Datganiad i'r wasg

Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yn cael ei Lansio yng Nghymru

Cannoedd o bobl ifanc o’r Rhondda, Caerdydd, Abertawe a Chaerfyrddin yn gweithio gyda mudiad ieuenctid yr hydref hwn.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Rhaglen flaenllaw gan y llywodraeth i ennyn cyfranogaeth ieuenctid yw’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol (NCS), sydd wedi newid bywydau’r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan. Wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai sy’n gwella eu hyder, ac sy’n dysgu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol eraill iddynt, mae’r bobl ifanc yn datblygu yn ystod y rhaglen. Mae hyn yn arwain atynt yn rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i achos sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae Gwasanaeth Dinasyddion Cymru yn cael ei ddarparu gan Engage4Life yn Abertawe ac sydd wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen yn Lloegr ers iddo gael ei dreialu yn 2011.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Gareth Holohan:

Fel cwmni Cymreig, rydym yn hynod falch ein bod yn dod â’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol i Gymru. Mae grym y rhaglen yn anhygoel, ac rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain y newid ysbrydoledig yn y bobl ifanc a gymerodd ran.

Yr haf hwn, cododd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen dros £28 mil at elusennau ac achosion lleol mewn 3 wythnos yn unig, ysbrydoliaeth yn wir.

Mae’r rhaglen yn cychwyn heddiw wrth i’r holl gyfranogwyr fynd i ganolfan gweithgareddau’r Urdd yn Llangrannog, lle y byddant yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau megis abseilio, cerdded ceunentydd a rhaffau uchel, sy’n helpu i fagu hyder, hybu gwaith tîm, a datblygu sgiliau arwain.

Byddant yn ôl yn eu cymunedau lleol ar ddydd Gwener, bydd Abertawe a Chaerfyrddin yn cymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau yn Stadiwm Liberty, tra bydd Caerdydd a’r Rhondda yn treulio’r diwrnod yn Nhŷ Opera Caerdydd. Byddant yn dod yn ôl at ei gilydd ar ddydd Sadwrn ar gyfer diwrnod Busnes ac Arloesi yng ngwesty godidog y Celtic Manor, gyda siaradwyr gwirioneddol wych o Gymru yn cynnwys Yr Athro Marc Clement a’r Athro Meirion Thomas. Ar ddydd Sul wedyn bydd y cyfranogwyr yn cyfarfod yn Stadiwm y Mileniwm am ddiwrnod, i gael clywed gan ffigyrau chwaraeon ysbrydoledig, i gymryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth a ffilm, ac i gwrdd ag elusennau a sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys brandiau cenedlaethol a rhai o’u cymunedau lleol.

Byddant wedyn yn dychwelyd i’w cymunedau gyda thân yn eu boliau ac wedi’u hysbrydoli gan y profiadau maen nhw wedi’u cael, yn hyderus ac yn angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth i achos sy’n bwysig iddyn nhw. Mae prosiectau gwirioneddol arbennig wedi bod ar y rhaglen yn Lloegr, gyda chyfranogwyr yn trefnu gwyliau, yn peintio canolfannau cymunedol ac yn rhedeg triathlon, a hynny i gyd at achos da. Wrth i’r cyffro gynyddu ymysg y bobl ifanc, dylid bod prosiectau gwych i edrych ymlaen atynt dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Cymdeithas Sifil, Rob Wilson:

Mae’n wych bod gan gannoedd o bobl ifanc Cymreig gyfle bellach i fod yn rhan o’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol. Diolch i’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol mae dros 100,000 o bobl ifanc ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn chwarae mwy o ran yn eu cymunedau ac yn dysgu sgiliau a fydd ganddynt am weddill eu hoes.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Barwnes Randerson:

Mae Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol Cymru yn rhaglen arbennig sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru ddysgu sut y gall gweithio gydag eraill a phartneriaethau adeiladol roi canlyniadau.

Rwy’n siŵr y bydd y cannoedd o blant sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau a’r gweithdai yng Nghymru’r wythnos hon yn dysgu nifer o sgiliau gwerthfawr a fydd yn rhoi hyder iddynt i wireddu eu potensial a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

Rwyf yn hynod o falch ein bod yn cefnogi’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol wrth chwarae eu rhan yn adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach.

Am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol a’r gwahaniaeth y mae wedi ei wneud yn y cymunedau y cafodd ei gyflwyno iddynt, cysylltwch ag Engage4Life ar info@engage4life.co.uk

Testun Cyffredinol:

Sefydlwyd Engage4Life gyda gweledigaeth i ddarparu’r gwasanaethau, y sgiliau a’r phrofiadau sydd eu hangen ar unigolion i ddatblygu, i wireddu eu potensial ac i wneud cyfraniad i fywydau pobl eraill mewn ffordd gadarnhaol. Maent wedi bod yn gweithio gyda Swyddfa’r Cabinet ar y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol ers y cyfnod y cafodd ei dreialu ac felly mae ganddynt rai o’r aelodau mwyaf profiadol o yn y wlad yn y sefydliad. Fel y partner darparu mwyaf ymhob rhanbarth maent yn gweithio ynddo, maent yn parhau i chwarae rôl allweddol gydag Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol i ddatblygu’r arferion gorau wrth ddarparu rhaglen o safon uchel i’r holl gyfranogwyr.

Cyhoeddwyd ar 30 October 2014