Datganiad i'r wasg

Stadiwm y Mileniwm i groesawu rownd derfynol sy’n binacl i glybiau pêl droed

Stephen Crabb: Bydd Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn hoelio sylw ar y brifddinas a’n gwlad

Millennium Stadium

Bydd cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd yn hwb enfawr i’r brifddinas ac i Gymru gyfan, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb (30 Mehefin).

Mae pwyllgor gweithredol UEFA wedi cadarnhau y cynhelir y gêm fwyaf ym myd pêl droed clybiau Ewrop yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn 2017.

Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio’n agos â Chymdeithas Bêl Droed Cymru ar ei huchelgais i ddenu’r gêm i Gymru. Heddiw dywedodd Stephen Crabb bod y cyhoeddiad gan UEFA yn garreg filltir arall ym maes chwaraeon i Gaerdydd, ac i’r rhai a oedd wedi gweithio mewn partneriaeth i’w sicrhau.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:

Mae Stadiwm y Mileniwm nid yn unig yn un o leoliadau chwaraeon gorau ein gwlad, y mae hefyd yn un o’r goreuon yn Ewrop. Mae’n newyddion gwych bod hyn wedi cael ei gydnabod gan UEFA ac y bydd Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyhoeddiad heddiw’n newyddion gwych i Gymru ac unwaith eto’n gymeradwyaeth i safon Stadiwm y Mileniwm fel lleoliad chwaraeon o safon byd. Mae cais Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cael cefnogaeth lawn Llywodraeth y DU a dylem fod yn falch iawn o’r holl ymdrech sydd wedi’i gwneud er mwyn denu’r gêm yma sy’n gymaint o uchafbwynt.

O gemau Cyfres y Lludw i gemau pêl droed Olympaidd, mae Caerdydd wedi profi’n gyson bod ganddi galibr fel prifddinas i groesawu digwyddiadau proffil uchel ar lwyfan rhyngwladol. Mae cynnal y digwyddiad anrhydeddus yma’n gyfle arall i un o brifddinasoedd mwyaf cyffrous Ewrop ddisgleirio o flaen cynulleidfa o filiynau, gan sicrhau hwb economaidd a fydd yn cyrraedd Cymru gyfan.

Dywedodd Tracey Crouch, y Gweinidog Chwaraeon:

Mae’n newyddion gwych y bydd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod yn ôl i Brydain yn 2017 ac yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd. Mae Stadiwm y Mileniwm yn lleoliad gwych, a gwn y bydd y Cymry’n rhoi croeso arbennig i’r cefnogwyr. Rwy’n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gallu helpu i sicrhau y bydd y gêm bêl-droed fwyaf ar lefel clybiau yn dod i Gymru, a fydd yn dod â manteision o ran yr economi a chwaraeon i’r wlad.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chydnabod fel y gêm fwyaf mewn pêl droed clwb gydag amcangyfrif o 400m o wylwyr yn fyd-eang mewn dros 200 o wledydd (6m yn y DU ar ITV). Yn 2013, daeth tua 100,000 o gefnogwyr o’r Almaen i Lundain i wylio’r gêm heb docynnau, a’r amcangyfrif oedd bod hynny wedi rhoi hwb o £44m i economi Llundain.
Cyhoeddwyd ar 30 June 2015