fel bod dysgwyr yn gallu elwa o brofiad gwaith a sicrhau bod y farchnad lafur yn bodloni anghenion y clwstwr diwydiannol hwn sy’n dod i’r amlwg yn y ffordd orau. Fe allai fod cyfleoedd i dreialu cynlluniau arloesol ynglŷn ag ynni glân, gan helpu i ddatblygu cryfderau diwydiannol y dyfodol

2.1 Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel

2.1.1 Mae’r ddwy lywodraeth yn ceisio hyrwyddo adfywio a chreu swyddi trwy dwf cynhwysol a chynaliadwy. Un o nodau allweddol y Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru yw ysgogi twf net mewn swyddi ar draws diwydiannau a sectorau arloesol o’r economi, gan greu cyfleoedd ar gyfer swyddi o ansawdd uchel, twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol, ac adfywio’r ardaloedd y mae arnynt angen hynny fwyaf. Dylai ceisiadau ymgeiswyr arddangos y buddion i gadwyni cyflenwi ledled Cymru, a manylion effeithiau economaidd cadarnhaol ar gyfer economïau lleol a rhanbarthol.

Hyrwyddo Adfywio – awdurdodau lleol, porthladdoedd, a busnes yn cydweithio

2.1.2 Rydym eisiau i’r Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru helpu i hyrwyddo adfywio ar draws economïau a chymunedau lleol trwy sbarduno twf cynhwysol a chynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Bydd Porthladd Rhydd yn cefnogi Cenhadaeth Llywodraeth Cymru i greu economi ffyniannus, werdd a chyfartal wedi’i seilio ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd, a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol. Bydd y Porthladd Rhydd yn gwella gallu Cymru ymhellach i ddenu buddsoddiad a busnesau newydd, gan ddod â thwf a ffyniant i rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a chefnogi’r broses o gyflawni’r ymrwymiadau twf economaidd allweddol a amlinellir yng Nghynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru.

2.1.3 Anogir ymgeisydd ar gyfer Porthladd Rhydd i ddangos, drwy gydol ei gynnig, ei ymrwymiad i gefnogi Cymru i ddod yn genedl fwy cynaliadwy trwy wella lles cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru, ac yn benodol sut mae wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy a luniwyd i gynyddu’r cyfraniad at gyflawni pob un o’r nodau llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hyd yr eithaf.

2.1.4 Er mwyn denu’r buddsoddiad preifat sy’n angenrheidiol i sbarduno’r adfywiad hwn, bydd y Rhaglen Porthladd Rhydd yn darparu: mynediad at gymysgedd o gymhellion ariannol; llywodraethu da sy’n cefnogi partneriaeth gref rhwng rhanddeiliaid lleol, preifat a sector cyhoeddus; cefnogaeth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddenu buddsoddiad; a chymorth i greu sylfaen gref o sgiliau lleol a rhanbarthol.

2.1.5 Disgwyliwn i awdurdodau lleol helpu i ffurfio cynlluniau adfywio, trwy rannu cynlluniau lleol a rhanbarthol perthnasol ar gyfer twf cynhwysol a chynaliadwy. Yn eu tro, mae’n rhaid i weithredwyr preifat a busnesau sy’n fuddiolwyr:

a. roi darpariaethau ar waith i sicrhau bod buddsoddiad, sy’n ychwanegol ac yn cyd-fynd â’r amcanion polisi, yn cael ei gyflwyno ar gyfer safleoedd treth, gan gynnwys trwy dirfeddianwyr yn gweithio gyda Phorthladd Rhydd i ffurfio’r defnydd terfynol o’u tir

b. canolbwyntio buddsoddiad ar weithgarwch sy’n wirioneddol ychwanegol at eu cynlluniau buddsoddi presennol, naill ai trwy gyflymu buddsoddiad yn sylweddol, neu drwy fynd i’r afael â safleoedd datblygu addawol a fyddai’n anhyfyw fel arall. Bydd cynigion sy’n dangos ymrwymiadau diffuant a phendant gan yr holl bartneriaid i gyflawni’r amcan adfywio yn cael eu hystyried yn fwy ffafriol

c. dangos sut gallant fod o fudd i fusnesau lleol eraill, cadwyni cyflenwi ehangach a chymunedau lleol trwy ymgysylltu a chydweithio â’r awdurdod/awdurdodau lleol a blaenoriaethu recriwtio lleol a rhanbarthol lle y bo’n bosibl

Cefnogi clystyrau diwydiannol sy’n dod i’r amlwg

2.1.6 Dylai ymgeiswyr Porthladd Rhydd amlinellu ffocws clir ar sector, ac amlygu’r sail resymegol dros ddewis y sector, gan gynnwys unrhyw ymchwil sy’n cefnogi’r dewisiadau hyn. Dylai’r cynnig hefyd amlinellu sut mae clystyrau sy’n dod i’r amlwg yn y sectorau hynny’n helpu i gyflawni’r amcanion polisi. Trwy dargedu sectorau penodol sy’n bresennol ac yn tyfu yn yr economi leol neu ranbarthol, dylai Porthladd Rhydd sbarduno arloesedd ymhellach i gefnogi clystyrau sy’n dod i’r amlwg. Dylai hyn gynnwys cydweithio ag asiantaethau menter, prifysgolion, a cholegau yng Nghymru. Gellir amlygu clystyrau a chryfderau diwydiannol gan ddefnyddio sawl dull, o ystadegau ar ddiwydiannau wedi’u graddio gan rannu swyddi lleol i “Ddadansoddiad Cymhlethdod Economaidd”.

2.1.7 Dylai ymgeiswyr roi tystiolaeth o’r clystyrau hyn sy’n dod i’r amlwg yn eu heconomi leol a sut maen nhw’n bwriadu eu cefnogi, gan gynnwys sut gallai’r statws Porthladd Rhydd helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn hyfywedd buddsoddi. Bydd tystiolaeth glir o fuddsoddiad sector preifat newydd – naill ai gan ddatblygwyr eiddo masnachol sy’n gwasanaethu’r sectorau hynny neu gan feddianwyr eu hunain – yn cael ei gwobrwyo gydag asesiad uwch yn erbyn meini prawf perthnasol.

2.1.8 Mae rhai buddion clystyru wedi cael eu harsylwi ar lefel leol a hyd yn oed lefel safle swyddfa. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos sut maen nhw’n bwriadu cysylltu’r sgiliau sydd ar gael yn y farchnad lafur leol ag anghenion y busnesau a’r sectorau sy’n cael eu targedu, gan gynnwys cymorth i uwchsgilio yn unol â strategaethau sgiliau lleol a chenedlaethol. Dylai cynigion sy’n cynnig datblygu eiddo masnachol ddangos sut byddant yn gwella’r effeithiau hyn, gan arddangos sut byddant yn denu “cwmnïau angori” mwy o faint y gall cwmnïau eraill ffurfio clwstwr o’u hamgylch neu sicrhau bod ystadau’n cael eu dylunio’n dda i hyrwyddo cydweithio.

Creu swyddi o ansawdd uchel, darparu gwaith teg a gwella’r sylfaen sgiliau leol

2.1.9 Trwy gefnogi clystyrau sy’n dod i’r amlwg a manteisio ar gymhellion, gall y Rhaglen porthladd Rhydd gynhyrchu swyddi o ansawdd uchel, gyda chyflogau uwch mewn diwydiannau arloesol. Rydym eisiau gweld cwmnïau mewn sectorau targed yn ymrwymo i safonau uchel o ran arferion cyflogaeth ar y cam cyflwyno cynnig. Er enghraifft, gallai ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o arferion ac ymrwymiadau gwaith da presennol, gan gynnwys ymgysylltu adeiladol â gweithwyr ac undebau llafur.

2.1.10 Dylai’r cynigydd a benodir ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddatblygu Contract Economaidd yn unol â pholisi presennol Llywodraeth Cymru. Gall ymgeiswyr weithredu fel esiamplau i eraill a dangos sut mae eu harferion busnes yn hyrwyddo egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, a dylent wneud hynny. Gall ymgeiswyr hefyd ddangos sut maen nhw’n cydymffurfio ag arfer da wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru, fel y cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

2.1.11 Gallai hyn gynnwys ymrwymo i gynyddu’r cyflog gwaelodol, buddsoddi yn sgiliau eu gweithlu, mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, creu gweithleoedd mwy cynhwysol, ac osgoi defnydd amhriodol o gontractau dim oriau. Dylai ymgeiswyr gyflwyno strategaeth i ddangos sut byddant yn cyflawni’r canlyniad a ddymunir, sef swyddi gwell a thecach a chyflogau gwell. Fe ddylai gynnwys:

a. sut bydd y Porthladd Rhydd ei hun yn galluogi creu swyddi newydd sy’n talu’n uwch

b. sut bydd yn denu cwmnïau i leoli yn yr ardal

c. sut bydd arferion gwaith teg yn cael eu hymsefydlu ar draws yr ardal

2.1.12 Mae’n rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos sut maen nhw’n bwriadu cysylltu’r sgiliau sydd ar gael yn y farchnad lafur leol ag anghenion y busnesau a’r sectorau sy’n cael eu targedu, gan gynnwys cymorth i uwchsgilio yn unol â strategaethau sgiliau lleol a chenedlaethol.

2.1.13 Wrth ddatblygu eu strategaethau, gallai cynigwyr ddymuno ystyried cyd-fynd â meini prawf gwaith teg Llywodraeth Cymru[footnote 1]. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ymrwymiadau ynglŷn â’r cyflog byw go iawn ac ymgysylltu ag undebau llafur. Ystyrir y rhain pan fyddant yn cefnogi’r amcan cyffredinol.

Trafnidiaeth

2.1.14 Dylai ymgeiswyr amlygu’r effeithiau posibl ar drafnidiaeth wyneb sy’n deillio o ddatblygiad, yn unol â pholisi cynllunio perthnasol, a phan fydd angen mesurau lliniaru, dylai’r rhain gael eu hamlygu a’u darparu gan yr ymgeisydd. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod gweithgarwch:

(1) yn cefnogi’r weledigaeth a’r blaenoriaethau a amlinellir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, yn enwedig defnyddio Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i lywio penderfyniadau

(2) yn cyd-fynd cyn belled ag y bo’n ymarferol bosibl â’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol presennol priodol (sydd ar gael trwy awdurdodau lleol) a rhaglenni Metro (gall swyddogion Llywodraeth Cymru hwyluso mynediad at fanylion rhaglenni Metro Cymru. At ddibenion y ddogfen hon, mae rhaglenni Metro yn cynnwys gwaith i gyflawni argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.)

(3) heb fod yn allweddol ddibynnol ar ddatblygiadau trafnidiaeth sy’n destun adolygiadau/comisiynau presennol yng Nghymru, fel yr Adolygiad o Ffyrdd a Chomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru.

2.1.15 Bydd cynigion sy’n rhoi ystyriaeth i Ddatblygiad sy’n Seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth, lle mae safleoedd cyflogaeth a logisteg newydd yn cael eu lleoli’n agos i gysylltiadau trafnidiaeth presennol, yn cael eu hystyried yn fwy ffafriol.

2.1.16 Dylai ceisiadau ddangos, fel y bo’n briodol, sut gallai’r Porthladd Rhydd ysgogi mabwysiadu symudiadau morgludiant, hedfanaeth a/neu reilffyrdd mwy cynaliadwy. Er enghraifft, gallai hyn fod trwy ddarparu tanwyddau mwy cynaliadwy, rhoi cymhellion i ddefnyddio llongau/awyrennau/trenau mwy effeithlon, neu weithrediadau sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon.

2.2 Sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang

2.2.1 Bydd angen i ddarpar Borthladd Rhydd yng Nghymru ddangos sut y bydd yn cefnogi mwy o fasnach a buddsoddiad byd-eang, gan hybu gweithgarwch economaidd ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig ehangach. Mae effaith economaidd buddsoddiad rhyngwladol ar economïau cynhaliol wedi’i hen sefydlu; mae’r buddion sy’n deillio o fewnfuddsoddi da yn cynnwys cyflogaeth, cyflogau uwch, enillion cynhyrchedd, mwy o allforion wedi’u lledaenu ar draws llawer o’n rhanbarthau mewn nifer o sectorau allweddol ac adfywio cymunedau. Bydd angen i’r Porthladd Rhydd amlinellu ei gynlluniau ar gyfer rhyngweithio â’r farchnad fuddsoddi fyd-eang i sicrhau buddsoddi uniongyrchol o dramor a buddsoddi cyfalaf i’w Borthladd Rhydd.

2.2.2 Mae polisi masnach Cymru wedi’i seilio ar ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru i gynaliadwyedd ac i weithredu fel cenedl gyfrifol ar y llwyfan byd-eang; i barchu ac amddiffyn hawliau dynol; i weithredu er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd byd-eang ac i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Mae Cymru wedi croesawu a chefnogi busnesau o bob rhan o’r byd, gan eu helpu i ddatblygu, tyfu a gwireddu eu llawn botensial.

2.2.3 Dylai ymgeiswyr ddangos yn glir sut y bydd cynigion yn manteisio ar yr ychwanegedd a ddarperir gan Borthladd Rhydd i gynyddu masnach. Dylai Porthladd Rhydd egluro p’un a yw’n ceisio dod yn gyfleuster mewnforio a/neu allforio, neu a yw’n ceisio blaenoriaethu’r farchnad fewnforio. Os yw ymgeiswyr yn ceisio gwella gweithgareddau allforio, dylai cynigion amlygu marchnadoedd targed ac amlinellu’r dull o ddefnyddio perthnasoedd â’r farchnad bresennol, yn ogystal â chynhyrchu marchnadoedd newydd er budd y gymuned leol. Bydd hefyd angen iddynt ddangos tystiolaeth o sut byddant yn annog busnesau bach a chanolig (BBaChau) i allforio fel rhan o’u cynllun allforio. Dylai ymgeiswyr ystyried sut mae eu cynigion yn cyd-fynd â strategaeth allforio’r Deyrnas Unedig Made in the UK, Sold to the World a Chynllun Gweithredu ar Allforio Llywodraeth Cymru.

2.2.4 Dylai cynigion gynnwys sut mae ymgeiswyr yn bwriadu defnyddio arfer gorau i helpu i gyflawni seilwaith a dulliau adeiladu gwyrddach a mwy cynaliadwy.

2.2.5 Mae rhagor o fanylion am uchelgeisiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar gael yn: y Papur Gwyn Ffyniant Bro a’r Strategaeth Ryngwladol i Gymru.

2.2.6 Dylai cynigion ganolbwyntio ar:

a. ddangos sut bydd y Porthladd Rhydd yn dod â buddsoddiad newydd i’r ardaloedd amgylchynol a chynyddu masnach trwy’r porthladd(oedd) (môr, awyr neu reilffyrdd) dan sylw, gan gynnwys dangos dealltwriaeth o ddatganiadau Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor a mewnfuddsoddi. Bydd y polisïau llywodraethol safonol ar Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor yn berthnasol o hyd (fel Deddf Diogelwch Gwladol a Buddsoddi 2021)

b. amlinellu sut maen nhw’n disgwyl y bydd eu Porthladd Rhydd yn helpu i ryngwladoli’r economi, gan ddangos sut byddant yn gweithio gyda busnesau lleol a rhyngwladol i wella effaith cynnydd mewn buddsoddiad mewn ffordd sy’n cefnogi twf cynhwysol, cynaliadwy, gan wneud prosesau masnach yn haws ac yn fwy effeithlon, ac yn sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu creu i bawb, gan ddosbarthu difidendau ffyniant uwch yn deg

c. nodi pa sectorau a fyddai’n elwa o gael Porthladd Rhydd (e.e. i gynorthwyo ag unrhyw wiriadau mewnforio/allforio angenrheidiol neu gefnogi eu hanghenion cadwyn gyflenwi)

ch. disgrifio eu proses cynefino a rheoli ar gyfer buddsoddwyr a chwmnïau, gan ddarparu mapiau proses manwl sy’n amlygu pob un o’r camau ymgysylltu drwy gydol taith y cwmni neu’r buddsoddwr

d. enghreifftiau o gyfleoedd buddsoddi penodol sy’n dangos sut mae’r rhain yn cefnogi amcanion ehangach llywodraeth Cymru a llywodraeth y Deyrnas Unedig

2.3 Meithrin amgylchedd arloesol

2.3.1 Bydd Porthladd Rhydd yn rhoi ffocws ar gyfer buddsoddiad sector preifat a chyhoeddus mewn ymchwil a datblygu; bydd yn amgylchedd dynamig sy’n dwyn arloeswyr ynghyd i gydweithio mewn ffyrdd newydd, ar yr un pryd â chynnig lleoedd dan reolaeth i ddatblygu a threialu syniadau a thechnolegau newydd. Disgwyliwn i dirfeddianwyr flaenoriaethu buddsoddiadau mwy arloesol ac i weithrediaeth y Porthladd Rhydd roi busnesau mewn cysylltiad â’r Rhwydwaith Ymgysylltu Rheoleiddio Porthladdoedd Rhydd (FREN). Dylai’r holl bartneriaid Porthladd Rhydd geisio cyfleoedd i gael at gyllid arloesi ehangach.

2.3.2 Dylai cynigion ymgeiswyr fynd i’r afael ag amcanion yr ymagwedd drawslywodraethol, sy’n seiliedig ar ganlyniadau at arloesi, fel yr amlinellir yn Strategaeth Arloesi Ddrafft Llywodraeth Cymru: Strategaeth Arloesi i Gymru LLYW.CYMRU. Dylai ymgeiswyr hefyd ystyried Map Trywydd Ymchwil a Datblygu a Strategaeth Arloesi Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Amlinellodd yr Adolygiad Integredig hefyd ymagwedd newydd at gynyddu grym gwyddoniaeth a thechnoleg y Deyrnas Unedig i geisio cael mantais strategol.

Arloesedd yn y Rhaglen porthladd Rhydd

2.3.3 Gall gweithgarwch arloesol mewn lleoliad Porthladd Rhydd gael ei nodweddu’n dro maes ffocws penodol. Gallai ymgeiswyr ganolbwyntio ar unrhyw un neu bob un o’r rhain wrth amlinellu eu huchelgeisiau arloesedd.

a. arloesedd penodol i borthladd – arloesedd sydd o fudd uniongyrchol i borthladdoedd aer, rheilffyrdd neu forol e.e. craeniau ac offer trin cargo awtonomaidd, diogelwch digidol, meddalwedd tollau sy’n gallu olrhain nwyddau ar draws ardal ehangach, defnydd creadigol o bobl a sgiliau i ddatblygu datrysiadau arloesol sy’n sbarduno effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd

b. arloesedd cysylltiedig â phorthladd – arloesedd sydd o fudd anuniongyrchol i borthladdoedd aer, rheilffyrdd neu forol neu eu cadwyn gyflenwi e.e. trafnidiaeth awtonomaidd, newid dulliau teithio o drafnidiaeth ffyrdd, datgarboneiddio trafnidiaeth, datgarboneiddio diwydiannol ac ati

c. arloesedd nad yw’n gysylltiedig â phorthladd – arloesedd nad yw’n gysylltiedig â phorthladdoedd aer, rheilffyrdd neu forol sy’n gallu manteisio ar leoliadau yn agos i borthladdoedd neu’r cynnig Porthladdoedd Rhydd ehangach e.e. technoleg ynni adnewyddadwy, cynhyrchion fferyllol, technolegau cwantwm, deunyddiau uwch, roboteg, deallusrwydd artiffisial

Gweithgarwch arloesedd

2.3.4 Wrth greu amgylchedd arloesol llwyddiannus, dylai cynigion amlygu sut gall statws Porthladd Rhydd ddod ag ychwanegedd i’r rhai sydd eisoes yn cydweithio yn y rhanbarth ac ystyried y canlynol:

a. gallu a buddsoddiad: adeiladu ac atgyfnerthu’r gallu ar gyfer ymchwil a datblygu yn rhanbarth y Porthladd Rhydd, trwy gyllido a chefnogi buddsoddiad preifat a chyhoeddus mewn ymchwil, arloesedd a sgiliau

b. cydweithio a masnacheiddio: hwyluso ymchwil drosi, datblygu sgiliau a rhannu data yn rhanbarth y Porthladd Rhydd, trwy gysylltu cwmnïau cychwynnol, busnesau a phorthladdoedd â sefydliadau academaidd, strwythurau arloesedd a rheoleiddwyr a thrwy wneud y defnydd gorau o’r Rhwydwaith Ymgysylltu Rheoleiddio Porthladdoedd Rhydd (FREN)

c. datrysiadau newydd: sbarduno’r broses o ddatblygu, profi a chymhwyso syniadau, technolegau a rhaglenni cymdeithasol newydd, gan gynnwys datblygu datrysiadau arloesol i broblemau sy’n wynebu’r Rhaglen Porthladd Rhydd.

2.3.5 Mae gennym ddiddordeb arbennig hefyd mewn gwybod sut gall uchelgeisiau arloesedd ddiogelu’r amgylchedd a chefnogi’r agendâu datgarboneiddio a sero net, fel yr amlinellir yn Adran 4.2.

2.4 Model Rhesymeg

Logic model Welsh

Ffigur 1: Y Model Rhesymeg – map o’r mewnbynnau a’r gweithgareddau a gyflawnir gyda’u hallbynnau unigol, a ddilynir gan effeithiau tymor hir disgwyliedig y polisi.

6 blynedd +

Mae economïau’r holl is-ranbarthau y mae Porthladdoedd Rhydd wedi’u lleoli ynddynt yn tyfu’n gynaliadwy, yn dod yn fwy cynhyrchiol ac yn arwain at Ffyniant Bro

4 blynedd +

Mwy o fasnach a gweithgarwch economaidd yn ardal y Porthladd Rhydd, y rhanbarth amgylchynol, ac yn genedlaethol

Llai o allyriadau carbon yn ardal y Porthladd Rhydd ac mewn gweithgareddau porthladd

Mwy o gystadleurwydd, cynaliadwyedd a chynhyrchedd cwmni ymhlith busnesau mewn sectorau targed (gan gynnwys sectorau twf gwyrdd) mewn Porthladdoedd Rhydd

Creu swyddi o ansawdd uchel i bobl mewn ardaloedd difreintiedig, a llai o ddiweithdra / cyflogau uwch mewn Porthladdoedd Rhydd

3 blynedd +

Sicrhau buddsoddiad (tramor a/neu genedlaethol) ychwanegol mewn clystyrau diwydiannol Porthladdoedd Rhydd

Clystyrau diwydiannol ac arloesol o fusnesau newydd sydd wedi’u sefydlu ac yn tyfu mewn Porthladdoedd Rhydd sy’n:

  • Gwneud gwaith ymchwil a datblygu i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol

  • Creu rhwydweithiau i gydweithio a rhannu gwybodaeth

  • Cyfrannu at yr agenda ddatgarboneiddio

Cynyddu nifer y dinasyddion o ardaloedd difreintiedig Porthladdoedd Rhydd sydd wedi’u hyfforddi er mwyn lleihau rhwystrau rhag cael swyddi o ansawdd da (yn y clwstwr diwydiannol)

Cynyddu nifer y cyfleoedd uwchsgilio ac ailsgilio lleol a chyfleoedd ar gyfer swyddi mewn sectorau gwyrdd

1 flynedd +

Buddion treth a thollau yn cael eu derbyn

Mwy o le masnachol hyfyw mewn ardaloedd Porthladd Rhydd ar gyfer buddsoddi preifat

Mwy o ymwybyddiaeth o fuddion Porthladd Rhydd ymhlith buddsoddwyr a dargedwyd

Buddsoddwyr sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y clwstwr a’r agenda ddatgarboneiddio (gan gynnwys sectorau twf gwyrdd) wedi’u hamlygu a’u sgrinio

Gwell porthladd, seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau diogelwch

Sylfeini ar gyfer partneriaethau lleol galluog a chanolfannau arloesedd wedi’u sefydlu, gyda threfniadau llywodraethu effeithiol

Rhaglenni ymchwil a datblygu sgiliau wedi’u rhoi ar waith

Mewnbynnau/ gweithgareddau wedi’u cyflawni

Cyllid ac Ymyrraeth Craidd gan y Llywodraeth

Caniatáu dynodiadau safle treth a thollau

Hyblygrwydd a chymorth cynllunio

Prosiectau a ariennir yn gyhoeddus trwy gyfalaf sbarduno ac ardrethi busnes a gedwir yn ôl

Hyblygrwydd rheoleiddiol ac ymgysylltu rhwng busnesau arloesol a rheoleiddwyr

Cymorth capasiti, cyngor arbenigol, cyngor gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Cyllid ac Ymyrraeth Lleol

Cyllid lleol wedi’i ysgogi, cefnogi marchnata a hyrwyddo

Cyllid arall gan y llywodraeth genedlaethol

Mynediad at gyllid cenedlaethol ychwanegol (e.e., Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), Ynni Gwyrdd, Port Infra, Getting Building)

2.5 Canlyniadau disgwyliedig

2.5.1 Mae pob amcan wedi’i seilio ar set o ganlyniadau allweddol sy’n disgrifio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau ei gyflawni. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos sut byddant yn cyflawni’r canlyniadau allweddol hyn yn eu cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â’r amcanion allweddol. Bydd cynnydd ar y canlyniadau hyn yn cael ei fesur ac yn ffurfio’r sail i werthuso llwyddiant y rhaglen gyffredinol yn ddiweddarach.

2.5.2 Bydd perfformiad y Rhaglen Porthladd Rhydd yn cael ei asesu yn erbyn pob un o’r canlyniadau hyn yn rhan o’r broses monitro a gwerthuso. Ar y cam cynigion hwn, bydd cynlluniau gweithredu a gyflwynir gan ymgeiswyr yn ein helpu i asesu’r cynigion o’r ansawdd uchaf.

Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel

a. cynyddu nifer y swyddi a chyflogau cyfartalog y sector preifat yn y Porthladd Rhydd, yr ardal(oedd) awdurdod lleol cynhaliol, yr economi ranbarthol ehangach, ac yn benodol ardaloedd difreintiedig yn yr ardal(oedd) awdurdod lleol cynhaliol.

b. cynyddu gweithgarwch economaidd trwy ffurfio cwmnïau newydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig ac ehangu cwmnïau presennol yn y safleoedd treth Porthladd Rhydd, yr ardal ddynodedig ehangach a’r economi ranbarthol.

Sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang

a. cynnydd net mewn mewnfuddsoddi yn ardal ffin y Porthladd Rhydd, y rhanbarth amgylchynol ac yn genedlaethol.

b. cynnydd mewn trafodion prosesu masnach trwy’r porthladd(oedd) dynodedig.

c. cenu mewnfuddsoddiad, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru.

Meithrin amgylchedd arloesol

a. mwy o gyllid sector cyhoeddus a phreifat mewn ymchwil a datblygu ac arloesedd yn ardal y Porthladd Rhydd, gan alluogi mwy o gynhyrchedd yn y rhanbarth ehangach. Mae graddfa clystyrau sector yn cynyddu trwy arloesedd a chydweithio ag asiantaethau menter, prifysgolion a cholegau yng Nghymru.

Adran 3: Ysgogiadau economaidd a dyluniad ymyriadau

3.0.1 Mae’r adran hon yn manylu ar ddyluniad penodol Porthladd Rhydd, gan gynnwys daearyddiaeth ac ysgogiadau economaidd a gynigir i ymgeiswyr fel y byddent yn berthnasol yng Nghymru. Mae’r model Porthladd Rhydd wedi’i seilio ar y model y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i ddefnyddio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr a hwnnw a ddefnyddir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth yr Alban ar gyfer Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban.

3.1 Daearyddiaeth porthladd rhydd

3.1.1 Mae’r model Porthladd Rhydd yn hyblyg yn ddaearyddol, a dylai ymgeiswyr ei gymhwyso yn y ffordd orau i’w daearyddiaeth a’u lle penodol nhw.

3.1.2 Mae’r model yn caniatáu ar gyfer dynodi nifer o safleoedd o fewn y Porthladd Rhydd cyffredinol, gan alluogi ymgeiswyr i adlewyrchu’r ddaearyddiaeth economaidd bresennol yn y ffordd orau, a chynyddu cydweithio i’r eithaf rhwng porthladdoedd, busnesau, rhanddeiliaid ehangach ac asedau economaidd perthnasol trwy ganiatáu iddynt elwa o’r Porthladd Rhydd a chyfrannu ato. Fodd bynnag, mae’n rhaid i derfynau fod yn berthnasol yn y pen draw i gynhyrchu buddion cydgrynhoi a rheoli costau. Amlinellir y terfynau hyn, a’r hyblygrwydd sy’n gysylltiedig â nhw mewn achosion eithriadol, isod.

Trosolwg o’r model Porthladd Rhydd

Ffigur 2: Y model Porthladd Rhydd – Porthladd Rhydd gyda’r Ffin Allanol, safleoedd tollau, safleoedd treth a safleoedd presennol wedi’u labelu. Nid yw ffiniau safleoedd tollau a threth wrth raddfa.

Ffigur 2: Y model Porthladd Rhydd – Porthladd Rhydd gyda’r Ffin Allanol, safleoedd tollau, safleoedd treth a safleoedd presennol wedi’u labelu. Nid yw ffiniau safleoedd tollau a threth wrth raddfa.

3.1.3 Mae’r uchod yn dangos Porthladd Rhydd damcaniaethol sy’n canolbwyntio ar borthladd môr. Dangosir Ffin Allanol sy’n cynnwys:

a. prif safle tollau o amgylch y porthladd môr – safle a) nad yw o fewn y safle treth, yn yr achos hwn, felly mae busnesau y tu mewn iddo’n elwa o’r mesurau tollau, ond nid y mesurau treth

b. tir ychwanegol “heb ei ddatblygu digon” o’r prif safle tollau – safleoedd b) ac c) lle y bydd busnesau yn y ddau safle’n elwa o’r mesurau treth

c. safle tollau ychwanegol – safle c) sydd hefyd yn rhan o safle treth, felly bydd busnesau y tu mewn iddo’n elwa o’r mesurau tollau a’r mesurau treth

ch. safle ffatri gyfagos – safle ch) sy’n safle tollau ychwanegol ond nid yw wedi’i gynnwys gan y safle treth, felly mae busnesau y tu mewn i safle ch) yn elwa o fesurau tollau ond nid ydynt yn elwa o fesurau treth – yn yr un modd â safle a)

d. ffatri bell – safle d) sydd y tu allan i’r Ffin Allanol, felly ni all fod yn safle tollau nac yn rhan o safle treth heb achos economaidd arbennig dros ei chynnwys

Ffin Allanol

3.1.4 Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddiffinio Ffin Allanol yn eu cais sy’n adlewyrchu daearyddiaeth economaidd gydlynol. Mae’r model Porthladd Rhydd wedi’i ddylunio i gefnogi lleoedd, ac mae’r Ffin Allanol yn sicrhau bod safleoedd treth a thollau’n canolbwyntio ar gefnogi’r lle hwnnw sydd wedi’i ddiffinio’n glir. Bydd angen i ymgeiswyr roi sail resymegol economaidd glir i esbonio pam mae’r Ffin Allanol wedi’i diffinio fel y mae. Bydd ceisiadau y bernir eu bod wedi’u dylunio dim ond i wneud y defnydd gorau o’r ardal o fewn y Ffin Allanol heb sail resymegol economaidd glir yn methu’r broses ymgeisio ar y cam llwyddo/methu.

3.1.5 Ni ddylai Ffiniau Allanol Porthladd Rhydd fod yn fwy na chylch 45km, ac ni ddylai unrhyw safleoedd Porthladd Rhydd fod mwy na 45km oddi wrth ei gilydd, fel y dangosir gan y Porthladd Rhydd aml-borthladd damcaniaethol yn Ffigur 2. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno map gyda’r Ffin Allanol wedi’i marcio arno i ddangos daearyddiaeth y Porthladd Rhydd.

3.1.6 Disgwyliwn y bydd yr holl safleoedd tollau a safleoedd treth sy’n gysylltiedig â’r Porthladd Rhydd wedi’u cynnwys o fewn y Ffin Allanol. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cynigion sy’n cynnig safleoedd tollau a safleoedd treth y tu allan i’r Ffin Allanol, lle y gellir cefnogi hyn gan sail resymegol economaidd glir. Dylai hyn gynnwys perthynas arwyddocaol rhwng y gweithgarwch yn y safleoedd tollau neu dreth arfaethedig y tu allan i’r Ffin Allanol, a’r ardal o fewn y Ffin Allanol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu cyflwyniad ysgrifenedig gyda rhesymeg glir a phenodol sy’n cyfiawnhau cynigion ychwanegol o’r fath.

Ffigur 3: Y model Porthladd Rhydd – Porthladd Rhydd gyda nifer o borthladdoedd o fewn y Ffin Allanol 45km. Nid yw ffiniau safleoedd tollau a threth wrth raddfa.

Ffigur 3: Y model Porthladd Rhydd – Porthladd Rhydd gyda nifer o borthladdoedd o fewn y Ffin Allanol 45km. Nid yw ffiniau safleoedd tollau a threth wrth raddfa.

Y Porthladd

3.1.7 Mae’n rhaid i ymgeiswyr gynnwys o leiaf un porthladd o unrhyw fath (môr, awyr, rheilffordd) o fewn Ffin Allanol eu Porthladd Rhydd. Nid oes rhaid i’r porthladd fod yn safle treth neu’n safle tollau. Bydd ceisiadau nad ydynt yn cynnwys porthladd o fewn eu Ffin Allanol yn methu’r broses ymgeisio ar y cam llwyddo/methu. Y Safle(oedd) Tollau

3.1.8 Mae’n rhaid i ymgeiswyr gynnwys o leiaf un safle tollau o fewn Ffin Allanol eu Porthladd Rhydd, y bydd y buddion tollau a amlinellir yn Adran 3.3 yn berthnasol iddo. Bydd ceisiadau nad ydynt yn cynnwys o leiaf un safle tollau hyfyw yn methu’r broses ymgeisio ar y cam llwyddo/methu. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu sail resymegol glir dros y safle(oedd) tollau, gan gynnwys defnyddiau disgwyliedig; yr allbynnau/buddion y disgwylir eu cynhyrchu; a sut maen nhw’n berthnasol i’w gilydd a’r Porthladd Rhydd ehangach.

3.1.9 Caiff ymgeiswyr wneud cais am gynifer o safleoedd tollau ag y gallant eu cyflawni o fewn y Ffin Allanol, ar yr amod eu bod yn berthnasol i ardal y Porthladd Rhydd. I wneud cais am nifer o safleoedd tollau, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cyfiawnhad ysgrifenedig i esbonio pam mae angen safleoedd ychwanegol a chyfiawnhad clir o berthynas pob safle â’r Porthladd Rhydd ehangach. Mae’n bosibl y gellid darparu safleoedd tollau y tu allan i’r ffin allanol ar yr amod bod cyfiawnhad clir a rhesymegol yn cael ei roi.

3.1.10 Os cyflwynir cais aml-safle, caiff ei gymeradwyo ar yr amod bod o leiaf un safle tollau’n hyfyw, gydag unrhyw safleoedd tollau ychwanegol yn cael eu hystyried yn anhyfyw, neu’n cael eu dileu neu eu diwygio.

3.1.11 Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon awdurdodi safleoedd tollau mewn lleoliadau mewndirol ar yr amod y gellir dangos perthynas economaidd yn glir rhwng y safle a’r porthladd. Bydd Llywodraeth y DU yn ystyried safleoedd tollau o unrhyw faint, ar yr amod y gellir cyflwyno achos economaidd clir dros y safle, ac y gellir bodloni gofynion diogelwch llym sy’n galluogi Cyllid a Thollau EM (CThEF) a Llu’r Ffiniau i fonitro’r safleoedd yn effeithiol.

3.1.12 Byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr dalu am gost sefydlu a diogelu’r holl safleoedd tollau (prif safleoedd a safleoedd ychwanegol) yn unol â’r gofynion hyn. Ni fydd safleoedd tollau sy’n rhy fawr neu wedi’u diogelu’n annigonol yn cael eu hawdurdodi.

3.1.13 Mae’n rhaid i weithredwr y safle (sy’n monitro nwyddau sy’n symud i mewn ac allan ohono) gael ei awdurdodi gan CThEF. Mae’n rhaid i fusnesau sy’n gweithredu yn safle’r gweithredwr gael eu hawdurdodi gan CThEF hefyd. Mae’r broses ar gyfer dod yn weithredwr safle cymeradwy a gweithredwr busnes Porthladd Rhydd ar gael ar gov.uk. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod gweithredwr pob safle tollau yn fodlon cyflawni’r awdurdodiad tollau perthnasol ac yn gallu gwneud hynny.

3.1.14 Gallai’r gweithredwr gynnal nifer o fusnesau awdurdodedig, gan greu canolfan ar gyfer masnach – neu gallai’r gweithredwr gynnal un cwmni, gan weithredu fel y gweithredwr a’r busnes.

3.1.15 I gael rhagor o fanylion am rwymedigaethau a buddion y cynnig tollau, gweler Adran 3.4 Tollau. Y Safle Treth

3.1.16 Dylai cynigwyr anelu at un safle treth er mwyn elwa o’r cynnig treth. Pan fydd achos economaidd dros wneud hynny, caiff ymgeiswyr ddiffinio hyd at dair ardal unigol fel lleoliad y safleoedd treth. Gallai busnesau newydd a phresennol sy’n ehangu neu’n buddsoddi ymhellach o fewn y safleoedd treth hyn elwa o’r rhyddhadau treth a amlinellir yn Adran 3.2.

3.1.17 Gall safle treth gynnwys y cyfan neu ran o’r prif safle tollau a/neu unrhyw safle tollau ychwanegol, ond nid oes rhaid iddo gynnwys y naill na’r llall. Bydd rhyddhadau treth yn berthnasol i safleoedd tollau sydd wedi’u lleoli o fewn safle treth Porthladd Rhydd yn unig.

3.1.18 Yn yr un modd â safleoedd tollau, dylai safleoedd treth fod wedi’u lleoli o fewn y Ffin Allanol 45km. Fodd bynnag, os yw ymgeiswyr yn ystyried nifer o safleoedd treth a bod ganddynt sail resymegol economaidd a daearyddol gref dros gynnwys safle treth y tu allan i’r Ffin Allanol oherwydd bod ganddo berthynas arwyddocaol â’r ardal o fewn y Ffin, cânt wneud cais ar gyfer hynny. Bydd ceisiadau nad ydynt yn rhoi rhesymeg y gellir ei chyfiawnhau dros unrhyw safleoedd treth arfaethedig y tu allan i’r Ffin Allanol dan anfantais yn y broses ymgeisio.

3.1.19 Mae’r canlynol yn berthnasol i’r safleoedd treth:

a. dylent fod heb eu datblygu digon, gan gyfeirio at adran 3.1.26

b. dylai eu ffiniau gael eu pennu’n glir ar fap – ni ddylent gael eu gweithio i greu safle unigol gan ddefnyddio llinellau hir a chul (gellir cael nifer o safleoedd os oes achos economaidd dros hynny, gweler pwynt c)

c. dylent gynnwys safle unigol o fewn y Porthladd Rhydd nad yw’n fwy na 600 o hectarau, neu hyd at dri safle unigol sy’n anelu at fod rhwng 20 a 200 o hectarau. Byddwn yn ystyried cyflwyniadau sy’n gwneud achos economaidd dros safle unigol sydd y tu allan i’r canllaw 20-200 o hectarau, ond rhaid i gyfanswm arwynebedd y safleoedd unigol o fewn y Porthladd Rhydd beidio â bod yn fwy na 600 o hectarau. Bydd y rhai hynny sy’n fwy na 600 o hectarau yn methu’r broses ymgeisio Porthladd Rhydd yn awtomatig ar y cam llwyddo/methu

ch. gallant fod â ffiniau anghyson, os yw hynny’n helpu i gynnwys ardaloedd addawol a hepgor ardaloedd sy’n fwy datblygedig, ar yr amod y gellir cyfiawnhau bod y safleoedd hynny’n sengl ac unigol

d. nid oes rhaid iddynt fod yn ddarn unigol o dir – er enghraifft, gallai safle unigol fod yn ddau ddarn o dir wedi’u rhannu gan ffordd. Os nad oes darn o dir sy’n cysylltu’r safleoedd – er enghraifft, os ydynt wedi’u gwahanu gan afon, neu eiddo preswyl – byddem yn ystyried y rhain yn ddau safle ar wahân oni bai y gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd clir iawn. Rydym yn agored i un safle sy’n cynnwys nifer o leiniau o dir wedi’u rhannu gan ffordd, ardal a warchodir neu nodwedd ddaearyddol (fel afon) ar yr amod y gellir ystyried yn rhesymol bod y lleiniau o fewn y tir yn un safle oherwydd gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (e.e. mae’n debygol y gellid teithio rhyngddynt)

dd. nid oes rhaid iddynt i gyd fod yn nwylo un perchennog – gallant gynnwys nifer o leiniau o dir a berchnogir ar wahân sydd oll yn dod o fewn y safle unigol y pennwyd ei ffiniau. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth bod tirfeddianwyr wedi cytuno â’r weledigaeth ar gyfer y safle treth arfaethedig ac y byddant yn cymryd camau priodol i sicrhau bod datblygiad ar y safle’n cyd-fynd ag amcanion y Porthladd Rhydd a rhai’r polisi Porthladdoedd Rhydd ehangach

e. nid oes angen gosod ffens o’u hamgylch – ond dylent gael ffiniau y gellir eu hadnabod yn glir (at ddibenion gorfodi) sydd wedi’u nodi’n glir ar fap a ddarperir yn rhan o’r cais

f. yn ddelfrydol, dylent gael eu lleoli mewn ardaloedd sydd â:

i. Chynnyrch Domestig Gros y pen sydd islaw cyfartaledd cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd neu yn ystod y pum mlynedd diwethaf

ii. cyfraddau diweithdra sy’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd neu yn ystod y pum mlynedd diwethaf

3.1.20 Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth a chyfiawnhad ynglŷn â pham mae angen i ardal nad yw’n bodloni’r meini prawf yn 3.1.19.h gael ei hadfywio ac y byddai’n elwa o fod yn safle treth.

3.1.21 Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn cael cadarnhad ffurfiol o’r ffin ar gyfer eu safle(oedd) treth arfaethedig, lle y bydd rhyddhadau treth ar gael ar ddiwedd proses cymeradwyo safle treth ar wahân. Bydd yr asesiad terfynol o’r safle yn ystyried gallu CThEF a, lle y bo’n briodol, Awdurdod Cyllid Cymru, i fonitro’r gweithgarwch sy’n digwydd o fewn y safle hwn yn effeithiol. Nid yw cael statws Porthladd Rhydd yn y rownd gynnig gychwynnol yn gyfystyr â chymeradwyaeth ffurfiol o’r safleoedd treth arfaethedig. Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwyliwn y bydd y safleoedd hyn a gadarnheir o’r un maint â’r ceisiadau gwreiddiol, ond mae’n bosibl y bydd angen rhai addasiadau i gydymffurfio â’r meini prawf yn y ddogfen hon.

3.1.22 Er mwyn lleihau risg efadu treth neu weithgarwch troseddol arall yn y safle treth i’r eithaf, bydd yn ofynnol i gorff llywodraethu’r Porthladd Rhydd gynnal cofnod o’r holl fusnesau sy’n gweithredu neu’n gwneud cais i weithredu o fewn y safle treth. Bydd angen i’r cofnod hwn fod ar gael yn rhwydd i CThEF, Awdurdod Cyllid Cymru, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a gweithwyr Llu’r Ffiniau.

Cyfiawnhau lleoliadau safle treth

3.1.23 Dylai ymgeiswyr gyflwyno dadansoddiad sy’n esbonio:

a. sut mae eu safleoedd arfaethedig “heb eu datblygu digon” (gweler y meini prawf isod yn 3.1.25)

b. os nad yw unrhyw safleoedd arfaethedig yn ardal gymwys fel yr amlinellir uchod, pam mae angen i’r safle(oedd) arfaethedig gael eu hadfywio

c. sut bydd y mesurau treth yn cynhyrchu gweithgarwch economaidd ychwanegol yn y safle(oedd) ac yn creu gweithgarwch economaidd gwirioneddol newydd

ch. pam mae’r safle(oedd) arfaethedig yn ddewis gorau ar gyfer yr ardal leol, gan gynrychioli gwerth da am arian

3.1.24 Bydd y broses asesu’n sicrhau y bodlonir y meini prawf a amlinellir yn 3.1.20.b ac c. Dylai ymgeiswyr nodi gweddill y meini prawf yn 3.1.20 oherwydd bydd y rhain yn darparu tystiolaeth ategol i asesu’r safle(oedd) treth a ddewiswyd ganddynt. Dylai ymgeiswyr hefyd nodi y bydd lefel y gwariant gwastraff a fydd yn digwydd yn y safleoedd hyn yn cael ei hystyried, i gefnogi ein hamcan o gynhyrchu gweithgarwch economaidd ychwanegol.

3.1.25 Dylai safleoedd treth fod “heb eu datblygu digon” fel bod y mesurau treth yn cefnogi ardaloedd â photensial economaidd, yn hytrach na safleoedd sydd eisoes yn llwyddiannus yn economaidd. O dan y diffiniad economaidd eang hwn, mae tir gwag, tir llwyd, tir heb ei ddefnyddio digon gyda rhywfaint o adeiladu a safleoedd gwag arno yn rhai enghreifftiau o’r hyn y gellid ei ystyried yn safleoedd “heb eu datblygu”, ar yr amod bod achos da yn cael ei gyflwyno. Wrth gyfiawnhau sut mae eu safleoedd “heb eu datblygu digon”, dylai ymgeiswyr ystyried tri phrif faen prawf sy’n sail i’n diffiniad:

a. heb eu defnyddio digon: dylai safleoedd treth fod â digon o le ffisegol hyfyw, ond heb ei feddiannu, nad yw wedi cael ei ddatblygu neu ei ddefnyddio eto; i ganiatáu i fusnesau newydd neu sy’n ehangu adeiladu, adnewyddu, prynu neu brydlesu safle newydd yn y Porthladd Rhydd

b. twf posibl trwy fuddsoddiad: dylai ymgeiswyr esbonio sut y bydd statws Porthladd Rhydd yn arwain at fuddsoddiad ychwanegol gan fusnesau newydd a/neu bresennol yn y safle(oedd) treth yn sylweddol uwch na lefelau presennol

c. creu swyddi ansawdd uchel: dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth nad yw eu safle treth arfaethedig yn cynnwys cyflogaeth sylweddol sydd eisoes yn bresennol yn y rhanbarth lleol. Yna, dylai ymgeiswyr esbonio sut y bydd statws Porthladd Rhydd yn arwain at gyflogaeth ychwanegol o ansawdd uchel yn y safle(oedd) treth Porthladd Rhydd gan fusnesau newydd a/neu bresennol yn uwch na lefelau presennol

3.1.26 Gall adeiladau presennol y cynlluniwyd iddynt ddarfod o fewn y llinell amser ar gyfer safleoedd treth Porthladd Rhydd fod yn rhan o safle treth y Porthladd Rhydd. Fodd bynnag, dim ond buddsoddiadau neu gyflogaeth newydd, fel buddsoddiad newydd sy’n ariannu gwaith i adnewyddu adeilad presennol sy’n gymwys ar gyfer y Lwfans Strwythurau ac Adeiladau (SBA), fydd yn gymwys i elwa o’r cynnig treth.

3.1.27 Yn ogystal, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr hefyd esbonio sut mae’r lleoliad(au) a ddewiswyd ganddynt ar gyfer safle treth yn lleihau dadleoli gweithgarwch economaidd oddi wrth ardaloedd lleol ehangach i’r eithaf, yn enwedig ardaloedd eraill sydd dan anfantais yn economaidd.

3.1.28 Os bydd rhan sylweddol o safle treth arfaethedig yn cynnwys cyfleusterau sector cyhoeddus presennol neu arfaethedig, bydd y Llywodraeth yn agored i drafod sut gallai’r cyfleusterau sector cyhoeddus hyn gael eu cynnwys yn y safle arfaethedig heb gyfyngu ar hyfywedd masnachol y safle.

Dosbarthiad Porthladdoedd Rhydd

3.1.29 Porthladdoedd o bob math: dyluniwyd y model hwn i fod yn berthnasol yn effeithiol i ardaloedd â phorthladdoedd môr, awyr a rheilffyrdd. Mae croeso i bob math o borthladd wneud cais neu ffurfio rhan o gynghrair o ymgeiswyr.

3.1.30 Porthladdoedd Niferus: croesawn geisiadau sy’n cynnwys nifer o borthladdoedd, gan gynnwys nifer o borthladdoedd o wahanol fathau.

3.1.31 Os oes dau borthladd neu fwy wedi’u lleoli o fewn pellter y Ffin Allanol sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o Borthladd Rhydd, ac mae eu gweithgarwch economaidd yn effeithio ar ei gilydd a’r rhanbarth, mae’n bosibl y gallant wneud achos cryf dros gydweithio i gefnogi’r ddaearyddiaeth economaidd ehangach. Fodd bynnag, mae porthladdoedd agos o raddfa wahanol neu sydd â phwyslais economaidd gwahanol yn rhydd i fod yn rhan o geisiadau ar wahân hefyd, os oes ganddynt achos unigol cryf dros glwstwr Porthladd Rhydd economaidd gwahanol.

3.1.32 Pe byddai ymgeiswyr yn dymuno cynnwys porthladd y tu allan i’r Ffin Allanol (oherwydd bod sail resymegol economaidd gref dros hynny), cânt gyflwyno achos o’r fath i’w ystyried.

3.2 Treth

3.2.1 Bydd cynigwyr llwyddiannus yn gallu cael at ystod o ryddhadau treth sy’n debyg i’r cynnig Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr pan fydd Achos Busnes Amlinellol wedi cael ei gytuno gyda’r ddwy lywodraeth. Bydd yr union amser pryd y gall busnesau wneud cais ac yna elwa o ryddhadau treth yn cyd-fynd yn agos â Phorthladdoedd Rhydd Lloegr a Phorthladdoedd Rhydd Gwyrdd yr Alban. Mae’r terfynau amser rhyddhad treth ar gyfer y Porthladd Rhydd yng Nghymru wedi cael eu hamlinellu isod.

Rhyddhad Treth Trafodiadau Tir

3.2.2 Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig rhyddhad Treth Trafodiadau Tir penodol ar drafodiadau tir perthnasol o fewn safleoedd treth cymwys yng Nghymru lle mae’r eiddo hwnnw i’w ddefnyddio ar gyfer gweithgarwch economaidd cymwys.

3.2.3 Mae’n ofynnol i ddeddfwriaeth sy’n darparu ar gyfer hyn gael ei chyflwyno gerbron y Senedd a’i chymeradwyo wedi hynny cyn y bydd unrhyw ryddhad ar gael. Fel y cyfryw, mae amseriad hyn yn amodol ar gadarnhad.

3.2.4 Bydd rhagor o fanylion am gynigion Llywodraeth Cymru yn cael eu rhoi maes o law, ond, at ddibenion cynllunio, bwriedir i ryddhad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ei threth gyfatebol fod ar gael am hyd at bum mlynedd.

3.2.5 Pan fydd rhyddhad ar gael, bydd darpariaethau adfachu’n berthnasol os na fydd tir neu eiddo’n cael ei ddefnyddio at ddiben cymhwyso o fewn cyfnod rheoli a bennir yn y ddeddfwriaeth.

3.2.6 Dylai ymgeiswyr nodi gan fod polisi Treth Trafodiadau Tir wedi’i ddatganoli, y gallai manylion y rhyddhad fod yn wahanol i ryddhad Treth Dir y Dreth Stamp, yn seiliedig ar fanylion penodol dull Cymru. Lwfans Strwythurau ac Adeiladau (SBA) gwell

3.2.7 Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cynnig cyfradd SBA well i gwmnïau sy’n adeiladu neu’n adnewyddu strwythurau ac adeiladau at ddefnydd amhreswyl o fewn safleoedd treth Porthladd Rhydd yng Nghymru. Bydd y rhyddhad carlam hwn yn caniatáu i gwmnïau leihau eu henillion trethadwy 10% o’r gost fuddsoddi bob blwyddyn am ddeng mlynedd, o gymharu â’r gyfradd safonol o 3% y flwyddyn dros 33 1/3 blynedd sydd ar gael yn genedlaethol. Gellir hawlio’r rhyddhad hwn pan geir gwariant cymwys, pan fydd yr holl gontractau adeiladu cysylltiedig yn cael eu llunio a phan fydd yr ased dan sylw yn cael ei gyflwyno at ddefnydd cymwys rhwng y dyddiad y dynodir y safe treth a dyddiad dod i ben y rhyddhad treth.

3.2.8 Gall cwmnïau sy’n mynd i wariant cymwys hawlio lwfansau cyfalaf yn rhan o’u ffurflen treth incwm neu gorfforaeth. Fel sy’n safonol o dan yr SBA presennol, bydd yn ofynnol i hawlwyr gadw datganiad lwfans i ddangos eu bod yn gymwys i hawlio drwy gydol y cyfnod 10 mlynedd pryd y gellir hawlio rhyddhad. Bydd y rhyddhad hwn yng Nghymru ar gael pan geir gwariant cymwys ac mae’r adeilad neu’r strwythur yn cael ei gyflwyno i’w ddefnyddio erbyn 29 Chwefror 2028.

3.2.9 Bydd darpariaethau safonol yr SBA ar gyfer atal osgoi ac adfachu enillion cyfalaf yn cael eu cynnal o dan yr SBA gwell mewn Porthladdoedd Rhydd.

Lwfansau Cyfalaf Gwell (ECA)

3.2.10 Bydd yr ECA newydd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ei gynnig i safleoedd treth Porthladd Rhydd yng Nghymru yn rhoi rhyddhad treth gwell i gwmnïau sy’n buddsoddi mewn asedau peiriannau a pheirianwaith newydd cymwys. Bwriedir i’r rhyddhad carlam hwn ganiatáu i gwmnïau leihau eu henillion trethadwy gan gost lawn y buddsoddiad cymwys yn yr un cyfnod treth ag y cafwyd y gost. Byddai cwmnïau sy’n buddsoddi yn safle treth y Porthladd Rhydd yn gymwys i elwa o’r rhyddhad pan fydd y gwariant cymwys yn digwydd ar ôl i’r safle treth gael ei ddynodi tan ddyddiad dod i ben y rhyddhad treth. Mae’n rhaid i asedau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad fod i’w defnyddio’n bennaf o fewn safleoedd treth Porthladd Rhydd diffiniedig.

3.2.11 Bydd cwmnïau’n cael at y mesur trwy hawlio lwfansau cyfalaf yn rhan o’u ffurflen treth gorfforaeth. Bydd y rhyddhad hwn ar gael tan fis Chwefror Medi 2028 yng Nghymru.

3.2.12 Fel sy’n safonol ar gyfer lwfansau cyfalaf, bydd yr ECA Porthladd Rhydd yn cynnwys taliad cydbwyso mewn rhai sefyllfaoedd pan fydd ased a brynwyd, yr hawliwyd yr ECA ar ei gyfer, yn cael ei werthu wedi hynny (ei waredu). Bydd y rheolau gwaredu safonol ar gyfer lwfansau cyfalaf mewn perthynas â pheiriannau a pheirianwaith yn gymwys, gan gynnwys taliadau cydbwyso, lle y bo’n briodol.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) y Cyflogwr

3.2.13 Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu galluogi cyflogwyr sy’n gweithredu mewn safle treth Porthladd Rhydd i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr ar gyfradd 0%, ac o fis Ebrill 2023 ymlaen, yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol (elfen Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr) ar gyflogau unrhyw weithiwr newydd sy’n gweithio yn safle treth y Porthladd Rhydd. Byddai’r gyfradd 0% hon yn berthnasol am hyd at dair blynedd fesul gweithiwr o ddechrau ei gyflogaeth ar enillion hyd at drothwy o £25,000 y flwyddyn.

3.2.14 Ystyrir bod gweithiwr yn gweithio yn safle treth y Porthladd Rhydd os yw’n treulio 60% neu fwy o’i oriau gwaith yn y safle treth hwnnw.

3.2.15 Bydd rhyddhad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu deddfu i fod ar gael tan fis Chwefrof 2028 yng Nghymru. Yna, bydd rhyddhad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar draws Rhaglen porthladd Rhydd gyfan y Deyrnas Unedig yn cael ei adolygu hanner ffordd drwy’r rhaglen a bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried estyniad arall hyd at 2031. Bydd disgwyl i gyflogwyr roi arfer da ar waith wrth recriwtio, reoli a datblygu eu pobl. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod ganddi’r grym i atal cyflogwyr rhag cael mynediad at y rhyddhad os canfyddir eu bod yn camfanteisio arno trwy gamddefnyddio eu harferion cyflogaeth, er enghraifft diswyddo staff yn benodol er mwyn elwa ohono.

3.2.16 Bydd cyflogwyr yn gallu hawlio’r rhyddhad trwy’r ffurflenni Gwybodaeth Amser Real presennol, a bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda darparwyr meddalwedd gyflogres i hwyluso hyn. Bydd yn ofynnol i gyflogwyr roi gwybod i CThEF pan na fydd gweithiwr yn gymwys mwyach naill ai oherwydd bod y cyfnod cymhwysedd o dair blynedd fesul gweithiwr wedi dod i ben, neu oherwydd nad yw’r gweithiwr neu’r cyflogwr yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd mwyach.

Rhyddhad Ardrethi Annomestig (NDRR)

3.2.17 Mae’n bosibl y bydd busnesau’n gymwys i gael hyd at 100% o ryddhad ar ardrethi annomestig ar gyfer rhai mathau o eiddo a gwelliannau i eiddo o fewn safleoedd treth dynodedig. Y bwriad yw y bydd y rhyddhad hwn yn cael ei ddylunio i gefnogi busnesau newydd, a busnesau presennol pan fyddant yn ehangu i le newydd neu le nad yw’n cael ei ddefnyddio. Byddai’n berthnasol am hyd at bum mlynedd o’r adeg pan fydd y buddiolwr yn cael y rhyddhad gyntaf. Mae’n rhaid i geisiadau ar gyfer y rhyddhad hwn gael eu derbyn erbyn 31 Mawrth 2028. Dylai ymgeiswyr nodi fod polisi Rhyddhad Ardrethi Annomestig wedi ei ddatganoli, felly gall y manylion am y rhyddhad fod yn wahanol i Ryddhad Ardrethi Annomestig yn Lloegr, yn ddibynnol ar fanylion y polisïau Cymreig.

3.2.18 Bydd cwmnïau cymwys yn gallu gwneud cais i’r awdurdod neu awdurdodau lleol perthnasol i gael y rhyddhad hwn.

3.3 Tollau

3.3.1 Gall busnesau awdurdodedig sy’n gweithredu o fewn safleoedd tollau Porthladd Rhydd fewnforio nwyddau i’w storio a / neu brosesu gyda thollau mewnforio wedi’u hatal dros dro. Dim ond pan fydd nwyddau’n cael eu datgan ar gyfer defnydd cartref yn y Deyrnas Unedig y bydd rhaid iddynt dalu’r tollau hyn. Wrth wneud hynny, byddant fel arfer yn gallu dewis talu tollau ar y nwyddau wedi’u mewnforio naill ai fel yr oeddent o’r blaen (mewnbynnau) neu ar ôl prosesu (nwydd gorffenedig) yn y safle tollau. Yn amodol ar gytundebau masnach y Deyrnas Unedig, gallai busnesau hefyd fanteisio ar esemptiad tollau tramor ar nwyddau sy’n cael eu hallforio o safle tollau. (Mae rhai Cytundebau Masnach Rydd yn cynnwys Gwaharddiad Ad-dalu Tollau. Mae ad-dalu tollau yn golygu ad-dalu’r doll fewnforio pan fydd y nwyddau’n cael eu hailallforio. Mae’r cymal hwn yn gwahardd rhoi tariff ffafraethol i nwyddau a elwodd o ad-daliad tollau ar fewnbynnau o drydedd wlad. Mae hyn yn golygu bod rhaid i fusnesau ddewis p’un a ydynt eisiau elwa o’r ad-daliad tollau neu’r cyfraddau blaenoriaethol o dan y Cytundeb Masnach Rydd (ar yr amod eu bod yn bodloni’r prawf rheolau tarddiad o dan y Cytundeb Masnach Rydd hwnnw). Mae’r Deyrnas Unedig wedi ymestyn dros 15 o Gytundebau Masnach Rydd sy’n cynnwys y gwaharddiad hwn). Byddant hefyd yn gallu atal TAW mewnforio dros dro ar nwyddau sy’n cyrraedd safle tollau’r Porthladd Rhydd ac elwa o TAW cyfradd sero mewn perthynas â rhai trafodion sy’n digwydd yn safle tollau’r Porthladd Rhydd.

3.3.2 Bydd busnesau Porthladd Rhydd awdurdodedig sy’n mewnforio nwyddau sy’n ddarostyngedig i dollau cartref yn gallu atal y taliad dros dro tra bod y nwyddau’n cael eu storio neu eu prosesu yn y safle tollau. Bydd busnesau hefyd yn gallu cynhyrchu nwyddau ecséis o ddeunyddiau crai o dan ataliad dros dro ar dollau tramor (yn amodol ar gael ei awdurdodi o dan y ddeddfwriaeth gyfredol ar gynhyrchu nwyddau ecséis).

3.3.3 Bydd unrhyw doll yn cael ei thalu yn unol â gofynion tollau cyffredinol (rhyddhau i gylchrediad rhydd) ac ni fydd tollau’r Deyrnas Unedig yn ddyledus os yw’r nwyddau’n cael eu hallforio. Yn ogystal, bydd busnesau awdurdodedig sy’n gweithredu mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn gallu defnyddio gweithdrefnau mewnforio ac allforio symlach. Mae’r model hwn yn ehangu rhwyddhad a gweithdrefnau tollau presennol sydd ar gael i fusnesau.

3.3.4 Bydd busnesau awdurdodedig sy’n gweithredu yn safle tollau’r Porthladd Rhydd yn gyfrifol am ddilyn rheolau eu cymeradwyaeth gan CThEF.

3.3.5 Bydd angen i weithredwyr safleoedd tollau gael awdurdodiad gan CThEF. Pan fyddant wedi’u hawdurdodi, bydd angen i’r safle maen nhw’n gyfrifol amdano gael ei ddynodi gan Lywodraeth EM trwy orchymyn statudol. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod gweithredwyr yr holl safleoedd tollau arfaethedig yn fodlon ymgymryd ag awdurdodiad priodol ac yn gallu gwneud hynny.

3.3.6 Mae manylion llawn ynglŷn â sut i wneud cais am awdurdodiad i fod yn Weithredwr Safle Tollau ar gael yma

3.3.7 Mae manylion llawn ynglŷn â safleoedd tollau Porthladd Rhydd ar gael yma

Cyfrifoldebau gweithredwyr safleoedd tollau

3.3.8 Yn bennaf, mae gweithredwr safle tollau Porthladd Rhydd yn gyfrifol am reoli symudiad nwyddau a phobl i mewn ac allan o’r safle tollau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod nwyddau’n gallu gadael y safle tollau Porthladd Rhydd dim ond pan fydd yr amodau priodol wedi cael eu bodloni.

3.3.9 Mae’n rhaid i weithredwyr safleoedd tollau Porthladd Rhydd gydymffurfio â Chod Ymarfer y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer Parthau Masnach Rhydd Glân – a’r mesurau gwrth-fasnach anghyfreithlon a diogelwch penodol a geir ynddo. Bydd angen iddynt hefyd gynnal y rhwymedigaethau presennol a amlinellir yn Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgwyr a Throsglwyddo Arian (Gwybodaeth am y Talwr) 2017 y Deyrnas Unedig.

3.3.9 Bydd gweithredwr safle tollau Porthladd Rhydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol gyda datganwr am unrhyw atebolrwydd toll fewnforio sy’n codi pan fydd achos o dorri unrhyw un o ofynion awdurdodiad gweithredwr safle tollau’r Porthladd Rhydd mewn perthynas â chadw nwyddau yn salfe tollau’r Porthladd Rhydd. Mae hyn yn gyson ag awdurdodiadau eraill.

Gofynion awdurdodi

3.3.10 Fel yr amlinellir yn 3.1.9, bydd angen i ymgeiswyr nodi unrhyw safleoedd o fewn ardal y Porthladd Rhydd maen nhw’n bwriadu eu defnyddio fel safle tollau. Bydd angen i bob safle gael ei ddynodi cyn iddo allu gweithredu fel safle tollau a chael gweithredwr safle awdurdodedig i’w gynnal. Er mwyn iddo gael ei awdurdodi fel gweithredwr safle tollau, bydd angen i’r busnes perthnasol fodloni’r gofynion a amlinellir gan CThEF. Mae awdurdodi gweithredwr safle tollau’r Porthladd Rhydd yn dibynnu ar fodloni’r safonau diogelwch a diogeledd Gweithredwr Economaidd Awdurdodedig (AEO(S)) presennol neu safonau amgen y Porthladd Rhydd. Gallai gweithredwyr safle tollau hefyd ddymuno gwneud cais am gymeradwyaeth storio dros dro yn eu safle tollau. Wrth wneud hynny, bydd angen iddynt ddiwygio dynodiad eu safle tollau i adlewyrchu’r trefniant.

3.3.11 Mae rhagor o fanylion ynglŷn ag awdurdodiadau ar gael ar gov.uk.

Awdurdodiadau tollau eraill

3.3.12 Bydd angen seilwaith ar CThEF, Llu’r Ffiniau ac asiantaethau eraill y Llywodraeth i gynnal gwiriadau yn unol â’r trefniadau presennol mewn porthladdoedd. Bydd yn ofynnol i weithredwyr Porthladd Rhydd ddarparu’r seilwaith hwn. Gallai seilwaith gynnwys y canlynol, ond ni fydd yn gyfyngedig iddynt: cyfleusterau archwilio, safleoedd posibl i sganio nwyddau a cherbydau, ac ardal benodol i storio nwyddau’n ddiogel.

3.3.13 Gallai gweithredwyr safleoedd tollau Porthladd Rhydd ddymuno hwyluso symudiadau cludo i’w safleoedd tollau ac oddi yno. I wneud hyn, gallai gweithredwyr gynnig cyfleusterau cludo a swyddogaethau Derbynnydd ac Anfonwr Awdurdodedig i fusnesau ar y safle. Bydd hyn yn cynnig dull syml i fusnesau ddechrau a gorffen eu symudiadau cludo o fewn y Porthladd Rhydd.

3.3.14 Er mwyn cynnig cyfleusterau cludo a swyddogaethau Derbynnydd ac Anfonwr Awdurdodedig, bydd angen i weithredwyr fod â’r awdurdodiadau priodol ar waith.

Gofynion ffiniau yn y dyfodol

3.3.15 Bydd y gofynion yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, a disgwylir i ymgeiswyr gynnal eu gwybodaeth am y gofynion a chydweithredu ag asiantaethau’r llywodraeth.

3.3.16 Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Strategaeth Ffiniau 2025 y Deyrnas Unedig yn ddiweddar. Un o’r nodau yw cefnogi “porthladdoedd y dyfodol” i wneud y profiad yn fwy didrafferth a diogel i fusnesau a masnachwyr. Anogir ymgeiswyr i amlinellu sut byddent yn gallu cyfrannu at wneud proses dra ddigidol ar gael i fusnesau a darparu seilwaith sy’n gydnerth, yn amlswyddogaethol ac yn hwylusol.

Dileu awdurdodiad

3.3.17 Mae’n ofynnol i weithredwyr safleoedd tollau Porthladd Rhydd fodloni’r amodau a amlinellir yn eu dynodiad bob amser. Gallai methiant i fodloni unrhyw un o’r amodau hyn arwain at ddirymu eu dynodiad.

3.4 Cyfalaf sbarduno, ardrethi annomestig a gedwir yn ôl, a chyfalaf awdurdod lleol

Cyfalaf Sbarduno

3.4.1 Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus gael cyllid cyfalaf sbarduno o hyd at £25m. Bydd y swm a geir yn dibynnu ar gyflwyno achos busnes amlinellol ac achos busnes llawn, ansawdd yr achosion busnes hynny a sut mae’r cynigion yn cyd-fynd â’r polisi yn strategol. Bydd achosion busnes yn cael eu cymeradwyo gan fwrdd y Rhaglen porthladd Rhydd gyda chynrychiolaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Disgwyliwn y bydd unrhyw gyllid a ddarperir yn cael ei gyfateb neu ei gyfateb yn rhannol gan fuddsoddiad sector preifat, benthyciadau awdurdod lleol a chyd-ariannu gan gyrff cyhoeddus eraill, lle y bo’n berthnasol. Pan fydd y cyllid yn cael ei ryddhau, caiff ei roi i’r awdurdod lleol yng nghorff llywodraethu’r Porthladd Rhydd. Nhw fydd yn atebol i Lywodraeth Cymru am wario a rheoli’r cyllid cyfalaf sbarduno. Pan fydd mwy nag un awdurdod lleol ar y corff llywodraethu, bydd awdurdod lleol arweiniol yn cael ei enwi.

3.4.2 Dylai ymgeiswyr ddarparu cynigion amlinellol ar gyfer sut byddant yn gwario cyllid cyfalaf sbarduno o fewn eu Ffin Allanol er mwyn cyfrannu at amcanion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y Rhaglen porthladd Rhydd ac ystyried Cynllun Cyllid Seilwaith Llywodraeth Cymru.

3.4.3 Disgwyliwn i gynigion ganolbwyntio’n bennaf ar gydosod tir, adfer safle, a seilwaith trafnidiaeth mewnol ar raddfa fach i gysylltu safleoedd o fewn y Porthladd Rhydd â’i gilydd, yr ardal uniongyrchol o’u hamgylch neu asedau economaidd eraill o fewn y Ffin Allanol. Dylai’r rhain ymgorffori strategaethau trafnidiaeth, trafnidiaeth gynaliadwy a hierarchaethau buddsoddi. Bydd cynigion ar gyfer gwario cyfalaf sbarduno ar sgiliau, technoleg ddigidol a/neu seilwaith arall yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Ni cheir gwario cyfalaf sbarduno ar seilwaith diogelwch ar gyfer safleoedd tollau.

Ardrethi annomestig a chyfalaf awdurdod lleol

3.4.4 Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried sut gallant ddefnyddio cynnydd mewn ardrethi annomestig i dalu am gostau benthyca ar gyfer seilwaith (lle y bo’n berthnasol); ailfuddsoddi yn safle treth y Porthladd Rhydd i gynhyrchu twf ychwanegol; neu wrthbwyso effeithiau disgwyliedig dadleoli gweithgarwch economaidd lleol o ardaloedd difreintiedig.

3.4.5 Bwriedir i’r awdurdod(au) lleol y mae’r safleoedd treth Porthladd Rhydd wedi’u lleoli ynddo/ynddynt gadw’r twf ardrethi annomestig ar gyfer yr ardal honno uwchben llinell sylfaen gytunedig. Bydd hyn wedi’i warantu am 25 mlynedd, gan roi’r sicrwydd y mae ei angen ar awdurdodau lleol i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn adfywio a seilwaith a fydd yn cefnogi twf ychwanegol. Dylid defnyddio derbyniadau a gadwyd i dalu am gostau benthyca (pan fo’n berthnasol); ailfuddsoddi yn safle treth y Porthladd Rhydd i gynhyrchu twf ychwanegol; neu wrthbwyso effeithiau disgwyliedig unrhyw weithgarwch economaidd lleol a ddadleolir o ardaloedd difreintiedig. Dylai cynigwyr amlinellu prosesau penderfynu perthnasol yr awdurdod lleol ar gyfer cytuno ar sut y byddai arenillion cyfraddau ychwanegol yn cael eu codi a sut y bydd unrhyw arenillion a gedwir yn cael eu hailfuddsoddi.

3.4.6 Dylai ymgeiswyr fanylu ar gostau cyflawni eu cynnig, yn ogystal â’r ffynhonnell / ffynonellau cyllid (e.e. cyfalaf sbarduno Porthladd Rhydd, buddsoddiad sector preifat, benthyciadau awdurdod lleol, cyd-ariannu), a’r partner ymgeisio sy’n gyfrifol am y gost honno yn eu hymateb. Cyn belled ag y bo’n bosibl, dylai hyn gael ei ddadansoddi yn ôl blwyddyn ariannol. Dylai cerrig milltir cyflawni allweddol gael eu hadlewyrchu yn ymatebion yr ymgeiswyr yn rhan o’u cynllun gweithredu. Dylai cynigion hefyd fanylu ar gymorth cymunedol, ac unrhyw gyd-ddibyniaeth allweddol.

3.4.7 Er mwyn sicrhau bod adnoddau yn y gymuned leol yn cael eu defnyddio’n effeithiol, dylai cynigion Porthladd Rhydd adeiladu ar bartneriaethau a chynlluniau presennol ar gyfer y porthladd ac ychwanegu atynt, ac ategu strategaethau sydd eisoes yn bodoli fel Cynlluniau a Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol, Cynlluniau Datblygu Lleol, strategaethau gofodol a chynlluniau trafnidiaeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

3.5 Cyllid ehangach gan y llywodraeth

3.5.1 Dylai ymgeiswyr amlinellu sut gallai eu cynnig gael ei ategu gan gyllid o rowndiau ariannu presennol neu ychwanegol sydd i ddod ar draws y llywodraeth. Dylai’r cynnig Porthladd Rhydd fod yn hyfyw heb y ffynonellau ychwanegol hyn o gyllid anwarantedig, er y gallai’r llywodraeth ddewis cyfateb dyraniadau ar draws cronfeydd pan fydd amcanion ac amseriadau’n caniatáu ar gyfer hynny.

3.6 Arloesedd

3.6.1 Mae ymgeiswyr Porthladd Rhydd yn allweddol i greu amgylchedd arloesol ar gyfer busnesau. Dylai cynigion amlygu sut gall eu statws Porthladd Rhydd ddod ag ychwanegedd i’r rhai sydd eisoes yn cydweithio yn y rhanbarth. Mae gan y ddwy Lywodraeth ddiddordeb arbennig mewn arloesedd a arweinir gan y sector preifat o fewn y Porthladd Rhydd, ac uchelgeisiau arloesedd sy’n cyfrannu at yr agenda ddatgarboneiddio neu sero net.

Cyllid arloesedd Porthladd Rhydd

3.6.2 Disgwylir i’r holl bartneriaid geisio cyfleoedd i gael cyllid arloesedd ehangach. Dylai ymgeiswyr amlinellu eu syniadau cychwynnol ar gyfer sut gallai’r cyllid hwn gael ei ddarparu yn ogystal ag unrhyw ymrwymiad maen nhw wedi’i sicrhau gan ddiwydiant i fuddsoddi mewn gweithgarwch arloesol neu brofi technolegau newydd.

3.6.3 Gellir chwilio am gymorth ledled Cymru trwy wefan swyddogol “Busnes Cymru” Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae porth “Ymgeisio am gyllid arloesedd” Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle tebyg i chwilio am gymorth ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyllid Innovate UK i helpu i fasnacheiddio syniadau a thyfu trwy arloesedd a gwefan Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI) sy’n amlinellu cyfleoedd cyllido presennol UKRI.

Canolfan gydweithio Porthladd Rhydd

3.6.4 Dylai’r Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru wella ecosystemau arloesedd lleol a chenedlaethol, gan sicrhau bod cydweithio’n cael ei gefnogi yn unol ag amcanion y Porthladd Rhydd. Dylai ymgeiswyr amlinellu eu cynigion i sefydlu Porthladd Rhydd fel canolfan gydweithio, gan gynnwys, cyn belled ag y bo’n bosibl, cynllun cydlynol ar gyfer ymgysylltu ag arweinwyr lleol i’w helpu i gyflymu twf economaidd trwy ymchwil a datblygu, unrhyw gynlluniau i sefydlu cyfleusterau newydd neu gysylltu â chyfleusterau presennol, hwyluso datblygu sgiliau, a hyrwyddo rhaglenni ymchwil penodol i Borthladd Rhydd.

Arloesedd rheoleiddiol Porthladd Rhydd

3.6.5 Rydym wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau bod y model Porthladd Rhydd yn cynnal y safonau uchel a osodir yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig o ran diogeledd, diogelwch, hawliau gweithwyr, diogelu data, bioddiogelwch a’r amgylchedd, ar yr un pryd â sicrhau cystadleuaeth deg ac agored rhwng busnesau.

3.6.6 Fodd bynnag, mae’r llywodraeth yn cydnabod bod rheoleiddio’n gallu bod yn heriol, mewn rhai achosion, i gwmnïau arloesol wrth iddynt ddatblygu, profi a chymhwyso syniadau a thechnolegau newydd mewn rhai sectorau.

3.6.7 Felly, byddwn yn hwyluso ymgysylltu rhwng y Porthladd Rhydd a rheoleiddwyr perthnasol trwy “Rwydwaith Ymgysylltu Rheoleiddio Porthladdoedd Rhydd” (FREN). Bydd union weithrediad y FREN yng Nghymru yn cael ei gadarnhau ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben, ond bydd FREN yn:

a. galluogi proses ymgysylltu’n gynnar rhwng busnesau arloesol a rheoleiddwyr

b. cynorthwyo busnesau â materion rheoleiddiol, gan leihau biwrocratiaeth ac ansicrwydd i’r eithaf

c. cynhyrchu syniadau i ymgysylltu â busnesau a rheoleiddwyr ynglŷn â meysydd lle y ceir cyfleoedd posibl

ch. amlygu cyfleoedd ar gyfer hyblygrwydd rheoleiddiol a blychau tywod rheoleiddiol newydd

3.6.8 Wrth amlinellu eu huchelgeisiau arloesedd, dylai ymgeiswyr nodi sut byddent yn dymuno manteisio ar y Rhwydwaith Ymgysylltu Rheoleiddio Porthladdoedd Rhydd i gefnogi’r cynigion hyn; er enghraifft, sut byddent yn elwa o broses ymgysylltu’n gynnar â rheoleiddwyr penodol.

3.7 Cymorth masnach a buddsoddi

3.7.1 Dylai ymgeiswyr amlinellu pa fesurau cymorth masnach a buddsoddi penodol a fyddai o fudd i Borthladd Rhydd yn eu hardal, yn eu barn nhw. Dylai cynigion bwysleisio’r math o gymorth sy’n angenrheidiol ac amlder ac amseriad y cymorth hwnnw. Dylid cynnwys hirhoedledd y cymorth dros pum mlynedd cyntaf bywyd gweithredol y Porthladd Rhydd hefyd.

3.7.2 Bydd Llywodraeth Cymru ac asiantaethau yn gweithio gyda’r ymgeisydd llwyddiannus a’r Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau bod rhaglen cymorth busnes ymarferol yn cael ei datblygu i ddenu cwmnïau a allai ystyried lleoli mewn Porthladd Rhydd. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ystod o wasanaethau cymorth buddsoddi o fewn y portffolio presennol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a’i asiantaethau a’r Adran Masnach Ryngwladol.

3.7.3 Dylai ymgeiswyr ddangos swyddogaeth Masnach a Buddsoddi annibynnol yn y cynnig Porthladd Rhydd. Dylai’r swyddogaeth hon fod â digon o staff, cael ei hariannu’n briodol a chynnwys yr arbenigedd sy’n ofynnol. Dylai’r cynnig ddangos y swyddogaethau y bydd Porthladd Rhydd yn eu darparu a sut bydd y rhain yn croestorri â gwasanaethau Masnach a Buddsoddi presennol ar draws Llywodraeth Cymru ac o fewn yr Adran Masnach Ryngwladol. Er enghraifft, cydweithio i amlygu a phecynnu cyfleoedd i ddatblygu asedau go iawn a allai fod yn ddeniadol i fuddsoddwyr cyfalaf yn rhyngwladol.

3.7.4 Dylai gweithgareddau Masnach a Buddsoddi gyd-fynd â’r datganiad sector. Dylai ymgeiswyr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r amgylchedd cystadleuwyr a dylent gynnwys strategaeth yr ymgeisydd ar gyfer cystadlu’n llwyddiannus yn y farchnad/marchnadoedd o’i ddewis.

3.8 Cynllunio

Dulliau cynllunio seiliedig ar leoedd

3.8.1 Mae Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn darparu’r cyd-destun cynllun datblygu cenedlaethol ar gyfer ceisiadau Porthladd Rhydd yng Nghymru. Bydd yn bwysig i bob cais Porthladd Rhydd ddangos ei fod yn cydymffurfio â Pholisi 1 – Ardaloedd Twf Cenedlaethol a Rhanbarthol a Pholisi 10 – Cysylltedd Rhyngwladol. Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos sut mae eu cynigion yn cyd-fynd ag argraffiad mwyaf cyfredol Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol cysylltiedig.

3.8.2 Yn ogystal â’r cyd-destun cynllunio cenedlaethol, dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio offer lleol seiliedig ar leoedd, fel Parthau Cynllunio Syml neu Orchmynion Datblygu Lleol. Gall Parthau Cynllunio Syml a Gorchmynion Datblygu Lleol roi mwy o sicrwydd i fusnes trwy ddileu’r angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau y mae’r gorchymyn yn ymdrin â nhw.

3.8.3 Bydd angen i ymgeiswyr ddangos cefnogaeth i’w cynigion gan randdeiliaid perthnasol er mwyn sicrhau y gellir eu cyflawni’n llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr ystyried yr anghenion cynllunio ar draws y ffin allanol gyfan ac yn enwedig y rhai hynny sy’n gysylltiedig â’r safleoedd treth, prosiectau cyfalaf sbarduno, safleoedd tollau ac unrhyw fuddsoddiad ategol arall.

3.8.4 Mae’n rhaid i’r awdurdodau lleol perthnasol:

a. fod yn rhan o gynghrair y cais

b. bod wedi trafod y cydweddiad â chynlluniau a pholisïau datblygu perthnasol (a’r defnydd posibl o ddulliau cynllunio seiliedig ar leoedd y cyfeiriwyd atynt uchod) wrth lunio’r cais

3.8.5 Bydd cydweithrediad o’r fath yn helpu i sicrhau bod cynigion datblygu’n gallu symud ymlaen yn ddidrafferth trwy’r system gynllunio. Dylai ceisiadau ddangos cefnogaeth awdurdod lleol i ddatblygu eiddo masnachol o fewn safleoedd trethi a thollau, i gefnogi eu twf. Bydd datblygiad arfaethedig yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gynllunio leol pan fydd angen.

3.8.6 Croesawn geisiadau sy’n cyflwyno cynigion datblygu arloesol, gan gynnwys y rhai hynny sy’n awyddus i ddefnyddio’r tir sydd ar gael i gyflwyno seilwaith a chefnogi busnesau sy’n hybu uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

3.8.7 O ran pob safle perthnasol, dylai ceisiadau llwyddiannus:

a. esbonio’r statws cynllunio presennol, gan gynnwys y statws mewn perthynas â Chymru’r Dyfodol a’r cynllun datblygu lleol

b. esbonio’r anghenion cynllunio ar gyfer y datblygiad disgwyliedig

c. manylu ar sut y bydd yr anghenion datblygu hyn yn cael eu bodloni, gan gynnwys pa opsiynau a ystyriwyd

ch. esbonio’r camau a gymerwyd (neu a gynlluniwyd) i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn ystyried sut y bydd cynigion yn cynnal ac yn gwella, lle y bo’n bosibl, ansawdd yr ardal y mae’r cynnig wedi’i leoli ynddi

d. esbonio sut y bydd unrhyw ofynion perthnasol ar gyfer asesiad amgylcheddol yn helpu i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol a chynnig buddion amgylcheddol cadarnhaol clir. Byddai’n ddefnyddiol hefyd i geisiadau nodi p’un a gynhaliwyd unrhyw ymgysylltiad cynnar ag asiantaethau allweddol yn rhan o hyn

dd. rhoi tystiolaeth o drafodaethau cynnar a gawsant ag awdurdodau cynllunio ynglŷn â’r posibilrwydd o ddefnyddio offer cynllunio seiliedig ar leoedd

Adran 4. Gofynion Darparu

4.1 Cyd-fynd â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

4.1.1 Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn berthnasol i bob awdurdod lleol yng Nghymru, felly dylai ceisiadau amlinellu sut byddai’r awdurdod neu awurdodau lleol sy’n gysylltiedig yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth wrth gefnogi’r broses o ddarparu Porthladd Rhydd.

4.1.2 Dylai ceisiadau ddangos sut byddai eu cynigion yn cyfrannu at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol:

(1) Cymru lewyrchus

(2) Cymru gydnerth

(3) Cymru iachach

(4) Cymru sy’n fwy cyfartal

(5) Cymru o gymunedau cydlynus

(6) Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

(7) Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

4.1.3 Dylai ymgeiswyr ystyried pa rai o’r 50 o Ddangosyddion Llesiant Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w cynigion a, lle y bo’n bosibl, amcangyfrif i ba raddau y byddai eu cynigion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r Dangosyddion hynny.

4.1.4 Dylai ceisiadau hefyd ddangos sut byddai darparu’r cynigion yn cydymffurfio â’r pum Ffordd o Weithio yn y Ddeddf:

(1) Cydweithio

(2) Integreiddio

(3) Cynnwys

(4) Hirdymor

(5) Atal

4.2 Cyd-fynd â nodau datgarboneiddio ac amgylcheddol

Sbarduno’r agenda ddatgarboneiddio

4.2.1 Mae gan y Rhaglen porthladd Rhydd botensial mawr i gyfrannu at gyflawni agenda ddatgarboneiddio ac uchelgais sero net Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynllun datgarboneiddio amlinellol ar gyfer y Porthladd Rhydd, gan gynnwys sut y bydd statws Porthladd Rhydd yn datgloi cyfleoedd datgarboneiddio ar gyfer busnesau presennol. Dylai hyn gael ei ddilyn gan gynllun gweithredu cadarn sy’n amlinellu sut maen nhw’n bwriadu cyfrannu at gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050, gan gynnwys sut gallant hwyluso datgarboneiddio Porthladd Rhydd yn dilyn dynodiad.

4.2.2 Bydd ymagwedd ymgeiswyr at gynllunio yn:

a. gweithio o linellau sylfaen sefydledig, a ddiffiniwyd yn glir ar gyfer rheoli allyriadau, effaith amgylcheddol a pherygl yr hinsawdd, gan sicrhau y bydd yr uchelgais maen nhw wedi’u gosod, a’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn yr uchelgeisiau hynny, ar gael yn gyhoeddus

b. gosod targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau allyriadau a thwf a lles economaidd mewn economi sero net

c. amlygu a dilyniannu camau gweithredu allweddol (galluogwyr, rhwystrau, dibyniaethau), cyfleoedd a phartneriaid ar draws gwahanol weithredwyr i alluogi cydweithio. Mae’n rhaid i hyn gynnwys ystyried technolegau sy’n dod i’r amlwg a chyflenwi tanwyddau amgen.

4.2.3 Bydd manylion llawn y broses o fonitro cynlluniau datgarboneiddio ar gyfer y Rhaglen Porthladd Rhydd yn cael eu hamlinellu ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o’r broses ddynodi derfynol ar gyfer Cymru. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fanylu ar sut byddant yn mynd ati i fodloni’r holl reoliadau amgylcheddol perthnasol ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn dilyn dynodiad, byddwn yn chwilio am gynlluniau datgarboneiddio manwl, cyflawnadwy sy’n canolbwyntio ar weithredu i gefnogi economi sero net. O fewn hynny, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu llinell amser a rhaglen waith realistig ar gyfer cyflawni’r nodau datgarboneiddio hyn.

4.2.4 Yn rhan o’r broses asesu, dylai ymgeiswyr amlinellu sut mae eu cynnig Porthladd Rhydd cynaliadwy yn cyd-fynd â pholisïau sero net y ddwy Lywodraeth yn weithredol ac yn cysylltu â buddion ehangach fel ysgogi arloesedd.

Ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol

4.2.5 Mae’n rhaid i geisiadau Porthladd Rhydd amlinellu sut bydd eu cynigion yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol o ran ansawdd aer a dŵr, rheoli gwastraff, trin a thrafod cemegion; ac unrhyw asesiad ychwanegol o effeithiau ar safleoedd a rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys mesurau lliniaru. Bydd ceisiadau sy’n dangos y potensial ar gyfer buddion amgylcheddol cadarnhaol clir yn cael eu hystyried yn fwy ffafriol na’r rhai hynny sy’n ceisio cydymffurfio â’r rheoliadau angenrheidiol i’r graddau lleiaf posibl yn unig.

4.2.6 Mae’n hanfodol bod y Porthladd Rhydd yn fioddiogel ac yn sicrhau y cydymffurfir yn gadarn â safonau iechydol a ffytoiechydol (SPS). Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau i weithredwyr yn y dyfodol ar safonau SPS a rôl Safle Rheoli Ffiniau er mwyn cyflawni rheolaethau i ddiogelu iechyd y cyhoedd, anifeiliaid a phlanhigion. Bydd ceisiadau Porthladd Rhydd yn cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynigion yn ddigonol er mwyn i’r porthladd weithredu fel Safle Rheoli Ffiniau mewn achosion lle mae angen cyfleusterau o’r fath.

4.2.7 Mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gynnal Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru, a fydd yn cynnwys Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ac Asesiad o’r Effaith ar Fioamrywiaeth, cyn i ddatblygiad arfaethedig allu symud ymlaen ac i arian cyhoeddus neu fesurau treth gael eu hawdurdodi. Bydd hyn yn cynnwys bodloni gofynion y Llyfr Gwyrdd ar gyfer amcangyfrif effaith allyriadau carbon oes gyfan y cynnig, rhoi gwerth ariannol i hyn yn unol â ffactorau carbon yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) (mewn £/tunelli) a chynnwys hyn yn yr Achos Economaidd. Gofynnir i geisiadau llwyddiannus hefyd ddangos sut yr ystyriwyd gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, gan gyfeirio at y canllawiau atodol diweddaraf i’r Llyfr Gwyrdd, sef ‘Cyfrifyddu ar gyfer Effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd’, a ‘Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol’.

4.3 Atal gweithgarwch anghyfreithlon

4.3.1 Mae’n rhaid i’r Rhaglen Porthladd Rhydd gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr OECD ar gyfer Parthau Masnach Rydd Glân a’r mesurau gwrth-fasnach anghyfreithlon a diogelwch penodol a geir ynddo. Mae’n rhaid cynnal y rhwymedigaethau presennol a amlinellir yn Rheoliadau Gwyngalchu Arian 2017 y Deyrnas Unedig hefyd.

4.3.2 Bydd angen i safleoedd tollau ar gyfer cynigwyr llwyddiannus gael eu hawdurdodi gan CThEF a Llu’r Ffiniau. Bydd y cyrff hyn yn gallu gwrthod awdurdodiad neu ei dynnu’n ôl os nad yw safleoedd unigol wedi bodloni’r safonau gofynnol.

4.3.3 Bydd angen i gorff llywodraethu’r Porthladd Rhydd gynnal cofnod o’r holl fusnesau sy’n gweithredu, neu’n gwneud cais i weithredu, o fewn y safle treth. Bydd angen i’r cofnod hwn fod ar gael yn rhwydd i CThEF, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a gweithwyr Llu’r Ffiniau. Bydd angen iddo hefyd gael ei gadw’n gyfredol a chynnwys gwybodaeth am berchennog llesiannol y busnes.

4.3.4 Bydd yn ofynnol i gorff llywodraethu’r Porthladd Rhydd wneud ymdrech resymol i gadarnhau perchennog llesiannol busnesau sy’n gweithredu o fewn y safle treth. Bydd CThEF a Llu’r Ffiniau yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynnal gwiriadau ar y busnesau, er enghraifft cofnodion troseddol, cyn awdurdodi gweithredu yn y safle treth. Ni fydd math penodol o ddiogelwch ffisegol yn cael ei fynnu ar gyfer y safle treth; fodd bynnag, gofynnir i ymgeiswyr amlinellu cynlluniau ar gyfer diogelwch y safle treth yn rhan o geisiadau.

4.3.5 Bydd yn ofynnol i gorff llywodraethu’r Porthladd Rhydd hefyd reoli risgiau diogelwch yn weithredol ar draws meysydd ffisegol, personél a seiber, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru, CThEF, Llu’r Ffiniau, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Swyddfa Gartref ac asiantaethau eraill perthnasol ac adrannau’r llywodraeth i gynnal archwiliad blynyddol o’r mesurau diogelwch sydd ar waith ac unrhyw achosion o’u torri.

4.3.6 Yn rhan o geisiadau, gofynnir i gynigwyr amlinellu pa gamau y byddant yn eu cymryd i sicrhau y bydd y safleoedd tollau a’r safleoedd treth yn eu Porthladd Rhydd arfaethedig yn ddiogel rhag gweithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys gweithgarwch troseddol cyfundrefnol, gwyngalchu arian, smyglo a masnachu pobl. Gofynnir i ymgeiswyr hefyd ystyried eu hymagwedd arfaethedig at systemau stocrestr, diogelwch ffisegol, personél, seiberfygythiadau, rheoliadau rhyngwladol (e.e. y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl), cadwyni cyflenwi a safleoedd tollau. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn dangos ystyriaeth ddigonol o gamau i atal gweithgarwch anghyfreithlon yn cael eu hystyried ar gyfer statws Porthladd Rhydd.

4.4 Strwythurau llywodraethu Porthladd Rhydd

Trosolwg

4.4.1 Nid yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu bod gan ymgeiswyr drefniadau llywodraethu ffurfiol ar waith pan fyddant yn ymgeisio, na phan fydd y cynigwyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, disgwyliwn i gynghreiriau ymgeisio ffurfio o amgylch gweledigaeth a rennir ar gyfer y Porthladd Rhydd, ac anogwn hynny, gyda grwpiau llywio anffurfiol i helpu i ddod â’r partïon sy’n gysylltiedig at ei gilydd, dirprwyo’r gwaith o gwblhau gofynion penodol, a ffurfio ceisiadau ar y cyd.

4.4.2 Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig o’r farn y bydd angen i bob Porthladd Rhydd gael strwythur llywodraethu yn y pen draw sy’n goruchwylio ei leoliad er mwyn i’r Porthladd Rhydd gael ei ddarparu, ei weithredu a’i fonitro’n llwyddiannus. Felly, mae’n ofynnol i ymgeiswyr amlinellu eu cynigion ar gyfer corff llywodraethu Porthladd Rhydd yn y dyfodol i oruchwylio eu Porthladd Rhydd. Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn asesu’r cynlluniau hynny gan ddefnyddio’r meini prawf isod fel un rhan o’r maen prawf cyflawnadwyedd.

4.4.3 Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod trefniadau llywodraethu’r Porthladd Rhydd buddugol yn gadarn. Gallai’r gwaith hwn olygu bod porthladdoedd yn addasu eu holl gynigion neu ran ohonynt.

4.4.4 Wedi i gorff llywodraethu Porthladd Rhydd gael ei sefydlu, bydd yn gweithio gyda chynrychiolwyr tîm Porthladdoedd Rhydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod y Porthladd Rhydd yn parhau i gyd-fynd â pholisi’r ddwy Lywodraeth. Bydd y cynrychiolwyr hyn yn cynnig cymorth gan gynnwys cysylltiadau ag adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyrff sector cyhoeddus. Dylai corff llywodraethu’r Porthladd Rhydd fod â pherchnogion a sianeli clir ar gyfer tri phrif amcan Porthladdoedd Rhydd.

Gofynion ar gyfer Corff Llywodraethu Porthladd Rhydd yn y dyfodol

4.4.5 Pan fydd ymgeiswyr yn amlinellu eu strwythur llywodraethu a ffefrir, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn agored i unrhyw fath o ffurfioldeb a strwythur cyfreithiol ar yr amod bod y cynnig:

a. yn rhoi cyfiawnhad clir dros lefel y strwythur llywodraethu sy’n ofynnol i gyflawni’r cais Porthladd Rhydd

b. yn dangos ymrwymiadau clir a chymesur gan y sectorau preifat a chyhoeddus i fodloni costau gweithredu’r Porthladd Rhydd

c. yn cynnwys strwythur penderfynu sy’n gwarchod gallu’r awdurdod lleol i fod yn atebol yn ystyrlon am wario arian cyhoeddus

ch. yn bodloni ein tair safon graidd ar:

i. strwythur effeithiol

ii. personél effeithiol

iii. swyddogaethau effeithiol

Atebolrwydd

4.4.6 Er bod corff llywodraethu’r Porthladd Rhydd yn gyfrifol am ddarparu’r Porthladd Rhydd yn effeithiol yn unol â strategaeth economaidd a bennir trwy’r broses ymgeisio, bydd yr awdurdod(au) lleol sy’n rhan o’r corff llywodraethu yn atebol i Lywodraeth Cymru am wario a rheoli arian cyhoeddus – yn arbennig, cyllid cyfalaf sbarduno y Porthladd Rhydd.

4.4.7 Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn croesawu cynigion i gyrff llywodraethu Porthladd Rhydd gymryd ffurf Cyfryngau at Ddibenion Arbennig. Fodd bynnag, yn dibynnu ar union statws cyfreithiol y Cyfrwng at Ddibenion Arbennig, fe allai gymryd mwy o amser i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gytuno ar Achos Busnes Amlinellol i sicrhau bod y prosesau sicrwydd priodol ar waith.

4.4.8 Fodd bynnag, ni waeth beth fo statws corff llywodraethu’r Porthladd Rhydd, dylai ymgeiswyr egluro yn eu cynnig sut mae eu strwythur yn gwarchod gallu awdurdod lleol i fod yn atebol yn ystyrlon at ddibenion gwario a rheoli arian cyhoeddus.

Strwythur Effeithiol

4.4.9 Mae’n rhaid i gynigion, o leiaf:

a. nodi cadeirydd ar gyfer corff llywodraethu’r Porthladd Rhydd

b. egluro sut y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud o fewn corff llywodraethu’r Porthladd Rhydd (er enghraifft: pwy sy’n pleidleisio, trothwyon ar gyfer gwneud penderfyniadau, pwerau’r cadeirydd, pwerau feto, cynrychiolaeth y gweithlu)

c. egluro sut y bydd y strwythur arfaethedig yn cefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol, gan alluogi darparu Porthladd Rhydd yn gyflym

ch. nodi personél effeithiol

4.4.10 Mae’n rhaid i unrhyw gorff llywodraethu Porthladd Rhydd gynnwys, o leiaf, y porthladd(oedd) sy’n gysylltiedig – i sicrhau pwyslais economaidd ar ranbarthau porthladd – a’r awdurdod lleol y mae’r Porthladd Rhydd wedi’i leoli ynddo – i dderbyn a bod yn atebol am unrhyw gyllid adfywio a chyflawni mesurau allweddol. Ni fydd cynigion yn cael eu derbyn os nad ydynt yn cynnwys y rhanddeiliaid hyn.

4.4.11 Y tu hwnt i hyn, dylai cyrff llywodraethu Porthladd Rhydd adlewyrchu’r gynghrair ymgeisio gydweithredol sy’n ofynnol i lwyr ddarparu’r ystod eang o fesurau a gynigir er mwyn cyflawni’r amcanion polisi Porthladd Rhydd. Felly, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annog cynigion ymgeiswyr i gynnwys cynrychiolwyr o’r chwe grŵp canlynol o randdeiliaid os a lle y bo’n bosibl:

a. unrhyw dirfeddianwyr sy’n berchen ar dir y mae safleoedd treth a thollau wedi’u dynodi arno

b. unrhyw weithredwyr safleoedd tollau

c. cwmnïau, buddsoddwyr a chyrff sector cyhoeddus sy’n gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threth

4.4.12 Gallai ymgeiswyr hefyd ddymuno ystyried cynnwys cynrychiolaeth gan grwpiau eraill o randdeiliaid sydd â buddiant, lle y bo’n briodol, gan gynnwys:

a. y Cyd-bwyllgorau Corfforedig

b. rhanddeiliaid arloesedd fel prifysgolion, canolfannau Catapwlt neu arweinwyr canolfan cymorth busnes o REP/awdurdod lleol

c. partneriaid cymdeithasol perthnasol (busnesau ac undebau llafur).

4.4.13 Yn rhan o’n meini prawf asesu, bydd ceisiadau sy’n dangos cefnogaeth gan y grwpiau hyn a’u bod yn cael eu cynnwys mewn corff llywodraethu Porthladd Rhydd, gyda sail resymegol glir i’w rôl wrth ddarparu’r Porthladd Rhydd, yn cael eu gwobrwyo yn y broses asesu.

4.4.14 Fodd bynnag, er mwyn sicrhau proses benderfynu syml mewn cyrff llywodraethu, bydd unrhyw gynnig ar gyfer bwrdd sy’n cynnwys mwy na 12 o aelodau parhaol dan anfantais yn y broses ymgeisio oni bai ei fod yn rhoi cyfiawnhad clir dros ei faint (er enghraifft, cais cymhleth gan nifer o borthladdoedd sy’n cynnwys nifer o weithredwyr porthladd, tirfeddianwyr ac awdurdodau lleol). Caniateir aelodau cyfetholedig ar fyrddau y tu hwnt i’r 12 o aelodau parhaol hefyd ar yr amod bod iddynt gyfyngiad amser a bod cyfiawnhad clir yn cael ei roi dros eu presenoldeb.

Swyddogaethau Effeithiol

4.4.15 Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu Porthladd Rhydd allu cwblhau’r 10 swyddogaeth ganlynol, o leiaf:

a. sicrhau bod y Porthladd Rhydd yn cael ei farchnata’n effeithiol i gaffael buddsoddiad preifat i’r Porthladd Rhydd o ffynonellau sy’n dderbyniol i’r ddwy lywodraeth

b. rhoi cymorth priodol a pharhaus i fuddsoddwyr sy’n ymrwymo i’r Porthladd Rhydd i helpu i gyflawni eu buddsoddiad

c. sicrhau bod buddsoddwyr a busnesau yn y Porthladd Rhydd yn cydymffurfio â’r amodau safonol

ch. cydlynu a hwyluso cyflwyniadau ar gyfer cronfeydd her neu arloesedd seiliedig ar leoedd a chymorth rheoleiddiol gan gwmnïau Porthladd Rhydd

d. monitro a chynnal integreiddio â strategaethau economaidd lleol

dd. hwyluso llais effeithiol i weithwyr trwy argymell yn gryf bod Fforwm Ymgynghorol Gweithwyr yn cael ei sefydlu, gyda chylch gwaith i gynrychioli buddiannau gweithwyr ar draws y Porthladd Rhydd. Gallai cynigwyr ddymuno ystyried cynnwys undeb(au) llafur perthnasol

e. adrodd yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig trwy’r arweinydd ardal yn gyfnodol ac yn flynyddol o leiaf ar sut mae’r Porthladd Rhydd yn cyflawni’r strategaeth a amlinellwyd yn ei gais buddugol

f. cydymffurfio â gofynion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fonitro a gwerthuso (fel casglu a darparu data ynglŷn â swyddi newydd, busnesau a grëwyd, a buddsoddiad preifat a ddenwyd)

ff. sicrhau bod risgiau diogelwch yn cael eu rheoli’n weithredol ar draws meysydd ffisegol, personél a seiber, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, CThEF, Llu’r Ffiniau, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Swyddfa Gartref i gynnal archwiliad blynyddol o’r mesurau diogelwch sydd ar waith ac unrhyw achosion o’u torri

g. bod â mesurau priodol ar waith i atal twyll a rhoi sicrwydd bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n dda ac y cyfrifir amdano

4.4.16 Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn agored i awgrymiadau gan ymgeiswyr ynglŷn â’r ffordd orau o gyflawni’r 10 swyddogaeth hyn. Croesawn hefyd gynigion llywodraethu sydd â swyddogaethau ychwanegol, ar yr amod y dangosir cyfiawnhad bod y swyddogaethau hynny’n hwyluso Porthladd Rhydd llwyddiannus.

Cyllid capasiti a chymorth technegol

4.4.17 Bydd y Rhaglen Porthladd Rhydd yn ariannu ei hun yn gyfan gwbl yn y tymor canolig, gyda chyfraniadau cymesur gan bartneriaid lleol o’r sectorau preifat a chyhoeddus. Fodd bynnag, bydd hyd at £1m o gyllid refeniw tymor byr ar gael i Borthladd Rhydd pan fydd lleoliad llwyddiannus wedi cael ei gyhoeddi.

4.4.18 Diben y cyllid hwn yw helpu i dalu am gostau sefydlu – gan gynnwys datblygu achos busnes Porthladd Rhydd a sefydlu trefniadau llywodraethu lleol cadarn – cyn i ffrydiau incwm allweddol ar gyfer y Porthladd Rhydd ddod ar gael (e.e. o denantiaid safleoedd treth neu dollau). Disgwylir y bydd y cyllid hwn yn ategu, yn hytrach na disodli, arian parod a chyfraniadau mewn nwyddau gan bartneriaid lleol yn ystod y cyfnod hwn.

4.4.19 I gael y cyllid refeniw hwn, bydd rhaid i’r Porthladd Rhydd ddangos yn ddigonol i’r ddwy Lywodraeth fod angen y cyllid hwn a bod trefniadau llywodraethu addas ar waith yn lleol i’w reoli a goruchwylio’r cam sefydlu, gan arwain at gymeradwyo achos busnes.

4.4.20 Yn ogystal â’r cyllid hwn, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod rhywfaint o gymorth technegol a gaffaelwyd yn ganolog ar gael i Borthladd Rhydd. Gallai’r cymorth hwn gynnwys:

a. cyngor arbenigol, annibynnol wrth i Borthladd Rhydd ddatblygu ei achos busnes a pharatoi ar gyfer darparu

b. cyfleoedd i ddysgu gan gymheiriaid a rhannu arfer gorau, gan gynnwys cynhyrchion neu gyngor ynglŷn â meysydd diddordeb ar draws rhai neu bob un o’r Porthladdoedd Rhydd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig

c. cyngor a chymorth i’r Rhaglen Porthladd Rhydd gyffredinol

ch. cyngor ar ddatrys problemau, a fydd ar gael i helpu i fynd i’r afael â materion darparu allweddol sy’n wynebu Porthladd Rhydd.

4.5 Rheolaeth a gallu

4.5.1 Bydd angen i ymgeiswyr hefyd amlinellu’r trefniadau cadarn y byddant yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod eu prosiect Porthladd Rhydd yn cael ei ddarparu’n llwyddiannus yn gyflym. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth y bydd y broses o ddarparu’r Porthladd Rhydd yn cael ei rheoli yn unol ag arfer gorau, a bod y trefniadau angenrheidiol ar waith i reoli risg.

4.5.2 I wneud hyn, dylai ymgeiswyr ddarparu:

a. cynllun gweithredu

b. fframwaith rheoli risg

c. cyflwyniad ysgrifenedig ar reolaeth a gallu

ch. manylion cyswllt ar gyfer yr Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen

Cynllun Gweithredu

4.5.3 Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu cynllun gweithredu (ar ffurf diagram o ryw fath), sy’n amlinellu’r camau y mae’n rhaid eu cwblhau er mwyn cyflawni eu strategaeth Porthladd Rhydd. Dylent ddisgrifio sut, pryd a chan bwy y bydd y cerrig milltir penodol neu’r set benodol o dargedau’n cael eu cyflawni. Dylai’r fersiwn fwyaf cyfredol o’r cynllun hwn, yn ogystal â manylion ysgrifenedig ychwanegol ynglŷn â’r cynllun, gael eu crynhoi a’u hatodi i’r cais.

4.5.4 Dylai’r cynllun gweithredu hwn gynnwys y canlynol o leiaf:

a. y canlyniadau sydd i’w cyflawni, ac erbyn pryd

b. y gweithgareddau a’r cerrig milltir allweddol sy’n ofynnol i’w cyflawni

c. pryd y bydd gweithgareddau’n digwydd, gan gynnwys llinellau amser i weithredu safle tollau a threth

4.5.5 Bydd ceisiadau eithriadol hefyd yn cynnwys dadansoddiad manwl arwyddocaol o sut y bydd y cerrig milltir a amlygwyd ar gyfer y prosiect yn cael eu cyflawni yn unol â graddfeydd amser, costau, ac ansawdd, gan gynnwys:

a. yr adnoddau a’r amser sy’n angenrheidiol ar gyfer yr holl weithgareddau, ac unrhyw angen am bobl â galluoedd a chymwyseddau penodol

b. y dibyniaethau allweddol rhwng gweithgareddau, cyfyngiadau cysylltiedig, a dilyniannu

c. yr adegau pan fydd cynnydd yn cael ei fonitro, ei reoli, a’i adolygu

Fframwaith Rheoli Risg

4.5.6 Dylai ymgeiswyr ddarparu fframwaith rheoli risg byr ar gyfer amlygu, osgoi, lliniaru a rheoli risgiau’n weithredol drwy gydol cyfnod darparu’r Porthladd Rhydd, gan gynnwys cofrestr risgiau sy’n nodi unrhyw risgiau allweddol cychwynnol a amlygwyd. Dylai’r Fframwaith hwn sefydlu diwylliant sefydliadol sy’n cefnogi cymryd risgiau a ystyriwyd yn dda ac arloesedd er mwyn sicrhau bod y Porthladd Rhydd yn uchelgeisiol ac yn cyflawni’r amcanion yn llwyddiannus.

4.5.7 Dylai’r fframwaith rheoli risg amlinellu trefniadau priodol ar gyfer rheoli’r risgiau hyn, fel rolau a chyfrifoldebau unigol aelodau corff llywodraethu’r Porthladd Rhydd.

4.5.8 Dylai’r gofrestr nodi sut y gall y risgiau cychwynnol hyn yn cael eu hosgoi, eu lliniaru a’u rheoli’n weithredol. Dylid ei diweddaru a’i hadolygu’n barhaus drwy gydol cyfnod y prosiect.

Cyflwyniad Ysgrifenedig

4.5.9 Dylai ymgeiswyr o leiaf ddarparu ymrwymiad ysgrifenedig cadarn gan y porthladd, yr awdurdod neu awdurdodau lleol cysylltiedig ac arweinwyr gwleidyddol lleol i gefnogi eu partneriaid sector preifat wrth ddarparu’r Porthladd Rhydd yn effeithiol ac yn amserol.

4.5.10 Dylai ymgeiswyr sydd eisiau dangos lefelau uchel o allu rheoli ddarparu cyflwyniad ysgrifenedig ehangach sy’n rhoi cyd-destun ar gyfer eu cynllun gweithredu, gan amlinellu:

a. mwy o fanylion ynglŷn â’r cerrig milltir a ddewiswyd

b. mwy o dystiolaeth ynglŷn ag amseriadau

c. mwy o fanylion ynglŷn â chostau

ch. mwy o fanylion ynglŷn â sut bydd y rhaglen yn rheoli risgiau a materion darparu yn effeithiol, gan gynnwys costau cynyddol annisgwyl

d. mwy o dystiolaeth ynglŷn â threfniadau wrth gefn a chynlluniau os bydd unrhyw risgiau a amlygwyd yn cael eu gwireddu

4.6 Effaith ar gydraddoldebau

4.6.1 Wrth lunio cynnig polisi, mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi sylw dyladwy i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel y’i gosodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 149. Mae’r ddyletswydd yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn rhoi sylw dyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu, hybu cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sydd â nodweddion gwarchodedig gwahanol wrth gynnal eu gweithgareddau.

4.6.2 Dylai ceisiadau ddangos sut mae’r awdurdod neu awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig wedi cymhwyso Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru i’w cynnig a sut byddant yn parhau i gymhwyso’r Ddyletswydd drwy gydol y broses ar gyfer gweithredu Porthladd Rhydd.

4.7 Rheoli cymorthdaliadau

4.7.1 Bydd y cynnig Porthladd Rhydd a amlinellir yn y prosbectws hwn yn ddarostyngedig i gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau domestig y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’n rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau rhyngwladol fel y rhai hynny o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, a’n rhwymedigaethau o dan Gytundebau Masnach Rydd eraill a negodwyd.

4.7.2 Gallai darpar dderbynyddion cymhorthdal ddymuno darllen y Canllawiau Rheoli Cymorthdaliadau i ddeall y rhwymedigaethau a osodir ar awdurdodau cyhoeddus a sut mae’n effeithio arnynt.

4.8 Monitro a gwerthuso

4.8.1 Bydd monitro a gwerthuso trwyadl yn allweddol i lwyddiant Porthladd Rhydd.

4.8.2 Bydd angen i Borthladd Rhydd gasglu data am ryddhadau a’r canlyniadau a wireddwyd ohonynt, gan gynnwys monitro effeithiolrwydd rhyddhadau treth yn weithredol. Mae’r ddwy Lywodraeth yn canolbwyntio ar annog buddsoddiad busnes a chreu gweithgarwch economaidd newydd yn y Porthladd Rhydd, yn hytrach na dadleoli gweithgarwch economaidd lleol o ardaloedd difreintiedig.

4.8.3 Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu manylion ynglŷn â’u cynllun ar gyfer casglu a rhannu’r data hwn. Dylai hyn gynnwys unigolyn cyswllt, adnoddau a chyllid gyda darparwr annibynnol a fydd yn cynnal y gwaith monitro a gwerthuso.

Adran 5: Ymgeisio

5.1 Y broses ymgeisio ar gyfer Porthladd Rhydd

5.1.1 Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i weithredu’r Rhaglen porthladd Rhydd yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn cael ei dyrannu trwy broses ymgeisio agored, dryloyw a chystadleuol. Bydd y broses ddethol yn cael ei chynnal ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r bennod hon yn esbonio i ymgeiswyr sut yn union y bydd y broses honno’n gweithio.

5.1.2 Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ddarparu un Porthladd Rhydd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r ddwy lywodraeth yn agored o hyd i ystyried dynodi Porthladd Rhydd ychwanegol yng Nghymru os cyflwynir digon o gynigion eithriadol.

5.1.3 Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddatblygu cynnig ar gyfer Porthladd Rhydd sy’n darparu allbynnau sy’n cefnogi’r canlyniadau sy’n gysylltiedig ag amcanion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig (a amlinellir yn Adran 2), trwy ddefnyddio’r pwerau, y rhyddhadau treth a’r ffrydiau cyllido (a amlinellir yn Adran 3). Dylent ddangos eu gallu i gyflawni’r cynnig hwn yn effeithiol yn gyflym (gan fodloni’r gofynion a amlinellir yn Adran 4).

5.1.4 Dylai’r holl ymgeiswyr gofrestru eu diddordeb mewn gwneud cais am statws Porthladd Rhydd yma. Sylwer y dylid llenwi un ffurflen gofrestru yn unig ar gyfer pob cais Porthladd Rhydd. Bydd cyfarwyddiadau ychwanegol ynglŷn â sut i fynd at y porth cynnig a chyflwyno gwybodaeth ategol yn cael eu rhoi ar yr adeg cofrestru. Sylwer y gallai gymryd hyd at wythnos i ddarparu’r wybodaeth hon, o’r adeg y cofrestrir diddordeb i ddechrau. Dylai ymgeiswyr ateb yr holl gwestiynau a ofynnir yn y porth ar-lein a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir. Mae manylion ynglŷn â’r wybodaeth y bydd angen i ymgeiswyr ei darparu wedi cael eu rhoi drwy gydol y prosbectws hwn ac fe’u hamlinellir yn Adrannau 5.6 i 5.9 isod hefyd. Os ydych yn cael trafferthion technegol â’r porth, cysylltwch â Freeports@gov.wales

5.1.5 Amlinellir strwythur a llinell amser y broses ymgeisio isod:

Dyddiad Carreg Filltir
1 Medi 2022 Mae prosbectws ymgeisio a chyfnod cystadleuaeth Porthladd Rhydd yn agor.
Hydref 2022 Bydd unrhyw ddarpar ymgeiswyr yn gallu cysylltu â Freeports@gov.wales i ofyn am eglurhad o unrhyw ran o gynnwys y prosbectws ymgeisio tan 17:00 ar 13 Hydref 2022. Bydd crynodeb o’r atebion yn cael ei gyhoeddi ar-lein erbyn 17:00 fan bellaf ar 27 Hydref 2022. Bydd yr holl gwestiynau ac ymatebion yn gyhoeddus, ac ni chychwynnir ar ohebiaeth unigol, felly ni ddylai ymgeiswyr gynnwys unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif. Sylwer y byddwn yn rhoi atebion i gwestiynau ynglŷn â’r agweddau technegol ar gyflwyno a lanlwytho cynigion a chwestiynau eraill nad ydynt yn ymwneud â’r polisi sylfaenol ar ôl y dyddiad terfyn 21 Hydref.
Tachwedd 2022 Bydd ymgeiswyr yn darparu’r wybodaeth a ddisgrifir yn Adrannau 5.6 i 5.9 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig trwy’r ffurflen ar-lein erbyn 6yr ar 24
Gaeaf 2022 Yn gyntaf, bydd y wybodaeth hanfodol a gyflwynwyd gan ymgeiswyr yn cael ei hasesu gan swyddogion yn unol â meini prawf llwyddo/methu y Porth a amlinellir yn Atodiad A.

Os bydd ceisiadau’n llwyddo’r profion hyn, bydd eu cyflwyniad cyfan (gan gynnwys y wybodaeth ymgeisio fanwl) yn cael ei asesu yn erbyn 5 maen prawf (gweler 5.2.4).

Ar sail yr asesiad hwn, bydd swyddogion yn cyflwyno rhestr hir o ymgeiswyr y gellid eu penodi i weinidogion (gweler 5.3.2).
Gwanwyn cynnar 2023 Bydd gweinidogion yn gwneud y penderfyniad terfynol ar leoliad y Porthladd Rhydd llwyddiannus, gan ystyried asesiadau swyddogion a’r sail resymegol ychwanegol a nodir isod.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi.

Pan fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei enwi, bydd y ddwy lywodraeth yn cyhoeddi’r sail resymegol
Haf 2023 Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

- cael cyllid i’w helpu i sefydlu ei gorff llywodraethu Porthladd Rhydd, ac yn gweithio gyda’r ddwy lywodraeth i wneud hynny

- datblygu Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cyllid adfywio cyfalaf sbarduno yn unol â chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r ddwy lywodraeth ar gyfer cymeradwyaeth; bydd cymorth yn cael ei roi gan swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys adrannau eraill ag arbenigedd perthnasol, a chontractwyr

- gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Trysorlys EM, a CThEF i adolygu a chadarnhau ffiniau ei safleoedd treth arfaethedig, trwy broses asesu safle treth (sy’n gysylltiedig â gwybodaeth a ddarparwyd yn yr Achos Busnes Amlinellol), cyn i safleoedd treth gael eu cymeradwyo a’u dynodi. Mae dynodi safle treth yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol

- dechrau’r broses awdurdodi a gynhelir gan CThEF i weithredwyr gynnal safleoedd tollau, ac i fusnesau weithredu ynddynt (er mwyn cael awdurdodiad, efallai bydd angen i ymgeiswyr wneud buddsoddiadau i fodloni’r gofynion ar gyfer awdurdodiad Llywodraeth EM)

Gallai’r llywodraeth gyhoeddi canllawiau ychwanegol ar y cam hwn hefyd.
2023/24 Yn dibynnu ar Werth am Arian yr Achosion Busnes Amlinellol, bydd Achosion Busnes Llawn naill ai’n cael eu sicrhau’n lleol neu gan y ddwy lywodraeth. Bydd sicrwydd llwyddiannus yn arwain at roi grant i’r awdurdod lleol cefnogol. Yn amodol ar basio deddfwriaeth yn ymwneud â buddion treth a thollau (e.e. dynodi’r safleoedd treth a thollau arfaethedig), bydd buddion perthnasol ar gael ar yr adeg hon.

5.2 Asesu ymgeiswyr

5.2.1 Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani fel bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu asesu’r holl geisiadau’n deg ac yn effeithiol. Derbynnir cynigion yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym yn disgwyl ac yn annog cynghreiriau sy’n ymgeisio am statws Porthladd Rhydd i ddirprwyo cyfrifoldeb am ddatblygu gwahanol rannau o’r wybodaeth ymgeisio i wahanol bartïon – boed hynny’n borthladdoedd, awdurdodau lleol neu aelodau eraill o’r gynghrair ymgeisio am statws Porthladd Rhydd – lle y bo’n briodol, i helpu cynghreiriau i reoli’r llwyth gwaith a chyflwyno’r cais gorau posibl. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu un cais fesul Porthladd Rhydd arfaethedig, gyda gwybodaeth sy’n ymateb i bedair set o gwestiynau (oll trwy’r porth ar-lein):

a. gwybodaeth am yr ymgeisydd, a amlinellir yn 5.6

b. gwybodaeth ategol, a amlinellir yn 5.7

c. gwybodaeth hanfodol ar gyfer meini prawf y porth, a amlinellir yn Adran 5.8 – dyma’r wybodaeth fwyaf sylfaenol sy’n angenrheidiol i ddiffinio hyd a lled y Porthladd Rhydd yn ddigonol

ch. gwybodaeth ymgeisio fanwl, a amlinellir yn Adran 5.9 – mae hyn yn ymdrin â’r cynigion ar gyfer gweithredu a darparu’r Porthladd Rhydd

5.2.2 Bydd y wybodaeth hanfodol yn destun asesiad llwyddo/methu. Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn darparu’r wybodaeth hon neu’n bodloni’r gofynion hyn yn methu’r asesiad llwyddo/methu ac ni fyddant yn cael eu hasesu ymhellach. Rhoddir y disgrifyddion llwyddo/methu yn y Cynllun Marcio yn Atodiad A.

5.2.3 Pan fydd ymateb ymgeisydd yn rhoi’r holl wybodaeth sy’n ofynnol o dan 5.8 hyd at lefel foddhaol, byddwn yn asesu’r wybodaeth a ddarparwyd yn rhan o 5.9.

5.2.4 Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn pob un o’r pum maen prawf:

a. y gallu i gyflawni’r amcan “hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel”

b. y gallu i gyflawni’r amcan “sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang”

c. y gallu i gyflawni’r amcan “meithrin amgylchedd arloesol”

ch. y gallu i gyflawni’r cynnig yn effeithiol yn gyflym

d. i ba raddau y mae’r sector preifat yn ymwneud â’r cynnig

5.2.5 Bydd y cam hwn yn arwain at asesiad “isel”, “canolig” neu “uchel” yn unol â’r cynllun marcio yn Atodiad A. Yna, bydd hyn yn cael ei gydgrynhoi yn ôl cyfartaledd wedi’i bwysoli i greu sgôr yn erbyn pob un o’r pum maen prawf. Mae’r pwysoliad a roddir i bob cwestiwn wrth benderfynu ar yr asesiadau yn erbyn pob un o’r meini prawf wedi’i amlinellu yn Adran 5.9. Wrth farcio’r atebion i’r cwestiynau, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol a ddarparwyd yn 5.7 a 5.8, yn ogystal ag unrhyw ddata sydd ar gael yn gyhoeddus (e.e. Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) i brofi unrhyw honiadau yn yr atebion a roddwyd.

5.2.6 Bydd yr holl geisiadau sy’n llwyddo’r asesiad yn 5.8 yn cael eu rhannu â gweinidogion. Fodd bynnag, bydd gweinidogion yn dewis o blith rhestr o geisiadau y gellid eu penodi, a bydd ceisiadau’n cael eu cyflwyno i weinidogion fel rhai y gellid eu penodi dim ond os byddant yn bodloni’r ddau bwynt isod, o leiaf:

a. asesiad “canolig” o leiaf yn erbyn prif faen prawf y llywodraeth, sef “hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel”;

b. dim mwy nag un asesiad “isel” ar draws y pum maen prawf

5.3 Dewis cais

5.3.1 Bydd dewis Porthladd Rhydd yn broses benderfynu ar y cyd rhwng gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

5.3.2 Bydd gweinidogion yn cyfarfod i drafod dewis yr ymgeisydd llwyddiannus o blith y rhestr o geisiadau y gellid eu penodi yn seiliedig ar asesiad yn erbyn y pum maen prawf a amlinellir yn 5.2.4. Yn ogystal â’r meini prawf asesu yn 5.7, 5.8 a 5.9, bydd gweinidogion hefyd yn ystyried gwybodaeth sensitif i gyd-destun sy’n effeithio ar amcanion y polisi Porthladdoedd Rhydd wrth wneud eu penderfyniad. Gan fod y ffactorau hyn yn gyfyngedig, mae’r ystyriaethau ychwanegol perthnasol y gellid eu hystyried fel a ganlyn:

a. cyd-destun a allai newid:

i. gan gyfrif am dueddiadau economaidd macro neu ranbarthol sy’n newid er enghraifft COVID-19

ii. gan gyd-fynd â chyhoeddiadau yn y dyfodol fel Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol 4

iii. gan gyd-fynd â buddsoddiadau dilynol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig a wnaed ers mis Medi 2022

b. cyd-destun y gall gweinidogion gyfrif amdano ar ôl i’r holl gynigion gael eu derbyn yn unig:

i. gan gadw’r hawl i ddewis cynigion eithriadol sydd heb seilwaith tollau presennol neu sydd â chynlluniau rhy eang (e.e. safleoedd y tu hwnt i derfyn y Ffin Allanol)

ii. gan gadw’r hawl i sicrhau lledaeniad teg ledled Cymru.

5.3.3 Os yw unrhyw safle treth neu dollau yn unrhyw un o’r ceisiadau Porthladd Rhydd a dderbynnir wedi’i leoli o fewn etholaeth gweinidog, neu os yw aelod o gynghrair ymgeisio yn ymwneud â buddiannau personol neu fusnes gweinidog, bydd y gweinidog yn gweithredu yn unol â’r Cod Gweinidogol perthnasol. Bydd y broses benderfynu weinidogol ond yn ystyried asesiadau swyddogion a’r sail resymegol ychwanegol a nodir ym mharagraff 5.3.2.

5.3.4 Ar ôl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael ei enwi, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi’r sail resymegol wrth wraidd eu dewis yn unol â’r broses a amlinellir yn y bennod hon.

5.4 Camau ôl-asesu ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

5.4.1 Bydd Achos Busnes Amlinellol yn rhoi gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â sut bydd y cynnig yn cael ei ddarparu. Yn arbennig, bydd yn:

a. rhoi dyraniad amlinellol o gyfalaf sbarduno Porthladd Rhydd

b. rhoi dyraniad amlinellol o gymorth technegol a chapasiti ychwanegol

c. diffinio’r parthau lle y bydd rhyddhadau treth yn berthnasol, yn ogystal â gwybodaeth fanwl ynglŷn â pham mae’r safleoedd arfaethedig yn cydymffurfio â’r meini prawf treth a amlinellir yn y ddogfen hon

d. gosod terfyn amser erbyn pryd y dylai’r Achos Busnes Llawn gael ei ddatblygu

5.5 Canllawiau ar Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Llawn ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr

5.5.1 Bydd canllawiau ar ddatblygu Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Llawn ar gyfer Porthladd Rhydd yn cael eu cyhoeddi maes o law. Gellir weld y canllawiau Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Llawn ar gyfer Lloegr yma. Rydym yn annog cynigwyr i adolygu’r rhain cyn i’r canllawiau ar gyfer Cymru gael eu cyhoeddi, gan eu bod yn rhoi rhyw syniad o’r gofynion darparu ar gyfer Porthladdoedd Rhydd. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr nodi y bydd rhai gwahaniaethau gan fod cyd-destun polisi a daearyddiaeth Cymru yn wahanol i Loegr.

5.6 Gwybodaeth am yr ymgeisydd

# Cwestiwn Math o Gwestiwn Terfyn geiriau neu ffeiliau Paragraff
1.1 Cyflwynwch enw arfaethedig ar gyfer eich Porthladd Rhydd. Dylai’r enw ei wahaniaethu’n glir oddi wrth unrhyw gynigion posibl eraill ar gyfer Porthladd Rhydd. Blwch testun byr - -
1.2 Rhowch enw a manylion cyswllt yr Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen. Blwch testun byr; e-bost; cyfeiriad; rhif ffôn - -

5.7 Gwybodaeth atodol

# Question Question Type Word or file limit Paragraph
1.3 Dylai cynigwyr amlinellu sut mae eu cynnig yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru.

Gwahoddir cynigwyr hefyd i amlinellu sut bydd eu cynnig yn hyrwyddo cysylltiadau cymunedol da, yn helpu i leihau gwahaniaethau rhwng gwahanol grwpiau, neu’n cryfhau integreiddio ar draws y gymuned leol. Fodd bynnag, mae’r wybodaeth hon yn wirfoddol.
Testun rhydd 750 4.1
1.4 Rhowch unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyo’r ddwy lywodraeth i amcangyfrif gofyniad eich cynnig ar gyfer rhyddhad treth. Testun rhydd 500 3.3

5.8 Meini prawf porth

# Cwestiwn Math o Gwestiwn Terfyn geiriau neu ffeiliau Paragraff
1.5 Lanlwythwch y ffeiliau pdf canlynol sy’n ddarllenadwy ar faint A3:

- un map sy’n dangos Ffin Allanol eich Porthladd Rhydd, na ddylai unrhyw bwyntiau arno fod yn fwy na 45km ar wahân. Dynodwch ar y map hwn lleoliadau’r safle(oedd) treth, safleoedd tollau, ac unrhyw safleoedd eraill sy’n rhan o’r cais (e.e. prosiectau seilwaith). Os oes lleoliadau nad ydynt wedi eu cynnwys o fewn y ffin 45km, dynodwch lle mae’r ffin 45km yn gorffen a dynodwch y lleoliadau ychwanegol yn glir y tu allan i’r ffin. Bydd angen cyswllt economaidd clir rhwng y lleoliadau hyn a’r prif Borthladd Rhydd.

- un map fesul safle treth sy’n diffinio ei ffiniau (mae’n rhaid i safleoedd fod yn sengl ac unigol)
Lanlwytho .pdf sy’n ddarllenadwy ar faint A3 50MB 3.2
1.6 Gofynnir i chi hefyd lanlwytho fersiwn ESRI Shapefile neu Vector Geopackage o bob map i’r safle SharePoint Lanlwytho cyflwyno ESRI Shapefile neu Vector Geopackage 25MB 3.2
1.7 Rhowch dystiolaeth (e.e. llythyrau) bod tirfeddianwyr wedi cytuno â’ch gweledigaeth ar gyfer y safle treth arfaethedig a defnydd tir cysylltiedig, ac y byddant yn cymryd camau priodol i sicrhau bod datblygiad ar y safle yn cyd-fynd ag amcanion y Porthladd Rhydd ac amcanion y polisi Porthladdoedd Rhydd ehangach. Esboniwch sut a pham y gall y llywodraeth fod yn hyderus y bydd y safle treth yn cael ei ddarparu yn unol â’ch gweledigaeth. Blwch testun a lanlwytho ffeil 250 3.1.19dd
1.8 Ar gyfer pob safle tollau, lanlwythwch lythyr wedi’i lofnodi gan weithredwr y safle sy’n cadarnhau:

- ei fod yn fodlon cael ei gynnwys yn y cais

- ei fod yn ymwybodol, os bydd y cais yn llwyddiannus, fel gweithredwr safle, y bydd yn ofynnol iddo gael yr awdurdodiadau perthnasol gan Lywodraeth EM cyn y gellir dynodi’r safle fel safle tollau

- ei fod yn fodlon ymgymryd â’r broses awdurdodi

- p’un a yw’n caniatáu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEF) rannu data awdurdodiad gydag aseswyr

Os oes gan y gweithredwr awdurdodiadau tollau Llywodraeth EM eisoes, dylai ddatgan hyn yn y llythyr. Mae’n rhaid i’r llythyrau hyn gynnwys caniatâd y darpar CSO i wirio ei awdurdodiad.
Lanlwytho ffeil - 3.3.7
1.9 Lanlwythwch gadarnhad ysgrifenedig o gefnogaeth i’ch cais gan eich awdurdod(au) lleol. Yr unig lofnodwyr gorfodol sy’n ofynnol gan arweinydd awdurdodau lleol i lwyddo’r asesiad llwyddo/methu yw:

- yr awdurdod neu awdurdodau lleol a fydd yn atebol i Lywodraeth Cymru am y cyllid cyfalaf sbarduno a ddyrennir i’r Porthladd Rhydd

- unrhyw awdurdodau lleol y mae safle treth arfaethedig wedi’i leoli ynddynt

- unrhyw awdurdod lleol y mae’r cynnig Porthladd Rhydd yn dibynnu ar ei broses gynllunio (e.e. datblygu safle tollau)
Lanlwytho ffeil - 4.5.9
1.10 Esboniwch sut mae Ffin Allanol eich Porthladd Rhydd yn cynrychioli daearyddiaeth economaidd gredadwy, gydlynol? Rhowch sail resymegol glir. Testun rhydd 500 3.1.4
1.11 Rhowch y sail resymegol ar gyfe yr holl safleoedd tollau arfaethedig, gan gynnwys:
- Beth ydych chi’n disgwyl i bob safle tollau gael ei ddefnyddio ar ei gyfer?

- Pa allbynnau/buddion ydych chi’n disgwyl i bob safle eu cynhyrchu?

- Sut maen nhw’n berthnasol i’w gilydd a’r Porthladd Rhydd ehangach?
Testun rhydd 500 3.1.8
1.12 Ydy’ch Porthladd Rhydd yn cynnig unrhyw safleoedd tollau y tu allan i’r Ffin Allanol? Os felly, darparwch gyflwyniad ysgrifenedig sy’n rhoi rhesymau clir a phenodol i gyfiawnhau cynigion ychwanegol o’r fath a sut maen nhw’n berthnasol i’r Porthladd Rhydd ehangach. Ydy/Nac ydy a thestun rhydd 300 3.1.9
1.13 Rhowch sail resymegol economaidd glir i’r safle(oedd) treth, gan gynnwys:

- esboniad ar gyfer y lleoliad(au) arfaethedig a pham mae’n cynrychioli gwerth da am arian

- y dull rheoli ar gyfer pob safle treth

- sut y bydd mesurau treth yn cynhyrchu gweithgarwch economaidd ychwanegol a sut mae hyn yn cyd-fynd â’r weledigaeth leol ar gyfer y sector

- sut mae eich safleoedd arfaethedig yn bodloni’r meini prawf ar gyfer bod heb eu datblygu digon a pha waith sy’n ofynnol ar y safle
Testun rhydd Mae cyfyngiad o 200 gair fesul pwynt bwled a restrir. 3.1.23 a 3.1.25
1.14 Sut mae lleoliad y safle treth yn lliniaru dadleoli gweithgarwch economaidd lleol o ardaloedd eraill? Testun rhydd 500 3.1.27
1.15 Amlinellwch sut byddwch yn bodloni’r safon leiaf sy’n ofynnol o ran diogelwch a seilwaith mewn safleoedd tollau a threth cyn gallu gweithredu fel Porthladd Rhydd o ran gweithgarwch troseddol cyfundrefnol, gwyngalchu arian, smyglo a masnachu pobl. Mae’n rhaid i gynigwyr amlinellu eu hymagwedd arfaethedig at:

- systemau stocrestr,

- diogelwch ffisegol,

- personél

- seiberfygythiadau,

- rheoliadau rhyngwladol (e.e. y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl),

- cadwyni cyflenwi a safleoedd tollau.
Testun rhydd 750 4.3

5.9 Gwybodaeth ymgeisio fanwl y gofynnir amdani gan ymgeiswyr

2. Meini Prawf A, B ac C: y gallu i gyflawni yn unol â blaenoriaethau ac amcanion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig

# Cwestiwn Math o Gwestiwn Terfyn geiriau neu ffeiliau Cyfeirnod dogfen / paragraff Pwysoliad
2.1 Darparwch ddiagram o fodel rhesymeg sy’n rhoi trosolwg o’r cysylltiadau rhwng gweithgareddau a mewnbynnau, allbynnau, canlyniadau ac effaith eich model Porthladd Rhydd arfaethedig.

Arweiniad ar greu model rhesymeg: Innovate UK, DFID 2011, DfT 2010, ODPM 2004 
Lanlwytho ffeil 50 MB 2.5 Gweler 2.4
2.2 Gan gyfeirio at y model rhesymeg ac adran 2 y prosbectws, esboniwch sut y bydd eich cynnig Porthladd Rhydd yn bodloni amcanion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir sydd wedi’u rhestru yn y prosbectws hwn.

Yn rhan o’ch ateb, ymdriniwch â’r canlynol:

- crynodeb gweithredol o’ch Porthladd Rhydd arfaethedig

- sut y bydd yr allbynnau rydych yn disgwyl i’ch cynnig Porthladd Rhydd eu cefnogi neu eu galluogi, yn cyflawni’r canlyniadau allweddol sy’n gysylltiedig â’r amcanion a’r egwyddorion a amlinellir yn y prosbectws hwn.

dylai hyn gynnwys cyfeiriad at y gweithgareddau y byddwch chi, awdurdodau lleol a busnesau yn ymgymryd â nhw i gyflawni amcanion y rhaglen:

- hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel – dylai hyn gynnwys sut y bydd y Porthladd Rhydd yn galluogi creu swyddi newydd sy’n talu’n well; sut byddwch yn mynd ati i ddenu cwmnïau i leoli yn yr ardal; a sut y bydd arferion gwaith teg yn cael eu hymsefydlu ar draws yr ardal. Bydd y rhain yn cael eu hystyried pan fyddant yn cefnogi’r amcan cyffredinol

- sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang – dylai hyn gynnwys dangos sut y bydd eich Porthladd Rhydd yn dod â buddsoddiad newydd i’r ardaloedd amgylchynol a sut y bydd yn cynyddu masnach trwy’r porthladd(oedd) sy’n gysylltiedig ac amlinelliad o sut rydych yn disgwyl y bydd eich Porthladd Rhydd yn rhyngwladoli ein heconomi ymhellach, cynhyrchu twf masnach cynaliadwy a galluogi prosesau masnach i ddod yn haws ac yn fwy effeithlon

- meithrin amgylchedd arloesol – dylai hyn gynnwys ystyried sut gall statws Porthladd Rhydd ddod ag ychwanegedd i’r rhai hynny sydd eisoes yn cydweithio yn y rhanbarth

- pam Porthladd Rhydd yw’r ymyrraeth gyhoeddus iawn ar gyfer eich lleoliad arfaethedig, gan gynnwys unrhyw gryfderau neu strategaethau economaidd lleol y bydd eich cynnig yn ychwanegu atynt ac unrhyw anghenion economaidd canfyddedig

- sut mae eich cynnig yn cyd-fynd â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a grybwyllwyd yn y prosbectws, gan gynnwys y Papur Gwyn Ffyniant Bro; Cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru; y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015); y Strategaeth Ryngwladol i Gymru

- Sylwch – bydd eich atebion i 1.10, 1.11, 1.12, 1.13, 1.14, 1.15, 1.16 uchod i gyd yn cael eu hystyried wrth asesu’r ateb hwn yn ogystal â’r ateb hwn. Nid oes angen i chi ailadrodd gwybodaeth o’r cwestiynau hynny yn yr ateb hwn.
Lanlwytho ffeil 5000 (gan gynnwys crynodeb gweithredol 250 o eiriau) Adran 2 100% o Faen Prawf A: Y gallu i gyflawni’r amcan “Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi”

100% o Faen Prawf B: Y gallu i gyflawni’r amcan “Sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang”

100% o Faen Prawf C: Y gallu i gyflawni’r amcan “Meithrin amgylchedd arloesol”

3. Maen Prawf Ch: Y gallu i gyflawni’r cynnig yn effeithiol yn gyflym

# Cwestiwn Math o Gwestiwn Terfyn geiriau neu ffeiliau Cyfeirnod dogfen / paragraff Pwysoliad
3.1 Disgrifiwch geisiadau cynllunio presennol neu arfaethedig yr awdurdod lleol ar gyfer pob safle treth, tollau a buddsoddi allweddol. Ar gyfer pob safle, darparwch y canlynol:

- relevant Local Development Plans and their Status

- Cynlluniau Datblygu Lleol perthnasol a’u statws

- ceisiadau cynllunio presennol a statws y rhain

- anghenion a gweithgareddau cynllunio ychwanegol, a graddfeydd amser amcangyfrifedig

Darparwch dystiolaeth hefyd o drafodaethau cynnar ag awdurdodau cynllunio a chyfatebiaeth â pholisïau perthnasol Cymru’r Dyfodol.
Tabl Templed Cwestiwn 3.1 yr Asesiad Porthladdoedd Rhydd a lanlwytho ffeil 50MB 3.8 10% o Faen Prawf Ch
3.2 Lanlwythwch Gynllun Gweithredu. Gallai hyn fod ar ffurf diagram darluniadol, siart Gantt, llinell amser, siart lif neu gynrychioliad graffigol arall. Lanlwytho ffeil, 1 ochr yn ddarllenadwy ar faint A3 50MB 4.5.3-4.5.5 10% o Faen Prawf Ch
3.3 Darparwch gyflwyniad ysgrifenedig sy’n rhoi’r cyd-destun ar gyfer eich cynllun gweithredu, gan amlinellu:

- mwy o fanylion am y cerrig milltir a ddewiswyd

- mwy o dystiolaeth ynglŷn ag amseriadau

- mwy o fanylion am gostau

- mwy o fanylion am sut y bydd y rhaglen yn rheoli risgiau a materion darparu yn effeithiol, gan gynnwys costau cynyddol annisgwyl

- mwy o dystiolaeth am drefniadau a chynlluniau wrth gefn os bydd unrhyw risgiau a amlygwyd yn cael eu gwireddu

- manylion trefniadau llywodraethu’r Porthladd Rhydd.
Testun rhydd 1000 4.5.10 10% o Faen Prawf Ch
3.4 Disgrifiwch, gan gyfeirio at eich cynllun gweithredu, pryd y byddwch yn ymgymryd â’r gweithgareddau a amlinellwyd yn eich ymateb i gwestiwn 2.2 sy’n canolbwyntio ar adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel. Testun rhydd 400 4.5 6% o Faen Prawf Ch
3.5 Disgrifiwch, gan gyfeirio at eich cynllun gweithredu, pryd y byddwch yn ymgymryd â’r gweithgareddau a amlinellwyd yn eich ymateb i gwestiwn 2.2 sy’n canolbwyntio ar sefydlu canolfannau masnach. Testun rhydd 400 4.5 6% o Faen Prawf Ch
3.6 Disgrifiwch, gan gyfeirio at eich cynllun gweithredu, pryd y byddwch yn ymgymryd â’r gweithgareddau a amlinellwyd yn eich ymateb i gwestiwn 2.2 sy’n canolbwyntio ar feithrin arloesedd. Testun rhydd 400 4.5 6% o Faen Prawf Ch
3.7 Darparwch fframwaith rheoli risg sy’n dangos sut y bydd eich bwrdd llywodraethu’n rheoli risgiau. Lanlwytho ffeil - 4.5.6-4.5.10 5% o Faen Prawf Ch
3.8 Amlinellwch y cynnig buddsoddi a ffefrir gennych, gan gynnwys:

- costau

- y ffynonellau cyllid a fydd yn talu am y costau hynny

- o ran unrhyw fenthyca, nodwch bwy fydd yn ymgymryd â’r benthyca

- cyfalaf sbarduno y gofynnwyd amdano

- any private investment including match and leveraged funding

- unrhyw fuddsoddiad preifat, gan gynnwys cyllid cyfatebol a chyllid wedi’i ysgogi

- buddsoddiad cyhoeddus arall wedi’i gyfateb yn strategol a wnaed gan yr awdurdod lleol, y llywodraeth ddatganoledig neu’r llywodraeth genedlaethol

- buddsoddiadau cyflenwol sydd wedi cael eu sicrhau yn ystod y 5 mlynedd diwethaf neu sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan gyllidwyr allanol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu eich cynnig. Os nad oes cyllid wedi’i sicrhau eto, nodwch hynny

- Bydd y cwestiwn hwn yn asesu’r gallu i gyflawni’ch cynnig buddsoddi yn gyflym. Bydd cwestiwn 4.3 yn asesu gallu eich cynnig i ddenu buddsoddiad preifat gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir yn y cwestiwn hwn.
Tabl Templed Cwestiwn 3.8 a 4.3 yr Asesiad Porthladdoedd Rhydd - 3.4 15% o Faen Prawf Ch
3.9 Darparwch dystiolaeth o’r galw masnachol am:

- dir y safle treth

- y safle(oedd) tollau

- y seilwaith neu allbynnau eraill o’r cyfalaf sbarduno y gofynnwyd amdano
Testun rhydd 500 - 10% o Faen Prawf Ch
3.10 Pa ystyriaethau a chamau gweithredu lliniarol a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer allanoldebau negyddol posibl (gan gynnwys dadleoli gweithgarwch economaidd lleol o ardaloedd cyfagos) sy’n effeithio ar eich safle a/neu’r ardal amgylchynol o ganlyniad i gyflwyno’r Porthladd Rhydd?  Testun rhydd 500 - 10% o Faen Prawf Ch
3.11 Esboniwch sut y bydd eich cynigion yn:

- cyflawni datgarboneiddio a diogelu’r amgylchedd;

- sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol; ac

- os yw’n berthnasol, amodi safonau amgylcheddol ychwanegol a sut y bydd y rhain yn cael eu bodloni
Testun rhydd 1000 4.2 12% o Faen Prawf Ch

4. Maen Prawf D: lefel uchel o ymwneud gan y sector preifat yn y cynnig

# Cwestiwn Math o Gwestiwn Terfyn geiriau neu ffeiliau Paragraff Pwysoliad
4.1 Disgrifiwch y prif fathau (gan gynnwys maint a sector) o fusnes:

- sy’n rhan o’ch cais

- y byddwch yn ceisio eu denu

Defnyddiwch y rhestr Sectorau (codau Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)) yn eich ateb

Wrth gyfeirnodi’r wybodaeth hon, amlinellwch sut mae’r weledigaeth ar gyfer ymwneud gan y sector preifat yn y Porthladd Rhydd hwn (h.y., y mathau o fusnesau sy’n cael eu targedu) yn ymarferol ac yn cyd-fynd yn dda ag amcanion y polisi
Testun rhydd  500, uchafswm o 10 Cod SIC 1.3.2,1 a 3.3 ac Adran 2 30% o Faen Prawf D
4.2 Amlinellwch unrhyw ymrwymiadau ffurfiol (gan gynnwys ymrwymiadau cyllido) gan y partneriaid craidd, yn enwedig tirfeddianwyr a buddsoddwyr allweddol, i gyflawni uchelgeisiau’r Porthladd Rhydd ac amcanion ehangach y polisi. Lanlwythwch unrhyw dystiolaeth ategol o’r ymrwymiadau hyn. Bydd cynigion sy’n dangos ymrwymiadau pendant, tymor hir gan bartneriaid i fynd y tu hwnt i’r hyn maen nhw eisoes yn ei wneud neu y byddent yn ei wneud sut bynnag yn cael sgôr uwch Testun rhydd a lanlwytho ffeil 500 Adran 2 a 3.8 30% o Faen Prawf D
4.3 Bydd y cwestiwn hwn yn asesu gallu eich cynnig i ddenu buddsoddiad preifat gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd yng nghwestiwn 3.8 Tabl Templed Cwestiwn 3.8 a 4.3 yr Asesiad Porthladdoedd Rhydd - 3.4 40% o Faen Prawf D

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd 4.3 yn cael ei asesu gan ddefnyddio’r wybodaeth gefnogol a ddarperir yng nghwestiwn 3.8.

Atodiad A – Cynllun Marcio

Bydd y wybodaeth hanfodol sy’n ofynnol gan ymgeiswyr (Adran 5.7) yn cael marc llwyddo neu fethu yn unol â’r sgema canlynol:

Marc Testun
Llwyddo Mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ac mae’r ymateb yn amlwg yn bodloni’r manylebau a amlinellir yn y prosbectws, gan gynnwys darparu tystiolaeth o sail resymegol gref lle mae’r cynnig yn mynd y tu hwnt i’r terfynau diofyn (e.e. ar gyfer unrhyw safleoedd tollau y tu allan i’r Ffin Allanol).
Methu Nid yw’r ymgeisydd wedi cyflwyno’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani, nid yw’r ymateb yn bodloni’r manylebau a amlinellir yn y prosbectws, neu nid oes dgon o dystiolaeth o sail resymegol gref lle mae’r cynnig yn mynd y tu hwnt i’r terfynau diofyn (e.e. ar gyfer unrhyw safleoedd tollau y tu allan i’r Ffin Allanol).

Bydd y wybodaeth ymgeisio fanwl y gofynnwyd i ymgeiswyr ei darparu (Adran 5.8) yn cael ei marcio yn unol â’r sgema canlynol:

Marc Testun
Isel Ymateb gwael gyda phryderon sylweddol na fydd y cynnig yn cyflawni safon sy’n ofynnol i fodloni’r maen prawf.
Canolig Ymateb da sy’n bodloni’r gofynion gyda thystiolaeth ategol gadarn. Mae’n dangos dealltwriaeth dda o’r ysgogiadau, yr allbynnau a’r amcanion.
Uchel Ymateb eithriadol sy’n bodloni’r gofynion. Mae’n dangos dealltwriaeth ragorol o’r ysgogiadau, yr allbynnau a’r amcanion gyda thystiolaeth ategol fanwl a dim gwendidau, gan arwain at lefel uchel o hyder y bydd y cynnig yn cyflawni safon sy’n ofynnol i fodloni’r maen prawf.

Atodiad B – Hysbysiad Preifatrwydd

Data personol

Diben y canlynol yw esbonio eich hawliau a rhoi’r wybodaeth y mae gennych yr hawl iddi o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r Deyrnas Unedig.

Sylwch fod yr adran hon yn cyfeirio at eich data personol yn unig (eich enw, eich cyfeiriad ac unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio i’ch adnabod yn bersonol), nid cynnwys eich cais Porthladd Rhydd.

1. Y rheolydd data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) yw’r rheolydd data.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar dataprotection@levellingup.gov.uk

2. Pam rydym yn casglu eich data personol

Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o’r broses ymgeisio Porthladd Rhydd, fel y gallwn gysylltu â chi ynglŷn â’ch cais ac at ddibenion monitro. Efallai byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi ynglŷn â materion cysylltiedig hefyd.

3. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae deddfwriaeth diogelu data yn amlinellu pryd y caniateir i ni brosesu eich data personol yn gyfreithlon.

Y sail gyfreithlon sy’n berthnasol i’r math hwn o brosesu yw erthygl 6(1)(e) Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig; bod prosesu’n angenrheidiol i gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd; bod y data sy’n cael ei brosesu yn perthyn i gysylltiadau busnes a brosesir yn ystod busnes arferol adran o’r llywodraeth.

4. Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol

Yn rhan o’r broses o ddewis a monitro Porthladd Rhydd, gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig rannu eich data personol ag adrannau perthnasol y llywodraeth neu gyrff hyd braich, gan gynnwys:

Trysorlys Ei Mawrhydi
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
Y Swyddfa Gartref/Llu’r Ffiniau
Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Yr Adran Masnach Ryngwladol
Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
Llywodraeth Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Gallai DLUHC a Llywodraeth Cymru hefyd benodi trydydd parti at ddibenion gwerthuso, i werthuso’r rhaglen. Bydd ei gontract yn amlinellu’r hyn y caniateir iddo ei wneud â data personol.

Bydd DLUHC yn defnyddio meddalwedd CitizenSpace a ddarperir gan Delib i helpu i gasglu gwybodaeth am gynlluniau buddsoddi. Fel proseswr data, bydd y sefydliad hwn yn prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â chyfarwyddyd yr Adran yn unig.

Mae cytundebau prosesu data ar waith rhwng yr Adran a’i phroseswyr data i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu gan gydymffurfio’n llwyr â gofynion deddfwriaeth diogelu data.

5. Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol, neu’r meini prawf a ddefnyddir i bennu’r cyfnod cadw

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei ddal am hyd at ddeng mlynedd o ddiwedd y broses ymgeisio er mwyn iddo gael ei gofnodi am gyfnod digonol o amser a bod ar gael i’w adolygu’n ddiweddarach os bydd angen. Yn rhan o’r broses fonitro, byddwn yn cysylltu â chi’n rheolaidd i sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol a byddwn yn dileu eich data personol ar gais neu os na fyddwch yn ymwneud â’r Porthladd Rhydd mwyach.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn dileu eich data personol.

6. Eich hawliau, e.e. mynediad, cywiro, dileu

Eich data personol chi yw’r data rydym yn ei gasglu, ac mae gennych lais sylweddol o ran beth sy’n digwydd iddo. Mae gennych yr hawl i:

  • wybod ein bod yn defnyddio eich data personol
  • gweld pa ddata sydd gennym amdanoch 
  • gofyn am gywiro’ch data, a gofyn sut rydym yn gwirio bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir 
  • gwrthwynebu defnyddio eich data mewn rhai amgylchiadau a gofyn am ddileu eich data personol pan na fydd angen ei brosesu mwyach
  • cwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (gweler isod)

7. Anfon data dramor

Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor.

8. Gwneud penderfyniadau awtomataidd

Ni fydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd.

9. Storio, diogelwch a rheoli data

Rydym yn defnyddio system trydydd parti, sef Citizen Space, i gasglu gwybodaeth ar gyfer cynlluniau Porthladd Rhydd. Yn y lle cyntaf, bydd eich data personol yn cael ei storio ar eu gweinydd diogel nhw sydd wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig. Bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo i system TG ddiogel y llywodraeth cyn gynted â phosibl, a bydd yn cael ei storio yno am hyd at 10 mlynedd cyn iddo gael ei ddileu, oni bai y byddwn yn penderfynu nad oes angen parhau i’w gadw cyn hynny.

10. Cwyno

Os ydych yn anfodlon â’r ffordd y mae’r adran yn defnyddio eich data personol, gallwch gwyno.

Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) annibynnol os ydych yn credu nad ydym yn trin eich data’n deg neu yn unol â’r gyfraith. Gallwch hefyd gysylltu â’r ICO i gael cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data. Rhoddir manylion cyswllt yr ICO isod.

The Information Commissioner's Office  
Wycliffe House  
Water Lane  
Wilmslow, Cheshire,  
SK9 5AF  

Rhif ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745   https://ico.org.uk/

Cysylltiadau Llywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ Rhif ffôn: 0300 0604400 E-bost: cymorth@llyw.cymru

Cysylltiadau’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Gellir lawrlwytho’r ddogfen hon o www.gov.uk Os oes arnoch angen y wybodaeth hon mewn fformat arall neu os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynglŷn â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’i gwaith, cysylltwch â’r canlynol:

2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: 030 3444 0000 E-bost: correspondence@levellingup.gov.uk

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio gwaith teg fel a ganlyn: pan fydd gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli’n deg ac yn gallu camu ymlaen mewn amgylchedd diogel, iach a chynhwysol lle mae eu hawliau’n cael eu parchu.