The Rt Hon Robert Buckland KC MP

Bywgraffiad

Penodwyd y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland QC yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 7 Gorffennaf 2022.

Cyn hynny bu’n Arglwydd Ganghellor ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Medi 2021, yn Weinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng mis Mai 2019 a mis Gorffennaf 2019 ac yn Gyfreithiwr Cyffredinol. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol De Swindon yn 2010.

Addysg

Ganwyd Robert yn Llanelli yn 1968. Aeth i Goleg Hatfield, Durham, a graddiodd yn y Gyfraith yn 1990. Mynychodd Robert Ysgol y Gyfraith Inns of Court, lle enillodd wobr am ei waith Eiriolaeth, a chafodd ei alw i’r Bar yn y Deml Fewnol ym mis Hydref 1991.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Dychwelodd i weithio yng Nghymru, a fwyaf diweddar roedd yn aelod o Siambrau Apex yng Nghaerdydd. Mae Robert yn Denant Drws yn Siambrau 23 Essex Street, Llundain. Yn 2009, penodwyd Robert yn Gofiadur Llys y Goron, yn eistedd yng Nghylchdaith Canolbarth Lloegr.

Bywyd personol

Yn 1997, bu i Robert briodi Sian, ar ôl iddo ei chyfarfod yn y brifysgol. Yn 2002, ganwyd eu hefeilliaid Millicent a George. Maent yn byw yn Wroughton. Mae diddordebau Robert yn cynnwys cerddoriaeth, gwin, hanes gwleidyddiaeth a gwylio rygbi a chriced.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth