Papur polisi

Proses Holi ac Ateb y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru

Diweddarwyd 28 October 2022

Applies to Wales

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn amlinellu sut y gall porthladdoedd ymgeisio am statws Porthladd Rhydd yng Nghymru, yn ogystal â manylion pellach ar gyfer y polisi. Drwy gyhoeddi’r prosbectws, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi lansio’r proses ymgeisio er mwyn dynodi safle Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Yn y prosbectws, gwahoddwyd rhanddeilliaid i gyflwyno unrhyw gwestiynau am y rhaglen POrthladd Rhydd a’r prosoes ymgeisio drwy e-bost. Pwrpas y ddogfen hon yw i darparu atebion I’r cwesitynau allweddol a gyflwynwyd I ni. Hyd at 13 Hydref 2022, gall unrhyw ymgeiswyr arfaethedig gysylltu gyda Freeports@llyw.Cymru I ofyn am eglurhad ar unrhyw agwedd o’r cynnwys yn y prosbectws ymgeisio. Bydd crynodeb o’r atebion yn cael eu cyhoeddi ar-lein cyn 27 Hydref 2022.

Bydd y lleoliad llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yng Ngwanwyn 2023 yn dilyn proses ddethol teg, agored a thryolyw.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau at 24 Tachwedd 2022. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr drwy’r ffurflen gais ar lein erbyn 6yh ddydd Iau 24 Tachwedd 2022.

Q: Yn y prosbectws ar gyfer y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr a’r Alban mae yna amod am ‘barthau cynllunio syml’ a Gorchmynion Datblygu Lleol. A allech gadarnhau os yw Gorchymyn Datblygu Lleol (LDO) yn amod angenrheidiol yn y prosbectws Porthladd Rhydd yng Nghymru?

A: Fel sydd wedi ei nodi yn adran 3.8.2 o’r prosbectws, ‘Yn ogystal â’r cyd-destun cynllunio cenedlaethol, dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio offer lleol seiliedig ar leoedd, fel Parthau Cynllunio Syml (SPZ) neu Orchmynion Datblygu Lleol. Gall Parthau Cynllunio Syml a Gorchmynion Datblygu Lleol roi mwy o sicrwydd i fusnes trwy ddileu’r angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau y mae’r gorchymyn yn ymdrin â nhw.’

Er nad oes amod angenrheidiol i gynnwys Gorchymyn Datblygu Lleol neu Barth Cynllunio Syml fel rhan o’r cais, rydym yn annog awdurdodau cynllunio i greu amgylchedd cynllunio hyrwyddol. Cyfrifoldeb y cynghrair ymgeisio yw dadansoddi ac ystyried cyngor cyfreithiol i gadarnhau os bydd cynnwys Gorchymyn Datblygu Lleol fel rhan o’r cais yn gwrthdaro gyda dynodiad safle SPA/SAC.

Eglurhadau 1 – 4 a ddarparwyd fel rhan o’r digwyddiad rhanddeiliaid

1. Faint o hyblygrwydd sydd i Borthladd Rhydd ymestyn y tu hwnt i’r ffin 45 cilometr?

Mae’r model Porthladd Rhydd yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd, a dylai ymgeiswyr ystyried beth yw’r ffordd orau o’i gymhwyso i’w safleoedd a’u daearyddiaethau penodol.

Ni ddylai ffiniau allanol y Porthladd Rhydd fod yn fwy na chylch 45 cilometr, heb unrhyw safleoedd Porthladd Rhydd yn fwy na 45 cilometr ar wahân.

Rhagwelwn y bydd yr holl safleoedd tollau a’r safleoedd trethi sy’n gysylltiedig â’r Porthladd Rhydd wedi’u cynnwys o fewn y Ffin Allanol.

Fodd bynnag, bydd y ddwy lywodraeth yn ystyried cynigion sy’n cynnig safleoedd tollau a safleoedd trethi y tu allan i’r Ffin Allanol, lle gellir cefnogi hyn gan sail resymegol economaidd glir. Dylai hyn gynnwys cyfiawnhad clir o’u perthnasedd i’r ardal o fewn y Ffin Allanol, ynghyd a pherthynas sylweddol rhwng y gweithgarwch yn y safle trethi neu dollau o fewn y Ffin Allanol, a’r ardal o fewn y ffin allanol.

Bydd ceisiadau y bernir eu bod wedi’u dylunio dim ond i wneud y defnydd gorau o’r ardal o fewn y Ffin Allanol heb sail resymegol economaidd glir yn methu’r broses ymgeisio ar y cam llwyddo/methu.

Roedd yr hyblygrwydd hwn yn gymwys i’r broses ymgeisio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr hefyd. Mae Porthladd Rhydd Humber yn enghraifft o hyn, ac mae ganddo un safle y tu allan i’r ffin 45 cilometr. Yn achos Porthladd Rhydd Humber, darparwyd sail resymegol economaidd glir i gefnogi’r hyblygrwydd hwn yn y ffin 45 cilometr.

2. A allwch chi amlinellu rôl awdurdodau lleol yn y broses ymgeisio?

Disgwyliwn i’r awdurdodau lleol perthnasol:

  • fod yn rhan o gynghrair y cais am statws Porthladd Rhydd. Dylai cynghreiriau gynnwys porthladdoedd, busnesau lleol, busnesau rhyngwladol, sefydliadau academaidd ac awdurdodau lleol; a
  • bod wedi trafod y cydweddiad â chynlluniau a pholisïau datblygu perthnasol (a’r defnydd posibl o ddulliau cynllunio seiliedig ar leoedd y cyfeiriwyd atynt uchod) wrth lunio’r cais

Bydd cydweithrediad o’r fath yn helpu i sicrhau bod cynigion datblygu’n gallu symud ymlaen yn ddidrafferth trwy’r system gynllunio. Dylai ceisiadau ddangos cefnogaeth awdurdod lleol i ddatblygu eiddo masnachol o fewn safleoedd trethi a thollau, i gefnogi eu twf. Bydd datblygiad arfaethedig yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gynllunio leol pan fydd angen.Lle ceir mwy nag un awdurdod lleol ar y corff llywodraethu, bydd angen nodi awdurdod lleol arweiniol.

Pan gaiff ei ryddhau, bydd y cyllid sbarduno’n cael ei roi i’r awdurdod lleol arweiniol o fewn corff llywodraethu’r Porthladd Rhydd.

Bydd yr awdurdod lleol yn atebol i Lywodraeth Cymru am wariant a rheolaeth cyllid cyfalaf sbarduno’r Porthladd Rhydd.

Cynhwysir rhagor o wybodaeth yn y prosbectws.

3. Sut gall y Porthladd Rhydd ddangos ei ymrwymiad i ‘Waith Teg’?

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod bargen well i weithwyr yn hanfodol i sicrhau Cymru decach a mwy cyfartal. Mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru fod ein hymyriadau polisi cyhoeddus yn cyfrannu at Waith Teg ac at ein dull gweithio fel partneriaeth gymdeithasol. Dyna pam mae’r prosbectws yn pwysleisio’r pwys a roddir ar yr egwyddorion hyn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ymgysylltiad undebau llafur mewn Fforwm Ymgynghorol Gweithwyr, a fydd yn ffurfio rhan o lywodraethiant lleol Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Dylai’r ymgeisydd penodedig ymgysylltu â Llywodraeth Cymru hefyd i ddatblygu Contract Economaidd yn unol â pholisi presennol Llywodraeth Cymru. Gall ymgeiswyr, a dylai ymgeiswyr, weithredu fel enghreifftiau i eraill a dangos sut mae eu harferion busnes yn hyrwyddo egwyddorion Gwaith Teg a chynaliadwyedd.

Gall ymgeiswyr ddangos hefyd sut maen nhw’n cydymffurfio ag arfer da wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru, fel y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

4. Beth sy’n digwydd os yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno ynglŷn â’r cais gorau ar gyfer porthladd rhydd?

Mae’r Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn dangos buddion cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb, ac mae’r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i gytuno ar y cyd ar y cynnig llwyddiannus.

Yn yr un modd â Phorthladdoedd Rhydd yn Lloegr a’r Alban, bydd proses gystadleuol deg ac agored yn pennu ble ddylai’r polisi gael ei weithredu yng Nghymru. Bydd y ddwy lywodraeth yn cyd-ddylunio’r broses ar gyfer dethol. Bydd swyddogion o’r ddwy lywodraeth yn asesu cynigion ar y cyd, a bydd yr un llais gan y ddwy lywodraeth yn yr holl benderfyniadau gweithredu, gan gynnwys y penderfyniad terfynol ar y safle(oedd) llwyddiannus.

Mae Cwestiynau 5 – 7 yn ymwneud ag eglurhad a chanllawiau ynglŷn â rôl darparwyr trafnidiaeth a logisteg

5. A yw ystod eang o gwmnïau, yn gwmnïau mawr ac yn fusnesau bach a chanolig, yn cael eu hystyried yn rhan annatod o unrhyw gynnig, hyd yn oed os nad yw cwmnïau unigol yn aelodau o’r consortiwm ymgeisio o angenrheidrwydd?

Fel y datganwyd yn y prosbectws, mae’r ddwy lywodraeth eisiau i ymgeiswyr Porthladd Rhydd ffurfio cynghreiriau cryf a fydd yn datblygu cynigion uchelgeisiol y gellir eu cyflawni. Mae’n rhaid i’r cynghreiriau hyn gynnwys: porthladd (môr, awyr, neu reilffyrdd) a’r awdurdod/awdurdodau lleol lle mae’r Porthladd Rhydd wedi’i leoli.

Bydd disgwyl i gynghreiriau gynnwys: busnesau lleol; busnesau rhyngwladol; sefydliadau academaidd; Partneriaethau Economaidd Rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Er nad yw’n ofynnol i’r sefydliadau hyn fod yn rhan o gynghrair ymgeisio, gall cynghreiriau ymgeisio ddymuno gwahodd partneriaid ehangach i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer cynnig. Bydd hyn yn cynorthwyo cynigion i ddangos sut byddant yn cynhyrchu buddsoddiad ychwanegol

Wedi i safle gael ei ddewis, man lleiaf, mae’n rhaid i unrhyw gorff llywodraethu Porthladd Rhydd gynnwys y porthladd(oedd) dan sylw - i sicrhau ffocws economaidd ar ranbarthau porthladd - a’r awdurdod lleol lle mae’r Porthladd Rhydd wedi’i leoli - er mwyn derbyn a bod yn atebol am unrhyw gyllid adfywio a chyflawni mesurau allweddol.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, felly, yn annog cynigion ymgeiswyr i gynnwys cynrychiolaeth o blith y pum grŵp rhanddeiliaid canlynol os oes modd a lle bo modd:

  • unrhyw dirfeddianwyr sy’n berchen ar dir y mae safleoedd trethi a thollau wedi’u dynodi arnynt
  • unrhyw weithredwyr safleoedd tollau
  • cwmnïau sy’n gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi
  • buddsoddwyr sy’n gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi
  • cyrff sector cyhoeddus sy’n gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi

6. A oes darpariaethau buddiol ar gyfer y cwmnïau hyn o fewn ardal Porthladd Rhydd – e.e. drwy’r gyfundrefn drethu a/neu argaeledd grantiau?

Mae Adran 3 y Prosbectws yn rhoi manylion dyluniad penodol Porthladd Rhydd, gan gynnwys daearyddiaeth ac ysgogiadau economaidd a gynigir i ymgeiswyr fel y byddent yn gymwys yng Nghymru.

Mae’r cynnig Porthladd Rhydd ar gyfer busnesau yng Nghymru yn gyson â’r model y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddefnyddio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr ac a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar gyfer Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban.

7. A fydd cyllid ar gael ar gyfer gwelliannau i’r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd sy’n angenrheidiol i ymdopi â’r lefelau traffig cynyddol sy’n deillio o’r gweithgarwch economaidd newydd?

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at adran 2.1.14 - 2.1.16 wrth ystyried buddsoddiad mewn trafnidiaeth, i sicrhau cysondeb â pholisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Fel yr amlinellwyd yn y Prosbectws, bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus gael cyllid cyfalaf sbarduno o hyd at £25 miliwn.

Bydd swm y cyllid sbarduno a geir yn dibynnu ar gyflwyno achos busnes amlinellol (OBC) ac achos busnes llawn (FBC), ansawdd yr achosion busnes hynny a sut mae’r cynigion yn cyd-fynd â’r polisi yn strategol. Bydd achosion busnes yn cael eu cymeradwyo gan fwrdd y Rhaglen Porthladd Rhydd gyda chynrychiolaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Disgwyliwn y bydd unrhyw gyllid a ddarperir yn cael ei gyfateb neu ei gyfateb yn rhannol gan fuddsoddiad sector preifat, benthyciadau awdurdod lleol a chyd-ariannu gan gyrff cyhoeddus eraill, lle y bo’n berthnasol. Pan fydd y cyllid yn cael ei ryddhau, caiff ei roi i’r awdurdod lleol arweiniol yng nghorff llywodraethu’r Porthladd Rhydd.

Mae gan bob safle Porthladd Rhydd nodweddion ac anghenion unigryw. Dylai’r cynghrair ymgeisio amlinellu’n glir fuddsoddiadau cyfalaf sy’n ofynnol ar y safle a chytuno hyn gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan o broses dynodi’r safle. Disgwyliwn i gynigion ganolbwyntio’n bennaf ar gydosod tir, adfer safle, a seilwaith trafnidiaeth mewnol ar raddfa fach i gysylltu safleoedd o fewn y Porthladd Rhydd â’i gilydd, yr ardal uniongyrchol o’u hamgylch neu asedau economaidd eraill o fewn y Ffin Allanol. Dylai’r rhain ymgorffori strategaethau trafnidiaeth, trafnidiaeth gynaliadwy a hierarchaethau buddsoddi. Bydd cynigion ar gyfer gwario cyfalaf sbarduno ar sgiliau, technoleg ddigidol a/neu seilwaith arall yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Ni cheir gwario cyfalaf sbarduno ar seilwaith diogelwch ar gyfer safleoedd tollau.

Cwestiynau 8 – 11; Maent yn ymwneud â chwestiynau a gyflwynwyd ar Arweiniad Ardaloedd Buddsoddi

8. Nifer y Ardaloedd Buddsoddi– Faint ydych chi’n eu rhagweld yng Nghymru a beth fydd y lledaeniad daearyddol?

9. Sut bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chynllun Cenedlaethol Cymru yn cael eu hymgorffori yn y broses benderfynu ynglŷn ag ystwytho cynllunio ar gyfer Ardaloedd Buddsoddi Cymru?

10. Gwneud penderfyniadau yng Nghymru ar gyfer Ardaloedd Buddsoddi – a fydd hon yn broses ar y cyd rhwng LlC/Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) ar raniad 50/50 fel gyda Phorthladd Rhydd? Os yw penderfyniad yn rhanedig, pwy fydd â’r gair olaf?

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 23 Medi 2022 ei fwriad i lansio Ardaloedd Buddsoddi. Er y disgwyliwn i’r cynnig hwn fod yn un ledled y DU, mae’r modd y gall Ardaloedd Buddsoddi weithredu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn destun gweithio gyda llywodraethau datganoledig.

Yn Lloegr, bydd Ardaloedd Buddsoddi’n elwa o gymhellion treth ac ystwytho cynllunio er mwyn cyflymu datblygiad a chymorth ehangach i’r economi leol.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau rhagarweiniol i ddeall cynigion y Ardaloedd Buddsoddi, y cynnig a goblygiadau posibl i Gymru yn fanylach. Byddai angen i unrhyw fenter a ddaw gerbron ar gyfer Cymru fod yn gyson â’n polisïau ni ar waith teg a’r amgylchedd, a chynhyrchu buddsoddiad ychwanegol.

11. Pryder ynghylch dadleoli economaidd yn deillio o agosrwydd Ardaloedd Buddsoddi mewn awdurdodau cyfagos yn Lloegr e.e. Swydd Gaerloyw ac Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr. Rydym yn pryderu nad oes digon o amser i ystyried y berthynas ddatblygol hon a’r effaith yn briodol i’r bodlonrwydd a fynnir gan y broses ymgeisio porthladd rhydd. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i ymestyn cyfnod cyflwyno ceisiadau Porthladd Rhydd i alluogi gwell coreograffi rhwng pa geisiadau i’w modelu a lliniaru unrhyw effeithiau economaidd negyddol a gwneud addasiadau?

Nid oes unrhyw gynllun ar hyn o bryd i ymestyn y terfyn amser ymgeisio ar gyfer y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Mae’r cyfnod ymgeisio’r Rhaglen Porthladd Rhydd ar gyfer Cymru yn cau ar 24 Tachwedd 2022 am 6pm, ac edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion gan bartïon â buddiant drwy’r porth ar-lein.

Mae’n ofynnol i ddarpar ymgeiswyr egluro sut bydd eu dewis o leoliadau safleoedd trethi yn cynhyrchu twf ychwanegol ac yn lleihau dadleoli gweithgarwch economaidd.

Er bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi manylion llawn pecyn trethi Ardaloedd Buddsoddi Lloegr maes o law, o ystyried y graddfeydd amser, na fydd cynigion Porthladd Rhydd yng Nghymru yn ystyried effeithiau Parth Buddsoddi posibl ar hyn o bryd.

12. Mae briff diweddar Porthladd Rhydd Cymru a DLUHC yn dynodi bod sgyrsiau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru, a allwch chi roi diweddariad?

Mae’r Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn dangos buddion cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb, ac mae’r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i gytuno ar y cyd ar y cynnig llwyddiannus.

13. A allwch chi gael mwy na thri safle trethi os gallwch wneud achos economaidd dros hynny? Os yw’r prif safle tollau yn safle trethi, a allwch chi gael tri safle trethi ychwanegol?

Dylai cynigion Porthladd Rhydd gynnwys o leiaf un porthladd, ond gal gynnwys sawl porthladd

Nid oes rhaid i’r porthladdoedd gael eu dynodi fel mannau trethi neu dollau.

Dylai ceisiadau gynnwys o leiaf un safle tollau, ond nid yw’r nifer o safleoedd wedi eu cyfyngu i nifer penodol.

Dylai cynigwyr amcanu at un safle trethi cyffiniol o hyd at 600 hectar i elwa o’r cynnig treth. Fodd bynnag, gallant ddiffinio hyd at dair ardal gyffiniol, unigol rhwng 20 a 200 hectar.

Lle mae safle tollau yn safle trethi yn ogystal, byd y safle tollau hwn yn cael ei gynnwys o fewn y cyfanswm o dri safle trethi, felly dau safle trethi pellach yn unig y caniateir i’w cynnwys yn y cais.

14. Paragraff 3.1.19 (c) ‘Byddwn yn ystyried cyflwyniadau sy’n gwneud achos economaidd dros safle unigol sydd y tu allan i’r canllaw 20-200 hectar’. Beth yw’r elfennau a fyddai’n ofynnol i gyfiawnhau safle sy’n fwy na 200ha?

Mae’r prosbectws yn dweud yn glir y dylai cynigwyr amcanu i gael un safle treth i elwa o’r cynnig treth. Fodd bynnag, lle ceir sail resymegol economaidd glir dros wneud hynny, gall y cynigydd Porthladd Rhydd ddiffinio hyd at dair ardal unigol, sengl fel lleoliad y safleoedd trethi.

Byddwn yn ystyried cyflwyniadau sy’n gwneud achos economaidd dros safle unigol sydd y tu allan i’r canllaw 20-200 o hectarau.

Nid ydym yn disgwyl unrhyw fethodoleg benodol ond byddem yn disgwyl i achos gael ei wneud o ran cyflawni amcanion y polisi ac yn gyson â gofynion safleoedd treth a amlinellwyd yn y prosbectws.

Rhaid i gyfanswm arwynebedd y safleoedd unigol o fewn y Porthladd Rhydd beidio â bod yn fwy na 600 o hectarau. Bydd y rhai hynny sy’n fwy na 600 o hectarau yn methu’r broses ymgeisio Porthladd Rhydd yn awtomatig ar y cam llwyddo/methu

15. A allwch chi gael rhan o safle tollau a threthi lle mae’r elfen trethi yn fwy na’r safle tollau (h.y. dim ond rhan o’r safle trethi yw safle tollau)?

Gall safle trethi gynnwys y cyfan, neu ran, o’r prif safle tollau a/neu unrhyw is-barthau tollau ychwanegol. Bydd rhyddhadau treth yn berthnasol i’r safle trethi cyfan, gan gynnwys unrhyw ran sydd hefyd yn rhan o’r safle tollau.

Bydd cynnig tollau’r Porthladd Rhydd, sy’n cynnwys symleiddiadau a buddion atal tollau, ond yn berthnasol yn y safleoedd tollau Porthladd Rhydd dynodedig ac a gymeradwywyd gan CThEF.

Ni fydd safleoedd treth Porthladd Rhydd yn derbyn unrhyw ryddhad yn awtomatig felly o dollau tramor oni bai eu bod hefyd wedi’u dynodi a’u cymeradwyo fel safle tollau.

Caniateir i safleoedd trethi a safleoedd tollau orgyffwrdd yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Yn y cyfryw amgylchiadau, bydd unrhyw ran o’r safle trethi sydd hefyd o fewn y safle tollau yn gymwys ar gyfer gohirio, gwrthdroi ac eithrio tollau, yn ogystal â’r rhyddhadau trethi eraill sy’n gymwys ar y safle trethi. Ni fydd unrhyw ran o’r safle trethi nad yw hefyd o fewn y safle tollau yn gymwys ar gyfer gohirio, gwrthdroi ac eithrio tollau; dim ond ar gyfer y rhyddhadau treth eraill sy’n gymwys ar safleoedd trethi Porthladd Rhydd.

Pe bai cynigydd eisiau i fuddion tollau fod yn gymwys ar safle trethi cyfan neu ran ohoni, bydd angen i’r ardal honno gael ei diogelu a’i hawdurdodi fel safle tollau yn ogystal.

16. Mae paragraff 3.1.19 (e) yn datgan y gall Safleoedd trethi fod yn un safle unigol sy’n cynnwys nifer o leiniau o dir wedi’u rhannu gan ffordd, ardal a warchodir neu nodwedd ddaearyddol (fel afon) ar yr amod y gellir ystyried yn rhesymol bod y lleiniau o fewn y tir yn un safle unigol oherwydd gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (e.e. mae’n debygol y gellid teithio rhyngddynt)

a. Os yw dau safle yn gyffiniol ond bod y pwyntiau mynediad yn golygu y byddai angen teithio pellter byr ar y ffordd, a yw hynny’n ryng-gysylltiad rhesymol?

b. A yw twnnel sy’n cysylltu’r porthladd â llain o dir sydd oddeutu 1.5 cilometr ar wahân yn cyfrif fel rhyng-gysylltiad economaidd rhesymol?

Rydym yn agored i un safle sy’n cynnwys nifer o leiniau o dir wedi’u rhannu gan ffordd, ardal a warchodir neu nodwedd ddaearyddol (fel afon) ar yr amod y gellir ystyried yn rhesymol bod y lleiniau o fewn y tir yn un safle oherwydd gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (e.e. mae’n debygol y gellid teithio rhyngddynt).

I ddangos cysylltiad economaidd rhesymol, byddem yn disgwyl y byddai teithio mynych rhesymol rhwng y safleoedd - er enghraifft, ar y ffordd fawr, dros bont neu ar fferi. Mae’n rhaid dangos rhyng-gysylltiad economaidd clir rhwng amryfal blotiau yr honnir mai un safle unigol ydynt. Er enghraifft, dylai dau safle naill ochr o afon heb unrhyw berthynas economaidd neu deithio rhyngthynt gael eu hystyried yn fel dau fan ar wahân. Ni allwn, ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei ddarparu, gadarnhau os byddai twnnel sy’n cysylltu porthladd gyda thir yn gysylltiad economaidd rhydd, gan mai cyfrifoldeb ymgeiswyr yw arddangos y perthynas economaidd clir hwn.

Dylai cynigwyr sicrhau bod y sail resymegol a mapiau cysylltiedig a gyflwynir gyda’r cynnig Porthladd Rhydd yn darparu achos cadarn i gefnogi datganiadau’n ymwneud â rhyng-gysylltiad economaidd

17. Dylai safleoedd trethi fod yn dir heb ei ddatblygu ac yn 20 hectar o leiaf. Os oes ardaloedd bach o safleoedd sy’n cynnwys adeiladau – a ddylai’r rhain gael eu cynnwys neu’u hepgor o ardal y safle?

Gall cynigwyr lunio siapiau sengl, unigol sy’n torri tir allan neu’n mynd heibio tir nad yw’n briodol iddo fod mewn safle trethi er mwyn cynyddu cwmpas tir annatblygedig priodol i’r eithaf. Nid ydym yn disgwyl gweld eiddo preswyl na thir diwydiannol datblygedig iawn sy’n cynnwys gweithgarwch busnes sylweddol presennol a gwmpesir gan safleoedd trethi “annatblygedig”.

Enghreifftiau o safleoedd trethi

Mae’r canlynol yn enghreifftiau damcaniaethol o gynigion safleoedd trethi y gellid eu derbyn drwy’r broses. Gallai fod enghreifftiau eraill nad ydynt wedi’u nodi isod a allai fod yn llwyddiannus o hyd.

Siâp ffin sengl cyffiniol sy’n torri allan tir amhriodol

Un safle unigol sy’n cynnwys nifer o leiniau o dir wedi’u rhannu gan ffordd

Un safle “unigol” yn cynnwys dau safle o’r un diwydiant gyda chysylltiad trafnidiaeth, wedi’i rannu gan afon

Dau safle unigol heb ryng-gysylltiad, wedi’u rhannu gan afon

18. Yn achos safle sy’n safle tollau ac yn safle trethi – sut dylid ymdrin ag adeiladau sy’n rhan o’r tollau (yng nghyd-destun y tir annatblygedig a’r gofyniad sylfaenol am 20 hectar).

Mae adeiladau sy’n gysylltiedig â safle tollau yn cael eu cyfrif tuag at y cysyniad o ddatblygiad. Fodd bynnag, os oes gan gynigydd Porthladd Rhydd gynnig cydlynus ac y gall ddangos bod y safle’n annatblygedig hyd yn oed gyda’r adeiladau tollau arno, yna ni fyddai’n eithrio’r safle yn awtomatig (h.y., os yw’n ofod mawr gwag gyda sied tollau arno, ni fyddai hynny wedi’i ddatblygu’n ormodol i fod yn safle trethi o angenrheidrwydd).

Gall cynigwyr Porthladd Rhydd ddewis eithrio adeiladau o hyd, a dewis codi adeilad(au) tollau o fewn safle trethi.

19. Mae’r prosbectws ymgeisio’n awgrymu bod rhaid i safleoedd trethi fod ar gyfer ardaloedd o dir annatblygedig (neu ardaloedd gydag adeiladau y cynlluniwyd iddynt ddarfod yn gymharol fuan), ond mae safleoedd tollau’n debygol o gael eu rhedeg gan weithredwyr porthladd mewn porthladdoedd. A allwch chi egluro mai canllawiau yw’r rhain ac na fwriedir y byddai’r buddion economaidd sylweddol o gael buddion tollau a threthi yn gweithredu gyda’i gilydd yn cael eu colli drwy wahanu’r safleoedd hyn?

Mae’n rhaid i safleoedd trethi fod yn annatblygedig (fel y diffinir yn paragraph 3.1.25 o’r prosbectws), a gall safleoedd tollau gael eu rhedeg gan borthladdoedd (ond nid yw’n ofyniad gan safle tollau). Nid yw’r cyfuniad hwn o ofynion yn atal safleoedd trethi a thollau rhag cael eu cyd-leoli, ar yr amod y bodlonir y ddau.

20. Yn gysylltiedig â C1.4 yn y cais (Cynhwyswch unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyo’r ddwy lywodraeth i amcangyfrif gofyniad eich cynnig ar gyfer rhyddhad treth). Pa wybodaeth a ddisgwylir/ a ragwelir?

Gall gwybodaeth gefnogol gynnwys:

  • Rhestr o eiddo, gwerthoedd ardrethol, ac atebolrwydd presennol o fewn yr ardal rhyddhad trethi
  • Y talwyr ardrethi presennol ar gyfer pob eiddo
  • Rhagolwg o’r eiddo ychwannegol sydd wedi eu cynllunio o fewn yr ardal

Ar gyfer rhagoloygon, gofynnwn i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth i’n cefnogi i gyfrifo faint o weithgarwch y bydd yn berthnasol i’r rhyddhad treth perthnasol

21. Yn gysylltiedig â C1.7 – a ellir cynnwys safleoedd lle nad yw tirfeddianwyr wedi cytuno ac maent yn destun Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) – os felly, pa dystiolaeth ddylid ei darparu?

Lle nad yw tirfeddianwyr wedi cytuno i’r safle trethi neu mae’r awdurdod lleol yn cynnig Gorchymyn Prynu Gorfodol, bydd angen sicrwyddau ychwanegol gan y ddwy lywodraeth ar ôl y cam cyflwyno cynnig ond cyn i’r safle trethi hwnnw gael ei gymeradwyo/ei ddynodi.

Ymdrinnir â hyn ar sail achos wrth achos ond mae’n debygol o gynnwys:

  • Cyngor cyfreithiol a thechnegol llawn ar y cynnig Gorchymyn Prynu Gorfodol
  • Strategaeth yn amlinellu sut yr amcanwch i sicrhau’r tir gan ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol lle bo’n angenrheidiol, a mesurau lliniaru os na chyflawnir hynny. Dylai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:
  • Ymrwymiad gan ALlau i neilltuo adnoddau priodol i’r broses a fydd yn galluogi swyddogion i fwrw ymlaen yn gyflym
  • Tystiolaeth i ddarparu sicrwydd y bydd penderfyniad ar ddatrysiad ar gyfer Gorchymyn Prynu Gorfodol yn cael ei wneud yn unol â cherrig milltir a gytunwyd
  • Tystiolaeth i ddangos dealltwriaeth glir o’r broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, gan gynnwys personél allweddol, amserlenni a cherrig milltir hanfodol
  • Tystiolaeth i ddangos bod cynllun clir ar waith pe bai’r Gorchymyn Prynu Gorfodol yn aflwyddiannus (h.y. defnyddio offer/ pwerau cynllunio)
  • Statws yr holl ddogfennau sy’n ofynnol i gychwyn y broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, a lle bo’n ymarferol, dylid rhannu’r dogfennau hun ar ffurf drafft neu ffurf derfynol
  • Tystiolaeth i ddangos bod aelodau’r ALl wedi’u cynnwys yn y mater a’u bod yn cefnogi’r cynnig Porthladd Rhydd cyffredinol a’r weledigaeth ar gyfer safle trethi arfaethedig
  • Cynllun cyflawni clir a chredadwy ar gyfer y safle trethi, gan ystyried graddfeydd amser posibl sicrhau’r tir gan ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol. Hefyd, nodwch statws caniatâd cynllunio presennol y tir a’ch cynllun os na chafwyd hynny’n barod, ar gyfer cyflawni caniatâd cynllunio llawn.

Maent yn ymwneud â chwestiynau a gyflwynwyd ar liniaru a dadleoli

22. Yn gysylltiedig â C1.14 – beth mae lliniaru’n ei olygu yn y cyd-destun hwn? A yw’r cwestiwn ynglŷn ag osgoi effeithiau neu eu lliniaru os ydynt yn digwydd?

23. Yn gysylltiedig â C3.10 – pa allanoldebau eraill (heblaw am ddadleoli economaidd) ddylid eu hystyried?

Lle gall neu lle bydd dadleoli’n digwydd, dylai cynigwyr gyflwyno cynigion pragmatig ar gyfer sut byddant yn lleihau’r effeithiau. P’un a yw hynny’n osgoi effeithiau sy’n atal dadleoli neu’n eu lliniaru lle mae’n codi, a lliniaru ei effeithiau lle mae’n digwydd.

Bydd yr ymagwedd fwyaf priodol at wneud hynny yn unigryw i’r cyd-destun safle penodol ar gyfer pob cynnig, a chynigwyr sydd yn y lle gorau i benderfynu sut i wneud eu hachos drwy ystyried ffactorau fel graddfa a thebygolrwydd y dadleoli a ragwelir.

Mae’n ofynnol i gynigwyr, felly, esbonio sut mae’r lleoliadau a ddewiswyd ganddynt ar gyfer safleoedd trethi yn lleihau dadleoli gweithgarwch economaidd oddi wrth ardaloedd difreintiedig cyfagos i’r eithaf, ac mae’r asesiad ohonynt yn ffurfio rhan o Faen Prawf Ch (Y gallu i gyflawni’r cynnig yn effeithiol yn gyflym).

Bydd y cynigion cryfaf yn dangos ymagwedd bragmatig at gynyddu ychwanegedd i’r eithaf, er enghraifft trwy gael strategaeth gryf ar gyfer, a ffocws clir ar, ddenu buddsoddiad newydd, ymrwymiadau tirfeddianwyr yn ymwneud ag osgoi dadleoli, a/neu ddefnyddio cyfran o’r ardrethi a gedwir yn ôl i liniaru effeithiau dadleoli lle maent yn digwydd.

Bydd yr allanoldebau negyddol, y tu hwnt i ddadleoli, y dylai cynigwyr eu hystyried yn dibynnu ar gymeriad(au) penodol eu safleoedd a’u cynlluniau datblygu; fodd bynnag, gallai’r rhain gynnwys - er enghraifft - effeithiau amgylcheddol neu effeithiau ar seilwaith trafnidiaeth leol.

24. Yn gysylltiedig â C3.11 – (Eglurwch sut bydd eich cynigion yn: cyflawni datgarboneiddio a diogelu’r amgylchedd, sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol; ac, os yw’n berthnasol, pa safonau amgylcheddol ychwanegol byddwch chi’n eu pennu, a sut bydd y rhain yn cael eu bodloni). Pa safonau y maen nhw’n eu rhagweld?

Yn unol â’r prosbectws; man lleiaf

Mae’n rhaid i geisiadau Porthladd Rhydd amlinellu sut bydd eu cynigion yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol, fel ansawdd aer a dŵr, Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau), rheoli gwastraff, trin a thrafod cemegion; ac unrhyw asesiad ychwanegol o effeithiau ar safleoedd a rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys mesurau lliniaru.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynllun datgarboneiddio amlinellol ar gyfer y Porthladd Rhydd, gan gynnwys sut y bydd statws Porthladd Rhydd yn datgloi cyfleoedd datgarboneiddio ar gyfer busnesau presennol, ac yn cyfrannu at gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050, gan gynnwys sut gallant hwyluso datgarboneiddio Porthladd Rhydd yn dilyn dynodiad.

25. Lle mae’r nodyn ar ddiwedd ‘4. Maen Prawf D’ o Adran 5 ‘Cais’ yn darllen ‘Dylai ymgeiswyr nodi y bydd cwestiwn 3.9 yn werth 40% o Faen Prawf D’ – a ddylai hwn ddarllen Cwestiwn 3.8?

Dylai, camgymeriad yw hwn a dylai ddarllen;

  • Dylai ymgeiswyr nodi y bydd 4.3 yn cael ei asesu gan ddefnyddio’r wybodaeth gefnogol a ddarperir yng nghwestiwn 3.8.

Mae hwn wedi’i gywiro yn y prosbectws erbyn hyn.

26. Beth yw lefel uchelgais Llywodraeth Ei Mawrhydi mewn perthynas â rhwyddhad tollau a masnach yn y porthladd rhydd?

Bydd angen i gynigwyr llwyddiannus weithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi a CThEF i adolygu a chadarnhau ffiniau eu safleoedd trethi arfaethedig, cyn cymeradwyo a chychwyn mesurau treth.

Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ganiatáu i leoliad safleoedd trethi a thollau i newid ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo.

Gall y Porthladd Rhydd gynnwys sawl porthladd, sawl safle tollau, a hyd at dri safle trethi o faint cyfyngedig, fel rhan o gynnig Porthladd Rhydd unigol.

Gall safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd gael eu lleoli o fewn ffiniau porthladd presennol ond rhaid iddi fod yn ardal ar wahân wedi’i ffensio, ac ni all orgyffwrdd â’r ardal o’r porthladd a gymeradwywyd ar gyfer Storio Dros Dro.

Bydd angen yr awdurdodiadau angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ymgeiswyr llwyddiannus cyn y caniateir iddynt weithredu.

Mae gweithredwr safle tollau Porthladd Rhydd yn gyfrifol am reoli symud nwyddau a mynediad pobl i mewn ac allan o’r safle tollau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau y gall nwyddau ond adael y safle tollau Porthladd Rhydd pan ganiateir hynny gan Lywodraeth Ei Mawrhydi.

Dylai cynigwyr fynd ati i ddangos yn glir fod y gallu gan weithredwyr y safleoedd arfaethedig i roi mesurau ar waith i sicrhau y gallant gyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw

Defnyddiwch y ddolen ganlynol sy’n rhoi arweiniad ar weithredu Safle Tollau Porthladd Rhydd

27. A allwn ni gyfarfod â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i drafod ein cynigion?

Gwahoddwyd cynigwyr i ddau ddigwyddiad rhanddeiliaid ar y cyd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar 1 Gorffennaf a 5 Hydref 2022, lle’r oedd cyfleoedd i godi cwestiynau mewn fforwm agored. Hyd at 13 Hydref, gwahoddwyd cynigwyr i godi eglurhadau penodol hefyd drwy fewnflwch canolog Porthladdoedd Rhydd.

Er mwyn sicrhau bod gan ddarpar gynigwyr fynediad cyfartal at wybodaeth ac arweiniad cyson, nid ydym yn cynnig cyfarfodydd i drafod cynigion unigol.

28. A all partneriaid rhanbarthol sy’n gysylltiedig â swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru, fel Parthau Menter a Bargeinion Dinesig a Thwf, gefnogi cynnig?

Nid oes unrhyw beth i atal partneriaid rhanbarthol fel Cadeiryddion Bwrdd neu aelodau Bargeinion Dinesig a Thwf a Pharthau Menter rhag bod yn rhan o’r ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid wrth ddatblygu unrhyw gynnig Porthladd Rhydd a darparu tystiolaeth o’u cefnogaeth.

Ni ddylai Cadeiryddion Bwrdd neu aelodau Bargeinion Dinesig a Thwf a Pharthau Menter gynghori swyddogion neu Weinidogion, neu ofyn am gyngor gan swyddogion neu Weinidogion, ar unrhyw gynnig Porthladd Rhydd penodol mewn unrhyw gyswllt y gallent fod ei gael, er mwyn osgoi unrhyw duedd neu fuddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig, ac i sicrhau fod ymgeiswyr yn cael triniaeth deg.

29. A yw’r codau SIC yn rhan o’r terfyn o 500 gair yng nghwestiwn 4.1?

Ni fydd codau SIC yn cyfrif at y terfyn geiriau yng nghwestiwn 4.1.  Rydych yn cael eu cyflwyno fel geiriau ychwanegol yn yr ateb hwn, heb fod yn gofnod ar wahân.

30. A gaiff unrhyw awdurdod lleol gyflwyno cynnig neu ai dim ond y corff atebol rydych chi’n ei gynnig sy’n cael gwneud?

Mae unrhyw rai o’r awdurdodau lleol sydd wedi’u cynnwys yn y cais yn cael cyflwyno’r cais, nid dim ond y corff atebol.

31. A gawn ni gynnwys asedau sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, fel tir, yn ein cais?

Mae Llywodraeth Cymru’n cytuno mewn egwyddor bod modd cynnwys tir/asedau sy’n eiddo iddi yng nghynigion y cais. Mae hyn hefyd yn berthnasol i endidau sydd o dan berchnogaeth neu reolaeth Llywodraeth Cymru. Ond ni fydd hynny’n effeithio mewn unrhyw ffordd ar hawl Gweinidogion Cymru fel perchennog i benderfynu os neu sut y caiff y tir/ased mewn cais llwyddiannus ei ddefnyddio.