Baroness Randerson

Bywgraffiad

Y Farwnes Randerson

Newidiwyd y dudalen hon ddiwethaf 26 Tachwedd 2012 Cafodd y Farwnes Randerson ei phenodi’n Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru ar 5 Medi 2012. Ym mis Ionawr 2011, cafodd ei gwneud yn arglwyddes am oes ac fe’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 31 Ionawr 2011.

Cyn hyn roedd yn gynghorydd yng Nghaerdydd, a bu’n Aelod Cynulliad am 12 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Ddirprwy Brif Weinidog Dros Dro am flwyddyn, ac yn Weinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon am dair blynedd yn Llywodraeth Bartneriaeth y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Pan oedd yn aelod o’r Wrthblaid, bu’n llefarydd ar Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Cyfle Cyfartal, Addysg a’r Economi, yn ogystal â chadeirio Pwyllgor Busnes y Cynulliad.

Y Farwnes yw’r fenyw gyntaf o blith Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i gael swydd weinidogol yn San Steffan, a’r cyntaf o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i gael swydd weinidogol ers Gwilym Lloyd-George ym 1945. Hi hefyd yw’r fenyw gyntaf o Gymru nad yw’n aelod o’r Blaid Lafur i gael swydd gyda’r llywodraeth yn San Steffan.

Yn ogystal â’i Chyfrifoldebau Gweinidogol i Swyddfa Cymru, hi hefyd yw llefarydd Tŷ’r Arglwyddi dros Swyddfa Gogledd Iwerddon.

Mae’r Farwnes yn mwynhau ei bywyd teuluol gyda’i gŵr, ei phlant a’i hwyrion yng Nghaerdydd, ac yno y mae wedi byw a gweithio am y rhan fwyaf o’i bywyd fel oedolyn. Cyn ymuno â’r byd gwleidyddiaeth, roedd yn ddarlithydd Addysg Uwch mewn economeg ac astudiaethau busnes.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth